Defnyddiwch y ffurflen hon i ychwanegu defnyddwyr eraill at gyfrif ar-lein eich sefydliad.

Gweler y manylion

Dogfennau

ychwanegu defnyddwyr eraill
, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 200 KB

PDF
200 KB
Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Cais am fformat gwahanol. Os mae arnoch chi angen fersiwn o’r ddogfen hon mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch digital@llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd.

Manylion

Ychwanegu defnyddwyr eraill at gyfrif ar-lein 

Dylai gweinyddwr y cyfrif ar-lein ddefnyddio’r ffurflen hon er mwyn:

  • ychwanegu defnyddwyr eraill at gyfrif ar-lein eich sefydliad neu enwebu gweinyddwyr eraill er mwyn iddyn nhw gymeradwyo defnyddwyr eraill hefyd.  
  • tynnu defnyddwyr a gweinyddwyr (er enghraifft os bydd rhywun yn gadael eich sefydliad).

Mae angen i’r defnyddwyr eraill greu eu cyfrif ar-lein eu hunain i gael mynediad i ddangosfwrdd eich sefydliad gan ddefnyddio rhif cofrestru eich sefydliad, sydd wedi’i gynnwys yn y llythyr at weinyddwr y cyfrif ar-lein.

Ewch i: Ychwanegu defnyddwyr eraill

Am resymau diogelwch, dylech gadw’r ffurflen hon a’i hanfon at usersupport@wra.gov.wales o gyfrif e-bost un o weinyddwyr y sefydliad. 

Bydd angen i chi gynnwys:

  • eich enw
  • enw eich sefydliad
  • rhif cofrestru eich sefydliad

Ewch i: hysbysiad preifatrwydd ACC.

Drwy ddarparu eich cyfeiriad e-bost rydych chi’n cydsynio i’r Awdurdod ohebu â chi drwy e-bost.

Gweler: Cysylltu ag ACC drwy e-bost