Unedau magu a phesgi cymeradwy ac Arwerthiannau arbennig TB: cwestiynau cyffredin
Gwybodaeth fanwl yn egluro Unedau Magu a Phesgi Cymeradwy ac arwerthiannau arbennig TB (marchnadoedd oren).
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Unedau magu a phesgi cymeradwy (AFUs)
Ers 1 Ionawr 2021, mae un symudiad wedi'i ganiatáu ar gyfer unrhyw anifail unigol o uned fagu a phesgi gymeradwy (AFU) yng Nghymru, neu AFU/AFUE yn Lloegr i AFU yng Nghymru, gan ganiatáu i gyfleusterau wedi'u targedu'n benodol at fagu anifeiliaid iau gael eu sefydlu.
Ers 1 Gorffennaf 2021, gellir trwyddedu gwartheg o AFU i symud drwy Arwerthiant Arbennig TB (Marchnad Oren) i AFU arall yng Nghymru neu i AFU / AFUE yn Lloegr. Gall gwartheg heb eu gwerthu o AFU yng Nghymru gael eu dychwelyd o Arwerthiant Arbennig TB i AFU. Nid yw anifail heb ei werthu sy'n dychwelyd o Arwerthiant Arbennig TB i AFU yn cyfrif fel symudiad at y dibenion hyn.
Gall gweithredwyr yr unedau hyn brynu lloi o nifer o fuchesi sydd wedi'u cyfyngu gan TB a buchesi heb TB. Gellir magu'r gwartheg am gyfnod ac mae ganddynt opsiynau ar yr oedran priodol i gael eu symud i AFU arall naill ai'n uniongyrchol neu, drwy Arwerthiant Arbennig TB ("Marchnad Oren"), gael eu hanfon i grynhoad lladd cymeradwy neu i'w lladd.
Un amod yn y drwydded symud yw bod anifail unigol ond yn gallu symud ar un achlysur o AFU/AFUE yn Lloegr neu AFU yng Nghymru i AFU yng Nghymru.
Gall anifeiliaid sydd eisoes wedi symud i AFU yng Nghymru o AFU, neu Uned Besgi Gymeradwy (Uwch) gyda thir pori (AFUE), gael eu symud dan drwydded i Arwerthiant Arbennig TB, ond un o amodau'r drwydded yw eu bod ond yn cael eu gwerthu yn yr Arwerthiant Arbennig TB i'w lladd, neu i AFU / AFUE yn Lloegr.
Dim ond yn Ardaloedd TB Uchel Cymru y gellir cymeradwyo AFUs ac Arwerthiannau Arbennig TB.
Cais am gymeradwyaeth ar gyfer Unedau Magu Cymeradwy yng Nghymru a Lloegr
Sut i wneud cais am gymeradwyaeth ar gyfer Uned Fagu a Phesgi Gymeradwy?
Nid oes unrhyw wahaniaethau yn y prosesau ymgeisio neu gymeradwyo ar gyfer Uned Fagu Gymeradwy ac Uned Besgi Gymeradwy sy’n datblygu gwartheg i’w lladd. I wneud cais, darllenwch y nodiadau cyfarwyddyd a llenwch y ffurflen gais sydd ar gael ar GOV.UK. Gofalwch eich bod yn cyflwyno'r holl ddogfennau ategol perthnasol (e.e. cynllun safle), neu gall fod oedi gyda'ch cais. Os oes angen help arnoch i lenwi'r ffurflen gais, neu os ydych chi angen rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) Cymru ar 0300 3038268 neu APHA.CymruWales@apha.gov.uk.
Beth sy'n digwydd ar ôl cyflwyno'r cais
Bydd yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) yn asesu’ch cais ac efallai y bydd yn cysylltu â chi os oes angen rhagor o wybodaeth. Yna bydd un o filfeddygon APHA yn ymweld â’ch Uned i weld a fyddwch yn gallu cadw at y telerau ac amodau cymeradwyo a gweithredu. Os yw’r ymweliad yn foddhaol, bydd APHA yn cymeradwyo’r uned. Os na fydd modd cadw at y telerau ac amodau, bydd APHA yn esbonio’r rhesymau pam, a beth sydd angen ei wneud er mwyn cymeradwyo’r uned.
Beth sy'n digwydd ar ôl cymeradwyo'r uned?
Bydd APHA yn gofyn am Rif Daliad (CPH) unigryw ar gyfer yr AFU unwaith y bydd wedi'i chymeradwyo. Cyhoeddir y rhif hwn gan Taliadau Gwledig Cymru (RPW). Cewch wybod beth yw’r Rhif Daliad newydd ac yna bydd angen i chi ei gofrestru gyda Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain (BCMS).
Bydd APHA yn gofyn hefyd bod manylion eich AFU yn cael eu hychwanegu at y rhestr o AFUs ar GOV.UK a bydd yr AFU yn cael ei gofnodi ar ibTB (gweler ibTB - Mapping bovine TB (bTB) in England and Wales).
O ble daw’ch gwartheg
I ble all AFUs yng Nghymru fynd i gael gwartheg o dan drwydded?
Gall AFUs yng Nghymru gael eu gwartheg o dan drwydded o:
- Eiddo sydd o dan gyfyngiadau TB yng Nghymru, Lloegr a'r Alban
- Arwerthiannau Arbennig TB ("marchnadoedd oren") yng Nghymru, neu Loegr
- Arwerthiannau gwasgaru fferm yn Lloegr yn unig
- AFUs eraill yng Nghymru ac AFU/AFUEs yn Lloegr
- Eiddo anghyfyngedig yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.
- Marchnadoedd gwyrdd neu eithriedig yng Nghymru, neu Loegr.
Symud gwartheg a gofynion profi
Pryd cewch chi symud gwartheg o AFU yng Nghymru a Lloegr o dan drwydded ac i ble?
Os oes gennych wartheg mewn AFU yng Nghymru neu Loegr, cewch eu symud o dan drwydded:
- Yn uniongyrchol i ladd-dy yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban.
- I ladd-dy drwy Grynhoad Lladd Cymeradwy ar gyfer gwartheg o dan gyfyngiadau TB (marchnad goch) yng Nghymru neu Loegr. Gall fod yn arwerthiant neu grynhoad.
- Yn uniongyrchol i AFU arall yng Nghymru neu Loegr. Dim ond unwaith y gall anifail gael ei symud o AFU yng Nghymru neu AFU/AFUE yn Lloegr, i AFU yng Nghymru.
- Drwy Arwerthiant Arbennig TB (Marchnad Oren) i AFU arall yng Nghymru neu i AFU / AFUE yn Lloegr. Gall anifeiliaid sydd eisoes wedi symud i AFU yng Nghymru o AFU, neu o AFUE, gael eu symud o dan drwydded i Arwerthiant Arbennig TB, ond un o amodau’r drwydded yw bod yn rhaid eu gwerthu yn yr Arwerthiant Arbennig TB ar gyfer naill ai eu lladd, neu i AFU / AFUE yn Lloegr.
All gwartheg gael eu symud o Uned Besgi Gymeradwy i Arwerthiant Arbennig TB (Marchnad Oren)?
Gallant, mae modd cael trwydded i symud gwartheg o AFU drwy Arwerthiant Arbennig TB (Marchnad Oren) i AFU arall yng Nghymru neu i AFU / AFUE yn Lloegr. Gall anifeiliaid sydd eisoes wedi symud i AFU yng Nghymru o AFU, neu AFUE, gael eu symud o dan drwydded i Arwerthiant Arbennig TB, ond un o amodau'r drwydded yw bod rhaid eu gwerthu yn yr Arwerthiant Arbennig TB ar gyfer naill ai eu lladd, neu i AFU / AFUE yn Lloegr.
Dim ond i AFU yng Nghymru, AFU/AFUE yn Lloegr neu ladd-dy y gellir symud gwartheg o Arwerthiant Arbennig TB (marchnad oren) yng Nghymru a Lloegr. Fodd bynnag, gall gofynion penodol mewn contractau llaeth bennu na all llo symud i ladd-dy nes ei fod dros wyth wythnos oed.
Dim ond unwaith y gall anifail gael ei symud o AFU i AFU yng Nghymru.
A oes modd symud anifeiliaid rhwng AFUs?
Dim ond unwaith y bydd modd cael trwydded i symud anifail o AFU i AFU yng Nghymru, gan alluogi, er enghraifft, symud lloi o Uned Fagu i’w tewhau mewn Uned Besgi ar gyfer eu lladd. Dim ond ar ôl asesiad risg milfeddygol y caniateir y symudiadau hyn. Nid yw’n bolisi rhwystro symudiadau o’r fath oni bai bod risg uchel iawn.
Beth yw'r gofynion profi ar gyfer symud anifeiliaid rhwng AFUs?
O 31 Rhagfyr 2022 ymlaen, ni fydd angen prawf croen twbercwlin cyn-symud mwyach ar gyfer gwartheg sy'n symud yn uniongyrchol rhwng AFUs (gyda a heb dir pori) neu'n anuniongyrchol drwy arwerthiant arbennig TB (marchnad oren) cymeradwy. Bydd y newidiadau hyn yn berthnasol yng Nghymru a Lloegr.
Bydd angen i wartheg 42 diwrnod neu hŷn gael prawf cyn-symud clir o hyd o fewn 90 diwrnod i symud ar gyfer unrhyw symudiadau i AFU/AFUE, neu Arwerthiant Arbennig TB o AFU nad oedd yn cydymffurfio ag amodau cymeradwyo yn ymweliad arolygu diwethaf APHA.
Ni all unrhyw AFU nad yw'n cydymffurfio ag amodau cymeradwyo yn ymweliad arolygu diwethaf APHA symud anifeiliaid cymwys 42 diwrnod oed neu'n hŷn o AFU / AFUE neu Arwerthiant Arbennig TB nad ydynt wedi derbyn prawf cyn-symud clir o fewn 90 diwrnod i'r symudiad.
Bydd angen i symudiadau gwartheg o AFU yn uniongyrchol i AFU arall neu'n anuniongyrchol drwy farchnad oren gael eu trwyddedu gan APHA o hyd.
Bydd y newid polisi hwn yn destun adolygiad ar ôl cyfnod o 12 mis.
Noder y bydd gwartheg sy'n symud o fuchesi sydd o dan gyfyngiadau TB (achos wedi'i gadarnhau) i AFUs (yn uniongyrchol neu drwy farchnadoedd oren) yn dal i fod angen prawf croen twbercwlin negyddol o fewn 90 diwrnod cyn y symud (ac eithrio lloi o dan 42 diwrnod oed).
Pa mor aml y bydd angen cynnal profion gwyliadwriaeth TB mewn AFUs?
Bydd gofyn cynnal profion gwyliadwriaeth ym mhob AFU yng Nghymru bob chwe mis o hyd, ond dim ond ar wartheg 180 diwrnod oed a throsodd. Pan geir achos o TB, bydd angen cynnal profion ar yr holl anifeiliaid yn yr uned bob 90 diwrnod o hyd. Gallai APHA benderfynu cynnwys anifeiliaid o dan 180 diwrnod oed mewn profion gwyliadwriaeth AFU os oes rhesymau cysylltiedig â risg dros wneud hynny.
Beth os canfyddir achos o TB mewn AFU?
Os canfyddir achos o TB mewn AFU yng Nghymru, bydd modd anfon anifeiliaid i ladd-dy o hyd, yn uniongyrchol neu drwy grynhoad cymeradwy. Gellir parhau hefyd i symud anifeiliaid sydd wedi cael prawf clir i AFU arall yng Nghymru neu Loegr o dan drwydded ar ôl asesiad risg milfeddygol. Os bydd canlyniadau’r prawf diwethaf yn dangos bod gormod o risg y gallai gwartheg heintiedig gael eu symud i AFU arall, ni chaiff y symudiad ei ganiatáu. Gall hyn ddigwydd pan fydd nifer uchel o adweithyddion, neu anifeiliaid gyda briwiau, sy'n peri pryder ynghylch risg uchel o drosglwyddo'r haint.
A ellir prynu lloi ifanc o fwy nag un daliad o dan gyfyngiadau TB?
Mae gweithredwyr AFUs yn cael prynu gwartheg o fwy nag un daliad sydd o dan gyfyngiadau TB, neu o ddaliadau sydd â statws Heb TB Swyddogol. Byddant yn cael eu magu ac ar yr adeg briodol, eu symud i AFU arall i’w pesgi nes eu bod yn ddigon trwm i’w lladd, neu eu hanfon yn uniongyrchol i ladd-dy. Mae hyn yn golygu y gellir rheoli anifeiliaid yn ôl gofynion eu hoed.
Un amod yn y drwydded symud yw bod anifail unigol ond yn gallu symud ar un achlysur o AFU yng Nghymru neu Loegr i AFU yng Nghymru.
Beth yw’r rheolau ar gyfer Adweithyddion Amhendant ar ffermydd?
Cyn belled â’u bod wedi cael prawf clir (yn y 90 diwrnod cyn eu symud) neu eu bod o dan 42 diwrnod oed, bydd modd cael trwydded i symud anifeiliaid o ddaliad sydd o dan gyfyngiadau TB i AFU neu Arwerthiant Arbennig TB pan fo Adweithyddion Amhendant yn dal i fod ar y daliad hwnnw. Er wrth gwrs, ni fydd modd cael trwydded i symud y rheini o’r daliad. Os oes anifeiliaid sydd wedi cael adwaith pendant neu sydd wedi cael canlyniad positif i brawf gwaed ar y daliad o hyd, ni fydd anifeiliaid clir yn gallu cael trwydded tan y bydd yr adweithyddion prawf croen neu waed wedi gadael y daliad a bod canlyniad y post mortem yn hysbys. Mae rhesymau eraill a allai arwain at APHA yn gwrthod trwydded. O ran adweithyddion amhendant wedi’u datrys mewn daliadau yn Lloegr gafodd adwaith amhendant ac sydd o dan gyfyngiadau oes o dan Hysbysiad TB197, gellir rhoi trwydded arbennig iddynt gael symud i AFU yng Nghymru neu drwy Arwerthiant Arbennig TB yng Nghymru ar drwydded benodol (nid yw trwydded gyffredinol ar GOV.UK yn cwmpasu symudiadau i Gymru).
Os oes gan ffermwr un prawf clir ar ôl cyn y gellir codi cyfyngiadau TB, a gaiff anfon anifeiliaid i AFU?
O fis Hydref 2023 bydd lloi o dan 90 diwrnod oed (ar ddiwrnod y symud) sy'n dod o fuches odro yn unig, sydd ag un prawf clirio ar ôl i'w gynnal, yn gallu cael eu symud i AFU / AFUE, cyn belled nad oes ffactorau risg yn y fuches sy'n ei gwneud yn fwy tebygol y gallai'r lloi hynny adweithio i brawf croen yn y dyfodol.
Ni fydd angen cynnal rhagor o brofion ar y lloi hyn er mwyn cael codi'r cyfyngiadau ar y fuches y daethant ohoni ar ôl cynnal y prawf clirio terfynol. Gellir cynnal y prawf clirio unrhyw adeg ar ôl symud y llo, cyn belled â'i fod yn cael ei gynnal o fewn ffenestr brofi yr APHA.
Fel arall, ni ellir symud gwartheg o ddaliad yng Nghymru i AFU nes bod dau brawf Cyfnod Byr arall i’w cynnal ar y fuches.
Beth ddylwn ei wneud gyda fy lloi aneconomaidd os oes cyfyngiadau TB ar fy muches a bod prynwr fy llaeth yn mynnu fy mod i’n cadw’r lloi’n fyw nes eu bod yn 8 wythnos oed?
Dyma'r opsiynau ar gyfer eich lloi aneconomaidd:
- Eu magu ar y fferm.
- Eu hanfon i AFU yng Nghymru, neu AFU/AFUE yn Lloegr
- Eu hanfon i Arwerthiant Arbennig TB – holwch yr arwerthwr i wneud yn siŵr bod y lloi’n cael eu gwerthu i weithredwr AFU yn unig.
- Sefydlu Uned Wahanu TB ar ddaliad arall (dim ond yn Ardal TB Ganolradd y Canolbarth neu’r Ardal TB Uchel y caniateir Unedau Gwahanu).
- Eu gwerthu i ffermwr arall sydd o dan gyfyngiadau TB – i gael trwydded, rhaid i’r symudiad risg isel. Gall unrhyw symud i ddaliad dan gyfyngiadau TB arwain at ostyngiad o 50% mewn iawndal, oni bai bod y symudiad o ddaliad sydd dan gyfyngiadau TB i AFU.
Eich cyfrifoldeb chi, y gwerthwr, yw cael cadarnhad gan reolwr y mart neu reolwr AFU y caiff yr anifeiliaid hyn eu gwerthu i weithredwr AFU ar gyfer eu magu’n unig, neu y byddant yn cael eu magu mewn AFU, tan eu bod yn 8 wythnos oed o leiaf.
A fyddwch chi’n cael gwerthu lloi rhwng y prawf cyntaf sy’n datgelu’r achos a’r prawf cyfnod byr cyntaf?
Cyn cwblhau’r Prawf Cyfnod Byr cyntaf ar ôl darganfod yr achos ac atal neu ddiddymu’r statws Heb TB Swyddogol, nid yw’r risg yn hysbys. Dyma’r unig symudiadau y gellir eu hystyried, a hynny ar ôl asesu’r risg:
- i ladd-dy, yn uniongyrchol neu drwy Arwerthiant Arbennig TB (marchnad oren) neu Grynhoad Lladd Cymeradwy (marchnad goch)
- yn uniongyrchol i AFU/AFUE neu drwy Arwerthiant Arbennig TB; neu
- i Uned Ynysu TB.
A oes yna Unedau Ynysu TB (IUs) yng Nghymru ac ydyn nhw mewn ardal risg uchel yn unig?
Dim ond mewn daliad â Statws Heb TB Swyddogol y cewch greu Uned Ynysu, gan mai dim ond gwartheg o’ch daliad chi y cewch chi eu cadw ynddi. Bydd yr uned dan do, â safonau bioddiogelwch uchel a rhaid ei llenwi a’i chau cyn pen 6 wythnos. O 31 Rhagfyr 2022 ymlaen, mae angen i anifeiliaid 42 diwrnod a hŷn sy'n symud i Uned Ynysu TB fod wedi cael prawf TB clir o fewn 60 diwrnod i'r symudiad.
Dim ond yn Ardal TB Ganolradd y Canolbarth a’r Ardal TB Uchel y gellir cymeradwyo Unedau Ynysu TB. Unwaith y bydd wedi’i chau bydd angen i’r gwartheg fod wedi cael dau brawf ASG (Grŵp Ar Wahân Cymeradwy) clir o leiaf 60 a 120 diwrnod ar ôl cau’r Uned cyn y cewch godi’r cyfyngiadau TB arnynt.
Amodau ar gyfer cymeradwyo a rhedeg unedau magu a phesgi cymeradwy (AFUs) yng Nghymru
A gaiff anifeiliaid heblaw am wartheg fynd i AFU?
Na, dim ond ar gyfer gwartheg maent wedi’u cymeradwyo.
A fydd gwartheg cyflo’n cael eu cymeradwyo?
Na, nid ydynt wedi’u bwriadu ar gyfer gwartheg cyflo ac ni ddylai gwartheg gael eu godro na chael bridio yn yr Uned. Gofalwch fod gennych drefniadau wrth gefn rhag ofn y caiff llo ei eni’n annisgwyl yn yr uned.
Pryd all AFU gael statws heb TB swyddogol (OTF) eto?
Mae’n rhaid i AFU fod o dan gyfyngiadau symud TB (TB02) drwy’r amser. Dim ond unedau gwag sydd wedi’u glanhau a’u diheintio fydd yn cael ceisio cael Statws Heb TB Swyddogol (OTF).
A oes amodau sy’n rheoli ble cewch chi leoli AFU?
Rhaid i bob AFU fod yn hunangynhaliol, wedi'i ynysu oddi wrth wartheg eraill, gyda ffiniau pendant a chlir. Yng Nghymru, rhaid i bob AFU fod dan do ac yn yr Ardal TB Uchel.
A gewch chi gofrestru AFU o dan yr un Rhif Daliad (CPH) â’r fferm
Na, rhaid cofrestru AFU o dan Rif Daliad unigryw parhaol.
Nid oes modd rhoi CPH dros dro (tCPH) na chreu Cysylltiad Tir Dros Dro (TLA) i’r uned.
A oes angen archwiliad o'r uned ac, os felly, pa mor aml?
Mae archwiliad APHA o'r safle a'r cofnodion yn cael ei gynnal o leiaf ddwywaith y flwyddyn, a gall fod yn ddirybudd.
Rhaid i ofynion bioddiogelwch llym fod ar waith, gan gynnwys diogelu adeiladau rhag bywyd gwyllt.
Iawndal
Beth yw'r goblygiadau o ran iawndal?
Os bydd gwartheg o ddaliad sydd dan gyfyngiadau TB yn symud i AFU o dan drwydded ac y canfyddir wedyn eu bod yn adweithyddion mewn prawf chwe misol ni fydd gostyngiad o 50% yn yr iawndal yn digwydd am symudiad o dan drwydded.
Os bydd gwartheg o fuches sydd â statws Heb TB Swyddogol yn symud i AFU o dan drwydded ac y canfyddir wedyn eu bod yn adweithyddion bydd gostyngiad o 50% yn yr iawndal.
Arwerthiannau Arbennig TB (marchnadoedd oren)
Ble yng Nghymru y caiff yr Arwerthiannau Arbennig TB eu cynnal?
Yn yr Ardaloedd TB Uchel yn unig. Ni fydd hawl eu cynnal yn yr Ardaloedd Isel na Chanolradd yng Nghymru, er mwyn bod yn gyson â’r polisi Dileu TB mewn perthynas ag AFUs.
A fydd gwartheg dros 8 wythnos oed yn cael eu gwerthu mewn Arwerthiant Arbennig TB?
Bydd anifeiliaid dros 8 wythnos oed sy’n cael mynd i AFU yn gallu cael eu gwerthu mewn Arwerthiant Arbennig TB hefyd.
A oes modd cael trwydded i symud gwartheg o AFU i Arwerthiant Arbennig TB?
Oes, mae modd cael trwydded i symud gwartheg o AFU i Arwerthiant Arbennig TB. Gall anifeiliaid sydd eisoes wedi symud i AFU yng Nghymru o AFU, neu AFUE, gael eu symud dan drwydded i Arwerthiant Arbennig TB, ond un o amodau'r drwydded yw eu bod ond yn cael eu gwerthu yn yr Arwerthiant Arbennig TB i'w lladd, neu i AFU / AFUE yn Lloegr.
A oes rheolau ynghylch nifer y crynoadau y cewch eu cynnal yn yr un safle crynhoi cymeradwy fel Arwerthiant Arbennig TB?
Ni chewch gynnal Arwerthiant Arbennig TB yr un pryd ag unrhyw grynhoad anifeiliaid arall. Ni chaniateir crynoadau eraill ar yr un safle oni bai bod bwlch amser pendant wedi bod ers marchnadoedd eraill a bod y safle wedi’i lanhau a’i ddiheintio yn unol â Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Cymru) 2010. Ni chewch gynnal crynhoad ar safle sydd â statws Heb TB Swyddogol ar ôl Arwerthiant Arbennig TB ar yr un diwrnod yng Nghymru.
Fel prynwr, a oes gofyniad i ddangos tystiolaeth eich bod yn gymwys er mwyn cael symud gwartheg o’r farchnad?
Bydd angen i bob prynwr roi tystiolaeth i’r farchnad ei fod yn bodloni’r amodau ar gyfer symud gwartheg o’r farchnad. Rhaid dangos naill ai cymeradwyaeth fel AFU/AFUE neu gadarnhau y bydd yn mynd â’r holl anifeiliaid yn uniongyrchol i ladd-dy gan enwi’r lladd-dy hwnnw.
Sut fydd y farchnad yn olrhain yr holl wartheg o dan gyfyngiadau TB a werthir?
Bydd gofyn i’r arwerthwr greu rhestr, wedi’i rhannu yn ôl y daliad y daethant ohono, o’r holl wartheg o dan gyfyngiadau TB y bydd wedi’u gwerthu. Bydd y rhestr yn nodi’r gwerthwr, yr anifail, y prynwr a’r AFU/AFUE neu ladd-dy pen y daith. Bydd gofyn anfon y rhestr hon yn electronig at APHA o fewn 24 awr i ddiwedd yr arwerthiant.
Bydd APHA’n archwilio’r rhestrau i gadarnhau bod yr anifeiliaid wedi cyrraedd pen eu taith yn unol â’r System Olrhain Gwartheg (CTS). Bydd APHA yn ymchwilio i symudiadau â chofnodion anesboniadwy sy’n groes i’w gilydd ar y CTS a chaiff nifer yr anghysondebau a’r graddau diffyg cydymffurfio eu monitro ym mhob marchnad.
Beth sy’n digwydd i wartheg sydd heb eu gwerthu?
Ni ellir dychwelyd gwartheg o ddaliad sydd o dan gyfyngiadau TB, sydd heb eu gwerthu, i’r daliad gwreiddiol. Caiff gwartheg sydd heb eu gwerthu ddychwelyd i AFU o Arwerthiant Arbennig TB. Mater i weithredwyr y farchnad yw penderfynu beth sy’n digwydd i wartheg fydd heb eu gwerthu a sut y gall lloi o dan 8 wythnos oed gael eu gwerthu i weithredwyr AFU yn hytrach na’u hanfon yn uniongyrchol i ladd-dy. Mae’n hanfodol bod gwerthwyr yn sicrhau bod tagiau dwbl ar eu gwartheg cyn eu llwytho.
Pwy sy’n cymeradwyo arwerthiannau arbennig TB?
APHA sy’n cymeradwyo Arwerthiannau Arbennig TB.
Pwy ddylwn i gysylltu â nhw gydag ymholiadau am gymeradwyo marchnadoedd?
Yng Nghymru cysylltwch ag APHA.CymruWales@apha.gov.uk
Pwy ddylwn i gysylltu â nhw yn APHA ynghylch rheoli achosion, gan gynnwys trwyddedau marchnadoedd, gan gwsmeriaid a rhestrau arwerthwyr?
Rhif ffôn APHA Cymru: 0300 3038268 a gofynnwch am Dîm Rheoli Achosion TB APHA Cymru