Neidio i'r prif gynnwy

Telerau ac amodau llawn ar gyfer defnyddio'r gwasanaeth hwn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Mehefin 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

1. Cyflwyniad

1.1      Mae Gwasanaethau Ar-lein WEFO (y “Gwasanaethau”) yn caniatáu i fusnesau a sefydliadau sy’n derbyn arian gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â Gweithrediadau gyflwyno ceisiadau am y Gwasanaethau (gan gynnwys cyflwyno hawliadau am arian ond heb fod yn gyfyngedig i hynny) ar-lein, anfon gwybodaeth dros y Rhyngrwyd, gweld cofnodion ar-lein ac, yn gyffredinol, ryngweithio, rhannu gwybodaeth a chynnal busnes â Llywodraeth Cymru dros y Rhyngrwyd. Mae’n bosibl yr ychwanegir gwasanaethau a nodweddion ychwanegol at y Gwasanaethau yn y dyfodol.

1.2      Gellir cyrchu’r Gwasanaethau trwy gyfrwng gwefan WEFO Ar-lein yn y cyfeiriad gwefan: https://llyw.cymru/mewngofnodi-i-wefo-ar-lein (neu'r cyfryw gyfeiriad gwefan arall ag y gallwn ei ddefnyddio yn y dyfodol) (y "Safle").

1.3      Mae'r telerau ac amodau hyn ("Telerau") yn cyflwyno'r telerau ac amodau a ddefnyddiwn wrth ddarparu'r Gwasanaethau i chi fel Cysylltiad Busnes. Drwy gofrestru i ddefnyddio’r Gwasanaethau, rydych yn cytuno i gael eich rhwymo gan y Telerau hyn ac, yn benodol, rydych yn cytuno ac yn derbyn yr ymwadiadau a’r cyfyngiadau atebolrwydd sydd wedi'u cynnwys yn y Telerau hyn.  Darllenwch y Telerau hyn yn ofalus cyn cofrestru i ddefnyddio’r Gwasanaethau Ar-lein drwy wefan Porth y Llywodraeth. Os nad ydych yn dymuno cael eich rhwymo gan y Telerau hyn, peidiwch â pharhau i gofrestru.

1.4      Noder bod unigolion sy'n defnyddio'r Gwasanaethau hefyd wedi eu rhwymo gan y Telerau ac Amodau i Ddefnyddwyr.

2. Diffiniadau

Yn y Telerau hyn:

ystyr "Manylion Mynediad" yw enw defnyddiwr a chyfrinair Porth y Llywodraeth sydd wedi'u creu ac sy'n cael eu defnyddio gan holl swyddogion neu gyflogeion Cysylltiad Busnes neu gan bob Cyswllt sy'n gweithredu ar ran Cysylltiad Busnes;

ystyr "Cysylltiad Busnes" yw busnes neu sefydliad sydd wedi cofrestru i dderbyn y Gwasanaethau mewn perthynas â gweinyddu Gweithrediad neu Weithrediadau, a'r gweithgareddau sydd ynghlwm ag ef neu hwy, a deellir "Cysylltiadau Busnes" yn briodol yn hynny o beth;

ystyr "Ffurflen Gofrestru Cysylltiad Busnes" yw'r ffurflen gofrestru a gwblheir gan gynrychiolydd awdurdodedig priodol ar eich rhan er mwyn eich galluogi i gael eich sefydlu fel Cysylltiad Busnes a defnyddio'r Gwasanaethau;

ystyr “Cais” yw unrhyw gais am arian gan Lywodraeth Cymru a gyflwynir gennych drwy’r Safle; a deellir “Hawliadau" yn briodol yn hynny o beth;

ystyr "Cyswllt" yw unigolyn sydd wedi'i awdurdodi i ddefnyddio'r Gwasanaethau mewn perthynas â Gweithrediad gan Gysylltiad Busnes sy'n gweithredu drwy ei Gyswllt eBorth ac a fydd yn gweithredu ar ran y Cysylltiad Busnes hwnnw wrth gyflwyno gwybodaeth (gan gynnwys Deunyddiau ond heb fod yn gyfyngedig i hynny) i Lywodraeth Cymru;

ystyr “Cynnwys” yw dyluniad, testun, graffeg a deunydd arall ar y Safle;

ystyr "Cyswllt eBorth" yw'r unigolyn sydd wedi'i ddynodi'n gyswllt gweinyddol gan y Cysylltiad Busnes ar ei gyfer mewn perthynas â Gweithrediad neu Weithrediadau;

ystyr “Deunyddiau” yw'r deunyddiau sydd ar gael a/neu a ddarperir gennym ac y gellir eu cyrchu fel rhan o’r Gwasanaethau gan gynnwys, heb gyfyngiad, ffurflenni hawlio, dogfennau cofrestru a dogfennaeth sy'n ymwneud yn benodol â Gweithrediad neu Weithrediadau;

bydd “person” yn cynnwys cyrff corfforaethol, cymdeithasau anghorfforedig, partneriaethau, ymddiriedolaethau, unigolion ac unrhyw gyfuniad o un neu fwy o’r rhain;

ystyr "Gweithrediad" yw gweithrediad (prosiect gynt) a gaiff ei ariannu gan Lywodraeth Cymru neu sy'n derbyn arian ganddi; a deellir “Gweithrediadau" yn briodol yn hynny o beth;

ystyr "RhDG" yw Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020;

ystyr “Defnyddiwr” neu “Defnyddwyr” yw defnyddwyr y Safle a’r Gwasanaethau, yn unigol neu ar y cyd;

ystyr "Telerau ac Amodau Defnyddwyr" yw telerau ac amodau defnyddwyr ar-lein WEFO sy'n gymwys i bob Defnyddiwr ac sy'n cyflwyno'r telerau lle gall Defnyddwyr unigol ddefnyddio'r Safle a'r Gwasanaethau;

ystyr “ni” a/neu “ein” yw Llywodraeth Cymru sy’n gweithredu ar ran Gweinidogion Cymru Adeiladau'r Goron, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ (ynghyd â’n cyflogeion, asiantau a chontractwyr);

at y diben hwn ystyr "Llywodraeth Cymru" yw isadrannau WEFO ac Amaeth, Bwyd a'r Môr sy'n dosbarthu arian o Gronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd;

ystyr "chi" yw chi, y Cysylltiad Busnes sy'n defnyddio'r Safle a'r Gwasanaethau mewn perthynas ag un neu fwy o Weithrediadau a deellir "eich" yn briodol yn hynny o beth.

3. Cofrestru

.3.1      Rhaid i chi gwblhau Ffurflen Gofrestru Cysylltiadau Busnes er mwyn cyrchu’r Gwasanaethau a’u defnyddio.

3.2      Yn ôl ein disgresiwn, cadwn yr hawl i wrthod unrhyw Ffurflen Gofrestru Cysylltiadau Busnes. Ni chewch eich derbyn fel Cysylltiad Busnes ac ni chewch ddefnyddio'r Gwasanaethau nes inni eich hysbysu ein bod wedi derbyn eich Ffurflen Gofrestru Cysylltiadau Busnes a chadarnhau eich statws fel Cysylltiad Busnes.

3.3      Pan fyddwn wedi derbyn eich Ffurflen Gofrestru Cysylltiadau Busnes, byddwn yn eich hysbysu eich bod wedi eich cymeradwyo'n Gysylltiad Busnes ac yn rhoi Rhif Adnabod Cysylltiad Busnes ichi er mwyn dangos eich bod yn gymwys i dderbyn y Gwasanaethau. 

3.4      Cewch benodi Unigolion Cyswllt i'ch cynorthwyo mewn perthynas â'ch Gweithrediad (neu Weithrediadau). Penodir Unigolion Cyswllt drwy eich Cyswllt e-Borth yn unol â chanllawiau a geir ar y Safle neu a roddir ichi fel arall. Ar ôl cofrestru, bydd pob Cyswllt yn gallu mewngofnodi i ddefnyddio'r Gwasanaethau gan ddefnyddio ei Fanylion Mynediad. Drwy eich Cyswllt eBorth, rhaid ichi ddwyn y Telerau ac Amodau i Ddefnyddwyr at sylw pob Cyswllt cyn ei alluogi i ddefnyddio'r Gwasanaethau.

3.5      Drwy gyflwyno Ffurflen Gofrestru Cysylltiadau Busnes, rydych yn dangos ac yn gwarantu bod gennych yr hawl, yr awdurdod a’r gallu i ddefnyddio’r Safle a’r Gwasanaethau a'ch bod yn cytuno i gael eich rhwymo gan y Telerau hyn.  Os byddwn yn darganfod, neu os bydd gennym unrhyw reswm i gredu, nad oes gennych yr hawl, yr awdurdod na'r gallu i ddefnyddio'r Safle a'r Gwasanaethau neu i gael eich rhwymo gan y Telerau hyn gallwn, yn ôl ein disgresiwn:

(a)      atal neu derfynu eich cofrestriad fel Cysylltiad Busnes cofrestredig a/neu eich gallu i ddefnyddio'r Gwasanaethau yn syth a heb roi rhybudd ichi;

(b)      atal neu derfynu cofrestriadau unrhyw un o'ch Unigolion Cyswllt neu eich Cyswllt eBorth a/neu eu gallu i ddefnyddio'r Gwasanaethau yn syth a heb roi unrhyw rybudd;

(c)      lle bydd eich Unigolion Cyswllt neu eich Cyswllt eBorth hefyd yn unigolion cyswllt i Gysylltiadau Busnes eraill, eu hatal rhag defnyddio'r Gwasanaethau mewn perthynas â'ch Gweithrediadau chi yn unig.

3.6      Yn gydnabyddiaeth am gael cofrestru i ddefnyddio’r Gwasanaethau, rydych yn cytuno:

(a)      y bydd eich Ffurflen Gofrestru Cysylltiadau Busnes yn rhoi gwybodaeth wir, cywir, cyfredol a chyflawn am eich busnes neu eich sefydliad;  

(b)      y byddwch yn rhoi gwybod inni ar unwaith am unrhyw newid i unrhyw wybodaeth a roesoch inni er mwyn sicrhau bod y wybodaeth sydd gennym yn dal i fod yn wir, yn gywir ac yn gyflawn.

4. Diogelwch

4.1      Rhaid ichi sicrhau bod eich swyddogion a'ch cyflogeion yn cadw eu Manylion Mynediad yn ddiogel ac yn cymryd pob cam rhesymol i’w diogelu.

4.2      Rhaid ichi gymryd pob cam angenrheidiol i sicrhau nad oes unrhyw un arall heblaw am eich swyddogion a'ch cyflogeion yn defnyddio'r Gwasanaethau (neu unrhyw ran ohonynt) gan ddefnyddio Manylion Mynediad sy'n perthyn i'r swyddogion neu'r cyflogeion hynny. Os byddwch yn amau bod unrhyw un arall wedi defnyddio neu yn defnyddio Manylion Mynediad swyddog neu gyflogai arall, rhaid i chi ein hysbysu ar unwaith. 

4.3      Rhaid ichi sicrhau eich bod ond yn dewis y bobl hynny sy'n gymwys, yn addas ac yn briodol ac sydd wedi'u hawdurdodi i gyrchu a defnyddio'r Gwasanaethau mewn perthynas â'ch Gweithrediad (neu unrhyw ran ohono) i weithredu fel Unigolion Cyswllt. Dim ond i'r graddau sydd eu hangen i gyflawni dibenion eich Gweithrediad (neu unrhyw ran ohono) y dylech benodi Unigolion Cyswllt.  Po fwyaf yr Unigolion Cyswllt â Manylion Mynediad, y mwyaf y risg o gamddefnydd.

4.4      Byddwch yn cymryd pob cam angenrheidiol i sicrhau nad oes unrhyw un arall, heblaw am y rheini sydd wedi'u hawdurdodi o dan y Telerau hyn, yn defnyddio'r Gwasanaethau (neu unrhyw ran ohonynt) gan ddefnyddio cyfrifon sydd wedi'u creu ar eich rhan. Chi fydd yn bennaf cyfrifol am unrhyw achos o gamddefnyddio'r Manylion Mynediad sy'n ymwneud ag unrhyw un o'ch Gweithrediadau a/neu unrhyw achos o dorri'r Telerau ac Amodau i Ddefnyddwyr gan unrhyw un o'ch swyddogion, cyflogeion a/neu asiantau (gan gynnwys eich Unigolion Cyswllt ond heb fod yn gyfyngedig iddynt). Os byddwch yn amau bod unrhyw achos o'r fath wedi digwydd neu yn digwydd rhaid ichi ein hysbysu ar unwaith. 

5. Your Obligations

5.1      Byddwch yn gyfrifol am ymddygiad eich swyddogion, cyflogeion a/neu asiantau (gan gynnwys Unigolion Cyswllt eBorth ac Unigolion Cyswllt eraill ond heb fod yn gyfyngedig iddynt). Caiff y rheini o blith eich swyddogion, cyflogeion a/neu asiantau sydd â Manylion Mynediad chwilio, gweld, copïo, argraffu a defnyddio cynnwys y Safle a defnyddio'r Gwasanaethau (gan gynnwys y Deunyddiau) ar eich rhan. Rhaid ichi sicrhau bod y cyfryw swyddogion, cyflogeion a/neu asiantau:

(a)      ond yn gweithredu yn unol â'u rôl o fewn eich busnes neu sefydliad neu'n ymwneud ag ef a/neu'r Gweithrediad perthnasol;

(b)      yn gweithredu gyda'ch awdurdod bob tro;

(c)      yn cydymffurfio â'r Telerau ac Amodau i Ddefnyddwyr bob tro; 

(ch)    yn gweithredu yn unol ag unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru o bryd i'w gilydd.

5.2      Dylech sicrhau nad ydych chi, na'ch swyddogion, cyflogeion a/neu asiantau, yn darparu unrhyw ran o’r Gwasanaethau sy'n ymwneud â chi neu eich Gweithrediadau nac unrhyw Ddeunyddiau i unrhyw drydydd parti ac eithrio fel y caniateir o dan y Telerau hyn.

5.3      Argymhellwn mai dim ond Unigolion Cyswllt dynodedig a awdurdodir gennych i gyflwyno Hawliadau ar eich rhan. Rydych yn gyfrifol am sicrhau bod y swyddogion, cyflogeion a/neu asiantau hynny (gan gynnwys eich Unigolion Cyswllt ond nid yn gyfyngedig iddynt) sydd wedi'u dynodi i gyflwyno Hawliadau ("Unigolion Cyswllt Hawliadau") bob amser yn gweithredu gyda'ch awdurdod wrth gyflwyno Hawliadau. Rhaid i chi:

(a)      sicrhau bod pob Hawliad a gaiff ei gwblhau a'i gyflwyno gan eich Unigolion Cyswllt Hawliadau yn cael ei gwblhau a'i gyflwyno yn unol ag unrhyw ganllawiau ar Hawliadau a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru o bryd i'w gilydd;

(b)      sicrhau bod eich Unigolion Cyswllt Hawliadau yn cymryd pob gofal, sgil a sylw dyladwy wrth gwblhau a chyflwyno unrhyw Hawliad;

(c)      sicrhau bod eich Unigolion Cyswllt Hawliadau yn mynd ati'n brydlon i roi unrhyw wybodaeth ychwanegol, dogfennaeth ategol a/neu eglurhad ar gais Llywodraeth Cymru mewn perthynas â Hawliad (neu, lle gofynnir amdano, y byddwch yn mynd ati'n brydlon i roi'r cyfryw wybodaeth ychwanegol, dogfennaeth ategol a/neu eglurhad);

(d)      sicrhau nad yw eich Unigolion Cyswllt Hawliadau yn ceisio hawlio mwy o gymorth ariannol nag a ganiateir o dan delerau unrhyw gytundeb ariannu (boed fel cyfanswm neu’n gysylltiedig â chyfnod neu fath penodol o arian) a/neu gynnwys unrhyw wariant anghymwys mewn unrhyw Hawliad; 

(e)      glynu wrth unrhyw a phob gofyniad archwilio sy'n ymwneud â'r Hawliadau

ac rydych yn cydnabod ac yn cytuno mai chi fydd yn bennaf cyfrifol am gynnwys a gweinyddiad unrhyw Hawliadau a gyflwynir ar eich rhan. Rydym yn cadw'r hawl i newid y Safle yn y dyfodol fel mai dim ond yr Unigolion Cyswllt hynny sydd wedi cael eu henwebu'n ffurfiol gennych chi (a, lle bo'n berthnasol, eu cymeradwyo gennym ni) a gaiff gyflwyno Hawliadau ar eich rhan. Cewch eich hysbysu am unrhyw newid o’r fath yn unol â’r Telerau hyn.

5.4      Rhaid ichi sicrhau nad ydych chi na'ch swyddogion, cyflogeion a/neu asiantau yn:

(a)      newid unrhyw ran o’r Cynnwys;

(b)      copïo, argraffu nac yn atgynhyrchu unrhyw ran o’r Deunyddiau fel arall ac eithrio fel rhan o’ch defnydd awdurdodedig o’r Gwasanaethau ac fel y caniateir o dan y Telerau hyn; neu

(c)      trosglwyddo na chael gwared â’r cyfan neu unrhyw rai o’ch hawliau o dan y Telerau hyn mewn ffordd arall.

5.5      Rhaid ichi gymryd pob gofal a sylw dyladwy wrth ddewis eich Cyswllt eBorth ac unrhyw Gyswllt arall i weithredu ar eich rhan.  

5.6      Rydych yn gyfrifol am sicrhau bod eich technoleg gwybodaeth, rhaglenni cyfrifiadurol, a’ch llwyfan wedi’u ffurfweddu er mwyn i chi ddefnyddio’r Gwasanaethau. Er gwaethaf paragraff 6(c) isod, dylech ddefnyddio eich meddalwedd diogelu rhag firws eich hunain.

5.7      Ni ddylech:

(a)      defnyddio’r Safle na’r Gwasanaethau hyn fel cyfrwng i geisio busnes neu sefydlu cysylltiadau busnes;

(b)      hysbysebu neu hyrwyddo eich cynhyrchion neu’ch gwasanaethau eich hun neu rai trydydd parti ar y Safle; gan gynnwys ar ffurf e-bost “sbam” ;

(c)      dynwared Defnyddiwr arall;

(d)      defnyddio’r Safle ar gyfer unrhyw weithgaredd twyllodrus;

(e)      cael mynediad neu geisio cael mynediad i gyfrifon sy'n perthyn i Ddefnyddwyr (gan gynnwys Cysylltiadau Busnes eraill) heb ganiatâd pob cyfryw Ddefnyddiwr neu Gysylltiad Busnes;

(f)       ymyrryd neu geisio ymyrryd ag unrhyw fesurau diogelwch sy’n perthyn i’r safle neu’n gysylltiedig â’r Safle.

5.8      Ni ddylai unrhyw ddeunyddiau a gyhoeddir neu a rennir gennych chi, eich swyddogion, eich cyflogeion a/neu eich asiantau ar y Safle neu drwyddo:

(a)      bod yn fygythiol, yn anweddus, yn niweidiol, yn ddifenwol, yn bornograffaidd neu’n anghyfreithlon fel arall;

(b)      torri mewn unrhyw ffordd hawliau eraill (gan gynnwys hawliau eiddo deallusol, hawliau cyfrinachedd, neu hawliau preifatrwydd);

(c)      achosi gofid neu anghyfleustra;

(d)      mynegi barn y gallai eraill ei ystyried yn ddi-chwaeth, yn amrwd, yn rhywiaethol, yn hiliol neu’n dramgwyddus fel arall;

(e)      bod yn anghyfreithlon fel arall.

5.9      Byddwn yn cydweithredu’n llawn ag unrhyw awdurdodau gorfodi’r gyfraith neu orchymyn llys sy'n gofyn inni ddatgelu enw unrhyw un sy’n defnyddio’r Gwasanaethau a/neu unrhyw ddeunyddiau (gan gynnwys y Deunyddiau) mewn unrhyw rai o’r ffyrdd a nodir ym mharagraff 5.8 uchod neu'n ein cyfarwyddo i wneud hynny.

5.10    Byddwch yn sicrhau bod pob deunydd ac unrhyw ddeunydd a lanlwythir gennych ar y Safle yn wir, yn gywir ac yn gynhwysfawr, a’u bod wedi eu cwblhau gan ddefnyddio pob sgil a gofal rhesymol a’u bod yn gyfredol ym mhob ffordd bob amser.

5.11    Nid ydym yn gyfrifol am unrhyw ddeunydd a ysgrifennir gan Ddefnyddwyr (gan gynnwys Cysylltiadau Busnes eraill) ac a osodir ar y Safle neu a rennir drwy’r Safle ac nid ydym yn cymeradwyo deunydd o’r fath o gwbl. Rydym yn derbyn yr hawl i olygu, gwrthod gosod neu dynnu unrhyw ddeunydd o’r fath oddi ar y Safle yn union fel y mynnwn. Ni fydd methiant ar ein rhan i gael gwared ar ddeunydd penodol yn golygu ein bod yn ei gymeradwyo nac yn ei dderbyn.

5.12    Rhaid ichi sicrhau (a byddwn yn tybio felly) bod pob ac unrhyw ddeunydd neu wybodaeth a lanlwythir gennych (neu ar eich rhan) ar y Safle fel rhan o'r Gwasanaethau yn wir, yn gywir ac yn gynhwysfawr, a’u bod wedi eu cwblhau gan ddefnyddio pob sgil a gofal rhesymol a’u bod yn gyfredol ym mhob ffordd bob amser. Rydych yn gyfrifol am y cyfryw ddeunyddiau neu wybodaeth. Rhaid ichi sicrhau mai dim ond unigolion sydd â'r awdurdod priodol gennych chi i wneud hynny sy'n cyflwyno'r cyfryw ddeunyddiau neu wybodaeth.

5.13    Caiff unrhyw Ddeunyddiau a lanlwythir ar y Safle fel rhan o'r Gwasanaethau eu cadw yn eich storfa ar-lein am 60 diwrnod o leiaf. Rydych yn gyfrifol am adolygu unrhyw Ddeunyddiau o'r fath yn ystod y cyfnod hwn a'n hysbysu am unrhyw anghywirdeb neu hepgoriad. Ni fyddwn yn atebol am unrhyw anghywirdeb neu hepgoriad na chawsom ein hysbysu amdano o fewn y cyfnod gofynnol. Noder y gall unrhyw wybodaeth a roddir gennych gael ei phecynnu gennym yn ddogfennau a'i darparu yn eich storfeydd ar-lein i'w harchwilio a'i heithrio ymhellach. 

5.14    Rydych yn gyfrifol am gadw llygad ar y Telerau hyn a'r Safle am unrhyw addasiadau, newidiadau neu ddiweddariadau i'r Safle, y Cynnwys a/neu'r Gwasanaethau ac, yn fwy cyffredinol, am fod yn ymwybodol o unrhyw newidiadau i ganllawiau Llywodraeth Cymru a all effeithio ar eich Gweithrediadau a/neu eich defnydd o'r Gwasanaethau.

6. Ein Rhwymedigaethau

6.1      Byddwn:

(a)      yn cymryd pob gofal rhesymol wrth gasglu a gosod Cynnwys a Deunyddiau ar y Safle;

(b)      yn gwneud ymdrech resymol i sicrhau bod y Safle ar gael;

(c)      yn cymryd camau rhesymol i sicrhau bod unrhyw feddalwedd a ffeiliau data a roddir i chi fel rhan o’r Gwasanaethau yn rhydd o unrhyw firws;

(d)      yn amodol ar baragraff 6.2, yn cymryd camau rhesymol i sicrhau bod y Gwasanaethau’n ddi-dor a bod cyn lleied ag sy’n bosibl o gyfyngiadau ar fynediad i’r Safle gan unrhyw ddigwyddiad o fewn eich rheolaeth;

(e)      yn gwneud ymdrechion rhesymol i gadw unrhyw ddata personol a roddir gennych chi, eich swyddogion, eich cyflogeion neu eich asiantau yn ddiogel.

6.2      Byddwn yn ceisio cynnal y Safle yn ddyddiol gan gynnwys diweddaru’r Gwasanaethau. Nodwch na fydd y Gwasanaethau ar gael yn ystod yr adegau hynny. Bydd y Gwasanaethau ar gael i’w cyrchu gan Ddefnyddwyr rhwng yr oriau 07:00 a 00:00. Ni allwn warantu y bydd y Gwasanaethau ar gael heblaw ar yr adegau hyn. Gwnawn ein gorau o fewn rheswm i roi gwybod i chi am unrhyw amser segur a gynllunnir a allai effeithio ar hygyrchedd y Gwasanaethau o fewn yr oriau defnyddio a nodwyd uchod.

6.3      Gwnawn ein gorau o fewn rheswm i sicrhau bod unrhyw wybodaeth, data a/neu ddeunyddiau a gyflwynir gennych i’r Safle neu fel rhan o’r Gwasanaethau yn cael eu cynnal yn ddiogel a bod copïau wrth gefn wedi eu gwneud yn gywir. Os bydd unrhyw wybodaeth, data a/neu ddeunyddiau o’r fath yn mynd ar goll neu’n cael eu niweidio, yr unig ffordd y byddwn yn gallu cywiro hynny i chi i raddau yw drwy wneud ein gorau i adfer y wybodaeth, data a/neu ddeunyddiau sydd wedi eu colli neu’u niweidio o’r copïau wrth gefn mwyaf diweddar o wybodaeth, data a/neu ddeunyddiau o’r fath. Ni fyddwn yn gyfrifol am unrhyw ddigwyddiad lle bo gwybodaeth, data a/neu ddeunyddiau sy’n eiddo i chi yn cael eu colli, eu niweidio, eu newid neu eu datgelu gan unrhyw drydydd parti (ac eithrio’r trydydd partïon hynny sy’n cael eu his-gontractio gennym i gyflawni gwasanaethau cysylltiedig â chynnal a storio copïau wrth gefn o’ch gwybodaeth, data a/neu ddeunyddiau).

7. Perchenogaeth a Defnyddio Hawliau Perchen

7.1      Yn amodol ar baragraffau 5 a 7.2, cewch ddefnyddio ac ailddefnyddio cynnwys Hawlfraint y Goron ar y Safle yn rhad ac am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, yn unol â thelerau ac amodau Trwydded Llywodraeth Agored, ar yr amod bod cynnwys o'r fath yn cael ei gopïo'n gywir ac nad yw'n cael ei ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol. Pan fydd deunydd Hawlfraint y Goron ar y Safle yn cael ei ailgyhoeddi neu'i gopïo i eraill, rhaid nodi ffynhonnell y deunydd a chydnabod ei statws o ran hawlfraint [drwy ddefnyddio'r datganiad canlynol [WEFO © Hawlfraint y Goron 2016]] ac yn cynnwys, lle y bo'n bosibl, ddolen i Drwydded Llywodraeth Agored.

7.2      Mae'r caniatâd a nodir ym mharagraff 7.1 yn amodol ar gymal 5 ac nid yw'n cynnwys:

(a)      holl ac unrhyw enwau a logos ar gyfer “Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru”; “RhDG”, “Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru”, “WEFO Ar-lein” a “Llywodraeth Cymru”. Gweinidogion Cymru sy'n meddu ar yr hawliau hyn. Dim ond yn unol â Chanllawiau Brandio Llywodraeth Cymru ac unrhyw delerau cytundeb ariannu cymwys y cewch ddefnyddio’r enwau a'r logos hyn, neu fel y gallwn ei ganiatáu fel arall.

(b)      delweddau ar y Safle y gellir eu defnyddio gyda'n caniatâd datganedig yn unig. 

(c)      unrhyw hawliau cronfa ddata yn y Gwasanaethau, a fydd yn parhau i fod yn eiddo i Weinidogion Cymru

(d)      unrhyw ddeunydd ar y Safle a nodir fel hawlfraint trydydd parti. Rhaid ichi gael caniatâd i ddefnyddio unrhyw hawlfraint trydydd parti yn uniongyrchol gan y trydydd parti hwnnw.

7.3      Rydych yn cytuno i roi gwybod i ni’n syth os byddwch yn dod yn ymwybodol o unrhyw ddefnydd anawdurdodedig o’r Cynnwys neu’r Gwasanaethau.

7.4      Yn amodol ar ddarpariaethau paragraff 14, rydych drwy hyn yn rhoi i ni, ein trwyddedeion a’n haseineion, drwydded ddi-alw’n-ôl, barhaus, ddi-freindal, fyd-eang i gopïo, cyhoeddi copïau, hysbysu’r cyhoedd, darparu ar gyfer y cyhoedd a defnyddio unrhyw ddeunydd y byddwch yn ei drosglwyddo neu’n ei lanlwytho i’r Safle neu’n ei osod arno nad yw’n cael ei drosglwyddo, ei lanlwytho na’i osod yn amodol ar unrhyw ymrwymiad i gyfrinachedd.

8. Eich Gwarantiadau

8.1      Rydych yn gwarantu:

(a)      bod gennych yr hawl, yr awdurdod a'r gallu gofynnol i ddefnyddio'r Safle a bod yn rhwym wrth y Telerau hyn;

(b)      bod yr holl wybodaeth a manylion a roddwch i ni (gan gynnwys yn eich Ffurflen Gofrestru Cysylltiadau Busnes) yn wir, yn gywir ac yn gyfredol ym mhob ffordd ac ar bob adeg;

(c)      byddwch yn sicrhau bod yr holl ddata a gwybodaeth a gyflwynir ar eich rhan yn cael eu cyflwyno gan eich swyddogion, cyflogeion neu asiantau sy'n meddu ar yr awdurdod priodol i wneud y cyfryw gyflwyniad ac yn unol ag unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru o bryd i'w gilydd;

(ch)    byddwch yn cydymffurfio â’r Telerau hyn gan gynnwys, heb gyfyngiad, eich rhwymedigaethau a nodir ym mharagraff 5 uchod.

9. Ymwadiad Cyffredinol a Chyfyngiad ar Atebolrwydd

9.1      Rydych yn deall ac yn cytuno’n benodol eich bod yn defnyddio’r Cynnwys, y Gwasanaethau a’r Deunyddiau ar eich menter eich hun. Darparwn y Safle ar sail “fel y mae” ac "fel y bo ar gael" ac nid ydym yn gwneud unrhyw sylwadau na gwarantiadau o unrhyw fath o ran y Cynnwys, y Deunyddiau na'r Gwasanaethau gan gynnwys, heb gyfyngiad, gywirdeb, amseriad, dibynadwyedd, cyfanrwydd nac addasrwydd i bwrpas unrhyw wybodaeth neu ddatganiadau sydd wedi eu cynnwys ynddynt, na datganiadau, cyngor a barn a roddir gan Ddefnyddwyr (gan gynnwys Cysylltiadau Busnes) am y Safle. Gall y Cynnwys a’r Deunyddiau gynnwys gwallau technegol neu gamgymeriadau teipograffyddol.

9.2      Nid ydym yn gwarantu nac yn honni:

(a)      y bydd mynediad i’r Safle neu unrhyw ran ohono yn ddi-dor, yn ddibynadwy neu'n ddi-fai;

(b)      bod y Safle a/neu unrhyw feddalwedd a gyflenwir fel rhan o'r Gwasanaethau yn rhydd o firysau neu fygiau neu fod y Safle neu’r gweinyddwyr sy’n achosi iddo fod ar gael yn rhydd o firysau neu fygiau;

(c)      y bydd unrhyw wallau mewn unrhyw feddalwedd a gyflenwir fel rhan o'r Gwasanaethau yn cael eu cywiro;

(ch)    y bydd y Deunyddiau’n gwbl gyfredol a heb wallau.

9.3      Yn benodol nid ydym yn gwneud unrhyw warantiadau o unrhyw fath o ran y Gwasanaethau, boed yn benodol neu’n oblygedig, gan gynnwys, ond heb ei gyfyngu i, warantiadau goblygedig ansawdd boddhaol, addasrwydd i ddiben arbennig a heb dor-cyfraith. Yn benodol, nid ydym yn gwarantu nac yn honni:

(a)      y bydd y Gwasanaethau’n bodloni eich gofynion, y byddant yn ddi-dor, yn amserol, yn gwbl ddiogel na heb wallau;

(b)      y bydd y gwasanaethau a geir o ddefnyddio’r Gwasanaethau’n gywir neu'n ddibynadwy;

(c)      y bydd ansawdd unrhyw gynnyrch, gwasanaethau, gwybodaeth neu ddeunyddiau eraill (gan gynnwys y Deunyddiau) a gewch drwy’r Gwasanaethau yn unol â’ch disgwyliadau.

9.4      Bydd unrhyw Gynnwys a islwythir neu a geir fel arall drwy ddefnyddio’r Gwasanaethau yn digwydd fel y gwelwch yn dda ac ar eich menter eich hun ac rydych yn deall ac yn cytuno mai chi’n unig fydd yn gyfrifol am unrhyw ddifrod i’ch system gyfrifiadur neu ddata y gallech ei golli yn sgil islwytho unrhyw Gynnwys o’r fath gennych chi.

9.5      Rydym yn eithrio, i’r graddau eithaf a ganiateir gan y gyfraith, bob atebolrwydd sy’n codi am:

(a)      unrhyw anghywirdebau/gwallau neu hepgoriadau technegol, ffeithiol, testunol, argraffyddol, ar y Safle neu’n gysylltiedig â’r Safle neu’r Cynnwys, y Deunyddiau a/neu’r Gwasanaethau;

(b)      y ffaith nad yw’r Safle (neu unrhyw ran ohono) ar gael;

(c)      unrhyw ddatganiad a wneir gan drydydd partïon sy’n defnyddio’r Safle;

(ch)    unrhyw gamliwio ar y Safle neu’n ymwneud â’r Safle, y Cynnwys, y Deunyddiau a/neu’r Gwasanaethau (heblaw am gamliwio twyllodrus a wnaed gennym ni neu ar ein rhan); a/neu

(d)      unrhyw oedi wrth ddarparu Gwasanaethau a/neu'r Deunyddiau, neu fethiant i’w darparu neu i drefnu eu bod nhw (neu unrhyw ran ohonynt) ar gael.

9.6      Rydym yn eithrio i’r graddau eithaf a ganiateir gan y gyfraith bob atebolrwydd sy’n codi am unrhyw ddeunydd a osodwyd, a gyhoeddwyd neu a drosglwyddwyd gan Ddefnyddwyr (gan gynnwys Cysylltiadau Busnes eraill) y Safle. Nid ydym yn gwneud unrhyw honiadau ynglŷn â gwybodaeth a roddir ar y Safle (boed o ran cywirdeb, digonolrwydd neu gyfanrwydd y wybodaeth neu ryw agwedd arall arni) ac rydych yn gyfrifol am geisio eich cyngor annibynnol eich hun cyn gweithredu’n ddibynnol arni ac am unrhyw ddefnydd a wnewch ohoni. Ni fyddwn yn atebol am unrhyw benderfyniad a wneir neu unrhyw gam a gymerir gan Ddefnyddiwr neu Gysylltiad Busnes (gan gynnwys, heb gyfyngiad, unrhyw gytundeb dan gontract neu fel arall a lunnir rhyngoch chi ac unrhyw drydydd parti neu unrhyw weithgaredd all-lein y byddwch yn cymryd rhan ynddo yn sgil defnyddio’r Safle) yn gysylltiedig â’ch defnydd o’r Safle, ac rydych yn cydnabod yma y bydd y defnydd a wnewch o’r Safle fel y gwelwch yn dda ac ar eich menter eich hun.

9.7      Nid ydym yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw gyfathrebiadau neu ddefnydd arall o’r Safle gan bersonau o dan ddeunaw (18) oed, neu rai nad oes ganddynt yr hawl, yr awdurdod na’r gallu angenrheidiol i ddefnyddio’r Safle neu i gael eu rhwymo gan y Telerau hyn, a hynny’n groes i’r Telerau hyn gan gynnwys unrhyw wybodaeth a lanlwythir ar y Safle gan eich cyflogeion a/neu asiantau heb eich awdurdod, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny.

9.8      Ni fyddwn ni nac unrhyw rai o’n gweithwyr, asiantau neu gynrychiolwyr eraill yn atebol boed mewn contract, camwedd, esgeulustod neu fel arall, am unrhyw golled neu niwed o fath yn y byd boed yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol sy’n codi o’ch defnydd o’r Safle neu’n gysylltiedig â hynny. Mae hwn yn gyfyngiad atebolrwydd cynhwysfawr sy’n berthnasol i bob difrod o unrhyw fath gan gynnwys, heb gyfyngiad, ddifrod i feddalwedd neu galedwedd, colli busnes, colli data, incwm neu elw, iawndal ad-daliadol, uniongyrchol, anuniongyrchol neu ganlyniadol, colli eiddo neu ddifrod i eiddo a hawliadau gan drydydd partïon.

9.9      Ni fwriedir i unrhyw rai o’r gwaharddiadau na’r cyfyngiadau yn y Telerau hyn gyfyngu ar unrhyw hawliau statudol na ellir eu heithrio, nac eithrio neu gyfyngu ar ein hatebolrwydd i chi mewn unrhyw ffordd am gamliwio twyllodrus neu am farwolaeth neu anaf i berson o ganlyniad i’n hesgeulustod neu esgeulustod ein gweithwyr neu’n hasiantau.

9.10    Caiff pob un eithriad a/neu atebolrwydd uchod eu dehongli fel darpariaeth ar wahân a thoradwy o’r Telerau hyn.

9.11    Nid yw rhai awdurdodaethau’n caniatáu ar gyfer eithrio rhai gwarantiadau neu gyfyngu neu eithrio cyfrifoldeb am iawndal cysylltiedig neu ganlyniadol. Yn unol â hynny, mae’n bosibl na fydd rhai o’r cyfyngiadau a’r eithriadau yn y Telerau hyn yn berthnasol i chi.

10. Indemniad

10.1    Rydych yn cytuno i’n rhyddarbed a’n digolledu am unrhyw hawliadau neu iawndal (gan gynnwys ffioedd cyfreithiol cysylltiedig â hyn) a wneir gan drydydd parti mewn cysylltiad ag unrhyw fater yn ymwneud â’ch defnydd o’r Safle a/neu’r Gwasanaethau a/neu’ch statws fel Cysylltiad Busnes neu’n codi o hynny, neu yn sgil unrhyw achos ohonoch yn torri neu amheuaeth eich bod wedi torri’r Telerau hyn neu eich bod wedi mynd yn groes i unrhyw ddeddf neu wedi troseddu yn erbyn hawliau unrhyw drydydd parti.

11. Canslo Cofrestriad Cysylltiad Busnes ac Addasu, Atal dros dro a Therfynu'r Gwasanaethau neu'r Telerau hyn

11.1    Cewch ganslo eich cofrestriad fel Cysylltiad Busnes ar unrhyw adeg trwy ddilyn y cyfarwyddiadau ar-lein a ddarperir drwy'r ddolen. Noder na chaiff eich cofrestriad ei ganslo nes inni fewnbynnu rhai manylion ar ein systemau mewnol. Byddwn yn cysylltu â chi i gadarnhau bod eich cofrestriad wedi'i ganslo neu, os nad ydyw, lle mae angen rhagor o wybodaeth er mwyn i hynny ddigwydd.

11.2    Rydym yn cadw’r hawl i ddiwygio, addasu, newid neu ddiweddaru’r Cynnwys, y Deunyddiau, y Gwasanaethau a/neu'r Telerau hyn ac rydych yn cytuno i gael eich rhwymo gan yr addasiadau, y newidiadau neu’r diweddariadau hynny sy’n cael eu gosod ar y Safle. Drwy barhau i ddefnyddio’r Safle ar ôl i unrhyw gyfryw addasiadau, newidiadau neu ddiweddariadau gael eu gosod, byddwch yn dangos eich bod yn cytuno i gael eich rhwymo gan y diwygiadau hynny. Rydych yn gyfrifol am gadw llygad ar y Telerau hyn a’r Safle am unrhyw addasiadau, newidiadau neu ddiweddariadau.

11.3    Rydym yn cadw’r hawl ar unrhyw adeg ac o bryd i’w gilydd fel y gwelwn yn dda a chan roi neu beidio â rhoi rhybudd:

(a)      i wadu mynediad i Ddefnyddwyr i’r Safle neu unrhyw ran ohono ac i wrthod darparu'r Gwasanaethau i unrhyw Ddefnyddiwr sy’n torri’r Telerau hyn; a/neu

(b)      i addasu neu derfynu’r Gwasanaethau (neu unrhyw ran ohonynt) neu’ch defnydd o’r Gwasanaethau dros dro neu’n barhaol. Rydych yn cytuno na fyddwn yn atebol i chi nac i unrhyw drydydd parti am addasu, atal dros dro neu derfynu’r Gwasanaethau felly; a/neu

(c)      i ddiddymu eich cofrestriad fel Cysylltiad Busnes a/neu dynnu’n ôl eich hawl i ddefnyddio’r Deunyddiau (neu unrhyw ran ohonynt). Rydych yn cytuno na fyddwn yn atebol i chi nac i unrhyw drydydd parti am y cyfryw ddiddymu neu dynnu’n ôl felly.

11.4    Mae ein hawliau o dan y paragraff hwn yn ychwanegol at ein holl hawliau a datrysiadau eraill o dan y Telerau hyn neu fel arall ac nid ydynt yn amharu arnynt.

12. Defnydd a Storio

12.1    Rydych yn cytuno nad ydym yn gyfrifol nac yn atebol o gwbl am ddileu neu beidio â chadw unrhyw negeseuon neu gyfathrebiadau eraill a gaiff eu cynnal neu eu trosglwyddo fel rhan o’r Gwasanaethau. Rydych yn cydnabod ymhellach ein bod yn cadw’r hawl i newid yr arferion cyffredinol hyn yn ôl ein disgresiwn ein hunain yn unig a chan roi neu beidio â rhoi rhybudd.

13 Dolenni Trydydd Parti

13.1    O bryd i’w gilydd mae’n bosibl y byddwn yn darparu dolenni o’r Safle i wefannau trydydd parti. Ni fyddwn yn atebol mewn unrhyw ffordd o gwbl ac nid ydym yn gwneud unrhyw sylwadau, gwarantiadau, argymhellion na chymeradwyaeth yn gysylltiedig â’r ffaith fod unrhyw wefan trydydd parti o’r fath ar gael nac unrhyw gynnwys, hysbysebion, cynhyrchion neu Wasanaethau sydd ar wefannau felly neu ar gael oddi arnynt. 

13.2    Drwy gynnig y dolenni y cyfeirir atynt uchod i chi, nid ydym un ai drwy awgrym nac yn uniongyrchol yn cefnogi unrhyw beth sydd wedi ei gynnwys ar wefannau felly nac yn cadarnhau unrhyw gysylltiad â gweithredwyr gwefannau o’r fath. Rydym yn benodol yn gwrthod bod yn gyfrifol am unrhyw ddeunydd gwallus, tramgwyddus, difenwol neu anweddus sy’n ymddangos ar y gwefannau trydydd parti hyn.

14. Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data

14.1    Byddwn yn cymryd pob cam rhesymol i ddiogelu unrhyw wybodaeth a gyflwynwch i ni, ar-lein a hefyd drwy’r Safle ac all-lein, yn unol â deddfwriaeth fel Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol 2016 ((y “Ddeddf”). Ni fyddwn yn rhannu, gwerthu na rhentu’r wybodaeth y byddwch yn ei darparu i unrhyw berson, cwmni neu sefydliad neu gydag unrhyw berson, cwmni neu sefydliad mewn unrhyw ffordd ac eithrio fel y nodir yn y Telerau hyn (gan gynnwys paragraff 15 isod ond heb fod yn gyfyngedig iddo) neu fel sy’n ofynnol gan ein polisïau mewnol.

14.2    Yn ystod y broses gofrestru neu ar unrhyw adeg ar ôl hynny pan allech chi ateb cwestiynau mae’n bosibl y byddwn yn casglu ac yn prosesu gwybodaeth bersonol gennych chi, fel eich enw, cyfeiriad e-bost, cyfeiriad cartref a rhifau ffôn cyswllt. Bydd y wybodaeth bersonol hon yn cael ei rheoli yn unol â'r Deddfau, ynghyd â hysbysiad Preifatrwydd Grantiau Llywodraeth Cymru, y gellir gweld copi ohono yma: https://www.llyw.cymru/hysbysiad-preifatrwydd-grantiau-llywodraeth-cymru. Gallwn ddefnyddio gwybodaeth rydym wedi ei chasglu i wella a rhedeg y Safle, cysylltu â chi, darparu ystadegau defnydd i Lywodraeth Cymru a/neu ddibenion adrodd am arian Ewropeaidd ac at unrhyw ddiben arall a ganiatewch. Mae’n ofynnol ein bod yn cadw a chasglu gwybodaeth am y wlad rydych chi’n byw ynddi. Drwy ddatgelu gwybodaeth bersonol i ni, rydych chi yn rhoi eich caniatâd i gasglu, storio a phrosesu gwybodaeth yn unol â’r hyn a nodir yn y Telerau hyn.

14.3    Byddwn yn dilyn camau diogelwch priodol wrth storio gwybodaeth bersonol er mwyn rhwystro mynediad heb awdurdod gan drydydd partïon. Er hynny, nid yw’r Rhyngrwyd yn gyfrwng cwbl ddiogel ac rydych yn cydnabod ac yn cytuno, i’r graddau eithaf a ganiateir gan y gyfraith, na fyddwn yn gyfrifol am unrhyw ddata personol a gaiff eu defnyddio, eu dosbarthu, eu difrodi na’u difetha heb awdurdod.

14.4    Byddwn yn ceisio sicrhau bod pob un o’n darparwyr gwasanaeth, isgontractwyr ac asiantau sy’n rhan o ddarparu’r Gwasanaethau (neu unrhyw un ohonynt) yn cydymffurfio â’r Ddeddf yn ogystal â chontractwyr trydydd parti rydym yn eu cyflogi i drwsio, addasu neu roi cyngor ynghylch gweithredu’r Safle.

14.5    Mae'r Safle yn storio ffeiliau testun bach, sef "cwcis", ar eich cyfrifiadur neu ddyfais (e.e. llechen neu ffôn symudol) tra'ch bod wedi mewngofnodi i'r Gwasanaethau. Gelwir y rhain yn "Cwcis Sesiwn" ac maent yn cynnwys gwybodaeth i'ch adnabod pan fyddwch yn defnyddio'r Safle ac yn symud o un dudalen i'r llall.  Cânt eu dinistrio pan fyddwch yn allgofnodi neu'n cau eich porwr.

14.6    Hefyd, mae'r Safle yn defnyddio Google Analytics, sef gwasanaeth dadansoddi'r we a ddarperir gan Google Inc. (“Google”), i gasglu gwybodaeth am y ffordd rydych yn defnyddio'r Safle a/neu'r Gwasanaethau. Gwnawn hyn er mwyn sicrhau bod y Safle yn diwallu anghenion ei ddefnyddwyr ac er mwyn helpu i wneud gwelliannau. Mae Google Analytics yn defnyddio "cwcis" a chod Javascript er mwyn dadansoddi gweithgarwch defnyddwyr ar wefannau a chaiff y cwcis hyn eu dinistrio yn unol â'r dyddiadau dod i ben a ddangosir isod yn adran 14.9.

14.7    Caiff y wybodaeth a gynhyrchir am eich defnydd o'r Safle (gan gynnwys eich cyfeiriad IP) ei throsglwyddo a'i storio ar weinyddwyr Google yn y Deyrnas Unedig.  Ni fydd Google yn cysylltu eich cyfeiriad IP ag unrhyw ddata personol arall a gadwyd yn flaenorol ac nid ydym yn datgelu eich gwybodaeth bersonol iddo (e.e. eich enw neu'ch cyfeiriad) felly ni ellir defnyddio'r wybodaeth hon i'ch adnabod.  Hefyd, nid ydym yn caniatáu i Google ddefnyddio na rhannu ein data dadansoddol (oni fydd angen gwneud hynny o dan y gyfraith neu lle mae'r cyfryw trydydd partïon yn prosesu'r wybodaeth ar ran Google). Drwy ddefnyddio'r Safle, rydych yn caniatáu i Google brosesu data amdanoch yn y ffordd ac at y dibenion a nodir uchod.

14.8    Er bod modd atal eich porwr rhag derbyn cwcis, mae'r rhain yn angenrheidiol er mwyn gwneud i'r Gwasanaethau weithio ac felly ni allwch ddefnyddio'r Gwasanaethau heb gwcis. Gallwch eithrio o Google Analytics drwy lawrlwytho a gosod adnodd “Google Analytics Opt-out Browser Add-on” sydd ar gael ar wefan Google.

14.9    Disgrifir isod y cwcis a ddefnyddir gennym ar y Safle ac fel y'u diffinnir ym Mholisi Preifatrwydd Gwefan Llywodraeth Cymru:

Cwci

Diben 

Dyddiad dod i ben

JSESSIONID

Cyfuniad ar hap o lythrennau a rhifau - fe'i defnyddir i gynnal sesiwn gyfredol WEFO Ar-lein.

Pan fyddwch yn allgofnodi neu'n cau eich porwr

_ga

Defnyddir i wahaniaethu rhwng defnyddwyr

2 flynedd

_gat

Fe'i defnyddir i gyflymu'r gyfradd gwneud cais.

10 munud

GoogleAnalytics:

 

_utma

_utmb

_utmc

_utmz

Defnyddir y cwcis hyn i gasglu gwybodaeth am y ffordd y mae ymwelwyr yn defnyddio'r Safle.  Rydym yn defnyddio'r wybodaeth i'n helpu i wella'r Safle.  Mae'r cwcis yn casglu gwybodaeth mewn modd dienw, gan gynnwys nifer yr ymwelwyr â'r Safle, a ydynt wedi ymweld o'r blaen, a'r tudalennau y maent wedi ymweld â nhw.

[                      ]

 

14.10  Nid ydym yn gyfrifol am y defnydd o cwcis gan unrhyw wefannau trydydd parti rydym yn gysylltiedig â hwy neu y gellir darparu dolenni iddynt yn unol â pharagraff 13 uchod gan gynnwys dolenni i wefan Porth y Llywodraeth, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny

14.11  Mae ein gweithdrefnau diogelwch ar gyfer storio a datgelu manylion cwsmeriaid yn cydymffurfio â gofynion y Ddeddf. Pan fo’r Safle yn cynnwys dolenni i wefannau trydydd parti, dylech nodi nad ydym yn gyfrifol am arferion na pholisïau preifatrwydd eraill perchnogion a gweithredwyr y gwefannau hynny. Felly rydym yn eich annog i ddarllen datganiadau a pholisïau preifatrwydd pob gwefan trydydd parti y gofynnir i chi gyflwyno gwybodaeth bersonol iddi.

14.12  Ac eithrio pan fo’n ofynnol yn ôl y gyfraith (gan gynnwys cyfraith yr Undeb Ewropeaidd) i ddatgelu eich gwybodaeth, ac yn unol â darpariaethau paragraff 15 isod, ni fyddwn yn trosglwyddo eich gwybodaeth i drydydd parti heb eich caniatâd.

14.13  Bydd gan eich swyddogion, gweithwyr a/neu Unigolion Cyswllt hawl mynediad at unrhyw wybodaeth bersonol all fod yn ein meddiant amdanynt (y gallwn godi tâl bychan amdani) a bydd hawl ganddynt i gywiro unrhyw beth sy’n anghywir yn eu gwybodaeth.

15. Rhyddid Gwybodaeth

15.1    Rydym yn ddarostyngedig i’r cyfreithiau sy’n rheoli mynediad i wybodaeth fel y'u nodwyd yn Neddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol arall. Er y gallem ddatgelu’r holl wybodaeth a rowch i ni, mae eithriadau sy’n gallu diogelu gwybodaeth gyfrinachol neu sy’n fasnachol sensitif. Byddwn yn eithrio’r wybodaeth honno rhag cael ei datgelu, lle bo tystiolaeth bod y wybodaeth yn wirioneddol gyfrinachol neu lle byddai ei datgelu yn niweidiol i’ch buddiannau masnachol chi, neu’n buddiannau masnachol ni, a'r budd cyhoeddus wrth gymhwyso'r eithriad.

15.2    Fel rheol byddwn yn ymgynghori â chi os byddwn yn derbyn cais am y wybodaeth yr ydych wedi’i darparu.

15.3    Er gwaethaf darpariaethau 15.1 a 15.2 uchod, gallwn ddatgelu unrhyw wybodaeth amdanoch yr ydym, yn ôl ein disgresiwn absoliwt, yn ystyried ei bod yn ofynnol inni ei datgelu yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a/neu unrhyw ofynion statudol eraill.

16. Hysbysiadau a llofnodion electronig

16.1    Mae defnyddwyr a'u sefydliadau yn cydnabod ac yn derbyn y canlynol:

(a)      yn achos data a anfonwyd neu a dderbyniwyd drwy WEFO Ar-lein, mae rhagdybiaeth gyfreithiol o blaid cyfanrwydd y data a chywirdeb y dyddiad a'r amser pan anfonwyd neu y derbyniwyd y data (fel y nodir gan WEFO Ar-lein);

(b)      mae dogfen a anfonwyd neu a hysbyswyd drwy WEFO Ar-lein yn cael ei hystyried yn gyfwerth â dogfen bapur; mae’n dderbyniol fel tystiolaeth mewn achosion cyfreithiol, caiff ei hystyried yn ddogfen wreiddiol ac mae rhagdybiaeth gyfreithiol o blaid ei dilysrwydd a'i chyfanrwydd, ar yr amod nad yw'n cynnwys unrhyw nodweddion deinamig sy'n gallu ei newid yn awtomatig;

(c)      mae llofnodion electronig a wnaed gan ddefnyddwyr drwy WEFO Ar-lein yn cael effaith gyfreithiol sy'n cyfateb i lofnodion wedi'u hysgrifennu â llaw.

16.2    Mae defnyddwyr a'u sefydliadau yn cydnabod ac yn derbyn y canlynol:

(a)      mae unrhyw ddogfen gyfathrebu neu ddogfen a anfonir neu a hysbysir drwy ddefnyddio unrhyw fath o lofnod electronig drwy WEFO Ar-lein yn cael ei hystyried yn gyfwerth â dogfen bapur wedi'i llofnodi â llaw a bydd yn dderbyniol fel tystiolaeth mewn achosion cyfreithiol ac yn ddigonol fel tystiolaeth mewn achosion cyfreithiol;

(b)      Ystyrir bod unrhyw gontract wedi'i lofnodi drwy ddefnyddio unrhyw fath o lofnod electronig drwy WEFO Ar-lein yn gyfwerth â chontract papur wedi'i lofnodi â llaw a bydd yn dderbyniol fel tystiolaeth mewn achosion cyfreithiol ac yn ddigonol fel tystiolaeth mewn achosion cyfreithiol;

(c)      ni allant ddadlau: (i) bodolaeth neu ddilysrwydd unrhyw gyfathrebiad, dogfen neu gontract wedi'i lofnodi drwy ddefnyddio unrhyw fath o lofnod electronig drwy WEFO Ar-lein; neu (ii) derbynioldeb unrhyw gyfathrebu, dogfen neu gontract a gyflwynwyd neu a lofnodwyd drwy WEFO Ar-lein fel tystiolaeth mewn achosion cyfreithiol, ar yr unig sail bod cyfathrebiad, dogfen neu gontract o'r fath wedi cael eu cyflwyno'n  electronig drwy WEFO Ar-lein neu wedi'u llofnodi â llofnod electronig.

17. Cyffredinol

17.1    Os bydd unrhyw lys yn penderfynu nad oes modd gorfodi unrhyw un o ddarpariaethau’r Telerau hyn, caiff ei dileu a bydd gweddill y darpariaethau’n parhau’n llawn o ran eu grym a’u heffaith.

17.2    Ni fyddwn yn gyfrifol am unrhyw achos o fethu â mynd at y Safle, unrhyw Gynnwys neu Wasanaethau nac am atal na therfynu'r mynediad hwnnw sy’n codi yn sgil digwyddiad force majeure, neu yn sgil gweithredoedd neu reoliadau unrhyw awdurdod llywodraethol neu uwch-genedlaethol, neu os nad yw ein gweinyddion yn gweithio. Bydd digwyddiad force majeure yn cynnwys, heb fod yn gyfyngedig i hynny, fethiant yn y seilwaith, ymyrraeth gan y llywodraeth, rhyfeloedd, helynt sifil, herwgipio, tân, llifogydd, storm, streic, cau allan, ymosodiad terfysgol neu weithredu diwydiannol sy’n effeithio arnom ni neu ar ein cyflenwyr.

17.3    Mae eich hawliau a’ch rhwymedigaethau o dan y Telerau hyn yn bersonol i chi, ac rydych yn ymrwymo na fyddwch yn aseinio, yn lesio, yn arwystlo, yn isdrwyddedu nac yn trosglwyddo’r cyfryw hawliau a’r rhwymedigaethau hynny’n gyfan gwbl neu’n rhannol nac yn awgrymu eich bod yn gwneud hynny.

17.4    Ni chaiff dim yn y Telerau hyn (fel y’u diwygir gennym o bryd i’w gilydd) greu unrhyw hawl neu fudd i unrhyw drydydd parti dan Ddeddf Contractau (Hawliau Trydydd Partïon) 1999. Nid yw hyn yn effeithio ar unrhyw hawl sydd gan drydydd parti na’i hawl i gael iawn os yw’r hawliau hynny'n bodoli neu ar gael y tu allan i ddarpariaethau’r Ddeddf honno.

17.5    Bydd y Telerau hyn yn rheoli eich mynediad at y Gwasanaethau ac ni chewch chi gynnig unrhyw delerau ac amodau eraill.

17.6    Cynhwysir penawdau’r adrannau er hwylustod yn unig ac ni chânt effeithio ar y ffordd y dehonglir y Telerau hyn.

17.7    Ni fydd unrhyw fethiant neu oedi ar ein rhan i fynnu unrhyw hawl neu hawl i gael iawn dan y telerau hyn yn golygu ein bod yn ildio hawl neu hawl i gael iawn o'r fath nac ychwaith yn ein hatal rhag defnyddio'r hawl honno neu unrhyw hawl neu hawl i gael iawn rywbryd eto.

17.8    Gellir anfon hysbysiadau atoch naill ai drwy’r e-bost neu drwy’r post cyffredin. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn eich hysbysu ynglŷn â newidiadau i’r Telerau neu i faterion eraill drwy ddangos hysbysiadau neu ddolenni at hysbysiadau’n gyffredinol ar y Safle.

17.9    Caiff y Telerau hyn eu llywodraethu a’u deall yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr ac rydych yn cytuno i ymddarostwng i awdurdodaeth benodol Llysoedd Cymru a Lloegr.

18. Adborth a Chwynion

18.1    Os oes gennych unrhyw gŵyn am Ddefnyddiwr arall neu am unrhyw agwedd ar y Safle neu’r Gwasanaethau, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau neu yr hoffech gynnig adborth arall, yna, cewch gysylltu â ni drwy ddilyn y ddolen ‘cysylltu â ni’ ar Mewngofnodi i WEFO Ar-lein.