Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair y gweinidog

Fel Llywodraeth, rydym yn anelu at greu Cymru fwy cyfartal – gwlad sy'n galluogi pawb i gael gafael ar wasanaethau, sy'n mynd i'r afael ag anghydraddoldeb, ac sy'n ceisio sicrhau canlyniadau tecach i'n holl ddinasyddion.

Mae'r nodau hyn yn bwysicach nag erioed ar hyn o bryd. Mae'r bwlch rhwng y bobl gyfoethocaf a thlotaf yn ein cymdeithas yn dal i dyfu, ac mae llawer o leisiau eithafol yn camfanteisio ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn hyrwyddo eu hagendâu o anoddefgarwch a chasineb tuag at bobl eraill. Mae Covid-19 wedi cael effaith enfawr ar bob un ohonom, ond yn anghymesur felly ar y rhai sydd wedi'u hallgáu'n gymdeithasol neu'n economaidd yn ogystal â rhai grwpiau penodol. Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi unigolion a chymunedau drwy'r pandemig hwn.

Rhaid i ni barhau i gefnogi'r rheini sydd dal i fod yn wynebu'r risg fwyaf o wahaniaethu a thriniaeth annheg. Mae'r rhain yn cynnwys pobl anabl; pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, Sipsiwn, Roma a Theithwyr, ffoaduriaid a cheiswyr lloches, a phobl LGBT+.

Mae ein Cronfa Cydraddoldeb a Chynhwysiant wedi bod wrth wraidd ein gwaith yn y maes hwn ers tro byd, gan ddarparu cymorth i sefydliadau cynrychioliadol sydd ag arbenigedd mewn agweddau ar gydraddoldeb a chynhwysiant a thrwy’r sefydliadau hynny. Ar yr un pryd, rydym wedi cefnogi darpariaeth gwasanaeth benodol ar gyfer rhai grwpiau allweddol. Rydym wedi buddsoddi'n sylweddol fel hyn ac yn bwriadu parhau i wneud hynny, ond nid yw hyn yn ddigon.

Rhaid i ni ystyried o bryd i'w gilydd a yw'r dull hwn yn gweithio ai peidio ac a oes angen i ni wneud pethau'n wahanol. Rwy'n arbennig o awyddus i archwilio opsiynau ar gyfer cydweithredu ar raddfa fawr er mwyn darparu'r budd mwyaf i bawb sydd dan anfantais neu sy'n profi gwahaniaethu, a dangos bod cydraddoldeb i bawb.

Mae dal yn hanfodol ein bod yn gwneud y defnydd gorau posibl o gyllidebau i gyflawni ein hamcanion, a dod â gobaith am gymdeithas sy'n newid. Dyna pam mae'r ymgynghoriad hwn mor bwysig. Mae arnom angen cyngor ac arweiniad y rheini yn y maes, y rhai sy'n darparu gwasanaethau, ac unigolion a chymunedau sydd naill ai'n cael y gwasanaethau hynny neu sydd eu hangen, i ddweud wrthym beth, os o gwbl, y mae angen ei newid.

Hoffwn annog pawb sydd â diddordeb mewn hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru i ystyried y cynigion yn ofalus ac ymateb i'r ymgynghoriad hwn.

Jane Hutt AS

Y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip.

Cyflwyniad: y sefyllfa bresennol

Lansiwyd Rhaglen Gyllido Cydraddoldeb a Chynhwysiant gyfredol Llywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2016. Datblygwyd y rhaglen i gefnogi ein Hamcanion Cydraddoldeb 2016-2020 a'r nodweddion gwarchodedig yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

Beth yw nodweddion gwarchodedig?

Mae'n groes i'r gyfraith (Deddf Cydraddoldeb 2010) i wahaniaethu yn erbyn rhywun oherwydd oedran; anabledd; ailbennu rhywedd; priodas a phartneriaeth sifil; beichiogrwydd a mamolaeth; hil; crefydd neu gred; rhyw; cyfeiriadedd rhywiol.

Gelwir y rhain yn 'nodweddion gwarchodedig.

Cyfanswm cyllideb y rhaglen yw £1.6miliwn ar gyfer 2020-21. Ar hyn o bryd mae'r rhaglen yn cynnwys grant ar gyfer pedwar sefydliad cynrychioliadol a thri Phrosiect Cynhwysiant fel a ganlyn.

Grantiau ar gyfer cyrff cynrychiadol a'r asiantaeth arweiniol bresennol ar gyfer pob un

  • Rhaglen Ymgysylltu â Phobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan – y Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig
  • Cydraddoldeb LGBT yng Nghymru – Stonewall Cymru
  • Gyrru Hawliau Anabledd ymlaen yng Nghymru – Anabledd Cymru
  • Cydraddoldeb Rhywiol – Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru

Prosiectau cynhwysiant (gwasanaethau dan gontract) ac asiantaethau arweiniol

  • Teithio Ymlaen, cefnogi plant Sipsiwn, Roma a Theithwyr - Tros Gynnal Plant Cymru
  • Y Rhaglen Hawliau Lloches – Cyngor Ffoaduriaid Cymru, mewn partneriaeth â Thîm Cymorth Ieuenctid Ethnig, Tros Gynnal Plant Cymru, BAWSO, a Chyfiawnder Lloches
  • Y Canolfan Adrodd am Droseddau Casineb a Chymorth Cymru Gyfan – Cymorth i Ddioddefwyr Cymru

Yn dilyn prosesau ymgeisio a chaffael grantiau, dechreuodd y rhaglen ar 1 Ebrill 2017 am gyfnod o 3 blynedd i ddechrau. Cafodd hyn ei ymestyn a bydd bellach yn dod i ben ar 30 Medi 2021.

Newidiadau ers 2017

Mae llawer o newidiadau wedi effeithio ar y rhaglen hon ers iddi ddechrau yn 2017, yn enwedig yn ystod 2020. Mae hyn yn cynnwys digwyddiadau byd-eang a chenedlaethol yn ogystal â newidiadau yng Nghymru, gwaith Llywodraeth Cymru a chynnydd gyda'r rhaglen ei hun.

Mae'r prif newidiadau’n cynnwys y canlynol:

  • Pleidleisiodd y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd yn 2016 ac amlygodd y broses hir a ddilynodd lawer o faterion yn ymwneud â chydraddoldeb a hawliau dynol, megis effeithiau ar fudwyr a'r goblygiadau ar gyfer deddfwriaeth cydraddoldeb.
  • Mae pandemig Covid-19 wedi cael effaith andwyol anghymesur ar rai grwpiau o bobl, gan gynnwys menywod, pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, pobl anabl a phobl hŷn. Mae adroddiadau a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, dan arweiniad yr Athro Emmanuel Ogbonna a'r Athro Debbie Foster o Brifysgol Caerdydd, wedi dangos a dyfnhau ein dealltwriaeth o'r effeithiau hyn. Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu ystorfa i gasglu ynghyd adroddiadau a gwybodaeth o lawer o ffynonellau ar effaith Covid-19 ar bobl â nodweddion gwarchodedig.
  • Mae mudiadau Me Too a Black Lives Matter wedi tynnu sylw at gam-drin rhywiol ac anghydraddoldeb hiliol ar lefel fyd-eang, yn enwedig yn y DU, gan arwain at newidiadau mawr ar bob lefel sy'n dal i fynd rhagddynt.
  • Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Cynllun Cydraddoldeb Strategol newydd ar gyfer 2020-2024, gydag Amcanion Cydraddoldeb wedi'u mireinio.
  • Mae nifer o gynlluniau cydraddoldeb eraill wedi'u cyhoeddi neu'n cael eu datblygu gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys y Cynllun Hyrwyddo Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau yng Nghymru, y fframwaith 'Gweithredu ar Anabledd: yr Hawl i Fyw'n Annibynnol’, y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol, a'r Cynllun Gweithredu LGBT+. Mae pob un o'r cynlluniau hyn yn dod o dan y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Strategol cyffredinol, ond gydag amcanion mwy penodol a chamau gweithredu penodol sydd wedi'u teilwra i'w cynulleidfaoedd.
  • Mae'r holl gynlluniau hyn wedi dangos sut all y gwahanol agweddau ar anghydraddoldeb gyfuno i gynyddu gwahaniaethu ac anfantais hyd yn oed yn fwy i rai pobl. Gelwir yr effaith hon yn rhyngblethedd.
  • Mae'r trydydd sector yng Nghymru wedi wynebu newid sylweddol yn ystod y deng mlynedd diwethaf. Gwelwyd effaith ddifrifol ar y sector o ganlyniad i Covid-19, degawd o gyni, colli cyllid yr UE a ffactorau eraill sydd wedi lleihau ffrydiau ariannu a chynyddu’r galw am wasanaethau. Mae i’r materion ehangach hyn oblygiadau sylweddol o ran cydraddoldeb a chynhwysiant, gan fod cynifer o sefydliadau trydydd sector a grwpiau cymunedol yn cefnogi pobl sy'n agored i niwed ac yn gweithio i hyrwyddo cydraddoldeb ar draws gwahanol agweddau ar fywyd yng Nghymru.

Yr hyn y mae rhanddeiliaid wedi'i ddweud wrthym am y rhaglen bresennol. Negeseuon allweddol a themâu sy'n dod i'r amlwg

Y cyfnod ariannu

Cafwyd llawer o geisiadau i ymestyn hyd y cyllid, ac yn ddelfrydol i ddarparu rhaglen 5 mlynedd ac o leiaf i osgoi cyfnodau ariannu o 1 neu 2 flynedd. Mae sefydlu a recriwtio ar ddechrau rhaglen, a dirwyn i ben ar y diwedd, yn effeithio'n sylweddol ar raglenni byrrach. Mae cyfnodau ariannu byr yn tarfu ar y ddarpariaeth ac yn arwain at fwy o drosiant staff a chanlyniadau gwaeth yn gyffredinol, hyd yn oed pan fo cyllid yn cael ei ailddyrannu o flwyddyn i flwyddyn. I'r gwrthwyneb, rydym hefyd wedi derbyn adborth sy'n dangos bod y system bresennol yn lleihau cyfleoedd i sefydliadau eraill nad ydynt yn cael eu dewis i gael cyllid, ac awgrymwyd y gallai cyfnodau ariannu hirach waethygu hyn.

Y gyllideb gyffredinol

Cydnabyddir bod cydraddoldeb yn fater ar draws holl adrannau Llywodraeth Cymru, a ddylai hefyd fod yn sail i'r holl wariant cyhoeddus yng Nghymru. Serch hynny, ystyrir bod y gyllideb benodol hon, er ei bod yn gymharol fach, yn hanfodol i ddangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gydraddoldeb yn gyffredinol a grymuso sefydliadau cydraddoldeb i gyfrannu at nodau cydraddoldeb Llywodraeth Cymru, yn enwedig mewn perthynas â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, sy'n cynnwys y nod o Gymru fwy cyfartal.

Cyllid craidd

Teimlir bod angen cyllid mwy cynaliadwy ar gyfer sefydliadau cydraddoldeb cynrychioliadol allweddol gan gynnwys costau craidd, gan ddefnyddio'r egwyddor o adennill costau llawn ar gyfer ariannu prosiectau y mae Llywodraeth Cymru yn ei gefnogi drwy'r Cod Ymarfer ar gyfer Ariannu'r Trydydd Sector. Mae llawer o sefydliadau'r trydydd sector yn ei chael hi'n anodd sicrhau cyllid craidd gan fod cyllid arall yn aml yn benodol i brosiectau.   

Cysoni ag Chynlluniau Cydraddoldeb Llywodraeth Cymru

Ers dechrau'r Rhaglen Gyllido Cydraddoldeb a Chynhwysiant bresennol yn 2017 mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Cynllun Cydraddoldeb Strategol (SEP) newydd, ynghyd â'r Cynllun Cydraddoldeb Rhywiol a’r fframwaith ‘Gweithredu ar Anabledd, yr Hawl i Fyw'n Annibynnol’. Ceir ymrwymiad hefyd i gychwyn y Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol yn 2021. Yn ogystal, mae gwaith yn mynd rhagddo ar y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol a Chynllun Gweithredu LGBT+ i Gymru, ynghyd ag ymchwil ehangach a fydd yn llywio ein syniadau wrth i ni geisio cryfhau a hyrwyddo hawliau dynol yng Nghymru. Bydd y rhain i gyd wedi'u cwblhau ac yn eu lle erbyn i'r rhaglen gyllido newydd ddechrau. Tynnwyd sylw yn yr holl ymgysylltu â rhanddeiliaid at yr angen am gysylltiadau agosach rhwng ein cyllid a’n nodau cydraddoldeb strategol, gan gynnwys ffocws ar anghydraddoldeb economaidd-gymdeithasol a rhyngblethedd (gweler isod am esboniadau o'r termau hyn).

Beth mae ‘rhynblethedd’ yn ei olygu?

Mae’r gair hwn yn cyfeirio at y ffordd y mae strwythurau pŵer, ar sail ffactorau fel rhywedd, hil, rhywioldeb, anabledd, dosbarth, oedran a ffydd, yn rhyngweithio â'i gilydd ac yn creu anghydraddoldeb, camwahaniaethu a gormes.

Yn hollbwysig, mae'n fater o ddeall y ffordd y gall nodweddion fel rhywedd, hil neu ddosbarth, gydweithio i greu profiadau ac anfanteision unigryw sy’n aml yn rhai amryfal mewn sefyllfaoedd penodol.

Er enghraifft, gallai menyw ddu wynebu gwahaniaethu gan fusnes nad yw'n amlwg oherwydd ei hil (gan nad yw'r busnes yn gwahaniaethu yn erbyn dynion du) nac yn bendant oherwydd ei rhyw (gan nad yw'r busnes yn gwahaniaethu yn erbyn menywod gwyn), ond oherwydd cyfuniad o'r ddau ffactor.

Beth y mae ‘anghydraddoldeb economaidd-gymdeithasol’ yn ei olygu?

Mae'r term hwn yn cydnabod bod anghydraddoldeb yn aml yn ymwneud â ffactorau cymdeithasol ac economaidd fel incwm, dosbarth cymdeithasol, galwedigaeth, addysg a ble rydych chi'n byw. Gall y ffactorau hyn – tlodi yn fwyaf amlwg efallai – ryngweithio â mathau eraill o anghydraddoldeb a chynyddu’r anfantais a’r gwahaniaethu a brofir gan rai pobl.

Mae Llywodraeth Cymru’n mynd i’r afael â’r materion hyn drwy weithredu Rhan 1 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, sef y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol.

Rydym yn cydnabod y bydd y sefydliadau a gefnogir gan y cyllid hwn yn parhau'n annibynnol ac yn ymreolaethol. Serch hynny, dylent rannu ein gwerthoedd craidd mewn perthynas â chydraddoldeb a chynhwysiant a gallu helpu i gyflawni ein nodau a'n hamcanion strategol, gan gynnwys yr angen i weithio gyda sefydliadau eraill a ariennir gan y rhaglen hon i ffurfio partneriaethau a datblygu atebion rhyngblethol i anghydraddoldeb. Gwyddom y bydd hyn weithiau'n golygu herio Llywodraeth Cymru i wneud mwy neu newid ein dull ein hunain o ymdrin â materion penodol.

Gwasanaethau gwerthfawr

Mae ymgysylltu wedi cadarnhau gwerth rhai elfennau o'r rhaglen bresennol, yn enwedig y prosiectau Cynhwysiant sy'n darparu gwasanaethau gwerthfawr i Sipsiwn, Roma a Theithwyr; ffoaduriaid a cheiswyr lloches; a dioddefwyr troseddau casineb. Mae swyddogion hefyd o'r farn bod y prosiectau hyn wedi gweithio'n dda dros gyfnod y rhaglen, bod dal i fod angen y gwasanaethau perthnasol, a bod y canlyniadau’n cyd-fynd yn agos â'n hamcanion Cydraddoldeb Strategol a chynlluniau cydraddoldeb eraill.

Ymgysylltu ar lawr gwlad

Gall gweithio gyda sefydliadau llai ar lawr gwlad fod yn drawsnewidiol wrth ddatblygu cynlluniau cydraddoldeb a chymryd camau gweithredu a all gael yr effaith fwyaf ffafriol ar gymunedau. Awgrymir bod Llywodraeth Cymru’n darparu cyllid i sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed a bod mwy o bobl yn gallu chwarae rhan weithredol. Gallai hyn olygu comisiynu sefydliadau mwy i weinyddu a dosbarthu cyllid i grwpiau lleol llai, neu ofyn am ddull consortia.

Cysylltiadau â chydlyniant cymunedol

Mae cysylltiadau agos rhwng y Rhaglen Cydraddoldeb a Chynhwysiant a'n Rhaglen Cydlyniant Cymunedol sy'n cefnogi timau rhanbarthol mewn awdurdodau lleol ledled Cymru sy'n gweithio i hyrwyddo cysylltiadau cymunedol da. Mae'r cysylltiadau hyn wedi'u cryfhau yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda'r prif gyrff cyflawni ar bob ochr yn cydweithio'n fwy effeithiol a digwyddiadau rhwydweithio’n helpu i feithrin cydberthnasau a gwella cyfathrebu. Mae hyn yn arbennig o fuddiol o ran cysylltu sefydliadau cenedlaethol a ariennir drwy'r Rhaglen Cydraddoldeb a Chynhwysiant â blaenoriaethau a gweithgareddau lleol, gan fod y timau Cydlyniant Cymunedol o fewn awdurdodau lleol ac yn gweithio'n rhanbarthol.  Fodd bynnag, mae lle i wella'r cysylltiadau hyn ymhellach er budd y ddwy raglen, er enghraifft drwy gryfhau ymhellach y trefniadau ar gyfer rhannu gwybodaeth a diweddariadau rhwng y rhaglenni.

Mentora

Mae nifer o'r sefydliadau a ariennir ar hyn o bryd gan y Rhaglen Cydraddoldeb a Chynhwysiant wedi cynnal cynlluniau mentora, gyda'r nod o ddarparu cyfleoedd datblygu ac, yn yr hirdymor, cynyddu amrywiaeth ym mywyd cyhoeddus Cymru. Ystyriwyd bod y cynlluniau hyn yn rhan werthfawr o'r rhaglen, ond mae rhanddeiliaid wedi awgrymu y byddai mwy o werth cael un cynllun mentora mwy sylweddol gyda phartneriaeth ar draws y rhaglen, gan ddarparu ystod ehangach o leoliadau posibl i gyfranogwyr a lleihau gweinyddiaeth a chostau cyffredinol.

Yr hyn rydym yn cynnig ei wneud

 

Cyflwyno rhaglen 5 mlynedd i gyd-fynd yn agosach â thymor nesaf y Senedd a fydd yn dechrau ym mis Mai 2021.

Cysoni amcanion Cyllid Cydraddoldeb ag Amcanion Cydraddoldeb Strategol Llywodraeth Cymru a chynlluniau cydraddoldeb cysylltiedig. Byddai angen i geisiadau am gyllid ddangos sut y byddai gweithgarwch yn cefnogi'r amcanion hyn. Byddai angen i sefydliadau a ariennir drwy'r rhaglen, tra'n cadw eu hannibyniaeth a'u hannibyniaeth, rannu gwerthoedd craidd Llywodraeth Cymru mewn perthynas â chydraddoldeb a hawliau dynol a gallu dangos sut y bydd eu gweithredoedd yn helpu i gyflawni ein nodau a'n hamcanion strategol.

Cynyddu'r ffocws ar anghydraddoldeb economaidd-gymdeithasol a rhyngblethedd. Byddai hyn yn golygu rhoi mwy o sylw i anghydraddoldebau sy'n ymwneud â gwahaniaethau mewn incwm, dosbarth cymdeithasol, galwedigaeth, addysg a lle mae pobl yn byw (anghydraddoldeb economaidd-gymdeithasol), yn ogystal â'r ffyrdd y mae gwahanol agweddau ar anghydraddoldeb yn rhyngweithio (rhyngblethedd). Gallai hyn arwain at ymrwymo cyfran lai o'r cyllid at nodweddion gwarchodedig unigol a mwy i gydweithio rhwng sefydliadau cydraddoldeb strategol.

Yn amodol ar y ddwy egwyddor flaenorol, cadw ein ffocws ar hil, anabledd, rhyw a LGBT+ fel y prif nodweddion gwarchodedig i'w cefnogi drwy'r cyllid hwn.  Byddwn yn ceisio cydbwysedd rhwng dulliau rhyngblethol a chamau gweithredu wedi'u targedu at grwpiau penodol. Nid yw’r pethau hyn yn gwrthdaro â'i gilydd yn naturiol. Mewn rhai amgylchiadau, er enghraifft, bydd yn bwysig cyflawni camau gweithredu penodol yn y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol neu'r Fframwaith Anabledd, ac mewn amgylchiadau eraill bydd yr un mor bwysig ymdrechu i sicrhau dull cynhwysol a thrawsbynciol o ymdrin â chydraddoldeb, gan ddangos bod cydraddoldeb ar gyfer pawb.

Parhau i ariannu gwasanaethau sydd wedi dangos eu gwerth a'u heffeithiolrwydd. Gallai hyn gynnwys contractau presennol cyfan, megis y Ganolfan Adrodd am Droseddau Casineb a Chymorth (a fyddai'n destun proses ail-gaffael), ond gallai hefyd gynnwys elfennau o waith sy'n cael eu hariannu gan grant ar hyn o bryd, megis cynlluniau mentora.

Gofyn am gydweithio ar draws y rhaglen ac annog ceisiadau gan gonsortia. Yn y rhaglen bresennol, mae'r math hwn o waith wedi arwain at fanteision sylweddol gan ei fod yn dod â sefydliadau at ei gilydd i gyflawni nodau cyffredin ac yn meithrin cydberthnasau cynaliadwy â rhanddeiliaid o fewn y sector. Gallai hyn gynnig mantais ychwanegol hefyd, sef galluogi cyllid o'r rhaglen hon i gyrraedd rhai sefydliadau na fyddent mewn sefyllfa i arwain ffrwd waith ond a allai wneud cyfraniadau pwysig mewn consortiwm.

Cysoni’r Rhaglen Cydlyniant Cymunedol a’r Rhaglen Cydraddoldeb yn agosach er mwyn gwella ymhellach y gweithgarwch a'r berthynas waith rhwng y ddwy raglen. Er enghraifft, byddai ymgysylltu â'r timau cydlyniant a threfnu a chymryd rhan mewn digwyddiadau rhwydweithio ar y cyd yn ofynion ar gyfer cyllid cydraddoldeb.

Yn seiliedig ar yr egwyddorion hyn, mae’r cyllid yn debygol o gynnwys cyfuniad o'r prif elfennau canlynol.

Gwasanaethau wedi’u caffael

Mae rhai elfennau o'r rhaglen bresennol yn darparu gwasanaethau clir a fyddai, pe baent yn dod i ben, yn cael effaith andwyol ar eu cleientiaid.

Mae hyn yn cynnwys y prosiectau sy'n cefnogi dioddefwyr troseddau casineb; ffoaduriaid a cheiswyr lloches; a chymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Byddai angen caffael neu ail-gaffael y gwasanaethau hyn drwy broses gystadleuol agored er mwyn iddynt barhau pan ddaw'r contractau presennol i ben ym mis Hydref 2021.

Fel y nodwyd uchod, efallai y bydd gwasanaethau eraill yn y rhaglen ehangach y gellid eu caffael yn y dyfodol. Gallai cynllun mentora trawsbynciol, er enghraifft, fod yn un gwasanaeth ychwanegol o'r fath.

Efallai y byddwn hefyd yn comisiynu sefydliadau i ddosbarthu grantiau i sefydliadau lleol llai i'w galluogi i gyfrannu at gyflawni ein hamcanion cydraddoldeb.

Gweithgarwch a ariennir gan grant

Gellid ailgynllunio gweithgarwch arall a ariennir o dan y rhaglen bresennol ar sail yr egwyddorion a nodir uchod a'i agor i fyny ar sail grant cystadleuol i sefydliadau gefnogi amcanion cydraddoldeb Llywodraeth Cymru. Byddai hyn yn cynnwys sicrhau cydbwysedd rhwng cymorth parhaus ar gyfer nodweddion gwarchodedig penodol, dulliau gweithredu rhyngblethol a chyflawni prosiectau penodol sy'n deillio o'r cynlluniau gweithredu cydraddoldeb. Byddai’r meini prawf ar gyfer y  cyllid cael eu cynllunio yn unol â hynny.

Cwestiynau'r ymgynghoriad

Cwestiwn 1

A ydych o'r farn bod y ddogfen hon yn crynhoi'r prif faterion y dylid eu hystyried mewn perthynas â'r rhaglen ariannu hon? Amlinellwch unrhyw faterion sydd ar goll yn eich barn chi neu y mae angen rhoi sylw pellach iddynt?

Cwestiwn 2

Ydych chi'n cefnogi'r cynnig ar gyfer rhaglen hirach, 5 mlynedd? Os na, eglurwch eich rhesymau'n gryno.

Cwestiwn 3

A fyddech yn fodlon bod Llywodraeth Cymru’n darparu cyllid craidd ar gyfer rhai sefydliadau cydraddoldeb strategol? Os na, eglurwch eich rhesymau'n gryno.

Cwestiwn 4

Ydych chi'n cefnogi parhau â'r gwasanaethau presennol ar gyfer grwpiau penodol? A oes unrhyw wasanaethau eraill y dylid eu cynnwys yn y ddarpariaeth hon yn eich barn chi? Os na, eglurwch eich rhesymau'n gryno.

Cwestiwn 5

Beth ddylai'r cydbwysedd fod rhwng gwasanaethau wedi’u caffael, cyllid craidd a phrosiectau a ariennir gan grantiau? Sut fyddech chi'n rhannu'r gyllideb (£1.6miliwn ar hyn o bryd) rhwng y meysydd hyn?

Cwestiwn 6

Ydych chi'n cytuno y dylai'r cyllid hwn gyd-fynd â'r am canion a nodir yng Nghynllun Gweithredu Cydraddoldeb Strategol 2020-2024 Llywodraeth Cymru?

Cwestiwn 7

Ydych chi'n credu y dylid neilltuo rhywfaint o'r cyllid i gefnogi camau gweithredu cydraddoldeb ehangach a chydweithio rhwng sefydliadau cydraddoldeb?

Cwestiwn 8

Ydych chi'n cytuno y dylai'r cyllid hwn gyd-fynd â'n cynlluniau cydraddoldeb penodol fel y Cynlluniau Gweithredu Cydraddoldeb Rhywiol, Cydraddoldeb Hiliol ac LGBT+?

Cwestiwn 9

Hoffem wybod eich barn am yr effaith y byddai'r canllawiau yn eu cael ar y Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg. Beth fyddai'r effeithiau, yn eich barn chi?  Sut y gellid cynyddu effeithiau cadarnhaol, neu leihau effeithiau negyddol? 

Cwestiwn 10

Esboniwch hefyd sut, yn eich barn chi, y gellid trefnu neu newid y dull polisi arfaethedig er mwyn sicrhau effeithiau cadarnhaol neu mwy o effeithiau cadarnhaol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg, ac atal unrhyw effeithiau andwyol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg. 

Cwestiwn 11

Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi ymdrin â nhw'n benodol, ddefnyddiwch y blwch hwn i'w nodi.

Sut i ymateb

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 16 Ebrill 2021, ar un o`r ffurfiau a ganlyn:

Y Tîm Cydraddoldeb
Llywodraeth Cymru
Merthyr Tudful
CF48 1UZ

Eich hawliau

O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan amgylchiadau penodol) i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu
  • (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • Gwneud cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Mae ymatebion i ymgynghoriadau’n debygol o gael eu cyhoeddi ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os byddai'n well gennych i'ch ymateb aros yn ddienw, rhowch wybod inni.

I gael rhagor o fanylion am y wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data:

Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10  3NQ

E-bost: Swyddogdiogeludata@llyw.cymru

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: ico.org.uk

Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Dim ond o dan gontract yr ymgymerir â gwaith o'r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth. Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Y sylfaen gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.

Gwybodaeth bellach a dogfennau cysylltiedig

Nifer: WG41980

Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd eraill. Os oes ei hangen arnoch mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.