Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pecyn newydd mawr o arian i greu mwy o le i bobl deithio o dan y rheolau cadw pellter cymdeithasol. Bydd cynghorau yn cael arian i fuddsoddi mewn cynlluniau ar gyfer lledu palmentydd a chreu mwy o le ar gyfer beicwyr ac i ‘gadw’ yr arferion newydd hyn ar gyfer y tymor hir.
Mae’r pecyn o £15.4m yn rhan o raglen radical newydd Llywodraeth Cymru ‘Trawsnewid Trefi’ i wneud trefi yn fwy hwylus a diogel i bobl eu crwydro.
Caiff yr arian ei ddefnyddio hefyd i helpu bysiau i fynd o gwmpas trefi’n haws i hyrwyddo trafnidiaeth gyhoeddus pan gaiff y cyfyngiadau eu codi.
Gyda’r cyllid, caiff canllaw newydd ei gyhoeddi i helpu’r rheini sy’n gyfrifol am fannau cyhoeddus fel canol trefi, mannau cymunedol a lleoedd gwyrdd sy’n denu llawer o bobl, i ailddylunio’r ardaloedd hynny.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Lee Waters:
Yn ystod y cyfnod dan glo, mae ymddygiad pobl wedi newid, gyda mwy a mwy yn dewis cerdded a beicio i wneud eu teithiau angenrheidiol. Wrth adael y tŷ, mae hi wedi bod yn bleser sylwi ar yr aer glanach a’r strydoedd tawelach. Ond mae’n amlwg bod rhaid gweithredu nawr i gadw’r ymddygiad newydd dros y tymor hir trwy wneud newidiadau positif i symud gofod ffyrdd yng nghanol trefi ac yn ein cymunedau a rhoi seilwaith teithio llesol gwell yn ei le.
Roedd yn wych derbyn cymaint â 200 o gynigion a gweld cymaint o frwdfrydedd dros y gwaith y mae Llywodraeth Cymru’n ei wneud i edrych o’r newydd ar ganol ein trefi a’n sgwariau cyhoeddus ar gyfer y dyfodol.
Gofynnon ni i’r awdurdodau lleol roi blaenoriaeth i’r cynlluniau hynny y byddai modd eu rhoi ar waith yn y tri neu bedwar mis nesaf ac a fyddai’n cael yr effaith fwyaf ar eu hardaloedd gan obeithio gwneud gwahaniaeth go iawn i’r ffordd y mae pobl yn gweld eu hardal ac yn ei chrwydro. Heddiw gobeithio yw cychwyn prosiect tymor hir i wella canol ein trefi a’n mannau cyhoeddus.
Bydd £2m o’r arian yn cael ei wario ar gyffiniau ysgolion. Gyda phlant yn dychwelyd i’r ysgol ymhen ychydig wythnosau, mae’n bwysig eu bod yn gallu cerdded a beicio yn ddiogel a’u bod yn gallu cadw pellter wrth gât yr ysgol.
Bydd hyd at 15 o leoedd yng Nghaerdydd yn elwa ar droedffyrdd dosbarth a lleol, mesurau cadw pellter a gwelliannau i fannau cyhoeddus.
Yn Abertawe, caiff llefydd diogel eu creu i barcio beiciau yng nghanol y ddinas a Menter Parcio a Beicio yng Nglan-dŵr a Pharcio a Theithio yn Fabian Way.
Mae Blaenau Gwent wedi gofyn am arian i gymhennu a gwella’u harwyddion.
Mae gan Sir Conwy gynlluniau i wella pethau yn y mannau cyfyng wrth Bont Conwy.
Bydd Ynys Môn yn defnyddio’r arian i wella safleoedd bysiau a mesurau cadw pellter wrth y prif safleoedd bysiau.
Yn Sir Gaerfyrddin, caiff troedffyrdd eu gwella, arwyddion eu gosod a gofod ffyrdd ei symud er mwyn i gerddwyr a beicwyr allu cadw pellter.
Yng nghanol tre’r Rhyl, caiff rhai mannau parcio eu cau er mwyn ei gwneud yn fwy diogel i gerddwyr a beicwyr ac i greu ffyrdd di-draffig yn y dref.
Disgwylir i awdurdodau lleol gadw golwg ar effaith eu mesurau a’u haddasu yn ôl yr angen.
Mae’r canllaw newydd ar ‘Fannau Cyhoeddus Mwy Diogel’ yn esbonio’r mesurau dros dro y gallai perchenogion a rheolwyr mannau cyhoeddus eu cymryd i gadw pobl yn ddiogel pan gaiff y cyfyngiadau eu codi ac y daw’r trefi’n brysurach.
Byddant yn cynnwys mesurau teithio llesol ac ystyriaeth o symudiadau cerddwyr, ciwiau, rheoli traffig, defnyddio mannau awyr agored gan y sector lletygarwch, a mesurau hylendid.
Dywedodd Hannah Blythyn:
Wrth inni feddwl sut i ailagor ein mannau cyhoeddus a chanol ein trefi, mae gennym gyfle unigryw i ailystyried ac ailddylunio’r ffordd rydym yn eu defnyddio. Bydd y buddsoddiad hwn mewn teithio llesol a’r canllaw newydd yn ein helpu i ddod ag egni newydd i ganol ein trefi trwy eu gwneud yn fwy diogel a deniadol i bobl ymweld â nhw a’u crwydro, gan gynyddu nifer yr ymwelwyr a’r fasnach i fusnesau.
Yn ogystal â’u helpu i feddwl yn greadigol wrth agor y mannau hyn ar ôl Covid, bydd y canllaw hefyd yn helpu’r rheini sy’n gyfrifol am fannau cyhoeddus i feddwl am y tymor hir a’u gwneud yn hwylusach eu defnyddio ac yn fwy cynaliadwy fel rhan o’r rhaglen ‘Trawsnewid Trefi’.
Nid oes gwadu bod y pandemig wedi gwneud amser yn anodd i fusnesau ond bu’n gyfle hefyd i ddylunio ein hardaloedd prysur mewn ffordd newydd. Rwy’n gobeithio y gwnaiff y newidiadau wella ein mannau cyhoeddus a chanol ein trefi a phrofiadau pobl ohonynt fel rhan o’n cynllun tymor hir i drawsnewid trefi Cymru i sicrhau eu bod yn goroesi ac yn wir, yn ffynnu yn y dyfodol.