Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae datganiad Ystadegau Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) yn cynnwys ystadegau ar sail yr ardaloedd TB yng Nghymru, ac mae'r pennawd ystadegol hwn yn seiliedig arno.

Nifer y buchesi ag achosion newydd o TB

Ffigur 1: Buchesi ag achosion newydd o TB yng Nghymru, Ionawr 2008 i Fedi 2024

Image

Disgrifiad o Ffigwr 1: Siart llinell a bar yn dangos y tueddiad o ran achosion newydd mewn buchesi yng Nghymru ers 2008. Mae’r bariau glas golau yn nodi nifer yr achosion newydd bob mis tra bo’r llinell dywyll yn nodi cyfartaledd treigl o achosion newydd dros 12 mis.

Roedd 586 o achosion newydd yn ystod y 12 mis hyd at fis Medi 2024, sy’n ostyngiad o 9.1% o’i gymharu â’r 12 mis blaenorol pan oedd 645 o achosion newydd.

Anifeiliaid gafodd eu lladd i reoli TB

Ffigur 2: Anifeiliaid a laddwyd i reoli TB yng Nghymru, Ionawr 2008 i Fedi 2024 

Image

Disgrifiad o Ffigwr 2: Siart llinell a bar yn dangos y tueddiad o ran anifeiliaid sydd wedi cael eu lladd yng Nghymru ers 2008. Mae’r bariau glas golau yn nodi nifer yr anifeiliaid a gafodd eu lladd bob mis tra bo’r llinell dywyll yn nodi cyfartaledd treigl yr anifeiliaid a gafodd eu lladd dros 12 mis.

Cafodd 12,278 o anifeiliaid eu lladd yn ystod y 12 mis hyd at fis Medi 2024, sy’n gynnydd o 27.0% o’i gymharu â’r 12 mis blaenorol pan gafodd 9,666 anifeiliaid eu lladd.

Rhagor o wybodaeth

Mae'r duedd gyffredinol ar gyfer anifeiliaid sy'n cael eu lladd oherwydd rheolaeth TB buchol yn amrywiol. Gellir priodoli llawer o’r cynnydd diweddar ers 2014 i’r defnydd cynyddol o brofion sensitif iawn. Er enghraifft, mae profion gama, gwaredu Adweithyddion Amhendant a dehongli manwl o’r prawf croen oll wedi’u defnyddio er mwyn ceisio gwaredu heintiau a lleihau’r perygl y gallai’r clefyd ledu ac y gallai achosion o’r clefyd ddigwydd eto.

Mae'r gyfres fisol yn amrywiol, a gellir disgwyl ambell frig.  Bu cynnydd yn y duedd nes cyrraedd yr uchafbwynt ym mis Hydref 2018. Cyhoeddwyd dadansoddiad pellach o'r duedd hon hyd at fis Mehefin 2019 yn yr erthygl ystadegol: Dadansoddiad o'r nifer o anifeiliaid gafodd eu lladd i reoli TB, Hydref 2018 i Mehefin 2019.

Dros y 12 mis diwethaf, cynhaliwyd mwy o brofion gama ac yn sgil hynny cafwyd mwy o adweithiau positif i’r prawf, gan arwain at gynnydd amlwg yn nifer yr anifeiliaid y bu’n rhaid eu difa i reoli TB gwartheg.  Mae defnyddio’r prawf gama ynghyd â’r prawf croen yn ffordd fwy trylwyr o ddarganfod yr haint, ac o gyflawni’r nod o leihau cyfraddau heintio ac o leihau’r risg o ledaenu’r clefyd ac iddo daro yr eildro. Er mai amcan hyn yn y tymor hir yw lleihau heintiadau, gall hyn arwain yn y tymor byr at gynnydd yn y nifer sy’n cael eu difa wrth i heintiadau a gollwyd o’r blaen gael eu darganfod.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Jimmy Webster
E-bost: ystadegau.amaeth@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099