Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Gweithio i Wella yw’r broses annibynnol o fewn GIG Cymru a ddefnyddir i ymchwilio i bryderon a chwynion, ac mae’n darparu ffordd hygyrch i leisio pryderon. Ei bwriad yw sicrhau bod ymchwiliad priodol yn cael ei gynnal pan fydd pryder yn cael ei leisio neu gŵyn yn cael ei gwneud, a bod gwersi’n cael eu dysgu ar ôl i gamgymeriadau gael eu gwneud. Dylid rhannu gwybodaeth am y problemau a nodwyd â’r claf a, lle y bo’n bosibl, dylid cywiro pethau sydd wedi mynd o chwith ar unwaith.

Llywodraethir trefniadau’r broses ar sail Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) 2011.

Bu newidiadau mawr dros y 12 mlynedd diwethaf yn y ffordd rydym oll yn byw, yn gweithio ac yn defnyddio gofal iechyd. Yn ogystal, mae GIG Cymru’n wynebu heriau o sawl cwr, gan gynnwys bodloni anghenion poblogaeth sy’n heneiddio, ac effaith barhaus y pandemig COVID-19 ar wasanaethau. Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio barn rhanddeiliaid ledled Cymru ynghylch ein newidiadau arfaethedig i’r broses Gweithio i Wella. Bydd y newidiadau arfaethedig hyn yn sicrhau bod gan GIG Cymru system ar gyfer lleisio pryderon a gwneud cwynion ac ymateb iddynt sy’n addas i Gymru heddiw ac i genedlaethau’r dyfodol.

Gwrando ar randdeiliaid a gwrando ar y cyhoedd

Rydym wedi bod yn gwrando’n astud iawn dros y blynyddoedd diwethaf ar bobl sydd â phrofiad bywyd o gael gofal drwy’r GIG a’r rhai sydd â chyfrifoldeb am ei ddarparu. Rydym hefyd wedi gwrando’n astud ar brofiadau pobl wrth leisio pryderon am eu gofal, ac rydym wedi gwrando ar y rhai sy’n darparu cyngor cyfreithiol ac yn datrys yr achosion hyn. Er gwaethaf bod y broses Gweithio i Wella ar gael, mae rhai achosion yn dilyn llwybr cyfreithiol pan fydd niwed difrifol wedi digwydd, neu lle mae’r berthynas rhwng y claf a’r sefydliad sy’n darparu gofal iechyd wedi dod dan straen. Weithiau, pen draw’r achosion hyn fydd proses gyfreithiol yn y system cyfiawnder sifil ac er gwaethaf pob ymdrech, gall hyn deimlo’n elyniaethus ac yn ofidus.

Rydym wedi gweithredu’r Ddyletswydd Gonestrwydd sefydliadol, gan ei gwneud yn ddyletswydd ar gyrff y GIG i fod yn rhagweithiol pan fydd niwed wedi digwydd wrth ddarparu gofal iechyd. O dan y Ddyletswydd Gonestrwydd, mae’n rhaid i gyrff y GIG fod yn agored ac yn dryloyw ynghylch yr hyn sydd wedi digwydd, ymddiheuro, a gweithio gyda’r claf er mwyn dysgu gwersi a rhannu’r hyn a ddysgwyd.

Ynghyd â’r Ddyletswydd Ansawdd, rydym wedi herio’r GIG i wneud symudiad diwylliannol system gyfan tuag at ofal diogel o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar yr angen unigol. Rydym yn ymdrechu i gael mwy o atebolrwydd yn y GIG, ond hefyd i Weinidogion Cymru sicrhau eu bod yn ystyried sut mae pob penderfyniad a wnant yn effeithio ar wella gwasanaethau i gleifion ar bob lefel.

Rydym bellach wedi crynhoi’r gwersi allweddol ar ôl gwrando ar y cyhoedd a darparwyr gofal i nodi ein newidiadau arfaethedig i’r broses Gweithio i Wella.

Cefndir

Gweithio i Wella yw’r broses o fewn GIG Cymru sy’n cael ei defnyddio i ymchwilio i bryderon a chwynion. Mae’n darparu ffordd hygyrch i leisio pryderon a chwynion.

O dan y broses Gweithio i Wella, dylai cleifion neu eu cynrychiolwyr ddechrau drwy leisio eu pryderon i gorff y GIG fel y sefydliad sy’n gyfrifol am ofal y claf.

Mae disgwyl i gyrff y GIG (fel Byrddau Iechyd, Ymddiriedolaethau’r GIG neu Awdurdodau Iechyd Arbennig) ddarparu ymateb llawn i’r holl bryderon a chwynion sy’n cael eu lleisio gan gleifion. Os yw claf yn anhapus gydag ymateb corff y GIG, gall gysylltu ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, sy’n meddu ar y pwerau cyfreithiol i ymchwilio i gwynion am wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae’r Ombwdsmon yn annibynnol ar holl gyrff y llywodraeth, ac mae’r gwasanaeth a ddarperir yn ddiduedd ac am ddim. Nid yw’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gallu ymyrryd yn bersonol gyda phryderon neu gwynion, ac ni fydd hyn yn newid gyda’r diweddariadau rydym yn eu cynnig.

Sefydlwyd corff llais y dinesydd cenedlaethol newydd (Llais yw’r enw gweithredol) ar 1 Ebrill 2023. Mae Llais yn disodli’r rhwydwaith o Gynghorau Iechyd Cymunedol ac mae’n adlewyrchu barn ac yn cynrychioli buddiannau pobl Cymru mewn perthynas â gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’n annibynnol ar y llywodraeth, y GIG ac awdurdodau lleol ond mae’n gweithio gyda nhw ac eraill i gefnogi gwelliant parhaus gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae Llais hefyd yn cynnig gwasanaeth eiriolaeth annibynnol ar gwynion i gefnogi unrhyw un sy’n dymuno gwneud cwyn am y gofal iechyd a chymdeithasol y maent wedi’i dderbyn.

Pan wneir honiad fod niwed wedi digwydd, neu y gallai niwed fod wedi digwydd, o ganlyniad i dderbyn gofal iechyd, mae’n bosibl cynnig gwneud iawn. Gall yr iawn hwn fod yn ariannol, neu gall fod ar ffurf camau i sicrhau datrysiad – er enghraifft, ymddiheuriad ac ymrwymiad i hyfforddi staff fel eu bod yn dysgu o’r digwyddiad a’i atal rhag digwydd eto. Bu Cymru’n arweinydd yn y DU o ran hyn. Pan gyflwynwyd trefniadau Gweithio i Wella, nid oedd gan unrhyw genedl arall yn y DU system i wneud iawn a/neu roi iawndal pan fyddai problem yn cael ei chanfod, ar wahân i’r achwynydd yn gorfod dwyn achos cyfreithiol.

Mae Llywodraeth Cymru am alluogi newid diwylliant o fewn GIG Cymru tuag at system sydd bob tro’n gwrando, yn dysgu ac yn gwella, ac sydd yn ennyn ymddiriedaeth a hyder cleifion a’u teuluoedd.

Wrth adolygu a diweddaru’r broses Gweithio i Wella, mae’n bwysig bod y newidiadau’n cydweddu â’r Ddyletswydd Gonestrwydd. Cyflwynwyd y Ddyletswydd ym mis Ebrill 2023, ac mae’n rhoi dyletswydd gyfreithiol ar sefydliadau’r GIG i fod yn rhagweithiol i hysbysu cleifion, pan fydd unrhyw niwed annisgwyl neu anfwriadol sy’n fwy na niwed bychan (sy’n cael ei ddisgrifio mewn canllawiau fel niwed cymedrol, niwed difrifol neu farwolaeth) wedi digwydd wrth dderbyn gofal iechyd, a lle roedd y gofal yn ffactor, neu y gallai fod wedi bod yn ffactor, yn y niwed a achoswyd.

Rhaid i fyrddau iechyd fod yn agored a thryloyw am gamgymeriadau a wnaed, a rhaid iddynt gynnig ymddiheuriad a gweithio gyda’r claf i ymchwilio i’r broblem. Ym mhob achos, rhaid dysgu gwersi yn sgil y digwyddiad a rhaid rhannu gwybodaeth â’r staff gofal iechyd yn ogystal â’r sawl sy’n derbyn gofal er mwyn ei atal rhag digwydd eto. Bydd y Ddyletswydd Gonestrwydd yn adnodd pwerus i wella diogelwch cleifion ac i atgyfnerthu’r gwaith o reoli cwynion o fewn GIG Cymru.

Beth yw pwnc yr ymgynghoriad hwn?

Mae Llywodraeth Cymru yn dymuno gosod cleifion wrth wraidd y broses pryderon a chwynion, a sicrhau eu bod yn teimlo bod rhywun yn gwrando arnynt. Mae’r papur ymgynghori hwn yn caniatáu i randdeiliaid o GIG Cymru, grwpiau cymunedol a chleifion unigol ddweud eu dweud am ba newidiadau sydd eu hangen o ran Gweithio i Wella ac i gynnig adborth ynghylch cynigion penodol i adolygu trefniadau Gweithio i Wella.

Cynigion

  • Rhoi cleifion wrth wraidd y broses.
  • Gwell ffocws ar gyfathrebu tosturiol sy’n canolbwyntio ar y claf.
  • Gwella’r broses Gweithio i Wella er mwyn iddi fod yn fwy cynhwysol.
  • Cynnwys prosesau uwchgyfeirio ar gyfer pryderon brys am gam-drin bwriadol neu niwed o ofal, neu ar ôl i rywun farw.
  • Adnewyddu’r trefniadau i ddarparu cyngor cyfreithiol am ddim ac adroddiadau gan arbenigwyr meddygol.

Y dull Gweithio i Wella arfaethedig:

Image
Deiagram cylchol sy’n dangos camau’r model arfaethedig: gwrando, gweithredu, ymchwilio, adrodd, dysgu. Cleifion wrth wraidd y broses.

Mae mwy o fanylion yn ddiweddarach yn y ddogfen ond yn gryno, rydym yn cynnig diwygio’r broses Gweithio i Wella bresennol yn y ffyrdd canlynol.

  • Adolygu camau anffurfiol (cam un) a ffurfiol (cam dau) y broses o ymdrin â chwynion, a sicrhau bod cleifion a staff yn gwybod pa gamau sy’n cael eu cymryd ar bob cam. Gweler isod esboniad o gamau’r broses Gweithio i Wella.
  • Cyflwyno cynnig gorfodol o gyfarfod gwrando personol (dros y ffôn, galwad fideo neu wyneb yn wyneb) yn ystod cam un rhwng corff y GIG a’r unigolyn sy’n lleisio’r pryder. Gofynnir i’r sawl sy’n lleisio’r pryder neu’r gŵyn a yw’n cydsynio i geisio datrysiad cynnar yn ystod cam un. Gall yr unigolyn sy’n lleisio’r pryder dderbyn neu wrthod y cynnig.
  • Ymestyn y cyfnod dau ddiwrnod presennol a ganiateir ar gyfer cam un er mwyn gwella’r broses datrys cynnar ar gyfer pryderon a chwynion.
  • Cyflwyno opsiwn eithriad fel bod modd symud yn syth i’r cyfnod ffurfiol (cam dau) os nad yw pryder yn briodol ar gyfer yr opsiwn datrys cynnar.
  • Gwirio gyda’r person sydd wedi lleisio’r pryder a yw’r broblem neu’r pryder wedi’i datrys neu ei hateb yn effeithiol yn ystod y cam datrys cynnar.
  • Sicrhau bod cleifion yn cael gwybod am yr amserlen ar gyfer ymchwilio i’w cwyn a pham y pennwyd yr amserlen honno, a sicrhau bod cleifion yn cael diweddariadau ar gynnydd yr ymchwiliad.
  • Adolygu’r gofynion rheoleiddio ar gyfer pob llythyr sy’n cael ei anfon gan fyrddau iechyd at bobl sy’n lleisio pryderon, fel bod yr iaith sy’n cael ei defnyddio yn canolbwyntio mwy ar y cleifion ac wedi’i phersonoli.
  • Cyflwyno ystod o amseroedd ymateb ar gyfer ymateb cychwynnol gan gorff y GIG, yn seiliedig ar y polisi cenedlaethol o adrodd am ddigwyddiadau gyda hynny’n cyd-fynd â deddfwriaeth.
  • Edrych ar y posibilrwydd o ymestyn y trefniadau gwneud iawn i ddarparwyr gofal sylfaenol a darparwyr annibynnol gofal a ariennir gan y GIG, fel bod yna un llwybr i ymdrin â phryderon a chwynion.
  • Codi’r terfyn uchaf ar gyfer iawndal mewn achosion ym mhroses gwneud iawn Gweithio i Wella o £25,000 i £50,000. Bydd hyn yn golygu y bydd mwy o achosion yn mynd drwy broses gwneud iawn Gweithio i Wella yn hytrach na thrwy ymgyfreitha preifat.
  • Cynyddu’r ffioedd cyfreithiol sefydlog sy’n cael eu talu gan ddarparwyr gofal iechyd er mwyn darparu mwy o fynediad at gyngor cyfreithiol arbenigol ar atebolrwydd ac iawndal i gleifion.
  • Diwygio rheoliad 31 (adroddiad ymchwiliad) i ddarparu’r cynnig o gyfarfod personol i drafod canfyddiadau ymchwiliad i bryder ble mae gwneud iawn wedi cael ei ystyried. Gall hyn fod yn berthnasol mewn amgylchiadau lle mae gwybodaeth newydd wedi dod i’r fei ers i’r adroddiad interim gael ei ddarparu. Gall cleifion wrthod y cynnig os ydynt yn ffafrio cyfathrebu ysgrifenedig yn unig.
  • Cyflwyno darpariaeth i ganiatáu esemptiad i'r amserlenni presennol ar gyfer pryderon neu gwynion lle mae angen i ymchwiliad troseddol neu ddiogelu gael blaenoriaeth.

Byddai’r cynigion hyn yn golygu gwneud newidiadau i’r rheoliadau Gweithio i Wella. Mae rhagor o wybodaeth am y cynigion ar gael isod. Yn ogystal â’r newidiadau i’r rheoliadau Gweithio i Wella sy’n cael eu rhestru uchod, rydym hefyd yn cynnig gwneud y newidiadau canlynol, sydd wedi’u cynnwys yma er gwybodaeth a chyd-destun yn unig.

  • Adolygu a gwella deunyddiau hyfforddi staff y GIG ar reoli pryderon a chwynion, a rhoi mwy o bwyslais ar gyfathrebu gwell a mwy tosturiol drwy gyflwyno’r system “Gwrando, Gweithredu, Ymchwilio, Adrodd a Dysgu” arfaethedig.
  • Ar y cyd ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, cyflwyno cyfres o safonau diwygiedig sy’n rheoli’r hyn y gall cleifion ei ddisgwyl wrth leisio pryder neu wneud cwyn.
  • Adolygu a diweddaru’r system graddio pryderon yn y canllawiau cyfredol i adlewyrchu arferion ar hyn o bryd, a’i chydweddu â’r polisi cenedlaethol ar adrodd am ddigwyddiadau a’r fframwaith niwed a ddatblygwyd ar gyfer y Ddyletswydd Gonestrwydd, a darparu mwy o eglurder ynghylch graddio pryderon a chwynion.
  • Sicrhau bod y canllawiau Gweithio i Wella yn egluro bod disgwyl i gyrff y GIG gynnal ymchwiliadau cymesur sy’n amserol ac yn defnyddio’r dulliau ymchwilio mwyaf priodol.
  • Darparu taflenni ffeithiau i gyd-fynd â llythyrau gan gyrff y GIG at bobl sy’n lleisio pryderon ac yn gwneud cwynion, sy’n egluro unrhyw dermau cyfreithiol sy’n cael eu defnyddio yn y llythyrau.
  • Adolygu trefniadau traws-ffiniol gydag NHS England ynghylch sut y mae’r gofal a ddarperir dros y ffin ar gyfer pobl sy’n byw yng Nghymru yn cael ei gwmpasu gan Gweithio i Wella.
  • Diwygio’r canllawiau Gweithio i Wella i fod yn fwy cynhwysol i blant a phobl ifanc, yn unol â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.
  • Cynnwys y llwybr uwchgyfeirio ac adrodd cyflym presennol i hybiau diogelu lleol ac awdurdodau perthnasol eraill yn y canllawiau. Defnyddir y llwybr hwn pan fydd honiad fod perygl o niwed neu gam-drin.
  • Rhoi cyfle i deuluoedd ofyn cwestiynau am ofal anwyliaid pan fydd claf yn marw, i’w reoli yn ystod y cam datrys cynnar (cam un) pan fydd pryder yn cael ei leisio. Ni fydd hyn yn effeithio ar eu hawl i leisio pryderon drwy’r broses ffurfiol (cam dau) neu drwy Wasanaeth yr Archwilydd Meddygol, yr heddlu neu Grwner Ei Fawrhydi.
  • Diwygio a diweddaru’r canllaw i gleifion fel bod unigolion sy’n lleisio pryderon yn gwybod sut i gael mynediad at gyngor cyfreithiol.
  • Darparu eglurder yn y canllawiau i gleifion ar rôl Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn y broses Gweithio i Wella. Adolygu a gwella hyfforddiant staff ar reoli pryderon a chwynion, a rhoi mwy o bwyslais ar gyfathrebu gwell a mwy tosturiol.
  • Egluro’r canllawiau ynghylch pryd y dylid darparu cyfarfod personol mewn perthynas â chanfyddiadau ymchwiliad i bryder.

Nawr, byddwn yn gofyn nifer o gwestiynau penodol i chi am ein newidiadau arfaethedig i’r broses Gweithio i Wella. Mae rhagor o wybodaeth am y cynigion ar gael isod.

Eich profiad chi

Buom yn gwrando ar farn cleifion a rhanddeiliaid am y broses gyfredol ar gyfer lleisio pryderon a gwneud cwynion am ofal GIG Cymru. Hoffem glywed am eich profiad unigol o leisio pryderon a chwynion.

Cwestiwn 1

Os hoffech roi gwybod i ni am bryder neu gŵyn a fynegwyd gennych am y gofal a gawsoch gan GIG Cymru, gwnewch hynny isod.

Cam un y broses pryderon a chwynion

O dan Gweithio i Wella, mae dau gam i’r ymchwiliadau a gynhelir gan gyrff y GIG i bryderon a chwynion. Mae’r cam cyntaf yn ceisio datrys y broblem yn gynnar ac yn anffurfiol. Os nad yw hynny’n llwyddo, mae’r pryder yn symud i ail gam, sef ymchwiliad ffurfiol. Ar hyn o bryd, mae’r cam datrys cynnar wedi’i gyfyngu i ddau ddiwrnod gwaith. Caiff hyn ei gyfrif o’r diwrnod y mae’r sefydliad yn cael gwybod am y pryder, ac mae’n rhaid ei ddatrys erbyn diwedd y diwrnod gwaith canlynol, hyd yn oed os yw’r pryder yn cael ei leisio fin nos. Mae’r terfyn amser dau ddiwrnod yn cael ei fethu’n aml, felly anaml fydd y cam datrys cynnar yn digwydd. Pan fydd hyn yn digwydd, bydd y gŵyn yn symud yn awtomatig i’r cam ffurfiol, waeth beth fo dymuniad y claf. Pan fydd hyn yn digwydd, bydd y pryder neu gŵyn yn symud yn awtomatig i’r cam ffurfiol, waeth beth fo dymuniad yr unigolyn sy’n lleisio’r pryder neu’r gŵyn.

Bwriadwn adolygu’r gofynion rheoleiddio ynghylch y camau sy’n cael eu cymryd cyn i’r ymchwiliad ffurfiol ddechrau, ac ystyried sut y mae’r rheoliadau yn darparu ar gyfer y cam datrys cynnar hwn.

Cwestiwn 2

A ydych chi’n cytuno bod angen adolygu’r weithdrefn y mae cyrff y GIG yn ei dilyn cyn i’r ymchwiliad ffurfiol ddechrau?

Cwestiwn 3

A ydych chi’n cytuno bod angen gofynion rheoleiddiol clir ynghylch y camau i’w cymryd yn ystod y cam datrys cynnar (cam un)? Os felly, rhowch eich awgrymiadau yn y blwch isod.

Rydym am roi pwyslais ar gyfathrebu trugarog a chynigiwn fod cynnig gorfodol o gyfarfod gwrando yn cael ei wneud, lle y bydd y claf neu’r unigolyn sydd wedi lleisio’r pryder yn gallu dweud wrth y sefydliad am ei bryder a’r canlyniad y byddai’n dymuno ei gael, os yw eisiau gwneud hynny. Gellir cynnal y cyfarfod hwn wyneb yn wyneb, drwy alwad fideo neu dros y ffôn.

Er bod cynnig o gyfarfod eisoes yn bodoli yn y rheoliadau, mae’r gofynion rheoleiddio ar gyfer y cyfarfod ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar wybodaeth y mae’n rhaid i gorff y GIG ei darparu, nid ar wrando ar bryderon cleifion. Rydym felly’n cynnig diwygio’r rheoliadau i sicrhau bod ffocws clir ar wrando ar y person sydd wedi lleisio’r pryder neu’r gŵyn.

Os yw’r amserlen ar gyfer y cam datrys cynnar yn cael ei hymestyn, cynigir y dylai’r cyfarfod hwn ddigwydd cyn gynted â phosibl yn ystod y cam datrys cynnar er mwyn osgoi oedi posibl sy’n gallu digwydd weithiau yn ystod cam mwy ffurfiol trin cwynion. Cynigir bod y cam datrys cynnar hwn hefyd yn cynnwys dull ‘ymateb gweithredol’. Bydd gan gorff y GIG 10 neu 15 diwrnod i geisio gweithredu’r datrysiad y gofynnwyd amdano gan y sawl sy’n lleisio’r pryder, a bod hynny’n foddhaol. Cynigir opsiwn eithriad, felly os yw unigolyn sy’n lleisio pryder neu gŵyn yn teimlo nad yw’r mater yn briodol ar gyfer y dewis datrys cynnar (cam un), bydd modd symud yn syth i’r cam ffurfiol (cam dau).

Cwestiwn 4

A ydych chi’n cytuno y dylid ymestyn y terfyn amser o ddau ddiwrnod ar gyfer cam cyntaf proses pryderon a chwynion Gweithio i Wella?

Cwestiwn 5

Os ydych chi’n credu y dylid ymestyn y cam datrys cynnar, ydych chi’n ystyried mai 10 diwrnod gwaith neu 15 diwrnod gwaith yw’r amserlen fwyaf priodol?

Cwestiwn 6

A ydych chi’n cytuno y dylai fod yn orfodol i gyrff y GIG gynnig cyfarfod gwrando? (Gall yr achwynydd dderbyn neu wrthod y cynnig hwn.)

Cyfathrebu gwell wrth ymdrin â chwynion

Mae llawer o gleifion a’u teuluoedd sy’n lleisio pryderon am ofal yn cael profiad cadarnhaol iawn, ac maent yn cael eu cefnogi ac yn derbyn ymateb caredig.

Fodd bynnag, mae rhanddeiliaid yn datgan nad yw hyn bob amser yn wir. Yn aml, mae cleifion a’u teuluoedd yn derbyn llythyrau hir sydd wedi cymryd misoedd lawer i’w paratoi. Os bydd cleifion yn lleisio pryder am gamgymeriad neu fwlch mewn gofal sydd wedi digwydd, neu os ydynt yn derbyn ymateb di-fudd, efallai y byddant yn profi ymateb chwith naturiol i lythyr sydd wedi’i eirio’n or-gyfreithiol ac yn cyfeirio at dermau megis torri dyletswydd ac achosiad. Soniodd rhai cleifion fod y llythyr wedi’u drysu, neu eu bod yn teimlo nad oedd yn ateb y pryder a leisiwyd ganddynt sawl mis ynghynt. Roedd rhai cleifion o’r farn fod y llythyr yn amddiffynnol, yn elyniaethus neu’n frawychus. Roedd canfyddiad hefyd, ar ôl ymchwiliad hir, fod y ffocws ar gytuno ar setliad yn hytrach nag awydd gwirioneddol i ddysgu o’r broses.

Mae llawer o uwch arweinwyr wedi mynegi rhwystredigaeth debyg gyda chanllawiau a rheoliadau Gweithio i Wella sy’n pennu gofynion ar gyfer cynnwys llythyrau, ac mae llawer wedi mynegi awydd i sicrhau bod eu llythyrau yn fwy tosturiol o ran cynnwys, iaith ac effaith.

Rydym eisiau sicrhau bod pobl sy’n lleisio pryder yn teimlo bod yr awdurdodau yn gwrando arnynt a’u bod yn deall yn llawn yr ymateb y mae corff y GIG yn ei ddarparu i’w pryder neu gŵyn. Rydym yn bwriadu ei gwneud yn ofynnol i gorff y GIG gynnwys taflen ffeithiau gyda’r llythyr gan gorff y GIG, yn egluro unrhyw dermau cyfreithiol/technegol sydd ynddo.

Cwestiwn 7

Pan fydd cleifion yn derbyn llythyrau gan gorff y GIG yn ymateb i bryderon neu gwynion, a fyddai’n ddefnyddiol cynnwys taflen ffeithiau hefyd yn egluro’r termau cyfreithiol a/neu dechnegol yn y llythyr?

Mae’r rheoliadau Gweithio i Wella cyfredol (rheoliad 24 (1)) yn mynnu bod yr ymateb i bryder:

  • (a) yn crynhoi natur a sylwedd y mater neu’r materion sy’n rhan o’r pryder
  • (b) yn disgrifio’r ymchwiliad a wnaed yn unol â rheoliad 23
  • (c) yn cynnwys copïau o unrhyw farn arbenigol y mae’r person sy’n ymchwilio i’r pryder wedi ei dderbyn yn ystod yr ymchwiliad
  • (d) yn cynnwys copi o unrhyw gofnodion meddygol perthnasol, pan fo hynny’n briodol
  • (e) pan fo’n briodol, yn cynnwys ymddiheuriad
  • (f) yn nodi pa gamau, os o gwbl, a gymerir yng ngoleuni canlyniad yr ymchwiliad
  • (g) yn cynnwys manylion yr hawl i hysbysu’r pryder i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
  • (h) yn cynnig cyfle i’r person sy’n hysbysu’r pryder drafod cynnwys yr ymateb gyda’r swyddog cyfrifol neu berson sy’n gweithredu ar ei ran
  • (i) wedi’i lofnodi gan y swyddog cyfrifol neu berson sy’n gweithredu ar ei ran

Mae rheoliad 26 (1) o’r rheoliadau Gweithio i Wella yn dod i rym pan fo corff y GIG o’r farn y gallai atebolrwydd cymwys fodoli (dyma lle mae corff y GIG o’r farn bod gofal islaw’r safon a ddisgwylir wedi digwydd ac y gallai fod wedi achosi niwed i’r claf).

Yn ogystal ag is-baragraffau (a) i (i) a restrir uchod, dylai’r adroddiad interim o dan reoliad 26 o’r rheoliadau Gweithio i Wella hefyd gynnwys esboniad o’r weithdrefn a gaiff ei dilyn i benderfynu a oes atebolrwydd cymwys yn bodoli ai peidio a’r weithdrefn ar gyfer gwneud cynnig gwneud iawn, cadarnhau y bydd copi o’r adroddiad ymchwiliad ar gael i’r person sy’n ceisio iawn, egluro argaeledd mynediad at gyngor cyfreithiol yn ddi-dâl yn unol â darpariaethau rheoliad 32, ac egluro argaeledd gwasanaethau eiriolaeth a chymorth a allai fod o gymorth.

Cwestiwn 8

A ydych chi’n credu y dylid adolygu’r gofynion rheoleiddio ar gyfer cynnwys llythyrau ymateb gan gorff y GIG, fel yr amlinellir uchod, gyda’r bwriad o leihau’r iaith gyfreithiol a gwella’r eglurder?

Cwestiwn 9

A ddylid cynnwys unrhyw beth arall yn y llythyrau hyn gan gorff y GIG?

Rydym yn bwriadu diwygio rheoliad 31 o’r rheoliadau Gweithio i Wella (adroddiad ymchwiliad) i ddarparu’r cynnig o gyfarfod personol i drafod canfyddiadau ymchwiliad i bryder lle mae gwneud iawn wedi’i ystyried. Gall hyn fod yn berthnasol mewn amgylchiadau lle mae gwybodaeth newydd wedi dod i’r fei ers i’r adroddiad interim gael ei ddarparu.

Bydd y cynnig ar gyfer cyfarfod personol a allai fod dros y ffôn, dros alwad fideo neu'n gyfarfod wyneb yn wyneb, lle caiff achwynwyr gyfle i drafod canfyddiadau’r ymchwiliad a chael eglurhad o unrhyw gynnwys technegol neu gyfreithiol.

Gall achwynwyr wrthod y cynnig os ydynt yn ffafrio cyfathrebu ysgrifenedig yn unig.

Cwestiwn 10

Ar ôl i ymchwiliad ddod i ben, a fyddai’n ddefnyddiol cynnal cyfarfod â chorff y GIG lle y gall yr achwynwyr drafod canlyniad yr ymchwiliad ac ymateb corff y GIG?

Mae’r rheoliadau Gweithio i Wella presennol yn nodi y dylid cwblhau adroddiad ar bryder neu gŵyn o fewn 30 diwrnod gwaith.[troednodyn 1] Mae estyniadau o hyd at chwe mis neu ddeuddeg mis yn bosibl mewn amgylchiadau eithriadol. Gall rhai enghreifftiau fod yn achosion clinigol gymhleth lle mae mwy nag un corff y GIG wedi bod yn rhan o ddarparu’r gofal neu os yw’r darparwr mewn gwlad arall yn y DU, neu lle bydd adolygiad allanol o’r achos gan y crwner neu’r Gwasanaeth Archwilio Meddygol. Roedd adborth cynnar gan randdeiliaid yn sôn yn gyson fod y targed o 30 diwrnod gwaith yn afrealistig ac anaml y byddai’n cael ei fodloni’n llwyddiannus.

Mae cleifion wedi sôn am brofiadau o beidio â gwybod beth sy’n digwydd a chyfathrebu prin iawn gan gyrff y GIG ar y dyddiad yr oeddent yn disgwyl derbyn diweddariad, sy’n tanseilio eu ffydd yn y system a’u perthynas â chorff y GIG.

Ym mis Mai 2023, mabwysiadodd GIG Cymru y Polisi Cenedlaethol ar Adrodd am Ddigwyddiadau i nodi disgwyliadau clir ar gyfer rheoli ac adrodd am ddigwyddiadau diogelwch cleifion ledled GIG Cymru. Mae’r polisi hwn yn caniatáu amrywiaeth o amserau ymateb o 30, 60, 90 neu 120 diwrnod gan ddibynnu ar gymhlethdod yr ymchwiliad. Rydym yn cynnig cydweddu’r rheoliadau Gweithio i Wella ag amserlenni’r polisi adrodd cenedlaethol. Bydd pobl sy’n lleisio pryderon neu gwynion yn cael gwybod am amserlen yr ymchwiliad ac am ei gynnydd.

Cwestiwn 11

A ydych chi’n cytuno y dylai’r rheoliadau Gweithio i Wella adlewyrchu’r polisi cenedlaethol ar adrodd am ddigwyddiadau a chynnwys amrywiaeth o amserau ymateb o 30, 60, 90 neu 120 diwrnod, yn dibynnu ar gymhlethdod yr ymchwiliad?

Adlewyrchu newidiadau yn GIG Cymru

Mae gofal iechyd yng Nghymru wedi gweld nifer o newidiadau ers 2011, pan gyflwynwyd y rheoliadau Gweithio i Wella gwreiddiol. Bellach, mae gan gleifion GIG Cymru fynediad gwell at ofal digidol a rhithwir. Mae mwy o ffocws ar ofal integredig, lle y mae sefydliadau yn dod ynghyd i gynllunio a darparu gwasanaethau iechyd a gofal cydgysylltiedig, ac mae mwy o ddefnydd o’r sector annibynnol i ddarparu gofal a ariennir gan y GIG.

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu diweddaru’r rheoliadau Gweithio i Wella i adlewyrchu’r newidiadau hyn. Y nod yw archwilio sut y gellir cynnwys gofal a ddarperir ar ran y GIG gan y sector annibynnol yn y system gwneud iawn. Nid yw’n cael ei gynnig ar hyn o bryd oherwydd nifer o gymhlethdodau, gan gynnwys penderfynu ar berchnogaeth atebolrwydd. Gall hyn arwain at annhegwch o ran argaeledd system gwneud iawn GIG Cymru.

Yr amcan yw bod yn rhaid cael system i leisio pryderon am eich gofal lle bynnag y darperir eich gofal GIG. Ni ddylech fod dan anfantais, cael eich trin yn wahanol, neu fod â llai o fynediad at iawn oherwydd pwy sy’n darparu’ch gofal.

Cwestiwn 12

A ydych chi’n cytuno y dylai darparwyr gofal iechyd annibynnol a ariennir gan GIG Cymru i ddarparu gofal gael eu cynnwys yn nhrefniadau gwneud iawn Gweithio i Wella?

Strategaeth iechyd hirdymor Llywodraeth Cymru yw darparu mwy o wasanaethau gofal iechyd yn y gymuned ac yn nes at y cartref yn hytrach nag mewn ysbytai. Byddwn felly’n ystyried a yw’n bosibl cynnwys darparwyr gofal sylfaenol fel meddygon teulu, optometryddion, fferyllwyr a deintyddion ym mhroses gwneud iawn Gweithio i Wella.

Cwestiwn 13

A ydych chi’n cytuno y dylai darparwyr gofal sylfaenol, megis meddygon teulu, optometryddion, fferyllwyr a deintyddion, gael eu cynnwys yn nhrefniadau gwneud iawn Gweithio i Wella?

Plant a phobl ifanc

Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) yn gytundeb rhyngwladol sy’n nodi hawliau plant. Mae dyletswydd gyfreithiol ar Lywodraeth Cymru i ystyried CCUHP wrth ddatblygu neu adolygu polisi, felly rydym yn ceisio mewnbwn ar sut i adlewyrchu anghenion plant a phobl ifanc yn well yn y broses Gweithio i Wella.

Cwestiwn 14

Yn eich barn chi, beth sydd angen ei wneud i sicrhau bod y broses Gweithio i Wella yn fwy cynhwysol i blant a phobl ifanc?

Gwneud iawn ar ffurf iawndal ariannol

Weithiau, pan fydd niwed difrifol wedi digwydd, cynigir iawn ar ffurf iawndal ariannol i achwynydd. Gall iawn fod yn ariannol, neu gall gymryd ffurf camau gweithredu sy’n darparu datrysiad – er enghraifft, darparu triniaeth frys, rhoi esboniad, ymddiheuriad, ac adroddiad ar y camau sydd wedi’u cymryd, neu a fydd yn cael eu cymryd, megis ymrwymiad i hyfforddi staff fel bod modd iddynt ddysgu o’r digwyddiad ac atal yr un peth rhag digwydd eto.

Er mwyn i gorff y GIG ystyried cynnig gwneud iawn, y trothwy presennol ar gyfer iawndal[troednodyn 2] (nid costau cyfreithiol gan fod y rhain yn cael eu trin ar wahân) yw £25,000.

Dros y degawd diwethaf, mae canllawiau’r Coleg Barnwrol[troednodyn 3] o ran iawndal ar gyfer pob math o anaf personol wedi cael eu hadolygu, ac mae pob un wedi cynyddu’n sylweddol. Yn anfwriadol, mae mwy o achosion yn cael eu symud allan o drefn gwneud iawn Gweithio i Wella gan fod cyfanswm yr iawndal bellach yn fwy na £25,000. O ganlyniad, mae mwy o achosion yn dilyn llwybrau ymgyfreitha. Gall yr achosion hyn fod yn ddrud i’r GIG ac i’r sawl a allai dderbyn yr iawndal.

Rydym yn bwriadu codi’r trothwy ariannol ar gyfer yr achosion y gellir delio â hwy drwy Gweithio i Wella o £25,000 i £50,000, fel bod modd ymdrin â mwy o achosion drwy broses gwneud iawn Gweithio i Wella yn hytrach nag ymgyfreitha preifat drud. Dim ond yr achosion y gellir ymdrin â hwy drwy broses gwneud iawn Gweithio i Wella sy’n cael eu heffeithio gan y cynnig hwn. Nid yw’n cyfyngu mewn unrhyw ffordd ar yr iawndal a roddir i’r person sydd wedi dioddef niwed.

Cwestiwn 15

A ydych chi’n cytuno y dylid codi terfyn uchaf yr iawndal ar gyfer achosion ym mhroses gwneud iawn Gweithio i Wella o £25,000 i £50,000?

Pryderon brys a niwed bwriadol

Yn sgil myfyrio ar achosion proffil uchel diweddar a hanesyddol o niwed bwriadol i gleifion sydd wedi arwain at sylw eang yn y cyfryngau, teimlwn fod angen i ganllawiau Gweithio i Wella gynnwys eglurhad o’r broses ar gyfer lleisio pryderon lle gallai fod yna berygl o niwed neu gam-drin.

Mae’n hanfodol bod eglurder ar gyfer y broses o gyflwyno pryderon a chwynion yn yr achosion prin hynny lle y bydd cleifion wedi’u niweidio’n fwriadol. O dan weithdrefnau diogelu Cymru gyfan, mae dulliau cyflym, cyfarwydd iawn ar gyfer uwchgyfeirio ac ymchwilio i bryderon sy’n ymwneud â niwed neu gamdriniaeth drwy’r dull o gydweithio rhwng gwasanaethau cymdeithasol, yr heddlu, iechyd ac asiantaethau eraill. Mae rhagor o wybodaeth am weithdrefnau diogelu ar gyfer oedolion a phlant sydd mewn perygl yn y dolenni canlynol:

Mae Llywodraeth Cymru am sicrhau y cyfeirir yn glir at y mecanweithiau hyn a’u bod yn cael eu hesbonio’n glir hefyd yn y canllawiau Gweithio i Wella a deunyddiau ategol.

Cwestiwn 16

A ydych chi’n cytuno y dylid adolygu a diweddaru canllawiau Gweithio i Wella i gynnwys llwybr uwchgyfeirio ac adrodd cyflym i hybiau diogelu lleol ac awdurdodau perthnasol eraill, fel yr heddlu, mewn achosion lle mae honiad fod claf mewn perygl o ddioddef niwed neu gam-drin?

Pan fydd pryder yn cael ei leisio sy’n golygu bod yn rhaid i gorff y GIG adrodd i’r hwb diogelu neu i’r heddlu er mwyn ymchwilio, mae’n arfer cyffredin i gorff y GIG oedi unrhyw ymchwiliad pellach i’r pryder hwnnw nes bod ymchwiliad yr heddlu a/neu ymchwiliad diogelu wedi’u cwblhau.

Weithiau, bydd yr heddlu neu’r tîm diogelu yn rhoi caniatâd i ymchwiliad y GIG barhau, ond os oes pryderon difrifol am niwed, esgeulustod neu gam-drin bwriadol, gall ymchwiliad o’r fath beryglu’r ymchwiliad troseddol. Nid yw’r rheoliadau Gweithio i Wella ar hyn o bryd yn caniatáu oedi i’r amserlen y mae cyrff y GIG yn ddarostyngedig iddi o dan yr amgylchiadau hyn nac unrhyw amgylchiadau eraill. Fel yr eglurir uchod, mae’r rheoliadau Gweithio i Wella yn nodi y dylid darparu ymateb neu adroddiad interim i bryder neu gŵyn o fewn 30 diwrnod gwaith, gydag estyniadau posibl am hyd at chwe mis neu ddeuddeg mis mewn amgylchiadau eithriadol. Rydym yn bwriadu cynnwys eithriad i’r amserlen y mae cyrff y GIG yn ddarostyngedig iddi yn benodol lle mae angen i ymchwiliad troseddol neu ddiogelu gael blaenoriaeth.

Cwestiwn 17

A ydych chi’n cefnogi’r eithriad arfaethedig i’r amserlen bresennol ar gyfer pryderon neu gwynion lle mae angen i ymchwiliad troseddol neu ddiogelu gael blaenoriaeth?

Profedigaeth

Yn aml, mae gan deuluoedd ac anwyliaid gwestiynau am y digwyddiadau a arweiniodd at farwolaeth. Gall y cwestiynau hyn gwmpasu pryder ond nid cwyn o reidrwydd. Mae cyrff y GIG yn asesu pryderon am farwolaethau fel pryderon difrifol ac yn aml yn teimlo’r angen i gynnal ymchwiliad manwl drwy’r cam ffurfiol, sy’n cymryd amser.

Lle mae hynny’n bosibl, rydym yn cynnig ymdrin â’r pryderon hyn drwy’r broses datrys cynnar, lle mae’n rhaid i fyrddau iechyd gynnig cyfarfod i drafod pryderon neu gwynion. Y pwrpas yw ymdrin yn gyflym ac yn sensitif â’r rhai sydd wedi dioddef profedigaeth ond sydd â chwestiynau heb eu hateb, neu bryderon ynghylch amgylchiadau marwolaeth rhywun sy’n annwyl iddynt. Mewn achosion o’r fath, gellir cynnwys y tîm clinigol yn y cyfarfod lle mae cwestiynau i’w hateb am ofal clinigol yr ymadawedig.

Ynghyd â’r amserlen estynedig arfaethedig ar gyfer datrys cynnar fel y nodir uchod, gallai hyn alluogi achosion o’r fath i gael eu rheoli yn ystod y cam datrys cynnar heb orfod aros misoedd lawer am ymateb ffurfiol, gan gefnogi’r llwybr gofal ar ôl marwolaeth a phrofedigaeth. Bydd opsiwn o hyd i’r teulu nodi y byddai’n well ganddynt leisio pryder drwy’r cam ffurfiol, neu leisio eu pryderon gyda’r Gwasanaeth Archwilio Meddygol, yr heddlu, neu Grwner Ei Fawrhydi.

Cwestiwn 18

Pan fydd claf yn marw, a bod gan ei anwyliaid bryderon am ei ofal, a ydych chi’n cytuno y dylai corff y GIG ddefnyddio’r cyfarfod gwrando sy’n cael ei gynnig yn y cam datrys cynnar (cam un) er mwyn ceisio datrys pryderon yr unigolyn/unigolion mewn profedigaeth yn gyflym?

Darparu cyngor cyfreithiol am ddim

Mae’r broses Gweithio i Wella yn cynnwys rhoi cyngor cyfreithiol annibynnol i’r achwynwyr, a ariennir gan y GIG, nad yw’n effeithio ar lefel yr iawndal a gynigir o dan drefniadau gwneud iawn y GIG. Mae data mewnol gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn nodi mai dim ond 31% o’r cleifion sy’n codi pryder neu’n gwneud cwyn sy’n defnyddio’r cyllid sydd ar gael ar gyfer y cyngor cyfreithiol hwn ar hyn o bryd. Adroddodd rhai cleifion eu bod yn ymddiried yng nghorff y GIG ac nad ydynt yn dymuno ceisio cyngor cyfreithiol; dywedodd rhai na chawsant wybod am yr opsiynau; a nododd rhai nad oedd eu cyfreithiwr yn fodlon gweithio gyda’r strwythur ffioedd yn Gweithio i Wella.

Cwestiwn 19

A fyddech chi’n fwy tebygol o ofyn am gymorth gan gyfreithiwr ynghylch pryder neu gŵyn pe byddech yn gwybod bod y cyngor cyfreithiol yn cael ei ddarparu am ddim? Er enghraifft, gallai hyn gynnwys cyfarwyddyd ar y cyd gan arbenigwr meddygol i adolygu’r achos neu roi cyngor cyfreithiol ar unrhyw gytundeb neu gynnig setliad.

Rydym yn bwriadu cynyddu’r ffioedd y gall y darparwr gofal iechyd eu talu i gyfreithwyr gan ddefnyddio proses gwneud iawn Gweithio i Wella er mwyn rhoi mynediad gwell at gyngor cyfreithiol am ddim i’r rheini sy’n codi pryderon ac yn gwneud cwynion.

Darperir ar gyfer y trefniadau presennol i dalu am gyngor cyfreithiol o dan reoliadau Gweithio i Wella 2011, ac fe’u nodir yn Atodiad O y canllawiau Gweithio i Wella fel yr amlinellir isod.

Ar hyn o bryd, gall cynrychiolydd cyfreithiol yr hawlydd dderbyn £1,600 am:

  • ystyried Torri Dyletswydd ac ymchwilio i achosiad, gan gynnwys comisiynu hyd at ddau adroddiad arbenigol neu
  • adolygu priodoldeb y cynnig gan gorff y GIG i’r achwynydd

Gall dderbyn taliad pellach i adolygu unrhyw adroddiad ychwanegol ar y cyflwr a’r prognosis am amcangyfrifiad o iawndal.

Gall y cynrychiolydd cyfreithiol dderbyn £868 ychwanegol i gynghori’r achwynydd lle mae corff y GIG yn cyfaddef Rhwymedigaeth Gymhwyso ond yn gwrthod cynnig iawndal.

Rydym yn cynnig symleiddio’r system ffioedd gyfredol a disodli’r uchod gyda:

  • taliad 1: am roi cyngor am addefiad o atebolrwydd a wnaed (£1,750)[troednodyn 4]
  • taliad 2: darparu cyngor ar gwantwm yr iawndal  lle cyrhaeddir setliad o dan y trefniadau gwneud iawn o (£1,000)

Mae’r ffioedd diwygiedig yn ystyried costau cynyddol ers 2011, y dyddiad y gweithredwyd Gweithio i Wella am y tro cyntaf. Mae’r holl ffigurau uchod yn cynrychioli’r ffioedd cyn ychwanegu TAW.

Fel sy’n digwydd ar hyn o bryd, mae’n bosibl y bydd taliadau ychwanegol ar gael ar gyfer cyfarwyddo arbenigwyr ychwanegol neu gynghori’r achwynydd lle mae corff y GIG yn addef Rhwymedigaeth Gymhwyso ond yn gwrthod cynnig iawn.

Cwestiwn 20

A ydych chi’n cytuno y dylid cynyddu’r ffioedd cyfreithiol sefydlog sy’n cael eu talu gan y darparwr gofal iechyd, gyda’r bwriad o gynyddu nifer y cyfreithwyr sy’n darparu cyngor cyfreithiol i bobl sy’n codi pryderon a chwynion?

Safonau’r Gymraeg

Hoffem wybod eich barn am yr effeithiau y byddai ein newidiadau arfaethedig i’r broses Gweithio i Wella yn eu cael ar y Gymraeg; yn benodol, ar y cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg mewn modd llai ffafriol na’r Saesneg.

Rydym am i’r polisi arfaethedig gael effeithiau cadarnhaol, neu mwy o effeithiau cadarnhaol, ar gyfleoedd pobl i ddefnyddio’r Gymraeg; ar beidio â thrin y Gymraeg mewn modd llai ffafriol na’r Saesneg; ac atal unrhyw effeithiau andwyol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg.

Cwestiwn 21

Yn eich barn chi, beth fyddai effeithiau tebygol y newidiadau arfaethedig i Gweithio i Wella ar y Gymraeg? Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn unrhyw effeithiau tebygol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Cwestiwn 22

A ydych chi’n meddwl bod cyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol?

Cwestiwn 23

A ydych chi’n meddwl bod cyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?

Cwestiwn 24

Yn eich barn chi, a oes modd llunio’r newidiadau arfaethedig i Gweithio i Wella, neu eu newid:

  • fel eu bod yn cael effeithiau cadarnhaol neu fwy cadarnhaol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg a pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg neu
  • fel eu bod yn lliniaru unrhyw effeithiau andwyol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg a pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg?

Cwestiwn 25

Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os hoffech wneud sylwadau ar unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi rhoi sylw penodol iddynt, defnyddiwch y blwch isod.

Camau nesaf

Ar ôl yr ymgynghoriad hwn, byddwn yn ystyried yr ymatebion ac yn rhoi sylw iddynt wrth lunio’r rheoliadau a’r canllawiau cysylltiedig.

Unwaith y bydd yr holl ymatebion wedi’u hystyried, bydd Ymateb gan y Llywodraeth yn cael ei gyhoeddi ar ein gwefan.

Ein bwriad yw y bydd gwelliannau arfaethedig yn cael eu gwneud drwy reoliadau a ddaw i rym yn 2024.

Mae’n bosibl y bydd y dyddiad hwn yn newid gan ddibynnu ar ganlyniad yr ymgynghoriad a’r prosesau deddfwriaethol gofynnol.

Cwestiynau’r ymgynghoriad

Cwestiwn 1

Os hoffech roi gwybod i ni am bryder neu gŵyn a fynegwyd gennych am y gofal a gawsoch gan GIG Cymru, gwnewch hynny isod.

Cwestiwn 2

A ydych chi’n cytuno bod angen adolygu’r weithdrefn y mae cyrff y GIG yn ei dilyn cyn i’r ymchwiliad ffurfiol ddechrau?

Cwestiwn 3

A ydych chi’n cytuno bod angen gofynion rheoleiddiol clir ynghylch y camau i’w cymryd yn ystod y cam datrys cynnar (cam un)? Os felly, rhowch eich awgrymiadau yn y blwch isod.

Cwestiwn 4

A ydych chi’n cytuno y dylid ymestyn y terfyn amser o ddau ddiwrnod ar gyfer cam cyntaf proses pryderon a chwynion Gweithio i Wella?

Cwestiwn 5

Os ydych chi’n credu y dylid ymestyn y cam datrys cynnar, ydych chi’n ystyried mai 10 diwrnod gwaith neu 15 diwrnod gwaith yw’r amserlen fwyaf priodol?

Cwestiwn 6

A ydych chi’n cytuno y dylai fod yn orfodol i gyrff y GIG gynnig cyfarfod gwrando? (Gall yr achwynydd dderbyn neu wrthod y cynnig hwn.)

Cwestiwn 7

Pan fydd cleifion yn derbyn llythyrau gan gorff y GIG yn ymateb i bryderon neu gwynion, a fyddai’n ddefnyddiol cynnwys taflen ffeithiau hefyd yn egluro’r termau cyfreithiol a/neu dechnegol yn y llythyr?

Cwestiwn 8

A ydych chi’n credu y dylid adolygu’r gofynion rheoleiddio ar gyfer cynnwys llythyrau ymateb gan gorff y GIG, fel yr amlinellir uchod, gyda’r bwriad o leihau’r iaith gyfreithiol a gwella’r eglurder?

Cwestiwn 9

A ddylid cynnwys unrhyw beth arall yn y llythyrau hyn gan gorff y GIG?

Cwestiwn 10

Ar ôl i ymchwiliad ddod i ben, a fyddai’n ddefnyddiol cynnal cyfarfod â chorff y GIG lle y gall yr achwynwyr drafod canlyniad yr ymchwiliad ac ymateb corff y GIG?

Cwestiwn 11

A ydych chi’n cytuno y dylai’r rheoliadau Gweithio i Wella adlewyrchu’r polisi cenedlaethol ar adrodd am ddigwyddiadau a chynnwys amrywiaeth o amserau ymateb o 30, 60, 90 neu 120 diwrnod, yn dibynnu ar gymhlethdod yr ymchwiliad?

Cwestiwn 12

A ydych chi’n cytuno y dylai darparwyr gofal iechyd annibynnol a ariennir gan GIG Cymru i ddarparu gofal gael eu cynnwys yn nhrefniadau gwneud iawn Gweithio i Wella?

Cwestiwn 13

A ydych chi’n cytuno y dylai darparwyr gofal sylfaenol, megis meddygon teulu, optometryddion, fferyllwyr a deintyddion, gael eu cynnwys yn nhrefniadau gwneud iawn Gweithio i Wella?

Cwestiwn 14

Yn eich barn chi, beth sydd angen ei wneud i sicrhau bod y broses Gweithio i Wella yn fwy cynhwysol i blant a phobl ifanc?

Cwestiwn 15

A ydych chi’n cytuno y dylid codi terfyn uchaf yr iawndal ar gyfer achosion ym mhroses gwneud iawn Gweithio i Wella o £25,000 i £50,000?

Cwestiwn 16

A ydych chi’n cytuno y dylid adolygu a diweddaru canllawiau Gweithio i Wella i gynnwys llwybr uwchgyfeirio ac adrodd cyflym i hybiau diogelu lleol ac awdurdodau perthnasol eraill, fel yr heddlu, mewn achosion lle mae honiad fod claf mewn perygl o ddioddef niwed neu gam-drin?

Cwestiwn 17

A ydych chi’n cefnogi’r eithriad arfaethedig i’r amserlen bresennol ar gyfer pryderon neu gwynion lle mae angen i ymchwiliad troseddol neu ddiogelu gael blaenoriaeth?

Cwestiwn 18

Pan fydd claf yn marw, a bod gan ei anwyliaid bryderon am ei ofal, a ydych chi’n cytuno y dylai corff y GIG ddefnyddio’r cyfarfod gwrando sy’n cael ei gynnig yn y cam datrys cynnar (cam un) er mwyn ceisio datrys pryderon yr unigolyn/unigolion mewn profedigaeth yn gyflym?

Cwestiwn 19

A fyddech chi’n fwy tebygol o ofyn am gymorth gan gyfreithiwr ynghylch pryder neu gŵyn pe byddech yn gwybod bod y cyngor cyfreithiol yn cael ei ddarparu am ddim? Er enghraifft, gallai hyn gynnwys cyfarwyddyd ar y cyd gan arbenigwr meddygol i adolygu’r achos neu roi cyngor cyfreithiol ar unrhyw gytundeb neu gynnig setliad.

Cwestiwn 20

A ydych chi’n cytuno y dylid cynyddu’r ffioedd cyfreithiol sefydlog sy’n cael eu talu gan y darparwr gofal iechyd, gyda’r bwriad o gynyddu nifer y cyfreithwyr sy’n darparu cyngor cyfreithiol i bobl sy’n lleisio pryderon a chwynion?

Cwestiwn 21

Yn eich barn chi, beth fyddai effeithiau tebygol y newidiadau arfaethedig i Gweithio i Wella ar y Gymraeg? Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn unrhyw effeithiau tebygol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Cwestiwn 22

A ydych chi’n meddwl bod cyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol?

Cwestiwn 23

A ydych chi’n meddwl bod cyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?

Cwestiwn 24

Yn eich barn chi, a oes modd llunio’r newidiadau arfaethedig i Gweithio i Wella, neu eu newid:

  • fel eu bod yn cael effeithiau cadarnhaol neu fwy cadarnhaol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg a pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg neu
  • fel eu bod yn lliniaru unrhyw effeithiau andwyol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg a pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg?

Cwestiwn 25

Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os hoffech wneud sylwadau ar unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi rhoi sylw penodol iddynt, defnyddiwch y blwch isod.

Sut i ymateb

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 6 Mai 2024, drwy unrhyw un o'r ffyrdd a ganlyn:

  • llenwi ein ffurflen ar-lein
  • lawrlwytho, llenwi ein ffurflen ymateb a’i hanfon ar e-bost ansawddanyrsio@llyw.cymru
  • lawrlwytho, llenwi ein ffurflen ymateb a’i phostio i:

Yr Is-adran Ansawdd a Nyrsio
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu
  • (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

Mae ymatebion i ymgynghoriadau yn debygol o gael eu cyhoeddi’n gyhoeddus, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os hoffech i’ch ymateb aros yn ddienw, dywedwch wrthym ni

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data

Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: data.protectionofficer@llyw.cymru

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn : 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Rheoliadau Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarparwch fel rhan o’ch ymateb i’r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan y staff Llywodraeth Cymru sy’n ymdrin â’r materion y mae’r ymgynghoriad hwn yn eu trafod neu sy’n cynllunio ymgynghoriadau yn y dyfodol. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o ymatebion i ymgynghoriadau, yna gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Gwneir unrhyw waith o’r fath o dan gontract yn unig. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o’r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Yna byddwn yn eu golygu cyn eu cyhoeddi.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o’n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth.

Gwybodaeth bellach a dogfennau cysylltiedig

Rhif: WG48825

Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd amgen. Os ydych am gael y ddogfen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.

Troednodiadau

[1] Gweler rheoliadau 24 a 26 o’r rheoliadau Gweithio i Wella (ymateb) a (ymateb i ymchwiliad o dan reoliad 23 pan benderfynir bod, neu y gall fod, atebolrwydd cymwys).

[2] Mae iawndal yn cyfeirio at gyfanswm yr arian a ddyfernir gan lys i ddigolledu hawlydd.

[3] Coleg Barnwrol 2023 Judicial College Guidelines 16eg argraffiad. Canllawiau asesu iawndal cyffredinol mewn achosion o niwed personol, Thomson Reuters.

[4] Mae cwantwm yr iawndal yn derm cyfreithiol sy’n golygu cyfanswm yr arian a ddyfernir fel iawndal am gamwedd sifil. Yr egwyddor sylfaenol yw bod hawl gan yr hawlydd i gael ei roi yn y sefyllfa y byddai wedi bod ynddi pe na bai’r anaf wedi digwydd, i’r graddau y gall arian gyflawni hynny.