Neidio i'r prif gynnwy

Mae eich Treth Gyngor yn helpu i ariannu gwasanaethau hanfodol yn eich ardal.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Chwefror 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gwasanaethau lleol

Mae’r Dreth Gyngor yn helpu i ariannu:

  • ysgolion
  • gofal cymdeithasol i oedolion a phlant
  • gwasanaethau plismona a thân
  • ffyrdd a gwasanaethau trafnidiaeth lleol
  • cannoedd o wasanaethau lleol hanfodol eraill

Gwyliwch y fideo hwn i ddysgu mwy.

Mae arnom angen eich caniatâd i lwytho fideos YouTube

Gallai’r fideo yma ddefnyddio cwcis neu dechnolegau eraill nad yw eich gosodiadau LLYW.CYMRU yn gweddu iddynt.

Efallai yr hoffech ddarllen polisi preifatrwydd Google cyn derbyn.

Dewiswch 'derbyn a pharhau' i lwytho’r fideo yma.

Canran gyfartalog gwariant cynghorau ar wasanaethau

Image
Siart gylch sy’n dangos canran gyfartalog gwariant y cynghorau ar wasanaethau. Mae’r gwariant wedi’i rannu fel hyn: 34% Ysgolion, 26% Gofal cymdeithasol i oedolion a phlant, 11% Yr Heddlu a'r Gwasanaethau Tân ac Achub, 9% Tai, 20% Pob gwasanaeth arall, Cyfanswm o 100%


Mae ‘pob gwasanaeth arall’ yn cynnwys gwariant ar amrywiaeth eang o wasanaethau eraill, fel yr amgylchedd, cynllunio a datblygu economaidd, llyfrgelloedd a hamdden, ffyrdd a gwasanaethau trafnidiaeth.

Efallai fod gwariant eich cyngor chi'n wahanol yn seiliedig ar anghenion lleol.

Ffynhonnell: Gwariant refeniw lywodraeth leol a gyllidebwyd yn 2024 i 2025 (StatsCymru).