Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Mae Cymru yn ymrwymedig i fod yn Genedl Noddfa ac mae ganddi hanes hir o gefnogi mudwyr o bob cwr o’r byd er mwyn cael budd o’u sgiliau a’u diwylliant a gwella cymdeithas Cymru.

Mae’n bwysig bod y broses o ymgyfarwyddo â bywyd Cymreig yn cael ei chefnogi mewn ffordd briodol a sensitif er budd pawb. Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal ymgynghoriad ar ffyrdd o fesur pa mor gynhwysol yw ein cymunedau i’r rhai sy’n teithio i fyw a gweithio yng Nghymru. Drwy ddatblygu’r dull hwn o fesur cynhwysiant gellir helpu mudwyr a’r cymunedau y maent yn ymgartrefu ynddynt yng Nghymru i deimlo’n ddiogel, cael gafael ar ddarpariaeth briodol, a chael y cyfle i gyfrannu a ffynnu.

Mae sicrhau bod mudwyr a’r cymunedau y maent yn ymgartrefu ynddynt yn dod ymlaen yn dda yn gyfrifoldeb a rennir gan bob un ohonom, ac mae gan Lywodraeth Cymru ddyletswydd i geisio lleihau anghydraddoldeb, meithrin cydberthnasau da a herio gwahaniaethu. Mae gennym amrywiaeth o wasanaethau a pholisïau sy’n ceisio cynnwys mudwyr yn well. Fodd bynnag, mae wedi bod yn anodd asesu a yw’r polisïau hyn mor effeithiol ag y gallent fod, am nad oes ffordd ddibynadwy o fesur cynhwysiant.

Pan nad yw cymunedau’n gynhwysol, gall hyn gael canlyniadau negyddol difrifol, o fwy o droseddau casineb, anghydraddoldebau iechyd, cyfraddau cyflogaeth gwael, rhwystrau i gynnydd addysgol, a hyd yn oed fwy o ganlyniadau negyddol. Mae hyn hefyd yn cael effaith ar gymunedau ehangach, lle gall pobl deimlo’n llai diogel, ymddiried llai mewn cymdogion, a methu cyfleoedd i gael budd o’r amrywiaeth o ddoniau a phrofiad sydd gan y mudwyr sy’n dod i Gymru yn aml.

Mae’r angen am ffordd o fesur cynwysoldeb cymunedau i fudwyr yng Nghymru wedi cael ei nodi gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru a Senedd Cymru. Bydd datblygu ffordd o fesur cynhwysiant yn galluogi Llywodraeth Cymru i annog ffyrdd o weithio ledled Cymru, a’u datblygu’n well. Dylai hyn ein galluogi i asesu cynhwysiant mewn ffordd fwy dibynadwy a llywio arfer dda a all gael ei defnyddio i ddatblygu polisïau newydd.

Mae’r term ‘Cynhwysiant’ yn y ddogfen hon yn cyfeirio at broses ddwy ffordd o fudwyr a’r cymunedau y maent yn ymgartrefu ynddynt yn dysgu oddi wrth ei gilydd ac yn cefnogi ei gilydd er mwyn sicrhau nad oes anghydraddoldebau (neu eu bod yn cael eu datrys yn gyflym) a bod pawb yn teimlo eu bod yn perthyn i gymdeithas Cymru. Nid yw’n ymwneud â disgwyl i fudwyr gydymffurfio â’r ffordd bresennol o wneud pethau na dilyn y drefn bresennol. Fodd bynnag, mae’n ei gwneud yn ofynnol i bawb chwarae eu rhan, yn cynnwys mudwyr yn cymryd cyfrifoldeb am ddefnyddio systemau ac achub ar gyfleoedd yng Nghymru hefyd.

Mae’r term ‘Mudwr’ yn y ddogfen hon yn cyfeirio at y rhai a anwyd y tu allan i’r Deyrnas Unedig sy’n byw yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys y rhai â statws mewnfudo diogel a’r rhai hebddo.

Cydnabyddwn mai dim ond dau ffactor cysylltiedig yw cenedligrwydd a statws mudo a all effeithio ar gynwysoldeb cymunedau. Bydd gan unigolion sy’n cyrraedd Cymru hefyd wahanol ethnigrwydd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, anghenion iechyd neu hygyrchedd, credoau neu nodweddion eraill a all gyfuno i ddylanwadu ar brofiadau unigolion yng Nghymru. Drwy fesur profiadau mudwyr gallwn gymharu hyn â phrofiadau grwpiau eraill mewn cymdeithas a chwilio am ffyrdd o ddileu unrhyw anghydraddoldebau a all godi.

Ar hyn o bryd, nid oes ffordd gyson o fesur cynwysoldeb cymunedau i fudwyr yng Nghymru. Mae llawer o wasanaethau cymorth ac ymyriadau â bwriadau da sy’n ceisio gwella cynhwysiant mudwyr ond mae’r rhain yn aml yn seiliedig ar dystiolaeth anecdotaidd neu brofiad personol o’r ‘hyn sy’n gweithio’. Weithiau, cânt eu cynllunio i fodloni meini prawf cyllido a bennir gan wahanol gyllidwyr grantiau. Bydd cryn dipyn o’r gweithgarwch hwn yn arfer effeithiol ond mae angen sail dystiolaeth fwy cadarn sy’n ymwneud â’r canlyniadau a brofir gan fudwyr ledled Cymru er mwyn sicrhau bod yr ymyriadau mwyaf effeithiol yn cael eu nodi, eu cyllido a’u dyblygu.

Yn 2019, cyhoeddodd y Swyddfa Gartref ‘Dangosyddion Integreiddio’ newydd (trydydd argraffiad; yn adeiladu ar Ddangosyddion a ddatblygwyd gyntaf yn 2004) sy’n nodi:

Mae’n bosibl y bydd gan weinyddiaethau datganoledig lawer o bolisïau, deddfwriaeth, a dulliau o ddarparu gwasanaeth a chymorth gwahanol, yn ogystal â chasgliadau data gwahanol o bryd i’w gilydd, a fydd yn effeithio ar y ffyrdd y defnyddir y [Dangosyddion].

Mae Dangosyddion y Swyddfa Gartref yn rhannu’r cysyniad o ‘integreiddio’ yn 14 parth gwahanol, a nodir isod:

Dynodwyr a moddau

  • Gwaith
  • Tai
  • Addysg
  • Iechyd a gofal cymdeithasol
  • Hamdden

Cysylltiadau cymdeithasol

  • Rhwymau
  • Pontydd
  • Cysylltiadau

Hwyluswyr

  • Iaith a chyfathrebu
  • Diwylliant
  • Sgiliau digidol
  • Diogelwch
  • Sefydlogrwydd

Seiliau

  • Hawliau a chyfrifoldebau

Fel y’i nodir yn Nangosyddion y Swyddfa Gartref:

Mae’r 14 parth integreiddio... yn cynnig dull yn seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer adeiladu strategaethau, a dylunio, gweithredu a mesur llwyddiant ymyriadau ymarferol. Mae pob parth wedi ei gysylltu â set gynhwysfawr o fesurau ar gyfer canlyniadau a gweithredu priodol.

Mae’r rhestr o Ddangosyddion y Swyddfa Gartref wedi’i chynnwys yn Atodiad 2 i’r papur ymgynghori hwn.

Yn 2016, gwnaeth Llywodraeth Cymru hefyd lunio Dangosyddion Llesiant Cenedlaethol sy’n amlinellu dangosyddion allweddol rydym am ganolbwyntio arnynt er mwyn ystyried llesiant pawb yng Nghymru.

Mae Dangosyddion Llesiant Llywodraeth Cymru wedi’u trefnu o fewn y 7 Nod Llesiant, sef:

  • Cymru sy'n fwy cyfartal
  • Cymru o gymunedau cydlynus
  • Cymru lewyrchus
  • Cymru gydnerth
  • Cymru iachach
  • Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
  • Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang.

Mae Dangosyddion Llesiant Cenedlaethol Llywodraeth Cymru wedi’u cynllunio i asesu hynt cyflawni’r 7 Nod hynny, sy’n rhan o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae’r rhestr o Ddangosyddion wedi’i chynnwys yn Atodiad 1 i’r papur ymgynghori hwn.

Yn anffodus, mae gan y ddwy set o Ddangosyddion hyn wendidau ar hyn o bryd. Mae hyn yn golygu ei bod yn anodd mesur pa mor gynhwysol yw ein cymunedau. Mae Dangosyddion y Swyddfa Gartref yn gyfraniad defnyddiol iawn at y pwnc hwn ond nid ydynt yn cael eu defnyddio’n rheolaidd yng Nghymru. Gall cymhlethdod y ddogfen honno ymddangos yn ormod. Mae Dangosyddion Llywodraeth Cymru yn dibynnu ar setiau data nad ydynt ar hyn o bryd yn nodi profiadau mudwyr yn ddigonol i’n helpu i gyflawni’r nod o fesur cymunedau cynhwysol.

Rydym yn awyddus i gymryd yr elfennau gorau o’r ddwy ddogfen hyn a’u cyfuno, ynghyd ag arfer orau ar lawr gwlad, a chreu adnodd haws ei ddefnyddio a fydd, gobeithio, yn cael ei ddefnyddio gan y mwyafrif o’r gwasanaethau sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda mudwyr yng Nghymru.

Gobeithiwn ddatblygu dull o fesur a all gael ei ddefnyddio gan unrhyw un sy’n cefnogi mudwyr. Bydd y dull o fesur yn helpu gwasanaethau i fonitro a rhannu gwybodaeth mewn ffordd foesegol a thryloyw. Nid yw hyn yn ymwneud â data personol na data y gellir eu defnyddio i adnabod rhywun ond mae’n annog casglu data ac adrodd ar ganlyniadau a brofir gan ddefnyddwyr gwasanaethau sy’n fudwyr yn gyson.

Meysydd blaenoriaeth

Drwy’r ymgynghoriad hwn rydym yn anelu at archwilio 5 maes blaenoriaeth:

Beth ddylai gael ei fesur

Credwn fod y dogfennau sydd eisoes ar gael a grybwyllir uchod yn darparu sail ddefnyddiol iawn i ddatblygu dull o fesur cynhwysiant yng nghyd-destun mudwyr. Hoffem gael barn ynghylch ai cyfuno’r gorau o’r ddwy ddogfen hyn yw’r peth gorau i ni ei wneud yng Nghymru. Croesawn sylwadau ynghylch a oes pethau allweddol sy’n hanfodol o ran cynhwysiant ac a oes meysydd mesur hanfodol ar gyfer ein cyd-destun Cymreig nas cwmpesir gan fesuriadau presennol. Byddwn yn comisiynu ymchwil ar wahân er mwyn edrych yn benodol ar sut y gall y mesuriadau hyn gael eu datblygu a bydd y tîm ymchwil yn edrych ar atebion i’r cwestiynau hyn yn fanylach.

Cydnabyddwn y gall plant mudwyr sy’n byw yng Nghymru hefyd brofi anghydraddoldebau ac y gall eu hymdeimlad o berthyn gael ei beryglu. Mae casglu data ar blant mudwyr yn fwy cymhleth o safbwynt technegol a moesegol ond mae gennym ddiddordeb mewn clywed barn ynghylch a ddylai hyn fod yn rhan o’n hadnodd terfynol a sut y gellir cyflawni hyn.

Nodi rhwystrau

Cydnabyddwn fod rhwystrau sydd wedi atal mesur cynhwysiant yng nghyd-destun mudwyr, neu nad ydynt wedi annog hynny, tan nawr. Mae’n debygol mai un o’r rhain yw absenoldeb adnodd gan Lywodraeth Cymru yn argymell dull o fesur. Mae rhwystr tebygol arall yn ymwneud â bylchau mewn gwasanaethau yn gofyn am genedligrwydd neu statws mewnfudo y rhai sy’n defnyddio eu gwasanaeth. Hefyd weithiau mae diffyg tryloywder pan gaiff data eu casglu ar ganlyniadau mudwyr. Gwyddom na fydd mudwyr bob amser yn teimlo y gallant ymddiried mewn gwasanaethau o ran eu data ac mae hyn yn ddealladwy yng nghyd-destun rhethreg gwrth-fudwyr a chynigion deddfwriaethol a drafodir yn Senedd y DU ar hyn o bryd. Mae ennyn yr ymddiriedaeth hon yn debygol o fod yn rhwystr i gasglu a rhannu mewnwelediadau perthnasol o ganlyniad.

Cydnabyddwn y gall fod amrywiaeth o rwystrau nad ydym wedi eu deall yn llawn eto y gall fod angen eu goresgyn er mwyn sicrhau bod modd rhoi mesuriadau ar waith yn effeithiol yn dilyn cyhoeddi. Croesawn farn ynghylch y rhwystrau canfyddedig, neu a brofwyd, a all atal ymgysylltu â'r gwaith hwn.

Arfer dda

Mae Cymru wedi cael budd o'r llu o sefydliadau sydd wedi gweithio'n ddiflino ers degawdau i helpu mudwyr i ymgartrefu yn ein cymunedau. Rydym yn awyddus i nodi enghreifftiau da o ymyriadau lle mae egwyddorion Dangosyddion Integreiddio wedi'u hymgorffori er mwyn gwella ffyrdd o weithio. Bydd yr enghreifftiau hyn yn cael eu cynnwys mewn astudiaethau achos a all gael eu cynnwys yn ein hadnodd terfynol ynghylch mesur cynhwysiant er mwyn dangos sut y gall egwyddorion damcaniaethol gael eu rhoi ar waith.

Hawdd ei ddefnyddio

Yn ein barn ni, mae angen i'r adnodd terfynol ynghylch mesur cynhwysiant fod yn hawdd ei ddefnyddio, a chael ei ddefnyddio'n effeithiol gan y rhai sy'n gweithio yn y trydydd sector neu mewn cyrff cyhoeddus heb ychwanegu amser sylweddol at eu llwyth gwaith. I gyflawni hyn, mae angen inni ddeall yn well anghenion ac arferion gwaith y rhai sy'n cefnogi cymunedau mudol. Croesawn farn am y dulliau mwyaf hygyrch ac effeithiol o gyflwyno'r adnodd terfynol.

Anghenion cymorth parhaus

Rydym am sicrhau bod modd i'r adnodd terfynol gael ei gynnwys mewn arferion gwaith dyddiol mewn sefydliadau ledled Cymru ar ôl iddo gael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2022. I wneud hyn, hoffem wybod beth fydd ei angen gan Lywodraeth Cymru, yn eich barn chi, er mwyn sicrhau bod sefydliadau yn mesur cynhwysiant yn y tymor canolig.

Byddem hefyd yn croesawu barn am y cyfraniadau y gall eich sefydliad (neu sefydliadau eraill a nodwyd) eu gwneud at y broses hon.

Amserlen

Bydd cyfnod ymgynghori o 7 wythnos yn dechrau ar 7 Chwefror ac yn gorffen ar 25 Mawrth 2022. Yn ystod y cyfnod ymgynghori byddwn yn annog ymatebion gan y rhai sy'n gweithio'n uniongyrchol gyda chymunedau mudol, a'r rhai sy'n gweithio ar faterion ehangach cydlyniant cymunedol, er mwyn sicrhau bod ein camau nesaf yn cael eu llywio gan dystiolaeth a mewnwelediadau ymarferol.

Mae'r cyfnod ymgynghori ychydig yn fyrrach na'r hyn sy'n safonol ond mae hyn er mwyn galluogi awdurdodau lleol i gymryd rhan cyn cyfnod cyn etholiad llywodraeth leol.

Anogir barn ystod eang o unigolion, grwpiau cymunedol, undebau llafur, academyddion a'n partneriaid yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector er mwyn ein helpu i fireinio a datblygu'r gwaith hwn.

Ar wahân, byddwn yn gweithio gyda sefydliadau sy'n cefnogi mudwyr er mwyn sicrhau bod nifer o grwpiau ffocws yn cael eu cynnal gyda mudwyr eu hunain, oherwydd mae eu mewnbwn yn hanfodol i ddeall sut beth yw cynhwysiant o'u safbwynt nhw.

Byddwn yn edrych ar yr ymatebion i'r ymgynghoriad a'r ymchwil a nodir uchod er mwyn datblygu dull o fesur cynhwysiant mudwyr yn ein cymunedau. Byddwn yn anelu at gyhoeddi'r adnodd terfynol ym mis Rhagfyr 2022.

Atodiad 1

Dangosyddion cenedlaethol Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Dangosydd

Disgrifiad

1.1

Canran y genedigaethau byw sengl â phwysau geni islaw 2,500g

1.2

Disgwyliad oes iach adeg geni gan gynnwys y bwlch rhwng y bobl fwyaf a lleiaf amddifadus

1.3

Canran yr oedolion sydd â dau neu fwy ymddygiad ffordd o fyw iach

1.4

Lefelau llygredd nitrogen deuocsid (NO2) yn yr aer

1.5

Canran y plant sydd â dau neu fwy ymddygiad ffordd o fyw iach

1.6

Mesur o ddatblygiad plant bach

1.7

Sgôr pwyntiau 9 cyfartalog wedi'i gapio y disgyblion, gan gynnwys y bwlch rhwng y rhai sydd â hawl i brydau ysgol am ddim a'r rhai sydd â dim hawl

1.8

Canran yr oedolion â chymwysterau ar y gwahanol lefelau yn y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol

1.9

Gwerth Ychwanegol Gros am bob awr a weithir (o'i gymharu â chyfartaledd y DU)

1.10

Incwm Gwario Gros Aelwydydd y pen

1.11

Canran y busnesau sydd wrthi'n arloesi

1.12

Capasiti (mewn MW) yr offer ynni adnewyddadwy sydd wedi'i osod

1.13

Crynodiad carbon a deunydd organig mewn pridd

1.14

Ôl troed byd eang Cymru

1.15

Swm y gwastraff a gynhyrchir ac na chaiff ei ailgylchu, y pen

1.16

Canran y bobl sydd mewn gwaith, sydd ar gontractau parhaol (neu ar gontractau dros dro, ac nad ydynt yn ceisio gwaith parhaol) ac sy'n ennill o leiaf y Cyflog Byw gwirioneddol

1.17

Y gwahaniaeth cyflog ar sail rhyw, anabledd ac ethnigrwydd

1.18

Canran y bobl sy'n byw mewn aelwydydd mewn tlodi incwm o'i gymharu â chanolrif y DU: wedi'i fesur ar gyfer plant, pobl o oedran gweithio a phobl o oedran pensiwn

1.19

Canran y bobl sy'n byw mewn aelwydydd mewn amddifadedd materol

1.20

Cyfran y cyflogeion y mae eu cyflog yn cael ei osod drwy gydfargeinio

1.21

Canran y bobl sydd mewn gwaith

1.22

Canran y bobl mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, wedi'i mesur ar gyfer gwahanol grwpiau oedran

1.23

Y ganran sy'n teimlo'u bod yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau sy'n effeithio ar eu hardal leol

1.24

Canran y bobl sy'n fodlon ar eu gallu i gyrraedd/ cael at y cyfleusterau a'r gwasanaethau y mae eu hangen arnynt

1.25

Canran y bobl sy’n teimlo’n ddiogel gartref, wrth gerdded yn yr ardal leol, ac wrth deithio

1.26

Canran y bobl sy'n fodlon ar yr ardal leol fel lle i fyw

1.27

Canran y bobl sy'n cytuno eu bod yn perthyn i'r ardal; bod pobl o gefndiroedd gwahanol yn cyd-dynnu'n dda; a bod pobl yn trin ei gilydd â pharch

1.28

Canran y bobl sy'n gwirfoddoli

1.29

Sgôr llesiant meddyliol cymedrig ar gyfer pobl

1.30

Canran y bobl sy'n unig

1.31

Canran yr anheddau sydd heb beryglon

1.32

Nifer yr unedau eiddo (cartrefi a busnesau) sydd mewn perygl uchel a chanolig o lifogydd sy'n deillio o afonydd a'r môr

1.33

Canran yr anheddau â pherfformiad ynni digonol

1.34

Nifer yr aelwydydd y llwyddwyd i'w hatal rhag bod yn ddigartref am bob 10,000 o aelwydydd

1.35

Canran y bobl sy'n bresennol neu'n cyfranogi mewn gweithgareddau ym maes y celfyddydau, diwylliant neu dreftadaeth o leiaf deirgwaith y flwyddyn

1.36

Canran y bobl sy'n siarad Cymraeg yn feunyddiol ac sy'n gallu siarad mwy nag ychydig eiriau o Gymraeg

1.37

Nifer y bobl a all siarad Cymraeg

1.38

Canran y bobl sy'n cyfranogi mewn gweithgareddau chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos

1.39

Canran yr amgueddfeydd ac archifau sy'n dal casgliadau archifol/treftadaeth sy'n cyrraedd safonau achredu'r DU

1.40

Canran asedau dynodedig yr amgylchedd hanesyddol sydd mewn cyflwr sefydlog neu well

1.41

Allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru

1.42

Allyriadau nwyon tŷ gwydr sydd i'w priodoli i ddefnyddio nwyddau a gwasanaethau byd-eang yng Nghymru

1.43

Ardaloedd o ecosystemau iach yng Nghymru

1.44

Statws amrywiaeth fiolegol yng Nghymru

1.45

Canran y cyrff dŵr wyneb, a'r cyrff dŵr daear, sy'n cyrraedd statws da neu uchel ar y cyfan

1.46

Dinasyddiaeth fyd-eang weithredol yng Nghymru

1.47

Canran y bobl sydd â hyder yn y system gyfiawnder

1.48

Canran y teithiau a wneir drwy gerdded, beicio neu drafnidiaeth gyhoeddus

1.49

Canran yr aelwydydd sy'n gwario 30% neu fwy o'u hincwm ar gostau tai

1.50

Statws cynhwysiant digidol

Atodiad 2

Dangosyddion Integreiddio'r Swyddfa Gartref

Gwaith

Mae cyflogaeth yn darparu mecanwaith ar gyfer cynhyrchu incwm ac annibyniaeth economaidd a chynnydd posibl; o ganlyniad mae’n ffactor allweddol sy’n cefnogi integreiddiad. Gall gwaith hefyd fod yn werthfawr wrth (ail)sefydlu rolau cymdeithasol sy’n cael eu parchu, gan ddatblygu iaith a chymhwysedd diwylliannol ehangach a sefydlu cysylltiadau cymdeithasol. Mae gwaith gwirfoddol yn darparu profiad gwaith gwerthfawr a’r cyfle i ymarfer iaith a sgiliau cyfathrebu ac adeiladu cysylltiadau cymdeithasol ar gyfer y rhai hynny sydd â’r hawl neu heb yr hawl i waith â thâl. Ar gyfer y rhai hynny sydd â hawl i waith gall ddarparu llwybr iddynt at waith â thal.

 

Dangosyddion

Dangosydd

Disgrifiad

2.1

% sy’n cymryd rhan mewn llwybrau at waith (e.e. prentisiaethau, profiad gwaith neu gynlluniau mentora/cysgodi)

2.2

% (sy’n gymwys/gallu gweithio) mewn gwaith cyflogedig

2.3

% a gyflogir ar lefel briodol i sgiliau, cymwysterau a phrofiad

2.4

% a gyflogir ar draws ystod eang o sectorau cyflogaeth

2.5

% sy’n dal mathau gwahanol o gontractau cyflogaeth (dim oriau, rhan amser; hunan-gyflogedig; dros dro, etc.)

2.6

% o unigolion (cymwys i weithio/gallu gweithio) sy’n defnyddio mentrau dechrau busnes cwmni menter lleol

2.7

% sy’n ennill cyflog blynyddol yn gymesur â’r cyfartaledd cenedlaethol

2.8

% o unigolion a/neu gartrefi sy’n sefyll ar eu traed eu hunain

ac yn annibynnol yn economaidd

2.9

% sy’n adrodd bodlondeb gyda’u cyflogaeth bresennol

2.10

% mewn gwaith di-dâl neu waith gwirfoddol

2.11

Canfyddiadau o gyfleoedd cyflogaeth a rhwystrau i sicrhau cyflogaeth

2.12

% sydd â chynlluniau ymddeol

2.13

Ymwybyddiaeth o sefydliadau, hawliau, cymorth a llwybrau at gyfranogiad allweddol

Addysg

Mae mynediad at, a chynnydd o fewn, y system addysg yn gweithredu fel dynodwr arwyddocaol o integreiddio, a hefyd fel modd allweddol tuag at y nod hwn. Mae addysg yn creu cyfleoedd sylweddol ar gyfer gwaith, ar gyfer cysylltu a chymysgu cymdeithasol ehangach, ar gyfer dysgu iaith a chyfnewid diwylliannol.

Dangosyddion

Dangosydd

Disgrifiad

3.1

% sy’n cyflawni camau allweddol penodol ar lefel gynradd (neu gyrhaeddiad addysgol cyfwerth i blant rhwng 5 ac 11 oed)

3.2

% sy’n cyflawni pump neu ragor o raddau TGAU / Graddau Safonol ar 9-4 (A*-C) (neu gyrhaeddiad addysgol cyfwerth plant rhwng 12 ac 16 oed)

3.3

% sy’n cyflawni dau neu ragor o gymwysterau Safon Uwch neu bas ar Lefel Uwch (neu gyrhaeddiad addysgol cyfwerth plant a phobl ifanc rhwng 17 a 18 oed)

3.4

% o unigolion sydd wedi eu gwahardd o’r ysgol

3.5

% o bobl ifanc ac oedolion sy’n llwyddo i gael mynediad at addysg drydyddol

3.6

% o unigolion sy’n cyflawni cymhwyster galwedigaethol (e.e. Cymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol / Cymwysterau Galwedigaethol yr Alban neu gyfwerth)

3.7

% sy’n cwblhau Diploma Mynediad at Addysg Uwch

3.8

% o bobl ifanc ac oedolion sy’n llwyddo i fynd i’r brifysgol

3.9

% sy’n troi eu cefnau ar y brifysgol / addysg bellach

3.10

% o blant sy’n cymryd rhan mewn addysg feithrin

3.11

% o blant sy’n cymryd rhan mewn clybiau amser cinio ac ar ôl ysgol

3.12

Cynrychiolaeth o amrywiaeth y boblogaeth leol mewn ysgolion (mynegai o wahaniaethau)

3.13

Myfyrwyr wedi hunangofnodi ymdeimlad o berthyn yn yr ysgol

3.14

% ddim mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant (NEET)

3.15

Ymwybyddiaeth o sefydliadau, hawliau, cymorth a llwybrau at gyfranogiad allweddol.

Tai

Mae tai yn siapio i raddau helaeth brofiad unigolyn o integreiddio. Mae amodau tai yn effeithio ar ymdeimlad o ddiogelwch a sefydlogrwydd cymuned, cyfleoedd ar gyfer cysylltiadau cymdeithasol, a mynediad at ofal iechyd, addysg a chyflogaeth.

Dangosyddion

Dangosydd

Disgrifiad

4.1

% sy’n ddigartref

4.2

% sy’n byw mewn amodau tenantiaeth sicr neu berchen-feddiannydd/diogel

4.3

% sy’n byw mewn tai gorlawn

4.4

% o unigolion cymwys sy’n byw mewn tai cymdeithasol

4.5

% sy’n derbyn budd-dal tai

4.6

% sy’n derbyn taliad tai yn ôl disgresiwn

4.7

Amser cyfartalog a dreulir mewn llety dros dro

4.8

Boddhad a gofnodwyd gyda’r amodau tai

4.9

Boddhad a gofnodwyd gyda’r gymdogaeth (e.e. diogelwch yn y gymuned, cydlyniant cymdeithasol ac argaeledd cyfleustodau angenrheidiol)

4.10

Ymwybyddiaeth o sefydliadau, hawliau, cymorth a llwybrau at gyfranogiad allweddol

Iechyd a gofal cymdeithasol

Y materion allweddol yma yw mynediad cyfartal at wasanaethau iechyd a chymdeithasol ac ymatebolrwydd gwasanaethau o’r fath i anghenion penodol yr unigolyn. Mae iechyd da yn galluogi cyfranogiad ac ymgysylltiad cymdeithasol gwell â gweithgareddau gwaith ac addysg.

Dangosyddion

Dangosydd

Disgrifiad

5.1

Disgwyliad oes iach ar enedigaeth (gwryw a benyw)

5.2

% wedi cofrestru gyda meddyg teulu

5.3

% wedi cofrestru gyda deintydd

5.4

% wedi cofrestru ag optegydd y GIG am brawf llygaid

5.5

% sy’n cael profion llygaid y GIG am ddim

5.6

% sy’n defnyddio gwasanaethau arbenigol (drwy’r GIG lle maent ar gael) (e.e. gofal cyn-geni, gwasanaethau iechyd meddwl, cymorth ar gyfer dioddefwyr trais domestig a dioddefwyr trawma)

5.7

% sy’n defnyddio gwasanaethau ataliol (e.e. imiwneiddio, iechyd, gofal cyn-geni a sgrinio am ganser ceg y groth a’r fron, clinigau iechyd rhywiol)

5.8

% o unigolion cymwys sy’n cael mynediad llwyddiannus at fudd-dal analluogrwydd, gofalwyr a budd-daliadau eraill

5.9

% sy’n defnyddio gwasanaethau ymwelwyr iechyd

5.10

% o blant a phobl ifanc sydd â mynediad at nyrsys ysgol

5.11

Cyfraddau marwolaethau ymysg babanod

5.12

Cyfraddau marwolaethau ymysg newydd-anedigion

5.13

Cyfraddau marwolaethau ar enedigaeth

5.14

Cyfraddau marwolaethau ymysg mamau

5.15

Cyfraddau marwolaethau o achosion a ystyrir yn rhai y gellir eu hatal (bob oedran)

5.16

% sy’n mynegi iechyd a lles hunanraddedig da (dylai hwn fod ar gyfer plant a phobl ifanc a phobl 18+)

5.17

Ansawdd bywyd cysylltiedig ag iechyd i bobl hŷn

5.18

% sy’n adrodd eu bod yn trafod problemau iechyd meddwl â’u meddygon teulu

5.19

% sy’n cael mynediad at wasanaethau dehongli neu gyfieithu yn ystod apwyntiadau meddygol

Hamdden

Gall gweithgareddau hamdden helpu unigolion i ddysgu mwy am ddiwylliant gwlad neu ardal leol, a gall ddarparu cyfleoedd i sefydlu cysylltiadau cymdeithasol, ymarfer sgiliau iaith a gwella iechyd a lles unigol cyffredinol.

Dangosyddion

Dangosydd

Disgrifiad

6.1

% sy’n aelodau o’r llyfrgell leol

6.2

% sy’n aelodau o gyfleusterau chwaraeon lleol

6.3

% sy’n cymryd rhan mewn grwpiau/gweithgareddau cymdeithasol a hamdden lleol

6.4

% sy’n adrodd eu bod wedi cymryd rhan mewn o leiaf un gweithgaredd hamdden a ffafrir ganddynt yn ystod y mis diwethaf

6.5

Ymwybyddiaeth o sefydliadau, hawliau, cymorth a llwybrau at gyfranogiad allweddol

Rhwymau cymdeithasol: gyda’r rheiny y rhannwch ymdeimlad o hunaniaeth

Mae perthnasoedd cefnogol gyda phobl sy’n rhannu nifer o’ch gweithgareddau a disgwyliadau am fywyd (normau) yn hanfodol i iechyd meddwl a llesiant ac felly yn greiddiol i integreiddio. Caiff perthnasoedd eu ffurfio, yn gyffredinol, ond nid bob amser, gydag aelodau o’r teulu a phobl o’r un cefndir diwylliannol. Gall pobl gyfarwydd, iaith, arferion diwylliannol a ffydd grefyddol a rennir i gyd gyfrannu at ymdeimlad o berthyn.

Dangosyddion

Dangosydd

Disgrifiad

7.1

% sy’n adrodd bod ganddynt rywun o’r gymuned i siarad â nhw pan fyddant angen cymorth

7.2

% sy’n gallu defnyddio cyfryngau cymdeithasol i ddatblygu cysylltiadau â pherthnasoedd a ffrindiau, a chadw mewn cysylltiad â nhw

7.3

% sy’n adrodd bod ganddynt ffrindiau â chefndiroedd tebyg

7.4

% sy’n cyfrannu at sefydliad cymunedol neu’n rhan o gymdeithas neu grŵp crefyddol

7.5

% o bobl sy’n teimlo eu bod yn gallu ymarfer eu ffydd yn rhwydd

7.6

% sy’n mynegi ymdeimlad o ‘berthyn’ i gymdogaeth ac ardal leol

Pontydd cymdeithasol: gyda phobl o gefndiroedd gwahanol

Mae sefydlu cysylltiadau cymdeithasol â’r rhai hynny yr ymddengys eu bod o gefndiroedd eraill megis iaith, ethnigrwydd, crefydd a rhywioldeb yn hanfodol i sefydlu’r rhyngweithio ‘ddwy ffordd’ sydd wrth wraidd llawer o ddiffiniadau o integreiddio. Mae creu pontydd i gymunedau eraill yn cefnogi cydlyniant cymdeithasol ac yn creu cyfleoedd ar gyfer ehangu dealltwriaeth ddiwylliannol, a chynyddu cyfleoedd addysgiadol ac economaidd.

Dangosyddion

Dangosydd

Disgrifiad

8.1

% sy’n cymryd rhan mewn clybiau ieuenctid, cyfleusterau gofal plant, clybiau chwaraeon, undebau llafur a sefydliadau eraill

8.2

% sy’n mynychu gofodau cymunedol (gan gynnwys mannau addoli) lle maent yn cymysgu â phobl o gefndiroedd gwahanol

8.3

% o bobl leol sy’n adrodd bod ganddynt ffrindiau o gefndiroedd gwahanol

8.4

% o bobl leol (cymunedau ar fin cyrraedd ac sy’n derbyn) sy’n adrodd eu bod yn cymdeithasu gyda phobl o wahanol gefndiroedd ethnig a chefndiroedd eraill mewn sefyllfaoedd bob dydd

8.5

% sy’n hyderus i ofyn i’w cymdogion o bob cefndir am help

8.6

% sy’n mynegi ymdeimlad o ‘berthyn’ i gymdogaeth ac ardal leol

8.7

% sydd wedi gwirfoddoli/helpu yn y gymuned yn ystod y mis diwethaf

8.8

% sy’n adrodd bod pobl o gefndiroedd gwahanol yn cyd-dynnu’n dda yn eu hardal

8.9

Achosion o wahaniaethu ymysg preswylwyr (yn ôl ethnigrwydd) yn yr ardal leol

Cysylltiadau cymdeithasol: gyda sefydliadau

Cyfeiria cysylltiadau cymdeithasol at ymgysylltiad â sefydliadau mewn cymdeithas, megis gwasanaethau llywodraethol ac anllywodraethol lleol, dyletswyddau dinesig a phrosesau gwleidyddol, ac maent yn arddangos set arall o gysylltiadau cymdeithasol sy’n cefnogi integreiddio. Mae cysylltiadau cymdeithasol yn bodoli lle gall person dderbyn y buddion a ddarperir gan sefydliadau cymdeithas yn ogystal â chyfrannu at wneud penderfyniadau a chyflawni. Mae cysylltu â gweithgareddau o’r fath yn darparu dimensiwn arall o gysylltiad cymdeithasol.

Dangosyddion

Dangosydd

Disgrifiad

9.1

% sy’n ymgymryd â swyddi neu swyddogaethau cynrychioladol â sefydliadau neu bwyllgorau cymunedol lleol

(e.e. byrddau grwpiau chwarae, pwyllgorau PTA, grwpiau cleifion, cymdeithas trigolion lleol, Gwarchod Cymdogaeth)

9.2

% sydd wedi cofrestru i bleidleisio

9.3

Cynrychiolaeth o grwpiau lleiafrifoedd ethnig ym mhleidiau gwleidyddol y DU

9.4

% sy’n weithredol ar bwyllgorau PTA ysgolion, cyrff anllywodraethol neu gyrff llywodraethol

9.5

% sy’n defnyddio gwasanaethau statudol ac eraill

9.6

% sy’n ymwybodol o weithdrefnau ar gyfer cwyno am nwyddau a gwasanaethau

9.7

% mewn swyddi arwain/rheoli

9.8

Ymwybyddiaeth o sefydliadau, hawliau, cymorth a llwybrau at gyfranogiad allweddol

Iaith a chyfathrebu

Mae’r gallu i gyfathrebu yn hanfodol ar gyfer yr holl gysylltiadau cymdeithasol gan gynnwys, yn allweddol, gyda chymunedau eraill a gydag asiantaethau gwladol a gwirfoddol megis gwasanaethau llywodraeth leol ac anllywodraethol a phrosesau gwleidyddol, a’r gallu i berfformio dyletswyddau dinesig.

Dangosyddion

Dangosydd

Disgrifiad

10.1

Cyfraddau llythrennedd ymysg oedolion

10.2

% sy’n cymryd rhan mewn dosbarthiadau ESOL (Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill) neu’n derbyn addysg iaith Saesneg i oedolion gyfatebol

10.3

% sy’n mynychu dosbarthiadau ESOL neu’n derbyn addysg iaith Saesneg i oedolion gyfatebol yn rheolaidd

10.4

% sy’n mynd ymlaen i astudio ESOL Lefel Mynediad 3 sy'n ofynnol i ymgeisio am ddinasyddiaeth Brydeinig (B1 ar y Fframwaith Ewropeaidd Cyffredin) o fewn 2 flynedd i dderbyn statws

10.5

% sy’n adrodd boddhad gyda darpariaeth ESOL yn lleol (neu gyfatebol)

10.6

% o bobl nad yw Saesneg yn iaith gyntaf iddynt sy’n adrodd eu bod yn gallu cynnal sgwrs syml gyda siaradwr iaith leol (e.e. cymydog)

10.7

% sy’n cymryd rhan mewn mentrau i ddarparu ymarfer iaith y tu allan i ddosbarthiadau (e.e. drwy weithgareddau cymdeithasol, gyda mentoriaid neu drwy wirfoddoli)

10.8

% sy’n cynnal iaith frodorol ynghyd â dysgu iaith newydd

10.9

Ymwybyddiaeth o sefydliadau, hawliau, cymorth a llwybrau at gyfranogiad allweddol

Diwylliant

Mae dealltwriaeth o werthoedd diwylliannol, arferion a chredoau eraill yn hybu integreiddio rhwng pobl o gefndiroedd gwahanol. Mae gwybodaeth o’r fath yn cynnwys gwybodaeth ymarferol iawn ar gyfer bywyd bob dydd (e.e. ynglŷn â thrafnidiaeth, cyfleustodau, budd-daliadau) yn ogystal ag arferion a disgwyliadau cymdeithasol. Mae gwybodaeth gan y naill a’r llall o werthoedd, diwylliannau ac arferion ei gilydd yn hybu datblygiad cysylltiadau cymdeithasol rhwng pobl o gefndiroedd gwahanol.

Dangosyddion

Dangosydd

Disgrifiad

11.1

% sy’n ymgysylltu â sefydliadau a digwyddiadau diwylliannol y DU (e.e. amgueddfeydd, gwyliau lleol, dathliadau diwylliannol)

11.2

% sy’n adrodd bod pobl o gefndiroedd gwahanol yn cyd-dynnu’n dda yn eu hardal

11.3

% sy’n adrodd eu bod yn gwybod am normau a disgwyliadau cymdeithasol lleol ac yn gyfforddus â nhw

11.4

% sy’n adrodd eu bod yn deall diwylliannau ac ymddygiadau sefydliadol y DU (e.e. yn eu gwaith neu drwy ddefnyddio gwasanaethau cyhoeddus)

11.5

% sy’n deall, ac yn defnyddio cyfraith y DU sy’n berthnasol i fywyd bob dydd (e.e. cyfrifoldebau rhianta, hawliau cyflogaeth ac eiddo, ymddygiad mewn mannau cyhoeddus)

11.6

% sy’n ymwybodol o, ac yn dilyn cyfraith y DU parthed arferion nad ydynt yn gyfreithiol yn y DU (e.e. yfed a gyrru neu anffurfio organau rhywiol merched (FGM))

11.7

Ymwybyddiaeth o sefydliadau, hawliau, cymorth a llwybrau at gyfranogiad allweddol

Sgiliau digidol

Gall cynefindra a hyder wrth ddefnyddio technoleg cyfathrebu gwybodaeth helpu i hwyluso cysylltiadau cymdeithasol ac mae’n gynyddol bwysig wrth gael mynediad at hawliau a gwasanaethau.

Dangosyddion

Dangosydd

Disgrifiad

12.1

% sy’n adrodd hyder wrth ddefnyddio technoleg i gael mynediad at wasanaethau digidol

12.2

% sy’n adrodd hyder wrth ddefnyddio technoleg i gyfathrebu gyda ffrindiau neu deulu (h.y. drwy’r rhyngrwyd)

12.3

% sy’n manteisio ar gyrsiau hyfforddiant digidol

12.4

% sydd â mynediad personol i’r rhyngrwyd (gan gynnwys data symudol)

12.5

% dros 16 oed sydd â ffôn clyfar neu gyfrifiadur

12.6

Ymwybyddiaeth o sefydliadau, hawliau, cymorth a llwybrau at gyfranogiad allweddol

Diogelwch

Mae synnwyr o ddiogelwch yn darparu sylfaen hanfodol i ffurfio perthnasoedd gyda phobl a chymdeithas, gan alluogi cynnydd drwy addysg a/neu gyflogaeth a chymryd rhan mewn diddordebau hamdden. Mae diogelwch cymunedol yn bryder cyffredin ymysg grwpiau lleiafrifol ac o fewn y cymunedau ehangach y maent yn byw ynddynt. Mae aflonyddwch hiliol a throseddau casineb yn erydu hyder, yn cyfyngu ar ymgysylltiad â chysylltiadau cymdeithasol ac yn camystumio gwybodaeth ddiwylliannol.

Dangosyddion

Dangosydd

Disgrifiad

13.1

% sy’n adrodd eu bod yn ymddiried yn yr heddlu

13.2

% o ferched sy’n adrodd trais rhywiol a/neu drais domestig

13.3

% sy’n adrodd teimlo'n ofnus neu'n ansicr

13.4

Hunangofnodi teimlo'n ddiogel wrth gerdded ar eu pennau eu hunain yn ystod y dydd / nos

13.5

% sy’n adrodd profiadau o aflonyddwch neu ddigwyddiadau hiliol, diwylliannol neu grefyddol

13.6

% sy’n adrodd troseddau casineb

13.7

% o blant oed ysgol sy’n adrodd am brofiadau o ddigwyddiadau bwlio neu gam-drin hiliol mewn ysgolion

13.8

% sydd wedi cael eu stopio a’u chwilio gan yr heddlu

13.9

% sydd wedi cael eu harestio a/neu gyhuddo o droseddu

13.10

Ymwybyddiaeth o sefydliadau, hawliau, cymorth a llwybrau at gyfranogiad allweddol

Sefydlogrwydd

Mae unigolion yn elwa o ymdeimlad o sefydlogrwydd yn eu bywydau, megis trefn sefydlog yn eu gwaith, addysg, amgylchiadau byw a mynediad at wasanaethau. Mae sefydlogrwydd yn angenrheidiol ar gyfer ymgysylltu sefydlog â chyflogaeth neu addysg a gwasanaethau eraill. Mae symudoledd yn amharu ar rwydweithiau cymdeithasol, tra mae sefydlogrwydd yn cefnogi cysylltiadau cymdeithasol a gall helpu i wella canfyddiadau unigolion o’r ardal y maent yn byw ynddi.

Dangosyddion

Dangosydd

Disgrifiad

14.1

% sy’n adrodd preswyliaeth sefydlog (y gallant aros) yn eu tŷ presennol

14.2

% o blant sy’n symud ysgol

14.3

% sy’n cael mynediad at gyflogaeth barhaol

14.4

% sy’n adrodd boddhad â’r ardal leol

14.5

% sydd â statws mewnfudo diogel (h.y. caniatâd diderfyn i aros)

14.6

Nifer o deuluoedd sy’n cael eu hailuno drwy weithdrefnau aduno teuluoedd

14.7

% sy’n cael dinasyddiaeth

14.8

% sy’n adrodd cynefindra â’r bobl leol a chymdogion ac yn ymddiried ynddynt

14.9

% sy’n adrodd bwriad i aros yn eu cymdogaeth am dair blynedd neu fwy

14.10

% sy’n mynegi ymdeimlad o ‘berthyn’ i gymdogaeth ac ardal leol

14.11

% sy’n adrodd ansicrwydd ariannol

14.12

% sy’n adrodd cynhwysiant ariannol

Hawliau a chyfrifoldebau

Mae’r parth hwn yn mynd i’r afael â’r graddau y darperir sylfaen ar gyfer ymgysylltiad llawn a chyfartal o fewn cymdeithas y DU i aelodau o grwpiau lleiafrifol (a all arwain at gais ffurfiol am ddinasyddiaeth). Mae’n asesu bodolaeth ac ymwybyddiaeth o hawliau a chyfrifoldebau yn ogystal â rhoi’r hawliau hyn ar waith a chyflawni cyfrifoldebau.

Dangosyddion

Dangosydd

Disgrifiad

15.1

% sy’n manteisio ar gyngor cyfreithiol fforddiadwy

15.2

% sy’n manteisio ar gyngor ar fudd-daliadau lles

15.3

% sy’n ymgeisio am ddinasyddiaeth

15.4

% sydd wedi cael caniatâd i gofrestru i bleidleisio

15.5

% sy’n cymryd rhan mewn fforymau dinesig a gwleidyddol ac ymgynghoriadau cyhoeddus

15.6

% sy’n deall, ac yn defnyddio Cyfraith y DU a chyfrifoldebau cymdeithasol (e.e. cyfrifoldebau rhianta, hawliau cyflogaeth ac eiddo, ymddygiad mewn mannau cyhoeddus)

15.7

% sy’n adrodd ymdeimlad o gyfrifoldeb tuag at gymdeithas leol a’r DU

15.8

% sy’n adrodd ymdeimlad o gydraddoldeb wrth gael mynediad at wasanaethau a hawliadau

15.9

% o’r boblogaeth gyffredinol sy’n adrodd gwybodaeth am ddeddfau gwrthwahaniaethu

15.10

% sy’n adrodd gwybodaeth am eu hawl i wasanaethau dehongli mewn gwasanaethau cyhoeddus (ar draws parthau integreiddio)

15.11

Ymwybyddiaeth o sefydliadau, hawliau, cymorth a llwybrau at gyfranogiad allweddol

Cwestiynau’r ymgynghoriad

Rydym wedi gosod nifer o gwestiynau i chi eu hystyried. Dylech ddilyn fformat y cwestiynau rydym wedi eu gosod er mwyn ein galluogi i ddeall a dadansoddi eich barn yn fwy effeithiol. Rydym wedi cynnwys cwestiwn ar y diwedd i'ch galluogi i gofnodi unrhyw sylwadau ychwanegol nad oedd modd eu darparu'n ddigonol drwy'r atebion i'n cwestiynau eraill.

Hefyd hoffem ichi rannu'r ddogfen hon â'r rhai â diddordeb yn y materion hyn (a chyfraniadau posibl at ddatblygu'r adnodd terfynol) fel eu bod yn ymwybodol o'r ymgynghoriad a chânt eu hannog i ymateb.

Ni wnawn oddef sylwadau cas am nodweddion gwarchodedig hil, crefydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol na hunaniaeth rhywedd, ac ni chaiff unrhyw ymatebion sy'n cynnwys iaith gas eu hystyried a gallant gael eu trosglwyddo i asiantaethau cyfiawnder troseddol er mwyn ymchwilio iddynt.

Cwestiwn 1

Rydym yn bwriadu datblygu dull o fesur cynhwysiant yng nghyd-destun mudwyr drwy ddefnyddio'r rhannau gorau o Ddangosyddion Integreiddio'r Swyddfa Gartref (2019) a Dangosyddion Llesiant Cenedlaethol Llywodraeth Cymru (2016). Ydych chi'n cytuno â'r dull cyffredinol hwn? 

Eglurwch y rhesymau dros eich ymateb.

Cwestiwn 2

Pa fesuriadau o'r Dangosyddion Llesiant Cenedlaethol yn Atodiad 1 yw'r dangosyddion mwyaf hanfodol i'w cynnwys yn y fframwaith er mwyn monitro cynhwysiant mudwyr

Eglurwch y rhesymau dros eich ymateb  gan ddefnyddio'r rhif cyfeirnod (er enghraifft 1.08) er mwyn inni ddeall eich pwyntiau'n well.

Cwestiwn 3

Pa fesuriadau o'r Dangosyddion Integreiddio yn Atodiad 2 yw'r dangosyddion mwyaf priodol i'w cynnwys yn y fframwaith er mwyn monitro cynhwysiant?

Eglurwch y rhesymau dros eich ymateb gan ddefnyddio'r rhif cyfeirnod (er enghraifft 2.12) er mwyn inni ddeall eich pwyntiau'n well.

Cwestiwn 4

Ydych chi wedi nodi unrhyw rwystrau i fesur cynhwysiant mudwyr yn eich gwaith

Eglurwch y rhesymau dros eich ymateb.

Cwestiwn 5

Ydych chi wedi nodi unrhyw enghreifftiau o arfer dda yn eich gwaith chi (neu waith eraill) sy'n defnyddio cysyniadau mesur cynhwysiant mudwyr mewn cymunedau?

Rhowch fanylion am yr ymyriadau a allai, yn eich barn chi, gael eu hystyried yn arfer dda.

Cwestiwn 6

Sut yr hoffech weld yr adnodd yn amlinellu dull o fesur cynhwysiant yn cael ei gyflwyno er mwyn sicrhau ei fod yn hawdd ei ddefnyddio?

Rhowch cymaint o fanylion â phosibl am yr ieithoedd, fformatau neu strwythurau gofynnol ar gyfer yr adnodd terfynol a fydd yn cefnogi eich gwaith. Er y byddem fel arfer yn creu dogfen ysgrifenedig rydym yn awyddus i glywed awgrymiadau ynghylch yr adnodd mwyaf effeithiol, yn cynnwys enghreifftiau o adnoddau tebyg a ddefnyddir mewn mannau eraill.

Cwestiwn 7

Pa gymorth ychwanegol y byddai ei angen ar eich sefydliad fwy na thebyg i fesur cynhwysiant yng nghyd-destun mudwyr yn eich gwaith beunyddiol?

Ystyriwch a ellir nodi cyswllt â Llywodraeth Cymru, adnoddau, cyhoeddi setiau data penodol, strwythurau cydweithredol neu anghenion cymorth eraill. Eglurwch eich rhesymau dros nodi'r anghenion a ragwelir.

Cwestiwn 8

Fel y gallwn ni, fel llywodraeth, wella argaeledd, cysondeb, cyflawnrwydd a defnyddioldeb data mudwyr a gesglir ac yr adroddir arnynt?

Cwestiwn 9

Sut y gallwn wella parodrwydd mudwyr i roi eu gwybodaeth inni?

Cwestiwn 10

Oes unrhyw opsiynau data/tystiolaeth arloesol y mae angen inni ymchwilio iddynt ymhellach, megis cyfleoedd cysylltu data newydd?

Cwestiwn 11

A ddylai profiadau plant mudwyr i Gymru fod yn rhan o'n hadnodd terfynol?

Os felly, sut y gellir cyflawni hyn?

Cwestiwn 12

Hoffem gael eich barn am unrhyw effeithiau y byddai'r cynigion hyn yn eu cael ar y Gymraeg, yn enwedig ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar sicrhau na chaiff y Gymraeg ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg. 

Beth fyddai'r effeithiau, yn eich barn chi? Sut y gellid cynyddu effeithiau cadarnhaol, neu leihau effeithiau negyddol?

Cwestiwn 13

Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi ymdrin â hwy yn benodol, defnyddiwch y lle hwn i'w nodi:

Sut i ymateb

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 25 Mawrth 2022, yn y ffyrdd canlynol:

Y Tîm Cydraddoldeb
Llywodraeth Cymru
Parc Busnes Rhyd-y-Car
Merthyr Tudful
CF48 1UZ

Eich hawliau

O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych  hawl i wneud y canlynol:

  • i gael gwybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • gwrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu (o dan amgylchiadau penodol)
  • gofyn i'ch data gael eu ‘dileu’ (o dan amgylchiadau penodol)
  • i gludadwyedd data (o dan amgylchiadau penodol)
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Mae ymatebion i ymgynghoriadau yn debygol o gael eu cyhoeddi, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os byddai'n well gennych i'ch ymateb aros yn ddienw, dywedwch wrthym.

I gael rhagor o fanylion am y wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data:

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

e-bost: Swyddogdiogeludata@llyw.cymru

Manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw:

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: https://ico.org.uk/

Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU (UK GDPR)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth i chi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, gall trydydd parti dan gontract (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth.

Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig

Rhif: WG44272

Mae fersiynau o'r ddogfen hon mewn print bras, Braille ac mewn ieithoedd eraill ar gael ar gais.