Tacsis a cherbydau hurio preifat canllawiau trwyddedu: asesiad effaith integredig
Crynodeb o sut y bydd nifer o feysydd yn cael eu effeithio gan y polisi alinio tacsi.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Pa gamau gweithredu mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham?
Cefndir
Mae tacsis (a elwir hefyd yn gerbydau hacni) a cherbydau hurio preifat yn fath hanfodol o drafnidiaeth gyhoeddus. Maent yn ddull ymarferol o gludo pobl o ddrws i ddrws. Maent yn darparu gwasanaeth hanfodol i'r canlynol:
- pobl sy'n byw mewn cymunedau gwledig lle nad yw mathau eraill o drafnidiaeth gyhoeddus yn ddigonol
- pobl sy'n defnyddio economi'r nos
- teithwyr â phroblemau symudedd
Maent hefyd yn chwarae rôl bwysig wrth hwyluso cynhwysiant cymdeithasol.
Nid yw'r ddeddfwriaeth bresennol sy'n ymwneud â thacsis a cherbydau hurio preifat yn gyfredol mwyach, am fod y brif ddeddfwriaeth yn dyddio'n ôl i 1847 a 1976. Mae'r ddeddfwriaeth yn rhoi hyblygrwydd o ran cynnwys polisïau ac amodau trwyddedu. Mae hyn wedi cyfrannu at bolisïau, safonau ac amodau anghyson ledled Cymru a Lloegr.
Mae tua 5,000 o dacsis trwyddedig, 5,400 o gerbydau hurio preifat a 12,000 o yrwyr trwyddedig yng Nghymru.
Mae'n amlwg bod y diwydiant tacsis a cherbydau hurio preifat yn datblygu ac yn addasu'n gyflymach na'r ddeddfwriaeth sy'n ei reoli. Mae cyflwyno systemau archebu a fflagio drwy ddefnyddio apiau wedi'i gwneud yn gyflymach ac yn haws i gwsmeriaid hurio cerbydau. Mewn rhai ardaloedd, mae hyn wedi arwain at gynnydd yn nifer y cerbydau 'o'r tu allan i’r dref' ac wedi tynnu sylw at anghysondebau mewn safonau trwyddedu rhwng awdurdodau lleol yng Nghymru.
Ym mis Rhagfyr 2018, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y Papur Gwyn, ‘Gwella Trafnidiaeth Gyhoeddus’. Canolbwyntiodd yr ymgynghoriad ar bedwar cynnig, sef:
- Llunio Safonau Cenedlaethol er mwyn mynd i'r afael â'r amrywiad yn y safonau ar gyfer tacsis a cherbydau hurio preifat ledled Cymru
- Ymestyn pwerau gorfodi er mwyn galluogi swyddogion awdurdodau lleol i gymryd camau gorfodi yn erbyn unrhyw dacsi/cerbyd hurio preifat sy'n gweithredu yn eu hardal
- Sefydlu protocolau rhannu gwybodaeth effeithiol at ddibenion diogelu
- Y posibilrwydd o ailgyfeirio swyddogaethau trwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat i ffwrdd oddi wrth awdurdodau lleol tuag at Gyd-Awdurdod Trafnidiaeth
Dengys yr ymatebion i'r ymgynghoriad fod cefnogaeth gref i gynigion un i dri. Cynnig pedwar oedd yr un lleiaf poblogaidd gydag awdurdodau lleol a chynrychiolwyr y diwydiant tacsis/cerbydau hurio preifat. O'r 402 ymatebion i'r cynnig hwn, dim ond 17% a nododd eu bod o blaid ailgyfeirio swyddogaethau trwyddedu i Gyd-Awdurdod Trafnidiaeth.
Ym mis Gorffennaf 2019, gwnaeth Ken Skates AC, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, ddatganiad ysgrifenedig mewn ymateb i'r ymgynghoriad ar y Papur Gwyn. Derbyniodd fod cefnogaeth gyffredinol i gynigion 1-3, ond roedd yn cytuno bod teimladau cryf nad oedd y cynlluniau yn mynd yn ddigon pell i fynd i'r afael â'r heriau yr oedd y diwydiant a rheoleiddwyr yn eu hwynebu. O ganlyniad, nododd y Gweinidog y byddai'r cynigion ar gyfer tacsis a cherbydau hurio preifat yn cael eu datblygu ymhellach.
Derbyniwyd y gallai atebion sydyn liniaru rhai o'r problemau presennol. Y bwriad yw y gallai'r argymhellion polisi a geir yn y ‘Canllaw ar gysoni safonau trwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat yng Nghymru’ (y cyfeirir ato drwy'r ddogfen hon fel y ‘canllaw’) gael eu mabwysiadu gan awdurdodau lleol heb fod angen newid deddfwriaeth ac y byddent yn cynnig ffordd o wella cysondeb a safonau trwyddedu yng Nghymru.
Datblygwyd y canllaw gan gynrychiolwyr Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a chynrychiolwyr awdurdodau lleol o Banel Arbenigol Trwyddedu Cymru Gyfan.
Bwriedir i'r argymhellion a nodir yn Rhan 2 o'r canllaw wneud y canlynol:
- gwella diogelwch y cyhoedd
- sicrhau safonau trwyddedu mwy cyson ledled Cymru
- hwyluso gwaith gorfodi effeithiol
- gwella'r profiad
- gwella hygyrchedd i gwsmeriaid
Mae crynodeb o'r argymhellion yn cynnwys:
- amodau trwyddedu gyrrwr cerbyd hurio preifat safonol
- amodau trwyddedu gweithredwr hurio preifat safonol
- cod Ymddygiad Gyrwyr Cerbydau Hacni/Cerbydau Hurio Preifat, nid yw'r ddeddfwriaeth bresennol yn caniatáu i amodau gael eu gosod ar drwyddedau gyrwyr cerbydau hacni. Defnyddir y cod hwn i helpu awdurdodau lleol i benderfynu a yw gyrrwr yn ‘gymwys ac yn briodol’. Mae'n nodi safon y gwasanaeth a'r ymddygiad a ddisgwylir gan yrwyr trwyddedig.
- bydd pob awdurdod lleol yn gofyn i yrwyr gael gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (a fydd yn cynnwys gwirio'r rhestrau gwahardd) bob tair blynedd. Bydd hefyd yn ofynnol i yrwyr gofrestru â Gwasanaeth Diweddaru'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd er mwyn i wiriadau allu cael eu cynnal bob chwe mis.
- bydd yn ofynnol i ymgeiswyr/gyrwyr sydd wedi treulio mwy na chwe mis yn olynol dramor ers eu degfed pen-blwydd ddarparu gwiriad cofnodion troseddol neu, os na fydd gwiriad addas ar gael iddynt, dystysgrif o ymddygiad da gan bob gwlad.
- cyflwynir manyleb safonol ar gyfer systemau teledu cylch cyfyng (CCTV) i berchenogion sydd am osod system CCTV yn eu cerbydau yn wirfoddol.
- archwiliadau meddygol safonedig. Rhaid i'r archwiliad meddygol gael ei gynnal gan feddyg teulu'r ymgeisydd neu feddyg teulu sydd â mynediad at ei hanes meddygol llawn. Bydd pob awdurdod lleol yn gofyn am ffurflen safonol.
- os bydd tystiolaeth bod nifer mawr o gerbydau ‘o'r tu allan i'r dref’ yn gweithio mewn ardal, bydd yr awdurdodau lleol yn gweithio gydag awdurdodau cyfagos i awdurdodi swyddogion ar y cyd. Er enghraifft, Caiff swyddogion gorfodi yng Nghaerdydd eu hawdurdodi er mwyn iddynt allu cymryd unrhyw gamau gorfodi angenrheidiol yn erbyn cerbydau o Gasnewydd sy'n gweithio yng Nghaerdydd.
- bydd pob awdurdod lleol yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr am drwyddedau gyrrwr wylio'r fideo ar ddiogelu a ddatblygwyd gan Bowys. Caiff cwestiynau am y fideo eu hymgorffori mewn profion o wybodaeth leol. Hyfforddiant Diogelu - Cymru
- caiff cod gwisg i yrwyr ei fabwysiadu – nid yw'r cod yn rhy ragnodol ond mae'n gwahardd dillad brwnt, dillad wedi'u difrodi, fflip-fflops ac ati
- dull cyson o ymdrin â cheisiadau am eithriad meddygol o dan y Ddeddf Cydraddoldeb
Er mwyn rhoi'r argymhellion a geir yn y canllaw ar waith, byddai angen i awdurdod lleol ddiwygio ei ddatganiad polisi trwyddedu tacsis/cerbydau hurio preifat er mwyn mabwysiadu'r darpariaethau perthnasol. Dylid nodi bod polisïau awdurdodau lleol ar dacsis/cerbydau hurio preifat yn amrywio ledled y wlad ac, felly, y bydd maint yr effaith a gaiff unrhyw newidiadau i bolisïau awdurdodau lleol yn dibynnu ar yr amrywiadau presennol (rhwng y polisi presennol a'r canllaw) a demograffeg leol.
Efallai y bydd awdurdodau lleol yn dewis mabwysiadu pob un o'r argymhellion yn y canllaw neu rai ohonynt neu efallai y byddant yn dewis peidio â mabwysiadu'r un o'r argymhellion. Fodd bynnag, disgwylir i'r canllaw gael ei fabwysiadu'n gyson ledled Cymru er mwyn iddo gyflawni ei nodau.
Hirdymor
Mae Trwyddedu Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat wedi'i ddatganoli i Lywodraeth Cymru o dan Ddeddf Cymru 2017 ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu deddfwriaeth drwyddedu newydd.
Ystyrir bod y canllaw yn ateb sydyn i rai o'r problemau presennol sy'n gysylltiedig â deddfwriaeth trwyddedu tacsis/cerbydau hurio preifat, a fydd yn gwella cysondeb a safonau nes i reoliadau newydd gael eu cyflwyno.
Ym mis Gorffennaf 2020, cyhoeddodd yr Adran Drafnidiaeth Safonau Statudol Tacsis a Cherbydau Llogi Preifat (y ‘Safonau’), o dan Ddeddf Plismona a Throsedd 2017. Bydd y Safonau hyn yn gymwys yng Nghymru nes i Lywodraeth Cymru ddeddfu ar y materion a geir yn y Safonau.
Bydd mabwysiadu'r argymhellion yn y canllaw yn helpu awdurdodau lleol i gydymffurfio â'r Safonau. Os bydd awdurdodau lleol yn penderfynu peidio â rhoi'r argymhellion ar waith, bydd angen iddynt sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r Safonau o hyd.
O dan y Safonau, bydd yn ofynnol i awdurdodau lleol adolygu eu polisïau trwyddedu bob pum mlynedd, a chynnal adolygiadau interim pan fyddant o'r farn bod angen gwneud hynny. Bydd mabwysiadu'r argymhellion yn sbarduno adolygiad o bolisi trwyddedu'r awdurdodau lleol.
Ar hyn o bryd, mae polisïau trwyddedu ledled Cymru yn amrywio'n fawr o ran gofynion cyn trwyddedu ac amodau trwyddedu. Nod hirdymor Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod un set o safonau trwyddedu cenedlaethol yn cael ei defnyddio'n gyson ledled Cymru. Mae'r canllaw yn gam tuag at sicrhau dull gweithredu mwy cyson o fewn cyfyngiadau'r ddeddfwriaeth drwyddedu bresennol. Y nod hirdymor yw sicrhau safonau trwyddedu cenedlaethol cyson i yrwyr, cerbydau a gweithredwyr.
Atal
Canlyniad gwahanol bolisïau trwyddedu ledled Cymru yw bod safonau diogelwch y cyhoedd yn amrywio hefyd. Prif ddiben trwyddedu yw diogelu'r cyhoedd drwy sicrhau bod gyrwyr, cerbydau a gweithredwyr trwyddedig yn ddiogel ac yn addas.
Ym mis Mawrth 2016, cyhoeddodd y Swyddfa Gartref ei Strategaeth Atal Troseddu Fodern. Fel rhan o'r Strategaeth, mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i sicrhau nad oes unrhyw gyfleoedd i droseddwyr gam-drin plant yn rhywiol na chyflawni trais yn erbyn menywod a merched, drwy weithio gydag ardaloedd lleol i gyflwyno cyfundrefnau trylwyr ar gyfer trwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat.
Tynnodd adroddiadau Independent inquiry into child sexual exploitation in Rotherham (1997 - 2013) (adroddiad Jay) a The Casey Review: a review into opportunity and integration (adroddiad Casey) ar gamfanteisio'n rhywiol ar blant yn Rotherham sylw at enghreifftiau o yrwyr tacsi yn cael eu cysylltu â phlant a gafodd eu cam-drin, gan gynnwys achosion lle roedd plant yn cael eu casglu o ysgolion, cartrefi plant neu gartrefi teuluol ac yn cael eu cam-drin neu'n dioddef camfanteisio rhywiol yn gyfnewid am deithio am ddim mewn tacsis.
Nododd Adroddiad Casey yn glir fod trefniadau gwan ac aneffeithiol ar gyfer trwyddedu tacsis wedi rhoi'r cyhoedd mewn perygl. Mewn ymateb i'r adroddiadau ac er mwyn cyfrannu at Strategaeth Atal Troseddu Fodern y Swyddfa Gartref, cyhoeddodd yr Adran Drafnidiaeth ei safonau statudol i awdurdodau lleol ar gyfer trwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat.
Nododd Cynllun Gweithredu Cenedlaethol Llywodraeth Cymru, Atal ac Ymateb i Gam-drin Plant yn Rhywiol (Mehefin 2019), y gellid gwneud mwy ledled Cymru o ran sicrhau trefniadau cyson ar gyfer hyfforddiant diogelu i yrwyr tacsi.
Yn 2017, sefydlwyd Grŵp Gorchwyl a Gorffen, o dan gadeiryddiaeth annibynnol yr Athro Mohamed Abdel-Haq, a chyhoeddodd adroddiad yn 2018. Roedd yr adroddiad yn cynnwys nifer o argymhellion ar gyfer gwella diogelwch teithwyr, gan gynnwys yr angen i ddeddfu ar gyfer safonau gofynnol cenedlaethol ar gyfer trwyddedu tacsi/cerbydau hurio preifat ledled y wlad.
Am fod angen gwella safonau diogelwch a chysondeb gofynion trwyddedu, buom yn gweithio gyda chydweithwyr yn CLlLC a chynrychiolwyr o ranbarthau'r awdurdodau trwyddedu ledled Cymru er mwyn nodi meysydd lle y gellid safoni a gwella polisi trwyddedu tacsis/cerbydau hurio preifat heb gost ormodol i awdurdodau lleol na'r diwydiant tacsis a cherbydau hurio preifat. Byddai'r meysydd hyn yn rhan o'r canllaw. Ystyrir bod hwn yn fan cychwyn tuag at gyflawni'r nod hirdymor o gyflwyno safonau trwyddedu cenedlaethol drwy ddeddfwriaeth.
Roedd 99% o'r ymatebwyr i'r ymgynghoriad 'Gwella Trafnidiaeth Gyhoeddus', a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru, o blaid safonau cenedlaethol ac roedd y sylwadau o blaid y cynnig yn cynnwys y byddai'n gwella cysondeb ac yn diogelu'r cyhoedd.
Roedd un o'r problemau a nodwyd mewn ymateb i'r ymgynghoriad yn gysylltiedig â hurio ar draws ffiniau. Mae hurio ar draws ffiniau yn cyfeirio at yr arfer cyfreithiol lle mae tacsis a cherbydau hurio preifat yn gweithio'n aml mewn ardal heblaw'r awdurdod lleol lle y maent wedi'u trwyddedu. Mae hyn yn fwy cyffredin mewn ardaloedd lle mae galw mawr am gerbydau trwyddedig megis dinasoedd a threfi mawr. Tynnodd adroddiad a luniwyd gan Transport for London (TfL) ar hurio ar draws ffiniau sylw at broblemau a achosir gan yr arfer megis pryderon ynghylch diogelwch y cyhoedd, cynnydd yn nifer y cwynion, tanseilio gofynion trwyddedu lleol a phroblemau o ran gorfodi'r gyfraith. Roedd argymhellion yr adroddiad yn cynnwys:
- Cyflwyno gofyniad dechrau neu orffen, sy'n golygu bod pob taith mewn tacsi neu gerbyd hurio preifat naill ai'n dechrau neu'n gorffen yn yr ardal lle mae'r gyrrwr a'r cerbyd (a'r gweithredwr mewn perthynas â hurio preifat) wedi'u trwyddedu.
- Safonau gofynnol cenedlaethol wedi'u gosod ar lefel uchel, er mwyn sicrhau dull cyson o ymdrin â diogelwch cwsmeriaid a hygyrchedd.
- Pwerau gorfodi cenedlaethol, er mwyn i swyddogion gorfodi allu gorfodi'r safonau gofynnol cenedlaethol yn eu hardaloedd waeth ble mae'r gweithredwr, y gyrrwr a'r cerbyd wedi'u trwyddedu, wedi'u hategu gan ddarpariaeth ar gyfer rhannu data.
- Byddem hefyd yn argymell bod effaith y materion hyn yng Nghymru a'r Alban yn cael eu hystyried gan y priod Lywodraethau, er mwyn sicrhau na thanseilir unrhyw ofynion yn y dyfodol i fynd i'r afael â hurio ar draws ffiniau yn Lloegr.
Rhagwelir y bydd y dull mwy cyson o ymdrin â pholisïau trwyddedu a phrotocolau gorfodi ar draws ffiniau sydd wedi'u cynnwys yn y canllaw o ryw gymorth i leihau rhai o'r problemau sy'n gysylltiedig â gweithio ar draws ffiniau, fel yr argymhellir gan adroddiadau'r Adran Drafnidiaeth a'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen.
Integreiddio
Mae'r argymhellion yn y canllaw yn cefnogi Ffyniant i Bawb – y Strategaeth Genedlaethol: amcanion llesiant, a luniwyd gan Lywodraeth Cymru.
Thema |
Amcanion llesiant perthnasol |
Argymhellion yn y canllaw |
Ffyniannus a diogel Ein nod yw creu economi i Gymru sy'n lledaenu cyfleoedd ac yn mynd i'r afael ag anghydraddoldeb, gan sicrhau ffyniant unigol a chenedlaethol. Byddwn yn galluogi pobl i gyflawni eu huchelgeisiau a gwella eu llesiant drwy gyflogaeth ddiogel a chynaliadwy. Byddwn yn dileu'r rhwystrau y mae llawer yn eu hwynebu i gael swydd, a chreu'r amgylchedd cywir i fusnesau dyfu a ffynnu. |
Amcan 1: Cefnogi pobl a busnesau i ysgogi ffyniant Amcan 2: Mynd i'r afael ag anghydraddoldeb rhanbarthol a hyrwyddo gwaith teg |
Ar hyn o bryd, mae gan bob un o'r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru bolisi gwahanol ar drwyddedu tacsis/cerbydau hurio preifat. Bydd cysoni meysydd polisi drwy fabwysiadu'r canllaw yn sicrhau mwy o chwarae teg i'r diwydiant tacsis a cherbydau hurio preifat sy'n gweithredu yng Nghymru. Un o'r ffactorau sy'n achosi problem hurio ar draws ffiniau yw bod unigolion yn gwneud cais am drwydded i ardaloedd awdurdod lleol sydd â'r gofynion trwyddedu isaf ac yn gweithio rywle arall. Gallai gofynion mwy cyson leihau'r broblem hon.
|
Thema |
Amcanion llesiant perthnasol |
Argymhellion yn y canllaw |
Uchelgeisiol ac yn dysgu Ein nod yw annog pawb i ddysgu drwy gydol eu hoes, gan eu hysbrydoli â'r uchelgais i wireddu eu potensial. Mae angen i Gymru ffyniannus gael pobl greadigol, medrus a hyblyg, felly bydd ein haddysg o'r oedran cynharaf yn sail i ddysgu a chyflawni gydol oes |
Amcan 8: Meithrin uchelgais ac annog dysgu am oes Amcan 9: Grymuso pawb â'r sgiliau addas ar gyfer byd sy'n newid
|
Mae'r canllaw yn cynnwys cynigion ar gyfer hyfforddiant i ddarpar yrwyr trwyddedig ar faterion diogelu. Gall gyrwyr trwyddedig yn aml weithredu fel llygaid a chlustiau cymuned. Gall hyfforddiant fod yn bwysig er mwyn helpu gyrwyr trwyddedig i wybod pryd maent yn cludo teithwyr sy'n wynebu risg o gamdriniaeth a cham-fanteisio. Bydd yr hyfforddiant yn cynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth ymgeisydd o feysydd megis cam-fanteisio’n rhywiol ar blant, bod yn agored i niwed, masnachu mewn pobl a llinellau cyffuriau.
|
Thema |
Amcanion llesiant perthnasol |
Argymhellion yn y canllaw |
Unedig a chysylltiedig Ein nod yw creu cenedl lle mae pobl yn ymfalchïo yn eu cymunedau, yn eu hunaniaeth Gymreig a'r iaith Gymraeg, a'n lle yn y byd. Rydym yn meithrin y cysylltiadau hanfodol sy'n ei gwneud yn haws i bobl ddod ynghyd, i'r economi dyfu ac i ni ddod yn genedl hyderus sy'n gyfforddus â'i hun |
Amcan 11: Darparu seilwaith modern a chysylltiedig. Amcan 12: Hyrwyddo a diogelu lle Cymru yn y byd |
Nod y canllaw yw gwella diogelwch y cyhoedd drwy gyflwyno gweithdrefnau er mwyn sicrhau bod ymgeiswyr a deiliaid trwydded yn unigolion diogel ac addas e.e. gofynion y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, safonau meddygol, polisïau ar feini prawf cymhwysedd. At hynny, bwriedir i fesurau megis y cod ymddygiad i yrwyr a'r cod gwisg i yrwyr wneud y diwydiant yn fwy proffesiynol. Bydd hyn yn sicrhau bod tacsis a cherbydau hurio preifat yn parhau i fod yn ddull teithio diogel ac addas i'r cyhoedd yng Nghymru. |
At hynny, fel y nodwyd eisoes, mae'r canllaw hefyd yn adlewyrchu llawer o argymhellion Safonau'r Adran Drafnidiaeth ac yn cynnig geiriad polisi i awdurdodau lleol er mwyn iddynt sicrhau cydymffurfiaeth.
Cydweithredu a chynnwys
O dan y ddeddfwriaeth drwyddedu bresennol, mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am ddrafftio eu polisïau trwyddedu tacsis/cerbydau hurio preifat eu hunain.
Wrth ddrafftio'r canllaw, bu cynrychiolwyr o bob rhanbarth o Banel Arbenigol Trwyddedu Cymru Gyfan a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i nodi meysydd polisi y gellid eu gwella a'u mabwysiadu gyda dull gweithredu cyson.
Dosbarthwyd y canllaw hefyd i gynrychiolwyr pob un o'r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru drwy Banel Arbenigol Trwyddedu Cymru Gyfan.
Fel gyda phob newid polisi, bydd yn ofynnol i awdurdodau lleol gynnal eu hymgynghoriad eu hunain â rhanddeiliaid perthnasol cyn gwneud newidiadau polisi er mwyn adlewyrchu'r mesurau yn y canllaw.
Am fod gan bob awdurdodau lleol bolisi trwyddedu gwahanol ar hyn o bryd, bydd angen iddynt asesu a fydd unrhyw newidiadau a wneir yn unol â'r canllaw yn effeithio ar eu rhanddeiliaid perthnasol, gan gynnwys y diwydiant tacsis/cerbydau hurio preifat ac aelodau o'r gymuned ac, os felly, sut y byddant yn effeithio arnynt.
Effaith
Y bwriad yw y byddai mabwysiadu'r canllaw'n gyson ledled Cymru yn cyflawni'r canlyniadau canlynol:
- prif ddiben cyfundrefn drwyddedu yw diogelu'r cyhoedd. Ei nod yw sicrhau bod gyrwyr, gweithredwyr a cherbydau yn ddiogel ac yn addas i gludo'r cyhoedd. Bydd y mesurau arfaethedig yn gwella diogelwch y cyhoedd drwy fabwysiadu gofynion cyn trwyddedu, amodau trwyddedu ar gyfer gyrwyr a gweithredwyr a newidiadau mewn polisi. Mae mesurau i wella diogelwch y cyhoedd yn cynnwys y canlynol: y gofyniad i yrwyr gael hyfforddiant ar fod yn agored i niwed; ei gwneud yn orfodol i yrwyr ddefnyddio'r Gwasanaeth Diweddaru'r Gwasanaeth Diweddaru; manylebau cymeradwy ar gyfer systemau CCTV; sicrhau bod awdurdodau lleol yn defnyddio'r gronfa ddata gwrthod/dirymu genedlaethol; gwell amodau trwyddedu i yrwyr a gweithredwyr; gofynion meddygol safonedig ar gyfer gyrwyr.
- bydd mabwysiadu'r canllaw yn sicrhau dull mwy cyson o drwyddedu ledled Cymru. Bydd hyn yn ei gwneud yn decach i'r diwydiant tacsis/cerbydau hurio preifat a gallai fynd i'r afael â rhai o'r ffactorau sy'n achosi problem hurio ar draws ffiniau.
- efallai y bydd gweithgarwch gorfodi yn dod yn fwy effeithiol drwy fabwysiadu protocolau awdurdodi ar draws ffiniau a bydd amodau trwyddedu cyson yn gwneud prosesau gorfodi yn symlach.
- gallai'r canllaw gyfrannu at wella hygyrchedd drwy sicrhau mai dim ond gyrwyr ag eithriadau meddygol dilys a gall gael eu heithrio rhag cyflawni eu dyletswyddau i deithwyr anabl o dan Deddf Cydraddoldeb 2010. Hefyd, gallai amod newydd sy'n ei gwneud yn ofynnol i berchenogion cerbydau hygyrch i gadeiriau olwyn sicrhau bod gyrwyr yn gwybod sut i ddefnyddio rampiau a chlymu cadair olwyn yn ddiogel gyfrannu at leihau nifer yr achosion lle mae gyrwyr yn gwrthod cludo teithwyr mewn cadeiriau olwyn neu lle maent yn clymu cadair olwyn yn anghywir.
- gallai'r canllaw effeithio ar wasanaeth cwsmeriaid am ei fod yn argymell cod ymddygiad safonol i yrwyr trwyddedig a chod gwisg, a ddylai gyfrannu at wneud y diwydiant yn fwy proffesiynol. Bydd amodau trwyddedu hefyd yn mynd i'r afael â materion megis gweithdrefnau cwyno i gwsmeriaid a chadw cofnodion.
Nid yw'r canllaw yn rhoi pwerau newydd i awdurdodau lleol nac yn dweud wrthynt sut y dylent ysgrifennu nac adolygu eu datganiad polisïau trwyddedu. Mae'n darparu arferion gorau cyfunol a geiriad polisi a awgrymir er mwyn gwella diogelwch ac addasrwydd tacsis, cerbydau hurio preifat, gweithredwyr a gyrwyr, yn ogystal â chyfrannu at sicrhau cydymffurfiaeth â'r argymhellion yn Safonau'r Adran Drafnidiaeth. Drwy ddarparu geiriad polisi ac amodau trwyddedu safonol mae'n sicrhau dull mwy cyson o ymdrin â gofynion trwyddedu.
Bydd gwir effaith mabwysiadu'r holl fesurau yn y canllaw ym mhob maes yn dibynnu ar raddau'r newidiadau i bolisïau presennol a demograffeg y rhanddeiliaid perthnasol yn yr ardal honno. Felly, dylai awdurdodau lleol gynnal eu hasesiadau effaith eu hunain wrth gynnig unrhyw newidiadau i'w polisïau ar dacsis/cerbydau hurio preifat.
Dylai awdurdodau lleol ystyried y canllaw ond gallant ddewis peidio â mabwysiadu unrhyw argymhellion y credant y byddent yn cael effaith andwyol ar yr awdurdodau lleol neu randdeiliaid perthnasol, yn dibynnu ar amodau lleol. Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod cynifer ohonynt â phosibl yn mabwysiadu'r argymhellion er mwyn cyflawni nodau'r canllaw h.y. gwella safonau trwyddedu a chysondeb ledled Cymru.
Os bydd awdurdodau lleol yn penderfynu peidio â mabwysiadu'r argymhellion, byddwn yn gweithio gyda'r awdurdodau hynny i nodi'r rhesymau ac asesu effeithiau posibl.
Costau ac arbedion
Mae'n ofynnol i awdurdodau lleol gyhoeddi polisi trwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat wedi'i ddogfennu, y mae'n rhaid ei adolygu o bryd i'w gilydd. Er mwyn mabwysiadu'r canllaw, bydd angen i awdurdodau lleol gynnal adolygiad ffurfiol o'u Polisi.
O fewn terfynau statud (Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976), gall awdurdodau lleol adennill cost gwasanaethau gweinyddu a rhoi trwyddedau tacsis a cherbydau hurio preifat (gan gynnwys pennu polisi), drwy refeniw o ffioedd trwyddedu.
I ddechrau, mae'n bosibl y bydd costau gorfodi i awdurdodau lleol yn cynyddu wrth iddynt bennu'r lefel o gydymffurfiaeth â'r mesurau newydd. Fodd bynnag, yn y tymor hwy, mae'n bosibl y bydd dull trwyddedu mwy cyson ledled Cymru a safonau gwell yn sicrhau arbedion o ran costau gorfodi.
Fel y nodwyd eisoes, mae'r canllaw wedi cael ei lunio i fod yn gost-effeithiol cyn unrhyw newid deddfwriaethol yn y dyfodol. Mae pob mesur wedi'i ystyried yn unigol er mwyn sicrhau na fydd yn arwain at gost ormodol i'r awdurdod lleol na'r diwydiant tacsis a cherbydau hurio preifat.
Bydd goblygiadau cost mabwysiadu'r argymhellion yn y canllaw yn amrywio rhwng awdurdodau lleol yn dibynnu ar gynnwys eu polisïau presennol a'u prosesau gweinyddol. Dylai awdurdodau lleol asesu'r costau hyn wrth adolygu eu polisïau. Lle y bo angen, efallai y bydd angen newid ffioedd trwyddedu pan gânt eu hadolygu nesaf gan yr awdurdodau trwyddedu.
Mecanwaith
Nid oes unrhyw statws cyfreithiol i'r canllaw, ond mae'n cynnig ffordd i Lywodraeth Cymru, CLlLC ac awdurdodau lleol yng Nghymru wella safonau trwyddedu a chysondeb gofynion ledled Cymru mewn modd cydweithredol.
Mater i bob awdurdod lleol yw penderfynu a ddylai fabwysiadu'r argymhellion yn y canllaw.
Mae rheoliadau ynghylch tacsis yn fater datganoledig. Ystyrir bod y canllaw yn gam tuag at wella safonau trwyddedu a chysondeb cyn newid deddfwriaethol.
Casgliad
Sut mae'r bobl y mae'r cynnig yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt wedi cael eu cynnwys yn y gwaith o'i ddatblygu?
Datblygwyd canllaw gan gynrychiolwyr Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a chynrychiolwyr awdurdodau lleol o Banel Arbenigol Trwyddedu Cymru Gyfan.
Ym mis Rhagfyr 2018, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y Papur Gwyn, ‘Gwella Trafnidiaeth Gyhoeddus’. Roedd yr ymgynghoriad yn ceisio barn ar lunio safonau cenedlaethol ar gyfer trwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat ledled Cymru. Roedd yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn cynnwys cyflwyniadau gan y diwydiant tacsis a cherbydau hurio preifat, awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill megis Anabledd Cymru, y Comisiynydd Plant a Cŵn Tywys Cymru ac roedd yn dangos bod cefnogaeth gref i'r cynnig hwn gyda 99% o'r ymatebwyr o'i blaid.
Nod y canllaw yw bod yn gam tuag at sicrhau safonau cenedlaethol cyson heb newid deddfwriaethol ac, felly, ystyriwyd ymatebion yr ymgynghoriad blaenorol wrth ddrafftio'r canllaw.
Cynigir, pan gaiff gwaith pellach ei wneud i ddatblygu un set o safonau cenedlaethol (fel rhan o newid deddfwriaethol yn y dyfodol), y dylid ymgysylltu'n helaeth â phob rhanddeiliad perthnasol fel rhan o'r broses honno.
Bydd effaith lawn mabwysiadu'r argymhellion yn y canllaw yn wahanol y mhob ardal awdurdod lleol oherwydd y gwahaniaethau presennol mewn polisi trwyddedu. Er mwyn asesu'r effaith hon yn gywir, byddai angen i awdurdodau lleol gynnal eu hasesiadau effaith eu hunain.
Beth yw'r effeithiau cadarnhaol a negyddol mwyaf sylweddol?
Effeithiau mwyaf sylweddol mabwysiadu'r argymhellion yn y canllaw yw'r rhai ar awdurdodau lleol ac unigolion sydd eisoes yn dal trwydded tacsi a cherbyd hurio preifat. Bwriedir i'r argymhellion sicrhau gofynion trwyddedu mwy cyson ledled Cymru yn ogystal â gwella safonau diogelwch y cyhoedd. Dylai hyn, yn ei dro, sicrhau mwy o chwarae teg i'r diwydiant tacsis a cherbydau hurio preifat a gwelliannau mewn safonau a fydd yn cael eu profi gan ddefnyddwyr.
Gallai'r argymhellion hefyd gael effaith gadarnhaol ar bobl anabl sy'n teithio mewn tacsis/cerbydau hurio preifat, am eu bod yn cynnwys dull mwy cyson o ymdrin â thystysgrifau eithrio o dan y Ddeddf Cydraddoldeb a gwelliannau i amodau trwyddedu ar gyfer cerbydau sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn.
Mae'r canllaw yn cyfrannu at gyflawni nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, gyda ffocws ar greu Cymru sy'n fwy cyfartal, yn iachach ac yn gydnerth.
Yn dibynnu ar gynnwys polisïau trwyddedu presennol awdurdodau trwyddedu, efallai y bydd angen i awdurdodau lleol wneud newidiadau gweinyddol i'w prosesau, a allai arwain at newidiadau i ffioedd trwyddedu. Nid yw'n hysbys a fydd y cynigion yn sicrhau unrhyw arbedion effeithlonrwydd neu a fyddant yn arwain at gost ychwanegol i'r awdurdod lleol. Byddai angen i bob awdurdod lleol gynnal ei asesiad ei hun o effaith yr argymhellion, gan ei chymharu â'u polisi presennol.
Yng ngoleuni'r effeithiau a nodwyd, sut y bydd y cynnig:
- yn gwneud y cyfraniad mwyaf posibl at gyflawni ein hamcanion llesiant a'r saith nod llesiant; a/neu,
- yn osgoi, yn lleihau neu'n lliniaru unrhyw effeithiau negyddol?
Datblygwyd y canllaw gan gyfeirio at ofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, er mwyn sicrhau bod mesurau yn y canllawiau yn cyfrannu at y saith nod llesiant.
Byddai mabwysiadu'r argymhellion yn y canllaw yn yr awdurdodau lleol yng Nghymru yn cyflawni'r nodau canlynol:
- sicrhau dull trwyddedu mwy cyson ledled Cymru (a fydd yn decach i'r diwydiant tacsis/cerbydau hurio preifat)
- gwella diogelwch y cyhoedd
- gwella cysondeb gweithgarwch gorfodi
- gwella hygyrchedd i deithwyr anabl
- gwella gwasanaeth cwsmeriaid
Er mwyn sicrhau bod y nodau llesiant yn cael eu hyrwyddo cymaint â phosibl, dylai'r argymhellion yn y canllaw gael eu mabwysiadu'n gyson gan bob un o'r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru. Er mwyn sicrhau hyn, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n agos gyda CLlLC ac awdurdodau lleol er mwyn sicrhau bod mwy ohonynt yn rhoi'r mesurau hyn ar waith.
Sut y caiff effaith y cynnig ei monitro a'i gwerthuso wrth iddo ddatblygu a phan fydd wedi'i gwblhau?
Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gyfarfod yn rheolaidd â chynrychiolwyr CLlLC ac awdurdodau lleol i drafod mabwysiadu'r mesurau hyn.
Mae'r canllaw yn cynnwys nifer o argymhellion sy'n cael eu dyblygu yn Safonau Statudol Tacsis a Cherbydau Llogi Preifat, a gyhoeddwyd gan yr Adran Drafnidiaeth. Bydd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru yn ysgrifennu at Ysgrifennydd Gwladol y DU dros Drafnidiaeth, er mwyn ei hysbysu, am fod rheoleiddio tacsis wedi'i ddatganoli o dan Ddeddf Cymru 2017, y bydd Llywodraeth Cymru yn monitro cydymffurfiaeth â Safonau'r canllaw a Safonau'r Adran Drafnidiaeth er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth.
Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio'n uniongyrchol ag unrhyw awdurdodau lleol nad ydynt yn cydymffurfio â'r Safonau ac yn nodi unrhyw rwystrau i sicrhau bod yr argymhellion yn cael eu mabwysiadu'n llwyr.
A. Asesiad o'r effaith ar hawliau plant
Rhaid anfon yr holl Asesiadau o'r Effaith ar Hawliau Plant sydd wedi'u cwblhau i flwch post CRIA@llyw.cymru
Disgrifiwch ac esbonio effaith y cynnig ar blant a phobl ifanc.
Datblygwyd y 'Canllaw i gysoni trwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat yng Nghymru' ar y cyd â CLlLC ac awdurdodau lleol i roi ateb cyflym i rywfaint o'r problemau presennol gyda trwyddedu tacsis/PHV. Gall awdurdodau lleol fabwysiadu yr Argymhellion yn y Canllaw fel ffordd o wella cysondeb a safonau trwyddedu yng Nghymru.
Mae'r argymhellion a nodir yn Rhan 2 o'r canllaw wedi'u cynllunio i:
- wella diogelwch y cyhoedd i bob teithiwr
- darparu safonau trwyddedu mwy cyson ledled Cymru
- hwyluso gorfodi effeithiol
- gwella profiad teithwyr
- gwella hygyrchedd cwsmeriaid
Mae crynodeb o'r argymhellion yn cynnwys:
- amodau trwydded gyrrwr hurio preifat safonol
- amodau trwydded cwmni hurio preifat safonol
- Cod Ymddygiad Cerbydau Hacni/Gyrrwr Hurio Preifat – nid yw'r ddeddfwriaeth bresennol yn caniatáu i amodau gael eu cysylltu â thrwyddedau gyrrwr cerbyd hacni. Defnyddir y cod hwn i gynorthwyo awdurdodau lleol i benderfynu a yw gyrrwr yn 'addas a phriodol'. Mae'n nodi safon y gwasanaeth a'r ymddygiad a ddisgwylir gan yrwyr trwyddedig.
- bydd pob awdurdod lleol yn gofyn i yrwyr gael gwiriad DBS manylach (gan gynnwys gwiriad rhestr wahardd) bob 3 blynedd. Bydd hefyd yn ofynnol i yrwyr ymuno â Gwasanaeth Diweddaru'r DBS fel y gellir cynnal gwiriadau bob 6 mis.
- bydd yn ofynnol i ymgeiswyr/gyrwyr sydd wedi treulio mwy na 6 mis parhaus neu fwy dramor ers eu penblwydd yn ddeg oed ddarparu gwiriad cofnod troseddol neu yn absenoldeb gwiriad addas, tystysgrif ymddygiad da o bob gwlad.
- bydd manyleb teledu cylch cyfyng safonol yn cael ei chyflwyno ar gyfer perchnogion sy'n dymuno gosod teledu cylch cyfyng yn eu cerbydau yn wirfoddol
- gwiriadau meddygol safonol. Rhaid i feddyg teulu'r ymgeisydd neu feddyg teulu sy'n gallu cael mynediad i'w hanes meddygol llawn gynnal yr archwiliad meddygol. Bydd angen ffurflen safonol gan bob awdurdod lleol
- os oes tystiolaeth bod nifer fawr o gerbydau y tu allan i'r dref yn gweithredu mewn ardal, bydd yr awdurdodau lleol yn gweithio gydag awdurdodau cyfagos i awdurdodi swyddogion ar y cyd, e.e. bydd swyddog gorfodi Caerdydd yn cael ei awdurdodi fel y gall gymryd unrhyw gamau gorfodi angenrheidiol yn erbyn cerbydau Casnewydd sy'n gweithio yng Nghaerdydd.
- bydd pob awdurdod lleol yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr am drwyddedau gyrwyr wylio'r fideo diogelu a ddatblygwyd gan Bowys. Bydd cwestiynau ar y fideo yn cael eu cynnwys mewn profion gwybodaeth lleol: Hyfforddiant Diogelu - Cymru
- bydd cod gwisg gyrrwr yn cael ei ddefnyddio – nid yw'r cod yn rhy gyfarwyddol ond mae'n gwahardd dillad budr, wedi'u difrodi, fflip-fflops ac ati
- dull cyson o ymdrin â cheisiadau eithrio meddygol y Ddeddf Cydraddoldeb
Datblygwyd y canllaw gan roi sylw dyledus i Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP).
Amlygodd adroddiadau (Independent inquiry into child sexual exploitation in Rotherham (1997 - 2013) (adroddiad Jay) a The Casey Review: a review into opportunity and integration (adroddiad Casey)) achosion o gamfanteisio'n rhywiol ar blant yn Rotherham gan roi enghreifftiau o yrwyr tacsis yn cael eu cysylltu â phlant a gafodd eu cam-drin, gan gynnwys achosion pan gafodd plant eu casglu o ysgolion, cartrefi plant neu o gartrefi teuluol a'u cam-drin, neu eu hecsbloetio'n rhywiol yn gyfnewid am dacsis am ddim. Er mwyn mynd i'r afael â hyn, roedd Deddf Plismona a Throseddu 2017 yn galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth i gyhoeddi safonau statudol i awdurdodau lleol.
Ym mis Gorffennaf 2020 cyhoeddodd yr Adran Drafnidiaeth ei Safonau Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat Statudol, gyda'r nod o liniaru, cyn belled ag y bo'n ymarferol, y risg i blant ac oedolion sy'n agored i niwed wrth ddefnyddio tacsis a cherbydau hurio preifat. Bydd y Safonau'n gymwys yng Nghymru hyd nes y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno deddfwriaeth newydd sy'n ymdrin â'r materion hyn.
Adlewyrchir llawer o argymhellion safonau'r Adran Drafnidiaeth yn y canllaw, megis y gofynion ar gyfer cynnal gwiriadau cofnodion troseddol ar yrwyr bob 6 mis, a mabwysiadu canllawiau'r Sefydliad Trwyddedu ar bennu addasrwydd ymgeiswyr ar gyfer trwyddedau tacsi a hurio preifat.
Mewn ymateb i'r Papur Gwyn ar Wella Trafnidiaeth Gyhoeddus, tynnodd Comisiynydd Plant Cymru sylw at bwysigrwydd materion diogelu yn y diwygiadau i systemau trwyddedu tacsis, yn enwedig yng ngoleuni'r sgandalau cenedlaethol. Cydnabu CCfW nad yw pob awdurdod lleol yn ei gwneud yn ofynnol i yrwyr ymgymryd â hyfforddiant diogelu fel rhan o'u cais, ac y dylid cefnogi gyrwyr tacsis i ddeall yr amheuon a'r arwyddion o’r peryglon hyn y dylent gadw llygad amdanynt.
Aeth y canllaw i'r afael â'r pryderon hyn gan ei fod yn argymell bod pob awdurdod lleol yng Nghymru yn mabwysiadu hyfforddiant diogelu yn seiliedig ar y fideo a gynhyrchwyd gan awdurdodau lleol a chydweithwyr yn yr heddlu yn ardal Dyfed Powys: Hyfforddiant Diogelu - Cymru
Rhagwelir y dylai'r hyfforddiant hwn helpu gyrwyr trwyddedig i nodi ac adrodd pan fydd plant ac oedolion sy'n agored i niwed mewn perygl o gamfanteisio rhywiol, trais, llinellau cyffuriau a masnachu mewn pobl.
Mae ymateb CCfW hefyd yn cyfeirio at y cynigion i greu cronfa ddata diogelu. Mae Cofrestr Genedlaethol o Wrthod a Dirymiadau Trwyddedau Tacsis, a adwaenir fel cronfa ddata NR3 eisoes wedi'i chomisiynu gan y Gymdeithas Llywodraeth Leol a'i gweinyddu gan y Rhwydwaith Gwrth-dwyll Cenedlaethol (NAFN). Mae'r gronfa ddata yn wirfoddol ar hyn o bryd, ond argymhellir ei defnyddio yn y canllaw yn ogystal â safonau statudol yr Adran Drafnidiaeth. Byddai defnydd cyson o'r gronfa ddata ledled Cymru yn cynyddu diogelwch y cyhoedd, gan gynnwys plant a phobl ifanc, gan na fyddai ymgeiswyr/deiliaid trwydded anaddas sy'n cael eu gwrthod neu eu dirymu gan un awdurdod yn gallu cael trwydded mewn ardal awdurdod lleol arall heb i'r awdurdod hwnnw gael yr wybodaeth berthnasol honno am eu cefndir. Er enghraifft, heb ddefnyddio'r gronfa ddata ledled y wlad, gellid dirymu gyrrwr mewn un awdurdod lleol am ymddygiad amhriodol yn dilyn cwynion gan aelodau o'r cyhoedd, ond efallai y bydd gan yr unigolyn dystysgrif DBS lân o hyd. Heb wirio cronfa ddata NR3 gall awdurdod arall drwyddedu'r unigolyn hwnnw gan na fyddai ganddo'r wybodaeth berthnasol honno oni bai ei fod yn cael ei wirfoddoli gan yr ymgeisydd.
Eglurwch sut mae'r cynnig yn debygol o effeithio ar hawliau plant.
Bydd yr argymhellion yn y canllaw yn cyfrannu at yr Hawliau Plant canlynol:
Argymhellion o fewn y canllaw |
Hawliau plant o dan CCUHP |
Hyfforddiant diogelu ymgeiswyr sy'n gyrru – bydd hyn yn rhoi'r cymorth a'r wybodaeth angenrheidiol sydd eu hangen ar yrwyr i gydnabod ac adrodd am bryderon diogelu. Ar hyn o bryd, nid yw saith o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr am drwydded tacsi/PHV gael hyfforddiant diogelu. Taxis, private hire vehicles and their drivers (TAXI) Mae'r hyfforddiant arfaethedig yn cwmpasu meysydd fel trais, camfanteisio'n rhywiol ar blant, masnachu mewn pobl, llinellau cyffuriau, Atal Terfysgaeth. Yn yr hyfforddiant bydd unigolion yn dysgu beth yw diogelu, sut i adnabod pobl sy'n agored i niwed, sut i roi gwybod am bryderon a sut i amddiffyn eu hunain. cynorthwyo gyrwyr â thrwydded i gydnabod lle y gallai plant/pobl ifanc fod mewn perygl, a rhoi gwybodaeth iddynt am ba gamau y dylent eu cymryd mewn amgylchiadau o'r fath
|
Erthygl 3 – er budd y plentyn- Erthygl 11 - cipio a pheidio dychwelyd plant Erthygl 19 – amddiffyn rhag trais, camdriniaeth ac esgeulustod Erthygl 33- camddefnyddio cyffuriau Erthygl 34- camfanteisio rhywiol Erthygl 35 - cipio, gwerthu a masnachu mewn pobl |
Argymhellion o fewn y canllaw |
Hawliau plant o dan CCUHP |
Bydd amodau trwydded arfaethedig yn ei gwneud yn ofynnol i berchenogion cerbydau sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn ddangos i yrwyr sut i ddefnyddio rampiau mynediad a sicrhau bod cadeiriau olwyn wedi eu gosod yn ddiogel. Dylai hyn helpu gyrwyr i sicrhau eu bod yn gwybod sut i ddiwallu anghenion plant mewn cadeiriau olwyn. Dylai gweithdrefn safonedig ar gyfer eithriadau meddygol o dan y Ddeddf Cydraddoldeb 2010 sicrhau mai dim ond gyrwyr sydd â rhesymau dilys sydd wedi'u heithrio o'u dyletswyddau i deithwyr anabl o dan y Ddeddf. Bydd y weithdrefn yn sicrhau bod pob gyrrwr yn cyflawni ei ddyletswyddau o dan y Deddf cydraddoldeb (gan gynnwys i blant a phobl ifanc) oni bai bod ganddynt eithriad meddygol gwirioneddol |
Erthygl 23- plant anabl |
Argymhellion o fewn y canllaw |
Hawliau plant o dan CCUHP |
Dylai'r argymhellion canlynol gyfrannu at sicrhau na all ymgeiswyr sy'n peri risg i'r cyhoedd, gan gynnwys plant a phobl ifanc, gael trwydded:
|
Erthygl 3 – lles gorau'r plentyn Erthygl 19 – amddiffyn rhag trais, camdriniaeth ac esgeulustod |
Cyfyngiad y canllaw yw nad yw'n statudol gan nad oes gan Lywodraeth Cymru bwerau ar hyn o bryd i gyhoeddi canllawiau gorfodol mewn perthynas â swyddogaethau trwyddedu tacsis a Cherbydau Hurio Preifat. Fodd bynnag, bydd dal yn ofynnol i awdurdodau lleol roi sylw i'r Canllaw wrth ddiwygio eu polisïau trwyddedu. Gallai hyn arwain at wahaniaethau yn y gofynion polisi a drafodir yn y canllaw yn parhau mewn rhannau o Gymru. Fodd bynnag, rhoddir ystyriaeth bellach i'r effaith ar blant a phobl ifanc o dan unrhyw gynigion deddfwriaethol yn y dyfodol.
Fel y nodwyd eisoes, bydd graddau unrhyw effaith yn dibynnu ar gynnwys polisïau trwyddedu presennol ym mhob ardal awdurdod lleol a graddau'r newid sydd ei angen i weithredu'r argymhellion yn y canllaw. Dylai awdurdodau lleol gynnal eu hasesiadau effaith eu hunain wrth wneud diwygiadau i'w polisïau trwyddedu.
Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol i fonitro'r broses o fabwysiadu'r argymhellion yn y canllaw hyd nes y cyflwynir deddfwriaeth drwyddedu newydd. Bydd ymgynghori helaeth ac ystyried anghenion a safbwynt plant a phobl ifanc yn cael eu cynnwys mewn unrhyw gynigion deddfwriaethol.