Neidio i'r prif gynnwy

Pwyntau allweddol

O ran gwastraff a waredwyd i safleoedd tirlenwi yn y cyfnod Gorffennaf i Fedi 2019:

  • Bu 283 mil tunnell o warediadau awdurdodedig. Mae’n is nag yn yr un cyfnod yn 2018.
     
  • Yr oedd y gwarediadau hyn yn golygu bod £11.0 miliwn o dreth yn ddyledus. Mae’n lleihad o 19% ers yr un cyfnod yn 2018.
     
  • Roedd y pum gweithredwr safle tirlenwi oedd yn talu’r swm mwyaf o dreth yn cyfrif 87% yr holl dreth yn ddyledus.
     
  • Mae 17 o weithredwyr safleoedd tirlenwi awdurdodedig yn cwmpasu 23 safle.

Gellir cael mwy o wybodaeth am y gweithredwyr safleoedd tirlenwi hyn ar wefan yr Awdurdod.

Siart 1  yn cynnwys pwysau a threth yn ddyledus ar wastraff a waredwyd i safleoedd tirlenwi, yn ôl chwarter.

Ynglŷn â’r ystadegau yma

O fis Ebrill 2018, disodlwyd y Dreth Tirlenwi yng Nghymru gan Dreth Gwarediadau Tirlenwi a chaiff ei chasglu a’i rheoli gan yr Awdurdod, yr awdurdod treth newydd ar gyfer Cymru.

Derbyniodd Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 Gydsyniad Brenhinol ar 7 Medi 2017. Fel Treth Tirlenwi, mae Treth Gwarediadau Tirlenwi yn dreth ar waredu gwastraff i dirlenwi a chodir y dreth yn ôl pwysau. Mae’n daladwy gan weithredwyr safleoedd tirlenwi, sy’n trosglwyddo’r costau hyn i weithredwyr gwastraff eraill drwy eu ffi glwyd. Mae'r dreth yn cymell dargyfeirio gwastraff o safleoedd tirlenwi i ddulliau eraill llai niweidiol o reoli gwastraff fel ailgylchu a llosgi.

Mae'r datganiad hwn yn cynnwys amcangyfrifon chwarterol yn seiliedig ar y cyfnod cyfrifyddu o dri mis diweddaraf ar gyfer pob gweithredwr safle tirlenwi. Mae pob un o’r ffurflenni Treth Gwarediadau Tirlenwi hynny’n destun dilysu fel rhan o waith lliniaru ac adfer a wneir fel mater o drefn gan yr Awdurdod ac a all, o’r herwydd, gael ei ddiwygio yn y dyfodol. Mae’r adran ganlynol yn disgrifio y dulliau a ddefnyddiwyd i ganfod yr ystadegau o’r data a ddarparwyd yn y ffurflenni.

Mae'r holl ddata a ddefnyddir yn y datganiad ystadegol hwn ar gael mewn taenlen ar y dudalen ystadegau cryno.

Wrth ddarllen y datganiad ystadegol hwn dylai defnyddwyr gyfeirio at y rhestr termau a’r wybodaeth allweddol am ansawdd a gyhoeddir ar wahân. Mae’r termau perthnasol yn cael eu diffinio yn y rhestr termau fel y’u defnyddir yn y datganiad. Mae'r dudalen gwybodaeth allweddol am ansawdd yn disgrifio sut mae ystadegau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn bodloni'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ynghyd â dimensiynau gwerth, dibynadwyedd ac ansawdd.

Dulliau a ddefnyddiwyd yn y datganiad hwn

Cyfnodau cyfrifyddu

Mae gan y rhan fwyaf o weithredwyr safleoedd tirlenwi gyfnodau cyfrifyddu safonol ar gyfer adrodd i'r Awdurdod. Mae'r rhain yn cyd-fynd â diwedd ein chwarteri adrodd. Mae nifer fach o weithredwyr safleoedd tirlenwi yn defnyddio dyddiadau dechrau a gorffen gwahanol ar gyfer adrodd i’r Awdurdod. Mae'r diagram hwn yn egluro sut yr ydym yn ymdrîn â’r mater hwn wrth gynhyrchu amcangyfrifon ar gyfer y chwarteri adrodd cyfredol a blaenorol.

Rhyddhad a disgowntiau

Pan gyfeirir at wastraff gan nodi ei fod wedi derbyn rhyddhad, bydd hyn wedi’i gofnodi’n wreiddiol gan weithredwyr y safleoedd tirlenwi fel gwastraff lefel is ac yna wedi’i dynnu ymaith mewn rhan ddilynol o’r ffurflen. Mae’r datganiad hwn yn adrodd ar y gwastraff sy’n destun rhyddhad yn y categori rhyddhad neu ddisgownt ond nid yn rhan o’r categori cyfradd is. Mae pwysau unrhyw wastraff y rhoddwyd disgownt mewn perthynas ag ef oherwydd disgownt dŵr wedi’i gynnwys yn y categori rhyddhad neu ddisgownt yn unig.

Gwarediadau heb awdurdod

Does dim data ar gael eto ar warediadau heb awdurdod. Byddwn yn cadw’r agwedd hon dan adolygiad a gallem ddiwygio’r data ar gyfer y chwarter hwn wrth i unrhyw gwarediadau heb awdurdod ddod i law. 

Ansolfedd cwsmer

Mae’r system Treth Gwarediadau Tirlenwi yn caniatáu rhoi credyd yn erbyn y dreth sy’n ddyledus ar gyfer ansolfedd cwsmer. Yn flaenorol, cafodd swm bychan iawn o gredyd ei hawlio gan un gweithredwr yn ystod chwarter adrodd Gorffennaf i Fedi 2018. Fodd bynnag, roedd y cais hwn bellach wedi'i wrthod gan yr Awdurdod ac roedd treth yn ddyledus ar y swm hwn. 

Cafodd swm bach o gredyd ei hawlio yn y chwarter adrodd cyfredol, sy'n ddarostyngedig i gymeradwyaeth derfynol. Yn y datganiad ystadegol hwn, mae'r swm hwn wedi cael ei dynnu o gyfanswm y dreth sy’n ddyledus

Gwarediadau esempt

Gall rhai enghreifftiau o waredu deunyddiau gael eu hystyried yn esempt rhag Dreth Gwarediadau Tirlenwi ac felly ni fyddant yn cael eu hadrodd i'r Awdurdod. Ni chesglir unrhyw ddata ar y gwarediadau esempt hyn.

Dadansoddiad

Cyfraddau treth sy’n berthnasol i Dablau 1a a 1b

 

Cyfradd safonol

Cyfradd is

Cyfradd gwarediadau heb eu hawdurdodi
(ddim yn Nhablau 1a a 1b)

2018-19

£88.95 y dunnell

£2.80 y dunnell

£133.45 y dunnell

2019-20

£91.35 y dunnell

£2.90 y dunnell

£137.00 y dunnell

2020-21

£94.15 y dunnell

£3.00 y dunnell

£141.20 y dunnell

Tabl 1a: Pwysau o wastraff a waredwyd i safleoedd tirlenwi [1]

Pwysau a waredwyd (‘000 tunnell) [2]
  Rhyddhad neu ddisgownt [3] (r) Cyfradd is (r) Cyfradd safonol Cyfanswm [4]
2018-19 410 535 483 1,428
  Ebr - Meh 18 89 146 125 360
  Gor - Med 18 98 119 149 366
  Hyd - Rha 18 128 131 109 368
  Ion - Maw 19 96 138 100 334
2019-20 hyd yn hyn (p) 56 248 226 531
  Ebr - Meh 19 (r) 32 106 110 248
  Gor - Med 19 (p) 24 142 117 283

Ystadegau'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn ôl cyfnod adrodd, cyfradd treth a mesur

[1]    Nid yw’r tabl hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth am warediadau heb awdurdod gan nad oes unrhyw ddata ar gael eto.                
[2]    Mae’r pwysau a gyflwynwyd wedi’u talgrynnu i’r 1,000 tunnell agosaf.
[3]    Mae hyn yn cynnwys pwysau dŵr a dynnwyd o wastraff a waredwyd, ar gyfradd sero, a phwysau’r holl wastraff sy’n destun unrhyw ryddhad Treth Gwarediadau Tirlenwi.
[4]    Mae’r cyfanswm a gyflwynwyd wedi’i gyfrifo ar sail y gwerthoedd heb eu talgrynnu.
(p)    Mae'r gwerthoedd yn rhai dros dro a byddant yn cael eu diwygio mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.
(r)     Mae'r gwerthoedd wedi cael eu diwygio yn y cyhoeddiad hwn.

 

Yn Ngorffennaf i Fedi 2019, roedd 283 mil tunnell o warediadau awdurdodedig, yn is nag yn yr un cyfnod yn 2018. Roedd hyn yn bennaf oherwydd lefelau is o wastraff gafodd ryddhad a disgownt yn y cyfnod diweddaraf.

Yn ddiweddar, mae tîm gweithrediadau Treth Gwarediadau Tirlenwi yn yr Awdurdod wedi canolbwyntio ar sicrhau bod gweithredwyr yn cymhwyso’r rhyddhadau cywir. Gall hyn fod yn ffactor yn y lefelau is o wastraff sydd wedi’i ryddhau neu wedi’i ddisgowntio a welwyd hyd yma yn 2019-20 (o'i gymharu â phob cyfnod o dri mis yn 2018-19). Gall lefelau gwastraff wedi’i ryddhau a’i ddisgowntio amrywio'n fawr dros amser ac felly, gallent gynyddu o'r lefelau is hyn mewn cyfnodau yn y dyfodol.

Ar gyfer gwastraff cyfradd safonol, roedd y pwysau a waredwyd ym mis Gorffennaf i fis Medi 2019 yn is nac yn ystod yr un cyfnod yn 2018. Fodd bynnag, roedd pwysau’r gwastraff cyfradd is a waredwyd ym mis Gorffennaf i fis Medi 2019 yn uwch nag yr oedd flwyddyn ynghynt. Efallai bod rhywfaint o'r cynnydd hwn o ganlyniad i newid wrth gofnodi gwastraff o'r gyfradd safonol i'r gyfradd is. Ond mae'n debygol mai’r prif reswm yw ffocws yr Awdurdod ar weithredwyr yn cymhwyso rhyddhadau’n gywir.

Diwygiadau a wnaed yn y rhifyn hwn o'r datganiad

Cafodd sawl diwygiad ei wneud i’r data blaenorol yn y datganiad hwn. Mae hyn oherwydd bod sawl gweithredwr wedi newid eu ffurflenni treth blaenorol.

Yn 2018-19, mae rhywfaint o wastraff wedi cael ei ailddosbarthu rhwng y gyfradd is a gwastraff wedi’i ryddhau neu wedi’i ddisgowntio. Felly, mae'r ddwy golofn hon yn Nhabl 1a wedi'u marcio fel rhai sydd wedi’u diwygio. Nid yw'r diwygiadau hyn wedi effeithio ar gyfanswm pwysau’r gwastraff.

Mae pwysau’r gwastraff sydd wedi’i ryddhau neu ei ddisgowntio yn Ebrill i Fehefin 2019 wedi cael ei ddiwygio i lawr o 71 mil o dunelli yn y datganiad blaenorol i 32 mil o dunelli nawr. Mae'r gostyngiad hwn yn adlewyrchu ffocws yr Awdurdod y soniwyd amdano ynghynt ar weithredwyr yn cymhwyso rhyddhadau’n gywir.

Tabl 1b: Treth ddyledus ar wastraff a waredwyd i safleoedd tirlenwi [1]

Treth yn ddyledus (£ miliwn) [2]
  Cyfradd is [3] Cyfradd safonol Cyfanswm Swm y dreth a ryddhawyd [4]
2018-19 1.5 43.0 44.5 1.0
  Ebr - Meh 18 0.4 11.2 11.6 0.2
  Gor - Med 18 0.3 13.3 13.6 0.2
  Hyd - Rha 18  0.4 9.7 10.0 0.3
  Ion - Maw 19  0.4 8.9 9.3 0.2
2019-20 hyd yn hyn (p) 0.7 20.6 21.3 0.1
  Ebr - Meh 19 (r) 0.3 10.0 10.3 0.1
  Gor - Med 19 (p) 0.4 10.6 11.0 0.1

Ystadegau'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn ôl cyfnod adrodd, cyfradd treth a mesur

[1]    Nid yw’r tabl hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth am warediadau heb awdurdod gan nad oes unrhyw ddata ar gael eto.
[2]    Mae’r gwerthoedd a gyflwynwyd wedi’u talgrynnu i’r £0.1 miliwn agosaf.
[3]    Mae’r cyfanswm a gyflwynwyd wedi’i gyfrifo ar sail y gwerthoedd heb eu talgrynnu.
[4]    Dyma’r gostyngiad mewn treth o ganlyniad i'r ceisiadau am ryddhad. Nid yw'r swm yn cynnwys unrhyw elfen am ddisgownt dŵr, nad yw’n cael ei drethu.
(p)    Mae'r gwerthoedd yn rhai dros dro a byddant yn cael eu diwygio mewn cyhoeddiad yn y dyfodol. 
(r)     Mae'r gwerthoedd wedi cael eu diwygio yn y cyhoeddiad hwn.

 

Arweiniodd y gwarediadau hyn ar gyfer Gorffennaf i Fedi 2019 at £11.0 miliwn o dreth yn ddyledus lleihad o 19% ers yr un cyfnod yn 2018. Y prif reswm am hyn oedd lleihad mewn gwarediadau ar y gyfradd safonol gan nifer bach o weithredwyr safleoedd tirlenwi.

Efallai bod tystiolaeth cynyddu o batrwm tymhorol yn dod i’r amlwg yn y data, gyd dyddiau byrrach misoedd y gaeaf yn ffactor o bosib. Yn y dyfodol, efallai y byddwn yn gallu cadw’r effeithiau yma ar wahan i’r tueddiadau mwy cyffredinol yn y data. Ond byddwn angen gwerth sawl blwyddyn o ddata cyn i hynny fod yn bosibl.

Yn Ngorffennaf i Fedi 2019, roedd y pum gweithredwr safle tirlenwi oedd yn talu’r swm mwyaf o dreth yn cyfrif 87% yr holl dreth a dalwyd. Mewn cyfnodau o dri mis cyn hyn, mae'r ffigur wedi amrywio rhwng 80-90%.

Mae’r gwerth ar gyfer swm y dreth a ryddhawyd yn cynrychioli faint o dreth fyddai wedi bod yn ddyledus pe nad fyddai’r rhyddhad wedi’i ganiatáu.

Mae 17 o weithredwyr safleoedd tirlenwi awdurdodedig yn cwmpasu 23 safle.

Derbyniadau o Dreth Gwarediadau Tirlenwi

Rydym Tabl 2 isod sy’n dangos derbyniadau chwarterol ar gyfer y Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Mae hyn yn seiliedig ar y dyddiad y cafwyd y taliad, a elwir yn 'ar sail arian parod' weithiau.

Tabl 2: Treth Gwarediadau Tirlenwi a dalwyd i’r Awdurdod [1]

  Gwerth taliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (£ miliwn)
2018-19 35.8
 

Ebr - Med 18 [2]

12.2
  Hyd - Rha 18 13.5
  Ion - Maw 19 10.1
2019-20 hyd yn hyn (p) 19.3
  Ebr - Meh 19 9.2
  Gorf - Med 19 10.1

[1]    Mae’r gwerthoedd a gyflwynwyd wedi’u talgrynnu i’r £0.1 miliwn agosaf.
[2]    Mae’r ffigurau o fis Ebrill i fis Mehefin 2018 wedi cael eu cyfuno i ffigurau mis Gorffennaf i fis Medi 2018. Mae oherwydd nifer fechan y darparwyr a oedd eisoes wedi cyflwyno ffurflenni ac wedi talu cyn diwedd mis Mehefin (cyflwynodd a thalodd y rhan fwyaf ohonynt ym mis Gorffennaf).

 

Yn Ngorffennaf i Fedi 2019, cafodd yr Awdurdod £10.1 miliwn o daliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi, ychydig yn uwch na'r tri mis blaenorol.

Mae'r tueddiadau yn y data yma ychydig yn wahanol i'r data treth sy'n ddyledus. Mae hyn oherwydd bod yr union gyfnodau cyfrifyddu y cytunwyd arnynt gyda'r gweithredwyr Treth Gwarediadau Tirlenwi a'r dyddiadau talu sy'n deillio o hynny yn dylanwadu ar y tueddiadau yma. Gall hyn olygu bod taliadau’n disgyn mewn  gwahanol chwarteri i'r gweithgareddau perthnasol.

Dolenni i’r tudalennau gwybodaeth allweddol am ansawdd a rhestr termau

Mae'r dudalen gwybodaeth allweddol am ansawdd yn disgrifio sut mae eing hystadegau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn bodloni'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ynghyd â dimensiynau gwerth, dibynadwyedd ac ansawdd.

Rydyn ni’n diffinio termau perthnasol yn y rhestr termau fel y’u defnyddir yn y datganiad.

Adborth a manylion cyswllt

Byddem yn ddiolchgar iawn o’ch adborth ar yr ystadegau hyn, er mwyn ein helpu i'w gwella.

Dave Jones

Rhif ffôn: 03000 254 729

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Media

Rhif ffôn: 03000 254 770

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.