Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £10 miliwn ychwanegol i helpu’r diwydiant bysiau i gludo rhagor o deithwyr i’r ysgol, y coleg a’r gwaith mewn modd diogel.
Ar yr un diwrnod mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru ei chanllawiau ar drafnidiaeth i ddysgwyr i wneud yn siŵr bod pob awdurdod lleol a gweithredwr bysiau’n glir ynghylch y camau y mae’n rhaid iddynt eu cymryd i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gallu teithio i’r ysgol a’r coleg mewn modd diogel ym mis Medi.
Bydd y tymor academaidd newydd yn gweld plant a phobl ifanc yn dychwelyd i’r ysgol neu’r coleg am y tro cyntaf ers mis Mawrth. O ganlyniad bydd cynnydd sylweddol yn nifer y bobl ifanc a rhieni sy’n dibynnu ar wasanaethau bysiau i’w cludo i’w hysgol, eu coleg neu eu gweithle.
Nod y £10 miliwn ychwanegol o gyllid gan Lywodraeth Cymru yw helpu gweithredwyr bysiau rheolaidd i reoli’r pwysau uwch ar wasanaethau bysiau. Mae’n cydnabod bod y mesurau cadw pellter cymdeithasol yn arwain at gapasiti is, ac mae hyn yn ei dro yn effeithio ar y refeniw drwy werthu tocynnau. Yn ogystal bydd y cyllid ychwanegol yn galluogi gweithredwyr i gynyddu nifer y bysiau sydd ar gael wrth hefyd helpu i dalu’r costau sy’n gysylltiedig â staff ychwanegol, tanwydd a’r gwaith o gynnal a chadw’r fflyd o fysiau.
Dywedodd Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters:
“Mae Coronafeirws a’r cyfreithiau mewn perthynas â chadw pellter cymdeithasol yr oedd rhaid eu cyflwyno wedi rhoi cryn bwysau ar ein gweithredwyr bysiau, gan effeithio ar y refeniw maen nhw’n dibynnu arno sy’n dod o werthu tocynnau.
“Wrth i blant a phobl ifanc baratoi i ddychwelyd i’r ysgol a’r coleg ym mis Medi, a rhagor o rieni ddychwelyd i’r gwaith hefyd o ganlyniad, mae’n rhaid inni wneud popeth yn ein gallu i sicrhau y gall pobl ledled Cymru gael mynediad at wasanaethau bysiau dibynadwy a diogel.
“Bydd y £10 miliwn ychwanegol hwn yn galluogi awdurdodau lleol a gweithredwyr i nodi a darparu’r gwasanaethau ychwanegol sydd eu hangen i helpu dysgwyr i ddychwelyd i’r ysgol neu’r coleg mewn modd diogel. Bydd hefyd yn galluogi defnyddwyr bysiau nad ydynt yn gallu gweithio gartref i ddychwelyd i’r gweithle mewn modd diogel.
“Rydyn ni’n cydnabod bod y cyfnod hwn yn un heriol iawn ar gyfer ein gweithredwyr bysiau, a byddwn ni’n parhau i weithio’n agos gyda nhw a gwneud popeth yn ein gallu i’w cefnogi yn ystod yr adeg heriol hon.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi diweddaru ei chanllawiau gweithredu ar gyfer ysgolion, sy’n cynnwys canllawiau ar drafnidiaeth, trefniadau arwylo a chanllawiau diwygiedig ar Brofi, Olrhain, Diogelu. Mae pecyn cymorth ar gyfer asesu’r risg i’r gweithlu wedi cael ei gynnwys hefyd.
Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams:
"Mae’r canllawiau hyn wedi cael eu diweddaru i ystyried y cyngor diweddaraf ar iechyd y cyhoedd i alluogi awdurdodau lleol, ysgolion a cholegau i wneud cynlluniau i sicrhau y gall myfyrwyr a staff ddychwelyd yn ddiogel ym mis Medi.
“Rwyf wedi rhoi blaenoriaeth i sicrhau bod dysgwyr a staff yn dychwelyd i ysgolion a cholegau cyn gynted ag inni dderbyn sicrwydd y gellir gwneud hynny’n ddiogel, er mwyn eu hanghenion o ran addysg a llesiant. Hoffwn i ddiolch unwaith eto i staff am eu gwaith caled wrth wireddu’r nod hwn.
Dywedodd Arweinydd a Llefarydd dros Drafnidiaeth Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, y Cyng. Andrew Morgan:
“Mae’r misoedd diwethaf wedi bod yn anodd iawn ar gyfer y gweithredwyr bysiau a choetsis yr ydyn ni’n dibynnu arnyn nhw i gludo ein plant i’r ysgol ledled Cymru. Drwy hyn i gyd, mae Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a gweithredwyr wedi gweithio ar y cyd mewn modd adeiladol. Bydd y dyfarniad diweddaraf o gyllid gan Lywodraeth Cymru yn helpu gweithredwyr i ymdopi’r â’r heriau mae nhw’n eu hwynebu wrth inni weithio gyda nhw i sicrhau bod y systemau’n gweithredu cyn i’r ysgolion ailagor.
Dywedodd Cyfarwyddwr CPT Cymru, John Pockett:
"Rydyn ni’n croesawu’r cyllid hwn gan Lywodraeth Cymru sy’n dilyn ein trafodaethau â nhw. Bydd aelodau’n trafod â chydweithwyr ATCO a Thrafnidiaeth Cymru i nodi lle mae angen gwario’r cyllid.
“Hoffen ni weithio’n agos gyda’r Llywodraeth yma i sicrhau bod y cymorth cyllid yn cael ei ddefnyddio i ddiogelu’r diwydiant bysiau yn y ffordd orau, ac er budd y rheini sy’n defnyddio bysiau.
“Rydyn ni hefyd yn croesawu’r canllawiau gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas ag ailddechrau gweithrediadau trafnidiaeth ysgol, ac rydyn ni’n cydnabod gwaith caled pawb sydd wedi bod yn rhan o’r trefniadau hyn mewn cyfnod sydd wedi bod yn anodd i bawb, a byddwn ni’n parhau i weithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid i sicrhau bod disgyblion yn cael eu cludo mewn modd diogel.
Yng Nghymru mae bellach yn ofyniad cyfreithiol i bobl 11 oed neu’n hŷn wisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus. Nid yw’r gyfraith hon yn berthnasol i drafnidiaeth ysgol.