Neidio i'r prif gynnwy

Atebion i gwestiynau cyffredin am y newidiadau i’r ffyrdd y mae landlordiaid Cymru yn rhentu eu heiddo.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cynnwys

Pryd bydd y gyfraith newydd yn dod i rym?

Daeth Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i’w llawn rym ar 1 Rhagfyr 2022.

Beth fydd yn digwydd i denantiaethau sydd eisoes hyn bod?

O dan y ddeddf newydd, mae ‘contractau meddiannaeth’ wedi disodli tenantiaethau a thrwyddedau a oedd eisoes yn bod.

Mae dau brif fath o gontract meddiannaeth: safonol a diogel. Mae contractau safonol wedi disodli tenantiaethau byrddaliadol sicr (a ddefnyddid yn bennaf yn y sector rhentu preifat), ac mae contractau diogel wedi disodli tenantiaethau diogel a thenantiaethau sicr (a ddefnyddid yn bennaf yn y sector rhentu cymdeithasol).

Ar 1 Rhagfyr 2022, gwnaeth pob cytundeb tenantiaeth a oedd eisoes yn bod droi’n gontract meddiannaeth yn awtomatig. Er enghraifft, os oedd tenantiaeth a oedd eisoes yn bod yn denantiaeth fyrddaliadol sicr cyfnod penodol, trodd yn gontract meddiannaeth safonol cyfnod penodol. Os oedd yn denantiaeth fyrddaliadol sicr gyfnodol, trodd yn gontract cyfnodol safonol.

Mae modd ymrwymo i gontract meddiannaeth ar lafar, ond bydd angen darparu datganiad ysgrifenedig o'r contract wedyn. Yn achos contractau newydd a ddechreuodd ar 1 Rhagfyr 2022 neu ar ôl hynny, mae angen rhoi datganiadau ysgrifenedig o fewn 14 diwrnod i'r dyddiad meddiannu. Mae angen rhoi datganiadau ysgrifenedig ar gyfer contractau sydd wedi’u trosi erbyn 1 Mehefin 2023.

Beth sydd angen imi ei wneud er mwyn bodloni'r gofyniad i roi copi ysgrifenedig o'r contract meddiannaeth?

O 1 Rhagfyr ymlaen, bydd angen i chi neu’ch asiant lunio datganiad ysgrifenedig i'w ddefnyddio ar gyfer contractau meddiannaeth newydd. Dylai'r datganiadau ysgrifenedig enghreifftiol fod yn sail dda ar gyfer gwneud hynny. Yn achos contractau a droswyd, bydd angen i chi neu’ch asiant ystyried pa rai o'ch telerau presennol y bydd angen eu trosglwyddo i ddatganiad ysgrifenedig y contract wedi ei drosi. Yna bydd angen ichi roi copi o'r datganiad ysgrifenedig i'ch tenantiaid presennol erbyn 1 Mehefin 2023.
 

Sut mae creu contract newydd neu gontract wedi’i drosi?

Mae gwybodaeth a chyngor am y Ddeddf i’w gweld ar wefan Llywodraeth Cymru, gan gynnwys datganiadau ysgrifenedig enghreifftiol ar gyfer y contractau meddiannaeth newydd. Gall landlordiaid eu lawrlwytho a'u defnyddio wrth iddynt greu contract. Mae’r datganiadau enghreifftiol hynny i’w gweld yma: Rhentu cartrefi: datganiadau ysgrifenedig enghreifftiol | LLYW.CYMRU. Mae canllawiau am y broses drosi i’w gweld yma: Canllawiau i greu contract meddiannaeth wedi'i drosi: canllawiau i landlordiaid | LLYW.CYMRU

A yw'r rheoliadau newydd ar gontractau wedi eu trosi pan fo newid o ran deiliad contract neu gontract sy’n cymryd lle contract arall yn berthnasol i mi?

Gwnaed Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 12 a Diwygiad Canlyniadol) 2023 ar 18 Mai 2023. Ewch i: Canllawiau i landlordiaid ar effaith Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 12) 2023.

Pryd bydd angen i mi roi contractau meddiannaeth ysgrifenedig i'm tenantiaid presennol?

Ar gyfer contractau wedi eu trosi, bydd gennych hyd at chwe mis o 1 Rhagfyr 2022 i roi datganiad ysgrifenedig o'r contract i'ch tenantiaid neu'ch trwyddedeion presennol.

Ar gyfer contractau meddiannaeth newydd a ddechreuodd ar 1 Rhagfyr 2022 neu ar ôl hynny, bydd angen ichi roi'r datganiad ysgrifenedig o fewn 14 diwrnod i'r dyddiad meddiannu o dan y contract. 

A fyddai'n iawn i mi ddefnyddio'r Datganiad Ysgrifenedig Enghreifftiol perthnasol fel y'i cyhoeddwyd ar wefan Llywodraeth Cymru heb orfod gwneud unrhyw newidiadau iddo?

Ar gyfer contractau newydd a wneir ar 1 Rhagfyr 2022 neu ar ôl hynny, gallai landlord ddefnyddio'r datganiad ysgrifenedig enghreifftiol priodol fel y'i cyhoeddwyd ar wefan Llywodraeth Cymru heb wneud unrhyw newidiadau iddo. Mae'r datganiadau ysgrifenedig enghreifftiol yn cynnwys yr holl delerau sylfaenol ac atodol perthnasol a nodir yn y ddeddfwriaeth a allai gael eu cynnwys yn y contract meddiannaeth.

Dylai landlordiaid nodi y gellir hepgor y telerau atodol er budd naill ai'r landlord neu ddeiliad y contract, ond rhaid i ddeiliad y contract gytuno ar unrhyw newidiadau. Gall rhai telerau sylfaenol gael eu hepgor neu eu hamrywio hefyd, ond dim ond os bydd hynny o fudd i ddeiliad y contract. 

Mae hefyd yn bosibl i landlordiaid gynnwys eu telerau ychwanegol eu hunain (er enghraifft cymal am anifeiliaid anwes) ar yr amod nad yw'r rhain yn gwrthdaro â mater allweddol, teler sylfaenol, neu deler atodol, a'u bod yn deg o dan y gyfraith diogelu defnyddwyr.

Ar gyfer tenantiaethau sydd eisoes yn bod, dylai landlordiaid ystyried yn ofalus yr holl delerau sydd eisoes wedi'u cynnwys mewn cytundebau tenantiaeth ac yna gwneud y newidiadau sydd eu hangen i'r datganiad ysgrifenedig enghreifftiol perthnasol er mwyn sicrhau bod y telerau hyn yn cael eu trosglwyddo i'r contract meddiannaeth newydd.

Ewch i canllawiau i greu contract meddiannaeth wedi'i drosi: canllawiau i landlordiaid.

A yw’n ofynnol i landlordiaid ddarparu rhestr eiddo ar gyfer annedd heb ddodrefn?

Mae’r ddeddfwriaeth Rhentu Cartrefi yn cynnwys darpariaeth ategol sy’n ei gwneud yn ofynnol darparu rhestr o’r eiddo sydd yn yr annedd. Mae’r ddarpariaeth yn nodi, ‘rhaid i’r rhestr eiddo nodi cynnwys yr annedd’. Os yw’n annedd heb ddodrefn, byddai’r rhestr eiddo yn adlewyrchu hyn ac yn cyfeirio at ffitiadau yn unig. Mae er budd y ddau barti i gael rhestr eiddo gywir.

 

A fyddaf yn gallu adennill meddiant o hyd heb orfod nodi bod bai ar y tenant (a pha gyfnod hysbysu sydd angen ei roi)?

Gall landlord roi hysbysiad landlord i ddeiliad contract er mwyn dod â chontract safonol cyfnodol i ben ac nid oes rhaid rhoi rheswm dros wneud hynny. Dim ond o dan gontract safonol cyfnodol y gellir rhoi hysbysiad landlord, gan gynnwys contract safonol cyfnodol sy'n dilyn contract safonol cyfnod penodol. Cyhoeddir hysbysiadau landlordiaid gan ddefnyddio Ffurflen RHW16.

Fel y nodir yn RHW16, ni chaiff y cyfnod hysbysu ar gyfer hysbysiad landlord 'fod yn llai na chwe mis ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract'. Er mwyn sicrhau bod y chwe mis cyfan o'r hysbysiad yn cael ei ddarparu, y pwynt cynharaf y gall cyfnod hysbysu fod ar waith yw'r diwrnod ar ôl i'r hysbysiad gael ei roi i ddeiliad y contract. Er enghraifft, os yw landlord yn rhoi hysbysiad i ddeiliad y contract ar 10 Medi 2023, bydd y cyfnod hysbysu o chwe mis yn dechrau ar y diwrnod ar ôl y diwrnod hwnnw (11 Medi 2023). Mae hyn yn golygu na allai'r dyddiad ar yr hysbysiad sy’n gofyn i ddeiliad y contract ildio'r meddiant fod cyn 11 Mawrth 2024.  

Gellir ond cyflwyno hysbysiad landlord ar ôl chwe mis cyntaf meddiannaeth, gan gynnwys unrhyw gyfnod meddiannaeth o dan gontract safonol cyfnod penodol. Mae hyn yn golygu, ar gyfer unrhyw gontract newydd o dan y Ddeddf (hynny yw, gyda dyddiad meddiannaeth o 1 Rhagfyr 2022 neu'n hwyrach) mae gan ddeiliad contract nad yw'n torri telerau ei gontract hawl i feddiannu'r annedd am o leiaf blwyddyn. 

 

Pa ofynion mae rhaid imi eu bodloni er mwyn gwneud yn siŵr bod y rhybudd landlord o dan adran 173 yn ddilys

Os gwnes i ddechrau achos cymryd meddiant cyn i’r ddeddfwriaeth Rhentu Cartrefi gychwyn (gan ddefnyddio hysbysiad adran 21), a fydd y denantiaeth yn parhau i ddod yn gontract meddiannaeth ac a fydd yn rhaid imi roi datganiad ysgrifenedig?

Bydd. Bydd y contract wedi trosi’n awtomatig i gontract meddiannaeth ar 1 Rhagfyr, ond ceir parhau â’r achos cymryd meddiant ar sail yr hysbysiad adran 21 a gyflwynwyd cyn i’r ddeddfwriaeth ddod yn weithredol. Edrychwch ar y cwestiynau ‘Sut gallaf drosi cytundeb neu drwydded tenantiaeth sydd eisoes yn bod yn gontract meddiannaeth?’ a ‘Pryd bydd angen imi roi contractau meddiannaeth ysgrifenedig i’m tenantiaid presennol?’ i gael rhagor o wybodaeth.

A gaf i roi contract cyfnod penodol o chwe mis yn lle hynny?

Cewch roi contract safonol cyfnod penodol o unrhyw hyd ond os na chytunir ar gontract cyfnod penodol newydd cyn diwedd y cyfnod penodol ac os yw'r tenant (deiliad y contract) yn dal i feddiannu'r annedd ar ddiwedd y cyfnod penodol, bydd contract cyfnodol safonol yn codi'n awtomatig. Mae’n bwysig nodi na cheir dod â chontract cyfnod penodol i ben yn gyffredinol drwy roi Hysbysiad Landlord yn ystod y cyfnod penodol.

A yw’n ofynnol i’r deiliad contract (a elwid gynt yn ‘tenant’) lofnodi’r datganiad ysgrifenedig a’i roi imi wedyn?

Nid oes gofyniad statudol i ddeiliad contract wneud hynny. Fodd bynnag, mae’n arfer dda i’w annog i lofnodi’r ddogfen er mwyn cadarnhau ei fod yn cytuno ar y telerau sydd ynddi. Dylai’r deiliad contract gadw’r ddogfen a lofnodwyd yn ddiogel er mwyn iddo fedru cyfeirio ati yn nes ymlaen os bydd angen.

O dan yr hen ddeddf, roeddwn yn gallu rhoi hysbysiad adran 21 o ddeufis i geisio meddiant yn gyflym heb orfod mynd i'r llys, er enghraifft, os nad yw tenant yn talu rhent: a fyddaf yn dal i fedru defnyddio hysbysiad adran 173 i wneud hynny?

Na fyddwch. Mae'r ddeddf newydd wedi'i chynllunio i annog landlordiaid i ddefnyddio sail briodol dros geisio meddiant pan fydd tenant (neu ‘ddeiliad y contract’ fel y'i gelwir o dan y ddeddf newydd) yn torri telerau ei gontract, yn hytrach na dibynnu ar hysbysiad ‘dim bai’. Bydd hyn yn arwain at system decach a fydd yn caniatáu i ddeiliaid y contract herio hawliad meddiant os yw'n teimlo ei fod yn annheg.

Sut gallaf droi tenant allan os nad yw'n talu rhent?

Os bydd deiliad y contract yn rhoi'r gorau i dalu rhent, gall y landlord roi hysbysiad ceisio meddiant ar y sail ei fod wedi torri ei gontract (gyda chyfnod hysbysu o fis). Neu, os oes ganddo ddyledion rhent difrifol (dyledion o ddeufis neu fwy), caiff landlord roi hysbysiad ar y sail honno, gyda chyfnod hysbysu o 14 diwrnod.
 

Sut gallaf droi tenant allan os yw'n ymddwyn yn wrthgymdeithasol?

O dan y ddeddf newydd, rhaid i bob contract meddiannaeth gynnwys y teler ymddygiad gwrthgymdeithasol sydd wedi'i gynnwys yn y datganiadau ysgrifenedig enghreifftiol. Gall ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig arall gynnwys sŵn gormodol, cam-drin geiriol ac ymosodiad corfforol. Mae hefyd yn cynnwys cam-drin domestig (gan gynnwys cam-drin corfforol, rhywiol, seicolegol, emosiynol neu ariannol).

Os bydd deiliad y contract yn torri'r teler hwn yn y contract, gall y landlord roi hysbysiad ceisio meddiant iddo a chymryd camau cychwynnol i ddod ag achos llys yn ei erbyn ar yr un diwrnod. Gall deiliad y contract hefyd gael ei ddwyn yn gyfrifol am ymddygiad unrhyw un arall sy'n byw yn yr annedd neu sy'n ymweld â hi.

Faint o rybudd y mae'n rhaid i'r tenant ei roi i mi os bydd am ddod â'r contract i ben?

Bydd yn rhaid i denant (neu ‘ddeiliad y contract’ fel y'i gelwir o dan y ddeddf newydd) roi o leiaf pedair wythnos o rybudd os bydd am ddod â chontract i ben. Fodd bynnag, ni chaiff deiliad y contract ddod â chontract safonol cyfnod penodol i ben yn y ffordd hon, oni fydd cymal terfynu wedi'i gynnwys ar gyfer deiliad y contract. 

A fyddaf yn dal i fedru codi'r rhent bob blwyddyn (os bydd angen imi wneud hynny)?

Byddwch. Bydd yn ofynnol i landlord roi deufis o rybudd ar gyfer amrywio'r rhent, a allai gael ei roi yn flynyddol.

A yw'r gyfraith newydd yn dweud unrhyw beth am is-osod?

Ni chaiff deiliad y contract greu is-gontract oni bai bod y contract yn nodi y caiff wneud hynny (h.y. os yw'r landlord a deiliad y contract wedi cytuno i gynnwys teler ychwanegol yn y contract i'r perwyl hwnnw).

Os oes gennyf denantiaeth cyfnod penodol ar hyn o bryd â dyddiad dod i ben ar ôl 1 Rhagfyr 2022, a fydd y dyddiad dod i ben hwnnw yn berthnasol o hyd ar ôl i'r gyfraith newydd ddod i rym?

Bydd. Bydd tenantiaeth fyrddaliadol sicr cyfnod penodol wedi cael ei throsi'n awtomatig yn gontract cyfnod penodol safonol ar 1 Rhagfyr 2022, gyda'r cyfnod penodol yn dod i ben ar yr un dyddiad ag y nodir yn y cytundeb tenantiaeth presennol.

Beth am gyd-denantiaid: a fydd unrhyw beth yn newid o dan y ddeddf newydd?

Mae’r gyfraith newydd wedi cyflwyno darpariaethau newydd ar gyfer cyd-ddeiliaid contract. Mae’r rhain yn galluogi deiliad contract i gael ei ddileu neu ei ychwanegu at gontract ar y cyd, heb fod angen dod â'r contract i ben i bawb. Ar ôl cael cydsyniad y landlord, na ellir ei wrthod yn afresymol na rhoi amodau afresymol ar y cydsyniad hwnnw, caiff deiliad contract wneud person arall yn gyd-ddeiliad contract o dan y contract. Bydd yn ofynnol rhoi datganiad ysgrifenedig o’r contract meddiannaeth i bob deiliad contract.

Beth am anifeiliaid anwes?

Fel yn rhannau eraill y DU, nid ydym wedi deddfu i greu hawl statudol i gadw anifail anwes, ond gall landlordiaid a deiliaid contractau gytuno ar delerau ychwanegol sy’n ymwneud â chadw anifeiliaid anwes. Mae’r wybodaeth esboniadol y mae rhaid ei chynnwys mewn datganiadau ysgrifenedig yn ei gwneud yn glir bod rhaid i delerau ychwanegol gydymffurfio â Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015 o ran tegwch. Dylai unrhyw gymal sy’n ymwneud ag anifeiliaid anwes fel teler ychwanegol yn y contract ganiatáu i ddeiliad contract ofyn caniatâd i gadw anifail anwes, ac nid oes gan y landlord yr hawl i wrthod y cais yn afresymol.

Rwy'n landlord preifat sy'n gosod eiddo i fyfyrwyr. A ydw i’n dal i allu rhoi contract naw mis?

O dan y gyfraith newydd, gellir cytuno ar gontract safonol cyfnod penodol o unrhyw hyd. Fodd bynnag, os bydd deiliad y contract yn parhau i feddiannu'r annedd ar ddiwedd cyfnod penodol, bydd safon gyfnodol yn codi a gallai'r landlord geisio meddiant drwy roi hysbysiad o dan adran 173 o'r Ddeddf (oni bai bod seiliau eraill dros geisio meddiant: torri'r contract, dyledion rhent ac ati).

 

Beth os oes morgais ar yr eiddo a bod y bydd y benthyciwr morgeisi, am ba reswm bynnag, am gael meddiant gwag ohono? 

Os bydd y benthyciwr morgais yn adennill meddiant o'r eiddo ac yn dod yn landlord, gall wedyn roi Hysbysiad Landlord o chwe mis ar gyfer contract safonol cyfnodol.

A fydd cynlluniau blaendal tenantiaid yn aros yr yn fath o 1 Rhagfyr ymlaen?

Byddant, bydd y trefniadau ar gyfer diogelu blaendaliadau tenantiaeth yr un fath. Nid oes unrhyw effaith ar flaendaliadau sydd eisoes yn bod yng nghyswllt contractau a droswyd ac sy’n cael eu diogelu mewn cynlluniau cymeradwy.

Beth yw'r Gofynion o ran Bod Eiddo yn Ffit i Bobl fyw ynddo?

Nod y Rheoliadau Ffitrwydd yw helpu i sicrhau bod landlordiaid yn cynnal a chadw anheddau i'w hatal rhag dod yn rhai nad ydynt yn ffit i bobl fyw ynddynt.

Mae'r ddeddf newydd yn gosod rhwymedigaeth ar y landlord i sicrhau bod yr annedd yn ffit i bobl fyw ynddi. Mae rheoliadau yn nodi rhagor o wybodaeth am y gofyniad ffitrwydd i fod yn gartref. Ni fydd deiliad y contract yn atebol am dalu rhent am unrhyw gyfnod y tybir nad yw'r eiddo yn ffit i bobl fyw ynddo, ac ni all landlord roi Hysbysiad Landlord, neu dorri cymal os nad yw'n cydymffurfio â gofynion Ffitrwydd.

Os bydd deiliad y contract o'r farn nad yw eiddo yn ffit i bobl fyw ynddo ond nad yw'r landlord yn cytuno, y llys fydd yn penderfynu yn y pen draw a yw eiddo yn ffit i bobl fyw ynddo ai peidio, gan wneud hynny ar sail y Rheoliadau. Byddai hawliad llys yn cael ei wneud yn yr un modd ag y gwneir hawliad diffyg atgyweirio.

Fodd bynnag, pe na bai deiliad y contract yn talu rhent am nad yw'r eiddo yn ffit i bobl fyw ynddo, gellid cymryd meddiannaeth o'r eiddo o bosibl, naill ai am fod y contract wedi'i dorri neu oherwydd y dyledion rhent difrifol.

A yw'r gyfraith wedi newid o ran larymau mwg a charbon monocsid?

Ydy. Nodir y gofynion newydd yn Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi) (Cymru) 2022. Yn ôl Rheoliad 5:

(1) Rhaid i’r landlord sicrhau, yn ystod pob cyfnod meddiannaeth, bod larwm mwg ar bob llawr o’r annedd sydd—

(a) mewn cyflwr da ac yn gweithio’n iawn,

(b) wedi ei gysylltu â chyflenwad trydan yr annedd, ac

(c) wedi ei gysylltu â phob larwm mwg arall yn yr annedd sydd wedi ei gysylltu â’r cyflenwad trydan.

Felly, er nad yw'n ofynnol i bob larwm mwg yn yr annedd gael ei gysylltu â chyflenwad trydan yr annedd, rhaid sicrhau bod o leiaf un larwm mwg ar bob llawr o'r annedd wedi'i gysylltu â'r cyflenwad trydan. 

Ar yr amod y caiff y gofyniad hwn ei fodloni, nid oes dim i rwystro larymau ychwanegol a bwerir gan fatri rhag cael eu gosod, ac nid oes angen iddynt fod wedi'u cysylltu â'i gilydd (am nad ydynt yn wifredig).

Ar gyfer contractau newydd sy'n dechrau ar 1 Rhagfyr 2022 neu ar ôl hynny, bydd angen i landlordiaid sicrhau bod eiddo a osodir ganddynt yng Nghymru yn cydymffurfio â'r gofynion hyn. Ar gyfer tenantiaethau a oedd yn bodoli cyn 1 Rhagfyr 2022, mae gan landlordiaid 12 mis i gydymffurfio â'r gofynion hyn (h.y. erbyn 1 Rhagfyr 2023).

A yw'r gyfraith wedi newid mewn perthynas â larymau carbon monocsid?

Mae’r gofynion newydd i’w gweld yn Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi) (Cymru) 2022. Mae rheoliad 5 yn nodi, ymysg pethau eraill:

Rhaid i’r landlord sicrhau, yn ystod pob cyfnod meddiannaeth, bod larwm carbon monocsid sydd mewn cyflwr da ac yn gweithio’n iawn ym mhob ystafell o’r annedd sy’n cynnwys cyfarpar nwy, cyfarpar hylosgi sy’n cael ei danio ag olew neu gyfarpar hylosgi sy’n llosgi tanwydd solet.

Nid yw’r Rheoliadau yn pennu a ddylai’r larymau carbon monocsid fod yn rhai batri ynteu a ddylent fod wedi eu cysylltu â chyflenwad trydan yr annedd. Mae’r gofynion hyn yn gymwys i bob contract meddiannaeth o 1 Rhagfyr 2022 ymlaen.

Ydy’r gyfraith wedi newid mewn perthynas â diogelwch trydanol?

Ydy. Mae’r gofynion newydd wedi’u hamlinellu yn Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi) (Cymru) 2022. Mae rheoliad 6 yn ei gwneud yn ofynnol i’r landlord sicrhau bod yna adroddiad dilys o gyflwr trydanol yr annedd ar gyfer pob cyfnod meddiannaeth (gan ddarparu copi i ddeiliad y contract).

Darperir adroddiad ar ei gyflwr trydanol yn dilyn arolygiad o system drydanol yr eiddo. Bydd yr adroddiad hwn yn ddilys am hyd at 5 mlynedd, o’r diwrnod y cynhelir yr arolygiad diogelwch trydanol. Efallai y caiff y cyfnod pum mlynedd hwn ei leihau os bydd yr adroddiad yn nodi’r angen am brawf yn gynt.

Yn achos contractau newydd a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Rhagfyr 2022, mae angen i landlordiaid sicrhau bod yr eiddo a osodant yng Nghymru yn cydymffurfio â’r gofynion hyn. Yn achos tenantiaethau a oedd yn bodoli cyn 1 Rhagfyr 2022, mae gan landlordiaid 12 mis i gydymffurfio â’r gofynion hyn (h.y. erbyn 1 Rhagfyr 2023).

I gael canllawiau llawn ar ffitrwydd annedd i bobl fyw ynddi a phrofi diogelwch trydanol, ewch i: Ffitrwydd tai i fod yn gartref: canllawiau i landlordiaid [HTML] | LLYW.CYMRU

 

A oes cymorth ariannol ar gael i sicrhau bod eiddo yn cyrraedd y safonau gofynnol?

Lle y byddai'r gost o sicrhau bod cartref yn y sector rhentu preifat yn cyrraedd y safon ofynnol yn sylweddol, efallai y bydd cymorth ar gael ar ffurf benthyciadau gwella cartrefi neu rywbeth tebyg. Dylech gysylltu â'ch awdurdod lleol i gael cyngor ar gymhwysedd mewn perthynas â hyn. 

A oes unrhyw newidiadau i ofynion Rhentu Doeth Cymru ar gyfer Landlordiaid?

Nid oes unrhyw newidiadau i’r gofynion cofrestru a thrwyddedu ar gyfer tenantiaethau sydd eisoes yn bod ac sy’n dod o dan ofynion Rhentu Doeth Cymru, ond mae modiwl hyfforddi ychwanegol ar gyfer landlordiaid sydd wedi cael trwydded ers mis Gorffennaf 2020. Mae gofynion Rhentu Doeth Cymru yn gymwys bellach i nifer bach o denantiaethau nad oeddent yn dod o dan y gofynion o'r blaen. Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach, cysylltwch â Rhentu Doeth Cymru yn uniongyrchol.

A oes unrhyw hyfforddiant ar gael i landlordiaid ar y ddeddf newydd?

Mae Rhentu Doeth Cymru a rhai o’i ddarparwyr cymeradwy bellach yn cynnig hyfforddiant ynghylch Rhentu Cartrefi. Mae’r hyfforddiant yma ar gael am ddim ar wefan Rhentu Doeth Cymru, neu am ffi os byddwch yn ei ddilyn mewn ystafell ddosbarth neu ystafell ddosbarth rithwir. Gallwch gael mwy o wybodaeth ar wefan Rhentu Doeth Cymru. Hyfforddiant - Rent Smart Wales (llyw.cymru).