Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Codir ardrethi annomestig ar y rhan fwyaf o eiddo annomestig. Cyfrifir atebolrwydd drwy luosi'r gwerth ardrethol, a bennir yn annibynnol gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio, gyda’r lluosydd blynyddol a bennir bob blwyddyn gan Lywodraeth Cymru.

Os yw talwr ardrethi o'r farn bod ei atebolrwydd yn rhy uchel, gall herio ei werth ardrethol gydag Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Diben y broses apelio yw darparu ffordd o wirio cadernid methodoleg brisio Asiantaeth y Swyddfa Brisio, gan sicrhau bod nodweddion eiddo ar draws y sylfaen drethi yn cael eu prisio’n gyson. Fel rhan o'r broses, mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn asesu'r dystiolaeth a ddarparwyd ac yn penderfynu a ddylid addasu’r gwerth ardrethol. Os bydd talwr ardrethi yn parhau’n anfodlon ar ôl y penderfyniad, gall fynd â'i apêl i Dribiwnlys Prisio Cymru lle bydd yr achos yn cael ei adolygu.

Un ffordd o apelio yw hawlio bod newid perthnasol mewn amgylchiadau wedi effeithio ar eiddo. Yn hanesyddol, mae apeliadau ar sail newid perthnasol mewn amgylchiadau wedi bod yn gysylltiedig â digwyddiadau untro, megis difrod gan lifogydd, yn hytrach na newidiadau yn amodau'r farchnad.

Yn ystod pandemig COVID-19, bu cynnydd sylweddol yn nifer yr apeliadau, gyda'r mwyafrif yn nodi’r cyfyngiadau a’r amodau masnachu yn sgil COVID-19 fel newid perthnasol mewn amgylchiadau. Daeth yr apeliadau hyn pan fo lefel ddigynsail o gymorth ariannol wedi'i ddarparu i fusnesau, drwy gynlluniau rhyddhad ardrethi a chymorth grant wedi'i dargedu. Mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio rhoi cymorth i'r rhai yr effeithiwyd arnynt fwyaf ar wahanol adegau yn ystod y pandemig.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar reoliadau drafft, Atodiad A, sy'n nodi mesurau a fyddai’n atal apeliadau pellach rhag cael eu cyflwyno ar sail newid perthnasol mewn amgylchiadau yn gysylltiedig â Covid-19. Mae'r ymgynghoriad yn dechnegol ei natur ac mae'n ceisio barn ar agweddau ar eiriad y ddeddfwriaeth.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn berthnasol i Gymru yn unig.

Ymateb y Llywodraeth i apeliadau sy'n gysylltiedig â COVID-19

Mae'r nifer mawr o apeliadau a gafwyd yn sgil y pandemig yn peri risg sylweddol i Gyllideb Llywodraeth Cymru yn ogystal â rhoi pwysau gweithredol ar Asiantaeth y Swyddfa Brisio a Thribiwnlys Prisio Cymru.

Yn Lloegr, mae Llywodraeth y DU wedi deddfu i fynd i'r afael â'r mater hwn. Ym mis Mawrth, cyflwynodd Llywodraeth y DU reoliadau, sy’n debyg i'r rhai sydd o dan sylw yn yr ymgynghoriad hwn, i atal apeliadau pellach rhag cael eu gwneud ar sail newid perthnasol mewn amgylchiadau yn gysylltiedig â COVID-19. Yn ogystal, mae Llywodraeth y DU yn bwriadu cyflwyno mesurau drwy'r Bil Ardrethu (Coronafeirws) ac Anghymhwyso Cyfarwyddwyr (Cwmnïau a Ddiddymwyd) (y Bil), sy'n mynd drwy Senedd y DU ar hyn o bryd. Effaith y Bil fyddai diystyru unrhyw apeliadau ar sail newid perthnasol mewn amgylchiadau yn gysylltiedig â COVID-19 a gyflwynwyd ers dechrau'r pandemig.

Mae'r rheoliadau drafft yn gyson â rheoliadau sydd eisoes ar waith yn Lloegr ac mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ceisio cynnwys darpariaethau ar gyfer Cymru yn y Bil. Mae cysoni polisi Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar y mater hwn yn rhoi eglurder i dalwyr ardrethi a chysondeb i Asiantaeth y Swyddfa Brisio a Thribiwnlys Prisio Cymru wrth gyflawni eu rolau. Bwriedir i'r rheoliadau drafft, os cânt eu gwneud, gael eu dirymu cyn i'r darpariaethau yn y Bil gychwyn.

Ar 7 Gorffennaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddatganiad ysgrifenedig yn nodi ei safbwynt ynghylch y cynnydd mewn apeliadau a gyflwynwyd ar sail newid perthnasol mewn amgylchiadau oherwydd COVID-19.

Mae Llywodraeth Cymru o'r farn bod yr apeliadau hyn yn adlewyrchu newidiadau yn amodau'r farchnad economaidd, yn hytrach nag o ganlyniad i ddigwyddiad penodol. Oherwydd hyn, y safbwynt polisi yw y dylid diystyru apeliadau ar sail newid perthnasol mewn amgylchiadau sy'n cyfeirio at faterion cysylltiedig â COVID-19, gan fod ffactorau sy'n effeithio ar amodau ehangach y farchnad yn cael eu hystyried yn y broses ailbrisio statudol cyfnodol.

Strwythur y ddeddfwriaeth

Mae'r rheoliadau drafft a nodir yn Atodiad A yn pennu'r rhagdybiaethau sydd i'w gwneud wrth gymhwyso darpariaethau is-baragraffau (1) i (7) o baragraff 2 o Atodlen 6 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 ("Deddf 1988”).

Mae'r rheoliadau drafft yn darparu, at ddibenion pennu gwerth ardrethol hereditament, wrth gymhwyso darpariaethau paragraffau (1) i (7) o Ddeddf 1988, fod rhaid rhagdybio nad oedd y canlynol wedi digwydd ar y diwrnod hwnnw:

  • naill ai ymateb Llywodraeth Cymru neu ymateb Llywodraeth y DU i’r coronafeirws, neu ymateb y ddwy Lywodraeth iddo;
  • unrhyw ofynion, canllawiau neu gyngor gan awdurdod cyhoeddus yn y DU, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban, Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, Llywodraeth y DU neu Lywodraeth gwlad neu diriogaeth y tu allan i’r DU mewn ymateb i'r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd o ganlyniad i fynychder a lledaeniad y coronafeirws.

Rhaid rhagdybio hefyd mai'r mesurau sy’n angenrheidiol i sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth iechyd a diogelwch yw'r mesurau a oedd yn angenrheidiol ar 1 Ebrill 2015 i gydymffurfio â deddfwriaeth o'r fath.

Y camau nesaf

Bydd yr ymgynghoriad technegol hwn ar y rheoliadau drafft ar agor am gyfnod o chwe wythnos. Ar ôl i'r ymgynghoriad ddod i ben, caiff yr ymatebion eu hystyried a bydd unrhyw ddiwygiadau ychwanegol y gall fod eu hangen yn cael eu drafftio.

Ystyrir bod angen ymgynghoriad byrrach yn yr achos hwn oherwydd yr angen i wneud y rheoliadau hyn ar fyrder er mwyn diogelu arian cyhoeddus.

Yn amodol ar y sylwadau a gyflwynir yn ystod yr ymgynghoriad hwn, bwriedir i'r rheoliadau drafft gael eu gosod yn Senedd Cymru yn nhymor yr hydref a chychwyn o'r dyddiad y cânt eu gosod.

Cwestiynau’r ymgynghoriad

Cwestiwn 1

A ydych yn credu bod unrhyw broblemau o ran cychwyn y rheoliadau o'r dyddiad y cânt eu gosod?

Cwestiwn 2

A yw'r ymatebion a’r mesurau a restrir o dan reoliad 2(1) o'r rheoliadau drafft yn diffinio'n briodol yr ymatebion a'r mesurau cysylltiedig â COVID-19 a allai effeithio ar werth ardrethol eiddo?

Cwestiwn 3

A yw geiriad rheoliad 2(2) o'r rheoliadau drafft yn rhoi'r eglurder angenrheidiol i atal apeliadau sy'n gysylltiedig â COVID-19 rhag cael eu gwneud yn y dyfodol?

Cwestiwn 4

A oes angen unrhyw eglurder pellach yn y diffiniadau a nodir yn rheoliad 2(3) o'r rheoliadau drafft?

Cwestiwn 5

A oes gennych unrhyw sylwadau eraill ynghylch y rheoliadau drafft?

Cwestiwn 6

Hoffai Llywodraeth Cymru gael eich barn ar yr effeithiau y byddai'r rheoliadau drafft hyn yn eu cael ar y Gymraeg, yn benodol:

  • ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg
  • ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

Beth fyddai'r effeithiau, yn eich barn chi? Sut y byddai modd cynyddu’r effeithiau cadarnhaol, neu liniaru’r effeithiau negyddol?

Cwestiwn 7

Eglurwch hefyd sut y gellid llunio neu newid rheoliadau drafft, yn eich barn chi, er mwyn:

  • cael effeithiau cadarnhaol, neu fwy o effeithiau cadarnhaol, ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg
  • peidio â chael effeithiau niweidiol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

Cwestiwn 8

Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi ymdrin â hwy'n benodol, defnyddiwch y lle hwn i wneud hynny.

Sut i ymateb

Dylech gyflwyno eich sylwadau erbyn 27 Medi 2021, mewn unrhyw un o'r ffyrdd canlynol:

Y Gangen Polisi Ardrethi Annomestig
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych chi hawl:

  • i gael gwybod am y data personol sy’n cael eu cadw amdanoch chi, ac i gael gweld y data hynny
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan amgylchiadau penodol) i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu
  • (o dan amgylchiadau penodol) i'ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan amgylchiadau penodol) i gludadwyedd data
  • i gofnodi cwyn gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

I gael mwy o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a’r ffordd mae'r wybodaeth yn cael ei defnyddio, neu os ydych chi am arfer eich hawliau o dan Reoliad GDPR y DU, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Swyddog Diogelu Data

Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru  

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: ico.org.uk

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Dim ond o dan gontract yr ymgymerir â gwaith o'r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o’r fath yn pennu gofynion llym ar gyfer prosesu data personol a’u cadw’n ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn eu golygu cyn eu cyhoeddi.

Dylech fod yn ymwybodol hefyd o’n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth. Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau cyhoeddedig hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Bydd unrhyw ddata sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch fel arall yn cael eu cadw am dair blynedd fan bellaf.

Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig

Rhif: WG43252

Gellir gwneud cais am fersiynau o’r ddogfen hon mewn print bras, mewn Braille neu mewn ieithoedd eraill.