RPW Ar-Lein: amodau a thelerau
Rhaid cytuno â'r amodau hyn i ddefnyddio RPW Ar-lein.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
1. Cyflwyniad
- Mae gwasanaethau Ar-lein Taliadau Gwledig Cymru (RPW) (y “gwasanaethau”) yn caniatáu i gwsmeriaid, asiantau, undebau ffermio a phartneriaid busnes eraill RPW neu adrannau eraill y Llywodraeth i gyflwyno ceisiadau am daliadau’r cynllun ar-lein. Gall cwsmeriaid edrych ar gofnodion ar-lein hefyd a rhyngweithio'n gyffredinol, rhannu gwybodaeth a chynnal busnes â RPW neu adrannau eraill y Llywodraeth. Gall gwasanaethau a nodweddion ychwanegol gael eu hychwanegu at y gwasanaethau yn y dyfodol.
- Gellir cael gafael ar y gwasanaethau drwy Borth y Llywodraeth neu GOV.UK One Login (y “wefan”).
- Mae'r telerau ac amodau hyn (“telerau”) yn nodi sut y byddwn yn darparu'r gwasanaethau i chi fel cwsmer. Drwy gofrestru i ddefnyddio'r gwasanaeth, rydych chi'n cytuno i gael eich rhwymo gan y telerau hyn ac, yn benodol, rydych chi'n cytuno ac yn derbyn yr eithriadau a'r cyfyngiadau atebolrwydd sydd wedi'u cynnwys yn y telerau hyn. Darllenwch y telerau hyn yn ofalus cyn defnyddio'r gwasanaethau ar-lein. Os nad ydych eisiau ymrwymo i'r telerau hyn, peidiwch â pharhau â'r broses.
- Noder bod pob unigolyn sy'n defnyddio'r gwasanaethau yn gorfod cydymffurfio â'r telerau hyn.
2. Diffiniadau
- Yn y telerau hyn:
- mae “manylion mynediad” yn cyfeirio at yr enw defnyddiwr a'r cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth neu GOV.UK One Login a gaiff eu creu a'u defnyddio gan bob un o unigolion parti busnes neu gan bob enw cyswllt sy'n gweithredu ar ran parti busnes
- mae “parti busnes” yn cyfeirio at fusnes neu sefydliad sydd wedi cofrestru i dderbyn y gwasanaethau mewn perthynas â gweinyddu dyfarniad grant y busnes neu'r sefydliad hwnnw a'r gweithgareddau yn ymwneud â'r dyfarniad grant hwnnw; a chaiff “partïon busnes” ei ddehongli yn unol â hynny
- mae “dyfarniad grant” yn cyfeirio at unrhyw hawliad / cais ar gyfer cymhorthdal ffermio neu daliad arall a gyflwynir [gan enw cyswllt] ar ran parti busnes drwy'r safle; a chaiff “dyfarniad grant” ei ddehongli yn unol â hynny
- mae “enw cyswllt” yn cyfeirio at unigolyn a awdurdodir gan barti busnes i gael gafael ar y gwasanaethau ac a fydd yn gweithredu ar ran y parti busnes hwnnw wrth gyflwyno dyfarniad grant / hawliadau a cheisiadau a gwybodaeth i RPW neu adrannau eraill y llywodraeth
- mae “cynnwys” yn cyfeirio at ddyluniad, testun, graffeg a deunydd arall ar y wefan
- mae “unigolion sy'n gysylltiedig â'ch parti busnes” yn cyfeirio at yr holl unigolion hynny (e.e. partneriaid, cyflogeion, ac ati) a nodir gan aelod busnes yn eich parti busnes fel aelodau o'ch parti busnes
- mae “aelod busnes” yn cyfeirio at unrhyw unigolyn yn eich parti busnes a nodir gan y parti busnes fel un sydd â rôl sy'n caniatáu iddo/iddi gael mynediad llawn at wasanaethau ar-lein RPW
- mae “deunyddiau” yn cyfeirio at ddeunyddiau a ddarperir gennym ni, gennych chi neu eich enwau cyswllt ac sydd ar gael fel rhan o'r gwasanaethau gan gynnwys, heb gyfyngiad, ffurflenni hawlio, dogfennau cofrestru a dogfennaeth ategol
- bydd “unigolyn” yn cynnwys cyrff corfforaethol, cymdeithasau anghorfforaethol, partneriaethau, ymddiriedolaethau, unigolion ac unrhyw gyfuniad o un neu fwy ohonynt
- mae “telerau ac amodau” yn cyfeirio at y telerau ac amodau sy'n berthnasol i bob defnyddiwr ac sy'n llywodraethu ei ddefnydd o'r wefan
- mae “defnyddiwr” neu “defnyddwyr” yn cyfeirio at ddefnyddwyr y wefan a'r gwasanaethau, yn unigol neu gyda'i gilydd
- mae “ni” a/neu “ein” yn cyfeirio at RPW yn gweithredu ar ran Gweinidogion Cymru (ynghyd â'n cyflogeion, ein hasiantau a'n contractwyr)
- mae “chi” yn cyfeirio atoch chi, y parti busnes neu'r unigolyn sy'n defnyddio'r safle ac sy'n cael gafael ar y gwasanaethau; a chaiff “eich” ei ddehongli yn unol â hynny
- mae “caniatâd” yn cyfeirio at lefelau mynediad RPW Ar-lein a roddir gan aelod busnes ar ran y parti busnes
3. Cofrestru
- Rhaid i chi gofrestru er mwyn cael gafael ar y gwasanaethau a'u defnyddio.
- Gallwch gofrestru i ddefnyddio'r gwasanaethau ar ran (gan gynnwys pan fyddwch yn gweithredu fel asiant ar ran) parti busnes neu sefydliad.
- Gallwch gofrestru i ddefnyddio'r gwasanaethau drwy wefan Porth y Llywodraeth neu GOV.UK One Login. Caiff eich manylion cofrestru, gan gynnwys eich enw a, lle y bo'n berthnasol, eich cyfeiriad e-bost, eu storio ar Borth y Llywodraeth a GOV.UK One Login yn unol â pholisi preifatrwydd Porth y Llywodraeth a GOV.UK One Login. Sylwer, unwaith y bydd cwsmeriaid wedi mudo i GOV.UK One Login, ni fydd Porth y Llywodraeth ar gael mwyach felly dim ond trwy GOV.UK One Login y bydd cyfrifon ar-lein cwsmeriaid ar gael. Caiff eich manylion mynediad eu defnyddio i gadarnhau pwy ydych ac i ddilysu gwybodaeth a ddarparwch. Ar ôl cofrestru, byddwch yn gallu mewngofnodi gan ddefnyddio eich manylion mynediad i gael gafael ar y gwasanaethau.
- Drwy gofrestru i ddefnyddio'r gwasanaethau, rydych yn cynrychioli ac yn gwarantu bod gennych yr hawl, yr awdurdod a'r gallu i ddefnyddio'r safle a'r gwasanaethau ac i gytuno i fod yn ymrwymedig i'r telerau hyn. Os byddwn yn darganfod nad oes gennych yr hawl, yr awdurdod a'r gallu i ddefnyddio'r wefan a'r gwasanaethau neu i fod yn ymrwymedig i'r telerau hyn, neu'n canfod unrhyw reswm dros gredu hynny, gallwn, yn ôl ein disgresiwn:
- atal neu derfynu eich cofrestriad a/neu eich gallu i gael gafael ar y Gwasanaethau ar unwaith a heb roi unrhyw rybudd i chi; ac
- atal neu derfynu cofrestriadau unrhyw rai o'ch Enwau Cyswllt a/neu eu gallu i gael gafael ar y Gwasanaethau ar unwaith a heb unrhyw rybudd; a/neu
- os yw eich enwau cyswllt chi yn enwau cyswllt ar gyfer partïon busnes eraill hefyd, canslo eu gallu i gael gafael ar y gwasanaethau mewn perthynas â'ch parti busnes yn unig
- Yn gyfnewid am gael cofrestru i ddefnyddio'r Gwasanaethau, rydych yn cytuno:
- i ddarparu gwybodaeth wir, gywir, gyfredol a chyflawn amdanoch chi eich hun a'ch Parti Busnes (neu, lle y bo'n berthnasol y Parti Busnes rydych yn gweithredu ar ei ran) pan fydd y ffurflen gofrestru berthnasol neu unrhyw ffurflen/llythyr arall y gallwn ofyn i chi eu cwblhau ar unrhyw adeg yn gofyn i chi wneud hynny; ac
- y byddwch yn ein hysbysu'n brydlon am unrhyw newid i unrhyw wybodaeth rydych wedi'i darparu i ni er mwyn sicrhau bod y wybodaeth yr ydym yn ei dal yn wir, yn gywir ac yn gyflawn
4. Diogelwch
- Rhaid i chi sicrhau eich bod chi (a lle y bo'n berthnasol, yr unigolion sy'n gysylltiedig â'ch parti busnes) yn cadw'r holl fanylion mynediad yn ddiogel a'ch bod yn cymryd pob cam rhesymol i'w diogelu.
- Rhaid i chi gymryd pob cam angenrheidiol i sicrhau na fydd unrhyw unigolyn heblaw'r unigolion sy'n gysylltiedig â'ch parti busnes ac sydd â'r awdurdod i gael gafael ar y gwasanaethau yn cael gafael arnynt (neu unrhyw ran ohonynt) gan ddefnyddio manylion mynediad yr unigolion hynny. Os byddwch yn amau bod unrhyw unigolyn arall wedi defnyddio neu yn defnyddio manylion mynediad o'r fath, rhaid i chi ein hysbysu ar unwaith.
- Rhaid i chi sicrhau mai dim ond yr unigolion hynny sy'n gymwys, yn addas ac yn meddu ar awdurdod i gael gafael ar y gwasanaethau a'u defnyddio mewn perthynas â'ch parti busnes a gaiff eu dewis gennych i weithredu fel enwau cyswllt. Dim ond i'r graddau sy'n ofynnol i gyflawni dibenion eich parti busnes y dylech benodi enwau cyswllt.
- Byddwch yn cymryd pob cam rhesymol i sicrhau nad fydd unrhyw unigolyn, heblaw'r rheini sydd wedi'u hawdurdodi yn unol â'r telerau hyn, yn cael gafael ar y gwasanaethau (neu unrhyw ran ohonynt) gan ddefnyddio cyfrifon a grëwyd ar eich rhan. Chi fydd yn gyfrifol am unrhyw achos o gamddefnyddio unrhyw fanylion mynediad sy'n ymwneud â'ch parti busnes a/neu unrhyw achos o dorri'r telerau ac amodau i ddefnyddiwr gan unrhyw un o'r unigolion sy'n gysylltiedig â'ch parti busnes a/neu asiantau (gan gynnwys eich enwau cyswllt ond heb fod yn gyfyngedig iddynt). Os byddwch yn amau bod unrhyw achos o'r fath o gamddefnyddio a/neu dorri'r telerau ac amodau wedi digwydd, neu yn digwydd, rhaid i chi ein hysbysu ni ar unwaith.
- Os ar unrhyw adeg y caiff eich awdurdod neu hawl i ddefnyddio'r gwasanaethau, gan gynnwys fel asiant ar gyfer parti busnes, neu ar ran, parti busnes ei derfynu, ei dynnu'n ôl neu ei atal gan y parti busnes perthnasol, rhaid i chi roi'r gorau i ddefnyddio'r gwasanaethau ar unwaith a dadgofrestru mewn perthynas â'r cyfrif perthnasol.
5. Eich rhwymedigaethau
- Byddwch yn gyfrifol am eich gweithredoedd a/neu weithredoedd yr unigolion sy'n gysylltiedig â'ch parti busnes a/neu asiantau (gan gynnwys, enwau cyswllt, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt). Caniateir i'r unigolion hynny sy'n gysylltiedig â'ch parti busnes a/neu asiantau sydd â manylion mynediad chwilio cynnwys y wefan, edrych arno, ei gopïo, ei argraffu a'i ddefnyddio a defnyddio'r gwasanaethau (gan gynnwys y deunyddiau) ar eich rhan. Rhaid i chi sicrhau bod unigolion o'r fath sy'n gysylltiedig â'ch parti busnes a/neu asiantau yn gwneud y canlynol:
- gweithredu'n llwyr yn unol â chylch gwaith eu rôl â'u caniatâd o fewn eich parti busnes, neu mewn perthynas â'ch parti busnes; a
- gweithredu o fewn eich awdurdod bob amser; a
- cydymffurfio â'r telerau ac amodau i ddefnyddiwr bob amser; a
- gweithredu yn unol ag unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan RPW neu adrannau eraill y llywodraeth o bryd i'w gilydd
- Rhaid i chi sicrhau nad ydych chi neu, os yw unigolion yn gweithredu ar eich rhan, yr unigolion hynny sy'n gysylltiedig â'ch parti busnes a/neu asiantau, yn caniatáu i unrhyw ran o'r gwasanaethau sy'n ymwneud â chi neu eich parti busnes, neu unrhyw ddefnyddiau, fod ar gael i unrhyw drydydd parti heblaw fel y caniateir o dan y telerau hyn.
- Rydym yn argymell mai dim ond enwau cyswllt dynodedig a gaiff eu hawdurdodi gennych i gyflwyno dyfarniadau grant ar eich rhan. Lle bo hyn yn gymwys, rydych yn gyfrifol am sicrhau bod yr unigolion hynny sy'n gysylltiedig â'ch parti busnes a/neu asiantau (gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt, eich enwau cyswllt) sydd wedi'u dynodi i gyflwyno dyfarniadau grant yn gweithredu o fewn eich awdurdod bob amser wrth gyflwyno dyfarniadau grant. Mae’n rhaid i chi:
- sicrhau bod pob dyfarniad grant a gwblheir ac a gyflwynir gan eich enwau cyswllt yn cael ei gwblhau a'i gyflwyno yn unol ag unrhyw ganllawiau ar ddyfarniadau grant / hawliadau a gyhoeddir gan RPW neu adrannau eraill y llywodraeth; a
- sicrhau bod eich enwau cyswllt yn arfer pob gofal, sgil a sylw priodol wrth gwblhau a chyflwyno unrhyw ddyfarniad grant, gan sicrhau cywirdeb y wybodaeth a ddarperir; a
- sicrhau bod eich enwau cyswllt yn cyflenwi unrhyw wybodaeth ychwanegol, dogfennaeth ategol a/neu eglurhad y gofynnir amdanynt gan RPW neu adrannau eraill y llywodraeth mewn perthynas â dyfarniad grant yn brydlon (neu, lle gofynnir amdani, sicrhau eich bod chi yn cyflenwi gwybodaeth ychwanegol, dogfennaeth ategol a/neu eglurhad o'r fath yn brydlon); a
cydymffurfio ag unrhyw ofynion archwilio sy'n ymwneud â'r dyfarniad
Rydych yn cydnabod mai chi fydd yn gyfrifol yn y pen draw am gynnwys a threfniadau gweinyddu unrhyw ddyfarniadau grant / hawliadau a gyflwynir ar eich rhan. Rydym yn cadw'r hawl i newid y wefan yn y dyfodol fel mai dim ond yr enwau cyswllt hynny a gaiff eu henwebu gennych chi yn ffurfiol (a, lle y bo'n berthnasol, a gymeradwyir gennym ni) y caniateir iddynt gyflwyno dyfarniadau grant / hawliadau ar eich rhan. Cewch eich hysbysu am unrhyw newid o'r fath yn unol â'r telerau hyn.
- Rhaid i chi sicrhau nad ydych chi na'r unigolion hynny sy'n gysylltiedig â'ch parti busnes a/neu asiantau, pan fydd unigolion yn gweithredu ar eich rhan, yn:
- newid unrhyw ran o'r cynnwys
- copïo, argraffu neu’n atgynhyrchu fel arall unrhyw ran o'r deunyddiau heblaw fel rhan o'ch defnydd awdurdodedig o'r gwasanaethau ac fel y caniateir gan y telerau hyn; neu
- aseinio neu gael gwared mewn ffordd arall ar rai neu bob un o'ch hawliau o dan y telerau hyn
- Rhaid i chi arfer pob gofal a sylw priodol wrth ddewis eich enwau cyswllt i weithredu ar eich rhan.
- Chi sy'n gyfrifol am sicrhau bod eich technoleg gwybodaeth, eich rhaglenni cyfrifiadurol a'ch llwyfan wedi'u ffurfweddu er mwyn gallu cael gafael ar y gwasanaethau. Er gwaethaf paragraff 6.1 (c) isod, dylech ddefnyddio eich meddalwedd eich hun i amddiffyn rhag feirysau.
- Ni ddylech:
- ddefnyddio'r wefan neu'r gwasanaethau fel ffordd o ddenu busnes na sefydlu cysylltiadau masnach
- hysbysebu na hyrwyddo eich cynnyrch neu'ch gwasanaethau eich hun na rhai trydydd parti ar y wefan; gan gynnwys drwy gyfrwng negeseuon e-bost “spam”
- dynwared defnyddiwr arall
- defnyddio'r wefan i gynnal unrhyw weithgarwch twyllodrus
- cael gafael ar gyfrifon sy'n perthyn i ddefnyddwyr neu geisio cael gafael arnynt (gan gynnwys partïon busnes eraill) heb ganiatâd pob defnyddiwr neu barti busnes o'r fath
- ymyrryd neu geisio ymyrryd ag unrhyw fesurau diogelwch sy'n eiddo i'r wefan neu sy'n ymwneud â'r wefan
- Rhaid sicrhau nad oes unrhyw ddeunyddiau a gaiff eu gosod, eu cyhoeddi neu eu trosglwyddo gennych chi, unigolion sy'n gysylltiedig â'ch parti busnes a/neu asiantau ar neu drwy'r safle yn:
- gallu bod yn fygythiol, yn anllad, yn niweidiol, yn ddifenwol, yn bornograffig neu'n anghyfreithlon fel arall; a/neu
- torri neu fynd yn groes i hawliau pobl eraill mewn unrhyw ffordd (gan gynnwys hawliau eiddo deallusol, hawliau cyfrinachedd neu hawliau preifatrwydd); a/neu
- achosi gofid neu anghyfleustra; a/neu
- mynegi safbwyntiau y gall eraill eu hystyried yn ddi-chwaeth, yn anweddus, yn rhywiaethol yn hiliol neu'n sarhaus mewn unrhyw ffordd arall; a/neu
- anghyfreithlon mewn unrhyw ffordd arall
- Byddwn yn cydweithredu'n llawn ag unrhyw awdurdodau gorfodi'r gyfraith neu orchymyn llys sy'n cyflwyno cais neu gyfarwyddyd i ni ddatgelu pwy sy'n defnyddio'r gwasanaethau a/neu unrhyw ddeunyddiau (gan gynnwys y deunyddiau) mewn unrhyw ffordd a nodir ym mharagraff 5.8 uchod.
- Nid ydym yn gyfrifol am unrhyw ddeunydd a gaiff ei ysgrifennu gan ddefnyddwyr (gan gynnwys partïon busnes eraill) ac a gaiff ei osod ar y wefan neu ei drosglwyddo drwy'r wefan ac nid ydym yn cymeradwyo unrhyw ddeunydd o'r fath. Rydym ni'n cadw'r hawl i olygu unrhyw ddeunydd o'r fath, i wrthod ei osod neu i'w dynnu oddi ar ein gwefan yn ôl ein disgresiwn llwyr. Ni fydd methiant gennym ni i dynnu deunydd penodol yn golygu ein bod yn ei gymeradwyo nac yn ei dderbyn.
- Rhaid i chi sicrhau (a byddwn yn cymryd yn ganiataol) bod yr holl ddeunyddiau neu wybodaeth a gaiff ei lanlwytho gennych chi (neu ar eich rhan) i'r wefan fel rhan o'r gwasanaethau yn wir, yn gywir ac yn gynhwysfawr, a'u bod wedi'u cwblhau gan ddefnyddio pob sgil a gofal rhesymol a'u bod yn gyfredol ym mhob ffordd ar bob adeg. Chi sy'n gyfrifol am bob deunydd neu wybodaeth o'r fath. Rhaid i chi sicrhau mai dim ond unigolion â'r awdurdod priodol gennych chi i wneud hynny fydd yn cyflwyno unrhyw ddeunyddiau neu wybodaeth o'r fath.
- Caiff unrhyw ddeunyddiau a lanlwythir i'r wefan fel rhan o'r gwasanaethau ei storio yn eich cronfa ar-lein. Chi sy'n gyfrifol am adolygu unrhyw ddeunydd o'r fath ac am ein hysbysu am unrhyw anghywirdebau neu hepgoriadau. Bydd cywiro unrhyw anghywirdeb neu hepgoriad mewn perthynas â hawliadau unigol yn ddarostyngedig i reolau penodol y cynllun ar gyfer yr hawliadau unigol hynny. Ni fyddwn yn atebol am unrhyw anghywirdebau na hepgoriadau na chawsom ein hysbysu amdanynt o fewn cyfnod gofynnol y cynllun penodol.
6. Ein rhwymedigaethau
- Byddwn yn arfer pob gofal ac ymdrech rhesymol wrth:
- lunio a gosod cynnwys ar y wefan
- sicrhau bod y wefan ar gael
- ceisio sicrhau nad oes unrhyw feirysau ar unrhyw feddalwedd na ffeiliau data a ddarperir i chi fel rhan o'r gwasanaethau
- ceisio sicrhau bod y gwasanaethau yn barhaus a bod cyn lleied â phosibl o achosion o darfu ar fynediad i'r wefan yn sgil unrhyw ddigwyddiad y gallwn ei reoli; a
diogelu unrhyw ddata personol a gyflenwir gennych chi, unigolion sy'n gysylltiedig â'ch parti busnes neu asiantau
Fodd bynnag, nid ydym yn gwarantu nac yn rhoi unrhyw warantau mewn perthynas ag unrhyw un o'r uchod.
- Byddwn yn ceisio cyflawni gwaith cynnal a chadw dyddiol ar y wefan gan gynnwys diweddaru'r gwasanaethau. Noder na fydd y gwasanaethau ar gael yn ystod y cyfnodau hyn. Bydd y gwasanaethau ar gael ac yn hygyrch i ddefnyddwyr rhwng 07:00 a 00:00. Nid ydym yn gwarantu y bydd y gwasanaethau ar gael y tu allan i'r oriau hyn. Byddwn yn gwneud ymdrechion rhesymol i'ch hysbysu am unrhyw waith wedi'i gynllunio a all effeithio ar argaeledd y gwasanaethau o fewn yr oriau gweithredol a nodir uchod.
- Byddwn yn gwneud ymdrechion rhesymol i sicrhau y caiff unrhyw wybodaeth, data a/neu ddeunyddiau a gyflwynir gennych chi, a lle mae unigolion yn gweithredu ar eich rhan, yr unigolion hynny, i'r wefan neu fel rhan o'r gwasanaethau eu cadw'n ddiogel ac y gwneir copïau wrth gefn priodol. Os caiff unrhyw wybodaeth, data a/neu ddeunyddiau o'r fath eu colli neu eu difrodi, yr unig gam unioni fydd y ffaith y byddwn yn gwneud ein gorau i adfer y wybodaeth, data a/neu ddeunyddiau a gollwyd neu a ddifrodwyd gan ddefnyddio'r copïau wrth gefn diweddaraf o wybodaeth, data a/neu ddeunyddiau o'r fath. Ni fyddwn yn gyfrifol am unrhyw achos o golli, dinistrio, newid neu ddatgelu eich gwybodaeth, data a/neu ddeunyddiau a achosir gan unrhyw drydydd parti (heblaw'r trydydd partïon hynny a gaiff eu his-gontractio gennym ni i ddarparu gwasanaethau sy'n gysylltiedig â chynnal eich gwybodaeth, data a/neu ddeunyddiau a gwneud copïau ohonynt.
7. Perchnogaeth a defnyddio hawliau perchnogol
- Bydd pob hawlfraint, nod masnach, hawliau cronfa ddata a phob hawl eiddo deallusol arall yn y cynnwys (yn cynnwys, heb gyfyngiad, dyluniad, detholiad a threfniant y wefan a phob logo, testun a graffeg ar y wefan) a'r deunyddiau yn eiddo i ni neu ein trwyddedwyr bob amser. Dim ond fel yr awdurdodir yn benodol yn y telerau hyn y caniateir i chi ddefnyddio'r cynnwys a'r deunyddiau ac ni ddylech eu defnyddio at unrhyw ddiben heblaw mewn perthynas â'ch defnydd awdurdodedig o'r gwasanaethau. Os byddwch yn dod yn ymwybodol o unrhyw ddefnydd anawdurdodedig o'r cynnwys neu'r gwasanaethau, rydych yn cytuno i'n hysbysu ar unwaith.
- Gweinidogion Cymru sy'n berchen ar yr hawliau i bob enw a logo ar gyfer “RPW”, “Taliadau Gwledig Cymru”, “Taliadau Gwledig Cymru Ar-lein” a “Llywodraeth Cymru”. Dim ond yn unol ag unrhyw delerau cymwys o ran hawliadau neu fel y byddwn yn caniatáu fel arall y gallwch ddefnyddio'r enwau a'r logos hyn.
- Mae'r cynnwys a'r deunyddiau yn ddarostyngedig i ddiogelwch hawlfraint y Goron. Gellir eu hatgynhyrchu am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng ar yr amod y cânt eu hatgynhyrchu’n gywir ac na chânt eu defnyddio mewn cyd-destun camarweiniol. Pan gaiff y cynnwys neu'r deunyddiau eu hailgyhoeddi neu eu copïo i eraill, bydd yn rhaid nodi ffynhonnell y deunyddiau hyn a chydnabod statws yr hawlfraint. Nid yw'r hawl i atgynhyrchu deunydd a ddiogelir gan y Goron yn ymestyn i unrhyw ddeunydd ar y wefan hon y nodir bod ei hawlfraint yn perthyn i drydydd parti a rhaid cael caniatâd i atgynhyrchu deunydd o'r fath gan y deiliaid hawlfraint dan sylw.
- Yn amodol ar ddarpariaethau paragraff 14, rydych drwy hyn yn rhoi caniatâd byd-eang, di-freindal, bythol-barhaus, di-alw'n ôl i ni, ein trwyddedeion a'n haseineion i gopïo, cyhoeddi copïau, cyfleu i'r cyhoedd, rhyddhau i'r cyhoedd a defnyddio unrhyw ddeunydd rydych yn ei drosglwyddo, lanlwytho neu ei osod ar y Wefan na chaiff ei drosglwyddo, lanlwytho na'i osod yn amodol ar unrhyw rwymedigaeth o ymddiriedaeth.
8. Eich gwarantau
- Rydych yn gwarantu'r canlynol:
- bod gennych yr hawl, yr awdurdod a'r gallu angenrheidiol i ddefnyddio'r wefan a'r gwasanaethau (gan gynnwys, lle y bo'n berthnasol, yr awdurdod i gyflwyno hawliadau neu unrhyw ffurflenni eraill) ac i ymrwymo i'r telerau hyn; a
- bod yr holl wybodaeth a'r manylion a ddarperir gennych chi i ni (gan gynnwys, lle y bo'n berthnasol, y wybodaeth a geir mewn unrhyw hawliadau neu mewn unrhyw ffurflenni eraill a gyflwynir gennych chi) yn wir, yn gywir ac yn gyfredol ymhob agwedd ac ar bob adeg; ac
- y byddwch yn sicrhau bod yr holl ddata a gwybodaeth a gyflwynir ar eich rhan yn cael eu cyflwyno gan yr unigolion hynny sy'n gysylltiedig â'ch parti busnes neu asiantau sy'n meddu ar yr awdurdod priodol i wneud cyflwyniad o'r fath ac yn unol ag unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan RPW neu adrannau eraill y llywodraeth o bryd i'w gilydd; ac
- y byddwch yn cydymffurfio â'r telerau hyn gan gynnwys, heb gyfyngiad, eich rhwymedigaethau a nodir ym mharagraff 5 uchod
9. Ymwadiad cyffredinol a chyfyngiadau ar atebolrwydd
- Rydych yn deall yn benodol mai eich cyfrifoldeb chi yw'r defnydd o'r cynnwys, y gwasanaethau a'r deunyddiau ac yn cytuno â hynny. Rydym yn darparu'r wefan ar sail “fel y mae” ac “fel sydd ar gael” ac nid ydym yn gwneud unrhyw sylwadau na gwarantau o unrhyw fath o ran y cynnwys, y deunyddiau na'r gwasanaethau gan gynnwys, heb gyfyngiad o ran cywirdeb, amseru, dibynadwyedd, cyflawnder neu addasrwydd at unrhyw ddiben o ran gwybodaeth neu ddatganiadau a geir ynddynt, neu ddatganiadau, cyngor a safbwyntiau a roddir gan ddefnyddwyr (gan gynnwys partïon busnes) ar y wefan. Gallai'r cynnwys a'r deunyddiau gynnwys anghywirdebau technegol neu wallau teipograffyddol.
- Nid ydym yn gwneud unrhyw warantau o unrhyw fath o ran y gwasanaethau, boed hynny'n benodol neu'n ymhlyg, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, warantau ymhlyg o ran ansawdd boddhaol, addasrwydd at ddiben penodol a pheidio â thorri hawliau. Yn arbennig, nid ydym yn gwarantu nac yn honni'r canlynol:
- y bydd y canlyniadau y gellir eu cael o ganlyniad i ddefnyddio'r gwasanaethau yn gywir nac yn ddibynadwy; neu
- y bydd ansawdd unrhyw gynhyrchion, gwasanaethau, gwybodaeth neu ddeunyddiau eraill (gan gynnwys y deunyddiau) a gewch drwy'r gwasanaethau yn bodloni eich disgwyliadau
- Bydd unrhyw gynnwys a gaiff ei lawrlwytho neu a geir fel arall drwy ddefnyddio'r gwasanaethau yn ôl eich disgresiwn a'ch risg chi eich hun ac rydych yn deall ac yn cytuno mai chi fydd yn llwyr gyfrifol am unrhyw ddifrod i'ch system gyfrifiadurol neu am unrhyw ddata a gaiff ei golli o ganlyniad i lawrlwytho unrhyw gynnwys o'r fath.
- Rydym yn eithrio i'r graddau mwyaf a ganiateir yn ôl y gyfraith unrhyw atebolrwydd a phob atebolrwydd ni waeth sut y bydd yn codi o ran unrhyw ddeunydd a gaiff ei osod, ei gyhoeddi neu ei drosglwyddo gan ddefnyddwyr (gan gynnwys partïon busnes eraill) y wefan. Nid ydym yn gwneud unrhyw sylwadau o ran y wybodaeth a gaiff ei gosod ar y wefan (boed hynny o ran ei chywirdeb, ei digonolrwydd, ei chyflawnder neu fel arall) ac rydych yn gyfrifol am ofyn am gyngor annibynnol eich hun cyn gweithredu gan ddibynnu arni a hefyd am unrhyw ddefnydd a wnewch ohoni. Ni fyddwn yn atebol am unrhyw benderfyniad a wneir neu unrhyw gam a gymerir gan ddefnyddiwr neu barti busnes (gan gynnwys, heb gyfyngiad, unrhyw drefniant cytundebol neu drefniant arall y byddwch yn ymrwymo iddo gydag unrhyw drydydd parti neu unrhyw weithgarwch all-lein y byddwch yn cymryd rhan ynddo o ganlyniad i ddefnyddio'r wefan) mewn perthynas â'ch defnydd o'r wefan, ac rydych drwy hyn yn cydnabod mai yn ôl eich disgresiwn a'ch risg chi eich hun yn unig y byddwch yn defnyddio'r wefan.
- Nid ydym yn derbyn atebolrwydd am unrhyw gyfathrebu nac unrhyw ddefnydd arall o'r wefan gan unigolion o dan ddeunaw (18) oed, neu nad oes ganddynt yr hawl, yr awdurdod neu'r gallu angenrheidiol i ddefnyddio'r wefan neu i fod yn ymrwymedig i'r telerau hyn, sy'n torri'r telerau hyn, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, unrhyw wybodaeth a gaiff ei lanlwytho i'r wefan gan unigolion sy'n gysylltiedig â'ch parti busnes a/neu asiantau heb eich awdurdod.
- Ni fyddwn ni nac unrhyw rai o'n cyflogeion, asiantau neu gynrychiolwyr eraill yn atebol, boed hynny drwy gontract, camwedd, esgeulustra neu fel arall, am unrhyw golled neu ddifrod o unrhyw fath, boed hynny'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol sy'n deillio o'ch defnydd o'r wefan neu mewn perthynas â'ch defnydd o'r wefan. Mae hyn yn gyfyngiad cynhwysfawr ar atebolrwydd sy'n berthnasol i bob difrod o unrhyw fath gan gynnwys, heb gyfyngiad, difrod i feddalwedd neu galedwedd, colli busnes, colli elw, colli data, incwm neu elw, iawndal digolledu, uniongyrchol, anuniongyrchol neu ganlyniadol, colli eiddo neu ddifrod i eiddo a hawliadau gan drydydd partïon.
- Ni fwriedir i unrhyw rai o'r eithriadau a'r cyfyngiadau yn y telerau hyn gyfyngu ar unrhyw hawliau statudol nas eithrir, nac i eithrio na chyfyngu ar ein hatebolrwydd i chi mewn unrhyw ffordd am gamgynrychiolaeth dwyllodrus neu farwolaeth neu anaf personol yn deillio o'n hesgeulustod neu esgeulustod ein cyflogeion neu'n hasiantau.
- Caiff pob un o'r eithriadau a/neu gyfyngiadau ar atebolrwydd uchod eu diffinio fel darpariaeth unigol ac ar wahân o'r telerau hyn.
- Nid yw rhai awdurdodaethau’n caniatáu i rai gwarantau penodol gael eu heithrio neu i atebolrwydd gael ei gyfyngu neu ei eithrio ar gyfer difrod damweiniol neu ganlyniadol. Felly, mae'n bosibl na fydd rhai o'r cyfyngiadau a'r eithriadau yn y telerau hyn yn berthnasol i chi.
10. Indemniad
- Rydych yn cytuno i indemnio a'n cael yn ddi-fai mewn perthynas ag unrhyw hawliad neu iawndal (gan gynnwys ffioedd cyfreithiol mewn perthynas ag unrhyw achos o'r fath) a wneir gan drydydd parti mewn perthynas ag unrhyw fater sy'n ymwneud â'ch defnydd, neu'n deillio o'ch defnydd o'r wefan a/neu'r gwasanaethau a/neu eich statws fel parti busnes neu ddefnyddiwr y wefan neu sy'n deillio o unrhyw achos neu achos a amheuir o fynd yn groes i'r telerau hyn gennych chi neu unrhyw achos lle byddwch yn torri unrhyw gyfraith neu hawliau unrhyw drydydd parti.
11. Defnyddio, addasu, atal a therfynu'r gwasanaethau
- Gallwch ganslo eich cofrestriad unrhyw bryd drwy ddilyn y cyfarwyddiadau a ddarperir ar y wefan.
- Rydym yn cadw'r hawl ar unrhyw adeg ac o bryd i'w gilydd yn ôl ein disgresiwn llwyr a chyda rhybudd neu heb rybudd i wneud y canlynol:
- gwrthod mynediad i'r wefan neu unrhyw ran ohoni i ddefnyddwyr a gwrthod darparu'r gwasanaethau i unrhyw ddefnyddiwr sy'n torri'r telerau hyn; a/neu
- addasu'r gwasanaethau (neu unrhyw ran ohonynt), neu eich defnydd o'r gwasanaethau, neu roi'r gorau iddynt, dros dro neu'n barhaol. Rydych yn cytuno na fyddwn yn atebol i chi nac i unrhyw drydydd parti am unrhyw achos o’r fath o addasu, atal neu roi'r gorau i'r gwasanaethau; a/neu
- diddymu eich cofrestriad a/neu dynnu eich hawl i ddefnyddio'r gwasanaethau a/neu ddeunyddiau (neu unrhyw ran ohonynt) yn ôl. Rydych yn cytuno na fyddwn yn atebol i chi nac i unrhyw drydydd parti am unrhyw achos o'r fath o ddiddymu neu dynnu hawl yn ôl
- Mae ein hawliau o dan y paragraff 11 hwn yn ychwanegol at ein holl hawliau a rhwymedïau eraill o dan y telerau hyn a heb ymrwymiad iddynt neu fel arall.
- Rydym yn cadw'r hawl ar unrhyw adeg heb rybudd i ddiwygio, addasu, newid neu ddiweddaru'r wefan, y cynnwys, y deunyddiau, y gwasanaethau a/neu'r telerau hyn ac rydych yn cytuno i addasiadau, newidiadau neu ddiweddariadau o'r fath a gaiff eu gosod ar y wefan. Drwy barhau i ddefnyddio'r Wefan ar ôl i unrhyw addasiadau, newidiadau neu ddiweddariadau o'r fath gael eu gosod arni, byddwch yn dangos eich bod yn cytuno i ymrwymo i'r diwygiadau hynny. Rydych yn gyfrifol am edrych ar y Telerau hyn a'r Wefan yn rheolaidd er mwyn gweld unrhyw addasiadau, newidiadau neu ddiweddariadau.
12. Defnyddio a storio
- Rydych yn cytuno nad oes unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd gennym o ran achosion o ddileu neu fethu â storio unrhyw negeseuon a chyfathrebiadau eraill a gynhelir neu a drosglwyddir fel rhan o'r gwasanaethau. Rydych yn cydnabod hefyd ein bod yn cadw'r hawl i newid yr arferion cyffredinol hyn yn ôl ein disgresiwn llwyr gyda rhybudd neu heb rybudd.
13. Dolenni trydydd parti
- Bydd integreiddio â Cyswllt Ffermio, ac yn y dyfodol, sefydliadau eraill sy'n gysylltiedig â'r Gwasanaethau yn caniatáu mynediad i bartïon busnes a bydd yn golygu y gellir cyfnewid gwybodaeth i gefnogi gweinyddu’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn effeithlon. Noder bod y gwasanaeth Cyswllt Ffermio yn ddarostyngedig i'w delerau a'i amodau defnyddio ei hun.
- Mae'n bosibl y byddwn yn darparu dolenni o'r wefan i wefannau trydydd parti o bryd i’w gilydd. Ni fyddwn yn atebol mewn unrhyw ffordd o gwbl ac nid ydym yn gwneud unrhyw sylwadau, gwarantau, argymhellion na chymeradwyaeth mewn perthynas ag argaeledd unrhyw wefan trydydd parti o'r fath nac unrhyw gynnwys, hysbysebion, cynhyrchion neu wasanaethau ar wefannau o'r fath neu sydd ar gael o wefannau o'r fath.
- Drwy gynnig y dolenni y cyfeirir atynt uchod i chi, nid ydym yn cymeradwyo unrhyw beth a gynhwysir ar wefannau o'r fath mewn ffordd ymhlyg nac yn benodol nac yn cadarnhau unrhyw gysylltiad â gweithredwyr gwefannau o'r fath. Yn benodol, nid ydym yn atebol am unrhyw ddeunydd anghywir, tramgwyddus, difenwol neu anllad sy'n ymddangos ar y gwefannau trydydd parti hyn.
14. Polisi preifatrwydd
- Mae'r telerau hyn yn cyfeirio at ein polisi preifatrwydd sy'n gymwys i'ch defnydd o'r wefan hefyd. Gellir adolygu'r polisi pan fyddwch yn mewngofnodi i RPW Ar-lein.
- Mae'r polisi preifatrwydd yn nodi sut rydym yn ymdrin â’ch gwybodaeth bersonol ac yn rhoi manylion am eich hawliau mewn perthynas â'r data a gasglwn amdanoch. Os ydych yn defnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i’r prosesu hwnnw ac yn addo bod yr holl ddata a ddarperir gennych yn gywir.
15. Hysbysiad cwcis
- Mae ein hysbysiad cwcis yn nodi sut rydym yn trin eich gwybodaeth bersonol ac yn rhoi manylion am eich hawliau mewn perthynas â'r data a gasglwn amdanoch. Gellir adolygu'r hysbysiad pan fyddwch yn mewngofnodi i RPW Ar-lein.
16. Rhyddid Gwybodaeth
- Rydym yn ddarostyngedig i'r cyfreithiau sy'n llywodraethu hawl pobl i weld gwybodaeth fel y nodir yn Neddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol arall syn ymwneud â hawl pobl i weld gwybodaeth. Er ei bod yn bosibl y gellid datgelu'r holl wybodaeth a ddarperir gennych, ceir rhai eithriadau i ddatgelu a lle byddwn yn ystyried bod hynny'n bosibl, byddwn yn ceisio dibynnu ar eithriadau o'r fath. Lle bo modd, byddwn yn ymgynghori â chi os byddwn yn cael cais am y wybodaeth rydych wedi'i darparu. Fodd bynnag, rydych yn cydnabod y gallwn ddatgelu unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â chi y credwn sy'n ofynnol i ni, yn ôl ein disgresiwn llwyr, ei datgelu yn unol â’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a/neu unrhyw ofynion statudol eraill.
17. Cyffredinol
- Os bydd unrhyw lys yn penderfynu na ellir gorfodi unrhyw ddarpariaeth yn y telerau hyn, caiff ei dileu a bydd y darpariaethau sy'n weddill yn parhau'n gwbl weithredol.
- Ni fyddwn yn atebol am unrhyw achos o fethu, atal neu derfynu mynediad i'r wefan neu unrhyw gynnwys yn deillio o ddigwyddiad force majeure, neu'n deillio o weithredoedd neu reoliadau unrhyw awdurdod llywodraethol neu uwch-genedlaethol neu os na fydd ein gweinyddion yn gweithio. Bydd digwyddiad force majeure yn cynnwys, heb gyfyngiad, methiannau seilwaith, ymyrraeth gan y llywodraeth, rhyfeloedd, ansefydlogrwydd sifil, herwgipio, tân, llifogydd, storm, streic, cloi allan, ymosodiadau terfysgol neu weithredu diwydiannol sy'n effeithio arnom ni neu ein cyflenwyr.
- Mae eich hawliau a'ch rhwymedigaethau o dan y telerau hyn yn berthnasol i chi, unigolion sy'n gysylltiedig â'ch parti busnes a/neu asiantau, ac rydych yn cytuno na fyddwch yn, nac yn honni eich bod yn neilltuo, prydlesu, codi tâl, is-drwyddedu na throsglwyddo hawliau a rhwymedigaethau o'r fath fel arall, boed hynny'n llwyr neu'n rhannol.
- Ni fydd unrhyw beth yn y telerau hyn (fel y cânt eu diwygio gennym o bryd i'w gilydd) yn creu unrhyw hawl na budd i unrhyw drydydd parti o dan Ddeddf Contractau (Hawliau Trydydd Partïon) 1999. Nid yw hyn yn effeithio ar unrhyw hawl neu rwymedi trydydd parti sy'n bodoli neu sydd ar gael ac eithrio o dan y Ddeddf honno.
- Bydd y telerau hyn yn llywodraethu eich defnydd o'r gwasanaethau gan eithrio unrhyw delerau ac amodau eraill a gynigir gennych chi (neu unrhyw rai o'r unigolion sy'n gysylltiedig â'ch parti busnes a/neu asiantau).
- Caiff penawdau adrannau eu cynnwys er cyfleustra yn unig ac ni fyddant yn effeithio ar sut y caiff y telerau hyn eu dehongli.
- Ni fydd unrhyw fethiant neu oedi gennym i arfer unrhyw hawl neu rwymedi yn unol â hyn yn golygu ein bod yn ildio unrhyw hawl neu rwymedi o'r fath neu yn ein hatal rhag ei arfer ymhellach nac arfer unrhyw hawl neu rwymedi arall.
- Gellir eich hysbysu naill ai drwy e-bost, neges destun SMS neu bost cyffredin. Gallwn hefyd eich hysbysu am newidiadau i'r telerau hyn neu faterion eraill drwy arddangos hysbysiadau neu ddolenni i hysbysiadau yn gyffredinol ar y wefan.
- Caiff y telerau hyn eu rheoli a'u dehongli yn unol â deddfau Cymru a Lloegr fel y'u cymhwysir yng Nghymru ac rydych yn cytuno i ufuddhau i awdurdodaeth unigryw Llysoedd Cymru a Lloegr.
- Ni allwn warantu mynediad Ar-lein RPW bob amser, a hefyd nid ydym yn storio dogfennau am gyfnod amhenodol. Felly, rydym yn argymell eich bod yn parhau â'ch arfer cadw cofnodion presennol ac yn cadw copïau o holl gofnodion unrhyw ohebiaeth rhyngom ni. Nid yw'r system Ar-lein RPW yn disodli'r angen i chi gadw eich cofnodion eich hun.
18. Adborth a chwynion
- Os bydd gennych unrhyw gwynion am barti busnes neu ddefnyddiwr arall neu am unrhyw agwedd ar y wefan neu'r gwasanaethau, neu os bydd gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech roi adborth arall, yna gallwch gysylltu â ni drwy ddilyn y gweithdrefnau a nodir ar ein tudalen desg gymorth yn Cysylltu â Thaliadau Gwledig Cymru (RPW) Ar-lein.