Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb o achosion o dipio anghyfreithlon, camau gorfodi a chanlyniadau erlyn ar gyfer Ebrill 2019 i Fawrth 2020.

Dylid cymryd gofal wrth ddehongli'r ffigurau hyn oherwydd newidiadau parhaus a gwelliannau mewn prosesau cofnodi data a chanllawiau (gweler yr Adroddiad ansawdd).

Roedd y cyfnod rhwng mis Ebrill 2019 a mis Mawrth 2020 yn bennaf cyn pandemig y coronafeirws (COVID-19) ac felly ni fydd fawr o effaith wedi bod ar nifer y digwyddiadau a gofnodwyd. Fodd bynnag, oherwydd heriau wrth brosesu’r data yn ystod cyfnod o gyfyngiadau COVID, nid oedd 3 o'r 22 awdurdod lleol yn gallu darparu ffigurau ar gyfer y 4ydd chwarter, Ionawr i Fawrth 2020. Ar gyfer yr awdurdodau hyn, cyfrifwyd amcangyfrif ar gyfer y cyfnod hwn yn seiliedig ar 3 chwarter cyntaf 2019-20 (Ebrill i Ragfyr 2019) a chwarter 4 o'r flwyddyn flaenorol (Ionawr i Fawrth 2019). Felly mae cyfansymiau Cymru hefyd yn cynnwys elfen o amcangyfrif.

Prif bwyntiau

  • Cofnodwyd  33,542 o achosion o dipio yng Nghymru. Mae’r ffigur hwn 4.4% yn is na’r flwyddyn flaenorol, a’r ffigur isaf ers 2014-15. (a)
  • Roedd y newid blynyddol yn nifer yr achosion ar lefel awdurdod lleol yn amrywio, gyda 8 yn cofnodi gostyngiad a 13 yn cofnodi cynnydd gyda 1 ddim yn newid.
  • Cafwyd y gostyngiad blynyddol uchaf yn Powys (60%) gyda gostyngiadau nodedig ym Merthyr Tydfil (36%), Conwy (33%), Sir Benfro (26%) ac Ynys Môn (24%).
  • Cafwyd y cynnyddion blynyddol mwyaf yng Gwynedd (95%), Sir Fôn (90%) a Sir Gaerfyrddin (16%). Mae’r cynnyddion yn rhannol oherwydd gwelliannau i’r broses o gofnodi achosion.
  • Roedd 72% o achosion yn ymwneud â gwastraff cartref (bag du neu wastraff arall y cartref)
  • Amcangyfrifir fod costau clirio tipio yng Nghymru tua £1.76 miliwn. (b)
  • Cymerwyd 23,359 o gamau gorfodi yng Nghymru; y nifer isaf ers 2012-13.
  •  O’r camau gorfodi a gymerwyd gan awdurdodau lleol, arweiniodd 91% at ddirwy.

(a) Yn dilyn eglurhad o ganllawiau ar dipio anghyfreithlon yn 2017, nid yw gwastraff ochr (gormod o wastraff a osodir wrth ymyl bin)  bellach yn cael eu cofnodi fel digwyddiadau tipio anghyfreithlon.
(b) Mae costau clirio amcangyfrifedig yn seiliedig ar nifer yr achosion wedi'u cofnodi yn ôl maint. Ni chofnodir y wybodaeth hon ar gyfer pob digwyddiad. Yn 2019-20, darparwyd gwybodaeth am faint yr achos tipio ar gyfer 94% o achosion.

Gwybodaeth gefndir

Mae'r ystadegau yn seiliedig ar wybodaeth a ddarperir gan awdurdodau lleol i’r gronfa ddata ‘Waste Data Flow’. Er y cofnodir rhai achosion, nid yw’r ystadegau yma yn cynnwys pob achos o dipio anghyfreithlon ar dir preifat, ac ni chofnodir pob digwydd tipio anghyfreithlon gydag awdurdod lleol.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.