Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Mae cymorth i dalu'r Dreth Gyngor drwy Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor gan Lywodraeth Cymru (‘y cynllun’) yn rhan bwysig o gymorth lles i aelwydydd ar incwm isel. Yn hanesyddol, niferoedd bach o breswylwyr a allai fod yn gymwys sydd wedi manteisio ar y cynllun, a gaiff ei weinyddu'n lleol gan gynghorau, ac mae nifer yr aelwydydd sy'n cael gostyngiad yn y Dreth Gyngor yn parhau i ostwng. 

Mae'r ymgynghoriad technegol hwn yn cynnig gwneud nifer o newidiadau i'r cynllun er mwyn ei gwneud yn haws i fanteisio arno ac yn symlach i'w weinyddu. Nid oes unrhyw beth yn yr ymgynghoriad hwn yn gosod cyfyngiadau newydd ar gymhwystra presennol ar gyfer y cynllun. 

Cyflwyniad i Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor

Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i wella Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor, sy'n rhoi cymorth hanfodol i oddeutu 261,000 o aelwydydd incwm isel ledled Cymru. Ers cyflwyno'r cynllun yn 2013, rydym wedi parhau i ddiogelu aelwydydd sy'n agored i niwed ac aelwydydd incwm isel drwy barhau â hawliadau llawn i gymorth. Rydym yn disgwyl bod angen parhaus i ddarparu cynllun ac rydym yn adolygu'r ddeddfwriaeth, dyluniad y cynllun a'r ffordd y caiff ei weinyddu, gyda'r nod o'i gwneud yn haws i fanteisio ar Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a gwneud y cynllun yn haws i'w weinyddu. Fodd bynnag, mae'n bwysig pwysleisio nad yw Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor yn cael ei ddiddymu ac ni chyfyngir ar gymhwystra.

Ar hyn o bryd, mae'n ofynnol i bob awdurdod lleol yng Nghymru fabwysiadu ei Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor lleol ei hun, yn seiliedig ar ofynion a ragnodwyd yn genedlaethol a nodir mewn rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru. Er bod nifer bach o feysydd lle y gellir arfer disgresiwn lleol, yn ymarferol mae hyn yn arwain at gynlluniau sydd fwy neu lai yr un peth ledled Cymru.

Yn ystod haf 2023, gwnaethom ymgynghori ynghylch a ddylid rhoi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i sefydlu un cynllun cenedlaethol, a weinyddir yn lleol gan gynghorau lleol. Roedd y mwyafrif o'r ymatebion i'r ymgynghoriad o blaid y cynigion. O ganlyniad, cafodd y newidiadau hyn eu cynnwys mewn Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru), a gafodd ei osod gerbron y Senedd ar 20 Tachwedd 2023. Gallwch ddilyn hynt y Bil ar wefan y Senedd.

Mae Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) yn cynnwys darpariaethau i wneud y canlynol:

  • Gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i nodi cynllun gostyngiadau cenedlaethol mewn rheoliadau gyda dyletswydd ar awdurdodau lleol i weinyddu'r cynllun yn lleol
  • Galluogi Gweinidogion Cymru i roi canllawiau i awdurdodau lleol ar y ffordd y dylid rhoi'r cynllun ar waith
  • Os caiff ei basio, bydd yn golygu bod modd gwneud newidiadau yn ystod y flwyddyn, gan alluogi Gweinidogion Cymru i newid y cynllun er mwyn ymateb i unrhyw ddigwyddiadau annisgwyl sy'n deillio o newidiadau yn yr economi neu gymdeithas, megis yr argyfwng costau byw, yn hytrach na gorfod aros tan ddechrau'r flwyddyn ariannol nesaf

Credwn y bydd y newidiadau a gyflwynir yn y Bil, os caiff ei basio, yn cynnig cyfleoedd pellach i safoni a chysoni'r ffordd y caiff Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor ei roi ar waith yng Nghymru. Mae'r datblygiadau hyn yn plethu â gwaith sy'n digwydd yn Llywodraeth Cymru ar system fudd-daliadau ar gyfer Cymru, drwy ddatblygu dulliau cyffredin o ymdrin â chymhwystra, prosesau gwneud cais a dilysu tystiolaeth. Rydym yn parhau i ystyried ffyrdd y gallem wneud gwelliannau mwy sylfaenol i'r cynllun yn y tymor hwy a byddwn yn ymgynghori ar unrhyw gynigion pellach.

Gwnaethom hefyd ddwyn gweithgor o ymarferwyr cyngor ynghyd i drafod syniadau ar gyfer newidiadau i'r cynllun yn y dyfodol, er mwyn parhau i fynd i'r afael â thlodi yng ngoleuni newidiadau i system les y DU.

Wrth i'n gwaith i adolygu'r cynllun barhau, mae'r ymgynghoriad technegol hwn yn canolbwyntio ar gamau ymarferol y gallwn eu cymryd yn gynt i symleiddio'r broses gwneud cais a lleihau cymhlethdod gweinyddol y cynllun.

Newidiadau arfaethedig

Cynnig 1: Symleiddio'r broses gwneud cais

Mae cymorth i dalu'r Dreth Gyngor drwy Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor yn rhan bwysig o gymorth lles i aelwydydd ar incwm isel. Ers cyflwyno'r cynllun yn 2013, niferoedd cymharol fach o breswylwyr a allai fod yn gymwys sydd wedi manteisio ar y cynllun ac mae nifer yr aelwydydd sy'n cael gostyngiad yn y Dreth Gyngor yn parhau i ostwng. Dengys ein hadroddiad blynyddol diweddaraf fod tua 19% o'r holl aelwydydd yng Nghymru yn cael cymorth drwy'r cynllun hwn. Er ei bod yn galonogol gweld y duedd ar i lawr flaenorol yn y nifer sy'n manteisio ar y cynllun yn cael ei gwrthdroi dros dro yn ystod cyfnod y pandemig (2020 a 2021), mae nifer yr aelwydydd a gefnogir yn gostwng unwaith eto.

Canfu ymchwil a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru gan Policy in Practice fod y lleihad hwn mewn defnydd ymhlith aelwydydd o oedran gweithio yn debygol o adlewyrchu'r cynnydd mewn enillion a gedwir o dan Gredyd Cynhwysol sy'n golygu nad yw rhai aelwydydd yn gymwys i gael cymorth mwyach, a'r ffaith bod angen gwneud cais ar wahân am ostyngiad yn y Dreth Gyngor pan fydd rhywun yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol neu pan fydd rhywun yn symud i Gredyd Cynhwysol o fudd-daliadau eraill. O ganlyniad i hyn, gall aelwydydd golli incwm a gall hyn arwain at gronni ôl-ddyledion treth gyngor.

Er mwyn gwella'r cysylltiad rhwng Credyd Cynhwysol a Chynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor, hoffem ddarparu, yn rheoliadau Llywodraeth Cymru, y gall cyngor drin ‘bwriad i hawlio’ yn nhrefniadau rhannu data Credyd Cynhwysol yr Adran Gwaith a Phensiynau fel cais awtomatig ar gyfer Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor. Byddai hyn yn golygu y gellid gwneud cais ar gyfer Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor pan ddyfernir Credyd Cynhwysol. Credwn y byddai'r ddarpariaeth hon yn helpu i dynnu sylw cyngor at breswylwyr cymwys mewn ffordd ragweithiol ac, o bosibl, helpu i ddileu rhai gofynion gweinyddol ychwanegol. Byddai'r cyngor yn gallu penderfynu a oes ganddo'r holl wybodaeth sydd ei hangen arno i fwrw ati i ddyfarnu gostyngiad yn y Dreth Gyngor, neu b'un a oes angen iddo gadarnhau manylion ychwanegol unigolyn mewn rhai achosion. Gallai cyngor wneud hyn mewn nifer o ffyrdd a allai fod yn llai beichus na bod angen i ymgeisydd gyflwyno ffurflen gais hirfaith ar wahân.

Credwn y gallai'r newid hwn i nodi preswylwyr cymwys mewn ffordd ragweithiol yn hytrach nag yn ymatebol gynyddu defnydd o'r cynllun ymhlith hawlwyr Credyd Cynhwysol incwm isel, gan arwain at lai o ddryswch i aelwydydd a llai o ddyledion treth gyngor. I gynghorau, mae defnydd isel o ostyngiadau’r Dreth Gyngor yn creu costau uwch drwy weithgareddau gorfodi a gall fod risg o gostau ariannol ymhellach i lawr i wasanaethau eraill y cyngor drwy drefniadau ymyrryd mewn argyfwng. Mae datblygu proses gwneud cais effeithiol ac effeithlon yn gwella llesiant preswylwyr ac, yn y pen draw, gallai leihau costau gweinyddol hirdymor i'r cyngor.

Os byddwn yn penderfynu rhoi'r newid hwn ar waith, rydym yn bwriadu dechrau'r newidiadau hyn ar 1 Ebrill 2025.

Mae cynlluniau ar wahân i ystyried sut y gallwn wella'r ffordd y caiff prosesau casglu'r Dreth Gyngor ac ôl-ddyledion eu rheoli.

Byddwn hefyd yn parhau i weithio gyda chynghorau a'r Adran Gwaith a Phensiynau i ystyried ffyrdd eraill y gall cynghorau wneud mwy o ddefnydd o ddata'r Adran Gwaith a Phensiynau a data eraill y DU i helpu i asesu cymhwystra a dyfarniadau gostyngiadau'r Dreth Gyngor, gyda'r posibilrwydd i awdurdodau lleol awtomeiddio mwy o'r prosesau hyn yn y dyfodol. 

Cynnig 2: Lleihau cymhlethdod gweinyddol y cynllun drwy newid didyniadau ar gyfer y rhai nad ydynt yn ddibynyddion

Mae Llywodraeth Cymru wedi symleiddio Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor yn flaenorol, er enghraifft drwy ddileu'r ad-daliad ail oedolyn a thrwy wneud gwelliannau gweinyddol eraill. Fodd bynnag, mae'r cynllun yn gymhleth o hyd ac mae llawer o'r rheoliadau sy'n llywodraethu'r cynllun yn parhau i gyfeirio'n helaeth at reolau Budd-dal y Dreth Gyngor a ddaeth i ben yn 2013. Rydym yn ymrwymedig i barhau i symleiddio'r cynllun ac, fel cam nesaf, rydym yn cynnig symleiddio neu eithrio didyniadau ar gyfer y rhai nad ydynt yn ddibynyddion o ostyngiad yn y Dreth Gyngor.

Ystyr person nad yw'n ddibynnydd yw person sy'n byw fel aelod o aelwyd sy'n gwneud cais ond nad yw'n bartner, yn blentyn nac yn berson ifanc y mae'r ymgeisydd yn gyfrifol amdano. Byddai enghreifftiau o bobl yr ystyrir nad ydynt yn ddibynyddion yn cynnwys mab, merch, ffrind neu berthynas sydd wedi tyfu i fyny.

Ar hyn o bryd, gwneir didyniad i ddyfarniad gostyngiad y Dreth Gyngor yn seiliedig ar gyfraniad ariannol disgwyliedig oedolion eraill (h.y. rhai nad ydynt yn ddibynyddion) yn yr aelwyd.

Ar gyfer 2024 I 2025, mae sawl lefel o daliadau a godir ar y rhai nad ydynt yn ddibynyddion yn unol â'u hincwm. Mae'r taliadau yn amrywio o £0, pan na fydd y rhai nad ydynt yn ddibynyddion yn ennill incwm, i hyd at £17.35, pan fydd gan berson nad yw'n ddibynnydd incwm gros o fwy na £554 yr wythnos. Y lefel isaf o ddidyniad ar gyfer person nad yw'n ddibynnydd yw £5.80, pan fydd gan y person hwnnw incwm gros o lai na £256 yr wythnos.

I gynghorau, mae gweinyddu'r cyfrifiadau hyn yn gymhleth a gall gymryd amser i gael gafael ar yr wybodaeth hon i gefnogi'r cais am ostyngiad, gan arwain at oedi wrth asesu. Gall hefyd fod yn anodd i'r ymgeisydd gael gafael ar yr wybodaeth angenrheidiol. Os na ellir cael unrhyw dystiolaeth, didynnir ar y lefel uchaf. Mae hyn yn arwain at lai o gymorth i'r ymgeisydd.

Er mwyn symleiddio didyniadau ar gyfer y rhai nad ydynt yn ddibynyddion, rydym yn cynnig dau opsiwn amgen. 

Opsiwn 2A

Rhoi ‘cyfradd safonol’ ar waith ar gyfer didyniadau'r rhai nad ydynt yn ddibynyddion, lle mae'r gyfradd ddidynnu yr un peth i bawb yr ystyrir nad ydynt yn ddibynyddion. Fel rhan o'r opsiwn hwn, byddem yn parhau i godi £0 ar y rhai nad ydynt yn ddibynyddion nad ydynt yn ennill incwm, ond yn cyflwyno taliad cyfradd safonol o £5.80 ar gyfer pawb arall nad ydynt yn ddibynyddion mewn aelwyd. Byddai'r gyfradd hon yn cynyddu bob blwyddyn. Pe bai'r opsiwn hwn yn cael ei ddewis, hoffem eithrio pobl 18 i 20 oed o'r didyniad hefyd, yn unol â throthwyon oedran y Budd-dal Tai. Byddai angen i gyngor gael tystiolaeth bellach gan ymgeisydd ar gyfer yr opsiwn hwn o hyd.

Opsiwn 2B

Eithrio didyniadau ar gyfer y rhai nad ydynt yn ddibynyddion yn seiliedig ar enillion y rhai nad ydynt yn ddibynyddion yn gyfan gwbl.

Os byddwn yn penderfynu rhoi unrhyw rai o'r newidiadau hyn ar waith, rydym yn bwriadu gwneud hynny yn 2026 i 2027 oherwydd gall fod angen gwneud gwaith drafftio cyfreithiol mwy cymhleth ar gyfer y rheoliadau gofynnol, y gellir eu hymgorffori yn y set gyntaf o reoliadau newydd eu hailddrafftio ar gyfer y cynllun os caiff y Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) Gydsyniad Brenhinol yn 2024. 

Fforddiadwyedd

Mae fforddiadwyedd unrhyw newidiadau a gynigir gennym yn ystyriaeth bwysig, yn enwedig yn yr hinsawdd ariannol heriol sydd ohoni. Credwn fod y ddau gynnig a gyflwynir uchod yn fforddiadwy ac yn ddichonadwy i gynghorau eu rhoi ar waith heb effeithio'n sylweddol ar gyfanswm yr incwm a gollir a'r cyfraniad y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu'n flynyddol at gyfanswm gwerth dyfarniadau.

Mae amrywiaeth o fanteision ehangach ynghlwm wrth wella Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, i gynghorau a gwasanaethau cyhoeddus yn fwy cyffredinol, y gellid eu gwireddu ar ffurf arbedion ariannol ataliol.

Mewn perthynas â'r cynnig cyntaf, byddai cyflwyno darpariaethau fel bod pobl sy'n cael Credyd Cynhwysol yn cael eu cydnabod fel pe baent wedi gwneud cais am ostyngiad yn y Dreth Gyngor yn niwtral o ran cost i Lywodraeth Cymru ond gallai arwain at gynnydd bach yn y galw am ostyngiadau yn y Dreth Gyngor a chyfanswm uwch o ddyfarniadau o ganlyniad.

Mae hyn yn un o effeithiau cynyddu'r nifer sy’n manteisio ar gymorth mewn cymunedau sy'n gymwys i gael cymorth ac a allai fod yn ei gael eisoes. Gallai hyn leihau'r incwm o'r Dreth Gyngor a fyddai wedi cael ei chasglu fel arall ond gall arwain at arbedion i gynghorau drwy ddileu costau gweithgareddau gorfodi pan nad oes rhagolwg realistig y caiff dyled ei hadennill. Caiff y costau a'r manteision eu hystyried yn fanwl fel rhan o'r asesiad effaith rheoleiddiol a gaiff ei baratoi ochr yn ochr ag unrhyw newidiadau rheoleiddiol. Nid yw'r costau hyn yn rhai ychwanegol yn yr ystyr eu bod yn gwireddu costau gwirioneddol darparu gostyngiadau'r Dreth Gyngor i breswylwyr cymwys.

Mewn perthynas â chynnig 2A, amcangyfrifwyd y byddai effaith symleiddio didyniadau ar gyfer y rhai nad ydynt yn ddibynyddion ar gyfanswm y gostyngiadau a ddyfernir gan gynghorau (£ y flwyddyn) oddeutu £0.5 miliwn y flwyddyn, yn seiliedig ar wybodaeth a ddarparwyd gan awdurdodau lleol.

Mewn perthynas â chynnig 2B, amcangyfrifwyd y byddai effaith eithrio didyniadau ar gyfer y rhai nad ydynt yn ddibynyddion ar incwm cynghorau o'r Dreth Gyngor (£ y flwyddyn) oddeutu £1 miliwn y flwyddyn.

Gall arbedion gweinyddol wrthbwyso'r pwysau hyn i ryw raddau. Gallai diwygio'r Dreth Gyngor yn y dyfodol, fel y trafodir yn ymgynghoriad cam 2 Llywodraeth Cymru ar Dreth Gyngor Decach, helpu cynghorau i ymdopi â'r pwysau posibl a amlinellir uchod, gan y gall diwygiadau leihau atebolrwydd o ran y Dreth Gyngor aelwydydd sy'n gymwys i gael gostyngiadau a chyfanswm y dyfarniadau a roddir ar sail tebyg am debyg. Caiff y costau a'r manteision eu modelu pan gyflwynir rheoliadau, a chaiff asesiad effaith rheoleiddiol ei baratoi, er mwyn diweddaru'r effaith ar gynghorau, ochr yn ochr ag unrhyw newidiadau deddfwriaethol, gan gynnwys unrhyw gynnydd blynyddol yn y costau.

Cwestiynau’r ymgynghoriad

Cynnig 1

Cwestiwn 1

A ydych yn cytuno â chynnig 1, sef y gall cyngor ystyried bod person sy'n cael Credyd Cynhwysol wedi gwneud cais am ostyngiad yn y Dreth Gyngor yn awtomatig o dan Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor Llywodraeth Cymru?

Cwestiwn 2

A ydych yn rhagweld unrhyw heriau o ran rhoi cynnig 1 ar waith neu unrhyw heriau wrth roi cyngor i ymgeiswyr ynglŷn â'u hawliau?

Cynnig 2

Cwestiwn 3

A ydych yn cytuno y dylem gyflwyno newidiadau i ddidyniadau ar gyfer y rhai nad ydynt yn ddibynyddion?

Cwestiwn 4

Os gwnaethoch ateb ‘ydw’ i gwestiwn 3, a ddylai'r cynllun newid i ddau fand o ddidyniadau ar gyfer y rhai nad ydynt yn ddibynyddion (opsiwn 2A) neu eithrio didyniadau ar gyfer y rhai nad ydynt yn ddibynyddion yn gyfan gwbl (opsiwn 2B)?

Cwestiwn 5

A oes gennych unrhyw syniadau eraill ar gyfer sut y gellid symleiddio neu wella Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor?

Effeithiau ar y Gymraeg

Cwestiwn 6

Beth fyddai effeithiau tebygol y cynigion ynghylch gostyngiadau'r Dreth Gyngor ar y Gymraeg yn eich barn chi? Mae gennym ddiddordeb penodol mewn unrhyw effeithiau tebygol ar gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg. 

  • A oes unrhyw gyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol, yn eich barn chi?
  • A oes unrhyw gyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol, yn eich barn chi?

Cwestiwn 7

Yn eich barn chi, a ellid llunio neu newid y cynigion ynghylch gostyngiadau'r Dreth Gyngor er mwyn: 

  • cael effeithiau cadarnhaol neu fwy o effeithiau cadarnhaol ar ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg; neu 
  • liniaru unrhyw effeithiau negyddol ar ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg?

Materion eraill nas cwmpaswyd

Cwestiwn 8

Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi ymdrin â nhw'n benodol, defnyddiwch y lle hwn i'w nodi.

Sut i ymateb

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 6 Mehefin 2024, drwy unrhyw un o'r ffyrdd a ganlyn:

Is-adran Polisi a Diwygio'r Dreth Gyngor  
Llywodraeth Cymru
Caerdydd
CF10 3NQ

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu
  • (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Mae ymatebion i ymgynghoriadau yn debygol o gael eu cyhoeddi’n gyhoeddus, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os hoffech i’ch ymateb aros yn ddienw, dywedwch wrthym ni

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data

Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: data.protectionofficer@llyw.cymru

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn : 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: ico.org.uk

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a roddir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Ni fydd unrhyw waith o'r fath yn cael ei wneud oni bai ei fod yn cael ei wneud o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel. Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi cael ei gynnal mewn modd priodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio eich manylion.

Dylech hefyd wybod am ein dyletswyddau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth. Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, bydd yr adroddiadau hyn yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Gwybodaeth bellach a dogfennau cysylltiedig

Rhif: WG48684

Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd amgen. Os ydych am gael y ddogfen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.