Jack Sargeant, y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol
Ar ran Cyngor Partneriaeth y Gweithlu, rwy’n cyhoeddi heddiw Rheoli Technoleg sy'n Rheoli Pobl a Defnyddio deallusrwydd artiffisial yn y gwaith.
Mae'r canllawiau hyn wedi'u cyd-gynhyrchu gan ddefnyddio'r 'Ffordd Gymreig' o weithio mewn partneriaeth gymdeithasol rhwng Llywodraeth Cymru, cyflogwyr y sector cyhoeddus ac undebau llafur. Mae'r cyhoeddiadau’n cynnig arweiniad i'r sector cyhoeddus ar y defnydd cyfrifol o dechnolegau deallusrwydd artiffisial (AI) fel offer rheoli, ac yn rhoi peth gwybodaeth am y defnydd a’r ddealltwriaeth gyfredol o AI ymhlith gweithwyr y sector cyhoeddus.
Mae Llywodraeth Cymru a'n partneriaid cymdeithasol yn cydnabod bod defnyddio AI a thechnolegau eraill sy'n dod i'r amlwg yn rhan o ddyfodol ein gweithleoedd. Mae'n bwysig bod gwasanaethau cyhoeddus a gweithwyr y gwasanaethau cyhoeddus yn elwa ar arloesiadau technolegol newydd, ond rhaid i ni hefyd fod yn ymwybodol o'r risgiau cysylltiedig a cheisio eu lliniaru.
Mae ein dull gweithredu wedi ystyried y broses gyfan ar gyfer mabwysiadu a defnyddio AI mewn gweithleoedd yn y sector cyhoeddus. Mae'r canllawiau'n amlinellu tair elfen allweddol:
- y gwiriadau a'r dulliau cydbwyso sy'n ofynnol ar gyfer prynu neu ddatblygu systemau rheoli algorithmig newydd
- arweiniad ar weithredu AI yn gyfrifol fel offeryn ar gyfer rheoli'r gweithlu
- gwerthuso parhaus ar ôl mabwysiadu'r dechnoleg.
Mae’r 'Ffordd Gymreig' o weithio mewn partneriaeth gymdeithasol wedi'i hymgorffori ym mhob un o'r elfennau allweddol hyn ac wedi bod yn allweddol i ddatblygu'r canllawiau’n gyflym. Mae'r canllawiau'n adeiladu ar egwyddorion Gwaith Teg a goruchwyliaeth ddynol fel sail i ddatblygu gallu'r gweithlu, a diogelu a chreu swyddi.
Mae'r adroddiadau wedi’u cefnogi'n llawn gan ein holl bartneriaid cymdeithasol, gan gynnwys y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol a roddodd eu cymeradwyaeth yn eu cyfarfod diweddar ym mis Rhagfyr.
Mae'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol hefyd yn datblygu cyngor ac arweiniad ehangach i gefnogi'r defnydd cyfrifol a moesegol o dechnolegau AI gan gyrff y sector cyhoeddus yng Nghymru.
Gyda'n partneriaid cymdeithasol, rydym bellach yn symud i gam nesaf y gwaith pwysig hwn ac yn datblygu rhaglen o weithgareddau cyfathrebu cysylltiedig. Mae'n bwysig bod y deunyddiau hyn yn cael y proffil y maent yn ei haeddu ac yn cael gwreiddio'n llawn mewn gweithleoedd yn y sector cyhoeddus ledled Cymru, a hynny er budd y gwasanaethau cyhoeddus a gweithwyr y gwasanaethau cyhoeddus fel ei gilydd.
Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynghylch hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hynny.