Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

O dan adran 12 o Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 ('y Ddeddf'), mae'n rhaid i Weinidogion Cymru, ar gyfer pob blwyddyn ariannol, gyhoeddi adroddiad sy'n mynd i'r afael â'r canlynol:

  • y cynnydd a wnaed tuag at gyflawni'r amcanion yn y strategaeth genedlaethol ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (2016 i 2021)
  • y cynnydd a wnaed tuag at gyflawni dibenion Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 yng Nghymru (gan gyfeirio at y dangosyddion cenedlaethol)

Mae'r adroddiad hwn yn ymdrin â'r cyfnod rhwng mis Ebrill 2019 a mis Mawrth 2020 ac mae'n cynnwys gwaith a wnaed yn ystod y cyfnod cyn pandemig COVID-19. Nid yw'r gwaith sydd wedi'i wneud ers hyn wedi'i gynnwys.

Cyhoeddwyd y Dangosyddion Cenedlaethol ar 24 Mehefin 2019. Gweler y ddolen isod am ragor o wybodaeth.

Dyma oedd y set gyntaf o Ddangosyddion Cenedlaethol Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol a gwnaed gwaith dilynol gyda rhanddeiliaid er mwyn datblygu'r dangosyddion a'r ffynonellau data ymhellach, gyda'r nod o lunio set derfynol o Ddangosyddion Cenedlaethol erbyn haf 2020. Fodd bynnag, cafodd hyn ei ohirio oherwydd pandemig y coronafeirws. Am nad yw'r Dangosyddion Cenedlaethol ar waith eto, adroddwyd ar y cynnydd a wnaed yn erbyn yr amcanion yn y strategaeth genedlaethol.

Amcan 1

Cynyddu ymwybyddiaeth a herio agweddau ynghylch trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ar draws poblogaeth Cymru

Camau a gymerwyd gennym

Cyfathrebu ac ymgyrchoedd

Mae ein dull o ddatblygu ymgyrchoedd a gwaith cyfathrebu wedi parhau i gael ei ddylanwadu'n gryf gan oroeswyr ac mae'r gwaith hwn wedi mynd rhagddo mewn partneriaeth â rhanddeiliaid arbenigol yn y sector a goroeswyr.

Cafodd gwaith pellach ar ymgyrch 'Nid cariad yw hyn: Rheolaeth yw hyn', a lansiwyd ym mis Ionawr 2019, ei gyflawni yn ystod y cyfnod hwn. Mae ‘Nid cariad yw hyn. Rheolaeth yw hyn' yn tynnu sylw at natur fradwrus a chronnol rheolaeth drwy orfodaeth yn ogystal â'i chynildeb.

Datblygwyd ymgyrch ‘Nid cariad yw hyn. Rheolaeth yw hyn' yn dilyn cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu â goroeswyr a mewnbwn gan wasanaeth arbenigol drwy gyfrwng grŵp cyfathrebu trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Drwy ymgynghori'n uniongyrchol â goroeswyr cam-drin domestig, trais rhywiol, pobl ifanc a menywod sy'n geiswyr lloches neu'n ffoaduriaid, canfuwyd mai rheolaeth drwy orfodaeth yw prif elfen cam-drin domestig i lawer o ddioddefwyr. Er iddo gael ei wneud yn drosedd yng Nghymru a Lloegr i rywun ddefnyddio rheolaeth drwy orfodaeth yn erbyn person arall yn 2015, mae'n parhau'n gysgod hollbresennol ar fywydau llawer o ddioddefwyr; yn anodd ei nodi, yn anodd iawn ei datgelu, ac, i'r rheini sy'n edrych ar berthynas gamdriniol o'r tu allan, yn anodd ei gweld a'i deall. Prif ddymuniad y rhai y gwnaethom ymgysylltu â nhw oedd ein bod yn codi ymwybyddiaeth o'r drosedd hon a'r cymorth sydd ar gael.

Roedd Cam 3 yn adlewyrchu'r profiadau a'r heriau a wynebir gan bobl ifanc wrth iddynt feithrin perthnasoedd ac ymdeimlad o hunaniaeth unigol. Darparodd wybodaeth am ffyrdd o wybod pan na fydd perthynas yn berthynas iach a chanllawiau i rieni a gofalwyr. Mae ymchwil yn awgrymu bod pobl ifanc yn llawer mwy tebygol o ddioddef ymosodiad rhywiol nag unrhyw grŵp oedran arall, a bod o leiaf hanner pobl ifanc yn profi ymddygiad sy'n rheoli o fewn perthynas. Fodd bynnag, ni fyddai mwy na thraean o bobl ifanc yn gwybod ble i droi am gymorth, nac at bwy, pe byddent yn cael eu cam-drin.  Codi ymwybyddiaeth ymhlith pobl ifanc a'u rhwydweithiau cymorth oedd un o brif nodau'r cam hwn o'r ymgyrch.

Yn ystod mis Medi a mis Hydref 2019, cyflwynodd Llywodraeth Cymru weithgarwch cyntaf yr ymgyrch, gan dargedu'r negeseuon at bobl ifanc 19 i 21 oed. Cafodd gweithgareddau'r ymgyrch eu targedu'n bennaf at fyfyrwyr prifysgol yn ystod Wythnos y Glas ledled Cymru. Cafodd yr ymgyrch ei datblygu ymhellach i dargedu pobl ifanc 16 i 18 oed a'r rhai a oedd yn agos atynt, er mwyn tynnu sylw at reolaeth drwy orfodaeth.

Yn ystod yr wythnos ymwybyddiaeth o drais rhywiol ym mis Chwefror 2020, lansiwyd Cam 4 yr ymgyrch, gan ganolbwyntio ar y rhai a oedd yn dioddef rheolaeth a thrais rhywiol. Amcangyfrifwyd bod 2.9% o oedolion (700,000) 16 i 59 oed wedi dioddef ymosodiadau rhywiol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf

Mae 'Nid cariad yw hyn. Cam-drin rhywiol yw hyn' yn archwilio ac yn tynnu sylw at y modd y mae cam-fanteisio, paratoi i bwrpas rhyw, manipiwleiddio ac ofn yn rhan o reolaeth drwy orfodaeth lle bydd yn digwydd o fewn teuluoedd a pherthnasau personol.

Mae'r ymgyrch a'r pedair senario yn seiliedig ar brofiadau go iawn goroeswyr. Nod y cam hwn o'r ymgyrch oedd helpu pobl i ddeall y troseddau erchyll hyn; herio mythau a stereoteipiau a sicrhau y gallwn siarad yn agored am y mater, rhag iddo aros yn dabŵ.  Rhannodd y goroeswyr eu teimladau o gywilydd ac ofn na fyddai neb yn eu credu, gan nodi mai dyma rhai o'r prif resymau dros beidio â bod eisiau rhoi gwybod am droseddau cam-drin rhywiol. Roedd yr ymgyrch yn llwyfan i ddechrau dymchwel y rhwystrau hyn, rhoi mwy o hyder i ddioddefwyr a goroeswyr y byddai pobl yn gwrando arnynt a sicrhau eu bod yn gwybod bod gwasanaethau ar gael iddynt pan fyddent eu hangen.

Cyfathrebu Cymunedol

Er mwyn sicrhau bod ein negeseuon yn cyrraedd ymhellach ledled Cymru, gwnaethom weithio'n agos gyda chydgysylltwyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol rhanbarthol i ariannu gweithgareddau cyfathrebu cymunedol. Nod y gweithgareddau hyn oedd codi ymwybyddiaeth o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, gwasanaethau lleol ac ymgyrchoedd Byw Heb Ofn lleol a chenedlaethol. Arweiniwyd y gweithgareddau gan unigolion a oedd wedi goroesi camdriniaeth, mewn partneriaeth â gwasanaethau arbenigol. Roedd y digwyddiadau'n canolbwyntio'n bennaf ar y 16 Diwrnod o Weithredu a'r Diwrnod Rhyngwladol Diddymu Trais yn erbyn Menywod a Merched ym mis Tachwedd, ac roeddent yn cynnwys:

  • podlediad wedi'i arwain gan oroeswyr
  • cynadleddau yn Ne-orllewin Cymru i ddioddefwyr a gweithwyr proffesiynol 
  • datblygu adnoddau ar gyfer gweithio gyda goroeswyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ag anghenion dysgu ychwanegol
  • digwyddiad cymunedol i eiriolwyr ifanc
  • gan godi ymwybyddiaeth a chynnig hyfforddiant ychwanegol ar gyfer 'Cenhadon Perthnasau Iach' mewn ysgolion uwchradd

Cyflawniadau allweddol

Llwyddodd camau'r ymgyrch yn ystod y cyfnod hwn i ddenu dros.

  • 300,000 o ymgysylltiadau ar Facebook
  • 44,000 o ymweliadau unigol â thudalennau gwefan Byw Heb Ofn yn ystod cyfnod yr ymgyrch
  • 9,800 o ryngweithiadau â llinell gymorth Byw Heb Ofn yn ystod cyfnod yr ymgyrch
  • a chafodd fideo'r ymgyrch 'Dyw hyn ddim yn iawn' ei wylio bron 200,000 o weithiau (196,573)

Lansiwyd ymgyrch ‘Nid cariad yw hyn. Cam-drin rhywiol yw hyn' mewn partneriaeth â'r asiantaeth arbenigol ar drais rhywiol, Llwybrau Newydd. Daeth mwy na 70 o bobl i'r lansiad (asiantaethau arbenigol, goroeswyr ac aelodau o'r cyhoedd). Cafodd y lansiad sylw gan y cyfryngau cenedlaethol a chafodd 'Cam-drin rhywiol yw hyn' ei ddangos fel un o'r prif benawdau ar Newyddion ITV Wales, ac roedd yn un o'r prif straeon ar Wales Online. Ar ddiwedd cyfnod yr ymgyrch ym mis Mawrth 2020, roedd fideos ymgyrch 'Nid cariad yw hyn, rheolaeth yw hyn' wedi cael eu gwylio mwy na 240,000 o weithiau ar-lein a bu 76,000 o ymweliadau â thudalennau'r ymgyrch ar wefan Byw Heb Ofn.

Roedd Partneriaid Arbenigol (yr Heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron) a goroeswyr cam-drin rhywiol yn allweddol i'r lansiad, gan rannu'r ffyrdd roeddent yn ymdrin ac yn mynd i'r afael â cham-drin rhywiol neu'n ei oresgyn. Roedd eu cyfraniadau yn rhan annatod o ddatblygiad y cam hwn o'r ymgyrch ac rydym yn diolch iddynt am rannu eu profiadau yn ein grwpiau rhwydweithio a datblygu.

Y camau nesaf

Gyda chefnogaeth y Grŵp Cyfathrebu Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, darparwyr arbenigol allweddol a goroeswyr, byddwn yn datblygu Fframwaith Cyfathrebu Cenedlaethol 2022 i 2027 a fydd yn ategu'r strategaeth genedlaethol bum mlynedd nesaf ar gyfer Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.

Byddwn yn parhau i weithredu'r ymgyrch 'Ddylai neb fod yn ofnus gartre' er mwyn ymateb i effaith pandemig COVID-19.

Seren Môr

Ym mis Rhagfyr 2019, trefnodd Consortiwm Seren Môr ddau ddigwyddiad dysgu a gynhaliwyd ym Mhort Talbot. Datblygwyd a chyflwynwyd y digwyddiadau ar y cyd â defnyddwyr gwasanaethau a'r nod oedd codi ymwybyddiaeth o ymgyrchoedd Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Llywodraeth Cymru, 'Nid cariad yw hyn Rheolaeth yw hyn' a 'Paid Cadw'n Dawel'. Cafodd y digwyddiad cyntaf ei dargedu at ddefnyddwyr gwasanaethau a goroeswyr sy'n defnyddio gwasanaethau cymorth ar hyn o bryd, neu sydd wedi gwneud hynny yn y gorffennol. Cafodd yr ail ddigwyddiad ei dargedu at weithwyr proffesiynol rheng flaen, sefydliadau lleol, busnesau a chomisiynwyr yn ardal Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr.

Reach

Daeth 18 o ddefnyddwyr gwasanaethau a goroeswyr i'r digwyddiad cyntaf ac roedd 64 o weithwyr proffesiynol rheng flaen yn rhan o'r ail ddigwyddiad.

Cafodd cyfanswm o 82 o gynrychiolwyr gyfle i ddysgu mwy am negeseuon ymgyrchoedd Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Llywodraeth Cymru, 'Nid cariad yw hyn Rheolaeth yw hyn' a 'Paid Cadw'n Dawel', yn ardal Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr.

Dangosodd gwerthusiad yn dilyn y digwyddiad i ddefnyddwyr gwasanaethau y canlynol:

  • dywedodd 89% fod eu hymwybyddiaeth o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol wedi gwella
  • nid oedd gan 58% o'r cyfranogwyr unrhyw wybodaeth flaenorol am yr ymgyrch 'Nid cariad yw hyn' roedd gan 42% rhywfaint o wybodaeth am yr ymgyrch
  • nododd 100% o'r cyfranogwyr fod eu gwybodaeth a'u hymwybyddiaeth o'r ymgyrch wedi gwella

Dangosodd gwerthusiad yn dilyn y digwyddiad i weithwyr proffesiynol rheng flaen y canlynol:

  • ar ddechrau'r digwyddiad, dywedodd 61% eu bod yn hyderus neu'n hyderus iawn, dywedodd 34% fod ganddynt rywfaint o hyder a dywedodd 5% nad oedd ganddynt unrhyw hyder yn eu gallu i geisio cymorth neu ddarparu cymorth mewn perthynas â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol
  • ar ôl y digwyddiad, dywedodd 96% eu bod yn hyderus neu'n hyderus iawn a dywedodd 4% fod ganddynt bellach rywfaint o hyder yn eu gallu i geisio cymorth neu ddarparu cymorth mewn perthynas â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol

Amcan 2

Cynnydd yn ymwybyddiaeth plant a phobl ifanc yng Nghymru o bwysigrwydd perthnasoedd diogel, cyfartal ac iach a'r ffaith bod ymddygiad camdriniol yn anghywir bob amser

Camau a gymerwyd gennym

Gall trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol gael effaith enfawr ar blant a phobl ifanc. Gall effeithio ar eu llesiant, eu cyrhaeddiad addysgol, eu perthnasoedd â'u teuluoedd a'u cymheiriaid, a'u gallu i fwynhau perthnasoedd iach, hapus, llawn parch nawr ac yn y dyfodol. Mae codi ymwybyddiaeth plant a phobl ifanc o gydraddoldeb, parch a chydsyniad yn hanfodol os ydym am roi terfyn ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.Rydym am sicrhau bod gan bob plentyn a pherson ifanc fynediad at ddysgu o ansawdd uchel sy'n briodol i'w datblygiad, sy'n ymateb i'w hanghenion a'u profiadau.

Rydym yn parhau i ariannu prosiect Sbectrwm Hafan Cymru, sy'n hyrwyddo pwysigrwydd perthnasoedd iach ac yn codi ymwybyddiaeth o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol mewn ysgolion. Mae Sbectrwm hefyd yn darparu hyfforddiant i staff a llywodraethwyr ysgolion ar ddeall effaith cam-drin domestig ar blant ac yn mabwysiadu dull ysgol gyfan o fynd i'r afael â cham-drin domestig.

Caiff Addysg Rhyw a Pherthnasoedd ei hailenwi'n Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (RSE). Bydd hyn yn rhan statudol o'r cwricwlwm newydd i bob dysgwr rhwng 3 ac 16 oed.

Cyhoeddwyd fframwaith diwygiedig y Cwricwlwm i Gymru ym mis Ionawr 2020, a darparwyd manylion i ddangos sut y dylai Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb gael ei chynnwys drwy'r cwricwlwm yn y dyfodol.

Mae Llywodraeth Cymru a CBAC wedi trafod datblygu rhaglen Mentora Cymheiriaid Iechyd a Lles Uwch Bagloriaeth Cymru, ond oherwydd pandemig COVID-19, mae'r gwaith hwn wedi'i ohirio am y tro.

Cyflawniadau allweddol

Cyhoeddwyd canllawiau ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol i Sefydliadau Addysg Uwch ym mis Mawrth 2020 yn unol â'r bwriad.

Gyda chefnogaeth grŵp o naw o bobl ifanc, cafodd yr ymgyrch trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, 'Dyw hyn ddim yn iawn' ei lansio'n llwyddiannus ym mis Hydref 2019. Datblygwyd animeiddiadau i bobl ifanc a'u rhieni/gofalwyr, gan dynnu sylw at y gwahaniaeth rhwng perthnasoedd iach a rhai nad ydynt yn iach, sut i gael gafael ar gymorth, a sut y dylai rhieni ymateb i ddatgeliadau gan bobl ifanc. Fel rhan o'r ymgyrch, gwelwyd dros 3 miliwn o hysbysiadau argraff drwy hysbysebu digidol a chafodd fideos yr ymgyrch eu gwylio mwy na 200,000 o weithiau.

Y camau nesaf

Bydd y Gweithgor Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn parhau i weithio'n agos gydag ymarferwyr er mwyn helpu i ddatblygu'r Canllawiau Statudol newydd ar Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb.

Byddwn yn cydweithio'n agos â CBAC i ddylunio'r rhaglen Mentora Cymheiriaid Iechyd a Lles a'n bwriad yw cynnal cynllun peilot mewn ysgolion ledled De Cymru. Rydym yn bwriadu ailddechrau’r gwaith ar y cynllun peilot Mentora Cymheiriaid arfaethedig cyn gynted ag y bydd effaith COVID-19 yn lleihau.

Rydym wedi sefydlu Grŵp Rhanddeiliaid Plant a Phobl Ifanc Agored i Niwed mewn perthynas â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol er mwyn nodi heriau, pryderon a materion yn sgil COVID-19 a nodi atebion priodol. Bydd y grŵp hwn yn llunio posteri a ffeithlenni i blant a phobl ifanc ac i ymarferwyr yn ymwneud â diogelu ac atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Rydym yn parhau i weithio gyda CCAUC i nodi anghenion cymorth a gweithgareddau codi ymwybyddiaeth i gefnogi staff a myfyrwyr yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf.

Amcan 3

Mwy o ffocws ar ddwyn cyflawnwyr i gyfrif, a darparu cyfleoedd iddynt newid eu hymddygiad gyda phwyslais ar ddiogelwch y dioddefwr

Camau a gymerwyd gennym

Cyhoeddwyd 'Canllawiau arfer da ar gyfer y gwasanaethau cyhoeddus anarbenigol yng Nghymru ar weithio gydag oedolion sy’n cyflawni trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol' ym mis Tachwedd 2019.

Yn 2019 i 2020, dyrannodd Llywodraeth Cymru werth £120,000 o grantiau i'r saith rhanbarth er mwyn eu helpu i wella'r ddarpariaeth gwasanaethau i gyflawnwyr yn eu hardaloedd. Cynigiodd Llywodraeth Cymru hefyd gymorth pellach ac arbenigedd er mwyn helpu i roi'r prosiectau hyn ar waith.

Darparodd Llywodraeth Cymru gymorth a goruchwyliaeth i nifer o brosiectau gradd Meistr mewn Seicoleg Fforensig ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, lle bydd myfyrwyr Meistr yn gwerthuso gwasanaethau i gyflawnwyr fel rhan o'u rhaglen academaidd.

Cynhaliwyd digwyddiadau rhannu ymarfer bob chwarter yng Nghaerdydd a Chyffordd Llandudno yn ystod y flwyddyn, gan gynnig cyfle i'r rhai sy'n gweithio gyda chyflawnwyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, neu sy'n cynnal ymchwil yn y maes, ddod ynghyd a rhannu enghreifftiau o'u gwaith a'u canfyddiadau.

Cyfarfu ffrwd waith trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol y 'fframwaith i gefnogi newid positif ar gyfer y rheini sydd mewn risg o droseddu yng Nghymru' bob chwarter. Sefydlwyd tri grŵp gorchwyl a gorffen a oedd yn adrodd i'r ffrwd waith er mwyn canolbwyntio ar gomisiynu gwasanaethau i gyflawnwyr, safonau gwasanaeth ac ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaethau.

Darparodd Llywodraeth Cymru gymorth a goruchwyliaeth ar gyfer astudiaeth ymchwil i aflonyddu gan Brifysgol Abertawe, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru mewn cydweithrediad ag Ysgoloriaethau Sgiliau'r Economi Wybodaeth (KESS II), sef rhan o Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

Cyflawniadau allweddol

Cynhaliwyd digwyddiadau rhannu ymarfer bob chwarter, gan roi cyfle i'r rhai sy'n gweithio gyda chyflawnwyr neu sy'n gwneud gwaith ymchwil yn y maes rannu enghreifftiau o'u gwaith a'u canfyddiadau. Cynhaliwyd wyth digwyddiad rhannu ymarfer i gyd ledled Gogledd a De Cymru rhwng 1 Ebrill 2019 a 31 Mawrth 2020, a daeth 175 o bobl iddynt.  Yn dilyn y digwyddiadau hyn, cafwyd adborth cadarnhaol gan bartneriaid mewn ymateb i'r cyfleoedd dysgu a rhwydweithio hyn.

Cyhoeddwyd y Canllawiau arfer da ar gyfer y gwasanaethau cyhoeddus anarbenigol yng Nghymru ar weithio gydag oedolion sy’n cyflawni trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Y camau nesaf

Mae digwyddiadau rhannu ymarfer pellach wedi parhau bob chwarter ers mis Mawrth 2020, gan gynnwys digwyddiad ar-lein a gynhaliwyd ym mis Awst 2020, gyda ffocws penodol ar rannu gwybodaeth am arferion gorau er mwyn helpu partneriaid i ymateb i COVID-19.

Bydd y tîm yn parhau i weithio gyda'r Swyddfa Gartref i gynghori ar benderfyniadau dyrannu cyllid yn gysylltiedig â chyflawnwyr yng Nghymru.

Bydd y tîm yn parhau i weithio gyda'r rhanbarthau i sicrhau bod eu strategaethau yn ystyried gwasanaethau i gyflawnwyr.

Mae grŵp gorchwyl a gorffen newydd yn cael ei sefydlu er mwyn helpu i roi'r Rhaglen Gwasanaethau i Gyflawnwyr Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ar waith yn effeithiol. Bydd y grŵp yn gweithredu dan faner ffrwd waith trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol y fframwaith er mwyn cefnogi newidiadau cadarnhaol i'r rhai sydd mewn perygl o droseddu yng Nghymru, a chanolbwyntio ar ddulliau gweithredu sydd wedi'u llywio gan ymwybyddiaeth o drawma wrth weithio gydag unigolion a gafwyd yn euog o droseddau rhywiol a throseddau cam-drin domestig. Disgwylir y bydd unrhyw wersi a ddysgir yn cael eu rhannu ag aelodau drwy ddigwyddiad rhannu ymarfer yn y dyfodol.

Amcan 4

Rhoi blaenoriaeth i ymyrryd yn gynnar ac atal

Mae nodi achosion o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn gynnar a darparu ymateb priodol i leihau'r effaith a'r niwed yn hanfodol er mwyn cyflawni amcan ymyrryd yn gynnar ac atal y strategaeth genedlaethol. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod ymyrryd yn gynnar yn hanfodol wrth nodi a lleihau'r niwed a achosir gan drais neu gamdriniaeth.

Camau a gymerwyd gennym

Gofyn a Gweithredu

Fel rhan o'n dull ymyrryd yn gynnar, parhawyd i gyflwyno "Gofyn a Gweithredu", sef polisi a rhaglen hyfforddiant sy'n rhoi'r sgiliau sydd eu hangen ar weithwyr gwasanaethau cyhoeddus allweddol er mwyn cynnal ymholiad wedi'i dargedu, nodi camdriniaeth ac yna atgyfeirio at wasanaethau cymorth priodol.

Mae hyfforddiant 'Gofyn a Gweithredu' ar gael ledled rhanbarthau Gwent a Chwm Taf, y tri Gwasanaeth Tân ac Achub, Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, yn ogystal â Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau Iechyd. Yn ystod 2019 i 2020, mae rhanbarthau Gogledd Cymru a Chanolbarth a Gorllewin Cymru wedi rhoi'r polisi ar waith ac wedi bod yn cyflwyno'r rhaglen hyfforddiant.

Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â Goroeswyr

Parhaodd y broses o ddatblygu'r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â Goroeswyr, gan ddilyn dull dau gam.

Gyda chefnogaeth gwasanaethau arbenigol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a grwpiau Goroeswyr, cytunwyd ar fodel theori newid fel dull methodolegol o ddatblygu paneli Goroeswyr peilot.

Yn ystod mis Medi a mis Tachwedd 2019, cynhaliwyd tair sesiwn panel beilot, gyda'r nod o ddeall sut y gallai panel ymgysylltu â goroeswyr gael ei drefnu a sut y gellid hwyluso trafodaethau. Gwahoddwyd 12 o Oroeswyr i gymryd rhan yn y paneli. Roedd y paneli'n canolbwyntio ar drafod Strategaeth Genedlaethol 2016 i 2021 ac fe'u defnyddiwyd fel cyfle i oroeswyr lywio'r Strategaeth Genedlaethol sydd ar y gorwel, y disgwylir iddi gael ei chyhoeddi yn 2021.

Cyflawniadau allweddol

Erbyn diwedd mis Mawrth 2020, roedd 4,343 o weithwyr sector cyhoeddus wedi cael hyfforddiant Gofyn a Gweithredu (cynnydd o fwy na 1,000 o weithwyr a hyfforddwyd ers 2018 i 2019).

Mae'r rhaglen 'Gofyn a Gweithredu' ar waith ar hyn o bryd mewn saith ardal yng Nghymru, ac wrthi'n cael ei gweithredu ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Bae Gorllewin Abertawe a Chaerdydd. Bydd yn rhaglen genedlaethol erbyn 2021.

Y camau nesaf

Byddwn yn parhau i gefnogi safleoedd mabwysiadu newydd ar y daith i gyflwyno'r model ar lefel genedlaethol lawn erbyn diwedd 2021. Mae cyfarfodydd gweithredu wedi'u cynnal â Phen-y-bont ar Ogwr, Bae'r Gorllewin a Chaerdydd a'r Fro.

Bydd rhaglen Gofyn a Gweithredu yn cael ei gwerthuso'n annibynnol er mwyn ystyried ei heffeithiolrwydd cyn i'r canllawiau gael eu gwneud yn statudol yn ystod 2021.

Dangosodd adroddiad ar y canfyddiadau cychwynnol dystiolaeth o blaid parhau â'r paneli Goroeswyr, cyflwynodd wybodaeth am yr effaith ar oroeswyr a gwnaeth argymhellion ar gyfer gwaith ymgysylltu parhaus. Mae'r pandemig wedi effeithio ar y cynllun i gyhoeddi'r gwerthusiad llawn, ac erbyn hyn, disgwylir iddo gael ei gyhoeddi erbyn diwedd mis Ionawr 2021. Bydd hyn yn llywio ac yn dylanwadu ar ddatblygiad parhaus Fframwaith cynaliadwy ar gyfer Ymgysylltu â Goroeswyr.

Amcan 5

Hyfforddi gweithwyr proffesiynol perthnasol i ddarparu ymatebion effeithiol, amserol a phriodol i ddioddefwyr a goroeswyr

Camau a gymerwyd gennym

Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol

Un o'r dulliau allweddol ar gyfer rhoi Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 ar waith yw canllawiau statudol y Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol; y cyntaf o'u math yn y DU. Mae'r Fframwaith yn cynnig hyfforddiant cymesur i atgyfnerthu'r ymateb a ddarperir ledled Cymru i'r rhai sy'n dioddef cam-drin domestig neu drais rhywiol. Mae'n nodi disgwyliadau uchelgeisiol a chlir ar gyfer safonau, canlyniadau a chynnwys hyfforddiant ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol

Ym mis Mai 2019, cyflwynodd yr awdurdodau perthnasol eu hail adroddiadau blynyddol. Roedd yn amlwg o'r adroddiadau hyn fod gwaith partneriaeth sylweddol wedi mynd rhagddo yn ystod y flwyddyn mewn perthynas â chynllunio a gweithredu'r Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol ledled Cymru. Mae llawer o'r heriau cynnar a oedd yn gysylltiedig â gweithredu'r Fframwaith wedi cael eu goresgyn ac mae gwaith sylweddol wedi’i wneud i fodloni gofynion y canllawiau statudol.

Parhaodd Llywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau perthnasol i gynyddu canran y gweithlu sy'n cwblhau'r modiwl e-ddysgu (hyfforddiant ymwybyddiaeth sylfaenol).

Yn ystod y cyfnod hwn, ariannodd Llywodraeth Cymru gwrs ymarferwyr arbenigol i Gynghorydd Annibynnol ar Drais Domestig a chwrs trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol i reolwr gwasanaeth yn llawn.

Cyflawniadau allweddol

Trefnwyd contractau gyda Llamau a Hafan Cymru i ddarparu gweithdai ar ffurf sioeau teithiol i weithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phobl ifanc y mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol wedi effeithio arnynt. Cyflwynwyd 36 o weithdai ledled Cymru, i 786 o weithwyr proffesiynol, gan gynnwys gweithwyr Dechrau'n Deg a Theuluoedd yn Gyntaf, timau troseddau ieuenctid, grwpiau chwaraeon lleol, clybiau Brownies a Guides, staff cymdeithasau tai a'r heddlu. Rhoddodd y sioeau teithiol ymwybyddiaeth i weithwyr proffesiynol nad ydynt yn  ymwneud â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol o'r canlynol:

  • trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol
  • ymwybyddiaeth o ymddygiadau camdriniol
  • yr effaith ar blant a phobl ifanc
  • delio â datgeliadau / codi pryderon
  • adnoddau ymarferol i'w defnyddio gyda phlant a phobl ifanc
  • prosesau atgyfeirio at wasanaethau cymorth arbenigol

Erbyn diwedd mis Mawrth 2020, roedd mwy na 173,200 o weithwyr proffesiynol yng Nghymru wedi cael hyfforddiant drwy'r Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol, sef cynnydd o dros 19,000 ar gyfer y cyfnod adrodd hwn.

Y camau nesaf

Mae'n bwysig bod arweinwyr strategol a chomisiynwyr yn cael hyfforddiant priodol a dull rhanbarthol wedi'i deilwra mewn ffordd fwy personol at eu hanghenion dysgu. Bydd Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar ddatblygu dull a fydd yn helpu arweinwyr strategol i gyflawni eu dyletswydd statudol yn effeithiol.

Amcan 6

Rhoi mynediad cyfartal i ddioddefwyr at wasanaethau ledled Cymru, a’r rheini’n wasanaethau holistaidd o ansawdd uchel y darperir adnoddau priodol ar eu cyfer, sy’n seiliedig ar gryfderau, sy’n cael eu harwain gan anghenion ac sy’n ymatebol i rywedd

Camau a gymerwyd gennym

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau statudol ar Gomisiynu Gwasanaethau Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ym mis Mai 2019, i hyrwyddo gwaith comisiynu cydweithredol o ansawdd uchel sy'n darparu gwasanaethau mwy cyson ac effeithiol er mwyn atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, a diogelu a chefnogi'r rhai sydd wedi dioddef trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ledled Cymru.  Roedd y flwyddyn gyntaf yn flwyddyn drosiannol er mwyn rhoi cyfle i bartneriaethau comisiynu rhanbarthol addasu i'r dull newydd o gomisiynu.

Cyhoeddwyd Dangosyddion Cenedlaethol i fesur cynnydd wrth gyflawni dibenion y Ddeddf ym mis Mehefin 2019. Trefnwyd cyfres o weithdai gyda rhanddeiliaid allweddol i nodi ffynonellau data ychwanegol, a mireinio'r Dangosyddion Cenedlaethol.

Aeth adolygiad o wasanaethau yn seiliedig ar lety rhagddo drwy gydol y flwyddyn, wedi'i gynnal gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, a gynhaliodd ddigwyddiadau bord gron i ddarparwyr gwasanaethau a chynghorwyr rhanbarthol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Cynhaliodd Llywodraeth Cymru ddigwyddiad bord gron i oroeswyr â phrofiad o ddarpariaeth i ffoaduriaid.

Adolygwyd aelodaeth Grŵp Arwain Camdriniaeth ar sail Anrhydedd Cymru Gyfan er mwyn sicrhau bod gan yr aelodau brif gyfrifoldeb am gam-drin ar sail anrhydedd yn eu sefydliadau. Cyfarfu'r grŵp bedair gwaith yn ystod y flwyddyn, gan sicrhau trosolwg strategol o weithgarwch ar lefel ranbarthol a lleol.

Cyflawniadau allweddol

Ariannodd Llywodraeth Cymru hyfforddiant yn ystod tri mis cyntaf 2020 i godi ymwybyddiaeth o'r materion a wynebir gan y gymuned LGBT+ sy'n dioddef trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ymhlith gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio mewn gwasanaethau trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Cafodd Prosiect Dyn Cymru Ddiogelach ei ariannu gan Lywodraeth Cymru yn 2019 i 2020 i fodloni blaenoriaethau o dan y Ddeddf a'r Strategaeth Genedlaethol drwy ddarparu gwasanaeth Cymru gyfan i ddynion heterorywiol, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol yng Nghymru.

Y camau nesaf

Byddwn yn ymdrechu i ymateb i'r galwadau newydd sy'n deillio o'r pandemig, gan hefyd ddatblygu mwy ar y cynnydd a wnaed gennym yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol.

Mae gwaith wedi dechrau ar fframwaith ar gyfer monitro cydymffurfiaeth â'r canllawiau comisiynu statudol.

Dyletswyddau o dan y Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol

  • Mai 2019: Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau statudol ar gomisiynu gwasanaethau trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol
  • Mai 2019: Cyflwynodd yr awdurdodau perthnasol eu hail adroddiadau blynyddol yn unol â'r Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol
  • Mehefin 2019: Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Ddangosyddion Cenedlaethol ar gyfer trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Gwnaethom gynnal cyfres o weithdai rhwng mis Gorffennaf 2019 a mis Mawrth 2020 yn seiliedig ar bob un o'r amcanion yn ein Strategaeth Genedlaethol er mwyn gwella ac atgyfnerthu'r dangosyddion cenedlaethol. Cafodd y ddau weithdy diwethaf eu gohirio oherwydd y pandemig. Rydym yn bwriadu ailgyhoeddi'r Dangosyddion Cenedlaethol diwygiedig a'r mesurau technegol erbyn haf 2021
  • Gorffennaf 2019: Cyhoeddwyd adroddiad cynnydd Llywodraeth Cymru ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ar gyfer y cyfnod: 1 Ebrill 2018 i 31 Mawrth 2019
  • Medi 2019: Cyhoeddodd y Cynghorwyr Cenedlaethol eu hadroddiad cynnydd blynyddol ar gyfer 2018 i 2019
  • Tachwedd 2019: Cyhoeddodd y Cynghorwyr Cenedlaethol eu cynllun blynyddol ar gyfer blwyddyn ariannol 2020 i 2021
  • Tachwedd 2019: Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Ganllawiau arfer da ar gyfer y gwasanaethau cyhoeddus anarbenigol yng Nghymru ar weithio gydag oedolion sy’n cyflawni trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol