Ymgynghoriad ar ymestyn darpariaethau rhannu swydd ar gyfer aelodau etholedig prif gynghorau i rolau nad ydynt yn rhan o'r weithrediaeth
Hoffem gael eich barn am newidiadau arfaethedig i ymestyn trefniadau rhannu swydd ar gyfer aelodau etholedig mewn prif gynghorau i gynnwys rolau nad ydynt yn rhan o’r weithrediaeth.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cefnogi amrywiaeth
Mae cynghorau lleol yn gyfrifol am ystod eang o wasanaethau a materion. Gall y penderfyniadau y mae cynghorau'n eu gwneud effeithio ar unigolion a'r gymuned gyfan. Mae hyn yn golygu ei bod yn hanfodol bod pob grŵp a llais yn cael eu cynrychioli a'u clywed fel rhan o'n system ddemocrataidd.
At ddibenion y ddogfen ymgynghori hon, mae cyfeiriad at "gyngor" yn gyfeiriad at brif gyngor (h.y. cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru) ac mae cyfeiriad at "gynghorydd" yn gyfeiriad at aelod o brif gyngor.
Er mwyn cefnogi amrywiaeth o ran cynrychiolaeth ar ein cynghorau, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n atal cyfranogiad gweithredol unigolyn mewn democratiaeth leol drwy swydd etholedig. Mae amrywiaeth ymhlith y rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn hanfodol gan fod grwpiau amrywiol yn dod ag ystod o gefndiroedd, safbwyntiau a phrofiadau, sy'n adlewyrchu anghenion yr ystod eang o ddinasyddion y maent yn eu gwasanaethu.
Rydym eisoes wedi rhoi ystod o fesurau ar waith i gefnogi amrywiaeth ymhlith cynghorwyr gan gynnwys hwyluso'r defnydd o gyfarfodydd aml-leoliad neu hybrid, cyflwyno absenoldeb teuluol, ailgyhoeddi canllawiau ar y cymorth y dylid ei ddarparu i gynghorwyr, a chynnal cynllun peilot Cronfa Mynediad i Swyddi Etholedig i gefnogi pobl anabl sy'n dymuno sefyll mewn etholiad.
Rhannu swyddi i gynghorwyr mewn llywodraeth leol
Mae'r term rhannu swydd yn hunanesboniadol mewn llawer o ffyrdd. Mae'n ddull gweithredu sy'n galluogi un rôl i gael ei rhannu gan ddau neu ragor o unigolion, ond dau unigolyn fel rheol. Bydd y partneriaid rhannu swyddi yn ymgymryd â'r un rôl, yn rhannu'r gydnabyddiaeth ariannol am y rôl ar sail yr ymrwymiad amser ar gyfer y rôl, fel arfer ar sail 50/50 ond gellir rhannu hyn yn wahanol yn dibynnu ar y cytundeb rhwng y partneriaid sy'n rhannu swydd. Er bod cyfrifoldebau'r rôl yn cael eu rhannu, yn aml mae gan bob unigolyn gyfrifoldeb dros agweddau penodol ar y rôl.
Mae Gweinidogion Cymru yn cydnabod y cyfle i gefnogi amrywiaeth a gynigir drwy rannu swyddi a sut y gallai hyn alluogi mwy o bobl i gymryd rhan mewn democratiaeth leol. Dyna pam y gwnaeth Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (“Deddf 2021”) ddarpariaethau ar gyfer rhannu swydd gan aelodau sy'n rhan o'r weithrediaeth fel ffordd o gefnogi mwy o amrywiaeth yn rhai o'r rolau etholedig uchaf mewn llywodraeth leol. Mae Deddf 2021 yn darparu i hyn gael ei ymestyn i rolau uwch eraill a ddelir gan gynghorwyr megis cadeiryddion pwyllgorau.
Mae llawer o gynghorwyr yn ei chael hi'n anodd cydbwyso rôl heriol bod yn gynghorydd â chyfrifoldebau personol gofalu am anwyliaid yn ogystal ag ymrwymiadau eraill. Gall heriau'r rôl, sensitifrwydd llawer o'r gweithgareddau a wneir a disgwyliadau cynyddol y cyhoedd bod cynghorwyr ‘ar ddyletswydd’ 24 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos atal unigolion rhag rhoi ystyriaeth ddifrifol i ddod yn gynghorydd.
Cynhaliodd Llywodraeth Cymru raglen ymchwil gael gwybod mwy am rôl cynghorwyr yng Nghymru, eu cydnabyddiaeth ariannol a’u profiadau o ymgysylltu â dinasyddion. Roedd y pwyntiau allweddol a wnaed gan gynghorwyr am eu llwyth gwaith fel a ganlyn:
- Dywedodd rhyw ddwy ran o bump o brif gynghorwyr (44%) eu bod yn treulio 31 awr neu fwy yr wythnos yn ymgymryd â busnes y cyngor.
- O'r ffigurau hyn, nododd chwarter y prif gynghorwyr (25%) eu bod yn gweithio mwy na 40 awr bob wythnos.
- Dywedodd dwy ran o dair (66%) eu bod ar gael 24 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos, a dim ond 4% o'r ymatebwyr a nododd fod ganddynt amseroedd penodedig pan allai etholwyr gysylltu â hwy.
- Pwysleisiodd prif gynghorwyr fod eu rôl a’u llwyth gwaith o ddydd i ddydd yn amrywio’n fawr bob wythnos, gan ddibynnu ar natur eu gwaith ar y pryd (er enghraifft, mynychu cyfarfodydd ffurfiol y cyngor a chyfarfodydd pwyllgorau, delio â gwaith achos ac ymgysylltu ag etholwyr), a’r mathau o rolau a oedd ganddynt yn y cyngor.
- Roedd y llwyth gwaith cynyddol a'r ymrwymiadau amser y mae’r rôl yn galw amdanynt yn destun pryder penodol, gyda llawer yn ei chael yn fwyfwy anodd cadw eu rôl yn y cyngor a'u bywyd preifat ar wahân.
- Dywedodd ymatebwyr hefyd ei bod yn mynd yn fwy ac yn fwy anodd i gynghorwyr gynnal eu hymrwymiadau gwaith ochr yn ochr â swydd lawnamser.
Nid yw rhoi rhannu swydd ar waith heb ei heriau a'i broblemau megis: dyblygu gwaith posibl, amser ychwanegol a dreulir wrth gynllunio rhannu llwyth gwaith neu gyfarfodydd; ac mae angen ystyried y posibilrwydd o gyfathrebu neu berthynas wael rhwng partneriaid rhannu swydd. Mae'n bosibl hefyd, er gwaethaf rhannu'r un cefndir/plaid wleidyddol, y gallai fod gan y rhai sy'n rhannu swydd safbwyntiau gwahanol am rai materion penodol.
Er hynny, mae adborth gan gynghorwyr sydd neu sydd wedi bod yn rhannu swydd mewn rolau gweithrediaeth yn awgrymu y byddai'r manteision yn drech nag anfanteision o'r fath gan ei fod yn cynnig cyfleoedd i hyrwyddo mwy o amrywiaeth, hyblygrwydd a chydweithio sy'n gwasanaethu buddiannau ac anghenion y cymunedau yn well. Dyma rai o'r manteision a nodwyd o'n trafodaethau:
- Mwy o amrywiaeth a chynrychiolaeth: Gall rhannu swydd ddenu cronfa fwy amrywiol o ymgeiswyr ar gyfer rolau uwch, gan y gall ddarparu ar gyfer unigolion ag amserlenni, cyfrifoldebau a chefndiroedd amrywiol.
- Set ehangach o sgiliau: Gall dau unigolyn sydd â gwahanol gryfderau a meysydd arbenigedd gydategu ei gilydd mewn trefniant rhannu swydd.
- Gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith: gall swyddi etholedig uwch mewn cyngor fod yn heriol a chymryd llawer o amser. Mae rhannu swydd yn caniatáu i unigolion gydbwyso eu cyfrifoldebau ag ymrwymiadau eraill, megis teulu, gwaith neu weithgareddau personol.
- Chwalu rhwystrau i'r bobl hynny na fyddent fel arfer yn meddwl am hyn fel rôl hyfyw iddynt ymgeisio amdani oherwydd ymrwymiad amser.
- Dilyniant a chysondeb: Mewn achosion lle mae angen i un cynghorydd gymryd absenoldeb dros dro (oherwydd salwch, materion teuluol, etc.), gall y cynghorydd arall sicrhau dilyniant ac atal unrhyw darfu ar weithrediad y cyngor.
- Safbwyntiau ac atebion amrywiol: Gyda dau unigolyn mewn trefniant rhannu swydd, mae'n fwy tebygol y bydd modd ystyried ystod ehangach o safbwyntiau a syniadau. Gall hyn arwain at wneud penderfyniadau mwy creadigol a chynhwysol.
Datblygu sgiliau a chyfleoedd dysgu: Gall rhannu swydd ddarparu profiad dysgu unigryw i'r ddau unigolyn o dan sylw. Gallant ddysgu oddi wrth ei gilydd, datblygu sgiliau newydd, ac ehangu eu dealltwriaeth o amrywiaeth eang o faterion.
Trefniadau rhannu swyddi gweithrediaeth
Roedd Deddf 2021 yn cynnwys darpariaethau i fynd i'r afael â sawl mater penodol ynghylch y trefniadau ymarferol ar gyfer partneriaethau rhannu swydd. Roedd y rhain yn cynnwys trefniadau pleidleisio yn y cabinet, trefniadau cworwm ar gyfer cyfarfodydd lle'r oedd partneriaid rhannu swydd yn bresennol a rheolau ynghylch nifer yr aelodau cabinet a ganiateir pan oedd y cabinet yn cynnwys trefniadau rhannu swydd.
Ers cael gwared ar y rhwystrau i drefniadau rhannu swydd o fewn gweithrediaethau cynghorau, mae nifer o gynghorau wedi rhoi trefniadau rhannu swyddi ar waith. Byddem yn croesawu eich barn ar sut y mae hyn wedi gweithredu hyd yn hyn ac a ellid gwneud unrhyw beth pellach i gefnogi cynghorau sy'n dymuno rhoi'r math hwn o drefniant rhannu swydd ar waith.
Sefyll etholiad fel partneriaeth rhannu swydd
Yn ystod hynt Deddf 2021, roedd rhywfaint o gefnogaeth i ddeddfu i ganiatáu rhannu swydd yn achos pob cynghorydd h.y. rhannu swydd ar y papur pleidleisio. Mae hwn yn fater cymhleth lle y cydnabuwyd bod angen gwneud gwaith pellach i ddeall yn llawn y materion a allai godi. O ganlyniad, nid yw'r agwedd hon ar rannu swydd yn cael ei hystyried ymhellach yn yr ymgynghoriad hwn ond bydd yn destun ymgynghoriad manylach yn y dyfodol.
Ymestyn rhannu swyddi i rolau nad ydynt yn rhan o’r weithrediaeth
Mae adran 60 o Ddeddf 2021 yn darparu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i hwyluso newidiadau i'r ddeddfwriaeth er mwyn dileu'r rhwystrau i bartneriaid rhannu swydd ddal ystod o rolau nad ydynt yn rhan o'r weithrediaeth. Mae'r Ddeddf yn gwneud darpariaeth hefyd i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau mewn perthynas â'r mater hwn a bod rhaid i brif gynghorau roi sylw i ganllawiau sy'n cael eu cyhoeddi. Y rolau anweithredol perthnasol yw:
- cadeirydd cyngor
- is-gadeirydd cyngor
- aelod llywyddol o gyngor
- dirprwy aelod llywyddol o gyngor
- cadeirydd pwyllgor neu is-bwyllgor o gyngor
- is-gadeirydd neu ddirprwy gadeirydd pwyllgor neu is-bwyllgor o gyngor
- dirprwy faer mewn gweithrediaeth maer a chabinet
Yng ngoleuni'r profiad hyd yn hyn gyda threfniadau gweithrediaeth, rydym wedi nodi rhai meysydd y mae angen eu hystyried ymhellach, a byddem yn ddiolchgar am eich barn am y materion hyn.
Pleidleisio gan aelodau
Cynigir y bydd gan y rhai sy'n rhannu swydd ar gyfer yr holl rolau a nodir yn adran 60 o Ddeddf 2021 un bleidlais rhyngddynt, fel sy'n wir am drefniadau gweithrediaeth (paragraff 2B(2) o Atodlen 1 i Ddeddf Llywodraeth Leol 2000).
Pan fo cyfranwyr swyddi yn mynychu cyfarfod mewn rôl nad yw'n rhan o'r weithrediaeth, a restrir ym mharagraff 15, cynigir ymhellach eu bod gyda'i gilydd yn cyfrif fel un person yn unig at ddibenion penderfynu ar gworwm (fel sy'n wir gyda threfniadau gweithrediaeth - paragraff 2B(3) o Atodlen 1 i Ddeddf Llywodraeth Leol 2000).
Mewn rolau gweithrediaeth, lle nad yw'r rhai sy'n rhannu swydd yn gallu cytuno ar safbwynt ar gyfer cynnal pleidlais, nid yw pleidleisiau'r rhai sy'n rhannu'r swydd yn cyfrif tuag at y bleidlais. Nid yw hyn yn gymwys ond mewn amgylchiadau lle y mae'r rhai sy'n rhannu swydd yn pleidleisio ar fater fel rhan o'u rôl yn y cabinet. Wrth bleidleisio ar faterion eraill e.e. fel rhan o bleidlais lawn y cyngor, mae gan bob cynghorydd hawl i bleidlais unigol. Mae'r trefniadau hyn wedi'u nodi yn y canllawiau statudol sy'n ategu'r darpariaethau deddfwriaethol ar gyfer trefniadau rhannu swydd mewn gweithrediaeth. Rydym yn bwriadu mabwysiadu'r un dull gweithredu mewn canllawiau i gefnogi trefniadau rhannu swyddi nad ydynt yn rhan o'r weithrediaeth. Ni fyddai hyn yn gymwys ond mewn amgylchiadau lle y mae cynghorydd yn pleidleisio ar fater fel rhan o drefniant rhannu swydd yn un o'r swyddi penodedig a nodir o dan yr adran Ymestyn rhannu swyddi i rolau nad ydynt yn rhan o'r weithrediaeth.
Mae mater penodol, er hynny, y mae angen ei ystyried mewn perthynas â sefyllfaoedd lle y mae cadeirydd pwyllgor yn gweithredu ar sail rhannu swydd a lle nad yw'r partneriaid rhannu swydd yn gallu cytuno ar safbwynt i'w arddel wrth bleidleisio. Yn yr amgylchiadau hyn, lle mae is-gadeirydd, rydym yn cynnig mai'r unigolyn hwnnw fydd â'r bleidlais fwrw. Os nad oes is-gadeirydd, mae'n ofynnol i'r Cadeiryddion bleidleisio yn erbyn y cynnig. Rydym yn bwriadu cynnwys y dull gweithredu hwn mewn canllawiau i brif gynghorau.
Cydbwysedd gwleidyddol pwyllgorau
Mae cynghorau'n cynnal llawer o'u busnes drwy bwyllgorau. Mae’r gyfraith yn mynnu bod y rhan fwyaf o’r pwyllgorau yn rhai sy'n ‘gytbwys yn wleidyddol’. Mae Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau a Grwpiau Gwleidyddol) 1990 fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau a Grwpiau Gwleidyddol) (Diwygio) (Cymru) 2014 yn gwneud darpariaethau ar gyfer y trefniadau hyn. Mae canllawiau statudol ac anstatudol ar ddemocratiaeth o fewn prif gynghorau, a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ym mis Gorffennaf 2023, yn esbonio manylion y trefniadau hyn. Y mater allweddol yw bod y seddi ar bob pwyllgor yn adlewyrchu cyfansoddiad gwleidyddol y cyngor, felly os oes gan blaid neu grŵp annibynnol 40% o’r seddi ar y cyngor llawn, bydd yn cael llenwi 40% o’r seddi ar bob pwyllgor o’r cyngor y mae’r gyfraith yn mynnu ei fod yn bwyllgor a chanddo ‘gydbwysedd gwleidyddol’.
Gan fod trefniadau rhannu swydd yn gweithredu ar y sail bod y rhai sy'n gweithredu o dan sail rhannu swydd yn hafal i un rôl ac un bleidlais, ni ddylai'r trefniadau rhannu swyddi effeithio ar y trefniadau cydbwysedd gwleidyddol. Er hynny, gallai fod effaith ar y trefniadau cydbwysedd gwleidyddol pe bai partneriaid rhannu swyddi yn cael eu penodi i rolau o bleidiau gwahanol. Byddai angen ystyried yn ofalus y cyfrifiadau ynghylch cydbwysedd gwleidyddol os byddai hyn yn wir, a byddai gofyn i bob plaid gytuno arnynt cyn i'r trefniant gael ei gadarnhau. Ni ddisgwylir y byddai'r amgylchiadau hyn yn codi, ac eithrio mewn achosion prin, gan y rhagwelir y byddai'r rhan fwyaf o rolau nad ydynt yn rhan o'r weithrediaeth yn cael eu rhannu gan bersonau o'r un grŵp gwleidyddol.
Camau gweithredu arfaethedig
Mae Gweinidogion Cymru yn cynnig gwneud rheoliadau, a chyhoeddi canllawiau i gefnogi'r rheoliadau hynny, i hwyluso ymestyn trefniadau rhannu swydd i aelodau heb fod yn rhan o weithrediaeth prif gynghorau i rolau heb fod yn rhan o weithrediaeth fel y nodir o dan yr adran Ymestyn rhannu swyddi i rolau nad ydynt yn rhan o'r weithrediaeth.
Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021
Effaith cynigion
Croesawyd y syniad o hwyluso trefniadau rhannu swydd ar gyfer rolau gweithrediaeth. Y bwriad yw ymestyn yr hyblygrwydd hwn a hybu mwy o amrywiaeth mewn rolau nad ydynt yn rhan o'r weithrediaeth o ganlyniad. Rydym yn gobeithio y bydd y newid arfaethedig i ganiatáu i aelodau cynghorau nad ydynt yn rhan o'r weithrediaeth gymryd rolau rhannu swydd gael effaith gadarnhaol ar amrywiaeth drwy ganiatáu i fwy o bobl ymgymryd â rolau uwch mewn llywodraeth leol na fyddent wedi cael digon o amser fel arall oherwydd ymrwymiadau eraill (megis cyfrifoldebau gofalu).
Y gobaith yw y bydd y cynigion yn cael effaith gadarnhaol hefyd ar lesiant aelodau o ran cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a chael digon o amser ar gyfer unrhyw ymrwymiadau teuluol. Efallai y bydd effaith gadarnhaol hefyd ar gynghorau fel sefydliadau, gan y gallai rhannu swydd ddarparu cyfleoedd i hyfforddi aelodau am rolau newydd ac i gynllunio ar gyfer olyniaeth yn achos swyddi.
Cwestiynau’r ymgynghoriad
Cwestiwn 1
Byddai gennym ddiddordeb mewn unrhyw sylwadau / safbwyntiau sydd gennych ar weithredu trefniadau rhannu swydd mewn rolau gweithrediaeth o fewn cynghorau yng Nghymru. Nodwch hwy yn y blwch isod.
Cwestiwn 2
A ydych yn cytuno â'r dull gweithredu arfaethedig ar gyfer y trefniadau pleidleisio yn achos partneriaid nad ydynt yn rhan o’r weithrediaeth sy'n rhannu swydd ac y dylai manylion y dull gweithredu gael eu nodi yn y canllawiau?
Cwestiwn 3
A ydych yn cytuno na ddylai trefniadau rhannu swydd effeithio ar gydbwysedd gwleidyddol pwyllgorau o dan amgylchiadau arferol?
Cwestiwn 4
A ydych yn cytuno, yn yr achosion hynny lle mae rhannu swydd yn cynnwys partneriaid o wahanol bleidiau, y dylai'r holl bleidiau gytuno ar y dull o gyfrifo aelodaeth y pwyllgor?
Cwestiwn 5
Byddem yn hoffi clywed eich barn am yr effeithiau y byddai’n newid arfaethedig yn eu cael ar y Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
- Beth fyddai'r effeithiau yn eich barn chi?
- Sut y gellid cynyddu’r effeithiau cadarnhaol, neu liniaru’r effeithiau negyddol?
Cwestiwn 6
Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw broblemau cysylltiedig nad ydym wedi mynd i’r afael â hwy yn benodol, nodwch hwy isod.
Sut i ymateb
Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 4 Hydref 2024, drwy unrhyw un o'r ffyrdd a ganlyn:
- llenwi ein ffurflen ar-lein
- lawrlwytho, llenwi ein ffurflen ymateb a’i hanfon ar e-bost at polisillywleol.gohebiaeth@llyw.cymru
- lawrlwytho, llenwi ein ffurflen ymateb a’i phostio i:
Y Tîm Democratiaeth Llywodraeth Leol
Trydydd Llawr Dwyrain
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Eich hawliau
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:
- i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
- i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
- (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu
- (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
- (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
Mae ymatebion i ymgynghoriadau yn debygol o gael eu cyhoeddi’n gyhoeddus, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os hoffech i’ch ymateb aros yn ddienw, dywedwch wrthym ni.
I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:
Y Swyddog Diogelu Data
Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: data.protectionofficer@llyw.cymru
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Ffôn : 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: ico.org.uk
Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data
Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a roddir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Ni fydd unrhyw waith o'r fath yn cael ei wneud oni bai ei fod yn cael ei wneud o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel. Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi cael ei gynnal mewn modd priodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio eich manylion.
Dylech hefyd wybod am ein dyletswyddau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth. Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, bydd yr adroddiadau hyn yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.
Gwybodaeth bellach a dogfennau cysylltiedig
Rhif: WG50255
Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd amgen. Os ydych am gael y ddogfen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.