Bydd yn orfodol i bawb sy’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru wisgo gorchudd wyneb o ddydd Llun 27 Gorffennaf, mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi cyhoeddi.
Bydd y newid yn y gyfraith hefyd yn berthnasol i dacsis, a bydd yn helpu i ddiogelu pobl rhag o risg o’r coronafeirws pan fyddant yn teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, pan nad yw bob amser yn bosibl cadw pellter corfforol o ddau fetr.
Mae’n dod ar ôl i Lywodraeth Cymru gyflwyno newidiadau i’r ddyletswydd i gadw pellter corfforol o ddau fetr, gan amlinellu’r mesurau y mae’n rhaid i bob busnes, gan gynnwys gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus, eu rhoi ar waith i leihau’r risg o’r coronafeirws.
Ond oherwydd y lle corfforol cyfyngedig sydd ar gael ar fysiau, trenau a thacsis, gall fod yn fwy anodd o lawer i bobl gadw pellter corfforol o ddau fetr oddi wrth ei gilydd ar bob adeg, nag mewn mannau cyhoeddus eraill.
Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:
“Bob awr mae bysiau, trenau a thacsis yn croesi ein ffin agored â Lloegr, lle mae’n orfodol gwisgo gorchuddion wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus.
“Er mwyn cadw pethau’n syml ac yn gyson, yn ogystal ag fel rhan o’n cynllun i leihau’r risg o’r coronafeirws yn cael ei drosglwyddo ar drafnidiaeth gyhoeddus lle nad yw bob amser yn bosibl cadw pellter corfforol o ddau fetr, bydd yn orfodol i bobl wisgo gorchudd wyneb tair haen pan fyddan nhw’n teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru – mae hyn yn cynnwys tacsis.
“Wrth i’r cyfyngiadau symud gael eu llacio’n araf, bydd ein heconomi’n dechrau ailagor a bydd rhagor o bobl yn mynd yn ôl i’r gwaith. Rydyn ni’n cydnabod bod y lle sydd ar gael ar fysiau a threnau’n gyfyngedig, sy’n golygu ei bod yn fwy anodd i bobl gadw pellter o ddau fetr oddi wrth ei gilydd nag mewn mannau cyhoeddus eraill.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau sy’n amlinellu’r mesurau rhesymol y bydd yn rhaid i weithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus eu rhoi ar waith i leihau’r risg o’r coronafeirws.
Ychwanegodd y Prif Weinidog:
“Dyw ein neges ddim wedi newid – ystyriwch eich rhesymau dros deithio’n ofalus. Rydyn ni’n annog pobl i barhau i weithio gartref pan fydd hynny’n bosibl. Am y tro dylid defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus dim ond ar gyfer teithiau hanfodol – ac ar gyfer ein gweithwyr hanfodol a’r rhai nad oes ganddyn nhw ffordd arall o deithio.
Bydd gwneud gwisgo gorchuddion wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus yn orfodol yn helpu gweithredwyr i gynyddu’r capasiti ar drenau a bysiau wrth i’r galw godi, oherwydd y niferoedd uwch o bobl sy’n mynd yn ôl i’r gwaith wrth i’r cyfyngiadau coronafeirws gael eu llacio’n raddol yng Nghymru.