Neidio i'r prif gynnwy

Mae £150 miliwn arall ar gael i gefnogi busnesau Cymru i ddelio ag effaith barhaus y coronafeirws.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yr wythnos ddiwethaf, dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'r cyllid yn cael ei gadarnhau wedi yr adolygiad o reoliadau heddiw.

Bydd y cymorth ychwanegol yn helpu busnesau yn y sectorau lletygarwch, twristiaeth, hamdden a manwerthu nad ydynt yn hanfodol sy'n talu ardrethi annomestig a bydd yn ychwanegiad i’r Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau.

Bydd hyn yn golygu y bydd busnesau cymwys sydd â gwerth ardrethol o £12,000 neu lai yn derbyn taliad grant ychwanegol o £4,000.

Bydd cwmnïau sydd â gwerth ardrethol o rhwng £12,001 a £500,000 yn derbyn £5,000.

Bydd y cyllid, a fydd yn helpu busnesau gyda'u costau ar gael i gwmnïau waeth faint o weithwyr sydd ganddynt ac yn sicrhau bod microfusnesau yn elwa o'r cymorth.

Bydd awdurdodau lleol, sydd wedi bod yn hanfodol drwy gydol y pandemig o ran trosglwyddo arian i fusnesau yn gyflym, yn gweinyddu ac yn dosbarthu'r taliadau hyn.

Nid oes angen i fusnesau sy'n talu ardrethi annomestig ac sydd eisoes wedi cael taliad ers y bwlch tân ym mis Hydref weithredu. Fodd bynnag, dylai busnesau nad ydynt wedi cofrestru gyda'u hawdurdod lleol gymryd camau yn awr i sicrhau eu bod yn cael y cymorth ariannol y mae ganddynt hawl iddo.

Mae'r cyhoeddiad heddiw yn adeiladu ar y gwyliau ardrethi i fusnesau cymwys yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch yng Nghymru sydd wedi'i ymestyn am 12 mis arall.

Ar y cyd â chynllun Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach presennol Llywodraeth Cymru, mae hyn yn sicrhau y bydd mwy na 70,000 o fusnesau yn parhau i beidio dalu unrhyw ardrethi o gwbl yn 2021 i 2022.

Ers dechrau'r pandemig, mae dros £1.9 biliwn o gymorth gan Lywodraeth Cymru wedi cyrraedd busnesau ledled Cymru. Bu hyn yn hanfodol i ddiogelu cwmnïau drwy'r cyfnod hynod anodd hwn a diogelu 160,000 o swyddi.

Mae cymorth Llywodraeth Cymru yn ychwanegol at yr hyn sydd ar gael gan Lywodraeth y DU.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates:

"Mae'r cyhoeddiad heddiw o £150 miliwn mewn cymorth ychwanegol yn hanfodol i'n hymdrechion parhaus i helpu busnesau ledled Cymru drwy gyfnod heriol iawn.

"Fel Llywodraeth, rydym wedi ymateb yn gyflym i ddiogelu cwmnïau a swyddi Cymru drwy ein pecyn cymorth sy'n werth mwy na £2 biliwn. Rydym hefyd wedi cyhoeddi ein bod yn ymestyn y pecyn rhyddhad ardrethi 100% ar gyfer y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch am 12 mis arall.

"O ganlyniad i'n camau gweithredu uniongyrchol, rydym wedi gallu neilltuo mwy o gyllid i gefnogi busnesau nag a gawsom gan Lywodraeth y DU.

"Rwyf hefyd am ddiolch i awdurdodau lleol unwaith eto am eu hymrwymiad i gael arian i fusnesau cyn gynted â phosibl. Mae eu hymroddiad wedi bod yn gwbl hanfodol dros y flwyddyn ddiwethaf o ran sicrhau bod busnesau'n cael yr hyn y mae ganddynt hawl iddo.

"Byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu cwmnïau a bywoliaethau wrth i waith anhygoel ac ymrwymiad i frwydro yn erbyn y feirws barhau ledled Cymru.