Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Rydym yn gofyn am ymatebion i Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant 2024 i 2030

Mae’r ymgynghoriad hwn ar gyfer Cymru’n unig yn gwahodd eich barn am y blaenoriaethau arfaethedig ar gyfer diwylliant yng Nghymru. Mae tair blaenoriaeth, a ategir gan 20 o ddyheadau manylach, sy’n nodi blaenoriaethau hirdymor ar gyfer diwylliant. 

Rydym yn defnyddio’r gair diwylliant fel llaw-fer ar gyfer gweithgarwch y sectorau celfyddydau, amgueddfeydd, archifdai, llyfrgelloedd ac amgylcheddau hanesyddol yng Nghymru.

Llywiwyd y gwaith o ddatblygu’r blaenoriaethau hyn gan bum ffordd gynaliadwy o weithio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru): tymor hir, atal, integreiddio, cydweithio a chynnwys. 

Mae fersiwn Hawdd ei Ddarllen o’r blaenoriaethau, cyflwyniad a chrynodeb yn Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ac arweiniad i Bobl Ifanc ar y blaenoriaethau ar gael hefyd. 

Cyflwyniad

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn cydnabod pwysigrwydd llesiant diwylliannol i wella bywydau pobl. Un o nodau canolog y Ddeddf yw creu ‘Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu’.

Mae’r Rhaglen Lywodraethu yn cynnwys ymrwymiad i ddatblygu strategaeth ddiwylliant newydd ac er gwaethaf setliad ariannol cynyddol gyfyngol ar gyfer Cymru, rydym yn benderfynol o fwrw ymlaen â’r gwaith hwn.

Rydym yn argyhoeddedig o bŵer y celfyddydau, diwylliant a chreadigrwydd wrth gefnogi llesiant unigolion a chymunedau, ac yn credu y gall ein sector diwylliant ddatblygu atebion creadigol i’r heriau sy’n wynebu ein cymunedau. 

Wrth ddatblygu ein blaenoriaethau newydd ar gyfer diwylliant, buom yn ymgysylltu â dros 400 o gynrychiolwyr sector a chynrychiolwyr cymunedol. Credwn fod y blaenoriaethau a’r dyheadau’n adlewyrchu sgyrsiau ynghylch arferion da presennol ac yn cyfleu gweledigaeth strategol ar gyfer y dyfodol sydd wedi tyfu’n organig, o’r sector ei hun. Maent yn gosod fframwaith clir ar gyfer y sector diwylliant yng Nghymru am y saith mlynedd nesaf, gan fynd â ni y tu hwnt i dymor nesaf y Llywodraeth.

Rydym yn gobeithio bod y blaenoriaethau a’r dyheadau’n cefnogi’r egwyddor bod gan bob person yng Nghymru yr hawl i gael mynediad at, i greu, i gymryd rhan, ac i weld eu hunain yn cael eu hadlewyrchu yng ngweithgareddau diwylliannol ein cenedl.

Ein Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant yng Nghymru

Dangosir ein blaenoriaethau a’n dyheadau isod:

Blaenoriaeth 1: Mae diwylliant yn dod â ni ynghyd

  • A1: Mae diwylliant yn gynhwysol, yn hygyrch ac yn amrywiol.
  • A2: Mae democratiaeth ddiwylliannol a hawliau diwylliannol yn ganolog i ddiwylliant yng Nghymru.
  • A3: Mae diwylliant yn mabwysiadu dull cynhwysol a chytbwys o ddehongli, coffáu a chyflwyno ein gorffennol. 
  • A4: Mae diwylliant yn rhan annatod o greu lleoedd ac o lesiant cymunedol. 
  • A5: Mae diwylliant yn adlewyrchu anghenion a dyheadau plant a phobl ifanc, ac yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o gyfranogwyr ac arweinwyr diwylliannol.
  • A6: Mae diwylliant yn cryfhau’r cysylltiad rhwng y cenedlaethau.

Blaenoriaeth 2: Cenedl diwylliant

  • A7: Mae diwylliant yn cefnogi ac yn hyrwyddo’r Gymraeg ac yn adlewyrchu Cymru fel cenedl ddwyieithog ac amlieithog.
  • A8: Mae llesiant diwylliannol wedi’i wreiddio’n ddwfn yn y broses o lunio polisïau ledled Cymru.
  • A9: Mae ymgysylltu diwylliannol yn cefnogi llesiant unigolion a chymunedau. 
  • A10: Bydd cyrff diwylliant a threftadaeth yn cydweithio mwy i fanteisio i’r eithaf ar botensial llawn eu timau arbenigol a’u casgliadau, a byddant yn gweithio gyda sectorau eraill i ystyried pŵer diwylliant, a manteisio arno. 
  • A11: Mae diwylliant yn cefnogi twristiaeth; mae twristiaeth yn cefnogi diwylliant. Mae gan ddiwylliant broffil uchel yn y ffordd y caiff ein cenedl ei marchnata i ymwelwyr.
  • A12: Mae diwylliant wedi cael ei integreiddio yn y ffordd y mae Cymru’n sefydlu ac yn datblygu cysylltiadau rhyngwladol.
  • A13: Codir proffil diwylliant yng Nghymru drwy ddathlu a hyrwyddo diwylliant ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol.

Blaenoriaeth 3: Mae diwylliant yn gydnerth ac yn gynaliadwy

  • A14: Mae ein casgliadau a’n hasedau hanesyddol yn derbyn gofal, ac maent yn cael eu defnyddio i gefnogi dysgu, creadigrwydd, creu lleoedd a sicrhau llesiant diwylliannol. 
  • A15: Mae gan sefydliadau sy’n gyfrifol am ddiogelu a gofalu am ein casgliadau diwylliannol a’n hasedau hanesyddol ddulliau strategol i gydnabod eu harwyddocâd a’u casglu.
  • A16: Mae ein treftadaeth ddiwylliannol anniriaethol yn rhan annatod o stori’n gwlad; mae’n cael ei chofnodi, ei chefnogi i ffynnu, a’i rhannu ag eraill er budd cenedlaethau’r dyfodol.
  • A17: Mae arferion digidol da yn cefnogi ac yn gwella ein diwylliant. 
  • A18: Mae gan ddiwylliant agwedd gydweithredol a hirdymor tuag at ymchwil a chasglu tystiolaeth.
  • A19: Mae’r sector diwylliant yng Nghymru yn lle gwych i weithio a gwirfoddoli, gyda gweithlu proffesiynol a medrus. 
  • A20: Mae’r sector diwylliant yn dangos arweinyddiaeth a chydweithio yn ei ddulliau gweithredu ar gyfer datblygu cynaliadwy, meithrin cadernid, a mynd i’r afael â phob agwedd ar argyfyngau hinsawdd a natur.

Ceir rhagor o naratif ynghylch y rhain yn y ddogfen Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant ategol, y fersiwn Hawdd ei Ddeall, y fersiwn Pobl Ifanc yn ogystal â’r cyflwyniad a’r fideo cryno yn Iaith Arwyddion Prydain.

Cwestiynau’r ymgynghoriad

Blaenoriaeth 1: Mae diwylliant yn dod â ni ynghyd 

C1. I ba raddau ydych chi’n cytuno y dylai’r flaenoriaeth hon fod yn rhan o’n blaenoriaethau ar gyfer diwylliant yng Nghymru? 

Dyhead 1: Mae diwylliant yn gynhwysol, yn hygyrch ac yn amrywiol

C2. A ddylai’r dyhead hwn fod yn un o’n Blaenoriaethau?

Dyhead 2: Mae democratiaeth ddiwylliannol a hawliau diwylliannol yn ganolog i ddiwylliant yng Nghymru

C3. A ddylai’r dyhead hwn fod yn un o’n Blaenoriaethau?

Dyhead 3: Mae diwylliant yn mabwysiadu dull cynhwysol a chytbwys o ddehongli, coffáu a chyflwyno ein gorffennol

C4. A ddylai’r dyhead hwn fod yn un o’n Blaenoriaethau?

Dyhead 4: Mae diwylliant yn rhan annatod o greu lleoedd a llesiant cymunedol

C5. A ddylai’r dyhead hwn fod yn un o’n Blaenoriaethau?

Dyhead 5: Mae diwylliant yn adlewyrchu anghenion a dyheadau plant a phobl ifanc, ac yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o gyfranogwyr ac arweinwyr diwylliannol

C6. A ddylai’r dyhead hwn fod yn un o’n Blaenoriaethau?

Dyhead 6: Mae diwylliant yn cryfhau’r cysylltiad rhwng y cenedlaethau

C7. A ddylai’r dyhead hwn fod yn un o’n Blaenoriaethau?

C8. A oes unrhyw ddyheadau nad ydym wedi eu nodi a allai gefnogi’r flaenoriaeth hon ymhellach?

C9. Defnyddiwch y blwch hwn i ychwanegu unrhyw sylwadau pellach sydd gennych ynghylch Blaenoriaeth 1: Mae diwylliant yn dod â ni ynghyd Os mai "na ddylid" oedd eich ateb i unrhyw gwestiwn yn yr adran hon, esboniwch pam yma. 

Blaenoriaeth 2: Cenedl Diwylliant

C10. I ba raddau ydych chi’n cytuno y dylai’r flaenoriaeth hon fod yn rhan o’n blaenoriaethau ar gyfer diwylliant yng Nghymru? 

Dyhead 7: Mae diwylliant yn cefnogi ac yn hyrwyddo’r Gymraeg ac yn adlewyrchu Cymru fel cenedl ddwyieithog ac amlieithog

C11. A ddylai’r dyhead hwn fod yn un o’n Blaenoriaethau?

Dyhead 8: Mae llesiant diwylliannol wedi’i wreiddio’n ddwfn yn y broses o lunio polisïau ledled Cymru

C12. A ddylai’r dyhead hwn fod yn un o’n Blaenoriaethau?

Dyhead 9: Mae ymgysylltu diwylliannol yn cefnogi llesiant unigolion a chymunedau

C13. A ddylai’r dyhead hwn fod yn un o’n Blaenoriaethau?

Dyhead 10: Bydd cyrff diwylliant a threftadaeth yn cydweithio mwy i fanteisio i’r eithaf ar botensial llawn eu timau arbenigol a’u casgliadau, a byddant yn gweithio gyda sectorau eraill i ystyried pŵer diwylliant, a manteisio arno

C14. A ddylai’r dyhead hwn fod yn un o’n Blaenoriaethau?

Dyhead 11: Mae diwylliant yn cefnogi twristiaeth; mae twristiaeth yn cefnogi diwylliant. Mae gan ddiwylliant broffil uchel yn y ffordd y caiff ein cenedl ei marchnata i ymwelwyr.

C15. A ddylai’r dyhead hwn fod yn un o’n Blaenoriaethau?

Dyhead 12: Mae diwylliant wedi’i integreiddio yn y ffordd y mae Cymru’n sefydlu ac yn datblygu cysylltiadau rhyngwladol

C16. A ddylai’r dyhead hwn fod yn un o’n Blaenoriaethau?

Dyhead 13: Codi proffil diwylliant yng Nghymru drwy ddathlu a hyrwyddo diwylliant ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol

C17. A ddylai’r dyhead hwn fod yn un o’n Blaenoriaethau?

C18. A oes unrhyw ddyheadau nad ydym wedi eu nodi a allai gefnogi’r flaenoriaeth hon ymhellach?

C19. Defnyddiwch y blwch hwn i ychwanegu unrhyw sylwadau pellach sydd gennych ynghylch Blaenoriaeth 2:  Cenedl Diwylliant, Os mai "na ddylid" oedd eich ateb i unrhyw gwestiwn yn yr adran hon, esboniwch pam yma.

Blaenoriaeth 3: Mae diwylliant yn gydnerth ac yn gyfrifol

C20. I ba raddau ydych chi’n cytuno y dylai’r flaenoriaeth hon fod yn rhan o’n blaenoriaethau ar gyfer diwylliant yng Nghymru?

Dyhead 14: Mae ein casgliadau a’n hasedau hanesyddol yn derbyn gofal, ac maent yn cael eu defnyddio i gefnogi dysgu, creadigrwydd, creu lleoedd a sicrhau llesiant diwylliannol

C21. A ddylai’r dyhead hwn fod yn un o’n Blaenoriaethau?

Dyhead 15: Mae gan sefydliadau sy’n gyfrifol am ddiogelu a gofalu am ein casgliadau diwylliannol a’n hasedau hanesyddol ddulliau strategol i gydnabod eu harwyddocâd a’u casglu

C22. A ddylai’r dyhead hwn fod yn un o’n Blaenoriaethau?

Dyhead 16: Mae ein treftadaeth ddiwylliannol anniriaethol yn rhan annatod o stori’n gwlad; mae’n cael ei chofnodi, ei chefnogi i ffynnu, a’i rhannu ag eraill er budd cenedlaethau’r dyfodol

C23. A ddylai’r dyhead hwn fod yn un o’n Blaenoriaethau?

Dyhead 17: Mae arferion digidol da yn cefnogi ac yn gwella ein diwylliant

C24. A ddylai’r dyhead hwn fod yn un o’n Blaenoriaethau?

Dyhead 18: Mae gan ddiwylliant agwedd gydweithredol a hirdymor tuag at ymchwil a chasglu tystiolaeth

C25. A ddylai’r dyhead hwn fod yn un o’n Blaenoriaethau?

Dyhead 19: Mae’r sector diwylliant yng Nghymru yn lle gwych i weithio a gwirfoddoli, gyda gweithlu proffesiynol a medrus

C26. A ddylai’r dyhead hwn fod yn un o’n Blaenoriaethau?

Dyhead 20: Mae’r sector diwylliant yn dangos arweinyddiaeth a chydweithio yn ei ddulliau gweithredu ar gyfer datblygu cynaliadwy, meithrin cadernid, a mynd i’r afael â phob agwedd ar argyfyngau hinsawdd a natur

C27. A ddylai’r dyhead hwn fod yn un o’n Blaenoriaethau?

C28. A oes unrhyw ddyheadau nad ydym wedi eu nodi a allai gefnogi’r flaenoriaeth hon ymhellach?

C29. Defnyddiwch y blwch hwn i ychwanegu unrhyw sylwadau pellach sydd gennych ynghylch Blaenoriaeth 3: Mae diwylliant yn gydnerth ac yn gynaliadwy Os mai "na ddylid" oedd eich ateb i unrhyw gwestiwn yn yr adran hon, esboniwch pam yma.

Cwestiynau’n ymwneud â’r Gymraeg

C30. Yn eich barn chi, sut byddai’r Blaenoriaethau arfaethedig ar gyfer Diwylliant yn debyg o effeithio ar y Gymraeg?  Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn unrhyw effeithiau tebygol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. 

  • Ydych chi’n meddwl bod cyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol?
  • Ydych chi’n meddwl bod yna gyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau niweidiol?  

C31. Yn eich barn chi, a ellid llunio neu newid y Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant er mwyn gwneud y canlynol:

  • cael effeithiau cadarnhaol neu effeithiau mwy cadarnhaol o ran defnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg; neu 
  • lliniaru unrhyw effeithiau negyddol ar ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg?

C32. Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych chi unrhyw faterion cysylltiedig sydd heb gael eu trafod yn benodol, mae croeso i chi ddefnyddio’r lle hwn i'w nodi.

Sut i ymateb

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 4 Medi 2024, drwy unrhyw un o'r ffyrdd a ganlyn:

Ymgynghoriad ar Flaenoriaethau Diwylliannol 2024
Yr Is-adran Diwylliant
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru
Sarn Mynach
Cyffordd Llandudno
Conwy
LL31 9RZ

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu
  • (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Mae ymatebion i ymgynghoriadau yn debygol o gael eu cyhoeddi’n gyhoeddus, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os hoffech i’ch ymateb aros yn ddienw, dywedwch wrthym ni

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data

Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: data.protectionofficer@llyw.cymru

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn : 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: ico.org.uk

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a roddir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Ni fydd unrhyw waith o'r fath yn cael ei wneud oni bai ei fod yn cael ei wneud o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel. Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi cael ei gynnal mewn modd priodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio eich manylion.

Dylech hefyd wybod am ein dyletswyddau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth. Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, bydd yr adroddiadau hyn yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Gwybodaeth bellach a dogfennau cysylltiedig

Rhif: WG48829

Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd amgen. Os ydych am gael y ddogfen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.