Neidio i'r prif gynnwy

Mae Unedau Pesgi Cymeradwy (AFUau) yn darparu man ar gyfer pesgi a/neu orffen gwartheg sydd wedi’u profi’n glir o ddaliadau sydd wedi’u cyfyngu gan TB sydd heb gyfleusterau i’w magu.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gall gweithredwr AFU brynu gwartheg o ffynonellau lluosog. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • daliadau sydd wedi’u cyfyngu gan TB a daliadau â Statws heb TB Swyddogol (OTF)
  • crynoadau OTF (marchnadoedd gwyrdd)
  • marchnadoedd eithriedig, ac yn fwy diweddar
  •  AFUau/AFUEau

Mae angen trwydded arnoch  gan APHA i dalu am symud unrhyw wartheg o:

  • fferm sydd wedi'i chyfyngu oherwydd TB
  • AFU yng Nghymru, neu
  • AFU/AFUE yn Lloegr

i Arwerthiant Penodol ar gyfer TB.

Mae AFUau wedi'u cymeradwyo i safonau bioddiogelwch llym. Rhaid iddynt fod yn unedau dan do mewn Ardaloedd TB Uchel yng Nghymru. Cedwir AFUau o dan gyfyngiadau TB parhaol. Rhaid ichi gadw at yr amodau cymeradwyo bob amser. Mae trwyddedau priodol yn galluogi symud ar y safle ac oddi arno.

Ers 1 Ionawr 2021, gall anifeiliaid unigol gael un symudiad trwyddedig o:

  • un AFU yng Nghymru, neu
  • AFU/AFUE yn Lloegr

i AFU arall yng Nghymru, naill ai’n uniongyrchol neu drwy Arwerthiant Penodol i TB.

Mae hyn yn golygu y gallwch weithredu AFU ar gyfer magu lloi iau. Mae hyn yn eich galluogi i brynu lloi o ddaliadau lluosog sydd wedi’u cyfyngu oherwydd TB, neu safleoedd OTF. Yna gallwch fagu'r anifeiliaid hyn tan gam priodol yn eu cylch cynhyrchu. Ar yr adeg honno, gallwch eu symud i AFU arall sy'n gallu eu magu i bwysau lladd.

O fis Hydref 2023 bydd lloi o dan 90 diwrnod oed (ar ddiwrnod y symud) sy'n dod o fuches odro sydd ag un prawf clirio ar ôl i'w gynnal, yn gallu cael eu symud i AFU / AFUE, cyn belled nad oes ffactorau risg yn y fuches sy'n ei gwneud yn fwy tebygol y gallai'r lloi hynny adweithio i brawf croen yn y dyfodol.  

Bydd gofyn i loi 42 diwrnod oed a throsodd fod wedi cael canlyniad negyddol i brawf TB o fewn 90 diwrnod ar ôl eu symud.

Caniateir symudiadau o'r fath cyn belled nad oes unrhyw ffactorau risg yn y fuches sy'n ei gwneud yn fwy tebygol y gallai lloi o dan 90 diwrnod oed adweithio i brawf croen yn y dyfodol. Dyma enghreifftiau o ffactorau risg:

  • mae'r achos wedi ac o hyd yn effeithio ar nifer fawr o wartheg
  • ar loi o dan 90 diwrnod oed, cadarnheir bod TB arnynt trwy friwiau ar yr ysgyfaint, ar nodau lymff yr ysgyfaint ac ar y mesenteri
  • cafwyd anifail yn ddiweddar â TB cyffredinol, neu â briwiau ar ei chadair/pwrs, neu lif o'r nod lymff

Ni fydd angen cynnal rhagor o brofion ar y lloi hyn er mwyn cael codi'r cyfyngiadau ar y fuches y daethant ohoni ar ôl cynnal y prawf clirio terfynol. Gellir cynnal y prawf clirio unrhyw adeg ar ôl symud y llo, cyn belled â'i fod yn cael ei gynnal o fewn ffenestr brofi yr APHA.

Ers 1 Ionawr 2021, mae marchnadoedd yn Ardal TB Uchel Cymru wedi gallu gwneud cais am gymeradwyaeth i gynnal Arwerthiant Penodol i TB. 

Gall gwartheg o ddaliadau sydd wedi’u cyfyngu oherwydd TB, AFUau yng Nghymru, neu AFUau/AFUEau yn Lloegr fynd i Arwerthiant Penodol i TB. O’r fan honno, dim ond i AFU yng Nghymru, neu AFU/AFUE yn Lloegr, y gall yr anifeiliaid hyn fynd, neu eu hanfon yn syth i'w lladd. Mae'n bwysig deall na chaiff unrhyw anifail ddychwelyd i'w ddaliad cartref o Arwerthiant Penodol i TB, oni bai ei fod wedi tarddu o AFU/AFUE.

O 31 Rhagfyr 2022, ni fydd angen prawf croen twbercwlin cyn symud arnoch mwyach ar gyfer gwartheg:

  • sy'n symud yn uniongyrchol rhwng AFUau (â phori a heb bori), neu'n
  • anuniongyrchol drwy arwerthiant penodol i TB (marchnad oren) cymeradwy

Bydd y newidiadau hyn yn berthnasol yng Nghymru a Lloegr.

Bydd prawf cyn symud clir ar gyfer gwartheg 42 diwrnod oed neu’n hŷn o fewn 90 diwrnod i symud yn dal i fod yn ofynnol ar gyfer unrhyw symudiadau i:

  • AFU/AFUE, neu
  • Arwerthiant Penodol i TB

o AFU nad yw'n cydymffurfio ag amodau cymeradwyo yn yr ymweliad archwilio diwethaf gan APHA.

Ni all unrhyw AFU nad yw'n cydymffurfio ag amodau cymeradwyo yn yr ymweliad archwilio diwethaf gan APHA symud anifeiliaid cymwys 42 diwrnod oed, neu'n hŷn o:

  • AFU/ AFUE, neu
  • Arwerthiant Penodol i TB nad ydynt wedi cael prawf cyn symud clir o fewn 90 diwrnod i'r symudiad

Bydd angen i symudiadau gwartheg:

  • o AFU yn uniongyrchol i AFU arall neu'n
  • anuniongyrchol drwy farchnad oren

gael eu trwyddedu gan APHA o hyd.

O 2 Hydref 2023 ymlaen, gall ceidwaid buchesi dan gyfyngiadau TB wneud cais am drwydded gyffredinol (TB16e). Mae hyn yn ymdrin â symud gwartheg:

  • yn uniongyrchol, neu
  • drwy Arwerthiant Arbennig Cymeradwy ar gyfer gwartheg dan gyfyngiadau TB (“marchnad oren”) yng Nghymru neu Loegr i:
    • Uned Besgi Gymeradwy (AFU)
    • Uned Besgi Gymeradwy Uwch gyda Thir Pori (yn Lloegr) (AFUE)
    • lladd-dy 

Bydd y drwydded yn ddilys ar gyfer y cyfnod rhwng profion cyfnod byr. Bydd angen gwneud cais am drwydded newydd ar ôl pob prawf cyfnod byr.

Rhaid ichi nodi pob un o’r gwartheg â thagiau clust, yn unol â Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 2007 (fel y'u diwygiwyd). Mae'n bwysig sicrhau bod gan anifail y tagiau clust gofynnol, cyn iddo symud o safle'r fferm.