Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyllid ychwanegol i ddarparu 100 Swyddog Cymorth Cymunedol arall i’r Heddlu er mwyn mynd i’r afael â throseddau a chefnogi cymunedau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Awst 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, a'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, wedi cyhoeddi £3.7m arall ar gyfer Swyddogion Cymorth Cymunedol ychwanegol i’r Heddlu ledled Cymru, gan ddod â chyfanswm y gyllideb i dros £22m.

Mae’r 100 Swyddog ychwanegol yn creu cyfanswm o 600 o Swyddogion a ariennir gan Lywodraeth Cymru.
Mae’r cyllid yn dangos y pwysigrwydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar werthoedd cymunedol, cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol. Bydd hwn yn gam arall ymlaen tuag at sicrhau cymunedau cadarn a diogel, gydag adnoddau ar waith i leihau achosion o droseddu.

Wrth dynnu sylw at bwysigrwydd y rôl y mae’r Swyddogion yn ei chwarae, dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:

“Mae Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu wedi darparu cysylltiad hanfodol rhwng y cymdogaethau a gwasanaethau’r heddlu ac maent yn cael eu cydnabod am eu parodrwydd i ddod yn rhan o’u cymunedau.

“Maent wedi chwarae rhan hanfodol wrth ymateb i’r pandemig a hoffwn ddiolch iddynt am eu hymrwymiad.

“Mae’r Swyddogion hyn wedi parhau i wneud eu gorau, gan ddarparu cymorth a datblygu ffyrdd arloesol o ddiogelu eu cymunedau.”

Mae Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn gweithio gyda swyddogion yr heddlu ac yn rhannu rhai, ond nid pob un, o’u pwerau. Maent yn darparu cysylltiad pwysig rhwng eu cymunedau a gwasanaethu’r heddlu, i sicrhau bod gan bobl y cymorth sydd ei angen arnynt.

Rhai o’r pethau y mae Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn eu gwneud i gefnogi gwaith plismona rheng flaen yw atal pobl rhag gyrru y tu allan i’n hysgolion, riportio achosion o fandaliaeth neu atal ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt:

“Mae cymunedau ledled Cymru wedi gwerthfawrogi’r gwahaniaeth hanfodol bwysig y mae Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn ei wneud i’w cymdogaethau. Mae’n amlwg eu bod wedi prysur ddod yn rhan o’u cymunedau ac wedi sicrhau, pan fo problem, fod unigolion yn gwybod bod eu Swyddogion lleol yn gweithio er eu budd hwy.

Mae eu gwaith i nodi a deall materion lleol wedi ein galluogi ni i ganolbwyntio ar ymyrraeth gynnar, gan sicrhau y gall gwasanaethau cymorth lleol gysylltu â’i gilydd a darparu ar gyfer ein cymunedau.

Rwy’n falch o’r cynnydd cyflym yr ydym wedi’i wneud o ran gwireddu ein haddewid i recriwtio 100 yn rhagor o Swyddogion yng Nghymru, gan ddangos ein hymrwymiad i ddiogelu ein cymunedau a’n cymdogaethau.”

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, Alun Michael:

“Mae Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn ceisio gwneud ein cymunedau yn llefydd mwy diogel a chadarn ac mae eu presenoldeb amlwg yn helpu i ennyn hyder. Dyna pam rwyf wrth fy modd bod Gweinidogion Cymru wedi mynd ati mor gyflym i weithredu eu hymrwymiad yn eu maniffesto i sicrhau 100 o Swyddogion ychwanegol ledled Cymru, ar ben y 500 y maent eisoes yn eu hariannu.

Mae eu hymrwymiad ariannol yn galluogi’r pedwar heddlu yng Nghymru i fwrw ymlaen â’r gwaith recriwtio, gan adfer a chryfhau’r adnodd rheng flaen pwysig hwn ym mhob un o’n cymunedau. Drwy hyn bydd modd mynd i’r afael â materion sy’n cystadlu â’i gilydd, fel troseddau treisgar, camfanteisio cysylltiedig â chyffuriau, cam-drin a thrais domestig a throseddau ar y rhyngrwyd.

Yn yr un modd ag y gwnaethom weithio gyda’n gilydd i drechu Covid-19, byddwn yn awr yn gweithio gyda’n gilydd i ddiogelu pobl agored i niwed rhag y bygythiadau a’r niwed sy’n wynebu pob cymuned.”