Neidio i'r prif gynnwy

Rhagymadrodd

Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried nifer o ddiwygiadau yn ystod tymor y Senedd bresennol, a fydd yn gwneud newidiadau hanfodol a chadarnhaol i ardrethi annomestig yng Nghymru. Ar 5 Ebrill 2023, gwnaethom gyhoeddi bod Bil Ardrethi Annomestig Llywodraeth y DU yn cael ei ddefnyddio i gyflwyno rhai diwygiadau penodol cyn gynted â phosibl. Mae'r rhain yn cynnwys rhyddhad gwelliannau newydd, y mae Llywodraeth Cymru yn cynnig y dylid ei ddefnyddio i helpu busnesau a thalwyr ardrethi eraill fuddsoddi mewn gwneud gwelliannau i'r eiddo annomestig a feddiennir ganddynt.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod llawer o fusnesau o’r farn nad yw’r system ardrethi annomestig yn rhoi cymhelliad i fuddsoddi mewn gwelliannau i eiddo, gan y gallai unrhyw gynnydd yng ngwerth ardrethol eiddo a fydd yn deillio o hynny arwain at fil uwch. Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar gynnig Llywodraeth Cymru i ddarparu rhyddhad gwelliannau, er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r rhwystr posibl hwn i dwf a buddsoddi yn y sylfaen drethu, o 1 Ebrill 2024 ymlaen.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn gymwys i Gymru yn unig, ond mae cynigion tebyg wedi eu datblygu gan Lywodraeth y DU mewn perthynas â Lloegr. 

Beth yw rhyddhad gwelliannau?

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig y dylid cefnogi talwyr ardrethi sy'n buddsoddi mewn gwelliannau i'w heiddo annomestig a fydd yn cefnogi eu busnes, drwy ddarparu rhyddhad rhag yr effaith y byddai cynnydd mewn gwerth ardrethol o ganlyniad i'r gwelliannau hynny yn ei chael ar eu rhwymedigaeth i dalu ardrethi annomestig am gyfnod o 12 mis. Bydd hyn yn sicrhau y gall busnesau a thalwyr ardrethi eraill ddechrau gweld manteision y gwelliannau a wneir ganddynt, cyn i'w bil ardrethi annomestig gynyddu.

Bydd rhyddhad gwelliannau yn gymwys i'r rhestrau ardrethu lleol a chanolog. Cynigir y bydd cymhwystra i gael y rhyddhad yn amodol ar fodloni dau amod. Yn gyntaf, rhaid i'r gwelliannau ateb y diffiniad o waith cymwys. Yn ail, rhaid bod yr eiddo wedi bod yn cael ei feddiannu gan yr un talwr ardrethi yn y cyfnod ers i'r gwaith cymwys ddechrau. Esbonnir yr amodau hyn yn fanylach yn yr adrannau sy’n dilyn.

Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio, sy'n annibynnol ar Lywodraeth Cymru, yn gyfrifol am brisio eiddo at ddibenion ardrethi annomestig. Felly, bydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn penderfynu pa effaith a gaiff unrhyw welliannau i eiddo ar ei werth ardrethol. Os bydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn fodlon bod y gwelliannau yn ateb y diffiniad o waith cymwys, bydd yn rhoi tystysgrif yn cadarnhau'r cynnydd mewn gwerth ardrethol sydd i'w briodoli i'r gwaith.

Awdurdodau Lleol (mewn perthynas â'r rhestr ardrethu leol) a Llywodraeth Cymru (mewn perthynas â'r rhestr ardrethu ganolog) sy'n gyfrifol am anfon biliau ardrethi annomestig a chymhwyso rhyddhadau. Rhaid i'r awdurdod bilio perthnasol fod yn fodlon bod yr amod meddiannaeth wedi'i fodloni cyn iddo gymhwyso'r rhyddhad yn seiliedig ar y dystysgrif a roddwyd gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

I ddechrau, bydd yn bosibl darparu rhyddhad gwelliannau hyd at a chan gynnwys 31 Mawrth 2029, o dan y ddarpariaeth alluogi. Os bydd Llywodraeth Cymru yn penderfynu ymestyn y rhyddhad y tu hwnt i 1 Ebrill 2029, gall ddeddfu i newid y dyddiad dod i ben hwnnw.

Yr amod ar gyfer gwaith cymwys

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig y dylid egluro pa welliannau i eiddo a fydd yn gymwys i gael y rhyddhad newydd drwy ddiffinio'r amod gwaith cymwys mewn rheoliadau. Bwriedir i'r diffiniad adlewyrchu'r amcan polisi i helpu busnesau a thalwyr ardrethi eraill wneud gwelliannau i'w heiddo a fydd yn cefnogi eu busnes ac yn eu helpu i dyfu.

Rhaid i waith arwain at newid cadarnhaol yn y gwerth ardrethol i fod yn gymwys i gael rhyddhad. Ni fydd gwelliannau sy’n golygu nad oes unrhyw newid cyffredinol yn y gwerth ardrethol neu ostyngiad oherwydd gweithgarwch sy'n lleihau gwerth ar yr un pryd, megis gwaith dymchwel, yn gymwys i gael y rhyddhad.

Er mwyn bodloni’r diffiniad o waith cymwys, rhaid i'r gwelliannau wneud y canlynol:

  • cynyddu maint adeilad neu'r lle y gellir ei ddefnyddio y tu mewn i'r adeilad
  • gwella neu uwchraddio cyflwr ffisegol yr eiddo, megis ychwanegu system wresogi, system aerdymheru neu loriau uwch neu
  • ychwanegu peiriannau a pheirianwaith eraill sy’n ardrethol

Mae enghreifftiau o welliannau a allai fodloni'r amod gwaith cymwys yn cynnwys:

  • ychwanegu deunydd inswleiddio neu leinin newydd at eiddo diwydiannol nad oedd wedi'i inswleiddio'n flaenorol, sy'n cynyddu gwerth ardrethol yr eiddo
  • estyniad ffisegol i eiddo
  • dymchwel wal strwythurol mewn siop, sy'n cynyddu ei gwerth ardrethol, am fod yr ardal a arferai fod y tu ôl i'w wal bellach yn cael ei defnyddio at ddibenion manwerthu yn lle storio
  • ychwanegu ardal fanwerthu 'mesanîn' strwythurol mewn warws manwerthu

Ni fydd newid defnydd yn unig (e.e. o siop i fwyty) yn gyfystyr â gwaith cymwys. Fodd bynnag, gallai gwaith megis yr enghreifftiau a roddwyd uchod sy'n gysylltiedig â newid defnydd fod yn gymwys o hyd. Ni fyddai ychwanegu tir at eiddo presennol, creu hereditament newydd (uned o eiddo ag asesiad ardrethu ar wahân) wrth ochr yr eiddo presennol na gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio cyffredinol yn gyfystyr â gwaith cymwys ychwaith.  Byddai adeilad newydd o fewn hereditament presennol, fel adeilad newydd ar safle ffatri fawr, yn cael ei drin yn yr un modd ag estyniad neu welliant i adeilad sy'n bodoli eisoes, ac yn bodloni'r diffiniad (ar yr amod bod gwerth ardrethol yr hereditament y mae'n eiddo yn ei ffurfio yn cynyddu).

Petai talwr ardrethi yn ymgymryd â chynllun gwaith a fyddai'n golygu rhannu eiddo'n sawl hereditament gwahanol, gallai fod yn gymwys i gael rhyddhad o hyd os bodlonir y profion eraill. Er enghraifft, petai talwr ardrethi ar gyfer uned ddiwydiannol yn gwneud gwaith cymwys yn ogystal â rhannu ei eiddo yn hereditament ar wahân i'w ddefnyddio gan feddiannydd gwahanol, gallai'r gwaith fod yn gymwys o hyd, ond dim ond mewn perthynas â'r hereditament y bydd yr un talwr ardrethi yn parhau i'w feddiannu. Mae hyn yn gysylltiedig â'r amod meddiannaeth.

Bwriad polisi'r rhyddhad yw helpu meddianwyr i wella eu safleoedd busnes presennol. Ni fwriedir iddo roi cymhorthdal ar gyfer gwaith datblygu eiddo masnachol cyffredinol, megis gwaith adeiladu newydd neu waith adnewyddu. Gan fod gwaith datblygu mawr o'r fath yn arwain, fel arfer, at dynnu eiddo oddi ar y rhestr ardrethu, ni fydd y diffiniad o waith cymwys yn cynnwys amgylchiadau lle nad oedd yr eiddo wedi'i gynnwys ar restr ardrethu am ran o'r cyfnod pan wnaed y gwaith neu'r cyfnod cyfan.

Mae enghreifftiau o welliannau na fyddent, o bosibl, yn bodloni'r amod gwaith cymwys yn cynnwys:

  • codi adeilad newydd sy'n arwain at asesiad ardrethu newydd (h.y. hereditament newydd)
  • eiddo yn cael ei dynnu oddi ar y rhestr ardrethu tra bydd gwaith ailddatblygu sylweddol yn cael ei wneud ac yn cael ei gofnodi ar y rhestr unwaith eto pan fydd y gwaith wedi'i gwblhau
  • gosod technoleg newydd yn lle hen dechnoleg, megis uwchraddio i ddeunydd inswleiddio mwy modern, heb unrhyw newid i'r gwerth ardrethol yn sgil hynny

Bydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn penderfynu a yw'r amod gwaith cymwys wedi'i fodloni. Os bydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn fodlon bod yr amod wedi'i fodloni, bydd yn rhoi tystysgrif yn cadarnhau’r newid yn y gwerth ardrethol sydd i'w briodoli i'r gwaith cymwys. 

Yr amod meddiannaeth

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig y dylid egluro pa dalwyr ardrethi fydd yn gymwys i gael y rhyddhad newydd drwy ddiffinio'r amod meddiannaeth mewn rheoliadau. Bwriedir i'r diffiniad adlewyrchu'r amcan polisi i helpu talwyr ardrethi i fuddsoddi yn eu busnes gweithredol eu hunain, yn hytrach na rhoi cymhorthdal, yn anfwriadol, i ddatblygwyr eiddo, landlordiaid sy'n gwella eu hasedau cyfalaf neu dalwyr ardrethi heb unrhyw gysylltiad â'r gwaith cymwys sy'n etifeddu gwelliannau a wnaed gan dalwyr ardrethi blaenorol.

Bydd yr amod meddiannaeth yn cynnwys gofyniad, yn ystod y cyfnod ers i'r gwaith cymwys ddechrau, fod yr eiddo wedi parhau i gael ei feddiannau ac nad yw'r talwr ardrethi wedi newid. Byddai hyn yn cynnwys senario lle mae landlord yn gwneud gwelliannau ac nad yw'r talwr ardrethi sy'n meddiannu'r eiddo yn newid, gan fod y talwr ardrethi yn debygol o wynebu costau rhentu uwch yn gyffredinol o ganlyniad. Daw cyfnod y rhyddhad i ben 12 mis ar ôl cwblhau'r gwaith cymwys oni fydd y talwr ardrethi cymwys yn gadael yr eiddo yn gynt. Bydd angen i awdurdodau bilio fod yn fodlon fod yr amod meddiannaeth wedi'i fodloni cyn dyfarnu rhyddhad.

Ardystio

Os caiff yr amod gwaith cymwys a'r amod meddiannaeth eu bodloni, cynigir y bydd yr awdurdod bilio yn cyfrif swm y rhyddhad gwelliannau yn seiliedig ar y dystysgrif newid mewn gwerth ardrethol a roddwyd gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Bydd yn cadarnhau'r newid yng ngwerth ardrethol cyffredinol yr eiddo sydd i'w briodoli i'r gwaith cymwys. Bydd y dystysgrif yn adlewyrchu'r cynnydd net yng ngwerth ardrethol yr eiddo sydd i'w briodoli i'r holl waith a wnaed a bydd yn gymwys am 12 mis o'r dyddiad cwblhau.

Ni fwriedir i'r broses arfaethedig ei gwneud yn ofynnol i arferion gweithredu Asiantaeth y Swyddfa Brisio nac awdurdodau bilio newid yn sylweddol. Ystyrir mai ardystio yw'r ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau y cynhelir y cysylltiad hwn rhwng gwerthoedd ardrethol a chymhwyso'r rhyddhad.

Er mwyn sicrhau bod y dull gweithredu yn parhau i fod yn gyson â chyfrifoldeb Asiantaeth y Swyddfa Brisio i sicrhau bod rhestrau ardrethu yn gywir, bydd y broses ardystio yn hyblyg a bydd yn bosibl ei newid. Bydd y dystysgrif yn cael effaith bob dydd am y cyfnod 12 mis y mae'n wneud ag ef a gall Asiantaeth y Swyddfa Brisio ei diwygio os bydd unrhyw ran o'r eiddo y mae'r gwaith cymwys wedi effeithio arno yn newid yn ystod y cyfnod. Gall Asiantaeth y Swyddfa Brisio dynnu tystysgrif yn ôl neu ei diwygio yn ôl ei disgresiwn, er enghraifft er mwyn adlewyrchu newidiadau mewn ffeithiau neu wallau a nodwyd. Gall unrhyw newidiadau dilynol i eiddo y daw Asiantaeth y Swyddfa Brisio i'r casgliad nad ydynt yn amrywiad ar y gwaith cymwys gwreiddiol, ond yn hytrach eu bod yn set newydd o waith cymwys, arwain at roi tystysgrif newydd.

Rhagwelir y bydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn rhoi'r dystysgrif i'r awdurdod bilio perthnasol ac yn anfon copi ohoni at y talwr ardrethi. Bydd talwyr ardrethi yn parhau i allu herio newidiadau i restrau a wneir gan swyddogion prisio er mwyn adlewyrchu gwaith cymwys a gwaith arall, drwy'r broses apelio bresennol.

Cyfrifo'r swm y gellir ei godi

Bwriad polisi Llywodraeth Cymru yw sicrhau na fydd swm yr ardrethi annomestig sy'n daladwy gan unrhyw dalwr ardrethi cymwys sydd wedi gwneud gwaith cymwys yn cynyddu am 12 mis. Felly, mae angen sicrhau na fydd unrhyw ryngweithio â chymhwystra i gael rhyddhadau eraill a allai ddeillio o newid mewn gwerth ardrethol yn cosbi'r talwr ardrethi. Am y cyfnod o 12 mis pan fydd y dystysgrif yn effeithiol, cynigir y bydd awdurdodau bilio yn cyfrifo swm yr ardrethi annomestig y gellir ei godi ar gyfer yr eiddo perthnasol fel petai'r gwerth ardrethol ar y rhestr ar gyfer y diwrnod dan sylw yn cyfateb i'r gwerth ardrethol hwnnw llai gwerth y dystysgrif.

Mae hwn yn ddull gweithredu mwy cynnil na mynnu bod awdurdodau bilio yn lleihau'r swm y gellir ei godi. Bwriedir iddo fod yn symlach a sicrhau y gall talwyr ardrethi fod yn hyderus na fydd gwneud gwaith cymwys yn cynyddu eu gwerth ardrethol effeithiol am 12 mis. 

Cwestiynau

Cwestiwn 1

A ydych yn cytuno y bydd y rhyddhad gwelliannau arfaethedig yn helpu i gymell busnesau a thalwyr ardrethi eraill i fuddsoddi mewn gwella'r eiddo a feddiennir ganddynt?

Cwestiwn 2

A fydd yr amod gwaith cymwys a'r amod meddiannaeth yn helpu i gyflawni bwriad y polisi, yn eich barn chi?

Cwestiwn 3

A oes gennych unrhyw sylwadau eraill ar y cynigion polisi neu'r ffordd y cânt eu rhoi ar waith yn ymarferol?

Cwestiwn 4a

Hoffai Llywodraeth Cymru wybod eich barn am yr effeithiau posibl y gallai'r cynigion eu cael ar yr iaith Gymraeg, yn benodol ar y canlynol:

  • cyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg
  • peidio â thrin yr iaith Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg

Cwestiwn 4b

Eglurwch hefyd sut y gellid datblygu'r polisi, yn eich barn chi, er mwyn sicrhau:

  • effeithiau cadarnhaol neu fwy o effeithiau cadarnhaol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r iaith Gymraeg ac na chaiff yr iaith Gymraeg ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg
  • nad yw'n cael effeithiau niweidiol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r iaith Gymraeg nac ar drin yr iaith Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg

Y camau nesaf

Mae'r ymgynghoriad ar agor am gyfnod o 12 wythnos. Ar ôl i'r ymgynghoriad ddod i ben, caiff yr holl ymatebion eu dadansoddi a chânt eu defnyddio i lywio penderfyniadau ynghylch a ddylid rhoi'r rhyddhad gwelliannau arfaethedig ar waith.

Mae'r ymatebion i ymgynghoriadau yn debygol o gael eu cyhoeddi, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad.  Os byddai'n well gennych hynny, gall eich ymateb aros yn ddienw.

Sut i ymateb

Dylech gyflwyno eich sylwadau erbyn 8 Awst 2023, mewn unrhyw un o'r ffyrdd canlynol:

Y Gangen Polisi Ardrethi Annomestig
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan amgylchiadau penodol) i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu
  • (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i wneud cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Mae ymatebion i ymgynghoriadau yn debygol o gael eu cyhoeddi’n gyhoeddus, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os hoffech i’ch ymateb aros yn ddienw, dywedwch wrthym ni

I gael rhagor o fanylion am y wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, cysylltwch â:

Swyddog Diogelu Data
Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CardiffCF
10 3NQ

E-bostiwch: swyddogdiogeludata@llyw.cymru

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

Information Commissioner’s Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: ico.org.uk

Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol.  Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Dim ond o dan gontract yr ymgymerir â gwaith o'r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth. Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau cyhoeddedig hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig

Rhif WG: WG47658

Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd eraill. Os oes ei hangen arnoch mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.