Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 yn ei gwneud yn ofynnol bod pob fferm yng Nghymru yn diogelu dŵr rhag llygredd. Mae llygredd amaethyddol yn gallu niweidio iechyd y cyhoedd, yr amgylchedd, cymunedau lleol a’r diwydiant amaethyddol ei hun.

Mae’r rheoliadau’n diffinio deunyddiau ac yn nodi mesurau y mae’n rhaid eu dilyn os ydych yn bwriadu cynnal gweithgareddau amaethyddol penodol. 

Yn y gofynion hyn, mae dŵr wyneb yn cynnwys dyfroedd arfordirol, aberoedd, camlesi, llynnoedd, pyllau dŵr a chyrsiau dŵr fel afonydd, nentydd a ffosydd sydd â dŵr ynddynt sy’n llifo’n rhydd. Mae’n cynnwys hefyd ffosydd sy’n sych am gyfnod a ffosydd cudd

Dylech ddarllen y Daflen Ffeithiau hon ar y cyd â Rheoli rheoliadau llygredd amaethyddol: canllawiau.

Y gofynion sy’n effeithio ar yr holl dir

Cadw cofnodion

Cadwch at yr holl ofynion o ran cadw cofnodion. Bydd angen y cofnodion canlynol:

  • ar gyfer pob daliad – Cyn 30 Ebrill bob blwyddyn, manylion y nifer a’r math o 23 anifeiliaid ar y daliad o’r flwyddyn galendr flaenorol a nifer y diwrnodau a dreuliwyd ar y daliad – i ddangos cydymffurfiaeth â’r terfyn Nitrogen 170kg/ha
  • ar gyfer daliadau sydd â systemau storio slyri – cyfrifiadau i ddangos bod digon o gapasiti i storio’r holl slyri a gynhyrchir gan anifeiliaid a gedwir mewn adeilad neu ar lawr caled yn ystod y cyfnod storio 
  • ar gyfer daliadau sydd â moch, dofednod neu anifeiliaid eraill dan do heb unrhyw system slyri – cyfrifiadau i ddangos bod digon o le i storio’r holl dail a gynhyrchir yn ystod y cyfnod storio
  • ar gyfer daliadau sy’n gwasgaru gwrtaith nitrogen – copïau o gynlluniau rheoli nitrogen a chofnod o’r gwasgariadau. Ar gyfer daliadau sy’n prynu ac yn gwerthu tail neu slyri da byw – cofnod o’r cyfan sy’n dod i’r daliad neu’n gadael y daliad gan gynnwys dyddiadau, math o dail, faint o nitrogen sydd ynddo ac i ble mae’n cael ei anfon
  • os ydych yn gwasgaru tail organig, Map Risgiau (gweler ‘Gwasgaru Tail Organig isod)

Ystyriwch bob ffynhonnell nitrogen – y cyflenwad yn y pridd, tail organig a gwrtaith artiffisial, cofnodwch – wrth lunio’ch cynllun nitrogen ac wrth gyfrif faint o nitrogen sydd ei angen ar eich cnwd. I gael manylion yr holl gofnodion sydd angen eu cadw, gan gynnwys eithriadau, darllenwch Rheoli rheoliadau llygredd amaethyddol: canllawiau

Rhaid cadw pob cofnod am o leiaf pum mlynedd a rhaid eu dangos pan ofynnir ichi wneud.

Storio slyri

  • gofalwch fod yr holl slyri’n (fel y’i diffinnir yn Rheoli rheoliadau llygredd amaethyddol: canllawiau yn cael ei gasglu a’i storio mewn systemau sydd â digon o le ar gyfer y cyfnod storio ac sy’n ateb y gofyn o ran eu gwytnwch, gwaith cynnal a chadw  a pharthau diogelwch, eu bod wedi’u hadeiladu yn unol â’r safonau adeiladu perthnasol, a’u bod yn bodloni’r rheoliadau Storio silwair a slyri (ar Cyfoeth Naturiol Cymru)
  • rhaid i’r gwaith o wahanu’r slyri i’w ffracsiynau solet neu hylifol gael ei wneud unai yn fecanyddol neu ar arwyneb anhydraidd. Ar ôl ei wahanu, diffinnir y ffracsiwn hylifol fel slyri a rhaid ei storio mewn cynhwysydd addas fel sy’n ofynnol gan Reoliadau rheoli llygredd amaethyddol
  • archwiliwch storfeydd yn rheolaidd a’u cynnal a’u cadw a’u trwsio pan fydd angen
  • cydymffurfio ag unrhyw hysbysiad a gyflwynir gan Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n ei gwneud yn ofynnol i wella storfeydd slyri 

Cyfnodau gwaharddedig ar gyfer tail organig sydd â chyfran uchel o nitrogen 

  • cydymffurfio â therfynau ar ôl y cyfnod gwaharddedig ar gyfer gwasgaru tail organig sydd â chyfran uchel o nitrogen ar gael yn rhwydd (gan gynnwys slyri a thail ieir)

Terfyn y daliad cyfan

  • ar y daliad cyfan, peidiwch â rhoi mwy na 170kg o Nitrogen (N) yr hectar o dail da byw, gan gynnwys tail yr anifeiliaid sydd ar y tir a thail rydych yn ei wasgaru
  • bydd hyn yn gymwys am bob cyfnod o 12 mis gan ddechrau ar 1 Ionawr 2024
  • Os bydd mwy na 170kg/N/ha o dail da byw yn cael ei wasgaru yn y cyfnod 1 Ionawr 2024 i 31 Rhagfyr 2024, rhaid bod gennych dystiolaeth eich bod wedi hysbysu CNC eich bod yn dilyn y dull Rheoli Maethynnau Uwch a’ch bod yn cadw at ei ofynion. Ar ôl 31 Mawrth 2025, rhaid bod gennych dystiolaeth eich bod wedi e-bostio cyfrif gwrteithio llawn i CNC yn NotificationENMA@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk. Nid yw’r dull Rheooli Maethynnau Uwch ar gael ar gyfer 2025.  

Gweler Rheoliadau rheoli llygredd amaethyddol: canllawiau am ragor o fanylion y drefn Rheoli Maethynnau’n Uwch.

Gwasgaru deunydd organig

  • os ydych chi’n gwasgaru gwrtaith organig, rhaid i chi baratoi map o’r daliad (‘Map Risgiau’) a’i ddiweddaru. Rhaid dangos y Map Risgiau pan ofynnir i chi wneud. I weld beth sydd angen ei nodi ar y map a sut i’w baratoi, darllenwch Rheoli rheoliadau llygredd amaethyddol: canllawiau
  • dylech wasgaru deunydd a gwrtaith organig  mor fanwl gywir â phosibl gan ofalu nad ydych yn llygru cyrsiau dŵr gan ystyried y llethr, gorchudd tir, pa mor agos y mae dŵr wyneb, y tywydd, math o bridd a phresenoldeb  draeniau
  • peidiwch â gwasgaru tail organig yn y ‘parth dim gwasgaru’
    • 50m o dwll turio, pistyll neu ffynnon
    • 10m o ddŵr wyneb (6m os ydych yn gwasgaru’n fanwl-gywir)
  • pan fyddwch yn gwasgaru tail organig ar bridd moel neu sofl, rhaid ei ymgorffori yn y pridd cyn gynted ag y medrwch, ac o fewn 24 awr fan fwyaf  (bydd eithriadau – gweler canllawiau)
  • pan fyddwch yn gwasgaru slyri, defnyddiwch offer sy’n ei daflu’n isel i’r llawr (lai na 4 metr o’r llawr)

Gwasgaru gwrtaith artiffisial

  • peidiwch â gwasgaru gwrtaith nitrogen artiffisial o fewn dau fetr i ddŵr wyneb
  • cadwch at y cyfnod gwahardd gwrtaith nitrogen artiffisial (bydd eithriadau). Fe welwch ragor o wybodaeth am y cyfnodau gwahardd gwasgaru nitrogen artiffisial yn y canllawiau

Terfynau nitrogen caeau a chnydau

  • peidio â gwasgaru mwy na 250kg/ha o nitrogen o dail organig o fewn unrhyw ddarn hectar o faint mewn cyfnod o 12 mis
  • wrth wasgaru nitrogen (organig ac artiffisial) ar gnwd penodol, peidiwch â gwasgaru mwy na’r terfyn nitrogen uchaf a ganiateir (gweler y canllaw ar gyfer terfynau cnydau penodol)

Storio tail organig ond nid slyri

  • cadwch at y rheolau ynghylch storio tail organig solid, gan gynnwys tail dofednod
  • cadwch at y gofynion o ran tomennydd ar gaeau ac am ba hyd

Storio silwair

  • gofalwch fod eich systemau storio silwair wedi’u hadeiladu yn unol â’r safonau adeiladu perthnasol a’ch bod yn cadw at y rheolau ar ble i osod storfeydd silwair ar gae (gweler y canllawiau)
  • archwiliwch eich storfeydd yn rheolaidd a’u trwsio pan fydd angen
  • cydymffurfiwch ag unrhyw hysbysiadau a gewch gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) sy’n gofyn ichi wneud gwelliannau i storfa silwair neu storfa silwair ar gae

Hysbysu

  • rhowch wybod yn ysgrifenedig i CNC os ydych am godi neu ehangu neu ailadeiladu silo neu storfa slyri, o leiaf 14 niwrnod cyn dechrau’r gwaith adeiladu. Storio silwair a slyri (ar Cyfoeth Naturiol Cymru)
  • rhowch wybod i CNC ble rydych am osod tomen silwair cae ar gae (wedi'i wneud ar dir agored yn hytrach na chlamp) o leiaf 14 niwrnod cyn defnyddio’r safle am y tro cyntaf
  • rhaid ichi fod wedi rhoi hysbysiad i CNC erbyn 31 Mawrth 2024 os gwnaethoch chi ddilyn y dull Rheoli Maethynnau Uwch rhwng 1 Ionawr 2024 a 31 Rhagfyr 2024. Rhaid e-bostio cyfrifon gwrteithio llawn i CNC yn NotificationENMA@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk erbyn 31 Mawrth 2025

Archwiliadau maes ar yr holl dir

  • sicrhau’ch bod yn cydymffurfio â’r Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol gan gynnwys y gofynion o ran cadw cofnodion. Bydd rhaid cael gweld pob cofnod yn ystod archwiliad
  • gofalu fod tail organig (heblaw am slyri) yn cael ei storio’n gywir gan gynnwys mewn tomennydd dros dro ar gaeau
  • gofalu bod tail a gwrtaith artiffisial wedi’u gwasgaru yn unol â’r rheoliadau
  • gofalu bod CNC wedi cael gwybod am fwriad i adeiladu neu ailadeiladu storfa slyri neu silwair.
  • asesu capasiti, gwytnwch, gwaith cynnal a chadw a pharthau diogelwch ar gyfer gwneud a storio silwair mewn clampiau, byrnau neu storfeydd ar gae
  • peidiwch â mynd i mewn i danciau sudd silwair – archwiliwch nhw o’r tu allan
  • cadarnhau’ch bod yn dilyn unrhyw gamau yn unol â  gorchmynion CNC
  • asesu capasiti, gwytnwch, gwaith cynnal a chadw a pharthau diogelwch ar gyfer storio slyri
  • asesu capasiti storio slyri a thail digonol yn ystod y cyfnod storio o gydymffurfio â chyfnod/chyfnodau gwaharddedig 
  • asesu trefn archwilio reolaidd y ffermwr (y cynllun archwilio a’i gofnodion, fel sy’n briodol ar gyfer y storfa a’i rhannau) a chwilio am rwd, difrod a gollyngiadau

Arfer da

  • darllenwch y canllawiau i gyd i’ch helpu i gydymffurfio â’r holl ofynion
  • darllenwch y Canllawiau sy’n rhoi templed i’ch helpu i gwblhau’r cynllun, cofnodion a’r cyfrifiadau  angenrheidiol
  • gweler yr Archwiliadau cynlluniau fferm: canllaw i ffermwyr am ragor o fanylion ar y gwiriadau ffisegol a’r gwiriadau cofnodion yn ystod archwiliad. 
  • os mai contractwyr sy’n gwasgaru’r tail organig ar eich rhan, rhowch gopi o’r map risgiau iddyn nhw
  • dadansoddwch eich pridd a’ch tail yn rheolaidd  s a defnyddiwch y canlyniadau i ddylanwadu ar eich cynlluniau gwrteithio. Cynhwyswch ffosffad yn ogystal â nitrogen

Gwybodaeth pellach

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

  • Llinell Gymorth Rheoliadau Llygredd Amaethyddol (ADAS) 01974 847000
  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Cyswllt Ffermio

neu gweler y daflen Trawsgydymffurfio: cysylltiadau defnyddiol (2025).