Ymgynghoriad ar y newidiadau arfaethedig i system gynigion ac apeliadau’r Dreth Gyngor
Rydym yn ceisio eich barn ar newidiadau i’r fframwaith i apelio yn erbyn y Dreth Gyngor yng Nghymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i ddiwygio’r Dreth Gyngor a’i gwneud yn decach ac yn fwy graddoledig. Rydym yn gwneud cynnydd ar nifer o welliannau arfaethedig i gyflawni’r ymrwymiad hwn a chreu system Dreth Gyngor decach yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori o’r blaen ar gynigion i ddiwygio system y Dreth Gyngor. Gallwch ddarllen mwy am weithgareddau megis ailbrisio ac ail-lunio bandiau eiddo mewn datganiad ysgrifenedig o 15 Mai 2024. Amlinellodd y datganiad fwriad Llywodraeth Cymru i gyflwyno diwygiadau strwythurol i fandiau’r Dreth Gyngor o 2028 ymlaen, ac yna bob 5 mlynedd, ac mae’r cynllun hwn bellach wedi cael ei gymeradwyo gan y Senedd drwy Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) 2024. Gwnaeth y datganiad hefyd amlinellu ymrwymiad i wneud gwelliannau eraill i system y Dreth Gyngor erbyn diwedd tymor y Senedd, megis adolygu disgowntiau, gostyngiadau ac apeliadau.
Un o’r gwelliannau hyn yw rheoleiddio’r broses apelio er mwyn iddi fod yn symlach, yn fwy effeithiol ac yn haws ei dilyn. Bydd y newidiadau arfaethedig a amlinellir yn yr ymgynghoriad hwn hefyd yn rhoi mwy o reolaeth i drethdalwyr o ran pa mor bell i mewn i’r broses y maent am fynd. Y rheswm am hyn yw bod rhai amgylchiadau, ar hyn o bryd, lle caiff trethdalwyr eu hysbysu am wrandawiad tribiwnlys yn annisgwyl, a gwyddom y gall hyn fod yn brofiad eithaf brawychus.
Mae’r broses o herio band eich Treth Gyngor yn ffurfiol yn cynnwys 2 sefydliad annibynnol, y mae’r naill a’r llall yn gyfrifol am rannau gwahanol o’r broses. Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn gyfrifol am brisio a bandio eiddo at ddibenion y Dreth Gyngor, gan lunio a chynnal y rhestr o eiddo sy’n atebol i dalu’r Dreth Gyngor yng Nghymru. Mae hefyd yn ystyried cynigion gan drethdalwyr sy’n credu bod band eu Treth Gyngor yn anghywir. Mae Tribiwnlys Prisio Cymru yn gyfrifol am benderfynu canlyniad apeliadau yn erbyn band Treth Gyngor. Caiff apêl i’r tribiwnlys ei chreu’n awtomatig ar hyn o bryd pan na all y trethdalwr ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio ddod i gytundeb, neu ar ôl 6 mis os na wnaed unrhyw gynnydd. Mae’r broses fanwl wedi’i nodi yn Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Newid Rhestrau ac Apelau) 1993.
Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio eich barn ar y newidiadau arfaethedig i system gynigion ac apeliadau’r Dreth Gyngor. Bydd ar agor am gyfnod o 12 wythnos a bydd yn cau ar 3 Ebrill 2025. Dim ond i Gymru y mae’r ymgynghoriad yn berthnasol.
Meini prawf cymhwystra
Nid yw’r ymgynghoriad hwn yn cynnig unrhyw newidiadau i’r meini prawf cymhwystra ar gyfer cynigion nac apeliadau. Ar hyn o bryd, dim ond o dan amgylchiadau cyfyngedig y gellir herio band Treth Gyngor yn ffurfiol am fod y bandiau eiddo presennol wedi bodoli am amser hir, ers mis Ebrill 2005. Dim ond o fewn 6 mis ar ôl dod yn drethdalwr newydd ar eiddo, neu o dan amgylchiadau penodol (e.e. bu newid ffisegol i’r eiddo neu i’r ardal o’i amgylch) y gall trethdalwyr herio band Treth Gyngor yn ffurfiol. Yn y dyfodol, pan fydd bandiau eiddo yn newid yn 2028 ac yna bob 5 mlynedd, bwriadwn roi system ar waith lle bydd pob trethdalwr yn gymwys i apelio yn ystod y 12 mis cyntaf ar ôl pob ymarfer i ailbrisio’r Dreth Gyngor. Rhwng y cyfnodau hynny, byddwn yn dychwelyd at y meini prawf cymhwystra arferol i herio bandiau’n ffurfiol. Fodd bynnag, yn ychwanegol, bydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn adolygu bandiau eiddo’n anffurfiol ar unrhyw adeg, hyd yn oed os na fodlonir y meini prawf i herio band yn ffurfiol, ond rhaid i’r trethdalwr ddarparu tystiolaeth gadarn i gefnogi ei farn bod y band yn anghywir.
Mae’r ymgynghoriad hwn yn ymdrin â newidiadau gweithdrefnol i gynigion ac apeliadau ffurfiol yn unig.
Y broses gynnig bresennol
Er mwyn herio band eu Treth Gyngor yn ffurfiol, mae’n rhaid i drethdalwyr gyflwyno cynnig i Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn gyntaf. Dim ond o dan amgylchiadau caeth y gall trethdalwr gyflwyno her o’r fath ar hyn o bryd. Yn gryno, mae’r rhain fel a ganlyn:
- o fewn 6 mis i ddod yn drethdalwr newydd ar eiddo
- o fewn 6 mis i Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn newid band Treth Gyngor
- pan fydd newid ffisegol i eiddo neu ardal leol. Gall hyn gynnwys ceisiadau i brisio eiddo newydd, dileu eiddo o system y Dreth Gyngor, newidiadau i feddiannaeth, neu ar ôl penderfyniad perthnasol gan y tribiwnlys neu’r Uchel Lys
Os bydd unrhyw un o’r amgylchiadau uchod yn bodoli, gall trethdalwyr gyflwyno cynnig i Asiantaeth y Swyddfa Brisio i newid band Treth Gyngor eu heiddo. Gellir cyflwyno cynnig ar-lein drwy GOV.UK, neu drwy ffurflen copi caled drwy’r post.
Ar ôl i gynnig dilys ddod i law, bydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio, o fewn 6 mis, yn cysylltu â’r trethdalwr ynglŷn â’r cynnig. Bydd yr ohebiaeth hon naill ai’n:
- nodi bod Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn cytuno â’r newid a gynigiwyd, ac y bydd yn newid band Treth Gyngor yr eiddo
- gofyn i’r trethdalwr dynnu’r cynnig yn ôl ar y sail bod Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn credu bod band y Dreth Gyngor yn gywir, ac nad oes angen ei newid. Gall y llythyr hefyd gynnwys tystiolaeth ategol yn esbonio pam mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn credu bod y band yn gywir
- cyflwyno hysbysiad annilysrwydd gan na wnaed y cynnig mewn modd dilys
Os daw Asiantaeth y Swyddfa Brisio a’r trethdalwr i gytundeb ar y cam hwn, penderfynir ar y cynnig, caiff yr achos ei gau a chaiff band Treth Gyngor yr eiddo ei ddiweddaru (os oes angen).
Os na fydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn clywed gan y trethdalwr, os na fydd wedi gwneud cynnydd, neu os na fydd yn cytuno â’r newid a gynigiwyd ac nad yw’r trethdalwr yn dymuno tynnu ei gynnig yn ôl, caiff y cynnig ei atgyfeirio’n awtomatig gan yr Asiantaeth at Dribiwnlys Prisio Cymru. Mae’n rhaid i’r atgyfeiriad hwn ddigwydd o fewn 6 mis ar ôl i’r cynnig ddod i law. Yna, bydd Tribiwnlys Prisio Cymru yn trefnu gwrandawiad tribiwnlys i’r achos sydd heb ei benderfynu ac yn hysbysu’r trethdalwr.
Gall achos gael ei dynnu’n ôl neu ei gytuno arno ar unrhyw adeg, fodd bynnag, os bydd yn parhau heb ei benderfynu, dim ond drwy wrandawiad tribiwnlys y gellir penderfynu ar achos.
Gallwch ddarllen mwy am sut mae’r broses gynnig bresennol yn gweithio ar GOV.UK.
Y broses apelio bresennol
Mae’n rhaid i gynigion gan drethdalwr i newid band Treth Gyngor fod yn barod i’w trin fel apêl o fewn 6 mis ar ôl iddynt ddod i law Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Felly, yn ymarferol, caiff rhai achosion eu hanfon yn awtomatig at Dribiwnlys Prisio Cymru o fewn 6 mis os nad oes cytundeb ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio o hyd. Mae hyn yn digwydd heb unrhyw gyfathrebu â’r trethdalwr. Ar hyn o bryd, gan fod niferoedd cynigion yn gymharol isel, mae hyn yn digwydd o fewn terfyn amser byrrach, ond pan fo niferoedd mawr (megis ailbrisiadau) mae’n debygol y bydd yn cymryd y 6 mis llawn cyn bod cynnig yn dod yn apêl yn awtomatig.
Hyd yn oed ar y cam apelio, gall y trethdalwr barhau i drafod ei achos ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Fodd bynnag, maes o law, os nad oes cytundeb ynglŷn â’r apêl o hyd, bydd Tribiwnlys Prisio Cymru yn trefnu i’r apêl gael ei gwrando mewn tribiwnlys. Ar hyn o bryd, mae’r terfynau amser a’r cysylltiad rhwng trethdalwr ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn benodol yn amrywio, sy’n golygu y gall y broses fod yn eithaf amwys ac aneglur i’r trethdalwr.
Unwaith y bydd Tribiwnlys Prisio Cymru wedi trefnu i achos gael ei wrando mewn tribiwnlys, bydd yn anfon llythyr at y trethdalwr yn rhoi o leiaf 4 wythnos o rybudd am ddyddiad y gwrandawiad. Bydd Tribiwnlys Prisio Cymru ar yr un pryd yn hysbysu Asiantaeth y Swyddfa Brisio hefyd y bydd yr achos yn cael ei wrando mewn tribiwnlys, a bydd rhaid i bob parti baratoi achos i’w roi gerbron y gwrandawiad. Dylai pob parti ganiatáu i’r llall weld ei achos cyn y gwrandawiad.
Mae tribiwnlysoedd yn cael eu cynnal drwy ddulliau rhithwir ac wyneb yn wyneb ar hyn o bryd. Caiff achosion eu cyflwyno i banel annibynnol a fydd yn penderfynu arnynt ar sail y dystiolaeth a osodir ger ei fron yn ystod y gwrandawiad. Bydd pob parti yn cael ei hysbysu am ganlyniad y gwrandawiad o fewn 28 diwrnod fel arfer.
Os daw’r gwrandawiad i’r casgliad bod angen newid band Treth Gyngor, mae’n rhaid i Asiantaeth y Swyddfa Brisio weithredu ar hyn o fewn 6 wythnos.
Mae’r broses hon fel arfer yn dod â’r mater i ben. Fodd bynnag, bydd cyfle i’r naill barti a’r llall apelio i uwch lys, ond dim ond ar bwynt cyfreithiol y gallant wneud hynny yn hytrach nag ar sail anghytundeb â phenderfyniad y tribiwnlys.
Gallwch ddarllen mwy am sut mae proses y tribiwnlys yn gweithredu ar hyn o bryd ar dudalen we Tribiwnlys Prisio Cymru.
Gwella’r system
Mae Llywodraeth Cymru yn credu bod y broses bresennol ar gyfer cynnig ac apelio band Treth Gyngor yn aneglur ac yn amwys ac nad yw’n rhoi digon o wybodaeth i drethdalwyr, na dewis clir o ran pa mor bell y maent am fwrw ati â’u her ffurfiol yn erbyn band eu Treth Gyngor. Weithiau, rydym yn cael cwynion gan drethdalwyr nad oeddent yn disgwyl cael eu galw i wrandawiad apêl mewn tribiwnlys ar ôl 4 wythnos o rybudd na chael cais i baratoi eu hachos, a gall hyn beri straen i drethdalwyr nad oeddent yn dymuno cymryd y cam nesaf hwn.
Er mwyn cyflawni ein hymrwymiad i wella’r broses apelio a rhoi mwy o dryloywder, bwriadwn wneud y newidiadau canlynol:
- Diffinio cyfrifoldebau gweithredol pob sefydliad yn glir, sef Asiantaeth y Swyddfa Brisio a Thribiwnlys Prisio Cymru, er mwyn helpu trethdalwyr i ddeall yn well pwy sy’n gwneud beth a phryd.
- Galluogi Asiantaeth y Swyddfa Brisio i roi data ar eu heiddo eu hunain i drethdalwyr ynghyd ag unrhyw dystiolaeth sydd ar gael a ddefnyddiwyd i benderfynu ar eu bandiau yn gynharach yn y broses, gan felly roi mwy o dryloywder a galluogi pobl i wneud dewisiadau ar sail gwybodaeth mor gynnar â phosibl.
- Sicrhau bod Asiantaeth y Swyddfa Brisio a Thribiwnlys Prisio Cymru yn nodi’n glir y dewisiadau a’r camau nesaf mewn gohebiaeth â’r trethdalwr a’u bod yn rhoi opsiwn i drethdalwyr dynnu’n ôl ar ôl edrych ar y data ar yr eiddo a’r dystiolaeth a ddarparwyd.
- Cael gwared ar y broses o atgyfeirio cynnig heb ei benderfynu at Dribiwnlys Prisio Cymru yn awtomatig, gan roi ymreolaeth i drethdalwyr benderfynu pa mor bell i mewn i’r broses y maent am fynd.
Drwy wella’r system apelio, rydym am wneud y system yn haws i’w defnyddio ac yn llai amwys i drethdalwyr, gan ddarparu gwell gwybodaeth ar bob cam. Drwy roi data ar eiddo a phrisiadau yn gynharach yn y broses, byddwn yn ei gwneud yn fwy tryloyw, ac yn rhoi cyfle i drethdalwyr wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth yn gynt.
Credwn mai’r trethdalwr ei hun ddylai benderfynu a yw am fynd i wrandawiad tribiwnlys. Felly, cynigiwn y dylid rhoi’r gorau i’r broses o drosglwyddo cynigion i Dribiwnlys Prisio Cymru yn awtomatig.
Rydym wedi amlinellu ein newidiadau arfaethedig i’r broses gynnig a’r broses apelio isod.
Newidiadau arfaethedig i’r broses gynnig
Ni fydd y meini prawf na’r dulliau i herio band eich Treth Gyngor yn ffurfiol yn newid.
O dan y newidiadau arfaethedig, pan fydd trethdalwyr yn cyflwyno cynnig dilys i Asiantaeth y Swyddfa Brisio er mwyn herio band eu Treth Gyngor yn ffurfiol, byddant yn cael y data ar eu heiddo, ac unrhyw ddeunydd sydd ar gael gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio i gymharu gwerthiannau neu eiddo sy’n berthnasol. Bydd hyn yn rhoi cyfle i drethdalwyr weld yr wybodaeth yn gynt yn y broses nag sy’n digwydd ar hyn o bryd, a chredwn y bydd hyn yn helpu trethdalwyr i benderfynu sut y maent am fwrw ymlaen â’r mater. Bydd gohebiaeth gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn nodi’r dewisiadau hynny’n glir, a’r camau nesaf.
Bydd yn bosibl i drethdalwyr dynnu’n ôl o’r broses ar unrhyw adeg, os dymunant wneud hynny, naill ai am eu bod yn cytuno bod yr wybodaeth am eu heiddo a ddelir gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn gywir a/neu eu bod yn fodlon bellach bod band eu Treth Gyngor yn gywir. Os bydd trethdalwr yn tynnu’n ôl, bydd hynny’n dod â’r cynnig i ben.
Os na fydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn cael unrhyw ohebiaeth arall gan y trethdalwr ar ôl rhyddhau gwybodaeth am yr eiddo, bydd yn tybio bod y trethdalwr yn dymuno bwrw ymlaen â’r mater a bydd yn rhoi penderfyniad ynglŷn â band y Dreth Gyngor ar ôl ei ystyried o fewn 4 mis i’r ohebiaeth ddod i law er mwyn dod â’r cynnig i ben.
Os bydd trethdalwr yn anghytuno â’r data ar yr eiddo a ddelir gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio, neu os bydd yn dymuno parhau â’i gynnig, bydd y trethdalwr yn gallu dewis cynnig tystiolaeth ychwanegol i ategu ei gynnig a thrafod ei achos ymhellach. Ni fydd yn ofynnol rhoi tystiolaeth ychwanegol i barhau â’r broses. Os bydd trethdalwr yn bwrw ymlaen â’r broses, bydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn adolygu unrhyw dystiolaeth ychwanegol os caiff ei darparu ac yn gohebu ymhellach â’r trethdalwr i ddod â’r cynnig i ben.
Gellir dod â’r cynnig i ben drwy’r camau gweithredu canlynol:
- mae’r trethdalwr yn fodlon ar y dystiolaeth a roddwyd ac yn tynnu’r cynnig yn ôl
- mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn cytuno ar y newidiadau arfaethedig
- mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn cyhoeddi penderfyniad yn nodi pam na all gytuno ar y newidiadau arfaethedig ar ôl eu hystyried, ynghyd â thystiolaeth ategol, a gall y trethdalwr benderfynu symud ymlaen i apelio i Dribiwnlys Prisio Cymru
- ar sail y dystiolaeth, mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn penderfynu bod angen newid gwahanol i fand Treth Gyngor yr eiddo (band gwahanol i’r band a gynigiwyd gan y trethdalwr). Os bydd y trethdalwr yn anghytuno â’r penderfyniad hwn o hyd, gall benderfynu symud ymlaen i apelio i Dribiwnlys Prisio Cymru
- mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn hysbysu’r trethdalwr na fu modd i’r asiantaeth wneud penderfyniad ar ôl ystyried y cynnig o fewn y terfyn amser o 4 mis oherwydd natur gymhleth yr achos ac yn rhoi gwybod i’r trethdalwr y gall benderfynu symud ymlaen i apelio
Os bydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn cytuno ar y newidiadau arfaethedig, neu’n nodi bod angen newid gwahanol i’r band, bydd yn diweddaru band y Dreth Gyngor yn unol â hynny; ni fydd angen i’r trethdalwr lofnodi unrhyw waith papur pellach.
Mae’n rhaid dod â chynigion i ben o fewn 4 mis ar ôl iddynt ddod i law, ac mae’r terfyn amser hwn yn gyson â’r system gynigion ac apeliadau’r Dreth Gyngor sydd ar waith yn Lloegr.
Newidiadau arfaethedig i’r broses apelio
Mae hawl trethdalwyr i apelio yn agwedd hanfodol ar system Dreth Gyngor deg. Caiff apeliadau ynghylch bandiau Treth Gyngor eu trafod gan Dribiwnlys Prisio Cymru ac mae’n wahanol i broses gynnig Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Ni fydd proses weithdrefnol gwrandawiad tribiwnlys a gynhelir gan Dribiwnlys Prisio Cymru ar y cam apelio yn newid rhyw lawer.
O dan y newidiadau a amlinellir yn yr ymgynghoriad hwn, ni fydd cynigion ynglŷn â bandiau yn cael eu hanfon yn awtomatig gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio at Dribiwnlys Prisio Cymru, ac rydym am rymuso trethdalwyr i wneud eu dewis eu hunain. Os bydd trethdalwyr yn dymuno gwneud hynny, gallant apelio i herio’r penderfyniad gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn uniongyrchol i Dribiwnlys Prisio Cymru, ar ôl adolygu data a thystiolaeth Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Pan fydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn gohebu â’r trethdalwr ar ganlyniad y cynnig, bydd yn rhoi gwybodaeth glir i drethdalwyr am eu hopsiynau a’r camau nesaf. Ar yr adeg hon y bydd trethdalwr yn gallu dewis apelio i Dribiwnlys Prisio Cymru. Bydd y terfyn amser i wneud hyn o fewn 4 mis i ganlyniad y cynnig gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Crynodeb
Er mwyn crynhoi’r newidiadau arfaethedig i’r broses gynnig ac apelio bresennol, mae’r camau canlynol yn dangos cymhariaeth rhwng y broses bresennol a’r newidiadau arfaethedig:
Y broses bresennol
- Mae trethdalwr yn cyflwyno cynnig i newid band i Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
- Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn cysylltu â’r trethdalwr o fewn 6 mis.
- Os bydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio a’r trethdalwr yn cytuno ar ganlyniad, penderfynir ar y cynnig.
- Os na all Asiantaeth y Swyddfa Brisio a’r trethdalwr gytuno, caiff y cynnig i newid band ei atgyfeirio’n awtomatig at Dribiwnlys Prisio Cymru ar ddiwedd y 6 mis.
- Unwaith y bydd y cynnig wedi’i anfon at Dribiwnlys Prisio Cymru gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio, daw’n apêl yn awtomatig. Os na chaiff apêl ei thynnu’n ôl neu ei chytuno arni ac y parheir heb ei phenderfynu, dim ond mewn gwrandawiad tribiwnlys y bydd modd dod â hi i ben.
Newidiadau arfaethedig
- Dim newid. Mae trethdalwr yn cyflwyno cynnig i newid band i Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
- Mae’r trethdalwr yn cael y data a ddelir am ei eiddo ac unrhyw dystiolaeth ategol sydd ar gael i’w hadolygu.
- Mae’r trethdalwr yn gwneud penderfyniad ynglŷn â sut i weithredu ar sail yr wybodaeth y mae wedi’i chael: bydd naill ai’n parhau â’r broses gynnig neu’n tynnu’n ôl o’r broses.
- Os parheir â’r cynnig, mae’n rhaid penderfynu arno o fewn 4 mis drwy benderfyniad gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio ar ôl ystyriaeth, neu lythyr gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn esbonio’r canlyniad.
- Os bydd y trethdalwr yn anghytuno â phenderfyniad Asiantaeth y Swyddfa Brisio, neu os na fydd yn cael penderfyniad o fewn 4 mis, bydd y trethdalwr yn cael gwybodaeth glir ynglŷn â sut i apelio’n uniongyrchol i Dribiwnlys Prisio Cymru.
Cwestiynau’r ymgynghoriad
Cwestiwn 1
A ydych yn cytuno y dylai talwyr y Dreth Gyngor gael data am eu heiddo a thystiolaeth ategol ynglŷn â phrisiadau gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn gynharach yn y broses gynnig nag y maent ar hyn o bryd?
Cwestiwn 2
A ydych yn cytuno y bydd rhoi cyfle i dalwyr y Dreth Gyngor gael data am eu heiddo a thystiolaeth ategol ynglŷn â phrisiadau gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn gynharach yn y broses gynnig yn helpu i lywio dewis trethdalwr wrth benderfynu a ddylai gyflwyno ei achos i apêl?
Cwestiwn 3
A ydych yn cytuno mai dim ond os bydd talwyr y Dreth Gyngor yn dymuno gwneud hynny y dylai fod modd iddynt ddewis cyflwyno eu hachos i dribiwnlys apêl?
Cwestiwn 4
Beth yw eich barn ar gynigion Llywodraeth Cymru i ddiwygio’r broses gynnig ac apelio ar gyfer y Dreth Gyngor?
Y Gymraeg
Mae ‘Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu’ yn un o’r saith nod llesiant yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd addysg cyfrwng Cymraeg ac mae’n gweithio tuag at y nod o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Gofynnir am sylwadau am yr effeithiau (boed hynny’n gadarnhaol neu’n niweidiol) y gallai’r cynigion ar gyfer diwygio’r broses gynnig ac apelio ar gyfer y Dreth Gyngor eu cael ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r iaith Gymraeg a pheidio â thrin yr iaith Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
Cwestiwn 5
Hoffai Llywodraeth Cymru wybod eich barn am yr effeithiau posibl y gallai diwygio apeliadau yn erbyn y Dreth Gyngor eu cael ar yr iaith Gymraeg, yn benodol ar y canlynol:
- cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg;
- peidio â thrin yr iaith Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
Cwestiwn 6
Esboniwch hefyd sut y credwch y gellid datblygu’r cynigion i ddiwygio apeliadau yn erbyn y Dreth Gyngor er mwyn:
- sicrhau effeithiau cadarnhaol neu fwy o effeithiau cadarnhaol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac na chaiff y Gymraeg ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg; ac
- atal unrhyw effeithiau niweidiol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac ar drin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg
Cwestiwn 7
Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw bwyntiau cysylltiedig nad ydym wedi ymdrin â hwy’n benodol, defnyddiwch y lle hwn i’w cofnodi.
Sut i ymateb
Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 3 Ebrill 2025, drwy unrhyw un o'r ffyrdd a ganlyn:
- llenwi ein ffurflen ar-lein
- lawrlwytho, llenwi ein ffurflen ymateb a’i hanfon ar e-bost CTaNDR.ymgyngoriadau@llyw.cymru
- lawrlwytho, llenwi ein ffurflen ymateb a’i phostio i:
Polisi’r Dreth Gyngor
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Eich hawliau
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:
- i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
- i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
- (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu
- (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
- (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
Mae ymatebion i ymgynghoriadau yn debygol o gael eu cyhoeddi’n gyhoeddus, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os hoffech i’ch ymateb aros yn ddienw, dywedwch wrthym ni.
I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:
Y Swyddog Diogelu Data
Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: data.protectionofficer@llyw.cymru
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Ffôn : 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: ico.org.uk
Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)
Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgyngoriadau Llywodraeth Cymru ac unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i’r ymgynghoriad.
Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithlon dros brosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. (Erthygl 6(1)(e))
Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy’n gweithio ar y materion y mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Yn achos ymgyngoriadau ar y cyd, gall hyn hefyd gynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o’r ymatebion i ymgynghoriad, gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Dim ond o dan gontract yr ymgymerir â gwaith o’r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o’r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.
Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.
Dylech hefyd fod yn ymwybodol o’n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth ac y gall fod rhwymedigaeth gyfreithiol ar Lywodraeth Cymru i ddatgelu rhai mathau o wybodaeth.
Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau cyhoeddedig hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.
Gwybodaeth bellach a dogfennau cysylltiedig
Rhif: WG50858
Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd amgen. Os ydych am gael y ddogfen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.