Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Codir ardrethi annomestig, a elwir weithiau'n ardrethi busnes, ar y rhan fwyaf o eiddo annomestig. Cyfrifir atebolrwydd drwy luosi'r gwerth ardrethol, a bennir yn annibynnol gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA), gan y lluosydd blynyddol a bennir yn flynyddol gan Lywodraeth Cymru. Mae ardrethi annomestig yn codi dros £1.1 biliwn y flwyddyn yng Nghymru. Defnyddir yr holl gyllid hwn i helpu i ariannu gwasanaethau cyhoeddus lleol y mae pobl a chymunedau'n dibynnu arnynt.

Dylai ardrethi annomestig gael eu casglu mor effeithiol a theg â phosibl. Mae'r mwyafrif helaeth o dalwyr ardrethi'n talu'r hyn sy'n ddyledus yn llawn ac yn brydlon, lleiafrif bach yn unig sy'n osgoi talu eu cyfran deg. Mae osgoi talu ardrethi annomestig yn cael effaith andwyol ar wasanaethau lleol, y gymuned ehangach a thalwyr ardrethi eraill.

Ymgynghorwyd ar ystod o fesurau i fynd i'r afael â thwyll ac osgoi ardrethi annomestig yn ystod haf 2018, yn dilyn ymarfer casglu tystiolaeth a gynhaliwyd yn 2017. Yn dilyn yr ymgynghoriad, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ystod o fesurau ar 16 Hydref 2018.

Un o'r mesurau hyn oedd cyflwyno pŵer cyfreithiol newydd i awdurdodau lleol ofyn am wybodaeth gan drethdalwyr a thrydydd partïon sy'n darparu gwasanaeth mewn perthynas ag eiddo, i gefnogi eu rôl yn y gwaith o filio a chasglu ardrethi annomestig.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn am Reoliadau drafft Ardrethu Annomestig (Personau y Mae’n Ofynnol Iddynt Ddarparu Gwybodaeth, a Chyflwyno Hysbysiadau) (Cymru) 2023, y cyfeirir atynt o hyn ymlaen fel y ‘Rheoliadau drafft’. Mae'r Rheoliadau drafft yn nodi mesurau sy'n anelu at helpu i fynd i'r afael â thwyll ac osgoi twyll o fewn y system ardrethi annomestig. Mae'r ymgynghoriad yn dechnegol ei natur ac mae'n ceisio barn am agweddau ar eglurder a gweithrediad ymarferol y ddeddfwriaeth.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn gymwys i Gymru’n unig.

Diffinio trydydd partïon y gall awdurdod lleol ofyn am wybodaeth ganddynt

Gall gwybodaeth a fyddai'n helpu'r awdurdodau lleol i sicrhau bod eu manylion bilio'n gywir ar gyfer eiddo gael ei dal gan bartïon nad ydynt yn berchennog nac yn feddiannydd yr eiddo. Er enghraifft, efallai y bydd gwybodaeth a gedwir gan drydydd parti sy'n darparu gwasanaeth mewn perthynas ag eiddo yn gallu helpu'r awdurdodau lleol i nodi a yw'r eiddo'n cael ei feddiannu, gan bwy, a sut y mae'n cael ei ddefnyddio. Ar hyn o bryd, gall yr awdurdodau lleol ofyn am wybodaeth, ond nid yw trydydd partïon yn wynebu unrhyw ganlyniadau os ydynt yn dewis peidio ag ymateb i'r cais. Mae'r awdurdodau lleol o'r farn bod y rhai sy'n gweithredu ar ran talwyr ardrethi yn methu'n rheolaidd â darparu gwybodaeth y gofynnwyd amdani, er mwyn lleihau atebolrwydd ardrethi. Drwy greu gofyniad cyfreithiol, bydd gan bobl nad ydynt yn cydweithredu â'r awdurdodau lleol lai o gymhelliant i barhau â'r ymddygiad hwn, gyda risg o fod yn destun cosb naill ai am beidio â chydymffurfio neu am ddarparu gwybodaeth ffug.

Yn dilyn trafodaeth gyda rhanddeiliaid allweddol, penderfynwyd y dylai'r mesur hwn ymestyn i gwmnïau cyfleustodau. Nid yw hyn oherwydd y credir eu bod yn helpu i osgoi trethi; yn hytrach gallant gadw gwybodaeth y byddai gan yr awdurdod lleol reswm da i'w defnyddio a'i dadansoddi wrth wirio defnydd eiddo ac atebolrwydd dilynol.  Ni chredir bod hyn yn rhoi baich gormodol ar y trydydd partïon o dan sylw, gan fod gofynion tebyg yn bodoli mewn meysydd eraill o'r gyfraith. Er hynny, bydd yn gwneud rhannu gwybodaeth yn haws ar y sail bod gofyniad cyfreithiol ynghlwm wrtho.

Y trydydd partïon sy'n cynnal busnes mewn perthynas â'r eiddo y bydd awdurdodau lleol yn gallu gofyn am wybodaeth ganddynt yw:

  • person sy'n darparu gwasanaethau sy'n ymwneud ag ardrethu annomestig (asiant ardrethu)
  • ymgymerwr dŵr neu ymgymerwr carthffosiaeth
  • cyflenwr neu drawsgludwr nwy
  • cyflenwr neu ddosbarthwr trydan
  • darparwr cyfathrebiadau cyhoeddus

Nod y Rheoliadau drafft yw galluogi'r awdurdodau lleol i nodi newidiadau penodol sy'n effeithio ar werth ardrethol hereditament neu gymhwysedd i gael rhyddhad ac esemptiadau, ac i helpu i sicrhau bod newidiadau mewn talwr ardrethi a defnydd o eiddo yn cael eu nodi'n fwy prydlon. Byddai hyn yn gwella cywirdeb biliau ardrethi annomestig, yn lleihau'r potensial i osgoi trethi ac yn arwain at newidiadau mwy amserol mewn atebolrwydd.

Cyflwyno hysbysiadau

Mae'n bwysig, wrth gyflwyno dyletswydd, fod digon o eglurder ynghylch sut y byddai'r ddyletswydd honno'n gymwys. Gall yr awdurdodau lleol ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau i wneud cais gan drydydd parti am wybodaeth a allai fod ganddo. Mae'r rhain fel a ganlyn:

  • ei ddanfon â llaw i’r trydydd parti
  • ei adael ym mhriod gyfeiriad y trydydd parti
  • ei anfon i briod gyfeiriad y trydydd parti drwy’r post
  • ei anfon at y person drwy gyfathrebiad electronig (e-bost)

Bernid bod yr hysbysiad wedi'i ddanfon os caiff ei gyflwyno o dan un o'r dulliau hyn i ysgrifennydd neu glerc busnes, neu bartner yn achos partneriaeth.

Strwythur y ddeddfwriaeth

Mae'r Rheoliadau drafft, a nodir yn Atodiad A, yn diffinio trydydd partïon y caiff awdurdod lleol ofyn am wybodaeth ganddynt ac yn darparu ar gyfer cyflwyno hysbysiadau perthnasol.

Mae'r Rheoliadau drafft wedi'u strwythuro fel bod Rheoliad 1 yn rhoi manylion y teitl a'r dyddiad cychwyn o 1 Ebrill 2023; mae Rheoliad 2 yn diffinio termau allweddol a ddefnyddir yn y rheoliadau eraill; mae Rheoliad 3 yn nodi rhestr o drydydd partïon y caiff awdurdod lleol ofyn am wybodaeth ganddynt, ac mae Rheoliad 4 yn nodi sut y gellir cyflwyno hysbysiadau.

Mae rheoliad 3(a) yn ceisio diffinio cynrychiolydd talwr ardrethi yn fras. Bwriedir i hyn gynnwys rhywun a allai fod yn ymdrin â materion ardrethi annomestig ar ran talwr ardrethi, y cyfeirir ato'n gyffredin fel asiant ardrethu. Gall y partïon hyn ddal gwybodaeth am weithgarwch y talwr ardrethi a allai gynorthwyo'r awdurdod lleol i benderfynu ar yr atebolrwydd priodol.

Mae rheoliad 3(b) i (g) yn ceisio diffinio'n fras gorff sy'n darparu gwasanaeth cyfleustodau i eiddo.  Gall y partïon hyn ddal gwybodaeth am i ba raddau y defnyddir eiddo, a chan bwy, a allai fod yn werthfawr i awdurdod lleol wrth gyflawni ei swyddogaethau bilio.

Mae rheoliad 4 yn manylu ar y dulliau amrywiol o ymdrin â sut y gall yr awdurdodau lleol gyflwyno hysbysiadau sy'n gofyn am wybodaeth i unrhyw un o'r trydydd partïon a nodir yn Rheoliad 3.

Y camau nesaf

Bydd yr ymgynghoriad technegol hwn ar y Rheoliadau drafft ar agor am gyfnod o 12 wythnos. Ar ôl i'r ymgynghoriad ddod i ben, caiff yr ymatebion eu hystyried a bydd unrhyw ddiwygiadau ychwanegol y gall fod eu hangen yn cael eu drafftio.

Yn ddarostyngedig i'r safbwyntiau a gyflwynwyd yn ystod yr ymgynghoriad hwn, bwriedir i'r Rheoliadau drafft gael eu gosod yn y Senedd mewn pryd i gychwyn o 1 Ebrill 2023, ochr yn ochr â'r rhestr ardrethu nesaf a gaiff ei defnyddio yn dilyn yr ailbrisiad presennol o ardrethi annomestig.

Cwestiynau'r ymgynghoriad

Cwestiwn 1

A yw Rheoliad 3 o'r Rheoliadau drafft yn rhoi eglurder ynghylch pa drydydd partïon y mae'r rheoliadau'n gymwys iddynt? Os nad yw, sut y gellir ei wella?

Cwestiwn 2

A yw Rheoliad 4 o'r Rheoliadau drafft yn rhoi eglurder ynghylch y ffordd y gellir cyflwyno hysbysiadau i drydydd partïon? Os nad yw, sut y gellir ei wella?

Cwestiwn 3

A oes unrhyw faterion yn codi o ran gweinyddu a gorfodi'r Rheoliadau drafft?

Cwestiwn 4

A oes gennych unrhyw sylwadau eraill am y Rheoliadau drafft?

Cwestiwn 5

Hoffai Llywodraeth Cymru wybod eich barn am yr effeithiau y byddai'r cynigion hyn yn eu cael ar y Gymraeg, ac ar y canlynol yn benodol:

  1. ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg; ac
  2. ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

Beth fyddai’r effeithiau yn eich barn chi?  Sut y byddai modd cynyddu’r effeithiau cadarnhaol, neu liniaru’r effeithiau negyddol?

Cwestiwn 6

Eglurwch hefyd sut y gellid llunio neu newid y Rheoliadau drafft er mwyn:

  1. cael effaith gadarnhaol neu gynyddu’r effaith gadarnhaol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg; a
  2. osgoi unrhyw effaith niweidiol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Cwestiwn 7

Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw pwyntiau cysylltiedig nad ydym wedi mynd i’r afael â hwy yn benodol, defnyddiwch y lle hwn i'w cofnodi.

Sut i ymateb

Byddwch cystal â chyflwyno'ch sylwadau erbyn 16 Medi 2022, yn un o'r ffyrdd canlynol.

Y Gangen Polisi Ardrethi Annomestig
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i gael gwybod am y data personol sy’n cael eu cadw amdanoch chi, ac i gael gweld y data hynny
  • i fynnu ein bod yn cywiro gwallau yn y data hynny
  • i wrthwynebu neu atal prosesu (mewn rhai amgylchiadau penodol)
  • i’ch data gael eu ‘dileu’ (mewn amgylchiadau penodol)
  • i gludadwyedd data (mewn amgylchiadau penodol)
  • i gofnodi cwyn gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Mae ymatebion i ymgynghoriadau yn debygol o gael eu cyhoeddi’n gyhoeddus, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os hoffech i’ch ymateb aros yn ddienw, dywedwch wrthym ni

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru’n ei chadw a sut mae’n cael ei defnyddio, neu os hoffech arfer eich hawliau o dan GDPR y DU, cysylltwch â'r:

Swyddog Diogelu Data

Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: Data.ProtectionOfficer@llyw.cymru

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn : 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: ico.org.uk

Rheoliad Cyffredinol y Du ar Ddiogelu Data (GDPR)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data dros unrhyw ddata personol yr ydych yn eu darparu fel rhan o’ch ymateb i’r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy’n ymdrin â’r materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymdrin â nhw, neu sy'n cynllunio ymgynghoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o’r ymatebion i’r ymgynghoriad, efallai y bydd trydydd parti achrededig yn cael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn (ee sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghorol). Dim ond o dan gontract y gwneir unrhyw waith o’r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o’r fath yn pennu gofynion llym ar gyfer prosesu data personol a’u cadw’n ddiogel.

Er mwyn  dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i'ch enw a'ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn eu golygu cyn eu cyhoeddi.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth. Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, bydd yr adroddiadau cyhoeddedig hyn yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol. Bydd unrhyw ddata sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch fel arall yn cael eu cadw am dair blynedd fan bellaf.

Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig

Rhif: WG45485

Gellir cael y ddogfen hon mewn print bras, mewn Braille ac mewn ieithoedd eraill yn ôl y gofyn.