Trwydded gyffredinol ar gyfer diddymu’r marc cig wedi’i osod ar gig dofednod penodol (EXD264(HPAI)(EW))
Trwydded gyffredinol am ddiddymu’r marc gig wedi’i osod ar cig dofednod penodol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Mae'r drwydded hon yn caniatáu, yn amodol ar gydymffurfio â'r gyfraith berthnasol, i unrhyw berson yng Nghymru a Lloegr ddiddymu'r marc cig sydd wedi'i osod ar gig dofednod penodol at ddibenion prosesu neu ail-becynnu.
Mae'r drwydded hon yn ddilys o 16.30 ar 09 Tachwedd 2024 ac mae'n dirymu ac yn disodli trwydded EXD264(HPAI)(EW) a ddaeth i rym am 10am ar 12 Rhagfyr 2022.
Cyhoeddwyd y drwydded hon gan Lywodraeth Cymru ac Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ac mae'n berthnasol i Gymru a Lloegr.
Llofnodwyd:
Stephen Jackson
Awdurdodwyd gan Weinidogion Cymru
Dyddiad: 9 Tachwedd 2024 Amser: 16:11
Gordon Hickman
Awdurdodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol
Dyddiad: 9 Tachwedd 2024 Amser: 16.30
Os nad yw'r drwydded hon yn berthnasol i'r gweithgaredd rydych yn dymuno ymgymryd ag ef, neu os na allwch gydymffurfio ag unrhyw un o'r telerau ac amodau sy'n berthnasol i ddefnyddio'r drwydded hon, yna bydd angen i chi wneud cais am drwydded benodol (ar gov.uk).
Deddfwriaeth
Gwneir y drwydded hon o dan y pwerau sydd wedi'u cynnwys yn Neddf Iechyd Anifeiliaid 1981 (fel y'i diwygiwyd) a'r "Gorchymyn" sy'n golygu:
- Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy'n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Lloegr) (Rhif 2) 2006 (fel y'i diwygiwyd)
- Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy'n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2 ) 2006 (fel y'i diwygiwyd)
Cyhoeddir y drwydded gyffredinol hon yn unol ag:
- Erthygl 63 (6) o'r Gorchymyn yng Nghymru a Lloegr
Nodiadau esboniadol
At ddibenion y drwydded hon, ystyr "cig dofednod" yw cig dofednod ac unrhyw gynnyrch sy'n cynnwys cig dofednod nad yw wedi'i drin â gwres ar dymheredd isaf o 70°C, sy’n cyrraedd pob rhan o'r cig neu'r cynnyrch.
- Rhaid ail-gymhwyso'r marc yn yr un ffurf ar ôl cwblhau'r gwaith prosesu neu ail-becynnu, oni bai bod y cig dofednod wedi cael ei drin â gwres ar dymheredd isaf o 70°C trwy'r cig neu'r cynnyrch cig cyfan.
- I gael rhagor o wybodaeth am ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â ffliw adar:
- Cymru - gweler gwefan Llywodraeth Cymru
- Lloegr – gweler ein canllawiau ar ffliw adar (ar gov.uk)
Mae methu â chydymffurfio â'r mesurau gofynnol yn y drwydded hon yn drosedd o dan Adran 73 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981. Os yw rhywun yn euog o gyflawni trosedd o dan yr adran hon, y gosb yw uchafswm o chwe mis yn y carchar neu ddirwy hyd at Lefel 5 ar y raddfa safonol, neu'r ddau.
Cysylltu â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y drwydded gyffredinol hon, cysylltwch â’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (ar gov.uk).
Dylech gynnwys eich enw, eich cyfeiriad llawn a'ch rhif ffôn fel y gallwn sicrhau bod eich ymholiad yn cael ei gyfeirio at yr arbenigwr cywir.