Neidio i'r prif gynnwy

Prif negeseuon

Mae’r Cynllun Adfer Coetir (WRS) yn seiliedig ar y Cynllun Glastir blaenorol a oedd yn rhan o’r Rhaglen Datblygu Gwledig. Eleni, rydym wedi gwella’r hyn y mae’r cynllun yn ei gynnig i gynnwys cyfraddau talu uwch, cyfnod ymgeisio hirach, mwy o amser i wneud y gwaith ac arian ar gyfer cwympo coed llarwydd. 

Mae £1 miliwn o gyllideb wedi’i neilltuo ar gyfer y cyfnod Datgan Diddordeb (DoD). Bydd y cyfnod Datgan Diddordeb hwn yn agor ar 11 Tachwedd 2024 ac yn cau hanner nos ar 28 Chwefror 2025.  Bydd yn rhaid ichi fod wedi cwblhau’ch holl Waith Sefydlu a Chyfalaf a hawlio taliadau erbyn 31 Mawrth 2026. 

Mae cyfnod Datgan Diddordeb yn y Cynllun Adfer Coetir wedi’i estyn i bedwar mis er mwyn rhoi mwy o amser i ymgeiswyr ddatgan diddordeb. Bydd sawl rownd dewis yn ystod y cyfnod er mwyn i’r rheini sy’n datgan diddordeb yn fuan fedru bwrw ymlaen â’u cais. Rydyn ni’n awgrymu, os oes gennych safle PAWS y bydd angen ymweld ag e’ yn y gwanwyn, neu os ydych am wneud cais am yr opsiwn newydd ar gyfer cwympo coed llarwydd ifanc, eich bod yn Datgan Diddordeb cyn gynted ag y medrwch er mwyn i’r broses Gynllunio allu dechrau cyn gynted â phosib. Os bydd y gyllideb wedi’i gwario cyn diwedd y cyfnod ymgeisio, ni dderbynnir rhagor o geisiadau

Cewch ddatgan diddordeb yn y WRS os oes gennych drwydded cwympo coed, rhif cais am drwydded cwympo neu Hysbysiad Iechyd Planhigion Statudol sy’n cynnwys coed llarwydd.

Bydd angen i chi gyflwyno’r drwydded cwympo, eich cais am drwydded cwympo gyda’r rhif neu Hysbysiad Iechyd Planhigion Statudol (SPHN) gyda’ch Datganiad o Ddiddordeb erbyn 28 Chwefror 2025 fan hwyraf ar gyfer eu hasesu gan Lywodraeth Cymru. Ni fyddwn yn ystyried dewis Datganiad o Ddiddordeb tan y bydd yr holl ddogfennau ategol wedi dod i law.  Ni fydd Llywodraeth Cymru yn ystyried unrhyw ddogfennau a gyflwynir i ategu unrhyw Ddatganiad o Ddiddordeb a gyflwynwyd mewn cyfnod ymgeisio blaenorol am y cynllun Adfer Coetir (GWR neu WRS). Gallai peidio â gwneud hynny arwain at wrthod y caeau.

Mae’r WRS yn darparu gwaith cyfalaf ar gyfer ail-stocio, ffensio a gweithgareddau cysylltiedig ar safleoedd lle ceir coed llarwydd a hyd at 50% o’r tir o dan rywogaethau heblaw am goed llarwydd. Oherwydd effaith Phytophthora ramorum ar bren coed llarwydd ifanc, ar gyfer y cyfnod ymgeisio hwn rydym wedi cynnwys opsiwn i chi ymgeisio am grant ar gyfer cwympo coed llarwydd ifanc (o dan 25 oed). Nid oes grant ar gael ar gyfer cwympo coed nad ydynt yn goed llarwydd. Gweler adran D am y meini prawf. 

Er mwyn cael gwneud cais am arian i gwympo coed, rhaid ichi hefyd wneud cais am arian i ail-stocio coed. Nid oes arian ar gyfer cwympo coed yn unig. 

Ar gyfer y cyfnod WRS hwn, 65% yw’r % fwyaf gaiff fod o dan un rhywogaeth ar gyfer Opsiynau W615, W618 a W619. Mae hyn yn bwysig er mwyn helpu coedwigoedd i allu gwrthsefyll bygythiadau yn y dyfodol, fel clefyd coed. Mae hyn yn cyd-fynd â fersiwn 5 o Safon Goedwigaeth y DU.

I fod yn gymwys am gymorth i ail-blannu’ch coetir, bydd rhaid i chi gyflwyno Plan Rheoli Coedwig ar gyfer y tir cymwys rydych am ei ail-stocio. Rydyn ni’n eich cynghori i wahodd Tîm Rhaglen Coetiroedd Cyfoeth Naturiol Cymru i ymweld â’ch safle cyn llunio neu gyflwyno’ch plan. 

Bydd cwsmeriaid sy’n derbyn grant WRS lle mae PAWS yn cael ei ail-stocio yn gymwys i hawlio taliad grant untro o £1,500 tuag at y gost o gynhyrchu plan rheoli. Dylai’r plan hwn ystyried yr uned rheoli coetir yn ei chyfanrwydd, gan gynnwys yr ardal fydd yn cael ei hadfer drwy’r WRS. Rydyn ni’n eich cynghori i wneud cais yn gynnar yn y cyfnod ymgeisio er mwyn i CNC allu ymweld â’r safle yn y gwanwyn. Ni fydd yna ragor o daliadau ar gyfer llunio planiau rheoli mewn rowndiau ar ôl hwn.

Bydd rhaid i Gynlluniwr Cofrestredig lunio Cynllun yr WRS ar gyfer ail-stocio PAWS sydd yn cydymffurfio â Safon Goedwigaeth y Deyrnas Unedig (UKFS). 

Os ydych yn hawlio’r grant i lunio plan, bydd angen i’r gwaith ailstocio’r PAWS y gwnaethoch gais ar ei gyfer yn y rownd hon o’r WRS ddigwydd. Os na fyddwch wedi ailstocio, cymerir camau i gael unrhyw daliadau yn ôl.

Rydym yn cynghori cwsmeriaid sydd am hawlio’r grant i ystyried cynnwys eu holl goetiroedd, yn enwedig yr holl larwydd sydd ganddynt, oherwydd efallai y byddan nhw am ymgeisio mewn rownd o’r WRS yn y dyfodol. Ni fydd cwsmeriaid sydd eisoes wedi cael grant untro o £1,500 tuag at gost cynhyrchu plan rheoli o dan gynllun GWR neu WRS yn gymwys am y cymorth hwn. 

TI fod yn gymwys i gyflwyno Datganiad o Ddiddordeb mae'n rhaid i chi fod yn gallu cadw at y dyddiadau yn y tabl canlynol:

  • Cyflwyno eich Datganiad o Ddiddordeb gyda’r Drwydded Cwympo, Cais am Drwydded Cwympo gyda’r rhif, SPHN rhwng 11 Tachwedd 2024** hyd at 28 Chwefror 2025**
  • Ymateb i ganlyniadau rownd ddewis o Rowndiau dewis rheolaidd, y cyntaf ar 9 Rhagfyr 2024**
  • Cwblhau holl waith sefydlu a chyfalaf a chyflwyno hawliadau ar gyfer taliad erbyn 31 Mawrth 2026

Bydd cymorth ar gyfer y Plan Rheoli Coedwigoedd yn cael ei brosesu ar gyfer taliad ar ôl ichi gadarnhau’ch bod yn derbyn Dyfarniad Grant wedi’i ddilysu.

I gael copi o’r Datganiad o Ddiddordeb yn y Cynllun WRS, ewch i RPW Ar-lein. Bydd angen Cyfeirnod Cwsmer (CRN) arnoch a chyfrif RPW Ar-lein i gael copi o ffurflen Datgan Diddordeb y cynllun WRS.

I gofrestru manylion eich busnes am y tro cyntaf, bydd angen ichi lenwi’r ffurflen gofrestru ar-lein. Darllenwch y canllaw ar sut i gofrestru i gael rhagor o fanylion. Gallwch newid y rhan fwyaf o fanylion eich busnes ar-lein. Ond os ydych am gofnodi newidiadau mawr, efallai y bydd Llywodraeth Cymru’n gofyn ichi am ragor o fanylion. Ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004 am ragor o wybodaeth. I gael gwybod rhagor am gofrestru gyda RPW Ar Lein neu i Ddatgan Diddordeb, darllenwch Adran E y llyfryn hwn.

Dylech ddarllen y Llyfryn hwn a'r Canllawiau Sut i Lenwi cyn ichi gyflwyno Datganiad o Ddiddordeb ar-lein.

Dylech sicrhau eich bod yn cyflawni'r holl feini prawf am flwyddyn lawn y dyfarniad ac yna drwy’r cyfnod cynnal a chadw o 10 mlynedd ar ôl yr hawliad terfynol.

Bydd angen ichi baratoi Plan Rheoli Coedwig a rhaid i hwnnw gydymffurfio â UKFS.

A fyddech cystal ag ymateb yn brydlon i unrhyw gwestiynau gan Lywodraeth Cymru neu Cyfoeth Naturiol Cymru (NRW) am eich Datganiad o Ddiddordeb. Os na fyddwch yn ateb yn brydlon, mae'n bosibl y bydd oedi cyn cynnig dyfarniad grant WRS ichi.

Bydd cyhoeddusrwydd yn cael ei roi i unrhyw newidiadau i’r canllawiau a’r ymrwymiadau yn Gwlad a lle bydd angen, bydd Llywodraeth Cymru yn cysylltu â busnesau fferm a rheolwyr tir yn uniongyrchol.

Adran A: cyflwyniad

Yng Nghymru, mae llawer o goetiroedd llarwydd wedi'u heintio gan y ffwng Phytophthora Ramorum. Mae WRS wedi cael ei ddatblygu er mwyn gallu  ailblannu coetiroedd sydd wedi'u heintio â Phytophthora ramorum neu dir lle mae’r coed llarwydd wedi cael eu torri er mwyn arafu lledaeniad y clefyd. Pan fydd coetir cyfan yn cael ei gwympo, bydd hynny’n rhoi cyfle mawr i gynyddu’r amrywiaeth o rywogaethau o goed, a chreu coetir mwy cymysg a brodorol. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i hybu amrywiaeth o rywogaethau yng Nghymru er mwyn gwneud ein coetir yn fwy cydnerth ac iddynt allu cynnig mwy o amrywiaeth o fuddion.

Bydd angen i ymgeisydd llwyddiannus baratoi Plan Rheoli Coedwig sy'n cydymffurfio â UKFS cyn caiff ei gais fynd yn ei flaen i'w brosesu i gael Dyfarniad Grant. Diben y llyfryn hwn yw helpu coedwigwyr, ffermwyr a rheolwyr tir sydd am Ddatgan Diddordeb yn y cynllun WRS. Nid yw'r manylion hyn yn cynnwys popeth ac mae'n bosibl y bydd angen eu diweddaru.

Geirfa

Llain: mae hyn yn cyfeirio at ardal o goetir neu at ardal o goetir sydd wedi'i chwympo ac sydd yn mynd i gael ei hailstocio.

Coesynnau: term sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer y coed ifanc sy'n cael eu plannu mewn llain.

Adran B: pwy sy’n gymwys?

Er mwyn bod yn gymwys am y WRS:

  • byddwch yn gwsmer cofrestredig gyda Llywodraeth Cymru a byddwch wedi cael Cyfeirnod Cwsmer (CRN).
  • bydd eich tir fod wedi'i gofrestru gyda System Adnabod Parseli Tir Llywodraeth Cymru (LPIS).
  • rhaid i’r coetir fod o leiaf 0.25 hectar o dir cymwys o faint.
  • rhaid bod gennych reolaeth lwyr ar y tir o’r dyddiad gaiff y datganiad o ddiddordeb ei gyflwyno drwy gydol oes y grant a chyfnod llawn yr ymrwymiad. Os dim ond trwydded bori sydd gennych, ni fyddwch yn gymwys i wneud cais.
  • ni fyddwch wedi hawlio yswiriant na chael tâl yswiriant am y coed a gollwyd oherwydd Phytophthora ramorum.
  • rhaid ichi gyflwyno Plan Rheoli Coedwig sy'n bodloni safonau UKFS ac sydd wedi'i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru.

Adran C: amodau’r grant

Daw’r grant WRS o dan amrywiaeth o ddeddfwriaeth (gweler Adran L). Rhaid i Lywodraeth Cymru a’r ymgeisydd/derbynnydd weithredu yn unol â’r ddeddfwriaeth honno.

 Mae’r Grant WRS yn cael ei gynnig yn unol â thelerau ac amodau a fydd yn cael eu nodi’n llawn yn eich Dyfarniad Grant, gan gynnwys y rheini sydd wedi’u nodi isod. Gallai peidio â chadw at amodau a thelerau’r Dyfarniad Grant arwain at ganslo’ch Dyfarniad Grant a/neu ofyn am yr arian sydd eisoes wedi’i dalu i chi yn ôl, neu leihau’r grant sy’n daladwy.

Amodau

Gwneir y dyfarniad ar sail datganiadau a wnaed gennych chi neu'ch cynrychiolwyr ar y ffurflen gais a'r ffurflen hawlio ac mewn unrhyw ohebiaeth a gafwyd wedi hynny. Mae’n drosedd gwneud datganiadau anwir neu gamarweiniol. 

Rhaid ichi fodloni unrhyw rwymedigaethau cyfreithiol a osodir o dan gyfraith y DU. 

Ni chewch newid llythyr dyfarnu’r grant, gan gynnwys lleoliad y gweithgaredd, heb gymeradwyaeth ysgrifenedig ymlaen llaw gan Lywodraeth Cymru. 

Mae’n rhaid ichi gadarnhau nad ydych wedi gwneud cais am unrhyw gyllid cyhoeddus arall. Os yw’n dod i’r amlwg eich bod wedi derbyn cyllid cyhoeddus o ffynhonnell arall, gall hynny arwain at wrthod eich hawliad, adennill taliadau a chyflwyno cosbau.

Rhaid cadw cofnodion mewn perthynas â’r cais a’r hawliad am y grant hwn am o leiaf pum mlynedd ar ôl y dyddiad pan ddaw’r prosiect i ben. 

Mae’n rhaid ichi ganiatáu i gynrychiolwyr Llywodraeth Cymru, Archwilydd Cyffredinol Cymru, neu eu cynrychiolwyr archwilio’r prosiect. Os gofynnir i chi, rhaid ichi roi gwybodaeth iddynt a/neu adael iddynt weld y dogfennau gwreiddiol sy'n ymwneud â’r prosiect. 

Mae’r wybodaeth a roddir yn y cais ac mewn dogfennau cysylltiedig yn dod o dan ofynion Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Ganiatáu i'r Cyhoedd Weld Gwybodaeth, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004.

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, dylech fod yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru yn cadw’r hawl i gyhoeddi enw’ch busnes neu gwmni, faint o grant a roddwyd i chi a chrynodeb o’ch prosiect. 

Mae’r wybodaeth a ddarperir yn y cais yn dod o dan yr Hysbysiad Preifatrwydd. Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd yn esbonio sut y mae Llywodraeth Cymru’n prosesu ac yn defnyddio’ch data personol a’ch hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).

Land eligibility requirements

Er mwyn bod yn gymwys am y WRS, rhaid i'r tir fodloni’r canlynol:

  • bod coed llarwydd yn tyfu arno neu wedi bod yn tyfu arno ond eu bod bellach wedi’u cwympo.
  • bod yn destun SPHN neu Drwydded Cwympo.
  • ni fydd wedi derbyn grant o ffynhonnell arall ar gyfer ei ailstocio.
  • ni fydd wedi derbyn grant o ffynhonnell arall ar gyfer cwympo coed llarwydd ifanc. 
  • bydd wedi cael pob caniatâd angenrheidiol oddi wrth randdeiliaid a chyrff statudol.
  • bydd pob cae yn 0.1ha neu'n fwy o faint.
  • bydd wedi'i leoli yng Nghymru.

Arian o ffynonellau eraill

Os ydych chi'n cael taliad o unrhyw ffynhonnell arall am waith sy’n ofynnol o dan y WRS, byddai hyn yn cael ei ystyried fel ariannu dwbl.

Sylwch mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau nad ydych yn llofnodi Dyfarniad Grant ar gyfer WRS sy'n gorgyffwrdd ag unrhyw gytundeb arall ac nad oes dim gwrthdaro rhwng gofynion y cynlluniau.

Os gwelir eich bod yn cael neu wedi cael arian o ffynhonnell arall ar gyfer ymrwymiadau o dan y WRS, gallai hyn arwain at gosbau ariannol, gorfod ad-dalu taliadau ac, o bosibl, dod â’ch Dyfarniad Grant i ben.

Adran D: y cyllid sydd ar gael ar gyfer y Cynllun Adfer Coetir

Os llwyddwch i gael eich dewis ar gyfer y WRS, bydd gofyn ichi baratoi Plan Rheoli Coedwig sy'n cydymffurfio â’r UKFS (Comisiwn Coedwigaeth – Safon a Chanllawiau Coedwigaeth y DU). Bydd y Plan Rheoli Coedwig yn cael ei asesu gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Ar ôl cymeradwyo'r Plan Rheoli Coedwig, gellir cynnwys yr eitemau Gwaith Cyfalaf cymwys sydd wedi'u rhestru yn y Plan Rheoli yng nghontract y WRS. Mae'r adran hon yn rhoi manylion eitemau'r gwaith cyfalaf sydd ar gael o dan y WRS.

Os yr ydych yn ystyried adfer PAWS bydd angen i chi gysylltu â Chynlluniwr Coetir Cofrestredig i greu plan o restr manylion cyswllt Cynllunwyr Coetir Cofrestredig Llywodraeth Cymru yma.

Yr Arwynebedd Mwyaf sy'n Gymwys i gael Cymorth o dan y Cynllun Adfer Coetir

Bydd yr arwynebedd mwyaf sy'n gymwys i gael cymorth o dan y WRS yn cyfateb i ddwywaith yr arwynebedd o goed llarwydd (pob oed) a nodir yn yr Hysbysiad Iechyd Planhigion Statudol neu'r Drwydded Cwympo.

Er enghraifft, os bydd eich Trwydded Cwympo’n dangos 1 hectar o larwydd, yr arwynebedd mwyaf sy'n gymwys am arian y WRS fydd 2 hectar.

Gan mai’r arwynebedd lleiaf y gellir cael cymorth ar ei gyfer trwy’r WRS yw 0.25 hectar, ni fydd cymorth ar gael ar gyfer llain o larwydd sy’n llai na 0.13 hectar.

Gwaith Cyfalaf - ailblannu

Mae'r gofynion canlynol yn berthnasol i’r holl opsiynau ailblannu sy'n Waith Cyfalaf:

  • rhaid i'r holl ail-blannu gael ei wneud yn unol â’r UKFS.
  • rhaid ailblannu o leiaf 2500 coesyn yr hectar.
  • rhaid cynnal a chadw'r coetir sydd wedi'i ailblannu am 10 mlynedd ar ôl dyddiad yr hawliad terfynol. Rhaid i 2500 o goesynnau fod yn fyw ar ddiwedd y cyfnod cynnal a chadw 10 mlynedd neu fod y canopi wedi cau. Os na fyddwch wedi cadw’r dwysedd stocio hwnnw yn ardal y Grant drwyddi draw, mae'n bosibl y bydd yn rhaid ad-dalu’r taliadau.

Rheolau penodol ar gyfer Adfer Planhigfeydd ar Safleoedd Coetir Hynafol (PAWS)

Ar bob llain o PAWS sydd i’w ail-blannu, rhaid wrth arolwg a map PAWS ynghyd â Phlan Rheoli Coedwig WRS cyn y gall tîm dilysu Cyfoeth Naturiol Cymru ei ystyried a’i gymeradwyo. Lle medrir, dylech gynnal yr arolwg PAWS a llunio’r map o nodweddion y coetir hynafol cyn dechrau’r gwaith cwympo. Mae canllawiau pellach ar gael yn Gwaith Adfer PAWS – Canllawiau ar Arfer Gorau yma.

Dim ond safleoedd PAWS sydd wedi’u nodi ar y Rhestr o Goetiroedd Hynafol (AWI) sy’n gallu bod yn gymwys am y cymorth untro o £1500 ar gyfer llunio Plan Rheoli Coedwig y WRS. Gellir gweld data AWI neu ei lawrlwytho drwy Fap Cyfle Coetir ar FapDataCymru yma.

Ni fydd unrhyw dir y tu allan i’r AWI yn cael ei ystyried fel PAWS at ddibenion WRS.

Cewch ragor o wybodaeth am y cymorth ar gyfer y Plan Rheoli Coedwig yn Adran E y Llyfryn Rheolau hwn.

Planhigfeydd ar Safleoedd Coetir Hynafol (PAWS)

Os yw'r safle rydych yn bwriadu ei ailstocio, neu ran ohono, mewn PAWS, rhaid cyflogi Cynlluniwr Coetir Cofrestredig i lunio’r Plan Rheoli Coetir a chynnal asesiad PAWS. Rhaid i hyn gydymffurfio â Gwaith Adfer PAWS – Canllawiau ar Arfer Gorau a geir ar wefan Llywodraeth Cymru yma. Bydd angen i’r Cynlluniwr gynnal arolwg o’r coetir, os yn bosib cyn i’r coed gael eu cwympo, ac asesu’r Meini Prawf Pwysig Ecolegol, y Meini Prawf Datblygu Ecolegol a’r Bygythiadau i gael sgôr Potensial Ecolegol. Bydd tîm dilysu coetir Cyfoeth Naturiol Cymru neu Lywodraeth Cymru yn dilysu’r Plan Rheoli Coedwig ac efallai yn archwilio’r cynllun fel rhan o’r broses ddilysu.

Bydd rhaid cyflwyno map digidol manwl gywir, anodedig sydd yn dangos y Meini Prawf Datblygu Ecolegol a’r Bygythiadau gyda’r Plan Rheoli.

Bydd yr opsiynau ailstocio ar gyfer PAWS yn dibynnu ar sgôr Potensial Ecolegol y safle y gwnaed cais am gymorth ar ei gyfer (Uchel, Canolig neu Isel), fel y gwelwch isod. Dylech sicrhau bod y gymysgedd o rywogaethau coed brodorol llydanddail yn addas i’r safle.

Gall tîm Rhaglen Coetir CNC ofyn am gael ymweld â safle os yw’r cais yn cynnwys PAWS cyn derbyn y plan (ond ar ôl dewis y Datganiad o Ddiddordeb). Dylid ymweld â’r safle pan fydd blodau’r llawr wedi ymddangos yn yr AWI. Rydyn ni’n eich cynghori i wneud cais yn fuan yn y cyfnod ymgeisio er mwyn i CNC allu trefnu ymweliad â’r safle yn y gwanwyn. 

Opsiynau ailstocio ar gyfer PAWS

Blaenoriaeth uchel/sgôr uchel am botensial ecolegol 

Amcan – ei lwyr adfer fel coetir brodorol llydanddail, gan anelu at gyflwr ffafriol. Mannau pwysig a gweddillion wedi eu hamddiffyn a’u cryfhau, gyda photensial da iddynt ehangu. Ailstocio’r safle cyfan â choed a llwyni llydanddail brodorol.

Opsiwn ailstocio – Gwaith Cyfalaf 100% (CW) W631

Blaenoriaeth canolig/sgôr ganolig am botensial ecolegol

Amcan - PAWS Trosiannol/Wedi’i adfer  – i sicrhau gwelliant mwy graddol tuag at gyflwr ffafriol h.y. cyflwr wrthi’n gwella (gydag o leiaf 50% o’r canopi yn goed llydanddail brodorol) gyda photensial yn y dyfodol i wella cyflwr neu ei adfer yn llwyr.

Opsiwn ailstocio – O leiaf 45% CW W631; Hyd at 55% CW W615, W618, W619, W632 yn cynnwys 10% yn goed llydanddail brodorol.

Blaenoriaeth isel/sgôr isel am botensial ecolegol

Amcan – Rheoli’r safle fel PAWS yn unol â safonau UKFS; cynnal, amddiffyn a chryfhau gweddillion unrhyw goetir hynafol. O leiaf 15% o’r safle wedi’i ailstocio â choed llydanddail brodorol, yn unol â safonau UKFS.

Opsiwn ailstocio – O leiaf 10% CW W631; Gweddill hyd at 90% CW W615, W618, W619, W632

Planhigfa ar Safle nad yw’n Goetir Hynafol

On non-PAWS sites consideration will need to be given to the compartments’ altitude in metres above sea level and the species mixture to be planted.

Newid rhywogaethau ar gyfer trwydded cwympo

Mae cyfansoddiad rhywogaethau’r Cynllun Adfer Coetir yn gallu bod yn wahanol i fanyleb trwydded cwympo. Bydd tîm Rhaglen Coetir Cyfoeth Naturiol Cymru yn delio â'r ffurflen newid rhywogaethau ar gyfer holl geisiadau’r WRS ar eich rhan.

Ni ddylech ofyn am gael newid rhywogaethau cyn i’r WRS gael ei ddilysu. Ambell waith, bydd angen rhagor o newidiadau. Os yw’r cynllun mewn PAWS, bydd angen newid i’r rhywogaeth sydd ar y fanyleb yn Adfer PAWS – Canllawiau ar Arfer  Gorau.

Mae pum opsiwn Gwaith Cyfalaf ar gyfer ailstocio ar gael o dan y Cynllun Adfer Coetir. Yr Opsiynau Gwaith Cyfalaf hynny yw:

W615 Gwaith Cyfalaf, Ailstocio Sylfaenol – uwchlaw 350 metr

Mae'r opsiwn Gwaith Cyfalaf hwn ar gyfer ailstocio lleiniau lle bydd mwy na 50% o'r llain 350 metr uwchlaw lefel y môr (e.e. mae 1.4 ha (54%) o’r llain uwchlaw 350 metr ac 1.2 ha (46%) o dan 350m). Mae'n dderbyniol rhannu'r llain ar hyd y gyfuchlin berthnasol er mwyn gallu defnyddio'r opsiwn priodol uwchlaw’r llinell ac o dani. Mae'r newid hwn yn cyd-fynd â'r bwriad i ddiweddaru cynnwys Safon Goedwigaeth y DU, a fydd yn cael ei gyhoeddi yn ystod gwanwyn 2023.

Rhaid plannu rhywogaethau coed llydanddail ar o leiaf 10% o’r llain.

Gellir plannu rhywogaethau llydanddail, rhywogaethau conwydd neu gymysgedd o'r ddwy ar weddill y llain (90% ar y mwyaf). Rhaid plannu dwy wahanol rywogaeth fan leiaf, ac ni cheir plannu’r un rhywogaeth ar fwy na 65% o'r llain. Mae hyn yn cyd-fynd â fersiwn 5 o Safon Goedwigaeth y DU. Mae’r un newid wedi cael ei wneud i W518 a W619. 

Ni chewch blannu rhywogaethau prysgwydd (e.e. cyll) ar fwy na 10% o'r llain. Ni chaiff rhywogaeth prysgwydd gyfrannu at gyfanswm y rhywogaethau coed llydanddail y mae'n rhaid eu plannu.

W618 Gwaith Cyfalaf, Ailstocio Sylfaenol - rhwng 250 a 350 metr

Mae'r opsiwn Gwaith Cyfalaf hwn ar gyfer ailstocio lleiniau lle bydd mwy na 50% o'r llain rhwng 250 a 350 metr uwchlaw lefel y môr (e.e. mae 1.4 ha (54%) o’r llain uwchlaw 250 metr ac 1.2 ha (46%) o dan 250m). Mae'n dderbyniol rhannu'r llain ar hyd y gyfuchlin berthnasol er mwyn gallu defnyddio'r opsiwn priodol uwchlaw’r llinell ac o dani.

Rhaid plannu rhywogaethau coed llydanddail ar o leiaf 10% o’r llain.

Gellir plannu rhywogaethau llydanddail, rhywogaethau conwydd neu gymysgedd o'r ddwy ar weddill y llain (90% ar y mwyaf). Rhaid plannu tair gwahanol rywogaeth fan leiaf, ac ni chewch blannu yr un rhywogaeth ar fwy na 65% o'r llain.

Ni chewch blannu rhywogaethau prysgwydd (e.e. cyll) ar fwy na 10% o'r llain. Ni chaiff rhywogaeth prysgwydd gyfrannu at gyfanswm y rhywogaethau coed llydanddail y mae'n rhaid eu plannu.

W619 Gwaith Cyfalaf, Ailstocio Sylfaenol - o dan 250 metr

Mae'r opsiwn Gwaith Cyfalaf hwn ar gyfer ailstocio lleiniau lle bydd mwy na 50% o'r llain o dan 250 metr uwchben lefel y môr (e.e. mae 1.4 ha (54%) o'r llain o dan 250 metr ac 1.2 ha (46%) uwchlaw 250 metr). Mae'n dderbyniol rhannu'r llain ar hyd y gyfuchlin berthnasol er mwyn gallu defnyddio'r opsiwn priodol uwchlaw’r llinell ac o dani.

Rhaid plannu rhywogaethau coed llydanddail ar o leiaf 10% o’r llain.

Gellir plannu rhywogaethau llydanddail, rhywogaethau conwydd neu gymysgedd o'r ddwy ar weddill ardal y llain (90% ar y mwyaf). Rhaid plannu tair gwahanol rywogaeth fan leiaf, ac ni chewch blannu yr un rhywogaeth ar fwy na 65% o'r llain.

Ni chewch blannu Sbriws Sitca ar fwy na 40% o'r llain.

Ni chewch blannu rhywogaethau prysgwydd (e.e. cyll) ar fwy na 10% o'r llain. Ni chaiff rhywogaeth prysgwydd gyfrannu at leiafswm y rhywogaethau coed llydanddail y mae'n rhaid eu plannu.

W631 gwaith cyfalaf, coed llydanddail brodorol

Mae'r opsiwn Gwaith Cyfalaf hwn yn gofyn am blannu'r safle i gyd ag amrywiaeth o Goed Llydanddail Brodorol. Dylai'r gymysgedd fod yn gynhenid i'r safle a chydymffurfio â’r mathau a restrir yn adran 7 o Ddeddf Amgylchedd (Cymru) 2016 (gwefan Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru). Bydd hyn yn adlewyrchu mathau Cynlluniau Gweithredu Cynefinoedd blaenorol fel coetiroedd deri yr ucheldir a choetiroedd llydanddail cymysg llawr gwlad. Cewch ragor o wybodaeth am y gymysgedd rhywogaethau ar gyfer y cynefinoedd hyn ar wefan Forest Research. 

Ni chewch blannu rhywogaethau prysgwydd (e.e. cyll) ar fwy nag 20% o'r llain.

W632 gwaith cyfalaf, coed llydanddail brodorol

Mae'r opsiwn Gwaith Cyfalaf hwn yn gofyn am blannu rhywogaethau coed llydanddail brodorol ar 80% o'r safle. Gellir plannu naill ai rhywogaethau coed llydanddail brodorol neu anfrodorol ar yr 20% sy'n weddill.

Ni chewch blannu rhywogaethau prysgwydd (e.e. cyll) ar fwy nag 20% o'r llain.

Mannau agored

Mae dwysedd y stocio a ddangosir yn y manylebau plannu wedi'i seilio ar nifer y coesynnau yr hectar a'r rhagdybiaeth yw y caiff yr ardal sydd wedi’i chynnwys yn y Dyfarniad Grant lle y cwympwyd y coed gael ei hailstocio'n llawn â choed i’r dwysedd a bennir yn y Dyfarniad Grant.

Rhaid mapio lleiniau agored/nad oes modd eu plannu e.e traciau a glannau afonydd o fewn y coetir sydd yn 0.1ha a rhaid peidio â’u cynnwys yn yr ardal sy'n cael cymorth grant. Nid yw’r ardaloedd yma yn gymwys am gymorth o dan y WRS.

Gellir cynnwys mannau agored gwasgaredig nad oes modd eu mapio (h.y. sy’n llai na 0.1ha) yn y llain blannu hyd at gyfanswm o 15% o'r llain gyfan. Ond rhaid nodi hynny ym Mhlan Rheoli’r Goedwig. Bydd angen ichi gynyddu nifer y coesynnau ar bob hectar yn rhannau eraill y safle er mwyn gwneud iawn am y tir sydd heb ei blannu ac i sicrhau bod nifer y coed sy'n ofynnol dan y Dyfarniad Grant yn cael eu plannu.

Cwympo coed llarwydd ifanc o dan 25 oed  

Mae’r cynllun yn darparu grant ar gyfer cwympo coed llarwydd ifanc o dan 25 oed i gydnabod nad oes fawr o werth os o gwbl i’r pren i gefnogi’r gweithgaredd. Rhaid bod SPHN wedi’i roi, sy’n gofyn am glirio’r safle o fewn amserlen benodol. Mae dwy gyfradd i’r grant a gynigir, gan ddibynnu ar a fyddwch yn defnyddio llif glirio neu offer mecanyddol. Amod o roi arian ar gyfer y gweithgaredd hwn yw’ch bod yn gwneud cais am grant o dan y cynllun i ailstocio’r coetir rydych wedi’i glirio.

Fe all y coed llarwydd ifanc fod yn gynefin i Rywogaethau a Warchodir gan Ewrop (EPS) fel pathewod. Efallai y byd angen ichi wneud cais am drwydded EPS cyn dechrau clirio’r coed hyd yn oed os nad oes angen trwydded gwympo arnoch chi. Cewch ragor o wybodaeth ar wefan CNC ar rywogaethau a warchodir. 

WW697 – Coed llarwydd o dan 25 oed – Llif glirio a W698 – Coed llarwydd o dan 25 Oed – Offer Mecanyddol Arall

Bydd y safle yn destun Hysbysiad Iechyd Planhigion Statudol (SPHN) sy’n gofyn am glirio’r safle o fewn amserlen benodol. Caiff y grant ei dalu ar y tir dan sylw o fewn naill ai’r Parth Rheoli neu’r tir sy’n destun SPHN. 

Rhoddir y grant hwn i chi glirio cnydau o goed llarwydd o dan 25 oed sydd wedi’u heintio â Phytophthora ramorum lle mae modd gwneud hynny ddiogel â llif glirio. 

Amod o’r grant ar gyfer clirio cnydau llarwydd ifanc (h.y. llai na 25 oed) yw bod y pren a ddaw o’r safle yn sgil hynny yn cael ei drin yn unol â gofynion y drwydded cludo ar y ffyrdd / prosesu pren. 

Ni chewch ddefnyddio’r grant i gwympo rhywogaethau eraill o goed neu lwyni oni bai bod gwneud hynny’n gwbl angenrheidiol er mwyn medru clirio’r coed llarwydd ar y tir sy’n destun yr SPHN. Ni fydd cymorth arall ar gael ar gyfer clirio coed a llwyni ar dir neu leiniau eraill am resymau gweithredol neu economaidd. 

Ni chaiff eich cais ei gymeradwyo oni bai’ch bod yn cytuno i ailblannu unrhyw goetir rydych yn ei glirio. Ni fyddwn yn gallu’ch talu am unrhyw waith cwympo na fydd wedi’i ailblannu o fewn yr amserlen a roddwyd. 

Cyfraddau’r taliadau

Mae'r tabl isod yn rhestru cyfraddau’r taliadau ar gyfer Gwaith Cyfalaf.

Gwaith CyfalafMath o Ailstocio£ / Ha
W615Sylfaenol£2,900
W618Sylfaenol£2,900
W619Sylfaenol£3,600
W631Llydanddail brodorol£4,200
W632Llydanddail£4,200
W697**Cwympo Llarwydd Ifanc – Llif Glirio£600
W698Cwympo Llarwydd Ifanc – Offer Mecanyddol 

£1,200

 

Gwaith cyfalaf arall 

Mae’r tabl isod yn rhestru eitemau’r Gwaith Cyfalaf sydd ar gael o dan y Cynllun Adfer Coetir a’u cyfraddau talu. Mae’r eitemau hyn ar gyfer paratoi’r safle er mwyn medru ei ailstocio ac i ddiogelu tir y Dyfarniad Grant rhag cael ei bori. 

Gwaith cyfalaf Disgrifiad Cyfradd (£)
W549Sedd Uchel £348.33 yr un 
W595Ffens Postyn a weiar gyda netin stoc £8.32 / m
W600Gât Pren Meddal £291.75 yr un 
W602Ffens Ceirw £11.93/ m
W654Rheoli Mieri / Prysg – chwistrellydd llaw / cefn £273 / ha
W663Rheoli Rhododendron/Llawryf <1.5m£3882.60 / ha
W666Clirio prysg - mecanyddol £227 / ha
W669Rheoli planhigion goresgynnol £1179.00 / ha
W670Rheoli Rhododendron/Llawryf > 2.5m£7461.13 / ha
W671Rhododendron/Laurel control 1.5 - 2.5m£5129.10/ha

Dim ond at ddiben plannu coed y mae taliadau gwaith cyfalaf yn gymwys ar gyfer rheoli Rhododendron/llawryf. Nid yw clirio Rhododendron a llawryf at ddiben atal clefydau'n gymwys o dan y cynllun hwn.

Rhanddirymiad

Fe fydd, o dan rai amgylchiadau, modd caniatáu rhanddirymiad (llacio’r rheolau) er mwyn ichi allu newid y telerau neu dynnu’ch Dyfarniad Grant yn ôl. Caiff ceisiadau eu hasesu yn unigol os na fyddwch yn gallu gwneud y gwaith, neu ran ohono, erbyn dyddiad cwblhau eich Dyfarniad Grant.

Rhaid ichi gyflwyno cais ysgrifenedig i Lywodraeth Cymru am randdirymiad cyn gynted ag y bydd problem yn codi. Bydd angen i chi gyflwyno tystiolaeth i gefnogi’ch cais, gan gynnwys beth wnaethoch chi i geisio cwblhau’r gwaith a nodir yn eich Dyfarniad Grant .

Os na fydd modd caniatáu rhanddirymiad, mae’n bosib caiff eich Dyfarniad Grant ei dynnu’n ôl, y bydd yn rhaid ichi ad-dalu’r arian sydd wedi’i dalu ichi ac ni chewch ddatgan diddordeb eto am gyfnod o 2 flynedd.

Ymgynghori

Os ydych chi'n bwriadu gwneud gwaith ar safle dynodedig neu wrth ymyl safle dynodedig, rhaid cynnal yr ymgynghoriad angenrheidiol e.e. Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI), Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA),

Heneb Gofrestredig (SAM), Nodwedd yr Amgylchedd Hanesyddol (HEF), Hawliau Tramwy Cyhoeddus a Pharciau a Gerddi Cofrestredig a heb eu Cofrestru, a darparu’r ymatebion gyda'r Plan Rheoli Coedwig.

Mae angen ystyried a oes unrhyw rywogaethau gwarchodedig (e.e. ystlumod, pathewod) ar y safle ac efallai y bydd angen holi’r awdurdod priodol. Efallai hefyd bydd angen i chi wneud cais i Cyfoeth Naturiol Cymru am drwydded Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop (EPS) fel rhan o’ch cais am drwydded cwympo.

Defnyddio chwynladdwr

Ni ddylid defnyddio chwynladdwr i drin ail-dyfiant o foncyff llydanddail brodorol ar safle PAWS.

Adran E: gwneud cais am y Cynllun Adfer Coetir

Cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb (DOD)

RPW Ar-lein

Rhaid gwneud cais am y WRS drwy Taliadau Gwledig Cymru (RPW) Ar-lein. Os oes gennych Gyfeirnod Cwsmer (CRN) eisoes, fe ddylech fod wedi cael llythyr gyda’ch Cod Defnyddio arno ichi allu agor cyfrif. Os ydych wedi’i golli, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004 a rhoi’ch CRN i’r cysylltydd. Caiff Cod Defnyddio newydd ei anfon atoch.

Ar ôl ichi gofrestru, gallwch fynd yn syth i’ch cyfrif RPW Ar-lein o rpwonline.gov.wales. Fe welwch ffurflen Datgan Diddordeb yn y Cynllun Adfer Coetir yn yr adran Ceisiadau a Hawliadau.

Os oes gennych asiant yn gweithio ar eich rhan, bydd gofyn iddo gofrestru fel asiant ar RPW Ar-lein. Os nad ydych wedi gwneud hyn eto, dylech lenwi’r ffurflen Manylion Asiant / Undeb Ffermwyr (Cymru) ar unwaith. Mae copi o’r ffurflen ar gael ar rpwonline.gov.wales. Ar ôl i’r ffurflen ein cyrraedd, byddwn yn anfon CRN Asiant ato a Chod Defnyddio RPW Ar-lein. Bydd gofyn llenwi Ffurflen Ganiatâd Cymdeithasau hefyd i gytuno ar rolau’ch cleient. Cedwir copi o’r ffurflen hon ar rpwonline.gov.wales.

Caiff neges ddarlledu ei hanfon at bob cwsmer sydd â Datganiad o Ddiddordeb mewn statws drafft yn yr wythnos sy’n arwain at y cyfnod cau. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gofrestru ar RPW Ar-lein neu am Ddatgan Diddordeb, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004. Byddan nhw’n gallu eich cynghori a rhoi gwybod ichi ble gallwch fynd am help digidol.

Am fwy o wybodaeth ar RPW Ar-lein a sut i lenwi Datganiad o Ddiddordeb yn y WRS ewch i Grantiau a Thaliadau Gwledig | Adfer Coetir.

Y broses ddewis

Dewisir y sawl sy'n Mynegi Diddordeb ar sail ei allu i gyflawni'r meini prawf cymhwysedd, ac ar sail faint o’r gyllideb a fydd ar gael. Y gyllideb amodol sydd ar gael ar gyfer y cyfnod hwn ar gyfer Datgan Diddordeb yn y WRS fydd £1 Filiwn. Os na fydd y gyllideb sydd ar gael yn ddigon i gynnig Dyfarniad Grant i bob ymgeisydd cymwys, bydd Llywodraeth Cymru'n blaenoriaethu'r sawl sydd â Hysbysiad Iechyd Planhigion Statudol, wedyn y rheini sydd yn y parth cyfyngu'r clefyd, yn nhrefn yr ardal fwyaf gyntaf. Parth cyfyngu'r clefyd ar hyn o bryd yw'r ardal yn y dwyrain a'r gogledd lle mae camau rheoli gweithredol ar waith o hyd.

Ar ôl cwblhau'r broses ddewis, fe gewch eich hysbysu drwy eich cyfrif RPW Arlein yn cadarnhau canlyniad eich Datganiad o Ddiddordeb.

Os caiff eich Datganiad o Ddiddordeb ei ddewis, lle bydd angen i chi dderbyn neu wrthod y cynnig drwy eich cyfrif RPW Ar-lein erbyn y dyddiad a roddir yn y llythyr.

Bydd y llythyr yn cael ei anfon atoch drwy’ch cyfrif RPW Ar-lein ac yn cynnwys:

  • tabl yn cadarnhau’r caeau, opsiynau plannu WRS ac arwynebedd y plannu a fwriedir fel a nodwyd gennych yn eich Datganiad o Ddiddordeb ac a ddilyswyd gan Lywodraeth Cymru.
  • map digidol o’r tir gafodd ei ddatgan a’i ddilysu ar y Datganiad o Ddiddordeb.

Os ydych am barhau â’ch bwriadau i ailstocio, rhaid i chi dderbyn y cynnig i’ch dewis drwy’ch cyfrif RPW Ar-lein o fewn 14 diwrnod o gael gwybod amdano. 

Os byddwch yn derbyn y cynnig i’ch dewis, peidiwch â dechrau ar y gwaith h.y. unrhyw waith sefydlu neu ffensio gwaith cyfalaf yr ydych yn bwriadu hawlio amdano.

Pan fyddwch wedi derbyn y cynnig i’ch dewis, cewch ddechrau paratoi’ch cynigion ail-stocio a;ch Plan Rheoli Coedwig ar gyfer eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru.

Os gwnewch chi wrthod, neu fethu ag ymateb i’r cynnig i’ch dewis, caiff eich Datganiad o Ddiddordeb WRS ei dynnu’n ôl ac ni fyddwch yn gymwys i gyflwyno Plan Rheoli Coedwig i Lywodraeth Cymru ar gyfer ei ddilysu.

Caiff neges atgoffa ei hanfon drwy’ch cyfrif RPW Ar-lein yn yr wythnos cyn y dyddiad cau ar gyfer derbyn y cynnig i’ch dewis

Os na fydd eich Datganiad yn llwyddiannus, cewch wybod drwy’ch cyfrif RPW Ar-lein gyda’r rheswm pam na cawsoch eich dewis.

Cyflwyno’r plan rheoli coedwig

Os bydd eich Datganiad o Ddiddordeb yn llwyddiannus a’ch bod wedi derbyn y cynnig i’ch dewis, bydd gofyn ichi baratoi Plan Rheoli Coedwig, a fydd yn sail i’ch cais WRS. Rhaid ichi gwblhau eich Plan Rheoli Coedwig a'i anfon atom erbyn y dyddiad sydd yn llythyr eich dewis.

Caiff neges atgoffa ei hanfon drwy’ch cyfrif RPW Ar-lein yn yr wythnos cyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Plan Rheoli Coetir. 

Bydd map digidol yn cael ei anfon atoch, yn dangos y parseli a gynhwyswyd yn eich Datganiad o Ddiddordeb. Bydd templed Plan Rheoli Coedwig, a chanllaw ar sut i’w lenwi ynghyd â chanllaw ar sut i lenwi’r map digidol, ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Rhaid ichi ddefnyddio'r dogfennau hyn. Os yw graddfa Geopdf WRS yn fwy na 1:25,000, rhowch fap manylach (1:25,000 neu lai) i ddangos Gwaith Cyfalaf WRS. ’’

Cyn dechrau paratoi’ch Plan Rheoli Coedwig, darllenwch y canllawiau. Rhaid i’r cynllun gydymffurfio â’r UKFS (Forestry Commission – UK Forestry Standard and Guidelines). Os oes PAWS yn eich Datganiad o Ddiddordeb bydd angen i chi ofyn i Gynlluniwr Coetir Cofrestredig am help proffesiynol i sicrhau bod eich cais yn cydymffurfio â’r safonau hyn. Caiff eich Plan Rheoli Coedwig ei asesu wedyn gan Lywodraeth Cymru i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’r safonau. Wrth ei asesu, bydd yr wybodaeth yn eich Plan a’r map yn cael eu hystyried ac ystyrir hefyd a yw’r gwaith yn y cais yn gymwys i gael arian o dan y WRS.

Ar ôl cymeradwyo’r Plan Rheoli Coedwig, gellir cynnwys yr eitemau Gwaith Cyfalaf cymwys sydd wedi’u rhestru yn y Plan yng nghontract y WRS.

Taliad Cymorth ar gyfer y Plan Rheoli Coedwig – Ailstocio PAWS yn unig

Bydd cwsmeriaid sy’n derbyn grant Cynllun Adfer Coetir sy’n cynnwys ailstocio safleoedd PAWS lle ceir coed llarwydd a hyd at 50% heb goed llarwydd yn cael gwneud cais am daliad untro o £1,500 tuag at y gost o greu’r plan. Un taliad a roddir fesul cwsmer. Dylai’r plan hwn ystyried yr uned rheoli coetir yn ei chyfanrwydd. Ni fydd yna ragor o daliadau ar gyfer llunio planiau rheoli mewn rowndiau ar ôl hwn.

I fod yn gymwys am y taliad cymorth untro o £1,500 ar gyfer planiau WRS sydd yn cynnwys ailstocio safle PAWS, rhaid bwrw ymlaen â’r gwaith plannu ar ôl derbyn dyfarniad grant WRS.

Os gwnaethoch chi gael taliad cymorth o £1,500 o dan GWR neu WRS yn y gorffennol, ni fyddwch yn gymwys i’w gael eto yn y cyfnod ymgeisio hwn. 

Cynnig llythyr dyfarnu grant

Os bydd eich cais am WRS yn llwyddiannus, bydd Llythyr Dyfarnu Grant yn cael ei gynnig ichi drwy’ch cyfrif RPW Ar-lein. Bydd yn nodi’r holl waith neu rywfaint o’r gwaith sydd wedi’i restru yn eich Plan Rheoli Coedwig.

Bydd angen ichi dderbyn y Llythyr Dyfarnu Grant drwy’ch cyfrif RPW Ar-lein o fewn 30 niwrnod ar ôl cael gwybod am y cynnig. Bydd hynny’n cadarnhau eich bod yn hapus â thelerau ac amodau’r Llythyr Dyfarnu Grant. Os bydd cadarnhad o’r fath yn cyrraedd ar ôl y dyddiad hwn, caiff y dyfarniad grant Adfer Coetir ei dynnu’n ôl.

Os byddwch chi’n penderfynu peidio â bwrw ymlaen â’ch cais neu os byddwch chi’n penderfynu peidio â derbyn y Llythyr Dyfarnu Grant o fewn yr amser a ganiateir, ni fyddwch yn cael gwneud cais o dan y Cynllun Adfer Coetir am 2 flynedd arall.

Os penderfynwch chi dynnu’n ôl o’r Dyfarniad Grant cyn diwedd ymrwymiad y Dyfarniad Grant (1 flwyddyn ar gyfer Gwaith Cyfalaf, 10 mlynedd ar gyfer Cynnal a Chadw) bydd gofyn ichi ad-dalu’r holl arian rydych wedi’i gael o dan ddyfarniad grant y WRS gyda llog.

Os bydd newidiadau i’r rhaglenni gwledig domestig Llywodraeth Cymru yn sgil newidiadau i’r rheoliadau, mae’n bosibl y terfynir y Dyfarniad Grant WRS.

Hawlio cymorth ar gyfer Plan Rheoli Coedwig sy’n cynnwys PAWS

Unwaith y bydd Llywodraeth Cymru wedi cael cadarnhad eich bod yn derbyn y Llythyr Dyfarnu Grant ar-lein, sy’n cynnwys ailstocio PAWS, anfonir ffurflen hawlio plan y WRS atoch drwy eich cyfrif ar-lein y bydd angen ei chwblhau a’i dychwelyd. Ar ôl iddi ein cyrraedd, bydd eich ffurflen hawlio’n cael ei dilysu a’i phrosesu ac, os yw’n gymwys, bydd y taliad yn cael ei brosesu a’i dalu drwy drosglwyddiad BACS.

Os na chaiff y gwaith ailstocio ar PAWS ei wneud, yn unol â’r Llythyr Dyfarnu Grant, bydd Llywodraeth Cymru yn gofyn am y £1,500 yn ôl. Yn ogystal, yn unol â rheolau’r cynllun, ni fydd deiliad y Grant yn cael gwneud cais am WRS am 2 flynedd arall, hynny am nad oedd wedi gwneud y gwaith plannu.

Os gwrthodir y Llythyr Dyfarnu Grant neu os na dderbynnir ymateb i’r cynnig, ni fydd y plan cymeradwy yn gymwys i gael cymorth.

Dechrau ar y gwaith

Ni ddylai deiliaid y Dyfarniad Grant gychwyn unrhyw waith cyn derbyn Llythyr Dyfarnu Grant sy’n cadarnhau’r safleoedd sydd i’w plannu ar ôl eu dilysu. Os ydych yn dechrau ar y gwaith cyn ichi dderbyn y llythyr, bydd Llywodraeth Cymru efallai'n gwrthod y gwaith sydd wedi'i ddechrau neu'n terfynu'r Dyfarniad Grant, a bydd yn rhaid ichi ad-dalu unrhyw daliadau rydych wedi’u derbyn. Enghraifft o ddechrau ar y gwaith yw cychwyn plannu cyn cyflwyno map y Dyfarniad Grant sy’n nodi’r safleoedd ail-stocio ichi.

Hawlio Taliad ar gyfer Gwaith Cyfalaf Ailstocio a Ffensio

Caiff hawliadau gwaith cyfalaf eu gwneud drwy ddefnyddio’r ffurflen Hawlio Gwaith Cyfalaf drwy’ch RPW Ar-lein ac ar ôl i'r gwaith gael ei gwblhau. Bydd pob taliad o dan gynllun WRS yn cael ei dalu ar radd safonol. Mae’n rhaid i waith cyfalaf sydd angen gael ei gwblhau a’i hawlio ar RPW ar-lein erbyn 31 Mawrth 2026.

Caiff neges atgoffa ei hanfon drwy’h cyfrif RPW Ar-lein yn yr wythnos cyn y dyddiad cau ar gyfer cwblhau a hawlio gwaith cyfalaf.

Adran F: trosglwyddo a gwerthu tir o dan gontract

Trosglwyddo neu werthu tir sydd o dan y llythyr dyfarnu grant 

Wrth arwyddo Llythyr Dyfarnu Grant y Cynllun Adfer Coetir, rydych yn gwneud ymrwymiad am 10 mlynedd. Os byddwch yn penderfynu gwerthu neu drosglwyddo’ch tir neu ran ohono yn ystod y 10 mlynedd o ymrwymiad, efallai y bydd gofyn ichi ad-dalu’r arian rydych eisoes wedi’i gael neu gael eich cosbi’n ariannol.

Os ydych am drosglwyddo Llythyr Dyfarnu Grant Cynllun Adfer Coetir i feddiannydd newydd, rhaid cael cymeradwyaeth Llywodraeth Cymru. Os ydy’r meddiannydd newydd yn dewis cymryd eich ymrwymiad chi o dan y Cynllun Adfer Coetir a bod y tir yn dal i fod yn gymwys, rhaid i’r meddiannydd newydd barhau â’r ymrwymiad ar y tir hwnnw am weddill cyfnod y Dyfarniad Grant. Dylid gofalu fod y meddiannydd newydd yn gwybod am yr ymrwymiad i’r Cynllun Adfer Coetir cyn cytuno i drosglwyddo’r tir dan sylw.

Mae’r rheoliadau sydd yn ymwneud â’r cynllun yn gwahardd trosglwyddo Dyfarniad Grant ar gyfer gwaith cyfalaf. Deiliad y Dyfarniad Grant fydd yr unig fusnes a fydd yn gallu hawlio gwaith cyfalaf y WRS. Ni fydd modd prosesu trosglwyddiad nes bod yr hawliad am waith cyfalaf a’r taliad wedi’u hawdurdodi.

Ar ôl trosglwyddo neu werthu rhan o’r tir, rhaid i unrhyw dir rydych wedi’i gadw ac sy’n dal yn rhan o Ddyfarniad Grant y WRS gwreiddiol barhau i fodloni’r meini prawf gofynnol. Os nad yw, caiff y Dyfarniad Grant ei derfynu, a bydd rhaid ichi ad-dalu pob taliad a wnaed ar y tir hwnnw, ynghyd â’r llog.

Os ydych yn trosglwyddo neu’n gwerthu unrhyw dir sy’n rhan o Ddyfarniad Grant y WRS, yna rhaid rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru yn ysgrifenedig o fewn 30 diwrnod ar ôl i hynny ddigwydd. O beidio â rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru, byddwch yn debygol o gael eich cosbi.

Os byddwch yn trosglwyddo neu’n gwerthu tir sydd o dan y Dyfarniad Grant a bod Llywodraeth Cymru’n credu bod amcanion y WRS wedi’u tanseilio o’r herwydd, gallai’r Dyfarniad Grant gael ei derfynu ac efallai y bydd yn rhaid ichi ad-dalu pob taliad ynghyd â’r llog.

Newid y tir a’r gofyn i’n hysbysu am newidiadau i’r tir

Rhaid i chi roi gwybod i Lywodraeth Cymru am newidiadau i’ch caeau o fewn 30 diwrnod ar ôl i’r newid ddigwydd. Gallai’r newidiadau hynny gynnwys:

  • cofrestru caeau nad oeddynt wedi’u cofrestru gydag IACS o’r blaen (h.y. caeau heb eu cofnodi ar y Ffurflen Gais Sengl (SAF))
  • rhannu caeau yn barhaol
  • uno caeau yn barhaol
  • newid ffiniau caeau
  • newid nodweddion parhaol caeau.

Hefyd, rhaid rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru o fewn y terfyn o 30 diwrnod ar ôl iddo ddigwydd os ydy meddianwyr y tir gan gynnwys perchennog newydd neu denantiaeth newydd, yn newid.

Rhaid rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru am unrhyw newid o fewn 30 diwrnod. Mae gwasanaeth Rheoli Fy Nhir RPW Ar-lein wedi cymryd lle pob swyddogaeth yr FM4 papur fydd ddim ar gael rhagor. Gellir defnyddio Rheoli Fy Nhir i hysbysu RPW ynglŷn â chofrestru tir, cyflwyno nodweddion newydd, neu

newidiadau i nodweddion parhaol, newidiadau i derfynau a throsglwyddo tir. Cliciwch ar y ddolen hon am gyfarwyddiadau ar sut i ddefnyddio Rheoli Fy Nhir.

Adran G: newidiadau i reolau’r cynllun

Newidiadau i’r ddeddfwriaeth (gan gynnwys dehongliadau newydd)

Mae Rheoliadau yn cael eu newid o dro i dro. Bydd yn rhaid ichi gydymffurfio â’r newidiadau hynny ar ôl i Lywodraeth Cymru eich hysbysu amdanyn nhw.

Newidiadau i reolau'r cynllun

Efallai weithiau, bydd angen newid eich Dyfarniad Grant. Er enghraifft, efallai y bydd angen diweddaru’r amodau rheoli yn sgil ymchwil wyddonol newydd, newid rheolau’r cynllun yn sgil newidiadau i’r rhaglen wledig ddomestig neu bennu cyfraddau talu newydd. Byddwn yn cyhoeddi’r newidiadau yn Gwlad ar wefan Llywodraeth Cymru (llyw.cymru) a, lle bo gofyn, yn ysgrifennu atoch chi.

Adran H: rheoliadau, monitro a chadw cofnodion

Mesurau rheoli

Mae’n bosibl y cewch ei dewis ar gyfer archwiliad i gadarnhau’ch bod yn cadw at reolau’r cynllun, gan gynnwys y gofyn ynghylch cadw cofnodion. Gallai archwiliad olygu archwiliad ar y fferm a defnyddio Systemau Lleoli Daearyddol, lluniau o’r awyr a lluniau gan loeren. Gellir cynnal archwiliad unrhyw adeg o’r flwyddyn ac ystyrir yr holl ymrwymiadau a rhwymedigaethau y bydd modd edrych arnyn nhw yn ystod yr ymweliad. 

Bydd Llywodraeth Cymru a’r cyrff rheoli arbenigol yn gwneud eu gorau glas i sicrhau bod yr archwiliadau’n amharu cyn lleied â phosibl arnoch, ond bydd angen cynnal rhai archwiliadau heb rybudd. Mae’n bosibl yr ymwelir â chi fwy nag unwaith mewn blwyddyn galendr. 

Os byddwch yn gwrthod ymweliad gan swyddog neu’n ei rwystro, neu’n gwrthod rhoi cymorth rhesymol, mae’n bosib y gwnawn ni wrthod eich hawliad ac adennill unrhyw daliadau sydd wedi’u gwneud a gallech gael eich erlyn. 

Monitro 

Mae gofyn monitro pob grant a ddyfernir a chaiff effaith y grant ar y busnes ei werthuso ar ôl ei gwblhau. 

Rhaid ichi adael i swyddogion Llywodraeth Cymru, neu eu cynrychiolwyr, gynnal yr archwiliadau hyn. 

Cadw cofnodion 

Rhaid ichi gadw’r holl gofnodion ac unrhyw wybodaeth sydd eu hangen arnoch i brofi’ch bod wedi rhoi gwybodaeth gywir a chyflawn a’ch bod wedi cadw at eich ymrwymiadau am bum mlynedd. 

Bydd gofyn ichi hefyd: 

  • roi i Lywodraeth Cymru unrhyw wybodaeth am Ddyfarniad Grant y WRS a rhoi’r wybodaeth o fewn y cyfnod a bennir gan Lywodraeth Cymru
  • roi i Lywodraeth Cymru, ei phersonau ag awdurdodau a’i hasiantwyr, unrhyw gofnodion a gwybodaeth arall, gan gynnwys mynediad at ddata cyfrifiadurol sy’n ymwneud â Dyfarniad Grant y WRS, gan ganiatáu i Lywodraeth Cymru gymryd y dogfennau neu’r cofnodion hyn i wneud copïau neu gymryd darnau ohonynt 

Adran I: cosbau

Bydd ffermwyr yn cael eu cosbi pan fydd rheolau neu ofynion Gwaith Cyfalaf yn cael eu torri.

Torri amodau’r dyfarniad grant 

Bydd swyddogion yn ymweld â’r lleoliadau i gynnal archwiliadau gweinyddol ac archwiliadau yn y fan a’r lle i weld a ydych yn torri amodau’r Dyfarniad Grant ac os gwelir eich bod, cewch wybod trwy lythyr. Lle gwelir eich bod wedi torri amodau’r Dyfarniad Grant, byddwn yn lleihau a/neu’n atal eich taliadau gan ddibynnu ar ba mor ddifrifol, mawr, parhaol ac ailadroddus oedd y tramgwydd. Gall effeithio ar daliadau’r blynyddoedd blaenorol.

Os bydd Llywodraeth Cymru’n credu bod y tramgwydd mor ddifrifol nad oes modd ei gywiro, gallai derfynu’ch Dyfarniad Grant. Mewn sefyllfaoedd difrifol iawn, gallai olygu hefyd eich gwahardd rhag ymuno â chynllun arall arall am hyd at ddwy flynedd.

Mae Llywodraeth Cymru’n asesu tramgwyddau yn ôl safonau dilysadwy sy’n cyfateb i’r amodau ar gyfer ymuno â’r cynllun. Mae matrics wedi’i lunio i benderfynu ar lefel y gosb i’w rhoi. Mae’r matrics cosbi a’r safonau dilysadwy i’w gweld ar wefan Llywodraeth Cymru Grantiau a thaliadau gwledig

Cam-hawlio a chosbau 

Er mwyn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth sy’n rheoli’r cynllun a sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei wario’n gywir, mae’r cynllun yn cynnwys cosbau os bydd rheolau’r cynllun yn cael eu torri. 

Dylech ond hawlio ar gyfer y gwaith cymwys rydych wedi’i gwblhau, hyd yn oed os yw hyn yn llai nag a nodwyd yn y Dyfarniad Grant. 

Os gwelwn nad yw’r gwaith wedi’i gwblhau yn unol â manylebau technegol y prosiect ac nad oes modd ei unioni, caiff y taliadau eu lleihau i gyfateb i’r gwaith gafodd ei gwblhau yn unol â’r manylebau technegol. 

Os bydd y gostyngiad hwn yn fwy na 10% o werth yr hawliad, byddwn yn rhoi cosb weinyddol i chi am orddatgan. 

Os bydd hawliad ffug yn cael ei wneud, neu os bydd perchennog y tir yn methu â rhoi’r wybodaeth angenrheidiol, bydd gwaharddiad ar daliadau ar gyfer y flwyddyn dan sylw a bydd yn rhaid ad-dalu unrhyw symiau sydd eisoes wedi’u talu y flwyddyn honno. 

Adran J: y drefn apelio a chwyno

Ni fydd modd apelio yn erbyn penderfyniad i wrthod datganiad o ddiddordeb. 

Mae ‘Proses Apelio Annibynnol Grantiau a Thaliadau Gwledig’ yn caniatáu ichi ofyn am adolygiad os nad ydych yn teimlo bod Llywodraeth Cymru wedi dod i benderfyniad cywir yn ôl rheolau’r cynllun. 

Mae dau gam i’r broses adolygu:

  • Cam 1: RWP i adolygu’r achos
  • Cam 2: Panel Apelio Annibynnol i adolygu’r achos (os ydych yn anfodlon â’r penderfyniad yng Ngham 1). 

Bydd y Panel Annibynnol yn gwneud argymhelliad i Weinidogion Cymru a fydd wedyn yn penderfynu’n derfynol ar y mater. Daw hynny â’r broses i ben

Nid oes tâl am gam cyntaf y broses ond codir tâl ar gyfer yr ail gam - £50 am wrandawiad ysgrifenedig a £100 am wrandawiad llafar. Bydd hwn yn cael ei dalu’n ôl i’r apeliwr os bydd ail gam y broses yn llwyddiannus neu’n rhannol lwyddiannus.

Rhaid ichi gyflwyno apêl i RPW cyn pen 60 diwrnod ar ôl dyddiad y llythyr sy’n disgrifio’r penderfyniad rydych am apelio yn ei erbyn.

Mae croeso ichi apelio yn Gymraeg a byddwn yn ymateb i unrhyw ohebiaeth Gymraeg yn Gymraeg. Ni fydd hyn yn arafu’ch apêl.

Cewch fwy o fanylion y broses apelio a sut i gyflwyno apêl ar y ffurflen apelio ar-lein, gan y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid neu ar ein gwefan yn Apeliadau Grantiau a Thaliadau Gwledig: canllaw | LLYW.CYMRU.

Y Drefn gwyno

Byddwn yn delio â chwynion o dan weithdrefn gwyno Llywodraeth Cymru. Cewch fwy o wybodaeth am sut i wneud cwyn gan y Tîm Cynghori ar Gwynion.

Llywodraeth Cymru
Adeiladau’r Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ 

Ffôn: 03000 251378

E-bost: complaints@gov.wales

Gwefan: Cwyn am Lywodraeth Cymru | LLYW.CYMRU

Mae croeso ichi ysgrifennu at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

1 Ffordd yr Hen Gae
Pencoed
Pen-y-bont ar Ogwr
CF35 5LJ

Tel: 0300 790 0203

Website: Ombwdsmon

Adran K: rheoliad cyffredinol ar gyfer diogelu data: hysbysiad preifatrwydd

Sut y byddwn yn ymdrin ag unrhyw ddata personol a ddarparwch mewn perthynas â’ch cais am grant neu eich cais am gyllid grant

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig ystod eang o gynlluniau grant i helpu i gyflawni ein polisïau a chreu Cymru decach, fwy llewyrchus.

Bydd Llywodraeth Cymru yn rheoli data yr ydych yn eu darparu ar gyfer eich cais am grant neu eich cais am gyllid grant. Caiff yr wybodaeth ei phrosesu fel rhan o’n tasg gyhoeddus (sef ymarfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru) a bydd yn helpu i asesu a ydych yn gymwys ar gyfer cyllid.

Cyn inni ddarparu cyllid grant ichi, rydym yn cynnal gwiriadau at ddibenion atal twyll a gwyngalchu arian, ac i sicrhau pwy ydych. Mae’r gwiriadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol inni brosesu data personol amdanoch i asiantaethau atal twyll trydydd parti.

Os ydym ni, neu asiantaeth atal twyll yn penderfynu eich bod yn risg o ran twyll neu wyngalchu arian, mae’n bosibl y byddwn yn gwrthod y cyllid grant y gwnaethoch gais amdano, neu mae’n bosibl y byddwn yn rhoi’r gorau i ddarparu cyllid grant yr ydym yn ei ddarparu ar hyn o bryd ichi.

Bydd cofnod o unrhyw risg o ran twyll neu wyngalchu arian yn cael ei gadw gan ein asiantaethau atal twyll, a gallai olygu bod eraill yn gwrthod darparu gwasanaethau, eich cyllido neu eich cyflogi.

Er mwyn asesu cymhwysedd, efallai y bydd angen i ni hefyd rannu gwybodaeth bersonol sy'n ymwneud â'ch cais gyda:

  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion
  • Y Gyfarwyddiaeth Meddygaeth Filfeddygol
  • Awdurdodau Lleol Cymru
  • Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru
  • DEFRA
  • Swyddfeydd Amaethyddol eraill Llywodraeth y DU.
  • Awdurdodau rheoleiddio, megis Cyllid a Thollau EM, Awdurdodau Lleol, Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a'r Heddlu.

Gallwn hefyd rannu’ch gwybodaeth â chyrff sy’n darparu hyfforddiant, cyngor a chymorth ar arloesi a threfniadau trosglwyddo gwybodaeth ar ran Llywodraeth Cymru at ddiben targedu cymorth. 

Gall eich gwybodaeth, gan gynnwys eich gwybodaeth bersonol, fod yn destun cais gan aelod arall o'r cyhoedd. Wrth ymateb i geisiadau o'r fath, efallai y bydd yn ofynnol i Lywodraeth Cymru ryddhau gwybodaeth, gan gynnwys eich gwybodaeth bersonol, i gyflawni ei rhwymedigaethau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Deddf Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 neu Ddeddf Diogelu Data 2018.

Bydd Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi manylion y symiau a delir i fuddiolwyr Cymorth Gwledig. Caiff data ei gyhoeddi am yr holl fuddiolwyr ar wefan y gellir ei chwilio a bydd yn cynnwys enw a lleoliad y ffermwr / rheolwr y tir a manylion y symiau a’r cynlluniau y talwyd cymhorthdal ar eu cyfer. Ond i’r rheini sy’n derbyn llai na £1,250 neu ei gyfwerth, ni chyhoeddir yr enw. Cyhoeddir y data bob blwyddyn ar 31 Mai a bydd ar gael am ddwy flynedd ar ôl dyddiad ei gyhoeddi. 

Byddwn yn cadw gwybodaeth bersonol sydd wedi'i chynnwys mewn ffeiliau yn unol â'n polisi cadw. Os byddwch yn llwyddiannus yn eich cais, bydd eich data personol yn cael ei gadw am 7 mlynedd ar ôl y dyddiad pan fyddwch chi, fel derbynnydd y grant, yn rhydd o'r holl amodau sy'n ymwneud â'r grant a ddyfarnwyd ac mae'r holl daliad wedi'i wneud. Os nad ydych yn llwyddiannus, bydd eich manylion yn cael eu cadw am flwyddyn ar ôl y dyddiad y gwnaethoch eu darparu.

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i gael mynediad at ddata personol sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch
  • ei gwneud yn ofynnol inni gywiro camgymeriadau yn y data hynny
  • i wrthwynebu (mewn rhai amgylchiadau) neu gyfyngu ar brosesu
  • i’ch data gael eu ‘dileu’ (mewn rhai amgylchiadau)
  • i gwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y rheoleiddiwr diogelu data annibynnol.

Am ragor o fanylion am yr wybodaeth sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch a’r defnydd ohono, neu os ydych am ddefnyddio eich hawliau o dan y GDPR, gweler y manylion cyswllt isod:

Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ

Cyfeiriad E-bost: Swyddogdiogeludata@llyw.cymru

Y manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yw:

2il Lawr, Churchill House 
Churchill Way
Caerdydd 
CF10 2HH

Ffôn: 0330 414 6421 

Gwefan: https://ico.org.uk/

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â'r datganiad preifatrwydd hwn, cysylltwch â Chanolfan Gyswllt Cwsmeriaid RPW. Hysbysiad preifatrwydd: grantiau Llywodraeth Cymru

Cyhoeddi a datgelu gwybodaeth

Gall eich gwybodaeth, gan gynnwys eich gwybodaeth bersonol, fod yn destun cais gan aelod arall o'r cyhoedd. Wrth ymateb i geisiadau o'r fath, efallai y bydd yn ofynnol i Lywodraeth Cymru ryddhau gwybodaeth, gan gynnwys eich gwybodaeth bersonol.

Mae Rheoliad y Comisiwn (CE) 908/2014 yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gyhoeddi manylion y symiau a delir i fuddiolwyr CAP. Bydd data'n cael eu cyhoeddi ar gyfer yr holl fuddiolwyr ar wefan chwiliadwy, a bydd yn cynnwys enw a lleoliad y ffermwr/rheolwr tir a manylion y symiau a'r cynlluniau y talwyd cymhorthdal ar eu cyfer. Fodd bynnag, i'r 26 hynny sy'n cael llai na'r hyn sy'n cyfateb i €1,250 mewn cymorthdaliadau, ni fydd yr enw yn cael ei rannu. Bydd y data'n cael eu cyhoeddi'n flynyddol ar 31 Mai ac yn parhau i fod ar gael am ddwy flynedd o'r dyddiad y caiff eu cyhoeddi. Bydd yr wybodaeth ar gael ar wefan DEFRA.

Adran L: deddfwriaeth

Mae’r Grant WRS yn cyflawni amrywiaeth o ymrwymiadau ac amcanion y Llywodraeth sydd wedi’u rhestru isod, yn unol â’r ddeddfwriaeth a’r prosesau llywodraethu perthnasol.

Mae'r Grant WRS yn cael ei lywodraethu gan Reoliadau Cyngor Cyfraith yr UE a Ddargedwir (neu’r ‘gyfraith a gymathwyd’ fel rydym bellach yn ei alw) Rhifau 1305/2013, 1303/2013 a 1306/2013, Rheoliadau Gweithredu Rhif 808/2014 a rhif 809/2014 a Rheoliadau Dirprwyedig 640/2014 ac 807/2014 (fel y'u diwygiwyd o bryd i'w gilydd). 

Rhoddir y Gyfraith a Gymathwyd ar waith yng Nghymru trwy’r gyfraith ddomestig ganlynol (fel y’i diwygir o dro i dro), gan gynnwys drwy’r Rheoliadau Cymorth Amaethyddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021/400 (Cy.129):

  • Rheoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2014/3222 (Cy.327)
  • Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (System Integredig Gweinyddu a Rheoli a Gorfodi a Thrawsgydymffurfio) (Cymru) 2014/3223 (Cy.328) 

Cynllun grantiau gwaith cyfalaf yw’r Grant WRS, sydd ar gael i reolwyr tir a busnesau fferm yng Nghymru. Mae’r prosiectau Gwaith Cyfalaf sydd ar gael wedi’u dewis am eu bod yn dod â budd eang a chyffredinol i’r amgylchedd ac am eu bod yn helpu i wireddu pedwar amcan strategol Llywodraeth Cymru, sef:

  • gwneud amaethyddiaeth yn fwy cystadleuol;
  • cyfrannu tuag at reoli adnoddau naturiol mewn ffordd gynaliadwy fel y’i nodir yn Rhan 1 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
  • sicrhau cadernid rhag yr hinsawdd.
  • sicrhau datblygiad tiriogaethol cytbwys o economïau a chymunedau gwledig gan gynnwys creu a chynnal cyflogaeth

Yn ogystal, mae tri amcan trawsbynciol i’r cynllun Grant WRS:

  • lliniaru’r newid yn yr hinsawdd ac addasu i newid hinsawdd;
  • arloesi
  • yr amgylchedd

Bydd gweithgareddau yn ymwneud ag o leiaf un o flaenoriaethau canlynol Llywodraeth Cymru:

  1. meithrin y broses o drosglwyddo gwybodaeth ac arloesi mewn amaethyddiaeth, coedwigaeth a meysydd gwledig
  2. gwella hyfywedd a chystadleurwydd amaethyddiaeth o bob math, a hyrwyddo technolegau fferm arloesol a dulliau cynaliadwy o reoli coedwigoedd;
  3. hyrwyddo trefniadaeth y gadwyn fwyd, gan gynnwys prosesu a marchnata cynnyrch amaethyddol, lles anifeiliaid a rheoli risg ym maes amaethyddiaeth;
  4. adfer, gwarchod a gwella ecosystemau sy'n dibynnu ar amaethyddiaeth a choedwigaeth;
  5. hyrwyddo’r defnydd effeithiol o adnoddau a chefnogi'r newid tuag at economi carbon isel sy'n gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd yn y sectorau amaethyddiaeth, bwyd a choedwigaeth;
  6. hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol, lleihau tlodi a datblygu economaidd  mewn ardaloedd gwledig.

Sefydliad Masnach y Byd a Rheoli Cymorthdaliadau

  1. Ystyrir bod cymorthdaliadau a ddarperir o dan y cynllun hwn yn daliadau o dan raglen amgylcheddol, sy'n dod o fewn cwmpas Atodiad II o Gytundeb y WTO ar Amaethyddiaeth ac sydd wedi'u categoreiddio fel rhai y tu mewn i’r 'blwch gwyrdd'.

O'r herwydd, mae'r cymorthdaliadau hyn wedi'u heithrio o Gytundeb Masnach a Chydweithredu'r DU a'r UE (TCA) a threfn rheoli cymhorthdal interim y DU.

Adran M: cysylltiadau

Mae yna wybodaeth bwysig ar wefan Llywodraeth Cymru llyw.cymru/grantiaua-thaliadau-gwledig ac yn Gwlad, y cylchgrawn deufisol Gwlad.

Dyma’r manylion cysylltu:

Y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid Taliadau Gwledig Cymru

Blwch Post 251
Caernarfon
LL55 9DA
Ffôn: 0300 062 5004

Cyfoeth Naturiol Cymru d/o Welsh Government Offices,

Cathays Park
King Edward VII Avenue
Cardiff

CF10 3NQ

Ffôn: 0300 065 3000 (Llun-Gwener, 8am - 6pm)

Ymholiadau cyffredinol: ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk 

Ar gyfer ymholiadau gwirio cynllun coetir CNC

gwiriocynlluncoetir@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk 

Ar gyfer Henebion Cofrestredig / parciau a gerddi cofrestredig:

CADW

Llywodraeth Cymru
Plas Caeriw
Uned 5/7 Cefn Coed
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QQ

Ffôn: 01443 33 6000

Ffacs: 01443 33 6001

E-bost: Cadw@llyw.cymru

Ar gyfer henebion sydd heb eu rhestru neu nodweddion hanesyddol:

Archaeoleg Clwyd-Powys

41 Broad Street
Y Trallwng Powys
SY21 7RR
Ffôn: 01938 553670

Ffacs: 01938 552179 E-bost: trust@cpat.org.uk 
www.cpat.org.uk

Archaeoleg Gwynedd

Craig Beuno,
Ffordd y Garth,
Bangor,
Gwynedd, LL57 2RT

Ffôn: 01248 352535

Ffacs: 01248 370925 E-bost: gat@heneb.co.uk 
www.heneb.co.uk

Archaeoleg Morgannwg-Gwent

Heathfield House
Heathfield
Abertawe SA1 6EL
Ffôn: 01792 655208
Ffacs: 01792 474469

E-bost: enquiries@ggat.org.uk

www.ggat.org.uk

Archaeoleg Dyfed

Neuadd y Sir,
Stryd Caerfyrddin,
Llandeilo,
Sir Gaerfyrddin,
SA19 6AF

Ffôn: 01558 823121

Ffacs: 01558 823133

E-bost: info@dyfedarchaeology.org.uk 
www.dyfedarchaeology.org.uk