Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair y Gweinidog

Mae Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn ganolog i waith Llywodraeth Cymru a'n gweledigaeth ar gyfer Cymru. Credwn y dylai pawb gael ei drin yn deg, yn enwedig y rhai sy'n wynebu'r achosion mwyaf difrifol o wahaniaethu, anfantais ac ymyleiddio. Rydym yn gweithio tuag at Gymru fwy cyfartal, gwlad sy'n sicrhau chwarae teg i bawb wrth gael gafael ar wasanaethau, yn mynd i'r afael ag anghydraddoldebau a thlodi ac yn sicrhau canlyniadau tecach i'n holl ddinasyddion.

Nid yw'r nodau hyn yn newydd, ond maent yn bwysicach nag erioed heddiw. Mae'r bwlch rhwng y bobl gyfoethocaf a thlotaf yn ein cymdeithas yn dal i dyfu, ac mae'r rheini sy'n ceisio hyrwyddo eu hagendâu o anoddefgarwch a chasineb tuag at bobl eraill. Mae blynyddoedd o gyni hefyd yn bygwth tanseilio ein gwerthoedd a rennir a rhannu ein cymunedau.

Yn y cyd-destun hwn, mae'n rhaid inni barhau i wneud pob ymdrech i gadarnhau a dangos ein hymrwymiad i gydraddoldeb a bod yn wyliadwrus er mwyn gwarchod deddfau hawliau dynol a chytuniadau rhyngwladol sy'n diogelu pob un ohonom. Byddwn yn parhau i ystyried effeithiau cydraddoldeb yng nghyd-destun y Ddeddf Cydraddoldeb i'r rheini â nodweddion gwarchodedig, Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a'r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol.

Rydym yn glir bod yn rhaid i Gymru decach gynnwys pawb. Mae hynny'n golygu cefnogi'r grwpiau a'r unigolion hynny sy'n wynebu'r risg fwyaf o wahaniaethu a chael eu trin yn annheg sydd, yn ei dro, yn arwain at ganlyniadau bywyd anghyfartal iawn. Nid yw sefyll yn llonydd yn ddigon byth.

Fel rhan o'r adolygiad hwn, mae partneriaid a grwpiau rhanddeiliaid cydraddoldeb mewnol ac allanol Llywodraeth Cymru wedi cyfarfod er mwyn pennu'r fframwaith ar gyfer yr ymgynghoriad hwn, a hynny ar-lein ac mewn gweithdy. O'r gwaith hwn, lluniwyd y ddogfen ymgynghori hon sy'n cynnwys datganiad o'n nod cyffredinol ar gyfer Cymru, Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol drafft gydag Egwyddorion yr Ymagwedd.

Nid diwedd y daith yw'r ymgynghoriad hwn a chyhoeddi ein Hamcanion Cydraddoldeb Strategol ar gyfer 2024 i 2028 yn ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar gyfer 2024 i 2028 wedi hynny. Bydd cynllun 2024 i 2028 yn ddogfen fyw y gellir ei datblygu ymhellach yn ystod ei chyfnod o bedair blynedd a bydd yn esblygu dros amser wrth i gynlluniau a strategaethau penodol gael eu datblygu a'u diweddaru.  Byddwn yn sicrhau bod lleisiau gweithredol y rheini sydd â phrofiad bywyd o wynebu gwahaniaethu ac anghydraddoldebau, sefydliadau partner, rhanddeiliaid, a'r cyhoedd ehangach yn cael eu cynnwys a'u clywed. Mae hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau'r cynnydd rydym yn ymrwymedig i'w wneud tuag at ddileu anghydraddoldeb.

Rwyf yn annog pawb sydd â diddordeb mewn hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru i ymgysylltu â'r ymgynghoriad hwn a'n tywys drwy modd y gallem newid ein ffordd o weithio er gwell, er mwyn cefnogi camau nesaf ein taith tuag at Gymru deg, gyfiawn a chynhwysol wedi'i hategu gan barch at hawliau dynol.

Jane Hutt AS
Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip, â chyfrifoldeb portffolio am Gydraddoldebau

Cyflwyniad

Pam mae angen Cynllun Cydraddoldeb Strategol arnom?

Mae cael Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn ddyletswydd gyfreithiol o dan Reoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011. Cyflwynwyd y ddeddfwriaeth er mwyn i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn Adran 149 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 allu cael ei chyflawni'n well ac i sicrhau bod cydraddoldeb wrth wraidd gwaith Llywodraeth Cymru. Mae'r ddeddfwriaeth yn sicrhau bod ein gwaith yn canolbwyntio ar ddileu anghydraddoldeb a'r rhwystrau sy'n ei achosi, gan hyrwyddo cydraddoldeb a meithrin cydberthnasau da rhwng pobl.

Rydym yn creu Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod llunwyr polisi yn ymwybodol o'r anghydraddoldeb y mae pobl yn ei ddioddef ac yn deall yr heriau y mae pobl yn eu hwynebu yn well, fel ein bod yn llunio polisïau sy'n dileu'r rhwystrau i bawb.

Beth yw'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol a pham rydym yn ymgynghori arno?

Mae'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn nodi ein nod tymor hwy a'n hamcanion cydraddoldeb ar gyfer y pedair blynedd nesaf, a fydd yn ein helpu i weithio i gyflawni'r nod hwn. 

Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn cydweithio â phartneriaid ac aelodau o'n grwpiau rhanddeiliaid cydraddoldeb. Rydym am ddefnyddio'r ymgynghoriad cyhoeddus ehangach hwn i ddatblygu Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol gyda'n gilydd, ynghyd â Chamau Gweithredu ategol (yr ymyriadau neu'r pethau y byddwn yn eu gwneud i gyflawni ein Hamcanion) dros y pedair blynedd nesaf ac, ar yr un pryd, rydym am weithio i gyflawni ein Nod Hirdymor i sicrhau cydraddoldeb yng Nghymru. Rydym hefyd yn croesawu sylwadau ar Egwyddorion yr Ymagwedd a nodir yn y ddogfen, a fydd yn ein helpu i gyflawni ein nod hirdymor a'r Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol.

Rydym yn edrych ymlaen at glywed lleisiau o bob rhan o Gymru er mwyn helpu i lunio ein polisïau ar gyfer heddiw a'r dyfodol. Gwyddom fod newid yn cymryd amser ac rydym yn ymrwymedig, drwy weithio gyda chi, i wneud y newidiadau hynny a chyflawni'r effeithiau cadarnhaol sydd eu hangen ledled Cymru.

Beth yw'r fframweithiau cyfreithiol?

Daw rhwymedigaethau cyfreithiol Gweinidogion Cymru i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb o'r canlynol: 

  • Deddf Cydraddoldeb 2010:
    • Mae'r ddeddf hon yn diogelu pobl rhag gwahaniaethu anghyfreithlon yn y gweithle ac yn y gymdeithas ehangach. Mae'n cwmpasu naw nodwedd warchodedig: Oedran, Anabledd, Ailbennu rhywedd, Priodas a Phartneriaeth Sifil, Beichiogrwydd a mamolaeth, Hil, Crefydd neu gred, Rhyw, Cyfeiriadedd rhywiol.
    • Anabledd: Mae rhoi sylw dyledus i'r angen i hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl yn golygu ystyried, yn benodol, yr angen i gymryd camau er mwyn ystyried namau pobl anabl.
    • Mae'n cynnwys dyletswyddau penodol ar gyfer cyrff cyhoeddus, fel Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus.
  • Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus.
  • Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011, a elwir hefyd yn Ddyletswydd Cydraddoldeb Benodol Cymru.
  • Y Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol.

Ceir rhagor o fanylion am y fframweithiau cyfreithiol yn Atodiad B (Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol) ac Atodiad A (Deddfwriaeth Cydraddoldeb).

Y Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol

Nodir y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol yn adran 1 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ac mae'n ei gwneud yn ofynnol i rai awdurdodau cyhoeddus, pan fyddant yn gwneud penderfyniadau o natur strategol am sut i arfer eu swyddogaethau, roi sylw dyledus i ba mor ddymunol yw eu harfer mewn ffordd sydd wedi'i chynllunio i leihau canlyniadau annheg sy'n deillio o anfantais economaidd-gymdeithasol. Mae'r ddyletswydd yn cyfeirio at agweddau ar fywyd: ‘cymdeithasol’ (eich cyfleoedd mewn bywyd a ble rydych yn byw) ac ‘economaidd’ (faint o arian sydd gennych ar gyfer eitemau hanfodol ac eitemau nad ydynt yn hanfodol).

Mae'r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol felly'n ceisio gwella prosesau gwneud penderfyniadau strategol cyrff cyhoeddus penodedig er mwyn cefnogi'r rheini sydd dan anfantais economaidd-gymdeithasol o ran incwm a/neu statws yn well. Mae'n sicrhau bod trechu anghydraddoldeb wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau, ac mae'n adeiladu ar y gwaith da y mae cyrff cyhoeddus eisoes y ei wneud.

Gall anghydraddoldeb waethygu ffactorau economaidd-gymdeithasol negyddol ymhellach. Bydd y Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn nodi amcanion a chamau gweithredu a fydd yn helpu i wella canlyniadau economaidd-gymdeithasol.

Pennod 1: cyflwyno'r cefndir yng Nghymru

Cydraddoldeb nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015yn nodi dyletswydd i ymgymryd â datblygu cynaliadwy gyda'r nod o wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae'n cynnwys saith nod llesiant a phum ffordd o weithio. Ceir rhagor o fanylion yn Atodiad B: Deddfau Penodol i Gymru.

Mae ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn cyfrannu at bob un o'r nodau llesiant ac mae'n cefnogi cynnydd tuag at y canlynol yn benodol:

  • Cymru fwy cyfartal: cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau (gan gynnwys eu cefndir a’u hamgylchiadau economaidd-gymdeithasol).
  • Cymru o gymunedau cydlynus: cymunedau atyniadol, hyfyw, diogel sydd â chysylltiadau da.
  • Cymru iachach: cymdeithas lle mae llesiant corfforol a meddyliol pobl cystal â phosibl a lle deellir dewisiadau ac ymddygiadau sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol.

Bydd y pum ffordd o weithio hirdymor, atal, cyfranogiad, cydweithio ac integreiddio, yn llywio ein gwaith i ddatblygu ein Hamcanion Cydraddoldeb a'r camau gweithredu a fydd yn helpu i sicrhau ein bod yn eu cyflawni.

Gyda'i gilydd, mae'r saith nod llesiant a'r pum ffordd o weithio a nodir yn y Ddeddf wedi'u cynllunio i gefnogi a darparu gwasanaeth cyhoeddus sy'n diwallu anghenion y genhedlaeth bresennol heb beryglu gallu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.

Er mwyn cynyddu ein cyfraniad at y nodau llesiant gymaint â phosibl, rydym yn canolbwyntio ar feysydd lle gallwn gael yr effaith fwyaf / gwneud y gwahaniaeth mwyaf rhwng 2024 a 2028. 

Ceir rhagor o fanylion yn Atodiad B: Deddfau Penodol i Gymru.

“Cryfhau a Hyrwyddo Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru” Ymchwil ac Argymhellion

Ym mis Ionawr 2020, gwnaethom gomisiynu ymchwil er mwyn ystyried opsiynau i gryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol, gan ystyried y fframwaith cyfreithiol a pholisi yng Nghymru. Tynnodd yr adroddiad sylw at y gydberthynas gref rhwng cydraddoldeb a hawliau dynol a'r angen i sefydlu cysylltiadau ac amcanion clir er mwyn gweithredu ar gydraddoldeb.

Mewn ymateb i'r adroddiad Cryfhau a Hyrwyddo Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru, rydym wedi nodi pum prif faes lle mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu, sef: gwaith deddfwriaethol paratoadol, canllawiau, adolygiad o Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, ymgorffori hawliau dynol mewn asesiad effaith a chodi ymwybyddiaeth o hawliau dynol.

Mewn cydweithrediad â'r Grŵp Cynghori ar Hawliau Dynol a'r Gweithgor Opsiynau Deddfwriaethol, rydym yn gwneud gwaith paratoi er mwyn cyflawni ein hymrwymiad yn Rhaglen Lywodraethu 2021-2026 i ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau a'r Confensiwn ar Ddileu Gwahaniaethu yn erbyn Menywod yng nghyfraith Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i wneud cynnydd yn unol â'n rhwymedigaethau cyfreithiol mewn perthynas â'r holl hawliau dynol rhyngwladol.

Ceir gwybodaeth yn nodi'r amrywiaeth o rwymedigaethau rhyngwladol ar Borth Gwe Llywodraeth y DU Human Rights: The UK’s international human rights obligations.

Y dirwedd Cydraddoldeb ac Economaidd-gymdeithasol yng Nghymru heddiw

Ers cyhoeddi Cynllun a nodau cydraddoldeb: 2020 i 2024 cafwyd datblygiadau cenedlaethol a byd-eang arwyddocaol sy'n parhau i effeithio ar fywydau dinasyddion yng Nghymru. 

Y coronafeirws (COVID-19)

Effeithiodd pandemig COVID-19 ar fywydau pobl ym mhedwar ban byd, gan ddwysáu anghydraddoldebau ac anfantais economaidd-gymdeithasol. Effeithiodd y feirws ar fywydau pob un ohonom, ond cafodd effaith anghymesur ar rai grwpiau, gan gynnwys pobl anabl, pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, a'r bobl dlotaf yng Nghymru o ran statws eu hiechyd, yn gymdeithasol ac yn economaidd.

O ddechrau 2020, bu Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda phartneriaid a rhanddeiliaid yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector er mwyn gwneud popeth y gallwn i ymateb i bandemig COVID-19.Wrth i'r pandemig ddatblygu ac i gyfyngiadau symud gael eu rhoi ar waith yng Nghymru, cynhaliwyd cyfarfodydd mwy rheolaidd gyda'n Fforwm Cydraddoldeb i Bobl Anabl, Fforwm Hil Cymru, y Tasglu Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches a'r Fforwm Cymunedau Ffydd. Cafodd y rhan fwyaf o'r cyfarfodydd hyn eu cadeirio gan Weinidogion Cymru, ac roedd uwch-swyddogion, gan gynnwys y Prif Swyddog Meddygol a'r Dirprwy Brif Swyddog Meddygol, yn bresennol mewn rhai cyfarfodydd.

Wrth i'n hymateb i COVID-19 ddatblygu, gwnaethom gyhoeddi (ac rydym yn parhau i gyhoeddi) cyngor, canllawiau ac adroddiadau ystadegol ar ein gwefan yn Coronafeirws (COVID-19).  Dechreuodd Ymchwiliad Cyhoeddus y DU, a gaiff ei gadeirio gan y Gwir Anrhydeddus Farwnes Heather Hallett DBE ym mis Gorffennaf 2022. Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o sicrhau y caiff profiadau pobl yng Nghymru yn ystod y pandemig eu hadlewyrchu yn briodol ac yn drylwyr yn yr ymchwiliad.

Adroddiad ‘A yw Cymru'n Decach?’ y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Cyhoeddwyd adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol A yw Cymru'n Decach? (2018)’ ym mis Hydref 2018 a darparodd dystiolaeth newydd sylweddol i lywio ac ategu gwaith pob lluniwr polisi ac asiantaeth gyflawni sy'n ceisio creu Cymru fwy cyfartal. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod ein prosesau gwneud penderfyniadau yn gadarn a bod ein polisïau a'n gwasanaethau yn ystyried anghenion pobl a'u bod yn hygyrch i bawb.  

Casglodd adroddiad A yw Cymru'n Decach? (2018) dystiolaeth o chwe agwedd ar fywyd, sef: addysg, iechyd, safonau byw, cyfiawnder a diogelwch, gwaith a chyfranogiad mewn gwleidyddiaeth a bywyd cyhoeddus. Roedd y rhagolygon ar gyfer pobl anabl, rhai pobl ethnig leiafrifol a phlant o gefndiroedd tlotach wedi gwaethygu mewn llawer o agweddau ar fywyd. Mae risg y bydd yr anghydraddoldeb hwn yn ymwreiddio am genedlaethau i ddod, gan greu cymdeithas lle y bydd y grwpiau hyn yn cael eu gadael ar ôl yn y daith tuag at wlad deg a chyfartal.

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio tuag at wella data ac ystadegau cydraddoldeb er mwyn llywio'r gwaith o ddatblygu polisïau yn y dyfodol.

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn paratoi i gyhoeddi “A yw Cymru'n Decach? (2023)”. Caiff canfyddiadau'r adroddiad hwn eu hadlewyrchu wrth ddatblygu Cynllun Cydraddoldeb Strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024 i 2028, a fydd yn cynnwys y fersiynau terfynol o'r Amcanion drafft a nodir fel rhan o'r ymgynghoriad hwn.

Grwpiau Rhanddeiliaid

Mae gan Lywodraeth Cymru sawl grŵp rhanddeiliaid sefydledig a ddefnyddiwn yn rheolaidd i ymgysylltu ag eiriolwyr a grwpiau cynrychioliadol er mwyn trafod materion cydraddoldeb a'u datblygu. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Fforwm Cynghori'r Gweinidog ar Heneiddio
  • Y Fforwm Cydraddoldeb i Bobl Anabl
  • Y Tasglu Hawliau Pobl AnablFforwm Hil Cymru
  • Y Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol
  • Y Bwrdd Cenedl NoddfaY Fforwm Cymunedau Ffydd
  • Y Fforwm Cydraddoldeb Rhywedd
  • Y Ford Gron Urddas Mislif
  • Y Grŵp Cynghori ar LHDTC+ (yn cael ei gynnull)
  • Y Grŵp Cynghori ar Hawliau Dynol (y Gweithgor Atgyfnerthu a Datblygu Cydraddoldeb a Hawliau Dynol gynt).
  • Grŵp Cynghorol y Gyllideb ar Gydraddoldeb
  • Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol VAWDASV

Bydd Gweinidogion neu un o uwch-swyddogion Llywodraeth Cymru yn cadeirio'r grwpiau rhanddeiliaid hyn neu'n cymryd rhan ynddynt, gan alluogi rhanddeiliaid cydraddoldeb i ymgysylltu'n uniongyrchol ac yn rheolaidd â'r lefelau uchaf o'r llywodraeth ynglŷn â'r materion sy'n bwysig iddynt.

Cynlluniau Strategol Llywodraeth Cymru

Mae llawer o gynlluniau a strategaethau wedi cael eu cyhoeddi neu eu diweddaru gan Lywodraeth Cymru ers i'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol diwethaf gael ei gyhoeddi yn 2020, a nododd gamau gweithredu i gefnogi Cymru deg a chyfartal: Nid ydym yn cynnig rhestru pob un ohonynt yma, ond rydym wedi cynnwys ambell un sy'n berthnasol i nodwedd warchodedig er mwyn rhoi blas ar rywfaint o'n gwaith.

Oedran

Pobl Hŷn

Mae Cymru o Blaid Pobl Hŷn: Ein Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy’n Heneiddio (Hydref 2021), ac yna'r cynllun cyflawni yn 2022, yn nodi'r camau y byddwn yn eu cymryd i elwa ar y nifer cynyddol o bobl hŷn yng Nghymru wrth inni ailadeiladu ein cymunedau. Bydd hyn, yn ei dro, yn ein galluogi i gefnogi pobl sy'n byw mewn amgylchiadau heriol yn well. Er mwyn adlewyrchu natur amlhaenog heneiddio a natur groestoriadol profiadau pobl, rydym wedi gweithio gyda holl adrannau'r llywodraeth i fynd i'r afael â'r amrywiaeth o ffactorau sy'n dylanwadu ar y ffordd rydym yn heneiddio o'n systemau iechyd a thrafnidiaeth i'r ffordd rydym yn cymdeithasu, yn gweithio ac yn gofalu am eraill. Nod y strategaeth hon yw gwireddu potensial pobl hŷn heddiw a chymdeithas sy'n heneiddio yfory.

Plant a Phobl Ifanc

Mae ein Cynllun Plant a Phobl Ifanc, a gyhoeddwyd yn 2022, yn nodi gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer pennu'r rhan y gall Llywodraeth Cymru ei chwarae er mwyn gwneud Cymru yn lle hyfryd i blant a phobl ifanc dyfu i fyny, byw a gweithio, a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ymrwymedig i egwyddorion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn ac i roi sylw dyledus iddo ym mhob penderfyniad a wnawn, yn unol â Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011.

Credwn fod gan bob un o'n plant a'n pobl ifanc yr hawl i wneud y canlynol:

  • cael y dechrau gorau mewn bywyd
  • cymryd rhan mewn cyfleoedd dysgu a'u mwynhau, a chael yr addysg orau bosibl i feithrin eu gwybodaeth a'u creadigrwydd a'u galluogi i wireddu eu potensial
  • mwynhau ffyrdd iach o fyw a chael eu diogelu rhag niwed, camdriniaeth, esgeulustod a gwahaniaethu
  • gallu chwarae a chael hwyl
  • cael eu trin â pharch a chael rhywun i wrando arnynt
  • byw mewn cartref a chymuned sy'n lle braf i dyfu i fyny
  • cael y cymorth ariannol a materol sydd ei angen arnynt

Anabledd a Hawliau Pobl Anabl

Sefydlwyd y Tasglu Hawliau Pobl Anabl i ddileu'r rhwystrau a'r anghydraddoldebau a brofir gan bobl anabl yng Nghymru. Mae'r Tasglu yn gweithio mewn ffordd gydgynhyrchiol gyda phobl sydd â phrofiad bywyd ac arbenigedd, sefydliadau pobl anabl, arweinwyr polisi Llywodraeth Cymru a chyrff/sefydliadau eraill sydd â diddordeb. Mae'r gwaith yn seiliedig ar ddealltwriaeth gyffredin o'r model cymdeithasol o anabledd, hawliau dynol, profiad bywyd a chydgynhyrchu, a chaiff ei gyflawni gan y gweithgorau canlynol:

  • ymgorffori a deall y Model Cymdeithasol o Anabledd (ledled Cymru)
  • mynediad at wasanaethau (gan gynnwys cyfathrebu a thechnoleg)
  • byw'n annibynnol: gofal cymdeithasol
  • byw'n annibynnol: iechyd a llesiant
  • teithio
  • cyflogaeth ac incwm
  • tai fforddiadwy a hygyrch
  • plant a phobl ifanc
  • cyfiawnder
  • llesiant

Mae'r gweithgorau yn cynnwys pobl â phrofiad bywyd, swyddogion polisi a sefydliadau sy'n cefnogi pobl anabl.

Beichiogrwydd a Mamolaeth

Fel y nodir yn Gofal mamolaeth yng Nghymru gweledigaeth 5 mlynedd ar gyfer y dyfodol (2019 i 2024) gall gofal diogel, o ansawdd uchel ac sy'n canolbwyntio ar y person i famau a babanod drwy gydol beichiogrwydd, genedigaeth ac ar ôl geni gael effaith gadarnhaol ar iechyd a chyfleoedd bywyd menywod a babanod ac ar ddatblygiad iach plant drwy gydol eu bywyd.

Gall hyn helpu i leihau effaith anghydraddoldebau a all gael canlyniadau tymor hwy i deuluoedd o ran iechyd, gan sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i famau, babanod a chymunedau. Mae gwella gwasanaethau mamolaeth yn cefnogi teuluoedd iach a hapus a chymunedau'r dyfodol.

Cyhoeddwyd strategaeth Llywodraeth Cymru, ‘Gofal mamolaeth yng Nghymru, gweledigaeth 5 mlynedd ar gyfer y dyfodol (2019-2024)’ yn 2019 gyda'r nod o sicrhau bod beichiogrwydd a genedigaeth baban yn brofiad diogel a chadarnhaol, a bod rhieni yn cael eu cefnogi i roi'r dechrau gorau mewn bywyd i'w plentyn.

Hil

Fel y nodir yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, mae pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn cyfrannu at Gymru fwy ffyniannus, iachach a mwy cyfartal gyda diwylliannau bywiog lle mae ieithoedd yn ffynnu.

Mae Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, a gafodd ei lansio ddydd Mawrth 7 Mehefin, yn seiliedig ar werthoedd gwrth-hiliaeth, ac mae'n galw am ddim goddefgarwch mewn perthynas ag anghydraddoldeb hiliol o bob math.

Rydym wedi nodi gweledigaeth ar gyfer cenedl wrth-hiliol, lle caiff pawb eu gwerthfawrogi am bwy ydynt a'r cyfraniad a wnânt. Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i greu cenedl wrth-hiliol erbyn 2030.

Wrth inni symud ymlaen i ail flwyddyn y Cynllun, mae gwaith yn parhau i fynd rhagddo yn gyflym er mwyn ein helpu i symud oddi wrth y rhethreg am gydraddoldeb hiliol i roi camau gweithredu ystyrlon ar waith.

Deallwn fod system lywodraethu ac atebolrwydd gadarn, a ysgogir gan Lywodraeth Cymru, yn hanfodol i wireddu'r weledigaeth hon.

Mae strwythur llywodraethu Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol yn cynnwys y Grŵp Atebolrwydd Allanol, gyda chwe arbenigwr allanol ym maes gwrth-hiliaeth ac 11 o gynrychiolwyr cymunedol â phrofiad bywyd. Caiff ei gadeirio gan yr Athro Ogbonna a'r Ysgrifennydd Parhaol ac mae'n dangos ymrwymiad sylweddol Llywodraeth Cymru i sicrhau Cymru wrth-hiliol.

Mae'r Grŵp Atebolrwydd Allanol yn gweithio gyda'n Grŵp Cefnogi a Herio Mewnol sy'n dwyn pob maes polisi ynghyd ar gyfer dull gweithredu trawslywodraethol o ymdrin â gwrth-hiliaeth. Mae swyddogion polisi o bob rhan o Lywodraeth Cymru wedi blaenoriaethu adnoddau i gyflawni eu camau gweithredu unigol.

 Mae Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol yn rhan o Raglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru a'r Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru.

Fel y nodir yn ein Cynllun Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches (Cenedl Noddfa), yn aml bydd ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn cyrraedd Cymru ar ôl cael profiadau dirdynnol yn eu mamwlad ac ar eu taith i'r DU.

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cymorth, fel y nodir yn y cynllun a gyhoeddwyd yn 2019, er mwyn sicrhau y caiff yr unigolion hyn gymorth i ailadeiladu eu bywydau a gwneud cyfraniad llawn at gymdeithas yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn gwbl ymrwymedig i sicrhau y caiff sefyllfa cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr ei gwella.

Dyma pam mae Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol wedi cael ei gydgynhyrchu gyda phobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, gan gynnwys y rhai o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Mae lleisiau a phrofiadau bywyd wedi cyfrannu at bob nod a cham gweithredu a nodwyd bod gwella canlyniadau i gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn flaenoriaeth hanfodol a thrawsbynciol.

Rydym yn cefnogi gwasanaethau eirioli ar gyfer teuluoedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr, drwy TGP Cymru (Teithio Ymlaen). Mae'r gwaith hwn yn rhoi cymorth uniongyrchol i helpu teuluoedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr i gael gafael ar wasanaethau cyhoeddus ac i wasanaeth Teithio Ymlaen eirioli ar eu rhan a'u helpu i gael gafael ar gymorth pan fo angen.

Rhyw

Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau

Mae ein Cynllun Hyrwyddo Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau yng Nghymru 2020 i 2023 yn amlinellu gweledigaeth Llywodraeth Cymru i sicrhau Cymru sy'n gyfartal o ran rhyw, sy'n golygu rhannu pŵer, adnoddau a dylanwad yn gyfartal rhwng pob menyw, dyn a pherson anneuaidd. Mae'r gwaith hwn yn berthnasol i bob rhan o lunio polisïau yng Nghymru.

Mae'r Cynllun yn rhoi'r argymhellion a wnaed yn yr Adolygiad o Gydraddoldeb Rhywiol (a gyhoeddwyd fel dau adroddiad, sef ‘Gwneud Nid Dweud’ (Adolygiad o Gydraddoldeb Rhywiol Chwarae Teg) a'r Map Ffordd (Cydraddoldeb Rhywiol Mapio Llwybr i Gymru). Mae'r adroddiadau yn nodi argymhellion byrdymor, tymor canolig a hirdymor er mwyn sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau yng Nghymru.

Trais yn erbyn Menywod a Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV)

Mae Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol: strategaeth 2022 i 2026 yn nodi camau gweithredu i herio a mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched,  cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV) ac, er ein bod yn falch o'n gwaith hyd yma, mae mwy i'w wneud.

Mae rhoi terfyn ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn her gymhleth. Wrth fynd i'r afael â VAWDASV, mae'n hanfodol cydnabod effaith groestoriadol yr achos o gamddefnyddio pŵer sy'n sail iddo. Caiff effaith VAWDASV ei haenu drwy agweddau niferus ar wahaniaethu sy'n chwyddo profiad goroeswyr.

Bwriedir i'n strategaeth ar gyfer Cymru gyfan, a gyhoeddwyd yn 2022, ddiffinio ac arwain camau gweithredu ym mhob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae'n strategaeth ar gyfer awdurdodau cyhoeddus datganoledig a heb eu datganoli a'r sector arbenigol sy'n nodi blaenoriaethau i greu ymdeimlad cyffredin o ymdrechu tuag at nodau a rennir. Mae'n ddull gweithredu systemau neu Lywodraeth gyfan gydag ymyriadau allweddol yn ein swyddogaethau iechyd, addysg a chyfiawnder troseddol. Mae hefyd yn strategaeth ar gyfer byd busnes a chymdeithas yn ehangach, er mwyn gwneud newidiadau i normau, ymddygiadau a diwylliannau sy'n hanfodol er mwyn cyflawni ein huchelgeisiau.

Rydym yn gwneud cynnydd mewn perthynas â'r Strategaeth drwy ein ‘Glasbrint’ VAWDASV, a arweinir gan Fwrdd Partneriaeth Cenedlaethol a gaiff ei gadeirio ar y cyd gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip a Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar gyfer Dyfed Powys. Bydd y bartneriaeth hon yn sicrhau bod ein system gyfan yn cael ei chydlynu er mwyn rhoi'r cymorth gorau i oroeswyr camdriniaeth ac atal trais yn erbyn menywod a merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Bydd y bartneriaeth yn parhau i ystyried effaith groestoriadol VAWDASV wrth iddi ddatblygu ein dull gweithredu cydweithredol.

Cyfeiriadedd Rhywiol

Mae Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i sicrhau mai Cymru yw'r genedl fwyaf cyfeillgar yn Ewrop i bobl LHDTC+. Mae'n nod uchelgeisiol, ond credwn y gallwn gefnogi holl bobl LHDTC+ Cymru i fyw eu bywydau i'r eithaf: i fod yn iach, yn hapus, a theimlo'n ddiogel.

Ein nod, drwy'r Cynllun hwn, yw dangos ein hymrwymiad clir i barchu, diogelu a chyflawni hawliau dynol holl bobl LHDTC+ Cymru, yn unol â'r egwyddor hawliau dynol gyffredinol a nodwyd gan Swyddfa'r Uchel Gomisiynydd ar gyfer Hawliau Dynol (OHCHR 2022a).

Bydd y cynllun hwn yn gweithredu fel y fframwaith ar gyfer datblygu polisi LHDTC+ yn y llywodraeth a chyda'n partneriaid. Mae'n nodi camau pendant y byddwn yn eu cymryd i gryfhau cydraddoldeb i bobl LHDTC+, herio gwahaniaethu, a chreu cymdeithas lle mae pobl LHDTC+ yn ddiogel i fyw a charu yn ddiffuant, yn agored ac yn rhydd fel nhw eu hunain.

Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan Llywodraeth Cymru. 

Y Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol

Daeth y Ddyletswydd economaidd-gymdeithasol i rym yng Nghymru ar 31 Mawrth 2021. Mae'r Ddyletswydd yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus perthnasol, gan gynnwys Gweinidogion Cymru, roi sylw dyledus i'r angen i leihau anghydraddoldebau a brofir o ganlyniad i anfantais economaidd-gymdeithasol wrth wneud penderfyniadau strategol.

Drwy fynnu bod cyrff cyhoeddus perthnasol yn gwneud penderfyniadau gwell, lle mae ystyried anghydraddoldeb canlyniadau sy’n deillio o anfantais economaidd-gymdeithasol yn rhan gwbl ganolog o’r penderfyniad, bydd yn helpu i fynd i'r afael â thlodi ac anghydraddoldeb ymhellach, yn ymdrin â'r argyfwng costau byw presennol a'n hadferiad parhaus yn dilyn COVID-19, a byddwn yn gallu symud tuag at ailadeiladu Cymru decach a mwy llewyrchus Mae trafodaethau cynnar ag arweinwyr cyrff cyhoeddus wedi bod yn gadarnhaol; Mae enghreifftiau lle mae cyrff cyhoeddus wedi integreiddio'r Ddyletswydd mewn fframweithiau cynllunio ac adrodd, fel y fframwaith cynllunio tîm canolraddol ar gyfer cyrff iechyd.

I gael rhagor o wybodaeth ac adnoddau mewn perthynas â rhoi'r Ddyletswydd ar waith, gweler:

Gellir dod o hyd i wybodaeth ychwanegol yn Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar Gydraddoldeb sydd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Cydlyniant Cymunedol

Mae'r Rhaglen Cydlyniant Cymunedol ar waith ar draws y 22 o Awdurdodau Lleol yng Nghymru sydd, at ddiben y rhaglen hon, wedi'u rhannu yn wyth grŵp a elwir yn “Rhanbarthau Cydlyniant”. Mae'r timau Cydlyniant yn ymgymryd ag amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys:

  • monitro tensiynau yn y gymuned a gweithio gyda phartneriaid i'w lliniaru
  • cefnogi cyrff cyhoeddus a sefydliadau eraill i ddarparu hyfforddiant ar faterion sy'n ymwneud â chydraddoldeb a chynhwysiant
  • sicrhau y caiff materion cydlyniant cymunedol eu hystyried wrth ddatblygu cynlluniau a pholisïau awdurdodau lleol
  • meithrin cysylltiadau da drwy ddatblygu digwyddiadau a phrosiectau i ddod â phobl o wahanol gymunedau ynghyd

Yn dilyn adolygiad annibynnol o'r Rhaglen Cydlyniant Cymunedol, cytunodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip, Jane Hutt AS, y dylid parhau i gyllido'r Rhaglen tan 2025 i 2026, er mwyn sicrhau y gall y gwaith gwerthfawr hwn barhau yng Nghymru. Bydd canfyddiadau ac argymhellion yr adolygiad annibynnol yn helpu i lunio a llywio ein gwaith yn y maes hwn wrth inni symud ymlaen.

Galluogi Cynrychiolaeth mewn Bywyd Cyhoeddus

Mewn perthynas â chamau gweithredu sy'n cefnogi Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 5, cyflwynwyd Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) yn ddiweddar. Mae'n cynnwys darpariaethau i roi cymorth i unigolion o grwpiau nodweddion gwarchodedig ac amgylchiadau economaidd-gymdeithasol sy'n dymuno sefyll etholiad. Mae hyn yn cynnwys rhoi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i greu a chynnal cronfa i gefnogi ymgeiswyr anabl yn y dyfodol.

Y bwriad gwreiddiol oedd ehangu'r Gronfa Mynediad i Swyddi Etholedig o gefnogi ymgeiswyr anabl i gynnwys ymgeiswyr o grwpiau nodweddion gwarchodedig eraill. Daeth y gwerthusiad annibynnol o drefniadau'r gronfa, ynghyd â thrafodaeth â rhanddeiliaid, i'r casgliad nad yw hyn o bosibl y ffordd orau o gefnogi ymgeiswyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Mae angen dull gweithredu ehangach ar gyfer hyn a gefnogir drwy'r ddeddfwriaeth hon.

Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda rhanddeiliaid i nodi'r cynlluniau cymorth hynny y gellir eu rhoi ar waith er mwyn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol.

Strategaeth Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Fewnol Llywodraeth Cymru

Mae strategaeth cydraddoldeb ac amrywiaeth fewnol Llywodraeth Cymru yn cynnwys targedau recriwtio uchelgeisiol er mwyn gwella amrywiaeth y gweithlu erbyn 2026, a fydd yn sicrhau bod y sefydliad yn cynrychioli'r bobl a'r cymunedau a wasanaethir ganddo. 

Y Gymraeg

Fel y nodwyd yn Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr, mae'r Gymraeg yn un o drysorau Cymru. Mae'n rhan o'r hyn sy'n ein diffinio fel pobl ac fel cenedl. Ein huchelgais fel Llywodraeth Cymru yw gweld nifer y bobl sy'n gallu mwynhau siarad a defnyddio'r Gymraeg yn cyrraedd miliwn erbyn 2050. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Cymraeg 2050: rhaglen waith 2021 i 2026 yn 2021 ac mae cynnydd yn parhau i gael ei wneud o ran cymryd camau i gyflawni ein nod.

Pennod 2: y Cynllun Cydraddoldeb Strategol: Amcanion Cydraddoldeb ac Egwyddorion yr Ymagwedd arfaethedig

Trosolwg o'r cynnig

Ers cyhoeddi'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar gyfer 2020 i 2024, mae sawl cynllun gweithredu a pholisi gwahanol wedi cael eu cyhoeddi yn canolbwyntio ar nodweddion gwarchodedig, fel y nodir uchod. Mae pob un o'r rhain yn cynnwys eu casgliad diffiniedig eu hunain o Amcanion a Chamau Gweithredu.

Er mwyn osgoi dyblygu a chymhlethdod, ni fydd Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024 i 2028 yn ychwanegu at yr Amcanion a'r Camau Gweithredu sydd eisoes wedi'u nodi mewn cynlluniau presennol a lle mae llawer o waith eisoes wedi cael ei wneud.

Yn hytrach, bydd Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024 i 2028 yn dod â'r cynlluniau ynghyd gan wneud cysylltiadau rhwng y cynlluniau a thynnu sylw at groestoriadedd bywydau a phrofiadau pobl.

Bydd Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024 i 2028 yn gweithredu fel fframwaith ategol cysylltiedig, a fydd yn cynnwys Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol wedi'u cysylltu â Chamau Gweithredu sydd wedi'u nodi mewn cynlluniau presennol a thair Egwyddor yr Ymagwedd.

Mae a wnelo ein Nod Hirdymor ag atgyfnerthu a datblygu cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru. Disgwyliwn y bydd yn parhau i fod yn berthnasol y tu hwnt i gylch oes Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024 i 2028.

Mae materion hirsefydlog, a systemig weithiau, yn cael effaith andwyol ar bobl â nodweddion gwarchodedig. Mae Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011 yn ei gwneud yn ofynnol inni nodi Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol, gan gynnig cyfle i weithio gyda rhanddeiliaid i ddatrys y materion hynny. 

Mae tair Egwyddor yr Ymagwedd yn nodi sut y caiff yr Amcanion eu rhoi ar waith wrth lunio polisïau ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru.

Mae gan y cynlluniau a'r polisïau gwahanol amserlenni gwahanol.  Bydd Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024 i 2028 yn ddogfen fyw felly a fydd yn:

  • dod â gwaith cydraddoldeb ehangach ynghyd a'i gysylltu
  • gallu cael ei hadnewyddu yn hawdd ac yn gyflym
  • ystyried cyfeiriad polisi sy'n dod i'r amlwg a deddfwriaeth sy'n effeithio ar gydraddoldeb, p'un a ydynt yn berthnasol i Gymru neu, yn ehangach, i'r DU gyfan

Mae ein nod hirdymor, yr Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol ac Egwyddorion yr Ymagwedd yn ymwneud ag ymyriadau Llywodraeth Cymru ei hun yn unig. Gall sefydliadau Sector Cyhoeddus eraill yng Nghymru ddewis datblygu eu dull gweithredu wedi'i deilwra eu hunain hefyd, sy'n adlewyrchu un Llywodraeth Cymru, ond gan ystyried cyd-destun rhanbarthol neu leol. 

Datblygu'r ymgynghoriad hwn: trafodaethau gyda grwpiau rhanddeiliaid a phwyntiau dysgu o waith ymgysylltu cychwynnol ac ymatebion

Gwnaethom ymgysylltu â phartneriaid a rhanddeiliaid cydraddoldeb drwy ddogfen drafod gychwynnol a oedd yn nodi Egwyddorion yr Ymagwedd a chynhaliwyd gweithdy grŵp ffocws ar-lein ar 20 Gorffennaf 2023 lle roedd tua 30 o bobl yn bresennol, o'r trydydd sector yn bennaf.

Trafododd y gweithdy groestoriadedd, gan integreiddio'r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol a'r tair Egwyddor Ymagwedd arfaethedig.

Mewn perthynas ag egwyddorion arfaethedig yr ymagwedd, ceir blas ar rai o'r ymatebion isod:

Rwy'n cefnogi'r angen i brif ffrydio amrywiaeth a chynhwysiant yn llawn, yn ogystal â'r angen i groesawu dull croestoriadol.

Dylai'r egwyddorion hyn fod yn elfen sylfaenol sy'n sail i holl waith y llywodraeth sy'n ymwneud â chymunedau a grwpiau o bobl, yn ogystal â'r gwasanaethau [a gynigir].

Yn gyffredinol, mae'n ymddangos bod hyn yn gwneud synnwyr fel dull trosfwaol, gan osgoi dyblygu a dryswch posibl.

Rwy'n cytuno â'r newid arfaethedig a'r rhesymeg y tu ôl i hyn mae'r cynlluniau gweithredu cydraddoldeb gwahanol yn annibynnol ond mae angen dogfen drosfwaol sy'n hwyluso'r broses o'u dwyn ynghyd ac yn helpu i ymdrin â themâu trawsbynciol megis prif ffrydio, croestoriadedd a'r bwlch gweithredu.

Er bod cefnogaeth gadarnhaol eang i'r dull gweithredu arfaethedig, roedd cwestiynau a heriau hefyd. Caiff hyn ei ystyried ymhellach yn yr ymgynghoriad hwn a'r Cynllun Gweithredu Strategol newydd ar gyfer 2024 i 2028.

Defnyddio Dull Gweithredu Thematig

Er mwyn sicrhau bod ein hymyriadau yn cael cymaint o effaith â phosibl ac i sicrhau canlyniadau gwell i bobl Cymru, rydym yn cynnig fframio ein Nod Hirdymor cyffredinol a'r Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol o fewn sawl maes thematig sy'n adlewyrchu chwe pharth adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, A yw Cymru'n decach? (2018), yn ogystal â’r Amgylchedd. Gallai'r rhain esblygu dros gylch oes y Cynllun Cydraddoldeb Strategol arfaethedig ar gyfer 2024 i 2028.

Y parthau yw:

  • addysg: dysgu gydol oes i bobl Cymru
  • gwaith: cyflogaeth, prentisiaethau a gwirfoddoli
  • safonau byw: yn canolbwyntio ar leihau a threchu tlodi, ond hefyd creu a chynnal cymunedau gweddus, cynhwysol a chydlynol
  • iechyd: mynediad at wasanaethau a chymorth a galluogi cyfrifoldeb personol
  • cyfranogiad a galluogi: Cymru lle gall pob person fynegi ei farn, cynrychioli ei safbwyntiau ei hun neu lle caiff ei safbwyntiau eu cynrychioli, a lle caiff y safbwyntiau hyn eu clywed gan y rhai sy'n gwneud penderfyniadau ar lefel genedlaethol a lleol
  • mynediad at Gyfiawnder a Diogelwch Personol: Cymru fwy diogel, lle gall pob person ddod o hyd i gymorth a chefnogaeth pan fydd eu hangen arnynt
  • yr amgylchedd: sicrhau dull o ymdrin â Chydraddoldeb sy'n ymwybodol o'r hinsawdd

Dylai un neu fwy o'r Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol fod yn gysylltiedig â phob un o'r meysydd Thematig hyn (pob un yn ddelfrydol).

Nod Hirdymor ac Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol Arfaethedig

Er mwyn datblygu cyfres o Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol, mae angen meddwl am yr hirdymor a gweithredu ar lefel genedlaethol a lleol i'w rhoi ar waith. Byddwch yn gweld ein bod wedi pennu Nod Hirdymor y byddwn yn gweithio tuag at ei gyflawni dros gyfnod y Cynllun arfaethedig.

Mae'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol presennol ar gyfer 2020 i 2024 wedi darparu llwyfan ar gyfer y Nod Hirdymor a'r Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol drafft. Maent yn nodi cynllun ar gyfer y pedair blynedd nesaf i weithredu er mwyn lliniaru'r heriau a dileu'r rhwystrau a wynebir gan lawer o bobl a chymunedau.

Nod yr Amcanion yw bod yn uchelgeisiol ac yn gyflawnadwy ac rydym yn cydnabod y bydd angen iddynt esblygu wrth i'r dirwedd cydraddoldeb newid. Rydym yn gobeithio y bydd sefydliadau Sector Cyhoeddus eraill yng Nghymru yn datblygu eu Hamcanion wedi'u teilwra eu hunain ar lefel leol er mwyn cyd-fynd â'r dull gweithredu cenedlaethol.

Bydd eich adborth ar ein Hamcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol drafft yn sicrhau ein bod yn parhau i wneud cynnydd tuag at chwalu'r rhwystrau a dileu'r anghydraddoldebau a wynebir gan gymunedau a phobl yng Nghymru.

Nod Hirdymor: Creu Cymru sy'n seiliedig ar degwch, cynhwysiant ac atal gwahaniaethu

Mae Cyfiawnder Cymdeithasol wrth wraidd holl waith Llywodraeth Cymru. Rydym am i Gymru fod yn rhywle lle mae gan bawb fynediad cyfartal at hawliau dynol a hawliau sifil, adnoddau a chyfleoedd ym mhob agwedd ar fywyd. Rydym am gael Cymru deg sy'n rhydd rhag gwahaniaethu, Cymru gynhwysol lle mae pob unigolyn yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi, ei barchu a'i gynnwys.

Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 1

Byddwn yn creu Cymru lle mae pawb yn cael cyfleoedd i ffynnu yn unol â'n nod sefydliadol i leihau tlodi.

Er mwyn helpu i gyflawni hyn, byddwn yn ceisio gwneud y canlynol:

  • creu llwybrau niferus a hygyrch allan o dlodi
  • lliniaru'r risgiau y bydd mwy o bobl yn wynebu tlodi
  • gwella canlyniadau i'r rheini sy'n wynebu'r risg fwyaf ac sy'n byw mewn aelwydydd incwm isel gan ddefnyddio'r dulliau ysgogi sydd ar gael i Lywodraeth Cymru

Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 2

Byddwn yn creu Cymru lle gall pawb fod yn ymwybodol o'u hawliau dynol, lle cânt eu diogelu, eu hyrwyddo a lle maent yn sail i bob polisi cyhoeddus.

Er mwyn helpu i gyflawni hyn, byddwn yn ceisio gwneud y canlynol:

  • nodi a defnyddio pob dull ysgogi posibl i amddiffyn, atgyfnerthu a datblygu cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru
  • gweithio i sicrhau bod pobl yn ymwybodol o'u hawliau ac yn gwybod ble i ddod o hyd i gyngor a chymorth croestoriadol priodol
  • gweithio i sicrhau bod ystyriaethau hawliau dynol wedi'u hymgorffori yn yr holl waith cynllunio strategol a pholisïau ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru ac annog dull gweithredu tebyg ymhlith ein partneriaid yn y sector cyhoeddus

Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 3

Byddwn yn creu Cymru lle gall pawb fod yn ymwybodol o wasanaethau cyhoeddus o safon uchel a chael mynediad cyfartal atynt.

Er mwyn helpu i gyflawni hyn, byddwn yn ceisio gwneud y canlynol:

  • gweithio i sicrhau bod profiadau bywyd, hawliau, dymuniadau a dyheadau defnyddwyr gwasanaethau wrth wraidd holl brosesau cynllunio a chyflawni gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru
  • mabwysiadu dull gweithredu yn seiliedig ar fesur effeithiau a chanlyniadau'r gwasanaethau a brofir gan bobl Cymru
  • ymdrin â'r bwlch gweithredu polisïau drwy wella cyflawniad a dileu'r rhwystrau sy'n atal pobl rhag cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus a chael budd ohonynt Bydd hyn yn cynnwys yr holl wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru
  • gweithio i sicrhau yr ymdrinnir ag agweddau gwahaniaethol yn y system gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys lleoliadau addysg a gweithleoedd

Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 4

Byddwn yn cymryd camau i atal gwahaniaethu, erledigaeth, aflonyddu, difrïo, troseddau casineb a/neu fwlio yn erbyn pob person, gan gynnwys trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Er mwyn helpu i gyflawni hyn, byddwn yn ceisio gwneud y canlynol:

  • sicrhau bod pob gwasanaeth cymorth yn ymwybodol o'r ffordd y mae'r materion hyn yn effeithio ar ein cymunedau gwahanol, er enghraifft mae cam-drin domestig a thrais rhywiol yn effeithio llawer mwy ar bobl anabl
  • sicrhau bod gan bawb fynediad at gyngor a chymorth croestoriadol priodol i’w helpu i fyw heb ofn a rhagfarn a diogelu eu hiechyd a'u llesiant
  • i helpu i gyfeirio ein gwaith, byddwn yn creu Dangosyddion Cenedlaethol ar gyfer Cymru mewn perthynas â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol

Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 5

Byddwn yn creu Cymru lle gall pawb gymryd rhan yn y gweithle, cael mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus a gweld eu hunain yn cael eu hadlewyrchu yn y ffordd y caiff ein gwasanaethau cyhoeddus eu harwain. 

Er mwyn helpu i gyflawni hyn, byddwn yn ceisio gwneud y canlynol:

  • nodi meysydd lle mae angen gweithredu ymhellach er mwyn sicrhau bod mwy o amrywiaeth ymhlith cynrychiolwyr etholedig a nodi dulliau i wneud iawn am anghydraddoldeb ac ymchwilio iddynt
  • cymryd camau i gynyddu amrywiaeth yn sylweddol ymhlith y rhai sy'n gwneud penderfyniadau mewn bywyd cyhoeddus ac sydd mewn rolau cyhoeddus,
  • ceisio tynnu sylw at lwyddiant entrepreneuriaid o bob cymuned
  • adeiladu ar y gwaith a wnaed drwy ein Cronfa Mynediad i Swyddi Etholedig drwy ystyried pa gamau pellach y gellir eu cymryd i gefnogi pobl anabl sy'n sefyll am swydd etholedig
  • ystyried sut y gallwn roi cymorth i unigolion o grwpiau nodweddion gwarchodedig ac amgylchiadau economaidd-gymdeithasol eraill sy'n dymuno sefyll etholiad

Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 6

Byddwn yn creu Cymru â chyfleoedd teg a chyfartal i ddod o hyd i swydd ac sy'n sicrhau triniaeth deg a chyfartal yn y gweithle.

Er mwyn helpu i gyflawni hyn, byddwn yn ceisio gwneud y canlynol:

  • cynyddu amrywiaeth yn y gweithle drwy fod yn gyflogwr enghreifftiol, a denu, cadw a chefnogi grŵp amrywiol o staff ar bob lefel sefydliadol a, thrwy hynny, ymdrin â'r gynrychiolaeth annigonol sy'n bodoli ar lefel uwch-reolwyr,
  • cymryd camau pendant i sicrhau cyflogau cyfartal ar bob lefel o fewn Llywodraeth Cymru,
  • dileu pob rhwystr sy'n ymwneud â chyflogaeth sy'n atal staff o bob cefndir rhag cyflawni eu potensial.

Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 7

Byddwn yn creu Cymru sy'n amgylcheddol gynaliadwy gyda'r gallu i sicrhau bod ein taith i sero net yn deg ac i ymateb i effeithiau annheg newid yn yr hinsawdd.

Er mwyn helpu i gyflawni hyn, byddwn yn ceisio gwneud y canlynol:

  • parhau i ddatblygu ein dealltwriaeth o'r risgiau a'r heriau sy'n gysylltiedig â'r broses bontio i sero net ochr yn ochr â'r rheini a gyflwynir gan ein hinsawdd sy'n newid yn gyflym,
  • cymryd camau cadarnhaol i sicrhau bod proses bontio deg i sero net a lliniaru effeithiau'r newid yn yr hinsawdd ar bawb,
  • gweithio i gefnogi a meithrin capasiti yn ein pentrefi, ein trefi a'n dinasoedd ledled Cymru, er mwyn grymuso cymunedau i bontio'n deg, ac addasu yn unol ag effeithiau newid yn yr hinsawdd, gan gydnabod mai'r rhai mwyaf difreintiedig sy'n debygol o brofi'r effeithiau gwaethaf,
  • cynllunio'r broses bontio mewn ffordd sy'n helpu i leihau'r anghydraddoldebau sy'n gysylltiedig ag anfantais economaidd-gymdeithasol a lleihau bregusrwydd a'r bygythiadau a achosir gan risgiau hysbys y newid yn yr hinsawdd.

Egwyddorion Arfaethedig yr Ymagwedd

Bydd tair “Egwyddor Ymagwedd” eang yn gymwys i bob Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol a Cham Gweithredu ategol er mwyn datblygu'r ymrwymiadau yn y cynlluniau gweithredu a'r polisïau gwahanol.

Yr Egwyddorion hyn yw'r ffordd rydym yn cynnig rhoi'r Amcanion Cydraddoldeb ar waith yn ymarferol yn holl bolisïau ac ymyriadau Llywodraeth Cymru, gan gydweithio â chydweithwyr polisi a'n grwpiau rhanddeiliaid.

Yr Egwyddorion Ymagwedd hyn yw:

  • prif ffrydio Cydraddoldeb wrth Gynllunio a Chyflawni Ymyriadau a Datblygu Polisïau Llywodraeth Cymru
  • ymgorffori gwaith i Brif Ffrydio Cydraddoldeb ym mhob rhan o'r sefydliad, gan gynnwys drwy ddefnyddio Asesiadau o'r Effaith ar Gydraddoldeb. Mae hyn yn ceisio sicrhau bod ein polisïau a'n hymyriadau yn diwallu anghenion amrywiol pobl ledled Cymru, yn dileu rhwystrau ac yn cefnogi pobl i ffynnu a chyflawni eu potensial llawn
  • cefnogi cydweithwyr polisi i sicrhau ymgysylltiad â thimau cydraddoldeb a rhanddeiliaid o'r cychwyn cyntaf wrth ddatblygu polisïau
  • sicrhau Dull Croestoriadol o Ddatblygu Polisïau a'u Rhoi ar Waith
  • mae defnyddio dull croestoriadol i gyflawni Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024 i 2028 yn ein helpu i ddeall yn well sut mae'r cynlluniau a'r polisïau cydraddoldeb gwahanol yn croestorri a sut maent yn ystyried nodweddion gwarchodedig gwahanol. Bydd angen i waith datblygu polisïau pellach ystyried sut mae ymyriadau yn cefnogi unigolion sydd â sawl nodwedd warchodedig ac yn ymateb i'r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol
  • mae gweithio mewn fframwaith croestoriadol yn gymhleth a bydd angen adolygu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid a phartneriaid yn barhaus; mae adborth ar ein dull croestoriadol arfaethedig hyd yma wedi bod yn gadarnhaol
  • ymdrin â'r Bwlch rhwng Bwriad a Chyflawni
  • dylai Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024 i 2028 alluogi llunwyr polisïau i ddangos eu bod yn rhoi camau gweithredu ar waith a'u cyflawni.  Mae'n ofynnol i lunwyr polisïau gynnal Asesiadau o'r Effaith ar Gydraddoldeb er mwyn dangos i randdeiliaid a defnyddwyr gwasanaethau sut mae'r ymyriad wedi'i adlewyrchu'n glir mewn prosesau a chamau gweithredu, a gwella mynediad, cyfranogiad, cynhwysiant ac ansawdd bywyd i bobl a chymunedau ledled Cymru
  • er mwyn sicrhau bod strategaethau Llywodraeth Cymru yn cyflawni camau gweithredu ag effeithiau ystyrlon i bobl Cymru, mae angen i brosesau cynllunio polisïau ymdrin â'r “bwlch gweithredu” (y bwlch rhwng yr hyn y mae strategaeth neu gynllun yn bwriadu ei gyflawni a phrofiadau gwirioneddol y rheini sy'n aros i effaith camau gweithredu eu cyrraedd).

Pennod 3: adolygu a diweddaru Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024 i 2028: cynllun sy'n esblygu

Datblygu'r Cynllun

Bydd Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024 i 2028 yn ddogfen fyw a gaiff ei diweddaru a'i diwygio yn ôl yr angen.

Bydd y broses Asesu Effaith yn galluogi Tîm y Cynllun Cydraddoldeb Strategol i ymgysylltu â llunwyr polisïau a sicrhau eu bod yn ymwybodol o unrhyw newidiadau.

Addasu yn unol â'r dirwedd newidiol

Gall y maes cydraddoldeb a hawliau dynol esblygu'n gyflym. Er mwyn sicrhau bod polisi yn addas at y diben, bydd Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024 i 2028 yn ceisio ymgorffori cydraddoldeb yn holl bolisïau'r llywodraeth drwy ei Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol ac Egwyddorion yr Ymagwedd.

Bydd rhoi gwybodaeth i lunwyr polisïau am gydraddoldeb ac anfantais economaidd-gymdeithasol ac ehangu eu dealltwriaeth o groestoriadedd meysydd cydraddoldeb yn helpu i gynhyrchu polisïau â'r effaith bosibl fwyaf. Mae defnyddio'r asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb yn sicrhau gwell dealltwriaeth o angen a phroses weithredu well drwy sicrhau bod modd mesur effeithiau polisïau.

Monitro, gwerthuso ac adolygu: dulliau adrodd blynyddol

Yn rhinwedd Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011, mae dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i adrodd ar gynnydd yn erbyn eu Hamcanion Cydraddoldeb yn flynyddol. Gan y bydd Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024 i 2028 yn cynnwys trosolwg, diweddariadau a chyfeiriadau at y cynlluniau a'r ymyriadau amrywiol eraill, caiff ei fonitro a'i adolygu yn unol ag amserlen y cynlluniau hynny. Caiff adroddiadau ar y rhain eu cynnwys yn Adroddiad Blynyddol y Cynllun Cydraddoldeb Strategol fel rhan o'r ddyletswydd i adrodd ar amcanion cydraddoldeb.

Cwestiynau ymgynghori

Cwestiwn 1

A ydych yn cytuno â'r Nod Hirdymor? Esboniwch eich ymateb, gan awgrymu unrhyw ddiwygiadau.

Cwestiwn 2

A ydych yn cytuno â'r Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol arfaethedig uchod? Esboniwch eich ymateb, gan awgrymu unrhyw ddiwygiadau.

Cwestiwn 3

Dywedwch wrthym am unrhyw faterion eraill sy'n ymwneud â chydraddoldeb a chydlyniant cymunedol yng Nghymru y dylid mynd i'r afael â nhw yn eich barn chi.

Cwestiwn 4

A ydych yn cytuno bod cael Egwyddorion Ymagwedd arfaethedig yn cryfhau'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol?

Cwestiwn 5

Os felly, a ydych yn cytuno mai'r rhain yw'r Egwyddorion Ymagwedd cywir? Esboniwch eich ymateb, gan awgrymu unrhyw ddiwygiadau.

Cwestiwn 6

A ydych yn credu y bydd yr Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol yn ein helpu i gyflawni'r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol? Esboniwch eich ateb.

Cwestiwn 7

A ydych yn credu y bydd yr Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol yn helpu i hyrwyddo ac ymgorffori hawliau dynol yng Nghymru? Esboniwch eich ateb.

Cwestiwn 8

A oes gennych unrhyw bwyntiau penodol pellach yr hoffech eu codi mewn perthynas â'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol?

Sut i ymateb

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 12 Chwerfor 2024, drwy unrhyw un o'r ffyrdd a ganlyn:

I gael rhagor o wybodaeth:

Cydraddoldeb Strategol a Phrif Ffrydio
Is-adran Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu
  • (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Mae ymatebion i ymgynghoriadau yn debygol o gael eu cyhoeddi’n gyhoeddus, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os hoffech i’ch ymateb aros yn ddienw, dywedwch wrthym ni

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data

Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: data.protectionofficer@llyw.cymru

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn : 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: ico.org.uk

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a roddir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Ni fydd unrhyw waith o'r fath yn cael ei wneud oni bai ei fod yn cael ei wneud o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel. Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi cael ei gynnal mewn modd priodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio eich manylion.

Dylech hefyd wybod am ein dyletswyddau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth. Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, bydd yr adroddiadau hyn yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Gwybodaeth bellach a dogfennau cysylltiedig

Rhif: WG48325

Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd amgen. Os ydych am gael y ddogfen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.

Atodiad A: y fframweithiau cyfreithiol deddfwriaeth cydraddoldeb

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn diogelu pobl yn gyfreithiol rhag gwahaniaethu yn y gweithle ac yn y gymdeithas ehangach. Mae'n cwmpasu naw nodwedd warchodedig: Oedran, Anabledd, Ailbennu rhywedd, Priodas a Phartneriaeth Sifil, Beichiogrwydd a mamolaeth, Hil, Crefydd neu gred, Rhyw, Cyfeiriadedd rhywiol.

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gorfodi'r ddwy ddyletswydd allweddol ganlynol ar gyrff cyhoeddus:

  • Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus
  • Dyletswydd Economaidd-gymdeithasol

Darperir ar gyfer Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus o dan Adran 149 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae'n gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus pan fyddant yn arfer eu swyddogaethau i roi sylw dyledus i'r angen i wneud y canlynol:

  • dileu gwahaniaethu, aflonyddu, erledigaeth ac unrhyw ymddygiad arall a waherddir o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010
  • hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng personau sy'n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a phersonau nad ydynt yn ei rhannu
  • meithrin cydberthnasau da rhwng personau sy'n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a phersonau nad ydynt yn ei rhannu

Datblygwyd Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus i gysoni'r dyletswyddau cydraddoldeb blaenorol o ran hil, anabledd a chydraddoldeb rhywiol, ac i gwmpasu'r holl nodweddion gwarchodedig sy'n berthnasol i'r ddyletswydd.

Yng Nghymru, mae rhai cyrff cyhoeddus hefyd yn ddarostyngedig i ddyletswyddau penodol a geir yn Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011, a elwir yn Ddyletswyddau Cydraddoldeb Penodol Cymru weithiau.

Nod y dyletswyddau hyn yw galluogi i Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus gael ei chyflawni'n well drwy ei gwneud yn ofynnol, er enghraifft, i amcanion cydraddoldeb gael eu cyhoeddi, gan osod gofynion ymgysylltu penodol, llunio adroddiadau cynnydd, casglu data a mwy.

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gweithredu fel y rheoleiddiwr er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth a sicrhau y caiff camau eu rhoi ar waith sy'n cefnogi'r broses o gyflawni Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus. Ceir gwybodaeth am ei rôl reoleiddiol, ei gyfrifoldebau a'i bwerau gwneud iawn ar wefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Sefydliadau Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus

Mae Gweinidogion Cymru yn darparu diweddariadau rheolaidd ar gynnydd y gwaith sy'n cael ei wneud i gydymffurfio â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus gan gyrff cyhoeddus a chyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru sy'n cael cyllid gan Lywodraeth Cymru i gyflawni eu dyletswyddau.

Gan adeiladu ar reoliadau penodol y Ddeddf ar gyfer Cymru, mae'n rhaid i gyrff a restrir baratoi a chyhoeddi amcanion cydraddoldeb bob pedair blynedd. Wrth ddatblygu eu hamcanion cydraddoldeb, rhaid i awdurdodau gynnwys pobl sy'n cynrychioli buddiannau pobl sy'n rhannu un nodwedd warchodedig neu fwy ac sydd â diddordeb yn y ffordd y mae'r awdurdod yn gweithredu ei swyddogaethau.

Diben y prosesau ymgynghori ac ymgysylltu o fewn y ddogfen hon yw sicrhau bod partneriaid a rhanddeiliaid yn rhan hanfodol o'r gwaith o lunio a monitro amcanion cydraddoldeb Llywodraeth Cymru, a gaiff eu nodi yn ei Chynllun Cydraddoldeb Strategol ar gyfer 2024 i 2028. Nod y broses o'i roi ar waith yw diwallu anghenion pobl Cymru.

Darperir ar gyfer y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol yn Adran 1 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.  Mae'n ceisio gwella prosesau gwneud penderfyniadau cyrff cyhoeddus er mwyn cefnogi'r rheini sydd dan anfantais economaidd a chymdeithasol. Mae'n sicrhau bod trechu anghydraddoldeb wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau, ac mae'n adeiladu ar y gwaith da y mae cyrff cyhoeddus eisoes y ei wneud. Yn ogystal â mynd i'r afael ag anfantais economaidd-gymdeithasol, mae'r Ddyletswydd yn croestorri'r naw nodwedd warchodedig, gan alluogi dull mwy cyfeiriedig o ymdrin ag anghydraddoldeb.

Nod y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol yw sicrhau bod y rheini sy'n gwneud penderfyniadau strategol yn:

  • ystyried tystiolaeth ac effaith bosibl drwy ymgynghori ac ymgysylltu
  • deall barn ac anghenion y bobl y bydd y penderfyniad yn effeithio arnynt, yn enwedig y rhai sy'n dioddef anfantais economaidd-gymdeithasol
  • croesawu her a chraffu
  • ysgogi newid yn y ffordd y caiff penderfyniadau eu gwneud a'r ffordd y mae'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn gweithredu

Ceir rhagor o wybodaeth am y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol a'r sefydliadau sy'n ddarostyngedig iddi, sy'n wahanol i'r rhestr o sefydliadau ar gyfer Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, yn Dyletswydd Economaidd gymdeithasol: trosolwg.

Mae'r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol yn ffactor pwysig o ran sut rydym yn datblygu Amcanion, Camau Gweithredu ac Egwyddorion Ymagwedd y Cynllun Cydraddoldeb Strategol. Mae ble rydych yn byw a'ch ffordd o fyw (cymdeithasol) a faint o arian sydd gennych ar gyfer eitemau hanfodol (economaidd) yn effeithio ar eich ansawdd bywyd.

Ar gyfer pobl sydd hefyd yn wynebu rhwystrau anghydraddoldeb, gall ffactorau economaidd-gymdeithasol gael eu dwysáu. Gall gweithio i leihau'r rhwystrau hynny a'u dileu drwy'r Amcanion, y Camau Gweithredu ac Egwyddorion yr Ymagwedd a nodir yn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol gyfrannu at wella canlyniadau economaidd-gymdeithasol.

Atodiad B: deddfau perthnasol sy'n benodol i Gymru

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn nodi dyletswydd i ymgymryd â datblygu cynaliadwy gyda'r nod o wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae'n cynnwys saith nod llesiant i wneud Cymru yn wlad lewyrchus, gydnerth, iachach, fwy cyfartal a chyfrifol ar lefel fyd-eang â chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu. Ni ellir gwahanu'r nodau llesiant hyn, sy'n esbonio beth yw ystyr llesiant Cymru.

Bwriedir i'n Cynllun Cydraddoldeb Strategol rychwantu'r holl nodau llesiant:

Cymru lewyrchus

Cymdeithas arloesol, gynhyrchiol, carbon isel sy’n cydnabod y terfynau sydd ar yr amgylchedd byd-eang ac sydd, o ganlyniad, yn defnyddio adnoddau mewn modd effeithlon a chymesur (gan gynnwys gweithredu ar newid yn yr hinsawdd); ac sy’n datblygu poblogaeth fedrus ac addysgedig mewn economi sy’n cynhyrchu cyfoeth ac yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth, gan ganiatáu i bobl fanteisio ar y cyfoeth a gynhyrchir drwy gael gafael ar waith addas.

Cymru gydnerth

Cenedl sy’n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach gweithredol sy’n cynnal cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol ynghyd â’r gallu i addasu i newid (er enghraifft newid yn yr hinsawdd).

Cymru iachach

Cymdeithas lle mae llesiant corfforol a meddyliol pobl cystal â phosibl a lle deellir dewisiadau ac ymddygiadau sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol.

Cymru sy'n fwy cyfartal

Cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau (gan gynnwys eu cefndir a’u hamgylchiadau economaidd-gymdeithasol).

Cymru o gymunedau cydlynus

Cymunedau atyniadol, hyfyw a diogel sydd â chysylltiadau da.

Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu

Cymdeithas sy'n hyrwyddo ac yn gwarchod diwylliant, treftadaeth a'r Gymraeg, ac sy'n annog pobl i gyfranogi yn y celfyddydau, a chwaraeon a hamdden.

Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Cenedl sydd, wrth iddi wneud unrhyw beth i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn ystyried a allai gwneud peth o’r fath gyfrannu’n gadarnhaol at lesiant byd-eang.

Yn ôl y Ddeddf, mae hefyd yn ofynnol i gyrff cyhoeddus adlewyrchu amrywiaeth y boblogaeth wrth gymhwyso'r egwyddor Datblygu Cynaliadwy. Mae'r egwyddor yn cynnwys pum ffordd allweddol o weithio. Mae'n rhaid inni wneud y canlynol:

  • edrych i'r hirdymor er mwyn inni beidio â pheryglu gallu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain
  • mabwysiadu dull gweithredu integredig er mwyn i gyrff cyhoeddus ystyried yr holl nodau llesiant wrth benderfynu ar eu blaenoriaethau
  • cynnwys amrywiaeth o'r boblogaeth yn y penderfyniadau sy'n effeithio arnynt;
  • gweithio gydag eraill mewn ffordd gydweithredol i ddod o hyd i atebion cynaliadwy cyffredin
  • deall yr hyn sydd wrth wraidd problemau er mwyn eu hatal rhag digwydd ac ystyried a ddylem newid y ffordd rydym yn defnyddio ein hadnoddau ar hyn o bryd

Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023

Daeth y Ddeddf i rym ym mis Mai 2023 ac mae'n gwneud darpariaeth ynghylch datblygu cynaliadwy yn unol ag egwyddorion partneriaeth gymdeithasol; am gaffael cyhoeddus cymdeithasol gyfrifol; sefydlu Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol ar gyfer Cymru; ac at ddibenion cysylltiedig.

Mae'n bodoli at ddiben gwella llesiant economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol (gan gynnwys drwy wella gwasanaethau cyhoeddus) yng Nghymru. Gall y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol roi gwybodaeth a chyngor i Weinidogion Cymru mewn perthynas â'r:

  • dyletswyddau partneriaeth gymdeithasol y mae'r Ddeddf hon yn eu gosod ar gyrff cyhoeddus a Gweinidogion Cymru
  • gwaith o gyflawni'r nod llesiant “Cymru lewyrchus” gan gyrff cyhoeddus wrth ymgymryd â datblygu cynaliadwy o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015
  • y swyddogaethau a roddir ar awdurdodau contractio a Gweinidogion Cymru (caffael cyhoeddus cymdeithasol gyfrifol)

Cyfeiriadau