Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae Gorchymyn drafft Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl), (a elwir hefyd yn “y Gorchymyn Cynnal Etholiadau”) yn amlinellu’r gweithdrefnau ar gyfer cynnal etholiadau i’r Senedd. Mae’n manylu ar sut y dylid cynnal yr etholiad a’i ymgyrch, ac mae hefyd yn ymdrin â’r broses o ran heriau cyfreithiol i etholiad. 

Nid yw Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007 (“Gorchymyn 2007”), sef y Gorchymyn presennol sy’n llywodraethu’r ffordd y caiff etholiadau’r Senedd eu cynnal, wedi'i ail-wneud yn ei gyfanrwydd ers iddo gael ei wneud yn wreiddiol, a’i ddiwygio wedi hynny, gan yr Ysgrifennydd Gwladol.  Cafodd y swyddogaeth ar gyfer gwneud y Gorchymyn ei throsglwyddo i Weinidogion Cymru gan Ddeddf Cymru 2017. 

Mae Gweinidogion eisoes wedi ymrwymo i ymgynghori ar Orchymyn dwyieithog wedi’i gydgrynhoi, ac ail-wneud gorchymyn o'r fath cyn Etholiadau’r Senedd yn 2026. Mae’r Gorchymyn drafft felly yn diweddaru ac yn cydgrynhoi’r darpariaethau presennol ar gynnal etholiadau’r Senedd a’r rhai yn y gorchmynion diwygio cysylltiedig. 

Er bod y gyfraith wedi’i hailddatgan i raddau helaeth yn rhan o fframwaith hygyrch, dwyieithog am y tro cyntaf gan ddefnyddio iaith fodern a chlir, mae’r Gorchymyn drafft hefyd yn rhoi nifer o newidiadau ar waith er mwyn adlewyrchu datblygiadau yn y maes etholiadau ehangach ers etholiad y Senedd yn 2021.

Mae'r prif newidiadau a gyflwynir yn y Gorchymyn drafft fel a ganlyn:

  • cynigion polisi a amlinellwyd yn y Papur Gwyn ar Ddiwygio Etholiadol ym mis Hydref 2022 a thrwy Ddeddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024, a gafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 9 Medi 2024
  • gweithredu newidiadau deddfwriaethol sylweddol sy’n ofynnol gan Ddeddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024, gan adlewyrchu mai dim ond etholiadau etholaethol a fydd yn cael eu cynnal o hyn ymlaen, gyda dim ond pleidiau ac ymgeiswyr unigol yn sefyll yn yr etholaethau hynny
  • newidiadau i sicrhau bod yr iaith yn y Gorchymyn drafft drwyddo draw yn niwtral o ran rhywedd

Wrth ailddrafftio’r rheolau sydd wedi'u cynnwys yn Atodlen 5 i’r Gorchymyn, mae sylw arbennig wedi'i roi i Reolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru) 2021 (OS 2021/1459) a Rheolau Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Cymru) 2021 (OS 2021/1460) (Rheolau Etholiadau Llywodraeth Leol 2021) er mwyn sicrhau elfen o gysondeb i weinyddwyr ac ymgyrchwyr etholiadol.

Mae’r Memorandwm Esboniadol yn manylu ar y gwahaniaethau pwysig rhwng darpariaethau yng Ngorchymyn 2007 (a’i orchmynion diwygio) a’r Gorchymyn drafft, a dylid ei ddarllen law yn llaw â’r papur hwn a’r Gorchymyn drafft ei hun. Nod y papur ymgynghori hwn yw rhoi trosolwg cryno o’r prif bwyntiau i’w hystyried.

Treuliau etholiad

Mae’r darpariaethau sy’n ymwneud â threuliau etholiad yn dilyn, i raddau helaeth, y model rhanbarthol blaenorol o ran ymgeiswyr unigol. Rydym yn ceisio barn ar y cynnig i symud i un cyfnod rheoleiddiedig hwy at ddibenion yr ymgeiswyr hynny sy’n cyfrif am eu gwariant etholiadol mewn cysylltiad ag etholiadau’r Senedd. Mae’r cyfnod rheoleiddiedig a gynigir ar gyfer treuliau etholiad ymgeiswyr unigol yn cyd-fynd â’r cyfnod rheoleiddiedig y mae’n ofynnol i bleidiau roi cyfrif am eu gwariant yn etholiadau’r Senedd, ac a osodir gan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000. Y bwriad hefyd yw unioni terfyn y treuliau sy'n gymwys i ymgeiswyr unigol â’r terfynau ar gyfer treuliau plaid. Cynigir y bydd y terfyn treuliau etholiad a bennir ar gyfer ymgeiswyr unigol naill ai yr un swm a fyddai’n gymwys pan fo plaid wleidyddol gofrestredig yn cyflwyno un ymgeisydd mewn etholaeth neu yr un swm â’r terfyn a bennir ar gyfer plaid sy’n sefyll mewn un etholaeth. Rydym yn ceisio eich barn ar y cynnig hwn.

Mae’r terfynau treuliau etholiad a fydd yn cael eu cymhwyso i bleidiau eisoes wedi bod yn destun ymarfer ymgynghori cyhoeddus ar wahân. Mae’r ymatebion yn cael eu dadansoddi ar hyn o bryd a bydd cynigion terfynol yn cael eu cyhoeddi maes o law. 

Post etholiadol am ddim

Yn unol â Gorchymyn 2007, byddai plaid sy’n sefyll ym mhob etholaeth a phob rhanbarth, i bob pwrpas, yn gallu anfon dau ddarn o bost yn rhad ac am ddim i bob pleidleisiwr (y naill oddi wrth ymgeisydd etholaethol y blaid, a’r llall oddi wrth swyddog enwebu’r rhestr ranbarthol). Gan fod hyn gyfwerth â gallu pob swyddog enwebu rhestr etholaeth i anfon dau ddarn o bost at bob pleidleisiwr yn y system newydd, ni fydd yr uchafswm post am ddim sydd ar gael i blaid yn newid. Rydym yn ceisio eich barn ar y cynnig hwn.

Gweithdrefnau cywiro datganiadau pleidleisio drwy’r post

Mae darpariaeth yn Atodlen 2 i’r Gorchymyn drafft ar gyfer rhoi ar waith y weithdrefn newydd o ran cywiro datganiadau pleidleisio drwy'r post ar gyfer etholiadau’r Senedd. Ymgynghorwyd ar hyn yn flaenorol yn rhan o gynnig ehangach ar olrhain pleidleisiau drwy’r post yn y Papur Gwyn ar Ddiwygio Etholiadol. Mae elfennau'r cynnig sy'n ymwneud ag olrhain pleidleisiau drwy'r post a phorth ar-lein wedi’u dileu yn dilyn adborth a gafwyd ar gyfer yr ymgynghoriad hwnnw. Mae'r Gorchymyn drafft yn rhoi cyfle i bleidleiswyr drwy’r post gwblhau, ac anfon, datganiad pleidleisio drwy’r post newydd er mwyn cywiro gwallau cyffredin sydd wedi'u gwneud wrth ddarparu dynodyddion personol cyn y caiff y bleidlais ei chau, fel na fydd eu pleidleisiau’n cael eu gwrthod. Ar hyn o bryd, dim ond ar ôl i’r bleidlais gau y rhoddir gwybod i bleidleiswyr am y gwallau hyn.

Mae’r Gorchymyn drafft yn caniatáu i ddatganiadau pleidleisio drwy’r post newydd gael eu darparu’n awtomatig mewn perthynas ag unrhyw ddatganiadau pleidleisio drwy'r post sydd wedi'u cwblhau'n anghywir ac sy'n dod i law  law 4 diwrnod gwaith cyn y bleidlais. Gellir anfon y datganiadau pleidleisio drwy'r post newydd drwy’r post, i orsaf bleidleisio neu’n uniongyrchol i swyddfeydd etholiadol er mwyn eu hailwirio. Nod y weithdrefn hon yw atal etholwyr rhag colli eu hawl i bleidleisio yn ddiangen heb danseilio diogelwch y system bleidleisio drwy’r post.  Rydym yn ceisio adborth ar y weithdrefn a amlinellir yn y Gorchymyn drafft.

Datganiad o aelodaeth plaid

Mae’r Gorchymyn drafft bellach yn amlinellu'r gofynion ar gyfer datganiadau o aelodaeth plaid y mae’n rhaid eu cynnwys yn y ffurflen cydsynio ag enwebiad. Mae rheol 10(4) o Atodlen 5 yn nodi y bydd ymgeisydd yn euog o arfer lwgr pan fydd yn methu’n fwriadol â chynnwys datganiad o aelodaeth plaid sy’n cydymffurfio â gofynion rheol 10(2) a (3), ac y mae’n rhaid ei gynnwys yn y ffurflen cydsynio ag enwebiad a ragnodwyd yn ddiweddar (ffurflen 13). Mae hyn yn adlewyrchu’r dull sydd eisoes wedi'i roi ar waith mewn perthynas ag etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru drwy Reolau Etholiadau Llywodraeth Leol 2021, pan ofynnir i ymgeiswyr ddatgan a ydynt wedi bod yn aelod o blaid wleidyddol o fewn y 12 mis diwethaf. Ein nod yw gwneud y darpariaethau hyn mor eglur â phosibl o ran etholiadau’r Senedd.

Hygyrchedd gorsafoedd pleidleisio

Yn ein hymgynghoriad ar y Papur Gwyn ynghylch Diwygio Etholiadol ym mis Hydref 2022, gwnaethom geisio barn ynghylch a ddylai’r swyddog canlyniadau mewn etholiad datganoledig fod â dyletswydd i ddarparu unrhyw gyfarpar sy’n rhesymol er mwyn ei gwneud yn haws i bobl anabl bleidleisio. Roedd yr ymatebion o blaid defnyddio'r dull a ddefnyddir yn etholiadau Seneddol y DU i sicrhau cysondeb a symlrwydd ledled Cymru a Lloegr.  Dyma’r dull a ffefrir hefyd gan y Comisiwn Etholiadol a gweinyddwyr etholiadol. Dyma’r dull a adlewyrchir felly yn y Gorchymyn drafft. 

Rydym yn ystyried beth arall y gallwn ni ei wneud yn y maes hwn i sicrhau bod pleidleiswyr dall a rhannol ddall yn gallu pleidleisio’n annibynnol ac yn gyfrinachol. Ceir rhagor o fanylion yn y Memorandwm Esboniadol drafft a fydd yn cael ei ddiweddaru yn dilyn canlyniad yr ymgynghoriad hwn a gwaith allweddol arall yn y maes hwn.

Ffurflenni

Mae'r ffurflenni (a elwir yn 'ffurfiau' yn y Gorchymyn) wedi'u hailrifo at ddibenion hygyrchedd, ac maent wedi'u diwygio i adlewyrchu newidiadau sydd wedi'u gwneud i’r darpariaethau o sylwedd yn y Gorchymyn drafft. Ceir rhai ffurflenni cwbl newydd yn rhan o’r weithdrefn newydd ar gyfer cywiro datganiadau pleidleisio drwy’r post, yn ogystal â’r ffurflen newydd ar gyfer cydsynio ag enwebiad. Byddai'n fanteisiol ceisio barn rhanddeiliaid ynghylch a yw'r ffurflenni yn hwylus i'w defnyddio er mwyn sicrhau eu bod yn cyflawni'r pwrpas a fwriedir yn effeithiol. 

Gofynion o ran y Gymraeg a’r effaith bosibl ar y Gymraeg

Ein nod yw annog defnydd cyfartal o’r Gymraeg a’r Saesneg yn etholiadau’r Senedd ac i hyn gael ei adlewyrchu’n effeithiol yn y Gorchymyn drafft drwyddo draw. Fel sydd wedi'i nodi eisoes, dyma’r tro cyntaf i’r Gorchymyn Cynnal Etholiadau gael ei lunio yn gwbl ddwyieithog, gan gynnwys y ffurflenni a’r cyfarwyddiadau cysylltiedig. Mae enghreifftiau eraill yn cynnwys sicrhau, pan fo gofynion i ddarparu ffurflenni etholiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg, fod y Gymraeg yn dod o flaen y Saesneg yn y ddarpariaeth. Ceir darpariaethau hefyd ynghylch cwestiynau i’w gofyn i bleidleiswyr yn Atodlen 5 a fydd yn caniatáu i’r rhain gael eu gofyn yn Gymraeg neu yn Saesneg. 

Erbyn hyn, ceir gofyniad penodol yn rheol 64 o Atodlen 5 i ddatgan canlyniadau etholiad etholaethol yn Gymraeg ac yn Saesneg, gan adlewyrchu ymhellach y gofynion o ran y Gymraeg. Nod y dull hwn yw ategu safonau perfformiad y Comisiwn Etholiadol ar gyfer Swyddogion Canlyniadau o ran y Gymraeg. 

Rydym yn ceisio eich barn ynghylch a yw’r Gorchymyn drafft yn annog defnydd cyfartal o’r Gymraeg, ynghyd ag unrhyw sylwadau sydd gennych o ran ei oblygiadau posibl o ran y Gymraeg.

Bydd asesiad effaith llawn yn cael ei gyhoeddi ar y cyd â'r Gorchymyn terfynol.

Digwyddiadau ymgysylltu

Yn sgil natur dechnegol y Gorchymyn Cynnal Etholiadau, bydd gweithgareddau ymgysylltu wedi'u teilwra ar gyfer rhanddeiliaid penodol yn cael eu trefnu yn rhan o’r ymgynghoriad hwn. Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan mewn digwyddiad ymgysylltu ac nad ydych wedi cael gwahoddiad eto, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost i etholiadau.ymgynghoriad@llyw.cymru.

Cwestiynau’r ymgynghoriad

Cwestiwn 1

A yw’r gweithdrefnau a amlinellir yn y Gorchymyn drafft yn adlewyrchu'n gywir y gofynion ar gyfer cynnal etholiad llwyddiannus o dan system etholiadol newydd y Senedd? 

Cwestiwn 2(a)

A ydych chi'n cytuno â’r dull gweithredu o ran y dylai'r amserlen a roddir i ymgeiswyr unigol roi cyfrif am eu gwariant etholiadol gyd-fynd â’r amserlen a roddir i bleidiau roi cyfrif am eu gwariant? 

Cwestiwn 2(b)

A ydych chi'n cytuno â’r egwyddor o wneud y terfyn treuliau etholiad ymgeiswyr unigol yn gyson â’r terfyn ar gyfer treuliau plaid? 

Bydd y modd y caiff y cyswllt hwn ei wneud yn dibynnu’n rhannol ar y dull terfynol a ddefnyddir ar gyfer terfynau pleidiau, ond y cynnig yw gosod y terfyn ar gyfer ymgeisydd unigol ar yr un lefel â’r terfyn a fyddai’n gymwys pan fo plaid wleidyddol gofrestredig yn cyflwyno un ymgeisydd mewn etholaeth neu’r terfyn a fyddai’n gymwys pan fo plaid wleidyddol gofrestredig yn sefyll mewn un etholaeth.

Cwestiwn 3

A ydych chi'n rhag-weld unrhyw ganlyniadau anfwriadol a allai ddeillio o’r darpariaethau diwygiedig yn erthygl 67 o’r Gorchymyn drafft o ran yr hawl i anfon post etholiadol am ddim, yr ystyrir eu bod, ar y cyfan, yn gymaradwy â’r rhai yng Ngorchymyn 2007?

Cwestiwn 4

A oes unrhyw newidiadau technegol y gallwch chi eu hargymell a fyddai’n galluogi'r weithdrefn cywiro datganiadau pleidleisio drwy’r post i fod yn fwy effeithiol?

Cwestiwn 5

A yw’r darpariaethau sy'n ymwneud â'r gofynion newydd o ran datganiad o aelodaeth plaid yn eglur o ran yr hyn sy’n ofynnol gan ymgeiswyr?

Cwestiwn 6

A ydych chi'n cytuno â’r darpariaethau newydd yn rheol 36 o Atodlen 5 ynghylch y cyfarpar a ddarperir mewn gorsafoedd pleidleisio i gynorthwyo pleidleiswyr anabl, sy’n unol â’r dull a fabwysiadwyd yn dilyn diwygiadau a wnaed gan Ddeddf Etholiadau 2022?

Cwestiwn 7

A ydych chi’n ystyried bod cynnwys a ffurf y ffurflenni, yn ogystal â’r system rifo newydd, yn bodloni anghenion defnyddwyr?

Cwestiwn 8

A ydych chi'n rhag-weld y bydd y ffurflenni yn cael eu defnyddio fel y cânt eu cyflwyno yn y Gorchymyn terfynol, neu a fydd templedi newydd yn cael eu creu?

Cwestiwn 9

Yn eich barn chi, a ellid llunio neu newid y Gorchymyn drafft er mwyn gwneud y canlynol:

  • sicrhau effeithiau cadarnhaol neu ragor o effeithiau cadarnhaol ar ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg, 
  • lliniaru unrhyw effeithiau negyddol ar ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg?

Cwestiwn 10

Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os hoffech wneud sylwadau ar unrhyw faterion perthnasol nad ydynt wedi cael sylw penodol gennym, nodwch nhw yn y gofod a ganlyn.

Sut i ymateb

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 17 Chwefror 2025, drwy unrhyw un o'r ffyrdd a ganlyn:

Yr Is-adran Etholiadau
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu
  • (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Mae ymatebion i ymgynghoriadau yn debygol o gael eu cyhoeddi’n gyhoeddus, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os hoffech i’ch ymateb aros yn ddienw, dywedwch wrthym ni

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data

Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: data.protectionofficer@llyw.cymru

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn : 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: ico.org.uk

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgyngoriadau Llywodraeth Cymru a thros unrhyw ddata personol rydych yn eu darparu yn rhan o’ch ymateb i’r ymgynghoriad. 

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth ynghylch sut y byddant yn arfer eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithlon dros brosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. (Erthygl 6(1)(e)) 

Bydd unrhyw ymateb y byddwch yn ei anfon atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymdrin â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau pellach. Mewn ymgyngoriadau ar y cyd, gall hyn hefyd gynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o ymatebion i ymgyngoriadau, efallai y bydd trydydd parti achrededig (ee sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) yn cael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Dim ond o dan gontract yr ymgymerir â gwaith o'r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer y contractau hyn yn amlinellu gofynion llym ar gyfer prosesu data personol a’u cadw’n ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae'n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi'r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda'r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i'ch enw neu’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o’n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth ac y gallai Llywodraeth Cymru fod o dan rwymedigaeth gyfreithiol i ddatgelu rhywfaint o wybodaeth.

Os caiff eich manylion eu cyhoeddi yn rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, bydd yr adroddiadau cyhoeddedig hyn yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd unrhyw ddata sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch fel arall yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Gwybodaeth bellach a dogfennau cysylltiedig

Rhif: WG50933

Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd amgen. Os ydych am gael y ddogfen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.