Neidio i'r prif gynnwy

Mae cyllid ar gael i helpu cymunedau i fynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cefndir

Gall unrhyw un o unrhyw oed neu gefndir gael profiad o unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol, a gall y profiad hwnnw effeithio ar lesiant corfforol a meddyliol. 

Fe wnaethom gyhoeddi ein strategaeth gyntaf ar gyfer mynd i'r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol ym mis Chwefror 2020. Rydym am i bawb gael y cyfle i ddatblygu cysylltiadau cymdeithasol ystyrlon. Er mwyn helpu i greu mwy o gyfleoedd i bobl gysylltu â’i gilydd, rydym wedi sefydlu Cronfa Unigrwydd ac Ynysigrwydd a fydd yn weithredol am dair blynedd. Rydym am gefnogi sefydliadau gwirfoddol a chymunedol rheng flaen ar lawr gwlad sydd:

  • yn dod â phobl o bob oed ynghyd
  • yn annog cysylltiadau cymdeithasol

Faint o gyllid sydd ar gael?

Mae £500,000 ar gael ym mhob un o’r tair blynedd (2021/22, 2022/23 a 2023/24).  

Mae’r cyllid hwn wedi’i ddyrannu’n gyfartal i Awdurdodau Lleol a Chynghorau Gwirfoddol Sirol (CGS). Byddant yn gweithio mewn partneriaeth ar draws ardaloedd y 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru drwy gydol cyfnod y gronfa. Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i feithrin gallu a chynaliadwyedd sefydliadau gwirfoddol a chymunedol rheng flaen ar lawr gwlad. Rydym yn chwilio am sefydliadau sy’n dod â phobl o bob oed ynghyd ac yn helpu i adeiladu cysylltiadau cymdeithasol.

Pa fath o weithgarwch fydd yn cael ei ariannu?

Mae enghreifftiau o’r math o weithgarwch y gellir defnyddio’r gronfa ar ei gyfer yn cynnwys y canlynol (er nad yw’r rhestr isod yn rhestr gyflawn): 

  • cynyddu gweithgarwch sy’n digwydd eisoes 
  • helpu sefydliadau/cymdeithasau i ail-ymsefydlu ar ôl y pandemig  
  • helpu sefydliadau/cymdeithasau i ehangu eu gweithgarwch  
  • hwyluso’r defnydd o leoliadau addas 

Dim ond ar gyfer costau refeniw y ceir defnyddio’r cyllid hwn, ni cheir ei ddefnyddio ar gyfer costau cyfalaf nac i ddyblygu unrhyw gyllid sy’n bodoli eisoes. 

Yn 2021/22 mae’r cyllid wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau a sefydliadau cymunedol. Derbyniodd prosiectau gyllid drwy gynlluniau grantiau bach a weithredir gan bartneriaethau ALl/CGS. Gellir cael rhagor o wybodaeth am sut mae cyllid yn cael ei ddefnyddio drwy gysylltu â’ch CGS lleol. Cysylltwch â ni - Cefnogi Trydydd Sector Cymru

Y tîm unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol

Gallwch hefyd gysylltu ag aelod o’r tîm unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol i gael rhagor o wybodaeth.

Ffôn: 03000 256968 (Rydym yn croesawu galwadau yn y Gymraeg) 

E-bost: UnigacYnysig@llyw.cymru

Dim ond ar gyfer costau refeniw y ceir defnyddio’r cyllid hwn, ni cheir ei ddefnyddio ar gyfer costau cyfalaf nac i ddyblygu unrhyw gyllid sy’n bodoli eisoes.

Sut i ymgeisio

1. Dylech fynd ati i sefydlu partneriaeth ac enwebu rheolwr grantiau Rhaid i’ch partneriaeth gynnwys o leiaf un awdurdod lleol ac un Cyngor Gwirfoddol Sirol. Rhaid i’r rheolwr grantiau fod yn rhywun sy’n dod o awdurdod lleol.

2. Cwblhewch y ffurflen gais. Cewch gyflwyno gwybodaeth atodol gyda’ch ffurflen gais. Gallai honno gynnwys:

  • cynlluniau ar gyfer y prosiect
  • cynlluniau cyfathrebu
  • diagramau sefydliadol a trefniadol sy’n disgrifio perthynas
  • unrhyw beth arall a fyddai’n cefnogi eich cais

3. E-bostiwch eich cais a’r wybodaeth atodol erbyn 27 Hydref 2021.

Byddwn yn rhedeg y broses hon yn electronig cyn belled ag y bo hynny’n bosibl.

Cysylltwch â ni os ydych angen:

  • pecyn ymgeisio mewn fformat arall
  • cyflwyno eich cais ar ffurf copi caled

Y Tîm Unigrwydd ac Ynysigrwydd Cymdeithasol

Rhif ffôn: 03000 253095 (Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg)

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Rydym yn hapus i gydweithio gyda'r cyhoedd a phartneriaid trydydd sector i alluogi defnyddio'r cyllid hwn yn genedlaethol Os oes angen mwy o gefnogaeth arnoch, cofiwch gysylltu gydag aelod o'r tîm unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol.

Hysbysiad Preifatrwydd

Mae ‘Hysbysiad Preifatrwydd: grantiau Llywodraeth Cymru’ yn disgrifio sut y byddwn yn ymdrin ag unrhyw ddata personol yr ydych yn eu darparu mewn perthynas â chais am grant neu wrth ofyn am gyllid grant. Hysbysiad preifatrwydd: grantiau Llywodraeth Cymru.

Ni fydd Llywodraeth Cymru yn gofyn bod ymgeiswyr yn casglu nac yn darparu gwybodaeth bersonol fel rhan o'r broses gwneud cais am grant na fel rhan o'r gweithgareddau y bydd y grant yn eu cyllido.

Rheolwr y grant fydd y rheolwr data ar gyfer unrhyw wybodaeth a gesglir neu a fydd yn cael ei phrosesu wrth ddarparu'r gweithgareddau a gyllidir gan y grant. Bydd angen gwneud Asesiad Effaith Diogelu Data.