Trwydded gyffredinol ar gyfer symud samplau ar gyfer profion salmonela o safleoedd yn y parth gwarchod neu'r parth gwyliadwriaeth (EXD314 (HPAI)(GB))
Trwydded gyffredinol am symud samplau i brofi am salmonela o safleoedd yn y parth gwarchod neu'r parth gwyliadwriaeth.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Mae'r drwydded hon yn caniatáu, yn amodol ar gydymffurfio â'r gyfraith berthnasol a'r amodau a nodir yn y drwydded hon, symud samplau i'w profi o safle mewn parth gwarchod neu barth gwyliadwriaeth ffliw adar i labordy cymeradwy yn y DU (ar gov.uk) ar gyfer profion salmonela mewn ieir a thyrcwn.
Mae'r drwydded hon yn ddilys o 14/11/2024 am 15:05 ac mae'n dirymu ac yn disodli trwydded EXD314(HPAI)(GB) a ddaeth i rym am 10am ar 12 Rhagfyr 2022.
Cyhoeddwyd y drwydded hon gan Lywodraeth Cymru, Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, a Llywodraeth yr Alban ac mae'n berthnasol i Gymru, Lloegr a'r Alban.
Llofnodwyd:
Radu Pancu
Arolygydd Milfeddygol
Dyddiad: 14/11/2024 Amser: 15:05
Penodwyd yr Arolygydd Milfeddygol gan Weinidogion Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol a Gweinidogion yr Alban.
Os nad yw'r drwydded hon yn berthnasol i'r gweithgaredd rydych yn dymuno ymgymryd ag ef, neu os na allwch gydymffurfio ag unrhyw un o'r telerau ac amodau sy'n berthnasol i ddefnyddio'r drwydded hon, yna bydd angen i chi wneud cais am drwydded benodol (ar gov.uk).
Deddfwriaeth
Gwneir y drwydded hon o dan y pwerau sydd wedi'u cynnwys yn Neddf Iechyd Anifeiliaid 1981 (fel y'i diwygiwyd) a'r "Gorchymyn" sy'n golygu:
- Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy'n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 2006 (fel y'i diwygiwyd)
- Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy'n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Lloegr) (Rhif 2) 2006 (fel y'i diwygiwyd)
- Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy'n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (yr Alban) 2006 (fel y'i diwygiwyd)
Cyhoeddir y drwydded gyffredinol hon yn unol â’r canlynol:
- paragraff 11 o Atodlen 4 a pharagraff 8 o Atodlen 5 o'r Gorchymyn yng Nghymru a Lloegr.
- paragraff 11 o Atodlen 4 a pharagraff 9 o Atodlen 5 o'r Gorchymyn yn yr Alban
Amodau'r drwydded
- Rhaid anfon samplau o dan y drwydded gyffredinol hon at labordai yn y DU sydd wedi’u cymeradwyo ar gyfer profion salmonela (ar gov.uk) o dan Raglen Rheoli Cenedlaethol Salmonela y DU yn unig.
- Yn union cyn cymryd y samplau, rhaid i'r trwyddedai archwilio'r dofednod ar y safle i gadarnhau nad ydynt yn dangos unrhyw [arwyddion clinigol] (https://www.gov.uk/guidance/avian-influenza-bird-flu) a allai fod yn gysylltiedig â ffliw adar.
- Rhaid hysbysu'r labordy sy'n derbyn y samplau cyn anfon y samplau a rhaid i'r trwyddedai:
- hysbysu'r labordy sy'n derbyn y samplau bod y samplau yn dod o barth gwyliadwriaeth neu barth gwarchod ffliw adar (fel y bo'n briodol)
- sicrhau bod y labordy yn ymwybodol o amodau'r drwydded hon a'i fod wedi cytuno i dderbyn y samplau
- Rhaid labelu deunydd pacio allanol a ffurflen cyflwyno'r samplau i ddangos y safle gwreiddiol a nodi'n glir bod y safle hwn wedi'i leoli mewn parth gwarchod neu barth gwyliadwriaeth ffliw adar (fel y bo'n briodol).
- Rhaid pacio pob sampl yn unol â Rheoliadau Cludo Nwyddau Peryglus a Defnyddio Offer Gwasgedd Cludadwy 2009 (fel y'u diwygiwyd) a'r Cytundeb Ewropeaidd ar Gludo Nwyddau Peryglus ar y Ffordd (ADR) rhwng Gwledydd (gweler nodyn esboniadol 1, isod, am ddolen i ragor o wybodaeth).
- Mae ADR yn bodloni gofynion pecynnu UN3373 – P650. Dylid marcio pob pecyn gyda'r geiriau "SYLWEDD BIOLEGOL CATEGORI B”. Rhaid i'r geiriau hyn fod o leiaf 6mm o uchder ac wedi'u gosod ger y label UN3373 diemwnt (gweler nodyn esboniadol 1, isod, am ddolen i ragor o wybodaeth).
- Rhaid anfon pob sampl o'r fath trwy ddefnyddio gwasanaeth dosbarthiad cofnodedig, cludwr neu eu danfon yn uniongyrchol i'r labordy cymeradwy.
- Rhaid i'r trwyddedai sicrhau bod unrhyw berson/personau sy'n ymwneud â'r gwaith symud hwn yn gwneud y canlynol:
- peidio â mynd i mewn i unrhyw safle dofednod neu adar caeth, neu adael unrhyw safle o'r fath, os yw/ydynt yn gwisgo dillad neu esgidiau sy'n amlwg wedi'u baeddu gan laid, ysgarthion dofednod neu adar, neu unrhyw ddeunydd tebyg
- yn glanhau ac yn diheintio ei esgidiau/eu hesgidiau cyn mynd i mewn neu adael unrhyw safle neu fan lle’r oedd dofednod neu adar caeth yn bresennol
- yn tynnu unrhyw ddillad tafladwy cyn gadael safle dofednod neu adar caeth a pheidio â'u hailddefnyddio ar safle arall
- yn sicrhau bod dillad nad ydynt yn dafladwy yn lân ac yn rhydd o unrhyw halogiad gweladwy cyn gadael safle dofednod neu adar caeth
- yn cymryd pob rhagofal rhesymol arall i osgoi trosglwyddo llaid, slyri, tail anifeiliaid, ysgarthion, plu neu unrhyw ddeunydd tebyg arall rhwng safleoedd dofednod ac adar caeth
- Rhaid i'r gwaith glanhau a diheintio gydymffurfio ag:
- erthygl 66 o'r Gorchymyn yng Nghymru a Lloegr
- erthygl 65 o'r Gorchymyn yn yr Alban.
- Nid yw'r drwydded hon yn berthnasol i symudiadau i, neu o, unrhyw safle sy'n destun hysbysiad gwahardd gan arolygydd milfeddygol.
Nodiadau esboniadol
- I gael rhagor o wybodaeth yn ymwneud ag Amodau 5 a 6, uchod, gweler ein canllawiau ar y broses Cludo Nwyddau Peryglus (ar gov.uk).
- Rhaid i ddeiliad y safle gwreiddiol gadw cofnod o symudiadau, gan gynnwys rhif cofrestru unrhyw gerbyd a ddefnyddir, cyn gynted ag sy'n rhesymol ymarferol ar ôl y symudiad, a dylid cadw'r cofnod am o leiaf chwe wythnos ar ôl cwblhau'r symudiad, yn unol â gofyniad Erthygl 74 o Orchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 2006 (fel y'i diwygiwyd) yng Nghymru, neu Erthygl 74 o Orchymyn Ffliw Adar a Ffliw Adar mewn Mamaliaid (Lloegr) (Rhif 2) 2006 (fel y'i diwygiwyd) yn Lloegr. Rhaid i unrhyw berson sy'n symud dofednod o safle yn yr Alban o dan y drwydded hon gadw cofnod o'r wybodaeth ganlynol:
- beth sy'n cael ei symud, gan gynnwys faint sy'n cael ei symud
- dyddiad y symudiad
- enw’r traddodwr
- cyfeiriad y safle lle dechreuodd y symudiad
- rhif cofrestru unrhyw gerbyd a ddefnyddir
- enw’r traddodai
- cyfeiriad y safle ar ben y daith
- Rhaid i unigolyn sy’n symud unrhyw beth o dan awdurdod y drwydded hon sicrhau bod ganddo nodyn cludo. Rhaid i'r nodyn cludo gynnwys:
- faint o samplau sy'n cael eu symud
- dyddiad y symudiad
- enw’r traddodwr
- cyfeiriad y safle o le mae'r samplau wedi'u symud
- rhif cofrestru'r cerbyd sy'n casglu'r samplau
- enw’r traddodai
- cyfeiriad y safle gwaredu
- Rhaid i berson sy'n symud unrhyw beth o dan awdurdod y drwydded hon roi ei enw a'i gyfeiriad, dangos y nodyn cludo a chaniatáu i rywun wneud copi llawn neu gopi o ddarn o'r nodyn cludo, os gofynnir iddo wneud hynny gan arolygydd neu un o swyddogion eraill Gweinidogion Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol neu Weinidogion yr Alban.
- Mae'r drwydded hon yn caniatáu symud samplau ar gyfer profion salmonela sy'n ofynnol ar gyfer y Rhaglen Rheoli Genedlaethol, a samplau ar gyfer profion salmonela at ddibenion sicrwydd, megis ar gyfer bodloni gofynion y Lion Code.
- Rhaid i bawb sy’n cadw adar gadw llygad barcud ar eu hadar am [arwyddion o glefyd] (https://www.gov.uk/guidance/bird-flu-avian-influenza-how-to-prevent-it-and-stop-it-spreading) a [sicrhau bioddiogelwch da bob amser. Os oes gennych unrhyw bryderon am iechyd eich adar, gofynnwch am gyngor gan eich milfeddyg yn ddi-oed.
- I gael rhagor o wybodaeth am ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â ffliw adar:
- Cymru - gweler gwefan Llywodraeth Cymru
- Lloegr – gweler ein canllawiau ar ffliw adar (ar gov.uk)
- Yr Alban - gweler gwefan Llywodraeth yr Alban
Mae methu â chydymffurfio â'r mesurau gofynnol yn y drwydded hon yn drosedd o dan Adran 73 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981. Os yw rhywun yn euog o gyflawni trosedd o dan yr adran hon, y gosb yw uchafswm o chwe mis yn y carchar neu ddirwy nad yw’n uwch na Lefel 5 ar y raddfa safonol, neu'r ddau.
Cysylltu â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y drwydded gyffredinol hon, cysylltwch â’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (ar gov.uk).
Dylech gynnwys eich enw, eich cyfeiriad llawn a'ch rhif ffôn fel y gallwn sicrhau bod eich ymholiad yn cael ei gyfeirio at yr arbenigwr cywir.