Neidio i'r prif gynnwy

Prif bwyntiau

O ran gwastraff a waredwyd i safleoedd tirlenwi yn y cyfnod Ebrill i Fehefin 2019:

  • bu 292 mil tunnell o warediadau awdurdodedig. Mae’n is nag yn yr un cyfnod yn 2018.
  • yr oedd y gwarediadau hyn yn golygu bod £10.4 miliwn o dreth yn ddyledus. Mae’n lleihad o 10% ers yr un cyfnod yn 2018.
  • roedd y 5 gweithredwr safle tirlenwi oedd yn talu’r swm mwyaf o dreth yn cyfrif 88% yr holl dreth yn ddyledus
  • mae 17 o weithredwyr safleoedd tirlenwi awdurdodedig yn cwmpasu 23 safle

Gellir cael mwy o wybodaeth am y gweithredwyr safleoedd tirlenwi hyn ar wefan yr Awdurdod.

Siart 1: Pwysau a threth yn ddyledus ar wastraff a waredwyd i safleoedd tirlenwi, yn ôl chwarter

Siart 1  yn cynnwys pwysau a threth yn ddyledus ar wastraff a waredwyd i safleoedd tirlenwi, yn ôl chwarter

Ynglŷn â’r ystadegau yma

O fis Ebrill 2018, disodlwyd y Dreth Tirlenwi yng Nghymru gan Dreth Gwarediadau Tirlenwi a chaiff ei chasglu a’i rheoli gan yr Awdurdod, yr awdurdod treth newydd ar gyfer Cymru.

Derbyniodd Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 Gydsyniad Brenhinol ar 7 Medi 2017. Fel Treth Tirlenwi, mae Treth Gwarediadau Tirlenwi yn dreth ar waredu gwastraff i dirlenwi a chodir y dreth yn ôl pwysau. Mae’n daladwy gan weithredwyr safleoedd tirlenwi, sy’n trosglwyddo’r costau hyn i weithredwyr gwastraff eraill drwy eu ffi glwyd. Mae'r dreth yn cymell dargyfeirio gwastraff o safleoedd tirlenwi i ddulliau eraill llai niweidiol o reoli gwastraff fel ailgylchu a llosgi.

Mae'r datganiad hwn yn cynnwys amcangyfrifon chwarterol yn seiliedig ar y cyfnod cyfrifyddu o dri mis diweddaraf ar gyfer pob gweithredwr safle tirlenwi. Mae pob un o’r ffurflenni Treth Gwarediadau Tirlenwi hynny’n destun dilysu fel rhan o waith lliniaru ac adfer a wneir fel mater o drefn gan yr Awdurdod ac a all, o’r herwydd, gael ei ddiwygio yn y dyfodol. Mae’r adran ganlynol yn disgrifio y dulliau a ddefnyddiwyd i ganfod yr ystadegau o’r data a ddarparwyd yn y ffurflenni.

Mae'r holl ddata a ddefnyddir yn y datganiad ystadegol hwn ar gael mewn taenlen ar y dudalen ystadegau cryno

Wrth ddarllen y datganiad ystadegol hwn dylai defnyddwyr gyfeirio at y rhestr termau a’r wybodaeth allweddol am ansawdd a gyhoeddir ar wahân. Mae’r termau perthnasol yn cael eu diffinio yn y rhestr termau fel y’u defnyddir yn y datganiad. Mae'r dudalen gwybodaeth allweddol am ansawdd yn disgrifio sut mae ystadegau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn bodloni'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ynghyd â dimensiynau gwerth, dibynadwyedd ac ansawdd.

Defnyddir y symbolau canlynol yn y datganiad hwn:

r    Mae’r gwerth hwn wedi ei ddiwygio yn y cyhoeddiad hwn

p    Mae’r gwerth hwn dros dro a bydd yn cael ei ddiwygio mewn cyhoeddiad yn y dyfodol

Dulliau a ddefnyddiwyd yn y datganiad hwn

Mae gan y rhan fwyaf o weithredwyr safleoedd tirlenwi gyfnodau cyfrifyddu safonol ar gyfer adrodd i'r Awdurdod. Mae'r rhain yn cyd-fynd â diwedd ein chwarteri adrodd. Mae nifer fach o weithredwyr safleoedd tirlenwi yn defnyddio dyddiadau dechrau a gorffen gwahanol ar gyfer adrodd i’r Awdurdod.

Rhyddhad a disgowntiau

Pan gyfeirir at wastraff gan nodi ei fod wedi derbyn rhyddhad, bydd hyn wedi’i gofnodi’n wreiddiol gan weithredwyr y safleoedd tirlenwi fel gwastraff lefel is ac yna wedi’i dynnu ymaith mewn rhan ddilynol o’r ffurflen. Mae’r datganiad hwn yn adrodd ar y gwastraff sy’n destun rhyddhad yn y categori rhyddhad neu ddisgownt ond nid yn rhan o’r categori cyfradd is. Mae pwysau unrhyw wastraff y rhoddwyd disgownt mewn perthynas ag ef oherwydd disgownt dŵr wedi’i gynnwys yn y categori rhyddhad neu ddisgownt yn unig.

Gwarediadau heb awdurdod

Does dim data ar gael eto ar warediadau heb awdurdod. Byddwn yn cadw’r agwedd hon dan adolygiad a gallem ddiwygio’r data ar gyfer y chwarter hwn wrth i unrhyw gwarediadau heb awdurdod ddod i law. 

Ansolfedd cwsmer

Mae’r system Treth Gwarediadau Tirlenwi yn caniatáu rhoi credyd yn erbyn y dreth sy’n ddyledus ar gyfer ansolfedd cwsmer. Yn flaenorol, cafodd swm bychan iawn o gredyd ei hawlio gan un gweithredwr yn ystod chwarter adrodd Gorffennaf i Fedi 2018. Fodd bynnag, mae'r cais hwn bellach wedi'i wrthod gan ACC ac mae treth bellach yn ddyledus ar y swm hwn. Felly, mae newid bychan iawn wedi'i wneud erbyn hyn i'r ffigurau ar gyfer mis Gorffennaf i fis Medi 2018, nad yw wedi effeithio ar y symiau wedi’u talgrynnu a gyflwynir ar gyfer y dreth sy’n ddyledus a gyflwynir yn y datganiad hwn.

Ni fu unrhyw achosion eraill o'r credyd hwn yn cael ei hawlio hyd yma. Os bydd unrhyw gredyd yn cael ei hawlio yn y dyfodol, caiff ei dynnu o’r ffigurau cyfanswm treth sy’n ddyledus a ddangosir yn y datganiad hwn.

Gwarediadau esempt

Gall rhai enghreifftiau o waredu deunyddiau gael eu hystyried yn esempt rhag Dreth Gwarediadau Tirlenwi ac felly ni fyddant yn cael eu hadrodd i'r Awdurdod. Ni chesglir unrhyw ddata ar y gwarediadau esempt hyn.

Dadansoddiad

Cyfraddau treth sy’n berthnasol i Dablau 1a a 1b

 

2018-19

2019-20

Cyfradd safonol

£88.95 y dunnell

£91.35 y dunnell

Cyfradd is

£2.80 y dunnell

£2.90 y dunnell

Cyfradd gwarediadau heb eu hawdurdodi (ddim yn Nhablau 1a a 1b)

£133.45 y dunnell

£137.00 y dunnell

Tabl 1a: Pwysau o wastraff a waredwyd i safleoedd tirlenwi [1]

Mae Tabl 1a yn dangos pwysau'r gwastraff a gafodd ei waredu i safleoedd tirlenwi, yn ôl y gyfradd dreth ac yn ôl chwarter.

Yn Ebrill i Fehefin 2019, roedd 292 mil tunnell o warediadau awdurdodedig, yn is nag yn yr un cyfnod yn 2018. 

Roedd pwysau'r gwastraff a gafodd ei waredu ym mis Ebrill i Fehefin 2019 yn is nac yn ystod yr un cyfnod yn 2018 ym mhob un o'r tri chategori a ddangosir yn Nhabl 1a (gwarediadau cyfradd safonol, gwarediadau cyfradd is a rhyddhad neu ddisgownt)

Tabl 1b: Treth ddyledus ar wastraff a waredwyd i safleoedd tirlenwi [1]

Mae Tabl 1b yn dangos y dreth ddyledus ar wastraff a gafodd ei waredu i safleoedd tirlenwi, yn ôl y gyfradd dreth ac yn ôl chwarter.

Arweiniodd y gwarediadau hyn ar gyfer Ebrill i Fehefin 2019 at £10.4 miliwn o dreth yn ddyledus lleihad o 10% ers yr un cyfnod yn 2018. Y prif reswm am hyn oedd lleihad mewn gwarediadau ar y gyfradd safonol gan nifer bach o weithredwyr safleoedd tirlenwi. 

Efallai bod tystiolaeth o batrwm tymhorol yn dod i’r amlwg yn y data, gyd dyddiau byrrach misoedd y gaeaf yn ffactor o bosib. Byddwn yn ymchwilio i hyn ymhellach wrth i ni dderbyn mwy o ddata.  

Yn Ebrill i Fehefin 2019, roedd y pum gweithredwr safle tirlenwi oedd yn talu’r swm mwyaf o dreth yn cyfrif 88% yr holl dreth a dalwyd. 
Mae’r gwerth ar gyfer swm y dreth a ryddhawyd yn cynrychioli faint o dreth fyddai wedi bod yn ddyledus pe nad fyddai’r rhyddhad wedi’i ganiatáu.

Mae’r gwerth ar gyfer swm y dreth a ryddhawyd yn cynrychioli faint o dreth fyddai wedi bod yn ddyledus pe nad fyddai’r rhyddhad wedi’i ganiatáu.

Mae 17 o weithredwyr safleoedd tirlenwi awdurdodedig yn cwmpasu 23 safle.

Derbyniadau o Dreth Gwarediadau Tirlenwi

Rydym Tabl 2 isod sy’n dangos derbyniadau chwarterol ar gyfer y Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Mae hyn yn seiliedig ar y dyddiad y cafwyd y taliad, a elwir yn 'ar sail arian parod' weithiau.

Tabl 2: Treth Gwarediadau Tirlenwi a dalwyd i’r Awdurdod [1]

Mae Tabl 2 yn dangos gwerth taliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi a wnaed i’r Awdurdod, yn ôl chwarter.

Yn Ebrill i Fehefin 2019, cafodd yr Awdurdod £9.2 miliwn o daliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi, yn is nag yn Ionawr i Fawrth 2019.

Dolenni i’r tudalennau gwybodaeth allweddol am ansawdd a rhestr termau

Manylion cyswllt

Dave Jones

Rhif ffôn: 03000 254 729

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 03000 254 770

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.