Neidio i'r prif gynnwy

Introduction

Crynodeb o’r blaenoriaethau profi ar gyfer y cyfnod nesaf wrth i ni edrych ymlaen at yr hydref.

Mae’r tabl isod yn cwmpasu profion y tu hwnt i’r canlynol:

  • Profion RT-PCR symptomatig (canfod feirws) – a ddefnyddir yn bennaf i brofi unigolion symptomatig yn eang i ganfod a oes ganddynt y feirws ar y pryd.
  • Profion RT-PCR asymptomatig (canfod feirws) - a ddefnyddir pan fo achosion o COVID-19 i gefnogi olrhain cysylltiadau ac atal llaedaeniad y feirws.

Olrhain

Categori

Is-gategori

Natur y prawf

Defnydd

Diben

Rheoli brigiadau neu gyfraddau trosglwyddo uwch

  • Lleoliadau Caeedig.
  • Grwpiau Agored i
    Niwed.
  • Cymunedau Lleol.
Profi pobl asymptomatig RT-PCR (canfod feirws) Pan fo angen
  • Lleihau trosglwyddiad ar draws y gymuned ehangach.
  • Diogelu parhad busnes.

 

Health and care services

Categori

Is-gategori

Natur y prawf

Defnydd

Diben

Cleifion ysbytai

  • Derbyniadau Brys.
  • Derbyniadau a Drefnwyd Ymlaen Llaw (gan gynnwys llawdriniaethau dydd).
  • Cleifion allanol / ymyriadau diagnostig
  • Rhyddhau o’r ysbyty.
Profi pobl asymptomatig RT-PCR (canfod feirws) Parhaus
  • Rhoi camau diogelu ar waith drwy brofi er mwyn lleihau’r risg i gleifion.
  • Gwneud diagnosis o COVID-19 i helpu gyda
    thriniaeth a gofal.

Staff GIG

  • Gweithwyr gofal iechyd.

Profi pobl asymptomatig RT-PCR (canfod feirws)

Parhaus a phan fo profion GIG ychwanegol ar gael

  • Diogelu ein staff GIG a chynnal amgylchedd gweithio diogel iddynt.
  • Ar gyfer mesurau atal a rheoli haint.
  • Diogelu parhad busnes.
    Prawf gwrthgyrff Parhaus
  • Cadw gwyliadwriaeth ar iechyd a deall lledaeniad y clefyd mewn lleoliadau gofal iechyd.

Staff iechyd a gofal (yn y gymuned)

  • Gofal sylfaenol (gan gynnwys meddygfeydd, practisau deintyddol a fferyllfeydd).
Profi pobl asymptomatig RT-PCR (canfod feirws) Treialu o fewn clwstwr cytûn
  • Defnyddio’r canfyddiadau yn y cam cychwynnol i ystyried dull profi at y dyfodol.
    Prawf gwrthgyrff Parhaus
  • Cadw gwyliadwriaeth ar iechyd a deall lledaeniad y clefyd mewn lleoliadau.

 

Grwpiau agored i newid a lleoliadau caeedig

Categori Is-gategori Natur y prawf Defnydd Diben
Cartrefi gofal
  • Staff cartrefi gofal.
Profi pobl asymptomatig RT-PCR (canfod feirws) Profi pobl asymptomatig RT-PCR (canfod feirws)
  • Yn seiliedig ar y data, cynhaliwyd adolygiad o’r polisi o brofi staff cartrefi gofal yn wythnosol ar 10 Awst, a phenderfynwyd lleihau’r profion i bob pythefnos gna fod nifer yr achosion yn isel. Os bydd cyfraddau uwch mewn rhai ardaloedd yng Nghymru, bydd y profion yn cael eu cynnal yn amlach.
  • Targedu ardaloedd lle ceir llawer o achosion. Gallai hyn gynnwys defnyddio unedau profi symudol i brofi’r holl breswylwyr mewn cartrefi gofal lle ceir llawer o achosion er mwyn cefnogi’r broses o olrhain cysylltiadau a lledaeniad y clefyd.
    Prawf gwrthgyrff Wrthi’n cael ei ddatblygu
  • Datblygu’r defnydd o brofion gwrthgyrff gyda chartrefi gofal i gefnogi gwaith gwyliadwriaeth a deall ymhellach sut mae’r haint yn trosglwyddo mewn cartrefi gofal.
Lleoliadau addysg
  • Pob gweithiw addysg (gan gynnwys staff cymorth sy’n gweithio yn y lleoliadau hyn).
Prawf gwrthgyrff Estyn y rhaglen samplu bresennol
  • Adeiladu ar y rhaglen brofi bresennol i gynnwys sampl ehangach pan fydd ysgolion yn ailagor ym mis Medi. Diben y rhaglen samplu hon yw cefnogi gwaith gwyliadwriaeth a deall achosion o’r feirws mewn lleoliadau addysg.