Neidio i'r prif gynnwy

Yr wybodaeth reoli ddiweddaraf ynghylch prentisiaid yng Nghymru a roddwyd ar ffyrlo neu a ddiswyddwyd yn ystod pandemig y coronafeirws hyd at 25 Medi 2020.

Darperir yr wybodaeth reoli hon i Lywodraeth Cymru gan ddarparwyr prentisiaethau, ac ar sail data Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru. Nid yw ei hansawdd wedi’i sicrhau i’r un graddau â’r ystadegau swyddogol.

Mae’r dull a ddefnyddiwyd i gynhyrchu’r ystadegau hyn wedi’i addasu er mwyn cynnwys prentisiaid a oedd wedi dychwelyd ar ôl bod ar ffyrlo ond nad oedd hyn wedi’i gofnodi’n gyson. Diwygiwyd y data o 24 Gorffennaf 2020 ymlaen yn unol â’r addasiad hwn.

Prif bwyntiau

  • Mae nifer y prentisiaid sydd ar ffyrlo wedi gostwng 4,790 (62 y cant) o uchafswm o 7,770 ar 29 Mai 2020.
  • Roedd 2,980 prentis yn dal ar ffyrlo ar 25 Medi 2020.
  • Cynyddodd nifer y prentisiaid y rhoddwyd terfyn ar eu prentisiaeth yn sgil eu diswyddo o 50 i 95 o gymharu â’r mis blaenorol.
  • Roedd 180 prentis arall wedi cael eu diswyddo, ond maent yn parhau â’u rhaglen ddysgu tra bo’u darparwr yn ceisio dod o hyd i gyflogwr arall.
  • Cynyddodd nifer y prentisiaid y rhoddwyd terfyn ar eu prentisiaeth am resymau heblaw eu diswyddo o 905 i 1,450 o gymharu â’r mis blaenorol (4% o’r holl brentisiaid).
  • Cynyddodd nifer y prentisiaid a oedd wedi cwblhau eu prentisiaeth yn llwyddiannus o 2,510 i 4,540 o gymharu â’r mis blaenorol (12% o’r holl brentisiaid).

Roedd y prentisiaid a oedd wedi’u heffeithio fwyaf:

  • yn ifanc
  • yn wrywaidd
  • yn wyn neu o hil gymysg
  • yn gweithio yn y meysydd gwallt a harddwch, lletygarwch, neu adeiladu
  • ddim yn astudio prentisiaethau uwch
  • yn gweithio i gwmnïau â llai na 10 o gyflogeion
  • wedi’u cyflogi gan y sector preifat
  • yn byw mewn cymdogaethau llai difreintiedig
  • wedi hunan-nodi bod ganddynt 'brif anabledd a/neu anhawster dysgu'

Roedd prentisiaid yn y sector hamdden, chwaraeon a theithio ymhlith y rheini a oedd yn fwyaf tebygol o fod ar ffyrlo, ond mae’r rhan fwyaf bellach wedi dychwelyd ar ôl bod ar ffyrlo neu wedi cwblhau eu prentisiaeth yn llwyddiannus.

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.