Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae bodloni anghenion holl ddefnyddwyr ystadegau yn rhan allweddol o’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Mae Egwyddor V1 o'r Cod yn dweud y dylai defnyddwyr ystadegau a data fod yn ganolog i lunio ystadegau. Dylid deall anghenion defnyddwyr ystadegau, gofyn am eu barn a gweithredu yn unol â hi, a dylid eu cefnogi i ddefnyddio ystadegau. Mae’r strategaeth hon yn disgrifio dull Gwasanaethau Ystadegol yn Llywodraeth Cymru o ymgynghori â defnyddwyr a rhoi gwybodaeth iddynt. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn anelu at gynnal ei gweithgareddau ymgysylltu â defnyddwyr yn unol â strategaeth ymgysylltu â defnyddwyr Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth ar gyfer ystadegau.

Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi amrywiaeth eang o ystadegau am lawer o bynciau, o'r economi i wasanaethau cyhoeddus fel llywodraeth leol, iechyd ac addysg yn ogystal â gwybodaeth ehangach am y boblogaeth a'r amgylchedd. Mae deall anghenion holl ddefnyddwyr yr ystadegau hyn, sydd mor amrywiol, gan ystyried pob lefel o arbenigedd, yn rhan elfennol o'n gwaith wrth lunio ystadegau. Rydym yn rhoi gwybod i’n defnyddwyr am ein cynlluniau a’n gweithgarwch er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn dryloyw yn ein dull ac er mwyn sicrhau bod ein gwaith yn cael yr effaith fwyaf bosibl ar gyfer cefnogi’r broses o wneud penderfyniadau a’r ddadl gyhoeddus yn well.

Rydym yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi cyfraniad defnyddwyr i drafodaethau ynglŷn â blaenoriaethau a meysydd i'w gwella, o'r penderfyniadau am y data y dylid eu casglu i'r fformat a ddefnyddir i'w rhannu. Rydym yn ymgynghori â defnyddwyr i ofyn am eu hadborth a’u syniadau. Mae hyn yn sicrhau bod ein gwaith ystadegol yn seiliedig ar ystod eang o flaenoriaethau defnyddwyr ac yn parhau i fod yn berthnasol i’r ddadl gyhoeddus.

Cynlluniau ystadegol

Rydym yn cyhoeddi gwybodaeth am ein cyfres reolaidd o allbynnau ystadegol ar ein gwefan, gan gyhoeddi ymlaen llaw ar ba ddyddiadau y bydd allbynnau yn cael eu cyhoeddi. Drwy flog y Prif Ystadegydd a diweddariadau Chwarterol Ystadegau Cymru rydym yn rhoi gwybod i ddefnyddwyr am flaenoriaethau ystadegol a chynlluniau gwella. Mae'r cynlluniau hyn yn ystyried anghenion defnyddwyr a nodwyd wrth gyfathrebu'n rheolaidd â defnyddwyr ystadegau yn Llywodraeth Cymru a'r tu allan, drwy ystod o ddulliau.

Rydym yn gwahodd sylwadau ar ein cynlluniau a'n blaenoriaethau ac yn ystyried adborth a dderbyniwyd oddi wrth bob defnyddiwr, yn fewnol ac allanol, ar ein gwaith gydol y flwyddyn i sicrhau bod ein gwaith ystadegol yn ystyried y blaenoriaethau sy'n dod i'r amlwg.

Adborth gan ddefnyddwyr

Rydym yn cydnabod y gall defnyddwyr gyfrannu mewn modd defnyddiol at drafodaethau ynghylch blaenoriaethau a gwelliannau y gellid eu gwneud i’n hystadegau.

Gwahoddir defnyddwyr i roi adborth ar gyflwyniad, defnyddioldeb a chynnwys allbynnau ystadegol Llywodraeth Cymru a phlatfformau ar-lein fel StatsCymru, neu wefannau ystadegol rhyngweithiol.

Rydym yn ceisio sicrhau ei bod yn haws ichi fynegi eich barn drwy roi cyfle ichi roi adborth ar bob allbwn.

Darperir cyfeiriad e-bost cyswllt a gwefan mewn lleoliad clir ar gyfer pob allbwn ystadegol.

Rydym hefyd yn defnyddio blogiau a Twitter i roi gwybod i bobl am ein hystadegau cyhoeddedig ac am ddatblygiadau ystadegol. Mae hyn hefyd yn cynnig cyfle i unigolion roi sylwadau ar ein gwaith. Er enghraifft, gwnaethom benderfynu adolygu dyfodol proffiliau economaidd rhanbarthol. Gwnaethom amlinellu ein cynlluniau ar gyfer hyn mewn blog gan y Prif Ystadegydd ym mis Tachwedd 2021 gan ofyn am adborth gan ddefnyddwyr ar ein cynigion.

Rydym yn ceisio rhoi gwybod ichi pa newidiadau rydyn ni wedi penderfynu eu gwneud i'n blaenoriaethau neu'n hallbynnau o ganlyniad i’ch adborth chi.

Byddwn yn chwilio bob amser am fodd o wella'r ffyrdd rydyn ni'n eu cynnig ichi ar gyfer rhoi adborth.

Grwpiau defnyddwyr

Rydym yn ymgynghori â defnyddwyr ar draws amrywiaeth o sefydliadau drwy grwpiau defnyddwyr rheolaidd. Mae'r grwpiau defnyddwyr hyn yn ein galluogi i feithrin perthynas well ag amrywiaeth o ddefnyddwyr ein hystadegau ac maent yn gallu bod yn fforymau ar gyfer rhoi gwybod i ddefnyddwyr am ein cynlluniau a'n gweithgareddau ac i ymgynghori â hwy.

Enghreifftiau o grwpiau defnyddwyr allweddol

Mae Pwyllgor Cyswllt Ystadegol Cymru yn fforwm ymgynghori allweddol sy'n cynnwys sefydliadau o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru. Defnyddir y Pwyllgor i drafod datblygiadau ystadegol dros y flwyddyn ac i ymgynghori arnynt. Mae papurau yn cael eu cyhoeddi ar gyfer Pwyllgor Cyswllt Ystadegol Cymru er mwyn sicrhau bod y sylfaen defnyddwyr ehangach yn gallu cael mynediad at y newyddion a'r cyflwyniadau diweddaraf.

Mae'r Panel Defnyddwyr Ystadegau'r Trydydd Sector i Gymru, a gafodd ei sefydlu ar y cyd â Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, yn dod â chynrychiolwyr ynghyd o'r trydydd sector i roi gwybodaeth i'r sector ac i ymgynghori ynghylch materion ystadegol. Cyhoeddir cofnodion Panel y Trydydd Sector er mwyn i eraill fod yn ymwybodol o'r ffordd rydym yn gweithio gyda'r sector ac iddynt hwy hefyd allu cyfrannu.

Rydym yn gweithio gyda chydweithwyr yn y Gymdeithas Ystadegol Frenhinol i sicrhau bod y grŵp lleol yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol posibl, a bod cymaint â phosibl yn cyfrannu at waith y grŵp.

Mae ein hystadegwyr hefyd yn cymryd rhan mewn grwpiau ac iddynt fwy o ffocws ar themâu penodol, fel Rhwydwaith Dadansoddwyr Iechyd Cymru, y Grŵp Gwybodaeth TaiGrŵp Defnyddwyr Ystadegau Economaidd Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi ym manc data SAIL (Secure Anonymised Data Linkage) ym Mhrifysgol Abertawe, ac mae’n rhan o bartneriaeth Llywodraeth Cymru ac addysg uwch o’r enw Ymchwil Data Gweinyddol (ADR) Cymru. Mae SAIL wedi sefydlu cyfres o ddigwyddiadau fforymau defnyddwyr a chymuned ar-lein i ddadansoddwyr sy’n gweithio yn yr amgylchedd ymchwil ddibynadwy. Mae hyn yn rhoi cyfle i ddadansoddwyr roi a chael adborth.

Rydym yn sefydlu grwpiau defnyddwyr a thechnegol ar gyfer prosiectau penodol, ee grwpiau llywio, cynghorol a pharth Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru. Mae'r rhain yn ein helpu i ddatblygu ein cynlluniau gwaith gyda mwy o ddealltwriaeth o anghenion defnyddwyr ac maent yn dylanwadu ar ddatblygiad a chynnydd llawer o'n prosiectau.

Cylchlythyrau a'r cyfryngau cymdeithasol

Mae ein presenoldeb ar Twitter yn ffordd allweddol o roi gwybod i ddefnyddwyr am ein cynnyrch a'n datblygiadau newydd. Rydym am ddefnyddio ein cyfrif Twitter yn well er mwyn gofyn am farn ac ysgogi dadl ar unrhyw gynnig ar gyfer newid.

Bydd y Prif Ystadegydd yn defnyddio ei flog/diweddariadau achlysurol i roi gwybod i ddefnyddwyr am ddatblygiadau diweddar neu i ofyn barn am faterion penodol.

Mae ein cylchlythyr Ystadegau ac Ymchwil, sy’n ymddangos bob pythefnos, yn cael ei ddefnyddio i roi gwybod i ddefnyddwyr sydd wedi tanysgrifio am ein hallbynnau diweddaraf a newyddion drwy e-bost.

Rydym wedi cyflwyno diweddariad chwarterol Ystadegau Cymru sydd yn cael ei gyhoeddi ar ein gwefan a'i gylchredeg i aelodau ein prif grwpiau cyswllt. Maent yn hysbysu defnyddwyr ystadegau Cymreig o ddatblygiadau diweddar, ymgynghoriadau a chynlluniau

Ymgyngoriadau

Rydym yn defnyddio ymgyngoriadau mwy ffurfiol a phenodol eu ffocws ar bynciau penodol er mwyn sicrhau ein bod yn ceisio safbwyntiau defnyddwyr mewn modd systematig sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Er enghraifft, yn ystod 2021 gwnaethom ymgynghori ar newidiadau i’r dangosyddion llesiant cenedlaethol. Roedd yr ymgynghoriad hwn yn cynnwys blogiau, sgyrsiau bord gron, gweminarau a thrafodaeth â phanel o bobl ifanc i sicrhau ystod eang o adborth.

Cyhoeddir pob ymgynghoriad sydd ar agor a’r rheini sydd wedi dod i ben, gan gynnwys y rheini sy'n ymwneud ag ystadegau, ar ein gwefan.

Rydym yn ymateb yn gyhoeddus i bob ymgynghoriad.

Seminarau a digwyddiadau

Rydym yn defnyddio seminarau a digwyddiadau i roi gwybodaeth i ddefnyddwyr ac i ymgynghori â hwy. Gall seminarau sydd wedi eu cynllunio’n dda sicrhau bod ein hystadegau yn cael yr effaith fwyaf posibl a gallant ysgogi pobl i’w defnyddio. Gall digwyddiadau i gefnogi ymgyngoriadau cyhoeddus sicrhau bod amrywiaeth ehangach o ddefnyddwyr yn gallu cyfrannu eu safbwyntiau. Mae'r rhain yn cael eu cynnal weithiau ar y cyd ag Awdurdod Ystadegau'r DU, y Swyddfa Ystadegau Gwladol neu rannau arall o Wasanaeth Ystadegol y Llywodraeth.

Rydym yn rhoi seminarau ar-lein er mwyn sicrhau bod defnyddwyr ym mhob cwr o Gymru yn gallu cyfrannu cymaint ag sy'n bosibl, megis sesiynau gwybodaeth rheolaidd Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru sy’n cynnig cyfleoedd ar gyfer cwestiynau a thrafodaethau.

Rydym hefyd yn cynrychioli Llywodraeth Cymru mewn ystod o seminarau, digwyddiadau neu gyfarfodydd allanol, a gofynnir yn aml inni siarad am yr amrywiaeth o wasanaethau a gynigir gennym. Er enghraifft, rydym yn cymryd rhan yn rheolaidd yn nigwyddiad Gofod 3 y Trydydd Sector a'r Digwyddiad Hysbysrwydd Cenedlaethol ar gyfer y sector cyhoeddus, ond bydd arbenigwyr pwnc hefyd yn cymryd rhan mewn cynadleddau a digwyddiadau sy'n berthnasol i'w pwnc lle y byddant yn cyfarfod â'r rheini sydd â diddordeb mewn data mewn maes arbennig.

Hyfforddiant

Rydym yn cynnal digwyddiadau hyfforddi i sicrhau bod ein staff yn cael y cyfle i barhau i wella'r ffordd rydym yn gweithio gyda'n defnyddwyr, ac yn deall beth sydd o ddiddordeb iddynt. Rydym hefyd yn annog staff i gymryd rhan mewn cyrsiau hyfforddi allanol, fel y rheini sy'n cael eu cynnal gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Gwasanaeth i gwsmeriaid

Rydym yn anelu at ddarparu gwasanaeth o safon i’n holl gwsmeriaid, gan gyrraedd y safonau gwasanaeth a nodir yn ein datganiad ar wasanaeth i gwsmeriaid a chwynion.