Sut i ailosod eich cyfrinair WEFO Ar-lein.
Ailosod eich cyfrinair WEFO Ar-lein os ydych wedi'i anghofio neu os yw eich cyfrif wedi'i gloi.
Ewch i Mewngofnodi i WEFO Ar-lein:
- dewiswch Mewngofnodi
- dewiswch Rwyf wedi anghofio’m cyfrinair
- rhowch eich Cyfeiriad e-bost a dewiswch Yn eich blaen
- rhowch y Cod cadarnhau sydd wedi’i e-bostio atoch a dewiswch Cadarnhau
- rhowch eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) Porth y Llywodraeth a dewis Yn eich blaen
- rhowch y Cod cyrchu a ddangosir yn y neges destun, yr alwad llais neu’r ap dilysu, a dewis Yn eich blaen
- rhowch eich Cyfrinair newydd a'i roi eto yn Cadarnhewch y cyfrinair newydd a dewiswch Ailosod cyfrinair
- dewiswch Yn ôl i fewngofnodi