Ymgynghoriad ar y mesurau i fynd i'r afael ag osgoi talu ardrethi annomestig
Hoffem gael eich barn ar gynigion i wrthweithio dulliau hysbys o osgoi ardrethi annomestig (ardrethi busnes).
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae ardrethi annomestig, y cyfeirir atynt weithiau fel ‘ardrethi busnes’, yn dreth leol sy’n helpu i dalu am wasanaethau lleol. Codir ardrethi ar y rhan fwyaf o eiddo annomestig, gan gynnwys eiddo y mae’r sector cyhoeddus a sefydliadau nid‑er-elw yn berchen arno neu’n ei feddiannu. Felly, nid dim ond eiddo a ddefnyddir at ddibenion masnachol sydd dan sylw. Mae ardrethi annomestig yn cyfrannu dros £1.1 biliwn y flwyddyn tuag at ariannu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol a ddarperir gan lywodraeth leol yng Nghymru.
Amcangyfrifwyd fod graddfa osgoi ardrethi annomestig yng Nghymru, drwy ddulliau amrywiol, yn golygu bod o leiaf £10 miliwn i £20 miliwn o refeniw yn cael ei golli bob blwyddyn (fel y nodwyd yn ein hymgynghoriad ar fynd i’r afael ag osgoi yn 2018). Mae hyn yn cyfateb i dros 1 i 2% o’r incwm a geir o ardrethi annomestig. Er nad yw osgoi yn anghyfreithlon, mae’n ymddygiad sy’n creu trefniadau artiffisial i gael manteision treth. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i leihau’r cyfleoedd ar gyfer osgoi yn y system ardrethi annomestig.
Cyhoeddwyd pecyn o fesurau i fynd i’r afael ag osgoi yn 2018. Roedd hyn yn dilyn yr ymgynghoriad blaenorol. Ers hynny, drwy gymysgedd o ddeddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth, rydym wedi:
- ymestyn y cyfnod byrraf y mae’n rhaid meddiannu eiddo a oedd gynt heb ei feddiannu, cyn y gall fod yn gymwys am gyfnod pellach o ryddhad eiddo gwag
- galluogi awdurdodau bilio i fynd i mewn i eiddo a’i arolygu
- galluogi awdurdodau bilio i ofyn am wybodaeth gan drydydd parti sy’n rhedeg busnes mewn perthynas ag eiddo
- cryfhau’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer rhyddhad elusennol ar gyfer eiddo heb ei feddiannu
- creu fframwaith gwrthweithio osgoi cyffredinol i wrthweithio’r manteision a geir o drefniadau artiffisial i osgoi atebolrwydd ardrethi annomestig (mae gofyn cael rheoliadau i roi effaith i’r fframwaith)
- galluogi creu dyletswydd i bersonau ddarparu gwybodaeth i awdurdodau bilio sy'n berthnasol i benderfynu ar atebolrwydd ardrethi annomestig (mae gofyn cael rheoliadau i ddarparu ar gyfer y ddyletswydd)
Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar y 2 gynnig lle mae angen rheoliadau i roi effaith lawn i’r newidiadau rydym wedi’u gwneud. Rydym yn ymgynghori ar gynigion ar gyfer rheoliadau i wneud y canlynol:
- diffinio ystod o drefniadau osgoi artiffisial, gan roi effaith i’r fframwaith gwrthweithio osgoi cyffredinol rydym wedi'i sefydlu
- creu dyletswydd i dalwyr ardrethi roi gwybod i awdurdodau bilio am newidiadau penodol mewn amgylchiadau
Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu i’r ddau gynnig ddod i rym o 1 Ebrill 2026 ymlaen, yn amodol ar unrhyw newidiadau sy’n deillio o’r ymgynghoriad hwn.
Trefniadau osgoi artiffisial
Mae adrannau 63F i 63M o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (“Deddf 1988”) yn sefydlu fframwaith i wrthweithio mantais a geir o drefniadau artiffisial i osgoi ardrethi annomestig. ‘Mantais’ yw osgoi neu leihau atebolrwydd ardrethi annomestig a gall hyn ddigwydd yn ystod neu ar ôl trefniant. Mae gofyn cael rheoliadau i roi effaith i’r fframwaith gwrthweithio osgoi hwn, drwy ddiffinio’r trefniadau penodol sydd i’w trin fel rhai artiffisial ac sydd i’w gwrthweithio.
Mae llawer o’r trefniadau mwyaf cyfarwydd ar gyfer osgoi ardrethi annomestig yn dibynnu ar ymelwa ar y diffiniad o feddiannaeth lesiannol a sefydlwyd drwy gyfraith achosion. Nod trefniadau o’r fath yn aml yw ail-osod cymhwystra ar gyfer rhyddhad eiddo gwag, lle ceir mantais o atebolrwydd llai yn dilyn cyfnod o feddiannaeth. Mae manteision eraill hefyd yn bosibl (e.e. os yw’r meddiannydd yn gymwys i gael rhyddhad arall neu’n gwneud trefniant i atal y taliad rhag cael ei gasglu). Yn hanesyddol, mae’r trefniadau wedi bod yn anodd mynd i’r afael â hwy.
Byddai’n anodd diffinio meddiannaeth lesiannol mewn deddfwriaeth mewn ffordd na fyddai’n parhau i fod yn agored i ymelwa ac na fyddai’n arwain at greu canlyniadau anfwriadol eraill neu fylchau (loopholes). Mae’r fframwaith gwrthweithio osgoi yn golygu bod modd gweithredu i’r gwrthwyneb, sef, i bob pwrpas, diffinio trefniadau osgoi yr ystyrir eu bod yn gyfystyr â meddiannaeth artiffisial, fel y gellir gwrthweithio’r manteision a geir.
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig diffinio ystod o drefniadau osgoi artiffisial sy’n dod o fewn y 4 math canlynol:
- math 1: nid yw’r feddiannaeth ar sail fasnachol
- math 2: mae’r talwr ardrethi wedi ei ddirwyn i ben yn wirfoddol
- math 3: mae’r perchennog neu’r meddiannydd yn dangos nodweddion neu ymddygiadau penodol
- math 4: mae nodweddion penodol i’r feddiannaeth
Ystyrir bod y trefniadau hyn yn berthnasol i hereditamentau (unedau eiddo ag asesiadau ardrethu) a gynhwysir mewn rhestrau ardrethu annomestig lleol. Maent wedi cael eu nodi drwy gydweithio ag awdurdodau bilio a thrwy ymchwil, gan gynnwys ystyriaeth fanwl o nodweddion cyfraith achosion berthnasol, dros nifer o flynyddoedd. Mae’n bosibl y bydd trefniadau pellach yn cael eu nodi a’u diffinio yn y dyfodol.
Pan fydd trefniant diffiniedig wedi cael ei wneud, mae’r fframwaith gwrthweithio osgoi yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod bilio wrthweithio’r fantais a geir. Y fantais fel arfer fydd y gostyngiad mewn atebolrwydd ardrethi annomestig a gafwyd ers i reoliadau ddod i rym sy’n diffinio’r trefniant fel un artiffisial neu’r dyddiad y gwnaed y trefniant am y tro cyntaf (pa un bynnag yw’r diweddaraf).
Mae meddiannydd eiddo fel arfer yn atebol am ardrethi annomestig. Mae perchennog (person sydd â hawl i feddiannu) eiddo yn atebol os nad yw wedi ei feddiannu. Bwriedir i’r diffiniadau arfaethedig sicrhau bod y trefniant, ym mhob achos, yn cael ei anwybyddu a bod y person a fyddai wedi bod yn berchennog yr eiddo yn absenoldeb y feddiannaeth artiffisial yn cael ei drin fel pe bai’n atebol am y swm a fyddai wedi bod yn daladwy.
Mae’r adran hon o’r ymgynghoriad yn nodi cynigion i roi effaith i’r fframwaith gwrthweithio osgoi. Mae’r cynigion yn ymwneud â’r diffiniadau o drefniadau osgoi artiffisial a chasglu atebolrwydd. Mae cwestiynau 1 i 8 yn gofyn am farn ar y cynigion hyn.
Y Rheoliadau drafft
Mae Llywodraeth Cymru wedi paratoi drafft o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Trefniadau Osgoi Artiffisial) (Rhestrau Lleol) (Cymru) (“y Rheoliadau drafft”), a fyddai’n ofynnol er mwyn rhoi effaith i’r cynigion a nodir yn yr adran hon o’r ymgynghoriad. Mae copi o’r Rheoliadau drafft wedi’i gynnwys yn Atodiad A. Y diben yw rhoi gwybodaeth ddigonol a chlir i ymatebwyr er mwyn iddynt allu mynegi barn wybodus ac ystyriol am y cynigion polisi. Nid yw hyn yn gyfystyr ag unrhyw warant mewn perthynas â chynnwys y Rheoliadau terfynol. Ar ôl ystyriaeth gydwybodol o’r ymatebion i’r ymgynghoriad, mae’n bosibl y bydd angen gwneud rhai newidiadau i’r Rheoliadau drafft er mwyn sicrhau eu bod yn effeithiol o ran cyflawni amcanion y polisi.
Math 1: nid yw’r feddiannaeth ar sail fasnachol
Mae trefniadau’n aml yn cynnwys cytundebau tenantiaeth neu les sydd wedi’u cynllunio i’w gwneud yn bosibl osgoi atebolrwydd ardrethi annomestig. Mae gan drefniadau o’r fath amrywiaeth o nodweddion cyffredin sy’n eu gwneud yn wahanol i gytundebau dilys yr ymrwymir iddynt am resymau masnachol gwirioneddol. Gallai cytundeb am feddiannaeth nad yw ar sail fasnachol fod yn drefniant osgoi ynddo’i hun, neu gall fod yn nodwedd o fath arall o drefniant osgoi.
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig diffinio 4 trefniant penodol o’r math hwn. Ym mhob achos, mae’r trefniant yn un artiffisial pan fo’n gwneud person (“P”) yn feddiannydd yr eiddo nad yw’n cael ei feddiannu ar sail fasnachol oherwydd bod yr amgylchiadau penodedig yn gymwys.
Yn y trefniant cyntaf, nid yw’n ofynnol i P dalu am feddiannu’r eiddo. Mae lesoedd sy’n cynnwys cymalau rhent lle na fwriedir i’r taliad gael ei hawlio na’i wneud yn ofynnol wedi bod yn nodweddion o achosion o osgoi sydd wedi’u nodi. Byddai disgwyl i unrhyw gytundeb masnachol ar gyfer meddiannaeth wirioneddol fynnu bod rhent yn cael ei dalu. Adlewyrchir hyn yn y defnydd sefydledig o renti’r farchnad ar gyfer eiddo tebyg fel y sail ar gyfer asesu gwerthoedd ardrethol at ddibenion ardrethi annomestig.
Yn yr ail drefniant, mae’r taliad y mae’n rhaid i P ei wneud ar gyfer meddiannu’r eiddo yn sylweddol is na’r lefel y gellid yn rhesymol fod wedi’i chyrraedd ar y farchnad agored ar yr adeg yr ymrwymwyd i’r trefniant, neu’n mae’n cael ei wrthbwyso neu ei ganslo (yn gyfan gwbl neu’n rhannol) gan drafodiadau eraill. Pan fo angen talu, mae rhent minimol neu ‘rhent hedyn pupur’ wedi cael ei nodi fel nodwedd o gyfraith achosion amlwg sydd wedi bod yn sail i arferion osgoi eang. Ar ben hynny, mae taliadau ar wahân i’r ‘tenant’ gan y landlord am wasanaethau er mwyn galluogi osgoi yn aml yn gwrthbwyso neu’n mynd y tu hwnt i’r rhent a delir.
Yn y trydydd trefniant, mae un neu fwy o bartïon iddo (gan gynnwys darparwr gwasanaethau trydydd parti sy’n ymwneud ag ardrethi annomestig) wedi nodi lliniaru atebolrwydd ardrethi annomestig fel diben neu gymhelliant. Ystyrir bod lliniaru ardrethi yn derm sydd, yn ymarferol, yn cyfeirio at drefniadau osgoi artiffisial sy’n ceisio ymelwa ar ddiffygion mewn deddfwriaeth a chanlyniad cyfraith achosion. Mae nod trefniant sy’n sicrhau meddiannaeth at ddibenion lliniaru ardrethi yn aml yn cael ei nodi mewn cytundebau les, neu ar wefannau darparwyr trydydd parti sy’n hysbysebu’n agored y gwasanaethau lliniaru ardrethi y maent yn eu cynnig.
Yn y pedwerydd trefniant, nid oes gan P yr asedau a fyddai’n ei alluogi i ddefnyddio’r eiddo yn y modd a hawlir. Mae hyn yn golygu na all feddiannu a defnyddio’r eiddo at y diben a nodwyd. Mae meddiannydd heb unrhyw briodoleddau busnes (e.e. dim cofnod Tŷ’r Cwmnïau sy’n cynnwys y staff a’r asedau y byddai eu hangen) yn nodwedd o rai trefniadau osgoi sydd wedi cael eu nodi’n flaenorol.
Ystyrir bod pob un o’r trefniadau o’r math hwn yn artiffisial ar y sail nad yw’n ffordd resymol o weithredu oherwydd nad oes ganddo sylwedd economaidd na masnachol (ac eithrio cael y fantais o osgoi neu leihau atebolrwydd ardrethi annomestig). Mae nodweddion y trefniadau hyn yn dangos na fwriedir i’r feddiannaeth wneud defnydd masnachol gwirioneddol o’r eiddo. Felly, ystyrir eu bod yn ddangosyddion cryf o osgoi.
Math 2: mae’r talwr ardrethi wedi cael ei ddirwyn i ben yn wirfoddol
Mae rhai trefniadau osgoi cymharol soffistigedig yn ymwneud â phrydlesu eiddo i ‘gyfryngau at ddibenion arbennig’ a ‘chwmnïau ffenics’. Mae cyfrwng at ddibenion arbennig yn endid cyfreithiol ar wahân a sefydlwyd gan riant sefydliad, yn aml i ynysu risgiau neu rwymedigaethau ariannol. Defnyddir cwmnïau ffenics ar gyfer yr arfer o redeg yr un busnes neu fasnach drwy gwmnïau olynol, y mae pob un ohonynt yn mynd yn ansolfent ac yn methu â thalu ei ddyledion.
Gosodir cwmni fel talwr ardrethi yr eiddo fel nad yw’r perchennog cofrestredig neu’r landlord yn atebol am ardrethi annomestig. Fel arfer bydd y cwmni hwn yn cael ei ddirwyn i ben yn wirfoddol, yn aml (ond nid bob amser) ar ôl cyfnod o feddiannaeth pan fo atebolrwydd ardrethi annomestig yn ddyledus ond heb ei dalu. Pan fydd y cwmni’n cael ei ddirwyn i ben yn wirfoddol, bydd yr eiddo y mae wedi’i wneud yn dalwr ardrethi arno yn peidio â denu atebolrwydd ardrethi annomestig. Gall y budd hwn barhau am gyfnod hir pan fo’r broses dirwyn i ben yn fwriadol faith.
Fel arfer, mae gan y talwr ardrethi ‘gysylltiad cymwys’ â’r perchennog cofrestredig neu’r landlord (e.e. strwythur cwmni cysylltiedig neu’r un cyfarwyddwr) neu, fel rhan o batrwm osgoi mynych, cwmni blaenorol sydd wedi’i osod yn dalwr ardrethi. Fel arall, mae trefniadau weithiau’n cael eu sefydlu hyd braich oddi wrth y landlord, gan ddarparwr gwasanaethau lliniaru ardrethi trydydd parti y mae’r cysylltiad cymwys yn bodoli ag ef.
Ystyr cysylltiad cymwys yw, pan fo’r ddau berson yn gwmnïau, un yn is-gwmni i’r llall, y ddau yn is-gwmnïau i’r un cwmni, neu mae’r un person naill ai’n gyfarwyddwr neu’n unigolyn sydd â rheolaeth sylweddol mewn perthynas â’r ddau gwmni. Mae hefyd yn golygu, pan mai dim ond un person sy’n gwmni, bod gan y person arall fuddiant o’r fath a fyddai’n ei wneud yn gwmni daliannol (os oedd yn gwmni ei hun). Bwriad y diffiniad yw cofnodi cysylltiadau sydd wedi’u nodi’n flaenorol mewn trefniadau perthnasol.
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig diffinio 3 threfniant artiffisial penodol o’r math hwn. Ym mhob achos, ymrwymir i’r trefniant rhwng y person (“L”) a roddodd y cytundeb am feddiannaeth a’r person (“P”) a wneir yn dalwr ardrethi ar gyfer yr eiddo.
Yn y trefniant cyntaf, cyn ymrwymo i drefniant gyda P, ymrwymodd L i drefniant a oedd yn gwneud person arall (“X”) yn drethdalwr ar gyfer eiddo (naill ai’r un eiddo sy’n destun y trefniant presennol, neu eiddo gwahanol). Cafodd X ei ddirwyn i ben yn wirfoddol yn dilyn hynny, tra’n dal yn barti i’r trefniant. Ar y diwrnod yr ymrwymir i’r trefniant presennol (gyda P), mae gan P gysylltiad cymwys â X.
Yn yr ail drefniant, ar y diwrnod yr ymrwymir iddo, mae gan P gysylltiad cymwys â L neu berson sy’n darparu gwasanaethau i L sy’n ymwneud ag ardrethu annomestig (e.e. asiant ardrethu neu gynghorydd treth). Cyn ymrwymo i drefniant gyda P, ymrwymodd L i drefniant a wnaeth berson arall (“Y”) yn dalwr ardrethi ar gyfer eiddo (naill ai’r un eiddo sy’n destun y trefniant presennol, neu eiddo gwahanol). Ar y diwrnod yr ymrwymwyd i’r trefniant blaenorol hwnnw, roedd gan Y gysylltiad cymwys ag L (neu â pherson sy’n darparu gwasanaethau sy’n ymwneud ag ardrethu annomestig). Cafodd Y ei ddirwyn i ben yn wirfoddol yn dilyn hynny, tra’n dal yn barti i’r trefniant.
Mae’r diffiniadau arfaethedig o’r trefniant cyntaf a’r ail drefniant yn adlewyrchu patrymau ymddygiad y mae awdurdodau bilio yn sylwi arnynt, sy’n golygu gosod cyfryngau at ddibenion arbennig neu ‘gwmnïau ffenics’ dro ar ôl tro fel talwyr ardrethi o dan drefniadau gyda’r un landlord, cyn iddynt gael eu diddymu (yn aml gydag atebolrwyddau sydd heb eu talu). Yn ystod cyfnod o feddiannu gan dalwr ardrethi newydd, mae'r awdurdod bilio yn ymwybodol o gysylltiad cymwys perthnasol â thalwr ardrethi blaenorol a gafodd ei ddirwyn i ben yn wirfoddol yn y pen draw. Mewn achosion o’r fath, y bwriad yw bod yr awdurdod bilio yn gallu gwrthweithio’r trefniant cyn i’r talwr ardrethi presennol fynd ati i gael ei ddirwyn i ben yn wirfoddol. Ni fydd yn bosibl cofnodi digwyddiad cyntaf cyn i gwmni gael ei ddirwyn i ben, oherwydd y ddibyniaeth ar dystiolaeth o ymddygiad yn y gorffennol.
Yn y trydydd trefniant, ar y diwrnod yr ymrwymir iddo, mae gan P gysylltiad cymwys ag L neu berson sy’n darparu gwasanaethau i L sy’n ymwneud ag ardrethu annomestig. O fewn 3 blynedd ar ôl i L a P ymrwymo i’r trefniant, mae P yn dechrau’r broses o gael ei ddirwyn i ben yn wirfoddol. Bwriad hyn yw sicrhau, pan na fydd awdurdod bilio wedi gallu nodi a gwrthweithio’r trefniant cyn dechrau’r broses dirwyn i ben, y bydd yn gallu gwneud hynny ar ôl cymryd y cam hwnnw. Ystyrir bod angen pennu cyfnod amser pryd y gallai dirwyn cwmni i ben yn wirfoddol arwain at ddiffinio’r trefniant fel un artiffisial. Y bwriad yw bod y cyfnod o 3 blynedd yn ddigon hir i sicrhau nad yw’n rhoi ffordd o ddianc rhag y diffiniad (h.y. drwy aros ychydig yn hirach nag a fwriadwyd fel arall cyn dirwyn i ben).
Mae’r trefniadau o’r math hwn yn cynrychioli gwahanol gamau yn yr hyn a all fod yn gylch cymhleth ac ailadroddus o gamau gweithredu i drosglwyddo atebolrwydd ardrethi annomestig i gwmni a sefydlwyd at ddibenion osgoi.
Math 3: mae’r perchennog neu’r meddiannydd yn dangos nodweddion neu ymddygiadau penodol
Sail sylfaenol y system ardrethi annomestig yw mai meddiannydd dilys eiddo yw’r talwr ardrethi a bod atebolrwydd yn cael ei briodoli a’i dalu’n gywir. Byddai nodweddion ac ymddygiad penodol y perchennog neu’r meddiannydd yn tanseilio gweithrediad arfaethedig y system mewn ffyrdd sy’n ddangosyddion cryf o osgoi pan fyddant yn cael eu cyfuno â mantais.
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig diffinio 4 trefniant penodol o’r math hwn. Ym mhob achos, mae’r trefniant yn un artiffisial oherwydd bod y nodweddion neu’r ymddygiadau penodedig yn berthnasol.
Yn y trefniant cyntaf, methodd y perchennog, y meddiannydd neu’r person a roddodd y cytundeb am feddiannaeth â darparu enw’r talwr ardrethi mewn ymateb i gais statudol am wybodaeth gan awdurdod bilio. Mae dal enw’r talwr ardrethi yn ôl yn tanseilio’r system ardrethi annomestig, drwy atal atebolrwydd rhag cael ei briodoli a’i gasglu’n gywir. Er enghraifft, gellir defnyddio’r trefniant hwn i osgoi talu atebolrwydd yn ystod cyfnod cychwynnol meddiannaeth, cyn i dalwr ardrethi gael ei ddirwyn i ben yn wirfoddol fel rhan o drefniant ‘Math 2’ a ddisgrifir uchod.
Yn yr ail drefniant, mae person (“P”) yn cael ei wneud yn dalwr ardrethi ond nid oes gan P unrhyw gysylltiad â’r gweithrediad na’r gweithgarwch economaidd sy’n digwydd yn yr eiddo. Ni fydd talwr ardrethi sydd heb asedau na busnes sy’n gysylltiedig â’r defnydd honedig o’r eiddo yn gallu ei feddiannu a’i ddefnyddio at y diben a nodir.
Yn y trydydd trefniant, a wnaed rhwng person (“L”) a roddodd y cytundeb am feddiannaeth a pherson arall (“P”), mae P yn cael ei wneud yn dalwr ardrethi ar gyfer yr eiddo ac, ar y diwrnod yr ymrwymwyd i’r trefniant, roedd P yn gyflogai, yn gontractwr, yn bartner neu’n berthynas agos i L. Lle bo cysylltiad o’r fath yn bodoli, y person sy’n aml yn rhoi’r cytundeb sy’n bwriadu cadw rheolaeth dros yr eiddo yn ymarferol. Mae awdurdodau bilio wedi nodi defnydd y trefniant hwn i osgoi’r terfyn ar gyfer dau eiddo fesul talwr ardrethi ym mhob awdurdod lleol ar gyfer Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach.
Yn y pedwerydd trefniant, mae person (“P”), neu’r cwmni, ffyrm neu ymddiriedolaeth lle mae P yn gweithredu fel cyfarwyddwr, partner, ymddiriedolwr elusen neu unigolyn sydd â rheolaeth sylweddol, yn cael ei wneud yn dalwr ardrethi. Ar y diwrnod yr ymgymerwyd â’r trefniant, mae un neu ragor o’r amgylchiadau canlynol yn berthnasol:
- Yn ystod y 2 flynedd flaenorol, roedd P wedi cynnal busnes neu wedi arfer pwerau benthyca cwmni cyhoeddus heb dystysgrif masnachu. Mae hynny’n drosedd.
- Yn ystod y 2 flynedd flaenorol, roedd P yn ddarostyngedig i ddatganiad a ddyroddwyd gan lys am fasnachu twyllodrus neu fasnachu anghyfiawn cyn neu yn ystod dirwyn cwmni ansolfent i ben. Gall y llysoedd osod atebolrwydd ar berson sydd wedi bod yn anonest neu sydd ar fai mewn perthynas â dyledion cwmni ansolfent.
- Cafodd P ei anghymhwyso rhag bod yn gyfarwyddwr cwmni. Gellir anghymhwyso person rhag bod yn gyfarwyddwr cwmni os nad yw’n cyflawni ei gyfrifoldebau cyfreithiol. Gall gwaharddiad bara hyd at 15 mlynedd, ac yn ystod y cyfnod hwnnw ni chaiff person fod yn gyfarwyddwr cwmni sydd wedi’i gofrestru yn y DU, na bod yn gysylltiedig â’r gwaith o ffurfio, hyrwyddo neu reoli cwmni.
- Cafodd P ei anghymhwyso rhag bod yn ymddiriedolwr elusen. Gellir anghymhwyso person rhag bod yn ymddiriedolwr am amryw o resymau sy’n ymwneud â throseddau, camreoli neu gamymddwyn wrth weinyddu elusen. Gall rhai gwaharddiadau bara hyd at 15 mlynedd, ac yn ystod y cyfnod hwnnw ni chaiff person ddal swydd na chyflogaeth mewn swyddogaethau uwch-reoli ar gyfer elusen.
- Yn ystod y 2 flynedd flaenorol, cafwyd P yn euog o dorri cyfyngiadau ar ailddefnyddio enwau cwmnïau. Byddai hyn yn datgelu bod P yn rhedeg yr un busnes â’r cwmni ansolfent, sy’n nodwedd gyffredin o drefniadau sy’n ymwneud â ‘chwmnïau ffenics’ a chyfryngau at ddibenion arbennig.
- Roedd P yn ddarostyngedig i gyfyngiadau methdaliad. Gall y llysoedd osod cyfyngiadau ar berson sy’n fethdalwr ac sydd wedi bod yn anonest neu sydd ar fai am ei ddyledion. Gellir gosod cyfyngiadau am gyfnod rhwng 2 a 15 mlynedd, pan na chaiff person (ymhlith llawer o bethau eraill) fod yn gyfarwyddwr cwmni na neu ffurfio, rheoli neu hyrwyddo cwmni.
Mae’r diffiniad arfaethedig o’r pedwerydd trefniant yn cynnwys amrywiaeth o amgylchiadau lle mae’r talwr ardrethi wedi rhedeg ei fusnes yn ddiweddar mewn modd anghyfreithlon, wedi’i gael yn euog o drosedd gysylltiedig, wedi’i anghymhwyso rhag rolau uwch mewn cwmni neu wedi bod yn ddarostyngedig i gyfyngiadau methdaliad. Mae’r rhain yn ddangosyddion cryf nad ydynt yn dalwyr ardrethi dilys sy’n gallu cynnal busnes cyfreithlon heb gyfyngiadau.
Ystyrir bod pob un o’r trefniadau o’r math hwn yn artiffisial ar y sail eu bod yn rhwystro gweithrediad arfaethedig y system ardrethi annomestig. Maent naill ai’n atal adnabod y talwr ardrethi cywir neu’n gosod talwr ardrethi sydd ddim yn gallu cynnal busnes yn gyfreithlon oherwydd ei ymddygiad busnes diweddar.
Math 4: mae nodweddion penodol i’r feddiannaeth
Mae’r trothwyon ar gyfer pennu meddiannaeth ‘gwirioneddol’ a ‘llesiannol’ wedi’u sefydlu mewn cyfraith achosion, yn gyffredinol mewn ymateb i awdurdodau bilio sy’n ceisio herio trefniadau osgoi. Mae Llywodraeth Cymru o’r farn bod y trothwyon hyn yn rhy isel, ac yn galluogi ennill manteision o drefniadau sy’n anghyson â’r egwyddorion ehangach a’r amcanion polisi y mae’r system ardrethi annomestig yn seiliedig arnynt.
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig diffinio dau drefniant penodol o’r math hwn. Ym mhob achos, mae’r trefniant yn un artiffisial oherwydd bod gan nodweddion penodedig sy’n ddangosyddion cryf o osgoi yn perthyn i’r meddiant.
Yn y trefniant cyntaf mae’r feddiannaeth yn llesiannol yn bennaf oherwydd ei bod yn cyfrannu at gynnal busnes lliniaru ardrethi annomestig. Mae cyfraith achosion wedi sefydlu y gall prydlesu eiddo at ddibenion lliniaru ardrethi yn unig fod yn ‘llesiannol’, hyd yn oed os nad oes budd arall i’r trethdalwr o dan y trefniant. Mae hefyd wedi sefydlu bod meddiannaeth yn ‘wirioneddol’ pan fo eitemau nad ydynt yn sylweddol eu gwerth na’u pwysigrwydd yn cael eu rhoi yn yr eiddo. Nid yw Llywodraeth Cymru yn cytuno â’r sefyllfa hon gan ei bod yn galluogi i eiddo sydd, i bob pwrpas, yn wag gael ei drin fel eiddo sy’n cael ei feddiannu at ddibenion ardrethi annomestig.
Yn yr ail drefniant, mae budd y feddiannaeth yn deillio o drosglwyddydd WiFi neu Bluetooth a ddefnyddir ar gyfer marchnata electronig neu hysbysebu (a elwir yn aml yn ‘farchnata sy’n defnyddio agosrwydd’ neu ‘proximity marketing’). Mae cyfraith achosion wedi sefydlu y gall meddiannaeth fod yn ‘wirioneddol’ pan fo dim ond cyfran fach iawn o arwynebedd llawr eiddo yn cael ei defnyddio. Mae marchnata sy’n defnyddio agosrwydd yn drefniant hysbys sy’n ymelwa ar ba mor hawdd yw bodloni’r prawf hwn. Bwriad hyn yw cofnodi enghraifft benodol o ddefnydd amhriodol neu ddefnydd bach iawn o eiddo sydd â budd. Er bod marchnata sy’n defnyddio agosrwydd yn fenter ddilys, nid dyma’r unig ddefnydd a ddisgwylir yn rhesymol o eiddo annomestig. Gan mai ychydig iawn o le ffisegol sydd ei angen, gellid darparu ar ei gyfer yn hawdd ochr yn ochr â phrif ddefnydd o eiddo a heb ymyrryd.
Mae’r ddau drefniant o’r math hwn wedi profi’n effeithiol o ran sicrhau meddiannaeth drwy ddefnydd bach iawn neu ddim defnydd gwirioneddol o eiddo. Y nod yn aml yw ailosod cymhwysedd y perchennog am gyfnod o ryddhad eiddo gwag, ar ôl i’r trefniant ddod i ben, er y gallai manteision eraill godi.
Trefniadau osgoi eraill
Mae’n bosibl y bydd rhanddeiliaid yn ymwybodol o drefniadau osgoi eraill nad yw’r diffiniadau arfaethedig a nodir uchod wedi mynd i’r afael a nhw’n uniongyrchol. Mae cyfraith achosion wedi mynd i’r afael â rhai trefniadau, ac ystyriwyd hyn gan Lywodraeth Cymru wrth ddatblygu’r cynigion hyn. Pan fydd cyfraith achosion wedi dyfarnu yn erbyn trefniant osgoi am reswm perthnasol, mae hyn yn golygu bod y fframwaith deddfwriaethol presennol ar gyfer ardrethi annomestig wedi mynd i’r afael ag ef. Felly, ni fyddai cynnwys trefniadau o’r fath yn y cynigion hyn yn cael unrhyw effaith adeiladol.
Mae ‘gwarcheidiaeth eiddo’ yn drefniant y mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol ohono sy’n ceisio meddiannu eiddo annomestig drwy ei ddefnyddio fel llety byw. Yn y system dreth leol, dylai eiddo (neu ran o eiddo) sy’n cael ei ddefnyddio fel llety byw gael ei nodi’n eiddo domestig sy’n atebol i dalu’r dreth gyngor (yn amodol ar eithriadau ar gyfer llety arhosiad byr a llety hunanddarpar sy’n bodloni meini prawf penodol). Mae’r fframwaith deddfwriaethol presennol eisoes yn darparu ar gyfer y canlyniad hwn, sef y ffordd briodol o atal osgoi atebolrwydd treth lleol drwy’r trefniant. Asiantaeth y Swyddfa Brisio sy’n gyfrifol am lunio rhestrau ardrethu annomestig a’r dreth gyngor. Dylai achosion lle gallai fod angen newid dosbarthiad gael eu dwyn i sylw’r Asiantaeth.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ymwybodol o drefniadau sy’n ceisio ymelwa ar esemptiadau rhag ardrethi annomestig, gan gynnwys ar gyfer safleoedd amaethyddol a mannau addoli crefyddol. Mae rhai enghreifftiau o’r trefniadau hyn (gan gynnwys pan fônt wedi cael eu gwneud yn Lloegr) wedi cael eu herio’n llwyddiannus. Yn yr achosion hyn mae llysoedd wedi dyfarnu nad oedd y ‘feddiannaeth’ y bwriedid iddi ysgogi’r esemptiad wedi cyflawni’r prawf sefydledig. Yr Asiantaeth sy’n gyfrifol am benderfynu a ddylai eiddo gael ei eithrio rhag cael ei gynnwys ar restr ardrethu annomestig. Gellir mynd i’r afael yn fwy priodol ag unrhyw faterion sy’n weddill sy’n ymwneud ag ymelwa ar esemptiadau drwy gryfhau’r diffiniadau perthnasol.
Mae cyfraith achosion ar y materion hyn yn gymhleth ac yn parhau i esblygu. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i adolygu’r ffordd yr ymdrinnir ag unrhyw drefniadau perthnasol ac yn ailystyried fel y bo’n briodol os bydd amgylchiadau’n newid.
Nodi trefniadau artiffisial
Os oes gan awdurdodau bilio unrhyw reswm dros gredu bod trefniant osgoi artiffisial wedi’i wneud, efallai y bydd angen iddynt gasglu rhagor o dystiolaeth. Byddai’r dystiolaeth berthnasol yn dibynnu ar y trefniant penodol a gall gynnwys gwybodaeth sydd ar gael i’r cyhoedd o amrywiaeth o ffynonellau. Mae’r ffynonellau hyn yn cynnwys y canlynol, ond efallai nad yw’n gyfyngedig iddynt:
- mae Tŷ’r Cwmnïau yn cyhoeddi gwybodaeth am gwmnïau, gan gynnwys natur eu busnes a’u hasedau, pwy yw’r cyfarwyddwyr, y partneriaid, a’r unigolion sydd â rheolaeth sylweddol, a gwybodaeth am ansolfedd
- mae’r Gwasanaeth Ansolfedd yn cyhoeddi’r Gofrestr Ansolfedd Unigol, sy’n cyfuno gwybodaeth am fethdaliadau ac ansolfedd
- cyhoeddir manylion gan y Gwasanaeth Ansolfedd am gyfarwyddwyr sydd wedi’u gwahardd (mewn perthynas â’r 3 mis diweddaraf). Caiff hyn hefyd ei gyhoeddi ar gronfa ddata Tŷ’r Cwmnïau o gyfarwyddwyr sydd wedi’u gwahardd (dros gyfnod y gwaharddiad)
- mae’r Comisiwn Elusennau yn cyhoeddi’r Gofrestr Elusennau, sy’n cynnwys enw’r ymddiriedolwyr, a’r Gofrestr o Ymddiriedolwyr sydd wedi’u Diswyddo, sy’n rhoi manylion y bobl sydd wedi’u hanghymhwyso fel ymddiriedolwyr elusen
- efallai y bydd gwybodaeth ar gael gan y llysoedd hefyd am droseddau ac euogfarnau perthnasol
Gellir cael gafael ar rywfaint o dystiolaeth berthnasol nad yw ar gael i’r cyhoedd drwy ddulliau eraill. I gael tystiolaeth o'r fath gellir defnyddio pwerau presennol i awdurdodau bilio ofyn am wybodaeth a mynd i mewn i eiddo a'i arolygu (o dan baragraffau 5 a 7A, yn y drefn honno, o Atodlen 9 i Ddeddf 1988). Mae enghreifftiau o’r ffyrdd y gellir defnyddio’r pwerau hyn yn cynnwys y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt:
- gellir gofyn am gopi o gytundeb les, i ddarparu manylion y trefniant ar gyfer meddiannu eiddo (e.e. y partïon i’r cytundeb, ei bwrpas a’r rhent cysylltiedig)
- gellir cynnal arolwg o eiddo, i bennu graddau a nodweddion unrhyw feddiannaeth
- gellir gofyn am gopi o gytundeb gyda darparwr trydydd parti o wasanaethau sy’n ymwneud ag ardrethi annomestig, i ddarparu manylion am y darparwr, y gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu a’i bwrpas
Mae’n bosibl bod amgylchiadau a ffynonellau gwybodaeth eraill sy’n hysbys i awdurdodau bilio sy’n berthnasol i ganfod a oes unrhyw rai o’r trefniadau arfaethedig wedi cael eu gwneud. Ar ôl i drefniant diffiniedig gael ei nodi, bydd yn cael sylw gan yr awdurdod bilio, yn unol â’r fframwaith gwrthweithio osgoi trethi.
Mewn perthynas â’r holl drefniadau diffiniedig, mae Llywodraeth Cymru yn cynnig galluogi awdurdod bilio i benderfynu nad yw trefniant penodol yn un artiffisial, gan ystyried holl amgylchiadau achos unigol. Gall awdurdod bilio, er enghraifft, fod â gwybodaeth leol am y meddiannydd neu’r eiddo, sy’n arwain at ddyfarniad o’r fath. Ni fyddai angen penderfyniad i drin trefniant diffiniedig fel un artiffisial, sef y canlyniad diofyn.
Gwrthweithio’r fantais
O dan y fframwaith gwrthweithio osgoi, ar ôl i drefniant osgoi artiffisial gael ei nodi, rhaid i’r awdurdod bilio drin y person a fyddai wedi bod yn dalwr ardrethi fel rhywun sy’n atebol am swm yr ardrethi annomestig a fyddai wedi bod yn daladwy, fel pe na bai’r trefniant wedi’i wneud. Rhaid i'r awdurdod bilio roi hysbysiad i berson sydd i'w drin fel yr un sy'n atebol, gan nodi'r rhesymau dros wneud hynny a gwybodaeth am y prosesau adolygu ac apeliadau.
Gall person ofyn am adolygiad o'r hysbysiad sy’n nodi y caiff ei drin fel un sy'n atebol, o fewn 30 o ddiwrnodau ar ôl iddo ddod i law. Rhaid i’r awdurdod bilio roi gwybod i’r person am y canlyniad o fewn 30 diwrnod i’r cais am adolygiad ddod i law. Pan fo hysbysiad wedi ei gadarnhau yn dilyn adolygiad, caiff yr unigolyn apelio i Dribiwnlys Prisio Cymru o fewn 30 diwrnod. Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig galluogi apêl bellach i’r Uwch Dribiwnlys mewn perthynas â phenderfyniad Tribiwnlys Prisio Cymru.
Bydd person sy’n cael ei drin fel un sy’n atebol yn ddarostyngedig wedyn i’r fframwaith presennol ar gyfer casglu a gorfodi atebolrwydd ardrethi annomestig (a nodir yn Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestrau Lleol) 1989). Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig, unwaith y bydd yr amser ar gyfer adolygiad ac apêl wedi dod i ben, y bydd yr awdurdod bilio yn dyroddi hysbysiad galw am dalu mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol daladwy y bydd y trefniant yn effeithio arni. Ar wahân i’r posibilrwydd o gosb ychwanegol am fethu â thalu swm sy’n ddyledus (gweler isod), bydd y trefniadau sefydledig ar gyfer gorfodi atebolrwydd ardrethi annomestig nad yw’n cael ei thalu ar ôl hysbysiad treth yn berthnasol.
Cosbau
Mae’r fframwaith gwrthweithio osgoi yn caniatáu i gosb ariannol gael ei gosod am fethu â thalu swm sy’n ddyledus o ganlyniad i wneud trefniant osgoi artiffisial. Yng nghyd-destun y dull arfaethedig o gasglu a gorfodi a nodir uchod, dim ond os na thalwyd swm sy’n ddyledus mewn hysbysiad galw am dalu (ar ôl y cyfle i gael adolygiad ac apêl) y gallai hyn ddigwydd. Mae’n bwysig bod y fframwaith yn cael ei ategu gan sancsiwn cymesur i helpu i sicrhau bod modd mynd i’r afael â threfniadau osgoi artiffisial yn effeithiol.
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig gosod cosb o £500 yn ogystal â 3% o werth ardrethol yr eiddo (ar ddyddiad yr hysbysiad yn nodi y bydd y person yn cael ei drin fel un sy’n atebol) mewn perthynas â phob math o drefniant. Byddai’r awdurdod bilio yn cyflwyno hysbysiad cosb i berson sydd wedi methu â thalu swm sy’n ddyledus, gan ei gwneud yn ofynnol iddo dalu’r gosb o fewn 21 diwrnod. Os nad yw’r gosb yn cael ei thalu, gallai’r awdurdod bilio ei hadennill fel dyled sifil, ond ni ellid gwneud hawliad o’r fath cyn i unrhyw apêl (os gwneir un) yn erbyn yr hysbysiad perthnasol ddod i ben. Mae hyn yn cyd-fynd â’r dull gweithredu ar gyfer cosbau tebyg yn y system ardrethi annomestig.
Dyletswydd i roi gwybod i awdurdodau bilio am newidiadau mewn amgylchiadau
Ar hyn o bryd, nid oes rhaid i dalwyr ardrethi roi gwybod i awdurdodau bilio am newidiadau i amgylchiadau a fyddai’n effeithio ar eu hatebolrwydd ardrethi annomestig. Mae lleiafrif o dalwyr ardrethi yn dal gwybodaeth yn ôl yn fwriadol, os ydynt yn credu y bydd hyn yn eu helpu i osgoi neu leihau eu hatebolrwydd.
Nid yw awdurdodau bilio bob amser yn cael gwybod am newidiadau i statws talwyr ardrethi neu feddiannaeth ar gyfer eiddo, gan eu hatal rhag cyfrifo a phriodoli atebolrwydd yn gywir. Ceir enghraifft gyffredin pan fo deiliad sy’n gymwys i gael Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach yn gadael eiddo, ond bod perchennog yr eiddo gwag (a allai fod yr un person neu beidio) yn methu â rhoi gwybod i’r awdurdod bilio nad yw’n cael ei feddiannu mwyach. Fel arall, mae’n bosibl na fydd perchennog eiddo gwag yn hysbysu’r awdurdod bilio os yw wedi ailddechrau meddiannu yn ystod y cyfnod pan fydd rhyddhad cyfyngedig o ran amser yn berthnasol. Yn y ddau achos, mae’r trethdalwr yn parhau i elwa ar ryddhad nad yw’n gymwys i’w gael.
Mae paragraff 6AA o Atodlen 9 i Ddeddf 1988 yn galluogi rheoliadau i'w gwneud yn ofynnol i bersonau ddarparu gwybodaeth i awdurdodau bilio sy'n berthnasol i benderfynu pwy sy'n atebol am ardrethi annomestig o ran eiddo yng Nghymru a'r swm y maent yn atebol i'w dalu. Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig gwneud rheoliadau sy’n creu dyletswydd i ddarparu gwybodaeth i awdurdodau bilio am newidiadau penodol mewn amgylchiadau. Y nod yw sicrhau bod awdurdodau bilio yn cael gwybod am newidiadau perthnasol yn brydlon. Bydd hyn yn gwella cywirdeb biliau ardrethi annomestig ac yn lleihau’r posibilrwydd o osgoi.
Y bwriad yw bod y cynnig yn ategu’r ddyletswydd i ddarparu gwybodaeth i Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Mae’n bwysig bod y dyletswyddau cyfochrog yn ategu ei gilydd ac yn adlewyrchu’r rhannu o gyfrifoldebau rhwng Asiantaeth y Swyddfa Brisio ac awdurdodau bilio yn y system ardrethi annomestig. Er bod yr wybodaeth sydd i’w darparu i’r Asiantaeth yn ymwneud â bodolaeth a maint yr eiddo, gan alluogi’r Asiantaeth i gyflawni ei swyddogaeth prisio, mae’r cynigion hyn yn canolbwyntio ar bwy yw’r talwr ardrethi ac a yw’r eiddo’n cael ei feddiannu, gan alluogi awdurdodau bilio i gyflawni eu swyddogaeth bilio a chasglu.
Mae cwestiynau 9 i 11 yn gofyn am farn ar gynigion i greu dyletswydd i dalwyr ardrethi ddarparu gwybodaeth am rai newidiadau mewn amgylchiadau i awdurdodau bilio.
Y ddyletswydd arfaethedig
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig y bydd yn rhaid i berson (“P”) sy’n dalwr ardrethi ar gyfer eiddo yng Nghymru roi gwybod i’r awdurdod bilio perthnasol am y newidiadau canlynol:
- Pwy yw P. Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i P roi gwybod i’r awdurdod bilio mai ef yw’r talwr ardrethi newydd ar gyfer yr eiddo.
- P yw’r meddiannydd yn awr ac roedd yr eiddo heb ei feddiannu yn union cyn y newid. Mae hyn yn golygu y bydd yn ofynnol i P roi gwybod i’r awdurdod bilio os yw’n meddiannu’r eiddo a arferai fod yn wag (p’un ai P oedd y talwr ardrethi eisoes ai peidio, fel y perchennog).
- Mae person (a all fod yn P neu dalwr ardrethi blaenorol) wedi peidio â bod yn feddiannydd ac mae'r eiddo heb ei feddiannu yn syth ar ôl y newid. Mae hyn yn golygu y bydd yn ofynnol i P, fel perchennog yr eiddo gwag, roi gwybod i’r awdurdod bilio nad yw’n cael ei feddiannu mwyach ((p’un ai P oedd y talwr ardrethi eisoes ai peidio, fel y meddiannydd blaenorol).
Bydd yn ofynnol i’r talwr ardrethi ddarparu’r wybodaeth hon o fewn y cyfnod o 60 diwrnod ar ôl i newid perthnasol ddigwydd. Mae’r amserlen hon yn gyson â gofynion tebyg, gan gynnwys mewn perthynas â’r ddyletswydd gyfochrog i ddarparu gwybodaeth i Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Cosbau, adolygiadau ac apeliadau
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig galluogi gosod cosbau i gymell cydymffurfio â’r ddyletswydd arfaethedig i ddarparu gwybodaeth i awdurdodau bilio. Gall cosb o £500 cael ei rhoi am fethu â chydymffurfio â gofyniad yn y rheoliadau i ddarparu gwybodaeth. Gall cosb ar wahân cael ei rhoi ar euogfarn ddiannod heb fod yn fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol (£1,000) am ddarparu gwybodaeth ffug yn ymwybodol neu’n fyrbwyll.
Byddai person sy’n cael hysbysiad o gosb gan yr awdurdod bilio am fethu â chydymffurfio â’r ddyletswydd yn gallu gofyn am adolygiad o fewn 30 diwrnod. O fewn 30 diwrnod arall i ddyddiad unrhyw gais o'r fath, byddai'n ofynnol i'r awdurdod bilio hysbysu'r person bod yr hysbysiad o gosb naill ai wedi’i gadarnhau neu wedi’i dynnu'n ôl. Os cadarnheir yr hysbysiad o gosb, byddai’r person yn gallu apelio i Dribiwnlys Prisio Cymru o fewn 30 diwrnod o’r dyddiad yr hysbysir hwy am ganlyniad yr adolygiad.
Byddai’r awdurdod bilio yn cyflwyno hysbysiad o gosb, gan ei gwneud yn ofynnol bod taliad yn cael ei wneud o fewn 21 diwrnod. Os nad yw’r gosb yn cael ei thalu, gallai’r awdurdod bilio ei hadennill fel dyled sifil, ond ni ellid gwneud hawliad o’r fath cyn i apêl (os gwneir un) yn erbyn yr hysbysiad o gosb ddod i ben. Mae hyn yn cyd-fynd â’r dull gweithredu ar gyfer cosbau tebyg yn y system ardrethi annomestig.
Hysbysiadau galw am dalu
Cydnabyddir mai cyfyngedig fydd effeithiolrwydd y ddyletswydd arfaethedig i ddarparu gwybodaeth i awdurdodau bilio os na fydd talwyr ardrethi yn ymwybodol o’u rhwymedigaethau ac yn cael eu hatgoffa’n rheolaidd amdanynt. Felly, byddai’n ddelfrydol i’r ddyletswydd gael ei dwyn yn uniongyrchol at sylw talwyr ardrethi unigol yn rheolaidd, o fewn cyfathrebiadau statudol perthnasol gan awdurdodau bilio.
Mae hysbysiadau galw am dalu blynyddol yn cael eu hanfon gan awdurdodau bilio i bob talwr ardrethi. Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig diwygio’r gofynion statudol ar gyfer hysbysiadau galw am dalu i gynnwys disgrifiad o’r rhwymedigaethau y mae’r ddyletswydd yn ei rhoi ar y talwr ardrethi. Bwriad hyn yw sicrhau bod talwyr ardrethi yn deall ac yn cael eu hatgoffa’n rheolaidd o’r wybodaeth y byddai’n rhaid iddynt ei rhoi i awdurdodau bilio.
Y camau nesaf
Yn amodol ar ystyriaeth gydwybodol o’r safbwyntiau a gyflwynir mewn ymateb i’r ymgynghoriad hwn, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno’r rheoliadau sy’n ofynnol er mwyn gweithredu’r ddau gynnig a’u dwyn i rym ar 1 Ebrill 2026.
Mewn perthynas â’r Rheoliadau drafft sydd wedi’u hatodi i’r ymgynghoriad hwn, gellir gwneud newidiadau i’r Rheoliadau hynny o ganlyniad i’r ymatebion ac yn ôl yr angen i sicrhau bod y darpariaethau’n effeithiol o ran cyflawni amcanion y polisi.
Cwestiynau’r ymgynghoriad
Cwestiwn 1
Ydych chi’n cytuno â’r cynigion i ddiffinio trefniadau osgoi artiffisial lle nad yw’r feddiannaeth ar sail fasnachol?
Cwestiwn 2
Ydych chi’n cytuno â’r cynigion i ddiffinio trefniadau osgoi artiffisial lle mae’r talwr ardrethi yn cael ei ddirwyn i ben yn wirfoddol?
Cwestiwn 3
Ydych chi’n cytuno â’r cynigion i ddiffinio trefniadau osgoi artiffisial lle mae’r perchennog neu’r meddiannydd yn dangos nodweddion neu ymddygiadau penodol?
Cwestiwn 4
Ydych chi’n cytuno â’r cynigion i ddiffinio trefniadau osgoi artiffisial lle mae’r mae nodweddion penodol i’r feddiannaeth?
Cwestiwn 5
Rhowch fanylion unrhyw drefniadau osgoi artiffisial rydych yn ymwybodol ohonynt, nad ydynt o bosibl wedi’u cynnwys o fewn y cynigion.
Cwestiwn 6
Rhowch fanylion unrhyw ffynonellau tystiolaeth eraill y gallai fod yn ddefnyddiol i awdurdodau bilio eu hystyried pan fyddant yn canfod y gallai trefniant osgoi artiffisial fod wedi cael ei wneud.
Cwestiwn 7
A ydych yn cytuno â’r cynnig i alluogi awdurdodau bilio i benderfynu nad yw trefniant penodol yn artiffisial mewn achosion unigol?
Cwestiwn 8
A ydych yn cytuno â’r cynnig i osod cosb ariannol am fethu â thalu swm sy’n ddyledus, i wrthweithio’r fantais a geir o wneud trefniant osgoi artiffisial?
Cwestiwn 9
A ydych yn cytuno â’r ddyletswydd arfaethedig i dalwyr ardrethi roi gwybod i awdurdodau bilio am newidiadau penodol mewn amgylchiadau?
Cwestiwn 10
A ydych yn cytuno â’r cynigion i osod cosbau ariannol am fethu â chydymffurfio â’r ddyletswydd ac am ddarparu gwybodaeth ffug?
Cwestiwn 11
A ydych yn cytuno â’r cynnig i atgoffa trethdalwyr ynghylch gofynion y ddyletswydd mewn hysbysiadau galw am dalu blynyddol?
Cwestiwn 12
Yn eich barn chi, beth fyddai effeithiau tebygol y cynigion ar y Gymraeg? Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn unrhyw effeithiau tebygol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
- Yn eich barn chi, a oes cyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol?
- Yn eich barn chi, a oes cyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?
Cwestiwn 13
Yn eich barn chi, a ellid llunio neu newid y cynigion er mwyn gwneud y canlynol:
- cael effeithiau cadarnhaol neu effeithiau mwy cadarnhaol o ran defnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg; neu
- lliniaru unrhyw effeithiau negyddol ar ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg?
Cwestiwn 14
Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw bwyntiau cysylltiedig nad ydym wedi mynd i'r afael â nhw’n benodol, defnyddiwch y lle hwn i'w nodi.
Sut i ymateb
Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 30 Mehefin 2025, drwy unrhyw un o’r dulliau canlynol.
- Llenwi ein ffurflen ar-lein
- Lawrlwytho ein ffurflen ymateb, ei llenwi a’i hanfon drwy e-bost at CTaNDR.Ymgyngoriadau@llyw.cymru
- Lawrlwytho ein ffurflen ymateb, ei llenwi a’i hanfon drwy e-bost at:
Y Gangen Polisi Ardrethi Annomestig
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Eich hawliau
Yn unol â'r ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:
- i gael gwybod am y data personol a gedwir amdanoch, ac i’w gweld
- i'w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
- i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data (mewn amgylchiadau penodol)
- i’ch data gael eu ‘dileu’ (mewn amgylchiadau penodol)
- i gludadwyedd data (mewn amgylchiadau penodol)
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data
Mae ymatebion i ymgynghoriadau yn debygol o gael eu cyhoeddi’n gyhoeddus, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os hoffech i’ch ymateb aros yn ddienw, dywedwch wrthym ni.
I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan GDPR y DU, gweler y manylion cyswllt isod.
Y Swyddog Diogelu Data
Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: SwyddogDiogelu Data@llyw.cymru
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF
Rhif ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: ico.org.uk
Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)
Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgyngoriadau Llywodraeth Cymru a thros unrhyw ddata personol rydych yn eu darparu yn rhan o’ch ymateb i’r ymgynghoriad.
Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth ynghylch sut y byddant yn arfer eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithlon dros brosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. (Erthygl 6(1)(e))
Bydd unrhyw ymateb y byddwch yn ei anfon atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymdrin â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau pellach. Mewn ymgyngoriadau ar y cyd, gall hyn hefyd gynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o ymatebion i ymgyngoriadau, efallai y bydd trydydd parti achrededig (ee sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) yn cael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Dim ond o dan gontract yr ymgymerir â gwaith o'r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer y contractau hyn yn amlinellu gofynion llym ar gyfer prosesu data personol a’u cadw’n ddiogel.
Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae'n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi'r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda'r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i'ch enw neu’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.
Dylech hefyd fod yn ymwybodol o’n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth ac y gallai Llywodraeth Cymru fod o dan rwymedigaeth gyfreithiol i ddatgelu rhywfaint o wybodaeth.
Os caiff eich manylion eu cyhoeddi yn rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, bydd yr adroddiadau cyhoeddedig hyn yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd unrhyw ddata sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch fel arall yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.
Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig
Rhif LlC: WG52064
Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd amgen. Os ydych am gael y ddogfen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.