Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Treth leol sy'n helpu i dalu am wasanaethau lleol yw ardrethi annomestig, y cyfeirir atynt weithiau fel ‘ardrethi busnes’. Caiff ardrethi eu codi ar y rhan fwyaf o eiddo annomestig, gan gynnwys eiddo y mae'r sector cyhoeddus a sefydliadau nid-er-elw yn berchen arno neu'n ei weithredu, nid dim ond eiddo a ddefnyddir at ddibenion masnachol. 

Mae ardrethi annomestig yn darparu dros £1.1 biliwn y flwyddyn tuag at ariannu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol a ddarperir gan lywodraeth Leol yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu dros £250 miliwn mewn rhyddhad ardrethi annomestig parhaol bob blwyddyn. Caiff rhyddhadau eu targedu er mwyn cefnogi sectorau penodol o'r sylfaen drethu a chyfrannu at nodau ehangach Llywodraeth Cymru. 

Caiff rhyddhad ardrethi annomestig elusennol ei ddarparu ar gyfer eiddo sydd wedi'i feddiannu (gostyngiad o 80%) ac eiddo heb ei feddiannu (gostyngiad o 100%), lle mae'r talwr ardrethi yn elusen neu'n ymddiriedolwr ar gyfer elusen ac y caiff meini prawf cymhwystra eraill eu bodloni. Caiff y rhyddhad ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, am gyfanswm cost o dros £75 miliwn y flwyddyn. Ar hyn o bryd, mae ysgolion preifat sy'n elusennau cofrestredig yn cael tua £1.3 miliwn y flwyddyn mewn rhyddhad elusennol. 

Cynhaliwyd ymgynghoriad ar gymhwystra ysgolion i gael rhyddhad elusennol yng Nghymru yn 2020. Cafodd yr ymgynghoriad 51 o ymatebion, gyda'r ymatebwyr yn cynrychioli unigolion, ysgolion annibynnol, ysgolion a gynhelir ac ysgolion sector cyhoeddus, llywodraeth leol a chyrff cynrychioliadol. Cafwyd amrywiaeth o safbwyntiau, yr oedd rhai ohonynt o blaid cynnal y trefniadau presennol ac eraill o blaid newid. Yr unig safbwynt mwyafrifol a ddeilliodd o'r ymgynghoriad oedd y dylai sefydliadau yn y sector cyhoeddus barhau i fod yn gymwys am ryddhad. Yn dilyn yr ymgynghoriad, cadarnhawyd y byddai unrhyw newid polisi arfaethedig yn y maes hwn yn destun ymgynghoriad pellach ar gynnig penodol. 

Yn yr Alban, tynnwyd rhyddhad elusennol ar gyfer ysgolion preifat yn ôl o 1 Ebrill 2022. Yn Lloegr, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cynlluniau i dynnu rhyddhad elusennol ar gyfer ysgolion preifat yn ôl o 1 Ebrill 2025 ymlaen. Mae Llywodraeth y DU hefyd yn bwriadu diddymu'r eithriad presennol rhag TAW (nad yw wedi'i ddatganoli) sy'n berthnasol i ysgolion preifat ledled y Deyrnas Unedig. 

Y Cynnig

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu tynnu rhyddhad elusennol ar gyfer ysgolion preifat yn ôl, gyda’r bwriad o’u rhoi ar sail debyg i'r ysgolion hynny nad oes ganddynt statws elusennol at ddibenion ardrethi annomestig. Nod y cynnig hwn yw sicrhau bod cyllid ychwanegol ar gael ar gyfer gwasanaethau lleol yng Nghymru, drwy dynnu rhyddhad treth, y telir amdano drwy gronfeydd cyhoeddus, ar gyfer addysg breifat yn ôl.. Yng Nghymru, mae ysgolion preifat wedi'u cofrestru fel ysgolion annibynnol (hynny yw, nas cynhelir gan yr awdurdod lleol). At ddibenion yr ymgynghoriad hwn, gellir defnyddio’r naill derm neu’r llall, ond y term cyfreithiol perthnasol yng Nghymru yw ysgol annibynnol.

Nid yw pob ysgol annibynnol yn cael rhyddhad elusennol, gan nad yw'r rhan fwyaf ohonynt yn elusennau. Ar hyn o bryd, mae 83 o ysgolion annibynnol wedi'u cofrestru yng Nghymru. O'u plith, mae 17 ohonynt yn cael rhyddhad elusennol. Ceir rhywfaint o amrywiad yn nodweddion yr ysgolion annibynnol sy'n cael rhyddhad elusennol, ond mae pob un ohonynt yn codi ffioedd ac mae'r rhan fwyaf ohonynt yn dewis eu disgyblion ar sail gallu academaidd neu gredoau crefyddol. Er bod disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn mynychu rhai o'r ysgolion hyn, mae cyfran y disgyblion hyn yn llawer is nag yng ngweddill y sector ysgolion annibynnol ac yn y sector a gynhelir. 

Nid yw Llywodraeth Cymru wedi nodi unrhyw ysgolion annibynnol sy'n cael rhyddhad elusennol ac sydd wedi’u trefnu’n arbennig i gynnig darpariaeth dysgu ychwanegol. Felly, nid yw wedi bod yn angenrheidiol i ystyried eithriad i’r cynnig i dynnu’n ôl ryddhad elusennol ar gyfer ysgolion o’r math hwn. Yn wahanol i Loegr a’r Alban, does dim diffiniad cyfreithiol o ‘ysgol arbennig annibynnol’ yn berthnasol i Gymru. Nid yw’n hysbys a fydd cyfansoddiad y sector ysgolion annibynnol yng Nghymru yn newid yn y dyfodol, na sut. Yn hytrach na cheisio creu eithriad damcaniaethol, a all fod yn berthnasol i unrhyw newidiadau yn y dyfodol neu beidio, byddai’n briodol ystyried sut i ymateb gyda’r holl wybodaeth sydd ar gael ar y pryd.

Nid yw'r mwyafrif o'r ysgolion annibynnol sydd wedi’u trefnu’n arbennig i gynnig darpariaeth dysgu ychwanegol yn elusennau. Golyga hyn y byddant yn gyffredinol yn atebol eisoes i dalu ardrethi annomestig ac nad ydynt yn derbyn rhyddhad elusennol. Mae'r system ardrethi annomestig hefyd yn cynnwys eithriad llawn ar gyfer eiddo, neu rannau o eiddo i’r graddau ei fod yn eiddo a ddefnyddir yn gyfan gwbl ar gyfer darparu cyfleusterau ar gyfer hyfforddiant, neu ar gyfer personau anabl neu bersonau sydd yn dioddef salwch, neu wedi bod yn dioddef salwch. Yn hynny o beth, mae'n bosibl y bydd rhai ysgolion annibynnol â darpariaeth arbenigol iawn o’r math hwn wedi'u heithrio'n llwyr rhag ardrethi annomestig (ac na fydd newid y rhyddhad elusennol yn effeithio arnynt). 

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwneud rheoliadau i dynnu rhyddhad elusennol ar gyfer ysgolion annibynnol yn ôl yng Nghymru o 1 Ebrill 2025 ymlaen. Rydym yn bwriadu diffinio ysgol annibynnol yn unol â'r diffiniad presennol yn adran 463 o Ddeddf Addysg 1996. I grynhoi, ystyr ysgol annibynnol yw unrhyw ysgol lle caiff addysg amser llawn ei darparu i ddisgyblion o oedran ysgol gorfodol ac nad yw'n cael ei chynnal gan awdurdod lleol. Mae’r diffiniad llawn fel y mae’n berthnasol i Gymru fel a ganlyn:

(1) In this Act “independent school” means any school at which full-time education is provided for:

(a) five or more pupils of compulsory school age
(b) at least one pupil of that age for whom an EHC plan is maintained or for whom a statement or an individual development plan is maintained, or who is looked after by a local authority (within the meaning of section 74 of the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014), and which is not a school maintained by a local authority

(2) For the purposes of subsection (1)(a) and (b) it is immaterial if full-time education is also provided at the school for pupils under or over compulsory school age.

Effeithiau

Wrth ddatblygu'r cynnig hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi arfarnu'r effeithiau posibl drwy gynnal Asesiad Effaith Integredig. Mae crynodeb o'r Asesiad Effaith Integredig ac Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant ar wahân wedi'u cyhoeddi ochr yn ochr â'r ymgynghoriad hwn. 

Prif effaith y cynnig hwn fydd cynnydd mewn atebolrwydd i dalu ardrethi annomestig ar gyfer yr ysgolion annibynnol yr effeithir arnynt, gyda’r bwriad o’u cysoni ag ysgolion annibynnol eraill (nad oes ganddynt statws elusennol). Bydd y cynnydd o ran yr atebolrwydd yn amrywio a byddai pob ysgol yn gallu dewis sut i addasu ei model busnes i ymateb i'r gost honno, fel y mae ysgolion annibynnol eraill eisoes yn ei wneud. Nid yw Llywodraeth Cymru yn rhagweld ei bod hi'n debygol iawn y bydd effaith sylweddol ar ffioedd cyfartalog, gan nad yw'r goblygiadau ariannol yn sylweddol. 

Cyfanswm gwerth y rhyddhad elusennol a ddarperir i ysgolion annibynnol yw tua £1.3 miliwn, gyda rhyddhad cyfartalog o ryw £75,000 fesul ysgol. At ddibenion enghreifftiol, mae hyn yn cyfateb yn fras i'r incwm cyfartalog o ffioedd saith disgybl dibreswyl (yn seiliedig ar lefelau’r ffioedd a hysbysebir ar wefannau’r ysgolion yr effeithir arnynt).Ceir, fodd bynnag, amrywiadau sylweddol o ran maint a ffioedd pob ysgol. Yn seiliedig ar gyfanswm niferoedd y disgyblion a'r ffi gyfartalog ar gyfer disgyblion dibreswyl, amcangyfrifir y bydd yr atebolrwydd ychwanegol yn cyfateb i lai na 2% o'r incwm ffioedd cyffredinol. 

Nododd rhai o'r ymatebwyr i'r ymgynghoriad a gynhaliwyd yn 2020 y byddai risg y byddai disgyblion yn symud i'r sector cyhoeddus, pe byddai cynnydd mewn ffioedd yn arwain at benderfyniadau gan rieni i symud eu plant allan o ysgolion annibynnol. Dros y ddau ddegawd diwethaf, mae ysgolion annibynnol yn gyffredinol wedi cynyddu eu ffioedd flwyddyn ar ôl blwyddyn ar lefel uwchlaw chwyddiant (Cyfrifiad Cyngor Ysgolion Annibynnol 2023), heb i gwymp yn niferoedd y disgyblion gael effaith andwyol ar eu hyfywedd. Mae  ysgolion hefyd yn debygol o ddod o hyd i ffyrdd o amsugno'r cynnydd yn eu hatebolrwydd yn llawn neu'n rhannol (e.e. lleihau arian dros ben, arian wrth gefn neu wariant nad yw’n hanfodol), yn hytrach na chynyddu ffioedd. Yn hynny o beth, nid ystyrir bod effeithiau anuniongyrchol y gellir eu nodi ar ddisgyblion, o ganlyniad i'r cynnig, yn debygol o ddigwydd. 

Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y potensial y gallai fod cynnydd bach yn y costau i rai rhieni. O ganlyniad, mae'n bosibl y bydd nifer bach o ddisgyblion yn symud i ysgolion a gynhelir. Yn hynny o beth, ni fydd yn bosibl datgysylltu effaith y cynnig hwn oddi wrth effaith cynlluniau Llywodraeth y DU mewn perthynas â TAW (sy’n cynrychioli effaith ariannol uwch). Mae nifer y disgyblion a fydd o bosibl yn symud ysgolion, o ganlyniad i newidiadau arfaethedig i eithriadau i dalu trethi, wedi’i amcangyfrif gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid i fod yn 3% i 7% dros y tymor canolig i’r tymor hir. Mae hyn yn cynrychioli cyfran fach iawn (llai na 0.1%) o nifer cyffredinol y disgyblion mewn ysgolion a gynhelir. 

Mae gan bob plentyn o oedran ysgol gorfodol hawl i le mewn ysgol a ariennir gan y wladwriaeth. Felly, mae Llywodraeth Cymru yn hyderus y bydd y sector a gynhelir yn gallu darparu ar gyfer unrhyw ddisgyblion ychwanegol. Cydnabyddir y gall symud ysgolion fod yn heriol. Mae gan awdurdodau lleol ac ysgolion eisoes brosesau ar waith i gefnogi disgyblion sy'n symud ysgol am unrhyw reswm. 

Y camau nesaf

Yn amodol ar ystyried y safbwyntiau a gyflwynir mewn ymateb i'r ymarfer ymgynghori hwn, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu i'r rheoliadau sydd eu hangen i weithredu'r cynnig gael eu cyflwyno ar ddechrau'r flwyddyn newydd ac y byddant yn dod i rym ar 1 Ebrill 2025. 

Cwestiynau’r ymgynghoriad

Cwestiwn 1 

Beth yw eich barn ar y cynnig i ddiddymu rhyddhad ardrethi annomestig elusennol ar gyfer ysgolion preifat yng Nghymru? 

Cwestiwn 2

Ydy'r diffiniad arfaethedig o ysgol annibynnol yn cyflawni nod y cynnig? 

Cwestiwn 3

Beth yw eich barn ar effeithiau posibl y cynnig? 

Cwestiwn 4

Ydych chi'n ymwybodol o unrhyw ysgolion arbennig annibynnol sydd wedi’u trefnu’n arbennig i wneud darpariaeth dysgu ychwanegol sydd hefyd yn elusennau y gallai'r cynnig effeithio arnynt? Os felly, rhowch fanylion.

Cwestiwn 5

Hoffai Llywodraeth Cymru wybod eich barn ar yr effeithiau y byddai'r cynigion hyn yn eu cael ar yr iaith Gymraeg, yn benodol ar y canlynol: 

  1. cyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg
  2. peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg

Beth fyddai'r effeithiau, yn eich barn chi?  Sut y gellid cynyddu'r effeithiau cadarnhaol neu liniaru’r effeithiau negyddol?

Cwestiwn 6

Eglurwch hefyd sut y gellid llunio neu newid y cynigion, yn eich barn chi er mwyn sicrhau: 

  1. eu bod yn cael effeithiau cadarnhaol neu fwy o effeithiau cadarnhaol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg
  2. nad ydynt yn cael effeithiau niweidiol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg neu ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg

Sut i ymateb

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 16 Rhagfyr 2024, drwy unrhyw un o'r ffyrdd a ganlyn:

Cangen Polisi Ardrethi Annomestig 
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays 
Caerdydd
CF10 3NQ

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu
  • (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Mae ymatebion i ymgynghoriadau yn debygol o gael eu cyhoeddi’n gyhoeddus, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os hoffech i’ch ymateb aros yn ddienw, dywedwch wrthym ni

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data

Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: data.protectionofficer@llyw.cymru

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn : 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: ico.org.uk

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a roddir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Ni fydd unrhyw waith o'r fath yn cael ei wneud oni bai ei fod yn cael ei wneud o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel. Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi cael ei gynnal mewn modd priodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio eich manylion.

Dylech hefyd wybod am ein dyletswyddau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth. Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, bydd yr adroddiadau hyn yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Gwybodaeth bellach a dogfennau cysylltiedig

Rhif: WG50564

Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd amgen. Os ydych am gael y ddogfen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.