Sarah Murphy AS, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant
Yr wythnos hon yr wyf wedi cyhoeddi y Gwerthusiad o'r Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia, a fydd yn llywio'r trefniadau a fydd yn olynu'r Cynllun Gweithredu presennol ar gyfer Dementia ac yn helpu i lywio ein blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol.
Yn 2019, comisiynodd Llywodraeth Cymru Opinion Research Services i asesu gweithrediad ac effaith Y Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia yn erbyn ei nodau a'i amcanion gyda ffocws penodol ar ddarparu gofal a chymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Cynhaliwyd y gwerthusiad mewn sawl cam.
Dyma'r adroddiad terfynol o'r gwerthusiad.
Mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod y cynllun wedi trawsnewid tirwedd dementia Cymru mewn ffordd gadarnhaol gan roi hwb i ofal a chymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn mewn nifer o feysydd:
- Datblygu gwasanaethau – Mae'r cynllun wedi arwain at well gwaith amlddisgyblaethol ymhlith darparwyr gofal iechyd, gwell gwasanaethau asesu cof a hyrwyddo gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a gweithgareddau atal ac ymwybyddiaeth ar lefel gymunedol.
- Blaenoriaeth strategol - Mae dementia wedi dod yn ffocws i fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol, gan hybu gweithio mewn partneriaeth, cyd-gynhyrchu, ac ymagweddau cyfannol at ofalu am gleifion. Mae hyn wedi arwain at wasanaethau mwy integredig a phwyslais cryfach ar lesiant cyffredinol pobl sy'n byw gyda dementia.
Er bod y gwerthusiad yn tynnu sylw at sawl maes lle y mae cynnydd wedi'i wneud, mae'n glir hefyd fod hon yn daith hirdymor i ddarparu'r gofal a'r cymorth gorau posibl i bobl sy'n byw gyda dementia.
Daeth y gwerthusiad i ben gyda chyfres o argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru, Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol, sefydliadau a darparwyr gwasanaethau i'w hystyried ar gyfer darparu gwasanaethau dementia yn y dyfodol. Mae'r argymhellion hyn yn ymwneud â themâu megis gweithredu a monitro, asesu a diagnosis, cymorth ôl-ddiagnosis, mynediad at ddarpariaeth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a chymorth i ofalwyr. Maent yn darparu map ffordd ystyrlon sy'n nodi rhai o'r amcanion allweddol i'w cyflawni o fewn y trefniadau a fydd yn olynu'r Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia.
Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn parhau i wneud cynnydd ar ofal a chymorth ar gyfer dementia yng Nghymru, ac y bydd modd bwrw ymlaen â hyn yn y cynllun a fydd yn olynu'r Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia. Mae trafodaethau wedi dechrau gyda'r Grŵp Goruchwylio Gweithrediad ac Effaith ym maes Dementia (DOIIG) a rhanddeiliaid allweddol eraill i ddatblygu'r dull o ddysgu o'r gwerthusiad a datblygu'r blaenoriaethau ar gyfer y trefniadau olynol.
Mae gwaith ar y blaenoriaethau ar gyfer cynllun y dyfodol wedi dechrau gyda chyhoeddi holiadur ar-lein i gasglu barn am y meysydd allweddol lle y mae angen inni ganolbwyntio ein hymgysylltiad yn y dyfodol. Dyma fan cychwyn ymgysylltiad trylwyr a phellgyrhaeddol drwy gydol 2025.
Rwyf yn cydnabod, ac yn ddiolchgar am ymrwymiad a thosturi pawb sy'n chwarae rhan yn gofalu am bobl sy'n byw gyda dementia. Mae hyn yn cynnwys ein GIG, gwasanaethau cymdeithasol, y trydydd sector, ac, mae'n bwysig nodi, gofalwyr a theuluoedd. Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio â chi i sicrhau bod eich lleisiau'n helpu i lywio ein cynllun hirdymor i wella'r gofal a'r cymorth i bobl sy'n byw gyda dementia.