Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae’r Senedd wedi deddfu i ganiatáu i awdurdodau lleol yng Nghymru ddewis eu system etholiadol, rhwng y system cyntaf i’r felin neu’r system pleidlais sengl drosglwyddadwy. Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar Reolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy) (Cymru) 2023 (y Rheolau Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy drafft), sy’n amlinellu sut y byddai etholiad sy’n defnyddio’r system pleidlais sengl drosglwyddadwy yn gweithredu.

Ar hyn o bryd, defnyddir y system cyntaf i’r felin gyfer etholiadau prif gynghorau ym mhob un o’r 22 ardal awdurdod lleol yng Nghymru. Mewn pleidlais sy’n defnyddio’r system cyntaf i’r felin, os bydd un cynrychiolydd yn cael ei ethol ar gyfer rhanbarth, bydd pleidleiswyr yn rhoi marc ar y papur pleidleisio (X fel arfer) wrth ymyl enw’r ymgeisydd y maent yn dymuno pleidleisio drosto/drosti. Etholir ymgeisydd os bydd yn cael un neu ragor o bleidleisiau’n fwy na’r ymgeiswyr eraill. Mewn dosbarth aml-aelod, lle mae mwy nag un ymgeisydd yn cael eu hethol, mae pleidleiswyr yn gosod nod wrth ymyl enwau faint bynnag o ymgeiswyr sydd i’w hethol ac mae’r nifer priodol sy’n derbyn y nifer mwyaf o bleidleisiau yn cael eu hethol.

Mewn systemau pleidlais sengl drosglwyddadwy, mae mwy nag un cynrychiolydd yn cael ei ethol ym mhob ardal ac mae pleidleiswyr yn gosod ymgeiswyr yn nhrefn eu dewis. Bydd pleidleiswyr yn rhoi “1” wrth ymyl enw’r ymgeisydd maent yn ei ffafrio, “2” wrth ymyl eu hail ddewis ac yn y blaen. Gallant wneud cynifer neu gyn lleied o ddewisiadau ag y dymunant.

Yn aml, mae pleidlais sengl drosglwyddadwy yn cael ei hystyried yn system fwy cyfrannol na’r system cyntaf i’r felin, sy’n golygu bod canlyniad yr etholiad yn adlewyrchu’r pleidleisiau a fwriwyd yn fwy cywir. Gall pleidleiswyr roi’r ymgeiswyr yn eu trefn, gan roi mwy o ddewis iddynt, a gallant ddewis o fewn pleidiau a rhwng pleidiau. Gan fod nifer o unigolion yn cynrychioli pleidleiswyr mewn unrhyw ddosbarth neu ardal, mae rhai’n dadlau weithiau bod ganddynt ddewis ehangach o ran pwy y gallant siarad â nhw am eu problemau.

Mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (“Deddf 2021”) yn galluogi’r prif gynghorau i ddewis cynnal etholiadau yn y dyfodol gan ddefnyddio’r system pleidlais sengl drosglwyddadwy. Daeth y darpariaethau hyn i rym ar 6 Mai 2022. Bydd prif gynghorau’n parhau i ddefnyddio’r system cyntaf i’r felin oni bai eu bod yn penderfynu newid yn unol â’r weithdrefn a nodir yn adrannau 8 a 9 o Ddeddf 2021. Yna, byddai’n rhaid i’r cyngor basio penderfyniad cyn 15 Tachwedd yn y flwyddyn dair blynedd cyn y bydd yr etholiad cyffredin nesaf yn cael ei gynnal. I newid y system ar gyfer yr etholiadau llywodraeth leol nesaf yn 2027, byddai’n rhaid pasio penderfyniad cyn 15 Tachwedd 2024.

Rhaid i brif gynghorau ymgynghori’n lleol cyn arfer eu pŵer i newid y system bleidleisio, ac os byddant yn newid, rhaid iddynt ddefnyddio’r system newydd ar gyfer y ddwy rownd nesaf o etholiadau cyffredin. Ar ôl hyn, gallent benderfynu a ydynt am barhau ȃ’r system neu ddychwelyd i’r system bleidleisio flaenorol.

Os yw prif gyngor yn arfer ei bŵer i newid y system bleidleisio, rhaid iddo hefyd roi gwybod i Weinidogion Cymru a'r Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol am y newid. Ar ôl cael hysbysiad, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru i gynnal adolygiad cychwynnol o ardal y cyngor. Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Comisiwn cyn rhoi cyfarwyddyd o’r fath, a chyda phersonau sy’n cynrychioli’r prif gynghorau fel y mae Gweinidogion Cymru yn ei ystyried yn briodol.

Mae darpariaethau ar gyfer adolygiadau cychwynnol fel sydd wedi’u hamlinellu uchod wedi’u nodi yn Atodlen 1 o Ddeddf 2021. Os bydd Cyngor yn mabwysiadu’r system bleidlais sengl drosglwyddadwy, mae’r darpariaethau yn ei gwneud yn ofynnol na fydd nifer y cynghorwyr ar gyfer pob ward etholiadol yn llai na thri, ond nid yn fwy na chwech.

Mae Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru) 2021 (“Rheolau 2021”) yn nodi sut mae’n rhaid cynnal etholiadau i brif gynghorau lle mae’r system cyntaf i’r felin (neu’r system mwyafrif syml) yn cael ei defnyddio yn unig. Nid ydynt yn darparu ar gyfer cynnal etholiadau lle mae’r system pleidlais sengl drosglwyddadwy’n cael ei defnyddio. Cafodd y Rheolau Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy drafft eu llunio i fynd i’r afael â hyn.

Bydd Rheolau 2021 yn parhau i wneud darpariaeth ynghylch y cyntaf i’r felin ar gyfer cynnal etholiadau mewn ardaloedd nad ydynt wedi penderfynu defnyddio’r system pleidlais sengl drosglwyddadwy. Bydd y Rheolau Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy drafft yn diwygio Rheolau 2021 fel eu bod yn caniatáu cynnal etholiadau lle mae’r system pleidlais sengl drosglwyddadwy yn cael ei defnyddio.

Mae’r Rheolau Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy drafft wedi cael eu llywio gan ymchwil arbenigwyr ym Mhrifysgolion Prydain a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru drwy Wasanaeth Ymchwil y Llywodraeth. Nod sylfaenol yr ymchwil oedd deall rhinweddau cymharol yr opsiynau ar gyfer dylunio a defnyddio system pleidlais sengl drosglwyddadwy yng Nghymru, gyda gwersi a ddysgwyd wrth ei roi ar waith mewn gwledydd ac awdurdodaethau eraill. Mae’r Rheolau Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy drafft a luniwyd yn dilyn argymhellion yr ymchwil hwn. Rydym wedi cyfeirio at yr ymchwil hwn drwy gydol y papur ymgynghori.

Mae’r Rheolau Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy drafft, fel y maent wedi’u drafftio ar hyn o bryd, yn debyg iawn i’r rheolau etholiadau sydd mewn grym ar hyn o bryd yng Ngogledd Iwerddon, lle mae pleidlais sengl drosglwyddadwy wedi cael ei defnyddio ar gyfer etholiadau lleol ers blynyddoedd lawer. Rydym wedi trafod yn helaeth â chydweithwyr yng Ngogledd Iwerddon wrth ddatblygu’r Rheolau Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy drafft.

Wrth ddrafftio’r Rheolau Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy, un ystyriaeth benodol oedd a ddylent gynnwys darpariaeth ynghylch cyfrif electronig yn ogystal â chyfrif â llaw. Ar ôl trafod â chydweithwyr yn yr Alban, ac ystyried yr amser a’r gost arweiniol sy’n gysylltiedig â chaffael a rhaglennu system gyfrif electronig, penderfynwyd cynnwys cyfrif â llaw yn unig ar hyn o bryd. Mae’r ymgynghoriad yn ceisio barn ar y mater hwn. Mae’r rheolau’n berthnasol i’r agweddau hynny ar etholiad pleidlais sengl drosglwyddadwy sy’n wahanol i etholiad sy’n defnyddio system cyntaf i’r felin, ac felly ar y materion hyn y mae cwestiynau eraill yr ymgynghoriad yn canolbwyntio.

Yn ogystal â’r mater o gyfrif yn electronig, mae’r ymgynghoriad hwn yn canolbwyntio ar y meysydd canlynol:

  • Papurau pleidleisio: cynllun y papur pleidleisio a sut y gallai hyn effeithio ar y ffordd y mae pobl yn pleidleisio mewn pleidlais drwy ddefnyddio pleidlais sengl drosglwyddadwy
  • Newidiadau i ffurfiau rhagnodedig sy’n rhoi cyfarwyddiadau i’r pleidleiswyr ynghylch sut i bleidleisio: a yw’r cyfarwyddiadau hyn yn ddigon clir
  • Cwota: y dull i’w ddefnyddio wrth gyfrifo’r cwota
  • Trosglwyddo pleidleisiau dros ben: sut mae dewisiadau pleidleiswyr yn cael eu trosglwyddo unwaith y bydd ymgeisydd sydd â’r nifer lleiaf o bleidleisiau wedi cael ei eithrio neu wedi cyrraedd y cwota ac wedi cael ei ethol
  • Eithrio ymgeiswyr: y rheolau a fydd yn berthnasol pan fydd ymgeisydd sydd â’r nifer isaf o bleidleisiau’n cael ei eithrio
  • Papurau pleidleisio na ellir eu trosglwyddo: pan ystyrir nad oes modd trosglwyddo’r papurau pleidleisio 
  • Y swyddi gwag olaf: y ddarpariaeth ar gyfer llenwi’r swyddi gwag olaf
  • Ailgyfrif: y ddarpariaeth a wneir er mwyn i ymgeiswyr neu asiantiaid etholiadol wneud cais am ailgyfrif pleidleisiau

Cyfrif â llaw a chyfrif electronig

Mae’r Rheolau Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy drafft yn cynnwys darpariaethau ar gyfer cyfrif â llaw yn unig. Rydym yn ymwybodol y gall cyfrif Pleidleisiau Sengl Trosglwyddadwy â llaw fod yn broses hir ac mae’r profiad mewn rhannau o’r DU lle mae pleidlais sengl drosglwyddadwy yn cael ei defnyddio yn dangos nad yw’n anarferol i gyfrif bara dau ddiwrnod. Mae hyn yn golygu y bydd angen i leoliadau cyfrif fod ar gael am o leiaf ddau ddiwrnod o’r adeg yr agorir y blychau pleidleisio, gyda mesurau lliniaru ar waith am gyfnod hirach. Bydd lefelau staffio priodol hefyd yn allweddol, yn enwedig ar gyfer y dilysu ac ar gyfer cam cyntaf y cyfrif.

Mae angen symud niferoedd mawr o bapurau pleidleisio yn rheolaidd wrth gyfrif Pleidleisiau Sengl Trosglwyddadwy ac mae’n bwysig sicrhau bod modd gwneud hyn mewn ffordd ddiogel a thryloyw. Efallai y bydd angen gofodau mawr ar gyfer storio pleidleisiau dewis cyntaf a phleidleisiau trosglwyddadwy ar gyfer pob ymgeisydd. Fodd bynnag, mae’r ymchwil a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru wedi tynnu sylw at y ffaith y gallai cost cyfrif electronig fod yn uchel ac felly rydym yn ystyried mai cyfrif â llaw yw’r unig opsiwn ymarferol. Petai nifer fawr o awdurdodau lleol yn symud i Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy ac wedyn yn mynd ati i fabwysiadu cyfrif electronig, mae’n bosibl y byddai arbedion maint ond, byddai cost cyflwyno trefn gyfrif electronig yn afresymol o uchel os mai dim ond ychydig o gynghorau fyddai’n dewis pleidlais sengl drosglwyddadwy ar y cychwyn. Mae’r profiad o gaffael systemau cyfrif electronig mewn awdurdodaethau eraill yn awgrymu y byddai’r cymhlethdod o ran caffael systemau cyfrif electronig yn golygu ei bod eisoes yn her i gyflwyno’r drefn mewn pryd ar gyfer etholiadau lleol 2027.

Ystyriaeth arall yw ymdrin ag etholiadau cyffredin y cynghorau cymuned sy'n digwydd ar yr un pryd ac yn cael eu “cyfuno” bron yn ddieithriad gydag etholiadau cyffredin y prif gynghorau. Cyfunir y ddwy set o etholiadau cyffredin oherwydd yr arbedion sylweddol i gynghorau cymuned ac i hwyluso pethau i bleidleiswyr. Nid yw’r opsiwn pleidlais sengl drosglwyddadwy yn Neddf 2021 yn berthnasol i gynghorau cymuned, a bydd eu hetholiadau’n parhau i ddefnyddio’r system cyntaf i’r felin. Petai cyngor yn dewis system pleidlais sengl drosglwyddadwy gan ddefnyddio trefn gyfrif electronig, byddai hyn yn golygu gweithredu trefn o gyfrif â llaw a chyfrif electronig ar yr un pryd ar gyfer etholiadau cynghorau cymuned a’r prif gynghorau, a gallai hynny (efallai) ei gwneud yn fwy cymhleth i weinyddu’r etholiadau cyfun hyn.

Felly, safbwynt Llywodraeth Cymru yw y dylid mabwysiadu trefn o gyfrif â llaw wrth ddewis pleidlais sengl drosglwyddadwy ar hyn o bryd. Fodd bynnag, byddwn yn ystyried cynnwys trefn gyfrif electronig yn y dyfodol ac rydym yn gofyn am farn rhanddeiliaid ar y mater hwn fel rhan o’r ymgynghoriad.

Papurau pleidleisio

Roedd yr ymchwil a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yn cyfeirio at ganfyddiadau ymchwil academaidd arall a oedd yn awgrymu bod gogwydd penodol ymhlith pleidleisiwr tuag at ymgeiswyr ar frig y papur pleidleisio, yn enwedig pan oeddent yn wynebu dewisiadau lluosog ymysg ymgeiswyr nad oeddent yn gyfarwydd â nhw. Roedd y gogwydd yn amlwg yn y rhan fwyaf o etholiadau, ond yn fwy felly mewn systemau lle nodir dewis fel pleidlais sengl drosglwyddadwy, lle’r oedd pleidleiswyr, ar ôl nodi eu dewis cyntaf, weithiau’n chwilio drwy’r opsiynau am eu dewisiadau dilynol.

Casgliad yr ymchwilwyr oedd y dylid dylunio papurau pleidleisio mewn ffordd nad yw’n arwain at unrhyw fantais etholiadol ormodol i blaid neu ymgeisydd penodol dros un arall. Roeddent yn ystyried tri opsiwn gwahanol sylweddol i’r dull presennol a ddefnyddir ar draws etholiadau’r DU i restru ymgeiswyr yn nhrefn yr wyddor yn ôl cyfenw: trefnu ymgeiswyr yn nhrefn yr wyddor o fewn clystyrau pleidiau; caniatáu i bleidiau roi’r ymgeiswyr yn eu trefn o fewn clwstwr eu plaid; trefnu’r ymgeiswyr ar hap. Roedd yr ymchwil yn argymell y ddau opsiwn cyntaf, ond nid trefnu’r ymgeiswyr ar hap, gan ei fod yn creu heriau ychwanegol o ran hygyrchedd ac y byddai angen cyfrif yn electronig i wneud hyn.

Rydym yn nodi argymhellion yr ymchwilwyr ac yn cydnabod y dystiolaeth y maent yn ei dyfynnu. Fodd bynnag, rydym o’r farn nad yw’n fater neilltuol i bapurau Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy; mae’r un ystyriaethau’n berthnasol mewn unrhyw etholiadau lle mae pleidiau’n gallu cael mwy nag un ymgeisydd, gan gynnwys wardiau cyntaf i’r felin aml-aelod. Nid ydym wedi’n hargyhoeddi mai trefnu ymgeiswyr o fewn clystyrau pleidiau, gyda’r clystyrau wedi’u trefnu yn nhrefn yr wyddor ar y papur pleidleisio, yw’r ateb o reidrwydd. Defnyddir y drefn hon ym Malta, ac i bob pwrpas mae’n golygu bod y pleidiau eu hunain yn ymddangos yn yr un drefn ar bob papur pleidleisio, gyda phob ymgeisydd annibynnol, sy’n cynrychioli cyfran fawr o ymgeiswyr mewn etholiadau lleol yng Nghymru, yn dilyn ar y gwaelod. Rydym yn credu y byddai’n ddefnyddiol gwneud mwy o waith ar y mater hwn, ond rydym yn credu y gallai fod angen aros am ddyfodiad cyfrif electronig cyn cael ateb pendant

Nid yw’r Rheolau Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy drafft yn cynnwys darpariaeth i newid y gofynion presennol bod ymgeiswyr yn cael eu rhoi yn nhrefn yr wyddor yn ôl cyfenw; felly, byddai’r ffordd y caiff ymgeiswyr eu trefnu yn gyson rhwng etholiadau a gynhelir o dan y system cyntaf i’r felin a’r system pleidlais sengl drosglwyddadwy. Fodd bynnag, bydd Llywodraeth Cymru yn ymchwilio ymhellach i’r mater hwn os cyflwynir trefn gyfrif electronig.

Newidiadau i ffurfiau rhagnodedig sy’n rhoi cyfarwyddiadau i’r pleidleiswyr ynghylch sut i bleidleisio

Ar hyn o bryd mae Rhan 3 o Reolau 2021 yn cyfeirio at nifer o ffurfiau rhagnodedig, gan gynnwys y papur pleidleisio a’r papur pleidleisio drwy’r post. Ni fyddai’r rhain yn addas ar gyfer etholiadau gan ddefnyddio’r system pleidlais sengl drosglwyddadwy gan eu bod yn cynnwys cyfarwyddiadau i bleidleiswyr roi croes [X] wrth ymyl enw’r ymgeisydd maent yn pleidleisio drosto (neu bob un o’r ymgeiswyr maent yn pleidleisio drostynt os oes mwy nag un cynghorydd i’w ethol).

Mae’r Rheolau Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy drafft yn darparu ar gyfer defnyddio ffurfiau gwahanol mewn etholiadau lle defnyddir y system pleidlais sengl drosglwyddadwy. Maent hefyd yn gwneud darpariaeth amgen ar gyfer cynnwys hysbysiadau y tu mewn i bob blwch pleidleisio fel bod pleidleiswyr, yn hytrach na chael cyfarwyddyd i roi croes, yn cael gwybodaeth am sut i nodi eu dewis cyntaf, a’u hail a’u trydydd dewis ac ati). Dyma’r tro cyntaf i bleidleiswyr mewn awdurdodau lleol sy’n mabwysiadu’r system pleidlais sengl drosglwyddadwy ddefnyddio pleidleisio dros eu dewis fel hyn, ac rydym yn awyddus i’r canllawiau eu galluogi i fwrw eu pleidlais yn llwyddiannus.

Cwota

Ymarfer allweddol wrth gyfrif Pleidleisiau Sengl Trosglwyddadwy yw cyfrifo’r “cwota”, sef trothwy’r pleidleisiau sydd eu hangen ar ymgeisydd i gael ei ethol. Roedd yr ymchwil a gomisiynwyd gennym yn canolbwyntio ar ddefnyddio dau amrywiad cwota: “Cwota Hare” a “Cwota Droop,” lle mae pob un yn defnyddio nifer y papurau pleidleisio dilys sy’n cael eu bwrw a nifer y seddi sydd ar gael i’w llenwi i gyfrifo’r cwota, a ddangosir isod.

Image
Wrth ddefnyddio cwota Droop, cyfrifir nifer y pleidleisiau sydd eu hangen i ennill sedd drwy rannu nifer y papurau pleidleisio dilys â nifer y seddi gan ychwanegu un. Yna ychwanegir un at y canlyniad.

 

Image
Wrth ddefnyddio cwota Hare, cyfrifir nifer y pleidleisiau sydd eu hangen i ennill sedd drwy rannu nifer y papurau pleidleisio dilys â nifer y seddi.

Mae cwota Droop yn cynhyrchu trothwy is i ymgeiswyr ei gyrraedd o’i gymharu â Chwota Hare. Mae cwota Droop yn cael ei ddefnyddio bellach yn y rhan fwyaf o systemau etholiadol pleidlais sengl drosglwyddadwy, ac mae wedi disodli cwota Hare yn gyffredinol. Y rheswm pennaf am hyn yw mai anfantais cwota Hare yw bod o leiaf rhai aelodau mewn wardiau mwy yn cael eu hethol fel arfer heb gyflawni’r cwota, ac mae hyn yn gallu drysu pleidleiswyr. Mae’r trothwy is gyda Droop yn golygu bod hyn yn digwydd yn llawer llai aml.

Defnyddir cwota Droop ar gyfer pob etholiad pleidlais sengl drosglwyddadwy yng Ngogledd Iwerddon ac ar gyfer etholiadau’r prif gynghorau yn yr Alban. Canfu efelychiadau a wnaed gan y tîm ymchwil bod bron iawn dim gwahaniaeth o bwys mewn canlyniadau etholiadol pan ddefnyddir y naill gwota na’r llall. Gan ei fod yn cael ei ddefnyddio’n barod mewn etholiadau yn y DU a chan nodi’r mater ynghylch y trothwyon, argymhellodd y tîm ymchwil y dylid mabwysiadu cwota Droop.

Mae’r Rheolau Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy drafft yn darparu ar gyfer defnyddio cwota Droop pryd bynnag y cynhelir etholiadau’r prif gynghorau gan ddefnyddio’r system pleidlais sengl drosglwyddadwy yng Nghymru. Mae Rheolau 60H a 64L yn nodi sut y cyfrifir y cwota.

Trosglwyddo pleidleisiau dros ben

Gan fod y broses pleidlais sengl drosglwyddadwy yn gwahodd pleidleiswyr i fynegi eu dewisiadau yn eu trefn, gellir trosglwyddo pleidleisiau i’w dewis nesaf o ymgeisydd er enghraifft os yw ymgeisydd yn cael ei eithrio neu os oes gan yr ymgeisydd fwy o bleidleisiau na’r hyn oedd ei angen ar gyfer y cwota. Mae’r dull trosglwyddo’n cyfeirio at y ffordd y trosglwyddir dewisiadau’r pleidleiswyr. Yn achos ymgeisydd sydd wedi cyrraedd y cwota, mae’r trosglwyddiad yn seiliedig ar nifer y pleidleisiau a gafodd yr ymgeisydd uwchlaw’r nifer sydd ei angen i gyflawni’r cwota (h.y. eu “pleidleisiau dros ben”).

Bu’r ymchwilwyr a oedd yn gwneud yr ymchwil a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yn archwilio’r defnydd o bedair system drosglwyddo: dull trosglwyddo ar hap sy’n cael ei ddefnyddio yng Ngweriniaeth Iwerddon, y Dull Gregory Cynhwysol a ddefnyddir mewn sawl etholiad yn Awstralia, y Dull Gregory Syml a ddefnyddir yng Ngogledd Iwerddon, a’r Dull Gregory Cynhwysol wedi’i Bwysoli, a ddefnyddir mewn etholiadau lleol yn yr Alban.

Ar ôl gwrthod dwy o’r systemau trosglwyddo (y dull trosglwyddo ar hap a’r Dull Gregory Cynhwysol), argymhellodd yr ymchwilwyr fod y ddau ddull arall yn addas i’w defnyddio mewn etholiadau lleol yng Nghymru, yn dibynnu ar yr amgylchiadau:

  1. Dywedodd yr ymchwilwyr fod y rhai a gyfwelwyd a’r llenyddiaeth bresennol yn nodi mai’r Dull Gregory Cynhwysol wedi'i Bwysoli yw’r dull gorau. Yma, mae pob dewis o bleidleisiau dros ben ymgeisydd etholedig yn cael eu trosglwyddo, ond ar ffracsiwn o’u gwerth gwreiddiol. Mae’r dewisiadau hefyd yn cael eu pwysoli i atal y papurau pleidleisio rhag cynyddu mewn gwerth wrth i’r cyfrif fynd yn ei flaen. Ystyrir ei fod yn cynhyrchu’r canlyniadau etholiadol ‘tecaf’. Fodd bynnag, mae angen gwneud cyfrifiadau cymhleth (yn yr Alban maent yn mynd i 5 lle degol) sy’n golygu ei fod yn gwbl ddibynnol ar ddefnyddio cyfrif gyda chymorth cyfrifiadur. Yn sicr, nid yw’n addas ar gyfer cyfrif â llaw.
  2. Dywedodd yr ymchwilwyr fod y rhai a gyfwelwyd yn argymell y Dull Gregory Syml fel dewis arall yn lle’r Dull Gregory Cynhwysol wedi'i Bwysoli pe bai trefn o gyfrif â llaw yn cael ei mabwysiadu. Mae’r dull hwn yn trosglwyddo’r papurau pleidleisio a dderbyniwyd yn fwyaf diweddar ar bentwr ymgeisydd etholedig, ond ar ffracsiwn o’u gwerth gwreiddiol. Gwneir y cyfrifiadau i ddau le degol felly maent yn haws ymdopi â nhw wrth gyfrif â llaw. Mewn efelychiadau a wnaed gan yr ymchwilwyr, roedd yn creu llai o anghysonderau na’r dull trosglwyddo ar Hap a’r Dull Gregory Cynhwysol, ond mwy ohonynt na’r dull Gregory Cynhwysol wedi'i Bwysoli.

Hoff ddewis yr ymchwilwyr a’u prif argymhelliad oedd mabwysiadu’r Dull Gregory Cynhwysol wedi’i Bwysoli (h.y., fel yn yr Alban). Fodd bynnag, roeddent yn cydnabod y byddai’r angen am gyfrif electronig yn ei wneud yn opsiwn costus, yn enwedig os mai dim ond un neu ddau o gynghorau fyddai’n mabwysiadu pleidlais sengl drosglwyddadwy. Yn unol â hynny, gwnaethant ail argymhelliad, sef y dylid defnyddio Dull Gregory Syml (h.y., fel yng Ngogledd Iwerddon) os nad yw cyfrif electronig yn cael ei fabwysiadu a bod yn rhaid i gyngor ddibynnu ar gyfrif â llaw.

Fel y nodwyd yn flaenorol, nid yw’r Rheolau Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy drafft yn darparu ar gyfer cyfrif electronig a defnyddiwyd Dull Syml Gregory felly. Mae darpariaeth yn Rheolau 60J a 64N y Rheolau Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy drafft ar gyfer trosglwyddo pleidleisiau lle mae mwy o bleidleisiau dewis cyntaf na'r cwota. Edrychir ar bapurau pleidleisio’r ymgeisydd llwyddiannus i weld a yw’r pleidleisiwr wedi mynegi “dewis nesaf sydd ar gael” ar gyfer ymgeisydd sy’n dal yn y ras (hynny yw, sydd heb gael ei drin fel un sydd wedi’i ethol na’i eithrio). Caiff papurau pleidleisio sy’n mynegi’r dewis nesaf sydd ar gael eu trosglwyddo i’r ymgeisydd y rhoddir ffafriaeth iddo. Mae gwerth i bob pleidlais ar bob papur pleidleisio a drosglwyddir sy’n cael ei gyfrifo drwy gymryd pleidleisiau dros ben yr ymgeisydd a’i rannu â chyfanswm y papurau pleidleisio sy’n cael eu trosglwyddo.

Mae Rheolau 60K a 64O y Rheolau Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy drafft yn cynnwys darpariaeth ar gyfer trosglwyddo pleidleisiau dros ben mewn amgylchiadau eraill megis pan fydd gan ymgeisydd bleidleisiau dros ben ar ôl trosglwyddo pleidleisiau dewis cyntaf. Yn yr achos hwn, dim ond y papurau pleidleisio a drosglwyddwyd ddiwethaf i’r ymgeisydd llwyddiannus sy’n cael eu harchwilio i weld a yw’r pleidleisiwr wedi mynegi’r dewis nesaf sydd ar gael. Caiff papurau pleidleisio sy’n mynegi’r dewis nesaf sydd ar gael eu trosglwyddo i’r ymgeisydd y rhoddwyd y dewis o’i ran. Mae gan y bleidlais ar bob papur pleidleisio a drosglwyddir werth sy’n cael ei gyfrifo drwy rannu pleidleisiau dros ben yr ymgeisydd â chyfanswm y papurau pleidleisio sy’n cael eu trosglwyddo.

Yna, ceir cam ychwanegol i sicrhau nad yw’r gwerth yn fwy na gwerth y bleidlais ar y papur pleidleisio pan gafodd ei rhoi i’r ymgeisydd y mae’n cael ei throsglwyddo oddi wrtho nawr. Os yw'r rhif yn llai na, neu’r un fath ȃ, gwerth y bleidlais ar y papur pleidleisio pan gafwyd hi gan yr ymgeisydd hwnnw, y rhif hwnnw yw'r gwerth trosglwyddo. Os yw’r rhif yn fwy na gwerth y bleidlais ar y papur pleidleisio pan gafwyd hi gan yr ymgeisydd hwnnw, gwerth y bleidlais pan gafodd yr ymgeisydd hwnnw hi yw’r gwerth trosglwyddo.

Rhaid i’r swyddog canlyniadau barhau i drosglwyddo pleidleisiau hyd nes y bydd gan unrhyw ymgeisydd yr ystyrir ei fod wedi cael ei ethol bleidleisiau dros ben, neu hyd nes y bydd yr holl swyddi gwag wedi’u llenwi.

Os oes gan ddau neu fwy o ymgeiswyr bleidleisiau dros ben ar unrhyw adeg yn y cyfrif, rhaid trosglwyddo papurau trosglwyddadwy’r ymgeisydd sydd â’r nifer mwyaf o bleidleisiau dros ben yn gyntaf. Os oes gan ddau neu fwy o ymgeiswyr nifer cyfartal o bleidleisiau dros ben, rhaid mynd ati’n gyntaf i drosglwyddo papurau trosglwyddadwy’r ymgeisydd a gafodd y nifer uchaf o bleidleisiau yn y cam cynharaf o’r cyfrif lle’r oeddent wedi cael pleidleisiau anghyfartal.

Os oedd y pleidleisiau a gredydwyd i ddau neu fwy o ymgeiswyr yn gyfartal ar bob cam o'r cyfrif, rhaid i'r swyddog canlyniadau benderfynu rhwng yr ymgeiswyr hynny drwy fwrw coelbren.

Er mwyn osgoi trosglwyddiadau diangen, mae darpariaeth yn rheolau 60L a 64P na ddylid trosglwyddo papurau trosglwyddadwy os na fyddai trosglwyddo un set o bleidleisiau dros ben yn gwneud unrhyw wahaniaeth o bwys i ragolygon yr ymgeisydd sydd â’r nifer isaf o bleidleisiau. Mewn geiriau eraill, ni fydd papurau trosglwyddadwy yn cael eu trosglwyddo pan fo nifer y pleidleisiau dros ben yn llai na'r gwahaniaeth rhwng nifer y pleidleisiau a gredydir wedyn i'r ymgeisydd sydd â'r nifer isaf o bleidleisiau, a nifer y pleidleisiau a gredydir wedyn i'r ymgeisydd sydd nesaf uwchben yr ymgeisydd hwnnw. Ar y pwynt hwn, gellir eithrio’r ymgeisydd sydd â’r nifer isaf o bleidleisiau heb drosglwyddo pleidleisiau.

Eithrio ymgeiswyr

Os bydd swyddi gwag o hyd i’w llenwi ar ôl trosglwyddo unrhyw bleidleisiau dros ben, mae’r rheolau’n cynnwys darpariaeth i eithrio’r ymgeisydd sydd â’r nifer lleiaf o bleidleisiau. Yna caiff pleidleisiau’r ymgeisydd sydd wedi’i eithrio eu hailddosbarthu. Mae hyn yn digwydd fesul cam. Mae’r broses arfaethedig sy’n cael ei disgrifio isod yn cyd-fynd â’r rheini sy’n cael eu defnyddio mewn rhannau eraill o’r DU lle mae pleidlais sengl drosglwyddadwy’n cael ei defnyddio.

Mae’r cam cyntaf yn ymwneud â throsglwyddo pleidleisiau dewis cyntaf yr ymgeisydd a eithriwyd. Mae’r swyddog canlyniadau'n archwilio'r papurau pleidleisio y rhoddwyd y pleidleisiau hynny arnynt i weld a yw'r pleidleisiwr wedi mynegi'r dewis nesaf sydd ar gael. Caiff papurau pleidleisio sy’n mynegi’r dewis nesaf sydd ar gael eu trosglwyddo i’r ymgeisydd y rhoddwyd y dewis o’i ran, ar gyfradd drosglwyddo o 1.

Os bydd swyddi’n dal yn wag ar ôl hyn, bydd y swyddog canlyniadau wedyn yn didoli papurau pleidleisio eraill yr ymgeisydd a eithriwyd yn grwpiau yn ôl gwerth trosglwyddo’r pleidleisiau a dderbyniwyd gan yr ymgeisydd a eithriwyd. Gan ddechrau gyda’r grŵp â’r gwerth uchaf, bydd y swyddog canlyniadau’n archwilio’r papurau pleidleisio i weld a yw’r pleidleisiwr wedi mynegi’r dewis nesaf sydd ar gael. Bydd pob papur pleidleisio sy’n mynegi dewis nesaf sydd ar gael yn cael ei drosglwyddo i’r ymgeisydd sy’n cael eu dewis, ar sail gwerth y bleidlais ar y papur pan gafodd ei dderbyn gan yr ymgeisydd a eithriwyd.

Os oes gan fwy nag un ymgeisydd y nifer isaf o bleidleisiau, rhaid i'r swyddog canlyniadau eithrio pa un bynnag o'r ymgeiswyr oedd â’r nifer isaf o bleidleisiau ar y cam cynharaf o'r cyfrif lle cawsant nifer anghyfartal o bleidleisiau. Os cafodd yr ymgeiswyr dan sylw eu credydu â nifer cyfartal o bleidleisiau ar bob cam, rhaid i'r swyddog canlyniadau benderfynu rhwng yr ymgeiswyr drwy fwrw coelbren.

Papurau pleidleisio na ellir eu trosglwyddo

Mae Rheolau 60N a 64R y Rheolau Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy drafft yn nodi na fydd modd trosglwyddo papur pleidleisio ar y cam lle mae'r swyddog canlyniadau o'r farn y nodir ar y papur bod y dewis nesaf wedi'i roi i ddau neu ragor o ymgeiswyr, neu lle nad yw'r dewis nesaf yn dilyn yn olynol ar ôl y dewis yn union cyn hynny. Er enghraifft, pe bai pleidleisiwr yn gosod ymgeiswyr yn y drefn ganlynol 1, 2, 3, 4, 4, 5 neu 1, 2, 3, 5, 6, byddai modd trosglwyddo’r papurau pleidleisio dan sylw hyd at rif 3 ond ni fyddai modd eu trosglwyddo ar ôl hynny. Ni fyddai modd trosglwyddo papur pleidleisio chwaith os nad yw’n glir i’r swyddog canlyniadau am unrhyw reswm arall pa ymgeisydd sydd nesaf yn nhrefn blaenoriaeth.

Swyddi gwag olaf

Mae’r Rheolau Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy drafft yn cynnwys darpariaeth ar gyfer llenwi’r swyddi gwag olaf. Bwriad hyn yw sicrhau nad oes rhaid i’r swyddog canlyniadau barhau i gyfrif pan fyddai unrhyw bwrpas gwneud hynny. Er enghraifft, mae’r rheol yn nodi, pan fo nifer yr ymgeiswyr sy’n dal yn y ras yn hafal i nifer y swyddi gwag sy’n dal heb eu llenwi, bod yr ymgeiswyr hynny’n cael eu trin fel rhai etholedig. Mae’r rheol hon yn galluogi ymgeisydd i gael ei ethol heb gyrraedd y cwota, ond dim ond dan yr amgylchiadau a ddisgrifir. Y dewis arall fyddai gadael un neu ragor o seddi heb eu llenwi. Unwaith eto, mae ein cynigion yn cyd-fynd ag ardaloedd eraill yn y DU lle mae pleidlais sengl drosglwyddadwy’n cael ei defnyddio.

Ailgyfrif

Un gwahaniaeth hollbwysig rhwng Rheolau 2021 a’r Rheolau Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy yw’r ddarpariaeth sy’n cael ei gwneud i ymgeiswyr neu asiantiaid etholiadol wneud cais am ailgyfrif pleidleisiau. Mae Rheolau 2021 yn nodi y caiff ymgeisydd neu asiant etholiadol yr ymgeisydd, os yw’n bresennol pan fydd y cyfrif wedi’i gwblhau, ofyn i’r swyddog canlyniadau ailgyfrif y pleidleisiau. Mae Rheolau 60T a 64X o’r Rheolau Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy drafft yn galluogi ymgeisydd neu asiant etholiadol i ofyn, ar ddiwedd pob cam o’r cyfrif, am ailgyfrif y cam hwnnw o’r cyfrif. Byddai gorfod ailgyfrif y bleidlais gyfan, a fyddai’n golygu ailadrodd pob un cam, yn afresymol, yn enwedig ar gamau olaf y cyfrif. Felly, pan gynhelir etholiad drwy ddefnyddio pleidlais sengl drosglwyddadwy, mae’r ddarpariaeth ar gyfer ailgyfrif y cam hwnnw o’r cyfrif yn unig.

Cwestiynau’r ymgynghoriad

Cwestiwn 1a

Ydych yn cytuno mai dim ond yr opsiwn o gyfrif â llaw y dylid ei gynnwys yn y Rheolau Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy drafft, gan hepgor yr opsiwn o gyfrif yn electronig?

Cwestiwn 1b

A ddylid llunio rheolau sy’n caniatáu cyfrif electronig ar gyfer etholiadau yn y dyfodol, mewn pryd ar gyfer etholiadau lleol a gynhelir ar ôl 2027?

Cwestiwn 2

Ydych chi’n cytuno na ddylid newid y gofyniad presennol i restru ymgeiswyr yn nhrefn yr wyddor yn ôl cyfenw?

Cwestiwn 3

Ydych chi’n cytuno bod y canllawiau i bleidleiswyr yn esbonio’n glir sut y dylent roi marc ar y papur pleidleisio mewn etholiad o dan drefn pleidlais sengl drosglwyddadwy? Os na, awgrymwch welliannau.

Cwestiwn 4a

Ydych chi’n cytuno â’n penderfyniad ni i ddewis cwota Droop?

Cwestiwn 4b

Ydych yn cytuno bod y camau ar gyfer cyfrifo’r cwota fel y’u nodir yn Rheol 60H a 64L yn ddigon clir?

Cwestiwn 5

Ydych chi’n cytuno bod y rheolau ynghylch trosglwyddo pleidleisiau dros ben yn ddigon clir?

Cwestiwn 6

Ydych chi’n cytuno na ddylid trosglwyddo pleidleisiau dros ben os na all wneud unrhyw wahaniaeth o bwys i ragolygon yr ymgeisydd sy'n parhau â'r nifer isaf o bleidleisiau?

Cwestiwn 7

Ydych chi’n cytuno bod y rheolau ynghylch eithrio ymgeiswyr a throsglwyddo pleidleisiau wedi hynny’n ddigon clir?

Cwestiwn 8

Ydych chi’n cytuno bod y Rheolau Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy drafft yn ddigon clir ynghylch yr amgylchiadau pan na fydd modd trosglwyddo papur pleidleisio?

Cwestiwn 9

Ydych chi’n cytuno bod y Rheolau Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy drafft yn ddigon clir ynghylch y ddarpariaeth ar gyfer llenwi’r swyddi gwag olaf?

Cwestiwn 10

Mewn etholiadau sy’n defnyddio pleidlais sengl drosglwyddadwy, ydych chi’n cytuno mai dim ond yng nghyswllt cam diwethaf y cyfrif a gwblhawyd yn unig y gellir gofyn am ailgyfrif?

Cwestiwn 11

Hoffem glywed eich barn am yr effeithiau y byddai’r cynigion ar gyfer y Rheolau Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy drafft yn eu cael ar yr iaith Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. 

Beth fyddai'r effeithiau hyn yn eich barn chi? Sut gellid cynyddu’r effeithiau cadarnhaol, neu leihau'r effeithiau negyddol? 

Cwestiwn 12

Eglurwch hefyd, os gwelwch yn dda, sut rydych yn credu y gallai’r rheolau gael eu newid er mwyn cael effeithiau positif neu gynyddu effeithiau positif ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg; a pheidio â chael effeithiau andwyol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. 

Cwestiwn 13

Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych chi unrhyw faterion cysylltiedig sydd heb gael eu trafod yn benodol, mae croeso i chi ddefnyddio’r lle hwn i'w nodi.

Sut i ymateb

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 7 Ebrill 2023, drwy unrhyw un o'r ffyrdd a ganlyn:

Yr Is-adran Etholiadau
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu
  • (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Mae ymatebion i ymgynghoriadau yn debygol o gael eu cyhoeddi’n gyhoeddus, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os hoffech i’ch ymateb aros yn ddienw, dywedwch wrthym ni

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data

Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn : 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a roddir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Ni fydd unrhyw waith o'r fath yn cael ei wneud oni bai ei fod yn cael ei wneud o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel. Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi cael ei gynnal mewn modd priodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio eich manylion.

Dylech hefyd wybod am ein dyletswyddau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth. Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, bydd yr adroddiadau hyn yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Gwybodaeth bellach a dogfennau cysylltiedig

Rhif: WG46336

Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd amgen. Os ydych am gael y ddogfen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.