Neidio i'r prif gynnwy

Mae Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, wedi cyhoeddi bod Llywodraeth Cymru yn lansio cronfa gwerth £1 miliwn i gefnogi hyd at 500 o bobl ddi-waith a phobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant i ddechrau eu busnes eu hunain.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Rhagfyr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd y grant hwn a fydd yn cael ei roi yn ôl disgresiwn yn rhoi hyd at £2,000 o gymorth ariannol i 400 o unigolion sydd wedi wynebu rhwystrau wrth ddechrau busnes, ac i hyd at 100 o entrepreneuriaid ifanc.

Mae’r grant hwn yn rhan o becyn cymorth a fydd yn cynnwys cyngor personol a gweminarau i feithrin hyder mewn arferion busnes a datblygu cynlluniau ar gyfer dechrau busnes.

Mae’r gronfa ategu’r Grant Rhwystrau i Fusnes Newydd, a gefnogodd 382 o unigolion y mae pandemig Covid wedi effeithio’n anghymesur arnynt, drwy ddarparu buddsoddiad i ddechrau busnes yn 2020/21.

Roedd 60% o’r ymgeiswyr llwyddiannus yn fenywod, 12% yn bobl anabl, 13% yn ystyried eu hunain yn Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, tra bo 12% yn entrepreneuriaid ifanc.

Roedd Yvette Clark yn un o'r ymgeiswyr llwyddiannus a defnyddiodd y gefnogaeth a gafodd gan Busnes Cymru a'r Grant Rhwystrau i agor Fussy, siop pethau o’r oes a fu, yn Goodsheds yn y Barri.

Dywedodd:

“Rwyf bob amser wedi bod eisiau cael fy siop fy hun a bod yn fos arnaf i fy hun. Ni feddyliais erioed y byddai'n cymryd pandemig i hynny ddigwydd, ond dyma fi. Gwnaeth wynebu’r posibilrwydd o golli fy swydd fy sbarduno i ddilyn fy uchelgais oes o werthu dillad o'r oes a fu yn llawn amser.

“Fel rhan o'm pecyn dileu swydd, roeddwn yn gymwys i gael hyfforddiant ReAct. Ar ôl ychydig o gyrsiau, penderfynais lunio cynllun busnes ar gyfer fy siop fy hun a chysylltu â Busnes Cymru.

“Ar ôl mynychu’r weminar 'Dechrau a Rhedeg eich Busnes eich hun' am ddim, dechreuais roi fy nghynllun ar waith gyda chymorth cynghorydd â chyfoeth o brofiad a gwybodaeth yn y maes. Rhoddwyd cymorth amhrisiadwy i mi drwy gydol fy nhaith.

Mae Busnes Cymru bellach wedi cynyddu'r cymorth cynghori sydd ar gael i helpu unigolion a gwneud cais am y grant. Bydd hyn ar gael o ddydd Llun 13 Rhagfyr 2021 tan ddiwedd mis Mawrth 2022.

Gofynnir i bob ymgeisydd llwyddiannus ystyried y rôl y maent yn ei chwarae wrth fabwysiadu gwerthoedd cydraddoldeb a chynaliadwyedd.

Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi:

“"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n gadarn i sicrhau Cymru decach a gwyrddach, gyda ffyniant yn lledaenu'n fwy cyfartal. Mae canolbwyntio ar gefnogi mwy o fusnesau newydd, meithrin sector busnesau bach a chanolig  hyd yn oed yn fwy ffyniannus a blaenoriaethu mentrau sy'n cael eu hysgogi gan arloesedd yn allweddol i hyn.

"Bydd y gronfa newydd yr wyf yn ei chyhoeddi heddiw yn adeiladu ar lwyddiant y grant blaenorol ac yn mynd i'r afael â'r heriau sy’n deillio o ddod â chynllun ffyrlo Llywodraeth y DU i ben. Bydd hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldeb a mynd i'r afael â thlodi drwy leihau diweithdra a dileu rhwystrau i'r farchnad lafur.

"Nod y cyllid newydd yw cefnogi dros 100 o entrepreneuriaid ifanc, a chynnig cyfleoedd i 400 o bobl eraill a fyddai fel arall yn wynebu mwy o heriau i fod yn hunangyflogedig.

"Bydd y cymorth a'r grant ychwanegol hwn yn darparu llwybr cadarnhaol i bobl ifanc, gan gyflawni'r cynnig o hunangyflogaeth yn ein Gwarant uchelgeisiol i Bobl Ifanc.

I gael rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael a'r meini prawf cymhwysedd llawn, ewch i wefan Busnes Cymru. Gwahoddir ymgeiswyr i lenwi dogfen mynegi diddordeb.

Os oes gennych gwestiynau ac yn dymuno siarad ag aelod o dîm Busnes Cymru, ffoniwch 03000 6 03000.