Yn y canllaw hwn
1. Trosolwg
Mae Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru yn helpu cyrff y sector cyhoeddus a grwpiau cymunedol yng Nghymru i gynllunio a chyflawni prosiectau ynni lleol. Mae'r prosiectau hyn yn cefnogi’r broses o bontio i economi ddi-garbon.
Mae'r Gwasanaeth Ynni yn rhaglen bedair blynedd a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Bydd y rhaglen bresennol yn para tan fis Mawrth 2027.
Yr hyn rydym yn ei wneud
Rydym yn darparu cyngor technegol, masnachol a chaffael i gefnogi prosiectau ynni o'r gwaith cynllunio cynnar hyd at gyflawni.
Gweler ein fideo ar YouTube am sut mae'r Gwasanaeth Ynni yn cefnogi prosiectau ynni
Rydym yn gweithio gyda'r sector cyhoeddus a mentrau cymunedol er mwyn:
- lleihau'r defnydd o ynni
- cynhyrchu ynni adnewyddadwy dan berchnogaeth leol
- lleihau allyriadau carbon
- hyrwyddo mentrau trydaneiddio a lleihau'r ddibyniaeth ar danwyddau ffosil
Darperir cymorth mewn perthynas â'r ffrydiau gwaith canlynol:
- adeiladu systemau ynni
- gwres carbon isel
- trafnidiaeth
- ynni adnewyddadwy
- cynllunio ynni
- cymunedau ymarfer
O fis Gorffennaf 2018 i fis Mawrth 2025, darparodd y prosiectau a gefnogwyd:
- 1.1 miliwn tunnell o arbedion carbon gydol oes
- £443 miliwn mewn arbedion ac incwm lleol gydol oes
- £270.7 miliwn mewn buddsoddiad cyfalaf
- 49.2 MW o gapasiti cynhyrchu
Darllenwch ein hadroddiadau blynyddol i ddarganfod mwy am sut rydym wedi cefnogi prosiectau effeithlonrwydd ynni, ynni adnewyddadwy a thrafnidiaeth ers 2018.
