Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Rwy’n gwneud newidiadau sylweddol i fesurau atebolrwydd ysgolion sy’n berthnasol i gymwysterau sy’n cael eu sefyll yng Nghyfnod Allweddol 4. Nod y newidiadau yw sicrhau bod mesurau atebolrwydd ysgolion Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar ennill y cymwysterau hynny a fydd yn cael eu gwerthfawrogi fwyaf gan gyflogwyr a darparwyr addysg ôl-16 ac addysg uwch, yn ogystal â dysgwyr, rhieni ac ysgolion. Bydd sicrhau bod yr hyn yr ydym yn ei fesur yn gyson â’r hyn sy’n cael ei werthfawrogi yn gallu ysgogi ymddygiad a fydd o fudd i ddilyniant dysgwyr, a byddwn fel cenedl hefyd ar ein hennill o ran proffil cymwysterau ein dinasyddion.
Mae’r newidiadau yr wyf yn eu cyhoeddi heddiw yn datblygu ar argymhellion yr Adolygiad o Gymwysterau, ac maent yn ymateb i nifer o bryderon am ganlyniadau nas ragwelwyd y set bresennol o fesurau. Mae cryn waith wedi’i wneud dros ddwy flynedd a hanner i ymgysylltu â rhanddeiliaid, gan gynnwys cynnal arolwg i randdeiliaid yn gynharach eleni, ac mae hyn oll wedi dylanwadu ar bolisi.
Mae’n bwysig deall diben mesurau atebolrwydd, sy’n fesurau ar gyfer yr ysgol gyfan, yn hytrach na mesurau o lwyddiant dysgwyr unigol. Nid oes angen i ddysgwyr fod yn ymwybodol o’r mesurau a ddefnyddir i asesu perfformiad eu hysgol ac ni ddylent gael ar ddeall fod rhaid iddynt ennill set benodol o gymwysterau am unrhyw reswm ar wahân i’w anghenion dysgu a’u dilyniant eu hunain ac er budd eu cyfleoedd hwy mewn bywyd. Nod mesurau atebolrwydd ysgolion, yn syml, yw monitro perfformiad ysgol gyfan ac ysgogi ymddygiad ar lefel sefydliadol, ac nid ydynt yn cyfateb i gymwysterau unigolion. Dylai ysgolion barhau i arwain pob dysgwr i ennill y cymhwyster sy’n gweddu orau iddo, o fewn strwythurau cyffredinol sy’n cael eu llywio gan fesurau perfformiad, ymhlith ffactorau eraill.
Nod y mesurau newydd yw ysgogi ysgolion i gefnogi pob dysgwr, a’i annog, i ennill y graddau gorau y gall eu hennill yn Gymraeg neu Saesneg, mathemateg, gwyddoniaeth a’r set o gymwysterau yn ôl ei ddewis, ac i ddatblygu sgiliau allweddol trosglwyddadwy drwy gymhwyster Bagloriaeth Cymru ar ei newydd wedd. Mae’r mesurau newydd yn ysgogi ar draws y sbectrwm gallu, gan annog dysgwyr i anelu at y graddau uchaf posibl, a chydnabod cyflawniad dysgwyr sy’n gweithio ar Lefel 1. Mae tystiolaeth ryngwladol yn tynnu sylw at bwysigrwydd codi cyrhaeddiad y rheini â chyflawniad isel ac o’u helpu i gau’r bwlch rhyngddynt â’r sawl sy’n cyflawni ar lefel uchel. Rwy’n mabwysiadu dull sy’n annog gwelliant ar bob lefel, nid yn achos dysgwyr sydd ar y ffin rhwng ennill gradd C/D yn unig.
Mae gweld pobl ifanc yn cael eu cofrestru ar gyfer cymwysterau yn gynnar (cyn diwedd Blwyddyn 11) wedi peri cryn ofid imi ers imi ddechrau ar fy swydd fel Gweinidog Addysg. Mae hyn yn arbennig o wir yn achos TGAU mewn pynciau allweddol fel Cymraeg, Saesneg a mathemateg. Nid y ffaith bod dysgwyr yn cael eu cofrestru’n gynnar i roi cynnig ar gymwysterau yw’r gofid mwyaf, ond y ffaith nad yw rhai dysgwyr sy’n cael eu cofrestru’n gynnar yn ennill y radd orau y gallent ei chael erbyn diwedd y cwrs. Ar y llaw arall, gall fod yn gwbl briodol cofrestru rhai dysgwyr yn gynnar, er enghraifft y rheini sy’n gallu ennill gradd A* mewn mathemateg cyn diwedd blwyddyn 11 ac sy’n symud ymlaen i astudio mathemateg ychwanegol. Gallai dysgwyr eraill gael eu symbylu i ennill gradd uwch drwy sefyll arholiad yn hwyrach. Fodd bynnag, yn sgil y pwyslais a roddwyd yn ddiweddar ar fesurau trothwy megis Lefel 2 cynwysedig (sy’n gofyn i ddysgwyr ennill gradd C er mwyn croesi’r trothwy), gall rhai ysgolion roi gormod o bwyslais ar sicrhau bod eu dysgwyr yn ennill gradd C. Gellid camddehongli hyn fel awgrym nad oes gwerth i ddysgwr geisio gwneud mwy o gynnydd pan fo eisoes wedi ennill gradd C. Gall unrhyw gynnydd neu welliant mewn graddau mewn cymwysterau allweddol, yn amlwg, fod o werth mawr i ddysgwyr yn y dyfodol. Mae’r arfer o gofrestru dysgwyr yn gynnar lle nad yw hynny’n briodol, a dysgwyr a allai fod wedi cyflawni mwy felly’n gorfod bodloni ar radd C, wedi cael ei feirniadu’n hallt gan Estyn. Bydd y newidiadau yr wyf yn eu cyhoeddi heddiw yn gymhelliad i beidio â gwneud hyn.
Yn y dyfodol, er mwyn adfer cydbwysedd rhwng y ffocws gormodol a fu ar ennill gradd C ac ar ddysgwyr sydd yng nghanol y sbectrwm gallu, byddaf yn rhoi mwy o bwyslais ar y sgôr pwyntiau wedi’i chapio ar ei newydd wedd nag ar fesurau trothwy. Bydd y sgôr pwyntiau wedi’i chapio newydd yn defnyddio’r fethodoleg sgorio bresennol, sy’n rhoi sgorau gwahanol i bob gradd ac sydd hefyd yn rhoi ystyriaeth i faint y cymhwyster. Bydd y sgôr newydd yn wahanol iawn i’r sgôr pwyntiau wedi’i chapio fel ag y mae ar hyn o bryd mewn sawl ffordd:
- Bydd y sgôr yn seiliedig ar naw cymhwyster yn hytrach nag wyth
- Dyma bump o’r naw cymhwyster a ddefnyddir i gyfrifo’r sgôr:
- TGAU Cymraeg Iaith neu TGAU Saesneg Iaith (pa un bynnag sydd orau yn achos pob dysgwr)
- TGAU Mathemateg – Rhifedd a TGAU Mathemateg
- Dau gymhwyster gwyddoniaeth gorau pob dysgwr (o 2018 ymlaen, dau TGAU gwyddoniaeth gorau pob dysgwr)
- Pedwar cymhwyster gorau (graddau uchaf) arall pob dysgwr fydd y gweddill. Gallai’r rhain fod yn TGAU, cymwysterau galwedigaethol neu’n Dystysgrif Her Sgiliau (craidd Bagloriaeth Cymru ar ei newydd wedd).
Er mwyn adlewyrchu llythrennedd a rhifedd fel fy mlaenoriaethau, ceir pwyslais ar y Gymraeg neu Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth yn y sgôr pwyntiau wedi’i chapio newydd. Mae hyn hefyd yn ategu fy ymgyrch i gadarnhau pwysigrwydd gwyddoniaeth fel rhan o addysg gytbwys, yn unol â strategaeth y Llywodraeth, Gwyddoniaeth i Gymru. Mae prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru wedi croesawu cynnwys mathemateg a gwyddoniaeth fel cam calonogol ymlaen a chymhelliad i wella ansawdd dysgu gwyddoniaeth, ac i gynyddu ystod y dysgu, ar draws pob grŵp gallu yn ein hysgolion. Rwyf innau am i’r mwyafrif o ddysgwyr yng Nghymru astudio’r ddau TGAU mathemateg newydd a’r ddau TGAU gwyddoniaeth newydd. Fodd bynnag, ni fydd hyn yn amlwg yn briodol i bawb. Bydd hi’n gwbl briodol bod ysgolion yn penderfynu bod llwybrau eraill yn fwy addas i rai dysgwyr. Er hynny, ar lefel ysgol gyfan ac ar lefel genedlaethol, bydd cynnwys y TGAU hyn yn y sgôr pwyntiau wedi’i chapio newydd yn golygu bod mwy o ddysgwyr yn astudio ar gyfer cymwysterau a fydd o fudd i’w dilyniant yn y dyfodol, ac o fudd i’r economi yn gyffredinol. Ni fydd y sgôr pwyntiau wedi’i chapio ar ei newydd wedd yn cynnig cymhelliad i astudio unrhyw bwnc penodol arall. Bydd hyn yn caniatáu i ysgolion a dysgwyr gael yr hyblygrwydd angenrheidiol i ymateb i anghenion a dulliau dysgu dysgwyr unigol drwy gynnig cwricwlwm cytbwys ac eang a dewis o bynciau.
Mae cynnwys Cymraeg/Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth yn y sgôr pwyntiau wedi’i chapio newydd yn golygu na fyddwn yn cyhoeddi Dangosydd Pynciau Craidd yn y dyfodol (sy’n mesur cyrhaeddiad yn yr un pynciau). Fodd bynnag, bydd y data a ddefnyddir i gyfrifo’r dangosydd hwn yn cael eu casglu o hyd, a’u rhyddhau hefyd os bydd eu hangen.
Fel y nodwyd eisoes, ni fyddaf yn rhoi gymaint o bwyslais ar fesurau trothwy ag ar y sgôr pwyntiau wedi’i chapio newydd. Er hynny, mae yna rywfaint o bwys i fesurau trothwy. Maent yn hawdd i’w dehongli ac maent yn pennu’r isafswm cyrhaeddiad ar gyfer gofynion craidd yr ydym yn anelu ato yn genedlaethol. Maent wedi cael effaith amlwg ar gyrhaeddiad yn ystod y blynyddoedd a aeth heibio. Yn ogystal â’r sgôr pwyntiau wedi’i chapio newydd, felly, byddaf hefyd yn cyflwyno mesurau cyrhaeddiad Bagloriaeth Cymru ar lefel Sylfaen a lefel Genedlaethol (lefelau 1 a 2). Mesurau trothwy fydd mesurau Bagloriaeth Cymru. Bydd rhaid cyflawni amryw o elfennau gofynnol cyn bodloni’r mesurau, gan gynnwys ennill gradd C mewn rhai cymwysterau penodedig.
Bydd mesurau Bagloriaeth Cymru yn disodli mesurau trothwy cyfarwydd Lefel 1, Lefel 2 a Lefel 2 cynwysedig. Mae mesurau Bagloriaeth Cymru yn gofyn am lawer mwy na’r mesurau presennol ac maent yn cynrychioli safon uwch o ran dyhead a throthwy uwch i ddysgwyr yng Nghymru. Datblygu sgiliau allweddol y mae cyflogwyr ac addysg uwch wedi dweud wrthym sydd eu hangen ar ddysgwyr i fynd ymlaen i ddysgu ymhellach ac i fyd gwaith yw’r gofyniad allweddol ychwanegol. Bydd Bagloriaeth Cymru yn datblygu’r sgiliau hyn ac yn eu hasesu drwy nifer o weithgareddau Her. Cyhoeddais egwyddorion cynllunio ar gyfer cymhwyster newydd Bagloriaeth Cymru ar 30 Mehefin.
Yn dilyn adborth gan ein rhanddeiliaid, byddaf yn cyflwyno mesurau Bagloriaeth Cymru i adrodd arnynt o 2018 ymlaen, yn hytrach na 2017, yn ôl yr awgrym gwreiddiol. Bydd cymhwyster newydd Bagloriaeth Cymru yn cael ei ddysgu o fis Medi 2015 ymlaen. Felly, rwy’n ychwanegu blwyddyn at yr amserlen i ysgolion allu canolbwyntio ar gyflwyno’r cymhwyster newydd, a sicrhau bod yr Heriau’n cael eu cyflwyno’n effeithiol a bod y sgiliau hanfodol yn cael eu haddysgu a’u hasesu at safon uchel, cyn dechrau defnyddio ffigurau ar gyrhaeddiad yn y cymhwyster fel mesur perfformiad.
Mae’n anochel y bydd nifer y dysgwyr a fydd yn bodloni mesurau cymhwyster newydd, mwy ymestynnol, Bagloriaeth Cymru yn is ar y cychwyn na’r rheini sy’n bodloni’r mesurau trothwy presennol. Yn yr un modd, gallai’r sgorau a gyflawnir gan ysgolion o dan y system sgôr pwyntiau wedi’i chapio newydd fod yn is na’r sgorau y gallant eu cyflawni o dan y fersiwn bresennol. Mae honno yn caniatáu i wahanol ysgolion gyflawni sgorau tebyg mewn amrywiaeth eang o ffyrdd. O 2016 ymlaen, diolch i’r newidiadau yr ydym yn eu cyflwyno, bydd hi’n llai tebygol y bydd modd camddefnyddio’r mesurau hyn ac, o ganlyniad, bydd y rhifau terfynol yn is. Mae hwn yn ganlyniad anochel o fwy o alw a thrylwyredd yn y system. Ni ddylid ei gamddehongli fel lefelau cyrhaeddiad is, gan na fydd modd cymharu’r hen fesurau â’r mesurau newydd. Ni fydd yn bosibl mwyach ychwaith gwneud cymhariaeth uniongyrchol â mesurau yn Lloegr, gan fod newidiadau gwahanol yn cael eu gwneud yn Lloegr.
Ni fydd gan y newidiadau i’r mesurau crai hyn unrhyw oblygiadau i’r adolygiad sy’n cael ei gynnal o’r system fandio ar hyn o bryd, y disgwylir iddo ddod i ben erbyn hydref 2014. Fodd bynnag, bydd gan y mesurau oblygiadau i’r adolygiad nesaf o fandio, o 2017 ymlaen. Bydd yr adolygiad hwn sydd i ddod yn ystyried y polisi o osod mwy o bwyslais ar y sgôr pwyntiau wedi’i chapio newydd nag ar fesurau trothwy. Nid yw’r newidiadau yr wyf yn eu cyflwyno heddiw yn cynnwys ffactorau cyd-destunol (er enghraifft y rheini sy’n gysylltiedig â phrydau ysgol am ddim), mesurau cynnydd ysgolion na gwerth ychwanegol rhwng Cyfnodau Allweddol 2 a 3 a Chyfnod Allweddol 4, neu fesurau neu ffactorau ar wahân i ennill cymwysterau (megis presenoldeb). Mae ystyriaethau o’r fath yn berthnasol wrth gyfrifo o dan y system fandio.
Mae cyhoeddiad heddiw yn datblygu ar gyhoeddiadau eraill a wnaed ym mis Gorffennaf 2013 a mis Rhagfyr 2013. Mae'r tabl isod yn cynnwys crynodeb o’r holl newidiadau a’r amserlen ar gyfer pob newid. Y flwyddyn adrodd yw’r flwyddyn gyflwyno, hy y flwyddyn pan fydd y cohort sy’n cael ei mesur yn cwblhau blwyddyn 11.
*Gwelir Tabl Annex 1 isod
Mae’r Adolygiad o Gymwysterau hefyd yn argymell bod y data yn cael eu casglu yn rheolaidd ar draws y sectorau ôl-16 ac rwyf wedi gofyn i fy swyddogion gynnal adolygiad o’r mesurau hyn. Rwyf am roi gwybodaeth dryIoyw i ddysgwyr a rhieni allu seilio eu penderfyniadau ar ble i barhau â’u dysgu arni, a rhoi’r data sydd eu hangen arnynt i’r Adran Addysg a Sgiliau ac Estyn allu asesu safonau a pherfformiad ar draws y sector ôl-16 cyfan.