Neidio i'r prif gynnwy

Y cefndir

Mae adran 145 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (deddf 2014) yn rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru ddyroddi codau ymarfer sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol weithredu'n unol â'r gofynion yn y cod ymarfer wrth arfer eu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol. Rhaid i awdurdodau lleol hefyd roi sylw i unrhyw ganllawiau a nodir yn y cod ymarfer.

Mae adran 169 o ddeddf 2014 ac adrannau 2,12 a 19 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (deddf 2006) yn rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i fyrddau iechyd lleol ac ymddiriedolaethau'r GIG. Bydd byrddau iechyd lleol ac ymddiriedolaethau'r GIG yn cael eu cyfarwyddo i arfer eu swyddogaethau perthnasol yn unol â gofynion y cod ymarfer.

Mae comisiynu gwasanaethau gofal cymdeithasol er mwyn diwallu anghenion gofal a chymorth y boblogaeth leol gymwys yn un o swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol. Daeth cod ymarfer y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Comisiynu Gofal a Chymorth yng Nghymru i rym ar 1 Medi 2024 ac mae'n gymwys i awdurdodau lleol, byrddau iechyd lleol ac ymddiriedolaethau'r GIG yng Nghymru sy'n comisiynu gwasanaethau gofal a chymorth. Mae'n amlinellu egwyddorion a safonau ar gyfer arferion comisiynu a threfniadau contractio, gan gynnwys gweithdrefnau monitro priodol i alluogi partneriaid statudol i’w sicrhau eu hunain bod cydymffurfiaeth ar waith.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol Cymru a rhanddeiliaid o'r sector i ddatblygu 'Cod ymarfer ar sicrhau ansawdd a rheoli perfformiad, uwchgyfeirio pryderon a chau gwasanaethau, mewn perthynas â gwasanaethau gofal a chymorth rheoleiddiedig'. Mae'n ategu'r Fframwaith Cenedlaethol ac yn canolbwyntio ar wasanaethau gofal a chymorth a reoleiddir o dan ddeddf 2016. Mae'n disodli'r canllawiau statudol 'Uwchgyfeirio pryderon ynghylch cartrefi gofal sy’n darparu gwasanaethau i oedolion a chau’r cartrefi hynny' a gyhoeddwyd yn 2009.

Rhagair y Gweinidog

Fel y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, rwyf am i'r holl wasanaethau gofal a chymorth rheoleiddiedig yng Nghymru fod o'r ansawdd uchaf, a'u bod yn canolbwyntio ar wella a darparu'r canlyniadau gorau posib i'r oedolion a'r plant sy'n elwa ar y gwasanaethau hynny. Mae'r gwasanaethau hyn, lle bynnag y cânt eu darparu, yn hanfodol i sicrhau bod gan bobl y gofal a'r cymorth sydd eu hangen arnyn nhw mewn amgylchedd sy'n deall eu hanghenion, yn hyrwyddo'u llesiant ac yn eu helpu i gyflawni eu canlyniadau personol.

Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae i wireddu'r dyhead hwnnw – boed hynny ar lefel llywodraeth genedlaethol neu leol, yn rheoleiddwyr, ac, wrth gwrs, yn ddarparwyr y gwasanaethau hollbwysig hyn.

Mae awdurdodau lleol a chyrff y GIG yn comisiynu gwasanaethau gofal a chymorth rheoleiddiedig i ddiwallu anghenion oedolion a phlant yn eu hardaloedd lleol. Wrth wneud hynny, maen nhw'n gyfrifol am sicrhau ansawdd y gwasanaethau rheoleiddiedig y maen nhw'n eu comisiynu, yn ogystal â rheoli eu perfformiad yn effeithiol ac yn gymesur.

Mae'r cod ymarfer arfaethedig rydyn ni'n ymgynghori arno yn annog dull gweithredu sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau pobl, gweithio'n gydweithredol a diwylliant o ddysgu a gwella. Ei nod yw sicrhau arferion mwy cyson ledled Cymru.

Rwy'n edrych ymlaen at glywed eich barn.

Dawn Bowden AS
Y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol

Cod ymarfer ar sicrhau ansawdd a rheoli perfformiad, uwchgyfeirio pryderon a chau gwasanaethau, mewn perthynas â gwasanaethau gofal a chymorth rheoleiddiedig

Mae'r ymgynghoriad cyhoeddus hwn yn ceisio barn ar y cod ymarfer drafft ar sicrhau ansawdd a rheoli perfformiad, uwchgyfeirio pryderon a ahau gwasanaethau, mewn perthynas â gwasanaethau gofal a chymorth rheoleiddiedig (y cod drafft). Mae awdurdodau lleol yn ddarparwyr ac yn gomisiynwyr gwasanaethau gofal a chymorth rheoleiddiedig. Mae awdurdodau lleol hefyd yn ymwneud â threfniadau comisiynu cydweithredol, cydgomisiynu neu gomisiynu integredig gyda byrddau iechyd lleol ac ymddiriedolaethau'r GIG yng Nghymru.

Mae byrddau iechyd lleol ac ymddiriedolaethau'r GIG yn comisiynu gwasanaethau gofal a chymorth rheoleiddiedig a chânt ddarparu gwasanaethau gofal a chymorth rheoleiddiedig megis cartrefi gofal sy'n darparu gofal nyrsio a gwasanaethau cymorth cartref.

At ddibenion y cod drafft, cyfeirir at awdurdodau lleol, byrddau iechyd lleol ac ymddiriedolaethau'r GIG fel "Comisiynwyr".

Yn y cod drafft, caiff gofyniad ei fynegi fel “rhaid” neu “ni chaiff”. Caiff canllawiau, sef pan fo gan awdurdodau lleol ddisgresiwn, eu mynegi fel “caiff" neu “dylai/dylid/dylent” neu “ni ddylai/ni ddylid/ni ddylent”.

Er mwyn sicrhau bod gan y cod rym tebyg mewn perthynas ag awdurdodau lleol, byrddau iechyd lleol ac ymddiriedolaethau’r GIG, bydd Gweinidogion Cymru yn cyfarwyddo byrddau iechyd lleol ac ymddiriedolaethau’r GIG o dan ddeddf 2006 i arfer eu swyddogaethau perthnasol yn unol â’r gofynion yn y cod hwn.

Bydd y cod drafft yn cael ei ategu gan becyn cymorth a fydd yn cynnwys templedi ac enghreifftiau o arferion da. Mae nifer o'r templedi wedi'u haddasu o'r rhai sydd wedi'u datblygu gan randdeiliaid at ddefnydd lleol. Bydd modd cael gafael ar y pecyn cymorth drwy'r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer hwb cymunedol Comisiynu Gofal a Chymorth a bydd yn cael ei gynnal gan y Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth. Nid yw'r pecyn cymorth yn rhan o'r ymgynghoriad cyhoeddus hwn.

Sicrhau ansawdd a rheoli perfformiad gwasanaethau gofal a chymorth rheoleiddiedig

Mae'n darparu canllawiau ar ddogfennaeth gontractiol. Mae'n annog comisiynwyr i weithio'n rhagweithiol i sicrhau ansawdd gwasanaethau rheoleiddiedig a gomisiynir er mwyn atal cychwyn yn ddiangen weithdrefnau uwchgyfeirio pryderon. Mae'n cynnwys gofynion i sicrhau bod prosesau effeithiol ar waith i gasglu, cofnodi ac adolygu adborth gan randdeiliaid ac asesu risgiau i lesiant a diogelwch unigolion sy'n defnyddio'r gwasanaeth.

Mae'n nodi dull gweithredu ar gyfer gwella pan fo angen hynny, gan gynnwys rôl darparwyr gwasanaethau yn y broses hon. Mae'r adran hon o'r cod drafft yn cynnwys enghraifft o broses sicrhau ansawdd a gwneud penderfyniadau yn atodiad A.

Uwchgyfeirio pryderon mewn gwasanaethau gofal a chymorth rheoleiddiedig

Mae'r adran hon o'r cod drafft yn darparu canllawiau ar y meini prawf ar gyfer uwchgyfeirio pryderon yn ogystal â'r strwythur a'r prosesau a ddylai fod ar waith i ymdrin â phryderon a gaiff eu huwchgyfeirio a gwneud penderfyniadau yn eu cylch. Canolbwyntir ar wella ansawdd y gwasanaeth gofal a chymorth rheoleiddiedig a diogelu unigolion a, lle bo hynny'n bosibl, atal rhag cau neu ddatgomisiynu'r gwasanaeth lle gellid osgoi hynny (terfynu contract). Mae'n cynnwys gwybodaeth am atal lleoliadau dros dro. Yn atodiad B, ceir enghraifft o'r broses uwchgyfeirio pryderon.

Datgomisiynu

Mae'r adran hon o'r cod drafft yn ymdrin â datgomisiynu, sydd yn y cyd-destun hwn yn cael ei ddiffinio fel tynnu'n ôl oddi wrth wasanaeth mewnol neu allanol a'r trefniadau cyllido, neu ddod â nhw i ben, drwy beidio â thalu grantiau mwyach neu derfynu contract neu gytundeb lefel gwasanaeth.

Mae'r cod drafft yn disgrifio'r amgylchiadau lle y gellid ystyried bod datgomisiynu yn briodol. Mae'n canolbwyntio ar bwysigrwydd sicrhau parhad gwasanaeth i ddiwallu anghenion pobl, cynnal sgiliau, profiad a gwybodaeth y gweithlu, cyfathrebu a hysbysiadau. Yn atodiad C, ceir enghraifft o siart lif datgomisiynu.

Cau gwasanaethau gofal a chymorth rheoleiddiedig

Mae'r adran hon o'r cod drafft yn ymdrin â chau gwasanaethau gofal a chymorth rheoleiddiedig a allai fod yn broses wirfoddol neu orfodol. Gall cau gwasanaeth ddigwydd oherwydd bod darparwr gwasanaeth wedi penderfynu cau un neu ragor o'i wasanaethau yn wirfoddol neu adael y farchnad yn gyfan gwbl. Fel arall, gall y cau ddigwydd oherwydd camau gorfodi gan Arolygiaeth Gofal Cymru neu reoleiddwyr eraill (gan gynnwys yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch), hyfywedd ariannol, neu argyfwng y tu hwnt i reolaeth y darparwr gwasanaeth.

Mae'r cod drafft yn disgrifio'r strwythurau a'r trefniadau a argymellir i'w rhoi ar waith, yn ogystal â phwysleisio'r angen am rolau a chyfrifoldebau clir a chyfathrebu effeithiol i reoli a chynnal y gwaith o gau gwasanaeth rheoleiddiedig. Yn atodiad D, ceir enghraifft o siart lif cau gwasanaeth.

Cwestiynau’r ymgynghoriad

Cwestiwn 1

I ba raddau ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno â'r gofynion a osodir ar awdurdodau lleol, byrddau iechyd lleol ac ymddiriedolaethau'r GIG yn yr adran rheoli ansawdd a rheoli perfformiad o'r cod ymarfer?

Cwestiwn 2

I ba raddau ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno â'r gofynion a osodir ar awdurdodau lleol, byrddau iechyd lleol ac ymddiriedolaethau'r GIG yn yr adran uwchgyfeirio pryderon o'r cod ymarfer?

Cwestiwn 3

I ba raddau ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno â'r gofynion a osodir ar awdurdodau lleol, byrddau iechyd lleol ac ymddiriedolaethau'r GIG yn yr adran datgomisiynu o'r cod ymarfer?

Cwestiwn 4

I ba raddau ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno â'r gofynion a osodir ar awdurdodau lleol, byrddau iechyd lleol ac ymddiriedolaethau'r GIG yn yr adran cau gwasanaethau rheoleiddiedig o'r cod ymarfer?

Cwestiwn 5

Hoffem wybod eich barn am yr effeithiau y byddai'r 'Cod ymarfer drafft ar sicrhau ansawdd a rheoli perfformiad, uwchgyfeirio pryderon a chau gwasanaethau, mewn perthynas â gwasanaethau gofal a chymorth rheoleiddiedig' yn eu cael ar y Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

Yn eich barn chi, beth fyddai’r effeithiau ar y Gymraeg, os o gwbl? Sut y gellid cynyddu’r effeithiau cadarnhaol, neu leihau’r effeithiau negyddol?

Cwestiwn 6

Sut ydych chi'n credu y gallai'r 'Cod ymarfer drafft ar sicrhau ansawdd a rheoli perfformiad, uwchgyfeirio pryderon a chau gwasanaethau, mewn perthynas â gwasanaethau gofal a chymorth rheoleiddiedig' gael ei lunio neu ei newid er mwyn cael effeithiau cadarnhaol neu fwy o effeithiau cadarnhaol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg?

Cwestiwn 7

A oes gennych unrhyw faterion cysylltiedig nad yw'r ymgynghoriad hwn wedi mynd i'r afael â nhw?

Sut i ymateb

Cyflwynwch eich ymatebion erbyn 30 Mehefin 2025, mewn unrhyw un o'r ffyrdd canlynol:

Tîm Cartrefi Gofal
Yr Is-adran Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu
  • (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

Mae ymatebion i ymgynghoriadau yn debygol o gael eu cyhoeddi’n gyhoeddus, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os hoffech i’ch ymateb aros yn ddienw, dywedwch wrthym ni

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod.

Y Swyddog Diogelu Data

Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: data.protectionofficer@llyw.cymru

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: ico.org.uk

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a roddir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Ni fydd unrhyw waith o'r fath yn cael ei wneud oni bai ei fod yn cael ei wneud o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel. Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi cael ei gynnal mewn modd priodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio eich manylion.

Dylech hefyd wybod am ein dyletswyddau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth. Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, bydd yr adroddiadau hyn yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Gwybodaeth bellach a dogfennau cysylltiedig

Rhif: WG51604

Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd amgen. Os ydych am gael y ddogfen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.