Ystadegau ar warediadau gwastraff i safleoedd tirlenwi a’r dreth sy’n ddyledus, ar gyfer Ebrill i Fehefin 2025.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Treth Gwarediadau Tirlenwi
Diben y Dreth Gwarediadau Tirlenwi yw:
- lleihau faint o wastraff sy'n mynd i safleoedd tirlenwi
- annog dulliau llai niweidiol o reoli gwastraff fel ailgylchu a llosgi
Mae gan y dreth rôl bwysig yng nghynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflawni allyriadau sero net.
Mae’r ystadegau chwarterol hyn yn cynnwys data a sylwebaeth ar:
- y pwysau a’r dreth sy’n ddyledus ar warediadau awdurdodedig y wastraff, yn ôl cyfradd y dreth
- pwysau’r deunydd a dderbyniodd ryddhad neu ddisgownt
- dadansoddiad o bwysau cyfradd is yn ronynnau mân cymwys, gyda gronynnau mân anghymwys wedi'i grwpio'n dri chategori yn ôl cod y Rhestr Wastraffoedd (LoW)
Adroddiadau
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
