Neidio i'r prif gynnwy

Prif bwyntiau

Mae'r ystadegau hyn yw ar gyfer drafodiadau’r Dreth Trafodiadau Tir yr ydym ni (Awdurdod Cyllid Cymru) wedi'u derbyn erbyn 20 Ebrill 2020.

Mae Ffigur 1.1 isod yn dangos:

  • y rhifau pennawd chwarterol ar gyfer Ionawr i Fawrth 2020
     
  • yr amcangyfrifon cyntaf o’r data blynyddol ar gyfer Ebrill 2019 i Fawrth 2020

Mae Ffigur 1.1 hefyd yn tynnu sylw at y newid o ran canran ar gyfer y rhifau pennawd hyn yn erbyn ein hamcangyfrifon cyntaf ar gyfer yr un cyfnodau flwyddyn ynghynt. Rydym yn egluro pam y gwneir y cymariaethau hyn yn Adran 1 y datganiad hwn (‘Cymariaethau â’r un cyfnod flwyddyn ynghynt’).

Mae Ffigur 1 yn dangos nifer y trafodiadau hysbysadwy a gofnodwyd, y dreth sy'n ddyledus a’r newid o ran % o’r amcangyfrif cyntaf flwyddyn ynghynt. Dangosir y gwerthoedd hyn ar gyfer Ionawr i Fawrth 2020, ac Ebrill 2019 i Fawrth 2020, ynghyd â dadansoddiad yn ôl y math o drafodiad.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru

Ar ddiwedd 20 Ebrill 2020, roedd y cyfanswm treth yn ddyledus yn £264 miliwn.

Ar gyfer rhai trafodiadau ni allwn ddarparu unrhyw gwybodaeth heblaw cyfanswm y dreth sy'n ddyledus yn y flwyddyn, gan fod perygl o ddatgelu manylion y trafodiadau unigol. Mae'r rhain wedi'u talgrynnu i'r miliwn o bunnoedd agosaf er mwyn gwarchod cyfrinachedd ymhellach, a dylid eu cynnwys dim ond os ydych am gael gwerth cyfanswm refeniw’r Dreth Trafodiadau Tir yn y flwyddyn.

Fodd bynnag, ac eithrio'r trafodiadau hyn, cyfanswm y dreth oedd yn ddyledus am 2019-20 oedd £233.9 miliwn. Er mwyn cymharu â chyfnodau cynharach ac yn ôl math o drafodiad ar sail debyg am debyg, dyma’r gwerth a ddefnyddir gennym (gweler Ffigur 2.3).

Er gwaethaf cwymp bach yn nifer y trafodiadau yn 2019-20 (o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol), bu cynnydd o 3% ar sail tebyg at ei debyg. Mae hyn yn bennaf oherwydd:

  • cynnydd yng ngwerth eiddo preswyl a'r dreth gysylltiedig sy'n ddyledus ar bob trafodiad
  • cynnydd yn y nifer o drafodiadau sy'n talu'r cyfraddau uwch o dreth breswyl.

Ar gyfer Ebrill 2019 i Fawrth 2020, codwyd £64.6 miliwn o refeniw ychwanegol o drafodiadau cyfraddau uwch. Mae hyn 8% yn uwch na'n hamcangyfrif cyntaf ar gyfer Ebrill 2018 i Fawrth 2019 (a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2019).

Mae'r argyfwng coronafirws (COVID-19) wedi cael effaith ar y ffigurau hyn, ond effaith bach ydyw. Dangosir mwy o fanylion am hyn yn Ffigur 2.1 yn adran 2 y datganiad hwn.

Amodol yw’r amcangyfrifon cychwynnol hyn ar gyfer Ionawr i Fawrth 2020, ac Ebrill 2019 i Fawrth 2020. Byddwn ni’n adolygu’r amcangyfrifon hyn yn y cyhoeddiad nesaf ar yr ystadegau. Y rheswm am hyn yw bod sefydliadau’n dal i fod yn gallu adrodd ynghylch trafodiadau pellach ar gyfer mis Mawrth 2020. Mae gan sefydliadau 30 diwrnod ar ôl dyddiad y trafodiad i roi gwybod amdanynt i’r Awdurdod Cyllid Cymru.

Os byddwn yn cael caniatâd yn y dyfodol i gyhoeddi mwy o fanylion am y trafodiadau hyn, byddwn yn cynnwys mwy o fanylion (megis ffigur llai crwn, neu'r dadansoddiad o breswyl a amhreswyl).

Sylw'r ystadegydd

Gwnaeth Adam Al-Nuaimi, Pennaeth Dadansoddi Data yn Awdurdod Cyllid Cymru, sylw ar yr ystadegau hyn:

Mae Ffigur 1.1 uchod yn dangos y rhifau pennawd chwarterol ar gyfer trafodiadau’r Dreth Trafodiadau Tir sy'n ymwneud ag Ionawr i Fawrth 2020, a'r amcangyfrifon cyntaf o’r data blynyddol ar gyfer Ebrill 2019 i Fawrth 2020. Mae'r rhain yn dangos cynnydd cyffredinol mewn treth sy'n ddyledus o’i gymharu â blwyddyn ynghynt, er bod niferoedd y trafodiadau’n weddol sefydlog.

Derbyniwyd y mwyafrif o drafodiadau cyn i’r coronafirws (COVID-19) gydio, felly mae unrhyw effaith ar yr ystadegau hyn yn fach.

Yn y datganiad hwn, rydym hefyd wedi cyflwyno gwybodaeth am nifer y trafodiadau a dderbyniwyd ym mis Ebrill. Mae hyn yn rhoi mewnwelediad cynnar i ostyngiad sylweddol o'r cyfartaledd tymor hir o tua 1,200 yr wythnos, i lawr i gyfartaledd o tua 500 yr wythnos hyd yn hyn ym mis Ebrill. Mae'n debygol y bydd hyn yn arwain at ostyngiad mawr yn refeniw’r Dreth Trafodiadau Tir a ddangosir yn yr ystadegau ar gyfer Ebrill a Mai 2020, a fydd yn cael eu cynnwys yn ein datganiadau data’n unig dros y ddau fis nesaf.

Byddwn yn parhau i fonitro'r gostyngiad hwn a diweddaru'r data yn y datganiadau data’n unig hyn. A byddwn yn rhoi sylwadau manylach yn ein datganiad sylweddol nesaf - ein prif gyhoeddiad ystadegau blynyddol, sydd wedi'i gynllunio ar hyn o bryd ar gyfer mis Gorffennaf.

1. Ynglŷn â’r ystadegau yma

Cyflwyniad o Dreth Trafodiadau Tir

Ar 1 Ebrill 2018, cafodd Treth Dir y Dreth Stamp ei disodli gan y Dreth Trafodiadau Tir ar eiddo preswyl ac amhreswyl a buddiannau tir sy’n cael ei brynu yng Nghymru. Mae cyfraddau treth a bandiau treth Treth Trafodiadau Tir yn amrywio yn ôl  y math o drafodiad.

Ni ellir cymharu ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn llawn ag ystadegau blaenorol Treth Dir y Dreth Stamp. Mae gan fod gwahanol gyfraddau a bandiau yn cael eu defnyddio yn y Dreth Trafodiadau Tir. Gall y rhyddhadau hefyd fod yn wahanol ar gyfer y ddwy dreth. Er enghraifft, mae rhyddhad prynwyr tro cyntaf yn berthnasol i Dreth Dir y Dreth Stamp ond nid i’r Dreth Trafodiadau Tir.

Gwerth ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir

Mae gwybodaeth amserol am weithgaredd yn y farchnad eiddo yn bwysig ar gyfer y rhai sy’n llunio polisi. Wrth ffeilio ffurflen Treth Trafodiadau Tir ar gyfer trafodiad eiddo, mae gan y sefydliad sy'n talu'r dreth 30 diwrnod ar ôl y dyddiad dod i rym i gyflwyno a thalu unrhyw treth yn ddyledus. Felly mae ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn gymharol amserol.

Rhagweld refeniw’r Dreth Trafodiadau Tir ar gyfer Cymru yn y dyfodol yw defnydd pwysig o ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yw. Mae Lywodraeth Cymru a'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn gwneud hyn yn bennaf.

Data ar gael dros LTT

Mae'r holl ddata a ddefnyddir yn y datganiad ystadegol hwn ar gael mewn taenlen ar y dudalen ystadegau cryno.

Hefyd, yn flynyddol, rydym yn cyhoeddi setiau data daearyddol ar gyfer Treth Trafodiadau Tir ar wefan StatsCymru. Mae hyn yn cynnwys data blynyddol yn ôl:

  • Awdurdod lleol
  • Etholaethau’r Cynulliad (ar gyfer trafodiadau preswyl yn unig)
  • Lefel amddifadedd, yn ddefnyddio’r Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (ar gyfer trafodiadau preswyl yn unig)
  • Ardaloedd adeiledig (ar gyfer trafodiadau preswyl yn unig)

Ar gyfer data ar lefel Cymru, rydym yn darparu dolenni i'r setiau data StatsCymru perthnasol trwy gydol y datganiad hwn.

Amseriad a diwygiadau i ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir

Mae’r diagram ar y dudalen gwybodaeth allweddol am ansawdd yn esbonio amseriad ystadegau'r Dreth Trafodiadau Tir. Rydym yn cyflwyno amcangyfrifon dros dro ar gyfer Mawrth 2020, y chwarter o Ionawr i Fawrth 2020, ac y flwyddyn Ebrill 2019 i Fawrth 2020. Rydym yn cyflwyno amcangyfrifon wedi’u diwygio ar gyfer cyfnodau cynharach. Byddwn yn diwygio y data dros dro yn y dyfodol. Nad yw pob ffurflen dreth ar gyfer y cyfnodau hyn wedi dod i law eto.

Yn y dyfodol, efallai y byddwn yn diwygio ystadegau ar gyfer cyfnodau cynharach, er mwyn rhoi cyfrif am unrhyw ddiwygiadau i drafodiadau. Bydd hyn, yn fwyaf arbennig, oherwydd bod ad-daliadau cyfradd uwch yn cael eu gwneud am sawl blwyddyn ar ôl dyddiad y trafodiad gwreiddiol.

Cymhariaethau â'r un cyfnod flwyddyn ynghynt

Gall fod patrymau tymhorol yn y farchnad eiddo, gyda lefelau uwch o weithgaredd i'w gweld yn gyffredinol yn yr haf ac yn yr hydref, ac lefelau is yn a gaeaf a gwanwyn. Gwelir yr effeithiau hyn hefyd yn lefelau'r trafodiadau a'r dreth sy'n ddyledus. Felly gall cymharu data Ionawr i Fawrth gyda’r un cyfnod yn 2019 fod o gymorth.

Fodd bynnag, yn ein hystadegau misol a chwarterol, rydym yn raddol ddiwygio am i lawr y dreth sy’n ddyledus am gyfnodau cynharach. Mae hyn oherwydd bod ad-daliadau cyfradd uwch yn cael eu talu bob mis (ar gyfer trafodiadau preswyl cyfraddau uwch a oedd mewn grym mewn cyfnodau cynharach, yn ôl i Ebrill 2018).

Bydd gwerth Ionawr i Fawrth 2019 eisoes wedi bod yn destun rhywfaint o ddiwygio am i lawr, ond nid yw’r ffigur cyfatebol ar gyfer 2020 wedi cael ei ddywygio eto. Hefyd, yn y dyfodol, bydd rhywfaint o ddiwygiadau am i fyny i werth Ionawr I Fawrth 2020 oherwydd trafodiadau hwyr.

Felly yn y datganiad hwn, rydym yn cymharu:

  • Data Ionawr i Fawrth 2020 yn erbyn ein hamcangyfrifon dros dro cyntaf ar gyfer Ionawr i Fawrth 2019 (a gyhoeddwyd gennym ym mis Ebrill 2019).
  • Data Ebrill 2019 i Fawrth 2020 yn erbyn ein hamcangyfrifon dros dro cyntaf ar gyfer Ebrill 2018 i Fawrth 2019 (a gyhoeddwyd gennym hefyd ym mis Ebrill 2019).

Mae hyn yn caniatáu’r cymariaethau tecaf dros amser.

Tudalennau gwybodaeth allweddol am ansawdd a rhestr termau

Gwelwch y datganiad ystadegol hwn dylai defnyddwyr gyfeirio at y rhestr termau a’r wybodaeth allweddol am ansawdd a gyhoeddir ar wahân:

  • Rydym yn diffinio termau perthnasol yn y rhestr termau fel y’u defnyddir yn y datganiad.
     
  • Mae'r dudalen gwybodaeth allweddol am ansawdd yn disgrifio sut mae ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn bodloni'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ynghyd â dimensiynau gwerth, dibynadwyedd ac ansawdd.

Eiddo neu dir a werthir fwy nag unwaith

Mae'r ystadegau hyn yn ymwneud â thrafodiadau a ddaeth i rym yn fis, chwarter neu blwyddyn penodol. Mae'n bosibl bod eiddo neu ddarn o dir wedi cael ei werthu fwy nag unwaith yn yr amser hynny. Os felly, byddai'n ymddangos nifer o weithiau yn yr ystadegau.

Er eingraifft yn ystod 2019-20, ein hamcangyfrif gorau yw bod rhwng 4% a 5% o'r trafodiadau yn ymwneud â darn o dir neu eiddo sydd wedi'i werthu fwy nag unwaith yn y blwyddyn.

2. Trafodiadau, treth oedd yn ddyledus a gwerth yr eiddo a drethwyd

Ym mis Mawrth 2020, gwnaethom ryddhau diweddariad ar gyhoeddi ystadegau Awdurdod Cyllid Cymru oherwydd coronafirws (COVID-19). Yn y diweddariad hwn, gwnaethom nodi y byddem, yn ein datganiad ym mis Ebrill 2020 ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir, yn edrych ar unrhyw effeithiau posibl y coronafirws (COVID-19) ar ein hystadegau.

Mae Ffigur 2.1 yn dangos nifer y trafodiadau preswyl ac amhreswyl a gyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru bob wythnos rhwng mis Rhagfyr 2019 ac Ebrill 2020. Sylwch fod y siart hon yn cynnwys nifer fach o drafodiadau a ddaeth i rym ym mis Ebrill 2020.

Mae Ffigur 2.1 uchod yn dangos cyfanswm nifer y trafodiadau a gyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru yn ystod pob cyfnod o 7 diwrnod. Er enghraifft, mae bar ‘18.4’ yn dangos nifer y trafodiadau preswyl ac amhreswyl a gyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru rhwng 18 Ebrill 2020 a 24 Ebrill 2020 (yn gynhwysol).

Mae'r llinell lwyd doredig yn dangos cyfartaledd nifer wythnosol y trafodiadau a gyflwynwyd rhwng mis Ionawr a mis Rhagfyr 2019 (trafodiadau preswyl a amhreswyl).

Sylwch fod Ffigur 2.1 yn dangos data yn ôl y dyddiad cyflwyno. Mae hyn yn wahanol i’r dyddiad dod i rym, sef y prif fesur dyddiad a ddefnyddiwn i'w ddadansoddi yn y datganiad hwn.

Mae Ffigur 2.1 yn dangos y cynnydd mawr yn nifer y trafodiadau a gyflwynwyd yn ystod yr wythnos waith ddiwethaf cyn Nadolig 2019. Yna mae nifer y trafodiadau a gyflwynwyd yn gostwng i lefel lawer is yn y cyfnod o bythefnos ar gyfer gwyliau'r Nadolig, yn unol â'r flwyddyn flaenorol.

Roedd y trafodiadau wythnosol a gyflwynwyd yn Ionawr i Fawrth 2020 tua’r lefelau disgwyliedig yn seiliedig ar ddechrau'r flwyddyn flaenorol. Fodd bynnag, mae nifer wythnosol y trafodiadau a gyflwynwyd wedi gostwng yn sylweddol ym mis Ebrill yn dilyn yr achosion o’r coronafirws, yn enwedig yn y sector preswyl.

Mae'r gostyngiad hwn yn nifer y trafodiadau a dderbyniwyd yn ymwneud i raddau bach â thrafodiadau a fyddai wedi dod i rym ym mis Mawrth, ac felly mae effaith fach ar y refeniw a ddangosir yn y datganiad hwn. Fodd bynnag, prif effaith y lleihad yw gostyngiad yn y trafodiadau a fyddai fel arall wedi dod i rym ym mis Ebrill.

Mae hyn yn golygu, yn rhifynnau'r datganiad hwn a gyhoeddir yn y dyfodol, ac yn y diweddariadau data’n unig y byddwn yn eu rhyddhau yn y cyfamser, y bydd gostyngiad sylweddol yn y refeniw a ddangosir ar gyfer Ebrill 2020, ac am chwarter cyntaf 2020-21 o leiaf. Byddwn yn diweddaru'r siart hon yn y ddau ddiweddariad data’n unig nesaf ac yn darparu sylwadau pellach ochr yn ochr â'r siart.

Mae Ffigur 2.2 yn dangos nifer y trafodiadau hysbysadwy a gofnodwyd, yn ôl chwarter a blwyddyn dod i rym. Mae Ffigur 2.2 hefyd yn dangos dadansoddiad ar gyfer trafodiadau preswyl ac amhreswyl.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru

Ar ddiwedd 20 Ebrill 2020, derbynion ni manylion o 13,280 drafodiadau hysbysadwy oedd â dyddiad dod i rym ar gyfer Ionawr i Fawrth 2020. Mae hyn 1% yn uwch na'n hamcangyfrif cyntaf ar gyfer yr un cyfnod yn 2019.

Dros dro, roedd 61,190 o drafodiadau mewn grym yn ystod 2019-20. Mae hyn 1% yn is na'n hamcangyfrif cyntaf ar gyfer 2018-19 (a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2019).

Yn Ionawr i Mawrth 2020, roedd 89% o'r trafodiadau’n rhai preswyl ac roedd 11% yn rhai amhreswyl. Mae’r rhain yn canrannau tebyg i gyfnodau tair-mis blaenorol.

Yn y dyfodol, rydym yn disgwyl derbyn manylion o nifer fechan o drafodiadau pellach ar gyfer y cyfnod hwn.

Mae Ffigur 2.3 yn dangos y dreth a oedd yn ddyledus ar drafodiadau hysbysadwy a gofnodwyd, yn ôl chwarter a blwyddyn y daeth y trafodiadau i rym. Mae Ffigur 2.3 hefyd yn dangos dadansoddiad ar gyfer trafodiadau preswyl ac amhreswyl.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru

Ar ddiwedd 20 Ebrill 2020, roedd y cyfanswm treth yn ddyledus ar gyfer 2019-20 yn £264 miliwn (dangosir yn Ffigur 1.1).

Ar gyfer rhai trafodiadau ni allwn ddarparu unrhyw gwybodaeth heblaw cyfanswm y dreth sy'n ddyledus yn y flwyddyn, gan fod perygl o ddatgelu manylion y trafodiadau unigol. Mae'r rhain wedi'u talgrynnu i'r miliwn o bunnoedd agosaf er mwyn gwarchod cyfrinachedd ymhellach, a dylid eu cynnwys dim ond os ydych am gael gwerth cyfanswm refeniw’r Dreth Trafodiadau Tir yn y flwyddyn.

Fodd bynnag, ac eithrio'r trafodiadau hyn, cyfanswm y dreth oedd yn ddyledus am 2019-20 oedd £233.9 miliwn. Er mwyn cymharu â chyfnodau cynharach ac yn ôl math o drafodiad ar sail debyg am debyg, dyma’r gwerth a ddefnyddir gennym (gweler Ffigur 2.3).

Mae gwerth hyn 3% yn uwch na'n hamcangyfrif cyntaf ar gyfer 2018-19 (a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2019). Y newidiadau cyfatebol ar gyfer treth breswyl oedd yn ddyledus a threth amhreswyl oedd yn ddyledus oedd cynnydd o 7% a chwymp o 7%, yn y drefn honno.

Roedd £54.4 miliwn o dreth yn ddyledus ar gyfer trafodiadau oedd â dyddiad dod i rym yn Ionawr i Fawrth 2020. Mae hyn yn gynnydd o 3% o'i gymharu â'n hamcangyfrif cyntaf o'r dreth oedd yn ddyledus ar gyfer Ionawr i Fawrth 2019 (a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2019). Roedd hyn yn cynnwys cynnydd o 16% yn y dreth breswyl oedd yn ddyledus a chwymp o 18% yn y dreth amhreswyl oedd yn ddyledus (dros yr un cyfnodau o amser).

Mae Ffigur 2.4 yn dangos gwerth yr eiddo oedd yn agored i’r Dreth Trafodiadau Tir, yn ôl y chwarter a’r flwyddyn yr oedd y trafodiadau mewn grym. Mae Ffigur 2.4 hefyd yn dangos dadansoddiad ar gyfer trafodiadau preswyl ac amhreswyl, a ffigurau ar wahân ar gyfer gwerth rhentu ar gyfer lesoedd amhreswyl a roddwyd o’r newydd.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru

Gwerth yr eiddo a drethwyd yn Ionawr i Fawrth 2020 oedd £2.6 biliwn. Ar gyfer y flwyddyn Ebrill 2019 i Fawrth 2020, gwerth yr eiddo a drethwyd oedd £12.2 biliwn.

Ar wahân i hynny, roedd y gwerth rhent ar gyfer lesoedd amhreswyl oedd newydd eu rhoi yn £236 miliwn yn Ionawr i Fawrth 2020. Roedd y gwerth yn £1.3 biliwn ar gyfer y flwyddyn Ebrill 2019 i Fawrth 2020.

Mae Ffigur 2.5 yn dangos niferoedd misol y trafodiadau hysbysadwy a gofnodwyd rhwng Ebrill 2018 a Mawrth 2020, ar gyfer trafodiadau preswyl a amhreswyl.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru

Mae nifer y trafodiadau preswyl yn ôl y mis y daeth y trafodiadau hynny i rym wedi amrywio'n fawr ers mis Ebrill 2018. Mae'r duedd fisol mewn trafodiadau preswyl yn 2019-20 wedi bod yn debyg yn fras i’r flwyddyn flaenorol. Mae yna ambell i gynnydd gwahanol rhwng y blynyddoedd, mewn rhai achosion oherwydd bod pum dydd Gwener mewn rhai misoedd, yn hytrach na phedwar. Mae Ffigur 10.8 yn adran 10 o'r ein datganiad blynyddol yn dangos bod gan bron i hanner y trafodiadau ddyddiad dod i rym sy'n ddydd Gwener.

Ym mis Mawrth, rydym yn gweld cynnydd ers y mis blaenorol (Chwefror) mewn trafodiadau amhreswyl. Mae hyn i’w ddisgwyl, gan ei bod yn gyffredin i lesoedd amhreswyl gael eu hadnewyddu ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.

Mae Ffigur 2.6 yn dangos swm misol y dreth oedd yn ddyledus ar drafodiadau hysbysadwy a gofnodwyd rhwng Ebrill 2018 a Mawrth 2020, ar gyfer trafodiadau preswyl ac amhreswyl.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru

Fel y gellir disgwyl, mae tueddiadau tebyg i’w gweld yn y dreth oedd yn ddyledus yn fisol ag y gwelir yn nifer misol y trafodiadau. Fodd bynnag, gellir esbonio'r refeniw cyffredinol uwch ar gyfer trafodiadau preswyl yn 2019-20 yn rhannol oherwydd yr ad-daliadau cyfraddau uwch sydd ddim eto wedi’u hawlio ar gyfer trafodiadau 2019-20. Mae Ffigur 1.1 yn cyflwyno niferoedd sy'n ystyried yr effaith hon yn well.

Mae’r gyfres fisol ar gyfer trafodiadau amhreswyl yn fwy cyfnewidiol. Maent hefyd yn gyfran fwy o gyfanswm y dreth sy'n ddyledus na'r gyfran o nifer y trafodiadau.

Mae Ffigur 2.7 yn dangos canran y trafodiadau oedd yn ymwneud â thrawsgludo / trosglwyddo perchenogaeth, rhoi lesoedd newydd neu aseinio lesoedd, ar gyfer Ionawr i Fawrth 2020. Rhoddir canrannau ar wahân ar gyfer trafodiadau preswyl ac amhreswyl.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl math o drafodiad a disgrifiad o’r trafodiad ar StatsCymru

Roedd prisiad yr eiddo a oedd yn gysylltiedig â'r trawsgludiadau hynny a throsglwyddiadau perchenogaeth yn ystod Ionawr i Fawrth 2020 yn £2.5 biliwn (ni ddangosir hyn yn Ffigur 2.7).

Roedd trawsgludo neu drosglwyddo perchenogaeth i gyfrif am y rhan fwyaf o’r trafodiadau hysbysadwy a gofnodwyd yn Ionawr i Fawrth 2020. 93% oedd y ffigur hwn ar gyfer trafodiadau preswyl a 61% ar gyfer trafodiadau amhreswyl

Rhoddwyd les newydd mewn 37% o drafodiadau amhreswyl (o’i gymharu â 2% o drafodiadau preswyl).

Gwelir canrannau tebyg ar gyfer cyfnodau tri-mis blaenorol.

3. Trafodiadau preswyl yn ôl gwerth

Sylwch fod pob dadansoddiadau yn adran 3 yn gwahardd y trafodiadau ychwanegol gyda manylion cyfyngedig (dangosir yn Ffigur 1.1 yn yr adran ‘Prif bwyntiau’ o’r datganiad hwn).

Mae Ffigur 3.1 yn dangos nifer y trafodiadau preswyl, yn ôl band treth preswyl a’r chwarter yr oedd y trafodiad mewn grym.

Mae Ffigur 3.2 yn dangos y dreth oedd yn ddyledus ar drafodiadau preswyl, yn ôl band treth preswyl a'r chwarter yr oedd y trafodiad mewn grym.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau preswyl ar StatsCymru

Ar gyfer pob band treth, mae Ffigurau 3.1 a 3.2 yn dangos y tueddiadau chwarterol o ran nifer y trafodiadau preswyl a'r dreth oedd yn ddyledus. Mae chwe band treth preswyl. Rydym wedi cyfuno mae'r tri band mwyaf yma i ddangos canlyniadau ar gyfer eiddo wedi’u prynu yn fwy na £400,000.

Gellir gweld tueddiadau tebyg ar gyfer y bandiau treth o ran nifer y trafodiadau a'r dreth oedd yn ddyledus. Mae'r rhan fwyaf o'r bandiau treth yn dangos lleihad o trafodiadau a’r dreth oedd yn ddyledus yn Ionawr i Fawrth (o gymharu â Hydref i Ragfyr).

Fodd bynnag, mae mwy o ansefydlogrwydd yn y tueddiadau wrth ystyried y dreth oedd yn ddyledus ar eiddo yn y bandiau gwerth uwch. Ar gyfer eiddo a brynwyd am fwy na £400,000, y dreth oedd yn ddyledus yn Hydref i Ragfyr 2019 oedd y gwerth chwarterol uchaf a welwyd hyd yma. Roedd hyn hefyd yn wir am eiddo a brynwyd am rhwng £250,000 a £400,000.

Mae Ffigur 3.3 yn dangos nifer y trafodiadau preswyl a faint o dreth oedd yn ddyledus, yn ôl band treth preswyl. Cyflwynir y data fel canran y trafodiadau neu'r dreth oedd yn ddyledus ac mae'n ymwneud â thrafodiadau oedd mewn grym ym mis Ionawr i Fawrth 2020.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau preswyl ar StatsCymru

Roedd dros ychydig tri ran o bump o'r trafodiadau preswyl o fewn y band treth cyntaf (pris prynu £180,000 neu is). Er bod y prif gyfradd dreth ar drafodiadau preswyl hyd at £180,000 yn 0%, roedd y trafodiadau hyn yn dal i fod i gyfrif am oddeutu chweched ran o gyfanswm y dreth breswyl a oedd yn ddyledus, sydd i gyd yn ymwneud ag elfen cyfraddau uwch preswyl y dreth.

Gan gyfuno'r pedwerydd, pumed a'r chweched band (pris prynu o fwy na £400,000), roedd y rhain i gyfrif am 5% yn unig o'r trafodiadau. Fodd bynnag, roedd y dreth a oedd yn ddyledus am y trafodiadau hyn i gyfrif am 37% o gyfanswm y dreth breswyl a oedd yn ddyledus.

4. Trafodiadau amhreswyl yn ôl gwerth

Sylwch fod pob dadansoddiadau yn adran 4 yn gwahardd y trafodiadau ychwanegol gyda manylion cyfyngedig (dangosir yn Ffigur 1.1 yn yr adran ‘Prif bwyntiau’ o’r datganiad hwn).

Mae Ffigur 4.1 yn dangos nifer y trafodiadau amhreswyl yn ôl gwerth yr eiddo. Dangosir data ar gyfer y flwyddyn a'r chwarter yr oedd y trafodiad mewn grym.

Mae Ffigur 4.2 yn dangos swm y dreth oedd yn ddyledus ar drafodiadau amhreswyl yn ôl gwerth yr eiddo. Dangosir data ar gyfer y flwyddyn a'r chwarter yr oedd y trafodiad mewn grym.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau amhreswyl ar StatsCymru

Mae Ffigurau 4.1 a 4.2 yn dangos roedd 1,470 o drafodiadau amhreswyl mewn grym yn Ionawr i Fawrth 2020, gyda threth o £16.0 miliwn yn ddyledus.

Ym mhob cyfnod o dri mis ers Ebrill 2018, mae tua 50% i 70% y dreth sy’n ddyledus wedi'i chyfrannu gan drafodiadau sydd â gwerth nad yw'n werth rhent o fwy na £1 miliwn. Ym mhob cyfnod o dri mis, mae tua 10% i 30% o'r dreth sy’n ddyledus wedi'i chyfrannu gan werth rhent eiddo amhreswyl.

Mae Ffigur 4.3 yn dangos nifer y trafodiadau amhreswyl yn ôl gwerth yr eiddo. Cyflwynir y data fel canran y trafodiadau ac mae'n ymwneud â thrafodiadau oedd mewn grym yn Ionawr i Fawrth 2020.

Mae Ffigur 4.4 yn dangos swm y dreth oedd yn ddyledus ar drafodiadau amhreswyl, yn ôl gwerth yr eiddo. Cyflwynir y data fel canran y trafodiadau ac mae'n ymwneud â thrafodiadau oedd mewn grym yn Ionawr i Fawrth 2020.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau amhreswyl ar StatsCymru

Mae Ffigur 4.3 yn dangos yn Ionawr i Fawrth 2020, 4% o'r trafodiadau amhreswyl hyn oedd â gwerth nad oedd yn werth rhent o fwy na £1 miliwn. Roedd y trafodiadau hyn i gyfrif am 69% o'r dreth amhreswyl a oedd yn ddyledus (Ffigur 4.4).

Mae Ffigur 4.3 hefyd yn dangos, yn achos 31% o drafodiadau amhreswyl yn y cyfnod hyn, fod gwerth rhent yn gysylltiedig â'r eiddo (a gyfrannodd at y dreth a dalwyd ar y trafodiad).

Roedd gwerth rhent eiddo amhreswyl i gyfrif am 12% o gyfanswm y dreth amhreswyl oedd yn ddyledus (Ffigur 4.4).

5. Rhyddhadau

Sylwch fod pob dadansoddiadau yn adran 5 yn gwahardd y trafodiadau ychwanegol gyda manylion cyfyngedig (dangosir yn Ffigur 1.1 yn yr adran ‘Prif bwyntiau’ o’r datganiad hwn).

Gall trethdalwyr yn hawlio rhyddhad ar drafodiadau preswyl a amhreswyl. Mae rhyddhad yn gostwng swm y dreth sy'n ddyledus pan fo amodau penodol yn cael eu bodloni. Gellir rhoi mwy nag un rhyddhad ar un trafodiad.

Gall rhyddhadau ostwng y dreth sy’n ddyledus:

  • i sero, a elwir yn rhyddhad llawn
     
  • neu o ganran neu swm penodol, a elwir yn rhyddhad rhannol

Mae Ffigur 5.1 yn dangos nifer y rhyddhadau a roddwyd ar drafodiadau preswyl ac amhreswyl, yn ôl chwarter y daeth y trafodiad i rym.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar ryddhadau yn ôl mesur a math o drafodiad ar StatsCymru

Mae Ffigur 5.1 yn dangos bod 350 o drafodiadau nad oeddent yn drafodiadau cysylltiol yn Ionawr i Fawrth 2020 a gafodd ryddhad arnynt, gan leihau'r dreth gysylltiedig a oedd yn ddyledus. Dyma'r is na’r chwarter blaenorol.

Ar gyfartaledd, ym mhob cyfnod o dri mis mae tua 120 o ryddhadau’n cael eu hawlio nad ydynt yn cael effaith ar y dreth sy’n ddyledus. Nid yw’r rhain rhyddhad yn cael eu cynnwys yn Ffigur 5.1. Mae llawer ohonynt wedi cael eu hadrodd yn ddiangen gan y sefydliadau sy'n llenwi'r ffurflen dreth. Er enghraifft, mae rhai o'r rhain yn berthnasol i drafodiadau preswyl gwerth isel. Mae'r arwyddion yn awgrymu bod hyn o ganlyniad i gred anghywir bod angen hawlio rhyddhad prynwr am y tro cyntaf (sy'n berthnasol i'r dreth flaenorol, ond nid i'r Dreth Trafodiadau Tir). Gwyddwn hyn o ganlyniad i holi sawl asiant pam bod gostyngiadau treth wedi cael eu hawlio lle nad oes effaith ar werth y dreth. Mae rhagor o wybodaeth am y categori hwn o ryddhad i'w chael yn Enghraifft 4 yn ein gwybodaeth allweddol am ansawdd.

Mae'r enghraifft hon hefyd yn disgrifio rhai addasiadau a wnaed er mwyn nodi’n fwy cywir werth y dreth a ryddhawyd sy'n gysylltiedig â'r trafodiadau hyn. Rydyn ni’n disgwyl mwy o addasiadau yn y dyfodol ac felly rydym yn disgwyl diwygio'r Ffigur 5.1 yn y dyfodol.

Mewn datganiadau ystadegol blaenorol, gwnaethom hepgor trafodiadau cysylltiol a thrafodiadau wedi’u rhyddhau o Ffigurau 5.1 a 5.2. Roedd hyn er mwyn i ni allu gwneud dadansoddiad pellach o'r trafodiadau hyn. Rydym bellach wedi cynnal y dadansoddiad hwn ac mae gennym lefel resymol o hyder yn ansawdd y data hyn. Rydym bellach wedi ychwanegu trafodiadau cysylltiol a thrafodiadau wedi’u rhyddhau yn Ffigurau 5.1 a 5.2, gan adolygu'r holl ddata yn ôl i Ebrill 2018. Mae hyn wedi ychwanegu:

  • tua 60 i 70 o drafodiadau i bob chwarter yn Ffigur 5.1
     
  • cyfartaledd o £4 miliwn i £5 miliwn i bob chwarter yn Ffigur 5.2

Mae Ffigur 5.2 yn dangos swm y dreth a ryddhawyd ar drafodiadau preswyl ac amhreswyl a oedd mewn grym, yn ôl chwarter y daeth y trafodiad i rym.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar ryddhadau yn ôl mesur a math o drafodiad ar StatsCymru

Mae Ffigur 5.2 yn dangos fod cyfanswm gwerth y rhyddhadau a gafodd eu hawlio yn Ionawr i Fawrth 2020 ar gyfer trafodiadau nad oedd yn drafodiadau cysylltiol yn £11.4 miliwn. Mae hyn yn llai nag hanner o’r gwerth yn yr un cyfnod o dri mis yn 2019.

Ar gyfer pob cyfnod o dri mis, cafodd niferoedd uwch o ryddhadau eu hawlio ar drafodiadau preswyl nag ar drafodiadau amhreswyl. Fodd bynnag, ym mhob cyfnod o dri mis, trafodiadau amhreswyl gyfranodd oddeutu 70% i 90% i gyfanswm gwerth y rhyddhadau a hawliwyd.

Mae rhagor o ddata ar ryddhadau, gan gynnwys data chwarterol yn ôl math o ryddhad, ar gael ar StatsCymru drwy'r ddolen uwchod.

6. Ad-daliadau cyfradd uwch

Mae Ffigur 6.1 yn dangos nifer a gwerth yr ad-daliadau treth cyfradd uwch preswyl a roddwyd, yn ôl chwarter a blwyddyn yr oedd y trafodiad gwreiddiol mewn grym.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar ad-daliadau cyfradd uwch yn ôl dyddiad y trafodiad gwreiddiol ar StatsCymru

Pan fydd trethdalwr yn hawlio ad-daliad am Dreth Trafodiadau Tir cyfradd uwch preswyl, mae'r trafodiad gwreiddiol yn cael ei ddiwygio i drafodiad Treth Trafodiadau Tir preswyl prif gyfradd. Mae'r data yn y datganiad hwn wedi cael ei addasu ar gyfer unrhyw ad-daliadau a gymeradwywyd gan yr Awdurdod hyd at a chan gynnwys 20 Ebrill 2020.

Mae Ffigur 6.1 yn dangos bod 690 o ad-daliadau cyfradd uwch wedi’u hawlio ar gyfer trafodiadau gyda dyddiad dod i rym yn ystod 2019-20, gyda £5.6 miliwn wedi'i ad-dalu i drethdalwyr.

Mae gan drethdalwyr hyd at dair blynedd i werthu eu prif breswylfa flaenorol a hawlio ad-daliad. Felly, bydd y data hwn ar gyfer 2018-19 yn parhau i gael ei ddiwygio ar i fyny mewn rhifynnau o'n hystadegau yn y dyfodol. Bydd hyn yn arwain at y cyfanswm y dreth yn tablau a siartau eraill yn lleihau.

Mae nifer a gwerth yr ad-daliadau a gyflwynwyd ar gyfer Ionawr i Fawrth 2020 yn is nag ar gyfer cyfnodau cynharach. Mae hyn oherwydd, o gymharu â chyfnodau cynharach, nad oes digon o amser wedi mynd heibio ers i’r trafodiad ddod i rym i lawer o'r trethdalwyr perthnasol werthu eu prif breswylfa flaenorol a hawlio eu had-daliad.

Ar gyfer pob trafodiad cyfraddau uwch, mae Awdurdod Cyllid Cymru yn gofyn y cwestiwn a yw'r trethdalwr yn bwriadu adhawlio'r elfen cyfraddau uwch yn y dyfodol. Er y bydd yn cymryd sawl blwyddyn cyn y byddwn yn gwybod pa mor debygol ydyw y bydd rhywun yn hawlio ar sail ei fwriadau datganedig (gall gymryd hyd at dair blynedd i wneud yr hawliad). Ond rydym yn gwybod ar hyn o bryd bod tua 70% o'r rhai sy'n hawlio yn ateb y cwestiwn hwn yn gadarnhaol.

Data ychwanegol ar ad-daliadau cyfradd uwch

Ffordd ddefnyddiol arall o gyflwyno data ar ad-daliadau cyfraddau uwch yw defnyddio'r dyddiad pan gafodd yr ad-daliad ei gymeradwyo gan yr Awdurdod. Gellir gweld set ddata sy'n defnyddio'r dyddiadau hyn, a dyddiad dod i rym y trafodiad gwreiddiol, ar wefan StatsCymru ar y ddolen isod.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar ad-daliadau cyfradd uwch yn ôl dyddiad y trafodiad gwreiddiol a dyddiad cymeradwyo’r ad-daliad ar StatsCymru

Ceir rhagor o wybodaeth am yr ad-daliadau a wnaed i drethdalwyr, yn ôl y mis y'u gwnaed, yn Nhabl 6a o'n hystadegau misol a chwarterol.

Yn bennaf, caiff y data ychwanegol hyn eu darparu er mwyn cefnogi gofynion rhagfynegi.

7. Treth a dalwyd

Mae Ffigur 7.1 yn dangos symiau misol o Dreth Trafodiadau Tir a dalwyd i’r Awdurdod, ar gyfer Ebrill 2018 i Fawrth 2020.

Yn 2019-20, derbyniodd Awdurdod Cyllid Cymru £233.5 miliwn mewn taliadau Treth Trafodiadau Tir. Mae'r ffigurau hyn yn llai na'r rhai a nodwyd yn Ffigur 2.3 gan eu bod yn ymwneud â'r taliadau a dderbyniwyd bob mis (cyfeirir at hyn yn aml fel 'ar sail arian parod'). Mae hyn yn wahanol i dablau cynharach yn y datganiad hwn sy'n seiliedig ar drafodiadau a oedd mewn grym yn ystod y mis.

Mae gwahaniaeth ym mis Ebrill 2018 gan mai dim ond yn ystod y mis hwnnw y dechreuodd yr Awdurdod gasglu'r dreth. Felly, nid oedd unrhyw daliadau yn ymwneud â thrafodiadau a oedd mewn grym yn ystod misoedd blaenorol yn berthnasol.

Roedd y derbyniadau misol uchaf a welwyd hyd yma ym mis Rhagfyr 2019 (£30.6 miliwn).

Atodiad A: Dadansoddiad o ddiwygiadau

Rydym yn edrych yma ar effaith y diwygiadau rheolaidd a wneir i ystadegau'r Dreth Trafodiadau Tir. Rydym yn dadansoddi'r gwahaniaethau rhwng yr amcangyfrifon cyntaf, ail a thrydydd a gyhoeddwyd ar gyfer mis. Mae hyn ar gyfer nifer y trafodiadau a’r dreth sy'n ddyledus.

Er enghraifft, cyhoeddon ni tri amcangyfrif ar gyfer mis Ionawr 2020. Fe wnaethom gyhoeddi’r amcangyfrif cyntaf ar 21 Chwefror, yr ail amcangyfrif ar 20 Mawrth a'r trydydd amcangyfrif ar 30 Ebrill.

Mae Ffigur A1 yn dangos y newid canrannol rhwng yr amcangyfrif cyntaf a’r ail amcangyfrif, fesul mis dod i rym. Dangosir canrannau ar gyfer y newid yn nifer y trafodiadau a'r newid yn y dreth oedd yn ddyledus.

Mae Ffigur A1 yn dangos bod lefelau uwch o adolygiadau i’w gweld yn gyffredinol yn y misoedd cynharaf y dechreuodd yr Awdurdod gasglu Treth Trafodiadau Tir. Felly y mae pethau, yn arbennig ar gyfer y dreth sy’n ddyledus ar drafodiadau sydd â’r dyddiad dod i rym ym mis Ebrill 2018, pan roedd 30% o gynnydd yn amcangyfrif y dreth sy’n ddyledus (o’r amcangyfrif cyntaf i’r ail amcangyfrif am y mis). Disgwylid diwygio ym mis Ebrill 2018 oherwydd byddai defnyddwyr yn llai cyfarwydd â’r system, a hefyd oherwydd bod dyddiad terfynol cynharach wedi cael ei ddefnyddio yn y mis canlynol i echdynnu’r data. Fodd bynnag, mae’r ffigwr o 30% yn y dreth sy’n ddyledus lawer yn uwch na’r ffigwr cyfatebol yn nifer y trafodiadau (10%). Yr esboniad yw nad oedd yr Awdurdod wedi cael gwybod am rai trafodiadau mawr, sydd â dyddiad dod i rym yn hwyr ym mis Ebrill 2018, tan yn ddiweddarach ym mis Mai (cyn y terfyn llenwi, sef 30 diwrnod, ond ar ôl y dyddiad terfynol ar gyfer eu cyhoeddi ym mis Ebrill).

Mae Ffigur A1 hefyd yn dangos bod lefelau’r diwygiadau wedi gostwng yn gyffredinol dros amser. Ers mis Hydref 2018, mae'r adolygiadau rhwng yr amcangyfrif misol cyntaf a'r ail yn gyffredinol wedi bod rhwng 0 a 3%. Yr eithriadau diweddar oedd:

  • Mis Mehefin 2019 pan oedd y dreth yn ddyledus i fyny 9% rhwng yr amcangyfrif cyntaf a'r ail amcangyfrif.
     
  • Mis Medi 2019 (adolygwyd y dreth oedd yn ddyledus i fyny 16%)
     
  • Mis Ionawr 2020 (adolygwyd y dreth oedd yn ddyledus i fyny 27%)

Yn gyffredinol, mae’r eithriadau hyn oherwydd nifer fechan o ffurflenni treth yn cyrraedd tua diwedd y cyfnod hysbysu 30 diwrnod.

Mae’r lefel is o ddiwygiadau a welir yn gyffredinol yn debygol fod hyn wedi digwydd yn rhannol am fod cyfreithwyr a thrawsgludwyr sy’n llenwi’r ffurflenni yn dod yn fwy cyfarwydd â’r system. Mae hyn yn gyson â gostyngiad cyffredinol yn yr amser mae’n ei gymryd i anfon adroddiadau at yr Awdurdod dros yr un cyfnod (nid yw hyn wedi’i ddangos yn y tablau na’r siartiau).

Gallai rhai materion tymhorol ddylanwadu ar ddiwygiadau i’r data. Er enghraifft, diwygion ni mwy ar amcangyfrifon mis Gorffennaf 2018 na’r misoedd o’i gwmpas. Fodd bynnag, nid ydym yn gweld unrhyw batrymau tymhorol amlwg yn y data ar gyfer 2019 ac yn 2020 hyd yn hyn. Ond, bydd angen i ni gael o leiaf flwyddyn arall o ddata i asesu unrhyw faterion tymhorol sy’n gysylltiedig â’r data.

Gwnaed diwygiad am i lawr i'r dreth amhreswyl oedd yn ddyledus ar gyfer mis Ebrill 2019 (rhwng yr amcangyfrif cyntaf a'r ail). Cafodd trafodiad amhreswyl a ddaeth i rym ym mis Ebrill 2019 ei nodi'n anghywir fel yn rhy mawr a chafodd ei ddiwygio’n ddiweddarach.

Diwygiadau rhwng yr ail a thrydydd amcangyfrifon cyhoeddedig

Mewn taenlen a gyhoeddir ochr yn ochr â’r datganiad ystadegol hwn, mae Tablau 1 a 2 yn dangos y gwahaniaeth rhwng yr amcangyfrifon cyhoeddegig cyntaf, ail a thrydydd ar gyfer mis.

Rydym yn gweld cynnydd cymharol fach a rhwng yr ail amcangyfrif a’r trydydd amcangyfrif am fis. Yn gyffredinol, felly y mae pethau hefyd gyda’r amcangyfrifon hwyrach am fis (ni ddangosir hyn yn y tablau). Fodd bynnag, gwellir gweld gostyngiadau yn yr ail amcangyfrif, y trydydd amcangyfrif a’r amcangyfrifon hwyrach o’r dreth sy’n ddyledus am fis. Y rheswm am hyn yw bod y data’n cael ei ddangos yn net o unrhyw ad-daliadau am drafodiadau preswyl cyfradd uwch. Gellir hawlio’r ad-daliadau hyn sawl blwyddyn ar ôl y dyddiad pryd daw’r trafodiad gwreiddiol i rym. Rydym yn dadansoddi ad-daliadau yn adran 6 o'r datganiad ystadegol hwn.

Yn y dyfodol, gallen ni fod yn ystyried cymhwyso ffactor grosio i amcangyfrifon cyntaf mis. Gallai hyn fod yn gymorth i ostwng nifer y diwygiadau sydd eu hangen ar amcangyfrif cyntaf y mis. Gan fod y data’n ymddangos yn anwadal hyd yma, mae’n debygol y bydd angen i ni gael sawl blwyddyn o ddata Treth Trafodiadau Tir er mwyn cyfrifo ffactorau grosio priodol.

Yn gyffredinol, rydym yn gweld diwygiadau mwy o faint yn y data ar drafodiadau amhreswyl nag ar drafodiadau preswyl. Mae hyn yn adlewyrchu natur anwadal y trafodiadau amhreswyl, a’r ffaith eu bod yn fwy o faint yn aml.

Dolenni i’r tudalennau gwybodaeth allweddol am ansawdd a rhestr termau

Ein tudalen gwybodaeth allweddol am ansawdd yn disgrifio sut mae eing hystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn bodloni'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ynghyd â dimensiynau gwerth, dibynadwyedd ac ansawdd.

Rydym yn diffinio termau perthnasol yn y rhestr termau fel y’u defnyddir yn y datganiad.

Adborth a manylion cyswllt

Byddem yn ddiolchgar iawn o’ch adborth ar yr ystadegau hyn, er mwyn ein helpu i'w gwella. Cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion isod.

Ystadegydd: Dave Jones

Rhif ffôn: 03000 254 729

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 03000 254 770

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.